Canfod Delwau Cŵn Mewn Tarddell?
Ddiwedd
1979 canfu chwilotwr yn defnyddio synhwyrydd metelau gelc (neu gelciau) hynod
ddiddorol o wrthrychau cynhanesyddol, Rhufeinig a diweddarach yn Llys Awel, Tan
y Gopa, Abergele. Roedd yno 533 o ddarnau arian Rhufeinig o’r 4edd ganrif;
blaen picell o Oes y Pres; breichled; broetsh o’r 9fed ganrif; darnau o
wifrau, a delw fechan o’r duw Mercher. Yn fwy diddorol fyth, fodd bynnag,
roedd yno ddwy ddelw o gŵn (tua 5cm o uchder) ar eu heistedd a’u tafodau
allan, delw arall o filgi, a dau blac, y naill â llun ci arno, a’r llall â’r
hyn a allai fod yn llun ci, neu efallai’n gynnig ar ysgrifennu enw.1
Nid yw’r gwrthrychau hyn yn
unigryw. Cafwyd delwau cyffelyb yn sawl rhan o’r hen Ymerodraeth Rufeinig, ac
yn rhanbarth Britannia. Cafwyd delw o gi neu flaidd a’i dafod allan (ac un o
Fercher yn dal pwrs, fel yn Llys Awel) yng nghelc Southbroom ger Devizes ym
1714, a delw o flaidd ar ei eistedd yn Woodeaton, Swydd Rydychen. Y diweddaraf
i’w ganfod (ym Medi 2017) yw delw o Swydd Gaerloyw, eto â’i dafod allan:
ond camgymeriad, wrth gwrs, fu datgan mai hwn oedd yr un cyntaf o’i fath i’w
ganfod ym Mhrydain.2
Ceir delwau cyffelyb yng
Ngwlad Belg a gogledd-ddwyrain Ffrainc, hefyd, ac weithiau y mae’r genau â
thafod yn dod allan ohonynt, neu ddarn o gorff dynol wedi’u dal ynddynt. Y
celc tebycaf i Lys Awel yw un o Chartres, lle cafwyd dwy ddelw o gŵn ymysg
offrymau o’r ganrif gyntaf OC a’r ail, ynghyd â llestri cyfan, esgyrn dynol
ac anifeiliaid, wedi’u gosod mewn ffynhonnau a phydewau.3
Ymylol i faes diddordeb
pennaf darllenwyr y cylchgrawn hwn fyddai’r manylion hyn, heblaw am un peth:
yn debyg i gelc Chartres, roedd celc Llys Awel, yn ôl adroddiadau ar y pryd,
wedi’i osod mewn tarddell. Mae erthygl di-ddyddiad (“Treasure find at a
sacred spring”) gan un Jayne Thomas mewn papur newydd dienw (y Daily
Post, efallai) yn dyfynnu Richard Brewer o Amgueddfa Genedlaethol Cymru
i’r perwyl hwnnw. Awgryma’r dyfyniad ei fod yn cyfeirio’n benodol at safle
Llys Awel, ond y mae’n bosibl ei fod yn sôn, yn hytrach, am weithred
gyffredinol offrymu gwrthrychau mewn tarddellau er mwyn ceisio iechyd.4
Y mae archeolegydd fu’n gysylltiedig â’r safle yn cofio bod y
gwrthrychau’n awgrymu cysylltiad â chysegr gwella, ond nid a oeddent yn
gysylltiedig ai peidio â nant neu darddell.5
Cymylwyd hanes y canfod gan y ffaith
na ddaeth y gwrthrychau i sylw archeolegwyr am flwyddyn a rhagor wedi eu palu
o’r ddaear, ac ni chadwodd eu canfyddwyr gofnod manwl o ble’n union y
cawsant hyd iddynt. Er y bu gan y canfyddwyr ganiatâd perchen y safle i’w
archwilio, yr oeddent yn gwrthod â dweud, i ddechrau, ymhle’n union yr oedd;
a hynny, efallai, am nad oeddent am i eraill ysbeilio’r man, ac oherwydd bod
archeolegwyr yn gwgu’n fawr ar ddefnyddwyr synwyryddion metel. Yr oedd (ac y
mae) “ceiswyr trysor” yn gwneud difrod ofnadwy i safleoedd hanesyddol
