Home Up

CAERWYS

 

Ffynnon Fihangel

yn ddiweddar nodwyd ei bod bron yn amhosib mynd at Ffynnon Fihangel yng Nghoed Maesmynan ar gyrion Caerwys. Yn y gorffennol arferid bedyddio unigolion yn y ffynnon ei hun. Yn fwy diweddar cludwyd dŵr o’r ffynnon i’r eglwys ar gyfer bedyddio a parhaodd yr arferiad tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Credid yn lleol fod rhinweddau gwyrthiol i’r dŵr a allai wella llygaid poenus a chodi defaid oddi ar ddwylo. Gallai yfed y dŵr buro’r cyfansoddiad a rhoi adnewyddiad iechyd i’r claf. Mae’r ffynnon ei hun mewn cilfach goediog a’r dŵr yn codi o’r graig ac yn syrthio i bwll bychan islaw iddi. Mae olion adeiladau o’i chwmpas. Mae Cyngor Tref Caerwys am ofyn i berchennog stad Coed Maesmynan ei helpu i ailagor y fynedfa at y ffynnon. Mae cYmdeithas Ffynhonnau Cymru wedi cael gwahoddiad i gyfarfod â’r cyngor i drafod dyfodol y ffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999

cffccffccffccffccffccfcffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

ARWYDDOCÂD FFYNHONNAU FEL MANNAU I NODI FFINIAU PLWYFI

(Codwyd yr wybodaeth ganlynol o erthygl gan Tristan Grey Hulse yn y cylchgrawn Living Springs, Tachwedd 2002)

Ffynnon Fedw a Ffynnon Fihangel

Nid mannau i gael dŵr yn unig oedd ffynhonnau; byddai cymunedau yn ymweld â nhw wrth gerdded ffiniau’r plwyf yn flynyddol. Wrth i’r arfer hwnnw beidio collwyd lleoliad mwy nag un ffynnon, mae’n siwr. Ambell dro unig arwyddocâd ffynnon oedd ei bod yn nodi’r ffin rhwng un plwyf a’r plwyf nesaf a’i bod yn werthfawr fel tarddiad dŵr glân. Enghraifft o’r math yma o ffynnon yw Ffynnon Fedw, rhyw ddwy filltir i’r gogledd-orllewin o Gaerwys (SJ1272)yn sir y Fflint. Dyma sydd gan Edward Lhuyd i ddweud amdani yn Parochalia:

Ffynnon vedw y Tervyn ar bl[wyf] Dim herchion lhe bydhis ar darlhen yn amser Prosessiwn.

(Ffynnon Fedw ar derfyn plwyf Tremeirchion lle byddid yn darllen yn amser prosesiwn.)

     Ffynnon arall sydd ar y ffin rhwng plwyfi Caerwys a Bodfari yw Ffynnon Fihangel.(SJ124729) Hon yw ffynnon sanctaidd plwyf Caerwys gan fod yr eglwys wedi ei chysegru i Fihangel Sant. Llifa afon Mihangel o’r ffynnon ac yn ôl Lhuyd arferid offrymu pinnau yn y ffynnon fel modd o gael gwared â defaid ar ddwylo. Roedd ei dyfroedd hefyd yn effeithiol ar gyfer cryfhau’r golwg. Roedd pobl yn dal i gyrchu ati yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arferid mynd at y ffynnon adeg y Pasg ac roedd unwaith gapel bach yn sefyll nid nepell oddi wrthi.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Nadolig 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up