Home Up

CAERNARFON

 

FFYNHONNAU’R PERERINION

Oes yna ffynhonnau eraill sy’n gysylltiedig â’r pererinion? Os oedd y pererinion yn cychwyn o Fangor siawns na fyddai angen gorffwys arnynt cyn cyrraedd Glynllifon. Gwyddom fod dwy ffynnon i Sant Deiniol ym Mangor. Os oedd y pererinion yn mynd ar hyd y Fenai tybed a fyddent wedi aros wrth Ffynnon Fair yn Llanfair is Gaer, lle mae Plas Menai heddiw? A beth am Ffynnon Helen ar y ffordd allan o Gaernarfon i gyfeiriad Bontnewydd a Ffynnon Faglan yn Llanfaglan? A oed rhywun yn gwybod am draddodiadau sy’n cysylltu’r ffynhonnau hyn â’r pererinion? (GOL.)

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 4 Haf 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffcffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd

Ffynnon Helen (SH 480628) yn Llanbeblig, Caernarfon

Wedi gadael Clynnog teithiodd Pennant i Gaernarfon ac mae’n cyfeirio at Ffynnon Helen (SH 480628)yn Llanbeblig. Wrth sôn am y gaer Rufeinig Segontium, meddai:

‘Roedd gan Helen gapel gerllaw a ffynnon sy’n dwyn enw’r dywysoges. Gellir gweld peth olion yno o hyd a dywedir i’r capel gael ei godi ar yr un safle a’r ffynnon.’

Mae’r ffynnon mewn gardd tŷ o’r enw Llys Helen lle mae’r dŵr yn cronni mewn baddon o lechfaen gyda grisiau yn arwain i lawr iddo. Ers talwm byddai pobl yn cario dŵr o’r ffynnon i wella amrywiol anhwylderau.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

                                                                cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffcffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

 

Ffynnon Helen, Caernarfon.

Nid oes dim dirgelwch ynghylch lleoliad Ffynnon Helen yng Nghaernarfon. Y mae i’w gweld ar fap Arolwg Ordnans Môn 1:10,560 1890-91 fel “St Helen’s Well” yng ngardd gefn tŷ sylweddol o’r enw “Bryn Helen” ar Lôn Parc, yn union gyferbyn â phen stryd Henwaliau. Adeiladwyd y tŷ cyn 1834 (pryd y mae’n ymddangos ar fap o’r dref), yn gartref i William Mathias Preece, debyg. Rhanwyd y tŷ wedi 1890 ond cyn 1918, gyda rhan ddeheuol yr adeilad rhestredig Gradd II bellach yn breswylfa o’r enw “Llwyn Helen”. Yng ngardd gefn Llwyn Helen mae’r ffynnon: y cyfeirnod grid yw SH48215 62166. Ni ddylid ceisio ymweld â’r ffynnon heb ganiatâd y preswylwyr.

Y cyntaf, hyd y gwn i, i wneud cofnod ysgrifenedig o’r ffynnon fu’r naturiaethwr John Ray ym 1662, adeg un o’i deithiau. Dywed:

               “Near Carnarvon remain still some Ruins of an old Town, which the Welch call Caer-Segon,

                i.e. the Segontium of the Ancients: There is a little Chapel, with a Well close by it, dedicated

                both to St. Elyn, as is also the River fast by,  called the Saint’s River; these are about a

                Quarter of a Mile South of the Town.”1

Gan ysgrifennu rhywbryd cyn ei farwolaeth ym 1723, dywed Henry Rowlands yn ei Mona Antiqua Restaurata fod capel Helen i’w weld yng Nghaer Segont yn ei oes ef (“there to this day”).2 Wrth gofnodi ei deithiau yntau yng ngogledd Cymru rhwng 1773 a 1778, dywed Thomas Pennant fod ffynnon, “near the fort”, yn dwyn enw’r dywysoges, “and some very slight remains of ruins are to be seen adjacent. Tradition says, the chapel stood on that spot.”3

Yn ôl W. H. Jones (Old Karnarvon, 1889) nid oedd dim yn weddill o’r capel erbyn yr ysgrifennai ef, ac ni chynhwyswyd Capel Helen yn rhestr yr Esgob Meyrick o eglwys a chapeli Esgobaeth Bangor ym 1561.4 Yn ôl Harold Hughes a Herbert North, yn ysgrifennu ym 1924, yr oedd yn y ffynnon yr adeg honno ddigonedd o ddŵr, ac arferai pobl gyrchu’r ffynnon oherwydd ei dŵr iachusol, gan fynd ag ef ymaith mewn poteli.5 Honna erthygl yn y “Journal of Antiquities” y canfuwyd darnau arian Rhufeinig yng nghyffiniau’r ffynnon: ond ni rydd fanylion, felly ni ellir dyfalu a yw’r fath ddarnau ond yn rhan o hap-wasgariad daearyddol yr arian mân Rhufeinig a ollyngwyd yng nghymdogaeth Segontium, ynteu a ganfuwyd y fath grynodeb o ddarnau yn y man neilltuol hwn ag i beri amau bod â wnelo eu presenoldeb yno â’r ffynnon yn benodol.6

Adroddodd Hughes a North fod y tir o amgylch y ffynnon wedi’i godi llawer, a bod grisiau “bellach” yn arwain i lawr at ddyfrgist lechfaen. Pan ymwelais â’r man fis Ionawr eleni cefais y ffynnon mewn gelli bach o goed conwydd Leylandii (neu’u cyffelyb), ond roedd y grisiau yno o hyd, yn arwain tua phum troedfedd i lawr at seston a luniwyd, i bob golwg, o lechfaen. Y mae hwnnw’n mesur tua phum troedfedd sgwâr, ond ni phrofais pa mor ddwfn oedd y dŵr ynddo. Mae’r dŵr yn llonydd, gyda dail, brigau, a chasgliad helaeth iawn o beli plastig colledig yn nofio ynddo; ond o glustfeinio, gellir clywed dŵr yn gollwng rhywle gerllaw. Mae gwaith cerrig (tan dywarchen) yn do ar tua hanner y seston, gyda cholofn bregus yr olwg yn ei gynnal rhag mynd â’i ben iddo.

Cymwynas â’r ffynnon fyddai ei chlirio a’i glanhau, ond go gyfyng yw’r gofod yno ar gyfer cyflawni’r gwaith. Y mae, o leiaf, yn bodoli o hyd, ac nid oes golwg ei bod tan fygythiad: hir y parhao felly.

Mae’r chwedlau Cymreig yn cyfeirio at dair gwahanol Helen. Yn gyntaf, Helen o Gaerdroea (“Elen Fannawg”). Yn ail, y Santes Helen, gwraig yr Ymherawdr Constantiws I a mam yr Ymerhawdr Cystennin. Ganed Cystennin yn Niš (yn ne Serbia heddiw), ond erbyn tua’r flwyddyn 700 yr oedd chwedl ar led y’i ganed ef ym Mhrydain.7 Erbyn hanner cyntaf y ddeuddegfed ganrif credid bod Helen yn ferch i Coel o Gaercolun, ac arweiniodd hyn, ynghyd â’r chwedl ynghylch ei rhan allweddol hi yn ailddarganfyddiad y Groes Sanctaidd, at gysegru llawer i eglwys yn Lloegr yn ei henw hi.8

Yn drydedd, Elen ferch Eudaf, gwraig chwedlonnol Macsen Wledig. Y ddogfen hynaf i gysylltu unrhyw Elen neu Helen â Chernarfon yw “Breuddwyd Macsen Wledig”, a ysgrifenwyd yn y ffurf sydd ar glawr heddiw tua diwedd y 12fed ganrif, ac efallai cyn hwyred â thua 1215-17, wrth i Lywelyn Fawr geisio esbonio a chyfiawnhau ymlediad ei rym tros Gymru gyfan trwy bwysleisio parhad y cysylltiad rhwng y Cymry a’r Rhufeiniaid.9 Edrydd y chwedl sut y canfu Macsen Wledig ei wraig Elen brydferth yn “Aber Seint”, a oedd, wrth gwrs, yng nghraidd teyrnas Llywelyn, Gwynedd.10

Bu cryn orgyffwrdd rhwng y naill Helen a’r llall yn yr hen chwedlau a chroniclau, felly efallai y gellid disgwyl y ceid capel wedi’i gysegru yn enw’r Santes Helen (a ffynnon sanctaidd gysylltiedig) yng nghyffiniau’r hen gaer Rufeinig: ond pwy a’i sefydlodd, a phaham? Prin yw’r enghreifftiau o gysegriadau cyffelyb yng Nghymru. Ceir Llanelen yng Ngwent, a cheid un arall yn Llanrhidian yng Ngŵyr. Ceir Tref Elen (Bletherston) yn Sir Benfro, a ffynnon o’r enw “Elen’s Well” yn Llanhuadain, yn yr un sir. Yn ôl Stent Caernarfon (1352) ceid trefgordd o’r enw “Lanelen” a thir a ddelid trwy “Sca Elena” (y Santes Elena) yng nghwmwd Twrcelyn ym Môn.11 At ei gilydd, gellir gweld bod y cysegriadau yn tueddu i fod yn y rhannau hynny o Gymru a oedd yn fwy agored i ddylanwadau Seisnig: felly tybed ai dyna sy’n gyfrifol am y Capel Helen a’r Ffynnon Helen yng Nghaernarfon, hefyd?

Yr oedd Edward I mor ymwybodol â Llywelyn Fawr o arwyddocad a grym dilysol enw’r Ymerodraeth Rufeinig, ac o bwysigrwydd Caernarfon yn y cyswllt hwnnw. Parodd ailgladdu yno gorff newydd-ganfyddedig tywysog mawr, “tad yr ymherawdr bonheddig Cystennin”, ac aeth ati’n fwriadol i geisio ailgreu gogoniant Rhufain yno, hyd at ddynwared ffurf muriau Caergystennin, a gosod eryrod ymerodraethol ar binaclau tŵr uchaf y castell, er mwyn pwysleisio’n symbolaidd ei hawl ef i’w gydnabod yn frenin Gwynedd, olynydd cyfreithlon a grymus Macsen a’r Rhufeiniad.12 Buasai iddo bwysleisio’r cysylltiad Rhufeinig (a chael ei weld yn anrhydeddu santes frenhinol) trwy sefydlu capel yn enw’r Santes Helen yno, neu newid cysegriad blaenorol i’w henw hi, yn gwbl gyson â hynny.

 

1. Derham, J. Select Remains of the Learned John Ray… . London: George Scott, 1760, t. 228.

2. Rowlands, H. Mona Antiqua Restaurata. Ail argraffiad. London: J. Knox, 1766, t. 165.

3. Pennant, Thomas. The Journey to Snowdon (ail gyfrol Tours in Wales). London: Henry Hughes, 1781, t. 222.

4. Jones, W. H. Old Karnarvon. Caernarvon: H. Humphreys, (1889), tt. 163-164.

5. Hughes, H., a North, H. The Old Churches of Snowdonia. Bangor: Jarvis & Foster, 1924, tt. 236-237.

6. https://thejournalofantiquities.com/2016/01/29/st-helens-holy-well-caernarfon-gwynedd-wales/ dyddiedig 7.11.2018. Cynhwysodd awdur (neu awduron) yr Historia Brittonum yn y 9fed ganrif chwedl i’r perwyl y claddwyd Constantinus, mab Cystennin yng Nghaer Seint, ac iddo “hau tri hedyn, aur, arian ac efydd, ar balmant y ddinas honno, fel na fyddai i unrhyw ddyn fyw’n dlawd yno.”

Cyfeiriad, debyg, at y darnau arian Rhufeinig a ganfyddid yno. Gw. Roberts, B. F. Breudwyt Macsen Wledig. Dublin: Dublin Institute for Advanced Studies, 2005, tt. lxvii-lxviii.

7. Palliser, D. M. Medieval York: 600 – 1540. Oxford: OUP, 2014, t. 20.

8. Forester, T. (gol.) The Chronicle of Henry of Huntingdon. London: Henry G. Bohn, 1853, tt. 28-29.

9. Roberts, B. F., op. cit., t. lxxxv.

10. ibid., t. 6.

11. Baring-Gould, S., a Fisher, J. Lives of the British Saints. Felinfach: Llanerch Publishers, 2000,

Rhan 6, t. 259.

12. Roberts, B. F., op. cit., t. lxviii.

                                                                                                                                                               Howard Huws.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 46 Haf 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up