bregus. Ni ddaeth y mater i sylw hyd nes i’r canfyddwyr gynnig y gwrthrychau i
Amgueddfa Caer; a hyd yn oed wedyn bu gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru gryn
waith eu cael nhw yn ôl i’r wlad hon.6
Gwyddys y cysylltid cŵn
yn neilltuol â duw meddygaeth y Groegwyr, Asclepios, ac mai rhan o ddefod trin
cleifion yn ei deml yn Epidafros oedd y llyfid hwy gan gŵn sanctaidd. Y
mae’n wir fod poer cŵn yn cynnwys sylwedd antiseptig.7
Cysylltid cŵn â’r duw Brythonaidd Nodens (Nudd/Lludd), duw hela a’r môr,
a oedd â theml fawr yn Lydney yn Swydd Gaerloyw. Yno hefyd credid y gallai
llyfiad ci wella dolur ac anhwylder, ac ymddengys y bu’r seintwar yn ganolfan
cwlt iacháu: canfuwyd naw delw o gi yno.8 Parhaodd y gred hon yn
hir: cofiaf fy nhad, a modryb imi’n crybwyll yr arferid peri i gi lyfu dolur,
gan gredu y byddai hynny’n ei wella.
Mentrus tu hwnt, fodd bynnag,
fyddai dal bod cysylltiad uniongyrchol rhwng arferion Rhufeinig a’r hyn a
gofnodid yma lawer yn ddiweddarach, megis offrymu pinnau neu ddarnau arian mewn
ffynhonnau er mwyn gwella anhwylderau.
Felly er bod y darganfyddiad hwn yn
ddiddorol iawn, rydym eto i weld canfod offrymau sylweddol o’r hen oes mewn
ffynnon yng Nghymru yn ystod archwiliad archeolegol gofalus.
H.H.
1
Manley, J.F. 1982: ‘Finds from Llys Awel, Abergele’, Archaeology in Clwyd 5,
tt. 6–7.
2
https://www.telegraph.co.uk/news/2017/09/27/roman-licking-dog-never-seen-britain-found-metal-detector-enthusiasts/
Leon Watson, Daily Telegraph 27.9.2017.
3
Durham, E. (2014) Style and substance: some metal figurines
from south-west Britain. Britannia,
45, tt. 195-221 http://centaur.reading.ac.uk/39196/1/DurhamSouthbroom.pdf
4
Mae erthygl Durham hefyd yn datgan y canfuwyd y gwrthrychau mewn tarddell, ac yn
cyfeirio’n ôl at adroddiad Manley: ond nid yw’r adroddiad hwnnw’n sôn
dim am darddell, dim ond y canfuwyd y darnau arian Rhufeinig wedi’u gwasgaru
dros ardal eang.
5
Neges e-bost gan Stever Grenter at Howard Huws, 21.5.2018.
6
Elizabeth Grice, “Treasure hunt finds ‘secret’ Roman remains”. The
Times, ?15.1.1981; Gohebydd dienw, “Controversy over Roman site finds”,
Daily Telegraph 19.1.1981; Alan Bennett, “Row as ‘lost city’ is found”,
Daily Express, 19.1.1981; Gohebydd dienw, “Archaeologists hit out over Roman
‘secret’”, Rhyl Journal, 29.1.1981.
7
Sanctuary of Asklepios, Epidauros. https://warwick.ac.uk/fac/arts/classics/students/modules/greekreligion/database/clumcc/
8
Roman Britain: Templum Marti Nodentis. http://roman-britain.co.uk/places/lydney_park.htm
9
J. L. Davies. Refresh of the Research Framework for the Archaeology of Wales
2011-2016: Romano British. https://www.archaeoleg.org.uk/pdf/review2017/romanreview2017.pdf
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 44 Haf 2018
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc