Home Up

CAERDYDD

 

‘Heb Ddŵr, Heb Ddim’

 Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

    Robin Gwyndaf

(Rhan gyntaf darlith a draddodwyd ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 7 Awst 2018.

Cadeirydd: Eirlys Gruffydd-Evans; Trefnydd a Chyfieithydd: Howard Huws.) 1.

Gwyddom oll am yr hen air: ‘Heb Dduw, heb ddim’. Mor rhwydd fyddai aralleirio’r geiriau cyfarwydd hyn: ‘Heb ddŵr, heb ddim’. A gwir iawn hefyd yn hanes ffynhonnau Caerdydd a’r cyffiniau.

 Tua’r flwyddyn1610 rhyw 1500 yn unig oedd poblogaeth Caerdydd. Rhyw 300 oedd nifer y cartrefi, gyda’r trigolion yn byw, yn bennaf, bryd hynny mewn dau blwyf: Plwyf Sant Ioan a Phlwyf y Santes Fair. Erbyn 1840, fodd bynnag, roedd y boblogaeth wedi cynyddu i10,000. O hyn ymlaen, yn arbennig gyda dyfodiad y ddau ddiwydiant: glo a haearn, cynyddu roedd y boblogaeth ar raddfa eithriadol iawn.

Hyd at 1850 derbyniai trigolion Caerdydd eu dŵr yn bennaf o’r ffynonellau hyn: Afon Taf; ffynhonnau preifat; a ffynnon gyhoeddus yn Heol Eglwys Fair (St Mary’s Street), ger hen Neuadd y Dref, y ‘Guild Hall’, lle roedd Banc Lloyds yn ddiweddarach. Roedd Eglwys y Santes Fair yn dyddio o’r unfed ganrif ar ddeg. Hi oedd yr eglwys fwyaf yn y dref, ond fe’i dinistriwyd gan lifogydd mawr Bae Bryste yn 1607.

Annigonol iawn oedd y trefniadau ar gyfer darparu dŵr glân i Gaerdydd. Yn 1848 bu i dros 400 o’r trigolion farw o’r Colera, a 747 y flwyddyn ganlynol.2 Cyffelyb oedd y sefyllfa yn nhrefi eraill Cymru a Lloegr, a does dim rhyfedd i’r haint ysbarduno’r awdurdodau i weithredu. Yn 1850 ac 1853, felly, drwy ddwy Ddeddf Seneddol, trefnwyd i ganol Caerdydd a rhai ardaloedd cyfagos dderbyn cyflenwad o ddŵr glân o Afon Elái, gyda’r brif orsaf ddŵr, neu bwmp dŵr, cyntaf yn ardal Trelái. 3

               O’r cyfnod hwn ymlaen, mi allwn ni hefyd hyd heddiw weld amryw o’r pistylloedd yfed, neu ffowntenni, roedd tref Caerdydd wedi’u cynllunio er mwyn darparu dŵr glân i’r trigolion. Bodlonir yn yr erthygl hon, fodd bynnag, ar gyhoeddi eu lluniau yn unig. Tynnwyd y pum llun gan Phil Cope, y ffotograffydd dawnus o Flaengarw, Morgannwg, ac awdur cyfrolau niferus. Un ohonynt yw’r gyfrol gyfoethog: Holy Wells: Wales. A Photographic Journey (2008). Cyhoeddwyd y pum llun eisoes yn ei gyfrol hardd ddiweddaraf, sy’n cynnwys dros dri chant o ddarluniau, sef: The Living Wells of Wales (2019). 4 Dyma enwau pedwar  o’r pistylloedd y gwelir eu lluniau yn yr erthygl bresennol:

-        Pistyll Yfed Caeau Llandaf (ST 180 749) 5

-        Pistyll Yfed Parc Buddug / Fictoria (ST 155 769)

-        Pistyll Yfed Gerddi’r Faenor / Grange (ST 180 749) 

-        Pistyll Yfed Treganna, ar y gornel lle mae Cilgant Romilly  (Heol Romilly Crescent) a Heol Llandaf yn cyfarfod. (ST 155 777)  

Hen Ffynnon Heol Eglwys y Santes Fair (1860)

Priodol yn y fan hon yw cyfeirio at un o’r ffynhonnau, neu bistylloedd yfed, pwysicaf a harddaf yn Ninas Caerdydd, a’r dyddiad 1860 arni. Dyma un ffynnon oedd yn wreiddiol ger hen Neuadd y Dref yn Heol Eglwys y Santes Fair. Dymchwelwyd yr hen Neuadd  yn 1861. Yn ffodus iawn, fe arbedwyd y ffynnon. Ail leolwyd hi er 1862 fwy nag unwaith. Adeg cynllunio’r Ganolfan Ddinesig, symudwyd hi yn 1908 i Lôn y Felin. Yna, yn 1952, gosodwyd hi ar ei safle bresennol yn rhan o ganllaw a mur y bont dros gamlas gyflenwi dŵr i’r Dociau (‘Dock Feeder Canal’), ger y Boulevard de Nantes a’r mynediad i Heol y Brodyr Llwydion / Greyfriars Road. Yr adeilad mawr agosaf i’r bont yw ‘Rhif Un Heol y Brenin’ / ‘One Kingsway. 6

Dyma ddisgrifiad o’r hyn sydd i’w weld wrth syllu ar y ffynnon arbennig hon heddiw, a’ch cefn gyferbyn â’r ffrwd o drafnidiaeth brysur sy’n llifo heibio ochr Castell Caerdydd i gyfeiriad Heol y Gogledd a’r Ganolfan Ddinesig.

Gwnaed y ffynnon o haearn bwrw. Y mae ei chefn ar ffurf tarian fawr, addurnedig, wedi’i pheintio’n ddu. Bob ochr i’r darian, yn yr hanner uchaf,  ceir sbrigyn o eiddew, neu iorwg,  a’r dail wedi’u lliwio’n wyrdd. Cofiwn ninnau fod yr eiddew bythwyrdd yn un o’r planhigion pwysicaf i ddathlu’r Nadolig. Mae’n ddelwedd o barhad bywyd, o’r geni, y deffro, a’r bywyd newydd yng nghanol tywyllwch gaeaf. Yr un modd, gall ein hatgoffa o’r dŵr bywiol, bythol îr, a gynigir gan Grist ac y cyfeirir ato yn y geiriau a gerfiwyd ar y ffynnon hon.

Ar frig y darian, yn y cylch hanner lleuad, ceir cerflun mewn paent aur o angel adeiniog yn eistedd ar gymylau gwynion. O dan y cymylau gwelir yr adnodau a ganlyn, yn Saesneg: ‘Jesus said unto her, whosover drinketh of this water shall thirst again; but whosoever drinketh of the water that I shall give him, shall never thirst. John 1v.13.14.’ Yng nghanol y ffynnon ceir llwyfan i dderbyn y dŵr, a’r geiriau hyn uwch ei ben: ‘Wills Brothers Sculpts London.

Ar y chwith ceir cerflun o Grist troednoeth yn eistedd, mewn gwenwisg a chlogyn coch llaes amdano. Mae’i fraich chwith wedi’i chodi, fel petai’n cyfeirio tuag at y geiriau o’r Efengyl yn ôl Ioan, ac y mae ei wyneb a’i holl ystum fel petai’n syllu i fyny i’r awyr tua’r nef uwchben. Ar y dde i’r llwyfan ceir cerflun o’r Wraig o Samaria, hithau’n droednoeth mewn gwenwisg, ond clogyn llaes glas sydd ganddi hi. Y mae ei phen yn gorffwys ar ei braich dde ac yn gwyro i syllu ar Iesu, gan gyfleu’r teimlad ei bod yn gwrando’n astud ac yn myfyrio’n ddwys ar ei eiriau. Wrth ei thraed mae piser tal i gario dŵr o’r ffynnon.

 

Ar ran isaf y ffynnon ceir y geiriau: ‘Erected by Wm Alexander Mayor of Cardiff  A.D. 1860.

Ar y gwaelod isaf llythrenwyd y geiriau: ‘Cast by the Coalbrook Dale Co’.

 

Hen Ffynnon Heol Eglwys y Santes Fair. Llun: Phil Cope.

Y mae’n werth i bawb sy’n byw yng Nghaerdydd, neu yn ymweld â’r ddinas, i oedi ger y ffynnon nodedig hon, a rhaid llongyfarch y Cyngor am y graen sydd arni, er bod rhywrai wedi anharddu peth ar gefn y llwyfan uwchben tarddle’r dŵr, ac anharddu ychydig hefyd (wedi i’r llun gael ei dynnu) ar wynebau’r Iesu a’r Wraig o Samaria. Cofrestrwyd y ffynnon fel Adeilad o Werth Hanesyddol, Gradd 2, gan Cadw yn 1975.                    

   ‘Rhed ataf yn rhad eto ...’

Cyn canol y 19g, a chyn i Gyngor Caerdydd ddarparu dŵr glân i drigolion y dref a’r ardaloedd cyfagos, ac wedi hynny, i raddau llai, fe fu i ffynhonnau a phistylloedd Caerdydd a’r cyffiniau ran eithriadol o bwysig ym mywydau bob dydd y trigolion.  Mor gwbl addas, fel y cawn sylwi eto, yw llinell glo englyn ardderchog William Roberts, Trefor, sir Gaernarfon, i’r ‘Pistyll’: ‘Rhed ataf yn rhad eto’.

Mi allem ni ddosbarthu’r ffynhonnau hyn yn fras i ddau brif ddosbarth – er bod perygl bob amser mewn gor ddosbarthu – rhy fawr yw’r meddwl dynol i’w osod yn daclus mewn blwch. Ond y mae dau air arbennig i’w cadw mewn cof: ‘naturiol’ a  ‘goruwchnaturiol’.

Yn gyntaf, felly: ffynhonnau  naturiol. Ar hyd yr oesoedd, ac ym mhob rhan o’r byd, mawr fu’r angen am ddŵr glân i’w yfed, a phobl yn parhau i ‘gario dŵr o’r ffynnon’ yn eu bywydau bob dydd. Y ffynhonnau ‘naturiol’ hyn oedd fwyaf niferus o ddigon yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos. Ysywaeth, ond yn ddigon dealladwy gyda thwf rhyfeddol y boblogaeth a byd masnach, a’r angen mawr am adeiladu tai, diflannodd y cof am enwau a lleoliad nifer fawr o ffynhonnau naturiol o’r fath. Y mae hynny’n wir hefyd, mae’n sicr, ond i raddau llai, o bosibl, am y ffynhonnau llesol hynny y credai ein hynafiaid gynt fod rhinwedd meddyginiaethol yn y dŵr.

Yn ail, ffynhonnau goruwchnaturiol. Y pwys ar goel ac arfer, a’r coelion gwerin hynny yn arwain at gynnal defodau ac ymarfer swynion. Y cyfan, yn ôl y gred, yn fodd i wella afiechyd ac i dderbyn bendith. Er enghraifft, teflid pinnau i’r dŵr a chrogi clytiau, neu garpiau, ar lwyni a choed. Dyma gof gwerin am yr hen gred fod modd trosglwyddo’r drwg o berson i fater, neu o’r corff dynol i anifail. O’r corff i’r clwt; o’r corff i’r pin. Roedd y pin yn fetel wedi’i buro yn y tân, ac yr oedd hynny yn ychwanegu at y fendith. Yr un modd, cofiwn am y bwch dihangol yn y Beibl (Lefiticus 16:5-28), ac am yr ysbrydion aflan yn cael lloches yng nghyrff  Moch Gadara. (Math.8: 28-34; Marc 5: 1-20; Luc 8: 26-39.)  Daw i gof ymhellach yr hen arfer o wella defaid ar ddwylo drwy eu rhwbio â chig moch ac yna claddu’r cig moch i bydru yn y ddaear. Un amrywiad creulon ar yr arfer hwn oedd rhwbio’r defaid â malwen a gosod y falwen wedyn ar bigyn draenen i farw. Y mae un o brif arbenigwyr ym maes meddyginiaethau gwerin, Wayland D Hand (1907-86), wedi trafod y coelion hyn yn ardderchog iawn yn ei gyfrol, Magical Medicine (1980). Pennawd y bennod berthnasol yw: ‘Magical Transference of Disease’.7   

Fel y gwyddom, roedd hen, hen gred, fod dŵr yn gysegredig. Fel roedd yna dduw’r goedwig a hen arfer i gofleidio pren i ofyn am fendith y duw hwnnw (onid yw’n arferiad cyffredin hyd heddiw i bobl ddweud:‘touch wood’), felly, roedd yna dduw’r dŵr ac offeiriad ac offeiriades y ffynnon. Bu’n arfer i ddweud bod Cristnogaeth, yn arbennig yn sgîl Protestaniaeth a Diwygiadau Crefyddol y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi dinistrio llu o’r hen arferion a defodau oedd yn gysylltiedig gynt â ffynhonnau. Roedd tuedd i gondemnio’r ‘hen ofergoeliaeth’ a’i gysylltu’n aml â Phaganiaeth a Phabyddiaeth.  Y mae, bid siŵr, lawer o wir yn hynny. Ond cywirach, yn fy marn i, yw dweud mai’r hyn a ddigwyddodd, yn amlach na pheidio, oedd Cristioneiddio a sancteiddio’r coelion a’r arferion. Parhau, er enghraifft, i gysylltu’r ffynhonnau â seintiau a’r Forwyn Fair.

Mae’n wir fod ychydig ffynhonnau yng Nghymru yn  cael eu hystyried fel ffynhonnau melltithio (yr enwocaf yw Ffynnon Eilian, Llaneilian yn Rhos, sir Conwy.) Pobl a’u defodau yn defnyddio’r ffynnon i geisio dial ar eraill. Ond prin iawn yw’r ffynhonnau hyn. Cysylltu ffynnon â daioni a wneid, gan amlaf, ac â’r seintiau. Roedd y dŵr yn sanctaidd a chysegredig. Dŵr bendigaid. Nid heb reswm y galwodd Francis Jones ei gyfrol arloesol yn 1954 â’r teitl: The Holy Wells of Wales.                                                                                                                                                                                                              

Oherwydd y gred fod dŵr yn gysegredig, fe ddaethpwyd hefyd i ystyried mwy a mwy o’r ffynhonnau yn ffynhonnau gofuned: ffynhonnau dymuno. Y dŵr sanctaidd yn gyfrwng i ofyn bendith a derbyn bendith. Yn gyfrwng, yr un modd, i gariadon wybod mwy am eu dyfodol.  Er pob gwrthwynebiad, ac er pob newid a fu er y Canol Oesoedd yn arferion a chredoau pobl, yr un yw ofnau a dyheadau pobl ym mhob oes: ofn afiechyd, tlodi a melltith. Ofn herio ffawd. Ofn bod ag ofn. Deisidaimonia y Groegwyr. Ond ble mae ofn, y mae hefyd ddyhead. Dyhead am iechyd, bendith, sicrwydd a llawenydd. Dyhead am wybod yr anwybod. Hiraeth am wynfyd a’r bodlonrwydd mawr: Pleroma y Groegwyr; Salaam y Dwyreinwyr a’r Arabiaid; Shalom yr Iddewon.

i’w pharhau

Nodiadau

 

1.      Caf gyfle eto i ddiolch i lu mawr o bersonau am lawer iawn o gymorth wrth baratoi’r ddarlith hon, ond carwn ddal ar y cyfle hwn yn awr i ddiolch yn arbennig i Eirlys Gruffydd-Evans a Howard Huws.

2.       ‘The Reminiscences and Historical Notes of Alderman W J Trounce J P, 1850 -1860’, Cardiff in the Fifties, Western Mail, Caerdydd, 1918. Gw. yn arbennig yr adran ‘Town’s Water Supply’, t.7.

3.      Am beth o hanes darparu dŵr glân i Gaerdydd a’r cyffiniau, gw., er enghraifft, yr erthyglau a’r adroddiadau a ganlyn: ‘Underground Water Circulation of Cardiff and its Neighbourhood: Report of the Research Sub-Committee’, Cardiff Naturalists’ Society. Report and Transactions, cyf. 26, rhan 2, 1893-94, tt. 95-104; J A B Williams, ‘The Water Supply’, yn: John Ballinger, gol., Cardiff Illustrated Handbook, Western Mail, Caerdydd,1896, tt.76-94; W S Boulton, ‘The Underground Water Supply of Cardiff’, Transactions of the Cardiff Naturalists’ Society, cyf. 43, 1910, tt. 32-5; F J North, ‘On a Boring for Water at Roath, Cardiff, with a Note on the Underground Structure of the Pri-Triassic Rocks of the Vicinity’, Transaction of the Cardiff Naturalists’ Society, cyf. 48, 1915, pp.36-49; William Rees, ‘Water Supply’, yn: Cardiff: A History of the City, The Corporation of the City of Cardiff, 1969, tt. 318-19.

4.      Cyhoeddwyd y ddwy gyrfol hon gan Seren, Pen-y-bont ar Ogwr. Carwn ddiolch o galon i Phil Cope am ei barodrwydd a’i garedigrwydd mawr yn rhoi imi bob cefnogaeth gyda’r lluniau.

5.       Ceir llun o Bistyll Caeau Llandaf hefyd yn un o lyfrau gwerthfawr Stewart Williams, Cardiff Yesterday, cyf. 8, 1984. Llun rhif 29.

6.      Rwy’n ddiolchgar iawn i Jon ap Dafydd, Bae Caerdydd, am fy arwain gyntaf at yr hen ffynnon a fu gynt yn Heol yr Eglwys Fair. Hefyd i Lowri Thomas a chyd aelodau staff Cyngor Dinas Caerdydd am wybodaeth bellach ynglŷn â’i hanes.

7.      Magical Medicine. The Folkoric Component of Medicine in the Folk Belief, Custom, and Ritual of the Peoples of Europe and America, Gwasg Prifysgol California, 1980, tt.17-42.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 47 Nadolig 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Pistyll Yfed Gerddi’r Faenor, Caerdydd. Llun: Phil Cope.

Rhan 2

Yn rhan gyntaf yr erthygl hon bu inni roi sylw arbennig i’r ffynnon bwysig oedd wedi’i lleoli gynt ger Hen Neuadd y Dref ar Heol Eglwys y Santes Fair, Caerdydd. Cyhoeddwyd llun ohoni hefyd wedi iddi gael ei symud o’i lleoliad gwreiddiol yn 1860. (Llygad y Ffynnon, rhif 47, Nadolig 2019) Yn yr ail ran yn awr cyhoeddir llun prin o’r Hen Neuadd a ddymchwelwyd yn 1861, sef ymhen blwyddyn wedi ail-leoli ac ail-greu fframwaith y ffynnon. Cyhoeddir yn ogystal lun map John Speed, 1610, o ganol Caerdydd lle roedd y ffynnon yn bodoli.

Hen Neuadd y Dref, Caerdydd. 

Yn rhan gyntaf yr erthygl cyfeiriwyd hefyd at bistylloedd yfed, neu ffowntenni, yr oedd Cyngor Tref Caerdydd wedi’u cynllunio er mwyn darparu dŵr glân i’r trigolion. Cyhoeddir lluniau pedwar o’r pistylloedd hyn yn awr, drwy garedigrwydd Phil Cope, awdur y gyfrol werthfawr, The Living Wells of Wales (2019).

Ffynhonnau ar gyrion Caerdydd

Yn ail hanner rhan gyntaf yr erthygl fe gofiwch inni gyfeirio at y gwahanol fathau o ffynhonnau oedd ar gael, er bod perygl parod mewn gor-ddosbarthu a chreu ffiniau gor-bendant. Soniwyd am ffynhonnau dŵr glân naturiol; ffynhonnau sanctaidd, gyda chyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol yn aml â’r goruwchnaturiol; ffynhonnau meddyginiaethol, rhinweddol; a ffynhonnau gofuned, neu ffynhonnau dymuno. Mae cofio am swyddogaeth y gwahanol ffynhonnau yn gymorth i ddeall paham fod yr arfer o’u mynychu wedi parhau cyhyd yng Nghymru, fel mewn cymaint o wledydd eraill. Nid oedd Caerdydd a’r cyffiniau yn eithriad, ac y mae’n bryd i ninnau nawr fynd  ar daith i ddarganfod cyfran o’r ffynhonnau

Map John Speed o Gaerdydd, 1610. Dynoda’r llythyren “P” safle’r hen neuadd a’r ffynnon.

Pistyll Yfed Caeau Llandaf. Llun: Phil Cope

Pistyll yfed Parc Buddug. Llun: Phil Cope.

Pistyll Yfed Treganna. Llun: Phil Cope

Yn gyntaf, dyma gyfeirio at ddetholiad o ffynhonnau mewn pentrefi ac ardaloedd ar gyrion y dref. Detholiad o’r cyfoeth rhyfeddol o ffynhonnau a fu unwaith yn rhan mor annatod o fywyd trigolion y gornel hon o Gymru; darn o hanes sy’n haeddu ei roi ar gof a chadw.

Robin Gwyndaf.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 48 Haf 2020

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 3

 

Un o’r lluniau a gyhoeddwyd eisoes yn yr ail ran oedd llun Pistyll Yfed Treganna. Yn y llun hwnnw fe gofiwch fod rhywun, neu rywrai, wedi gosod yn y ddysgl ddŵr gerflun o ben ellyllaidd, adeiniog. Ai pen y Diafol, y Gŵr Drwg ei hun, ydyw? Dewis cwbl anaddas ac anffodus iawn, yn fy marn i. Nid â drygioni a melltith y cysylltwn ein ffynhonnau a’n pistylloedd dŵr, ond â daioni a bendith.

Wele, fodd bynnag, erbyn heddiw ciliodd y cerflun dychrynllyd yr olwg, na wyddom i ble, a’r hyn sydd wedi’i gywasgu i mewn i adeiladwaith cerrig y pistyll yfed gynt yn Nhreganna nawr yw cwpwrdd plastig bychan a’i lond o lyfrau. Ar wyneb y cwpwrdd (yn yr iaith Saesneg yn unig, ysywaeth) pan welais i ef, ym mis Awst 2020, argraffwyd y geiriau: ‘Canton Book Swap’. Er mai gwell, gan amlaf, yw peidio ag ychwanegu dim at adeiladau hanesyddol, megis hen bistyll yfed, dyma weithred sy’n haeddu gair o ddiolch, nid condemniad.

Mae iddi, o leiaf, amcan dyrchafol: bod o werth i eraill. A daw hyn yn fwy amlwg pan gofiwn fod pob ffynnon o ddŵr glân yn ddelwedd hefyd o’r hyn sy’n ein hysbrydoli. Mor wir yr hen ddihareb Gymraeg: ‘Lleufer dyn yw llyfr da.’ Y mae llyfrau yn oleuni. A dyma un rheswm digonol dros gyhoeddi ail lun o Bistyll Yfed Treganna yma.

Pistyll Yfed Treganna, Caerdydd (trwy garedigrwydd Phil Cope).

Y mae’n dra phosibl, wrth gwrs, mai hap a damwain oedd dewis hen Bistyll Yfed Treganna i osod arno lyfrau i’w darllen. Fodd bynnag, boed hynny’n wir neu beidio, y mae’r weithred hon yn ein hatgoffa o un arfer gyffredin y mae unrhyw un sy’n ymddiddori yn ffynhonnau Cymru, fel yn ffynhonnau gwledydd eraill, wedi sylwi droeon arno, bid siŵr. A dyma yw hynny: hoffter y rhai sy’n ymweld â ffynnon i osod gwrthrych arbennig, ac weithiau fwy nag un, ger y ffynnon honno, ac weithiau i mewn yn y dŵr. Fe ddigwyddodd hynny gyda rhai o’r ffynhonnau a ddisgrifir yn yr erthygl hon. 

Rhai gwrthrychau cyffredin yw croesau, carpiau (neu rannau o ddillad y claf), arian, a phinnau, ond ceir amrywiaeth mawr yn y gwrthrychau hyn o ffynnon i ffynnon, ac o gyfnod i gyfnod. A dyma destun pwysig i hanesydd cymdeithas. Yr ydym ym maes hanes ar waith; hanes gweithredol; ‘history in action’, chwedl y sawl sy’n ysgrifennu yn Saesneg. Cwestiwn y byddwn am ei ofyn yw: beth yw ystyr y gwrthrychau i ni sy’n eu gweld heddiw? A chwestiwn pwysicach fyth: beth oedd yr ystyr ar y pryd i’r sawl a osododd y gwrthrych? Pam y dewiswyd y gwrthrych arbennig hwnnw?

Gyda llaw, fe wêl y darllenydd nod wedi’i gerfio ar ochr dde gwaith carreg y ffynnon hon. Mae’n debyg i ‘Nod Cyfrin’ yr Orsedd, ond nid dyna yw. Yn hytrach, mae’n feincnod Arolwg Ordnans sy’n dynodi union uchder llinell lorweddol y nod uwch lefel y môr, ac o wybod hynny gellir mesur lefel popeth arall yn y cyffiniau. Ceir union ffigur y lefel hwnnw ar fap Ordnans manwl yr ardal. 

Nodiadau Rhan 3

35. Gwelir y geiriau o eiddo R G Collingwood yn eu cyd-destun ar glawr ôl ei gyfrol, The Idea of History (Gwasg Rhydychen, 1961; cyhoeddwyd gyntaf yn 1946). Gellid yn rhwydd ychwanegu’r gair ‘objects’ wrth inni gymhwyso’r geiriau hyn at geisio deall arwyddocâd gosod gwrthrychau ger ffynhonnau:

‘History is not contained in books, documents [and objects], it lives only as a present interest and pursuit, in the mind of the historian when he criticizes and interprets those documents [and objects], and by so doing relives for himself the states of mind into which he inquires.’  

  (I’w pharhau)                Robin Gwyndaf.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 49 Nadolig 2020

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

af.

 

 

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 5

Robin Gwyndaf

 

Ffynnon Sain Ffagan. Llun: Dafydd Wiliam.

 

Ffynnon Llwyn yr Eos, Sain Ffagan

Bydd ymwelwyr â Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, yn gyfarwydd â ffermdy ac adeiladau fferm Llwyn yr Eos. Perthynai’r fferm gynt i Ystâd y Plymouth, a cheir tystiolaeth ar un o fapiau’r ystâd o’i bodolaeth, o leiaf o’r flwyddyn 1776. Adeiladwyd y tŷ presennol yn 1820. Agorwyd y tŷ ac adeiladau’r fferm i’r cyhoedd fel rhan o’r Amgueddfa Werin yn 1989. O flaen y tŷ ceir ffynnon eang o ddŵr oer. Y mae wedi’i hamgylchynu â wal gerrig a phridd, gyda grisiau yn arwain ati Mae’n dra phosibl, onid yn debygol, iddi gael ei defnyddio gynt i ddiodi trigolion y cartref, ond y defnydd pennaf a wnaed ohoni, o leiaf yn y cyfnod diweddaraf, oedd i oeri’r piseri a’r caniau llaeth. Heddiw mae’r dŵr ar wyneb y ffynnon a’r borfa laith o’i hamgylch yn drwch o ferwr y dŵr.54

Ffynnon Llwyn yr Eos. Llun: Phil Cope.

 

Ffynnon Sain Ffagan, ger Castell Sain Ffagan

Ffynnon ar dir Amgueddfa Werin Cymru eto yw’r ffynnon hon: ond ble yn union y mae? Dyma, felly, gychwyn ar y daith braf o’r brif fynedfa yn yr Amgueddfa i gyfeiriad y pysgod-lynnoedd a’r grisiau cerrig serth sy’n arwain i fyny tuag at y Castell. Wrth edrych ar y llynnoedd o’ch blaen, fe welwch hefyd nant fechan yn llifo gyda’u hochrau, agosaf atoch. Hyd y gwn i, nid oes enw swyddogol ar y nant hon wedi’i gofnodi ar unrhyw fap, ond ‘Nant yr Arian’ y byddaf i yn ei galw. Mae’n enw hyfryd i’r glust. Ceir bwthyn to gwellt o’r enw Silver Stream Cottage i gyfeiriad y llyn           isaf (ar y dde ar waelod y rhiw, islaw’r Castell). Lleolir y bwthyn y tu ôl i safle’r hen efail gynt sydd bellach yn faes parcio.

Yn union cyn croesi’r llyn isaf, os cerddwch gam neu ddau i’r dde i lawr i’r pantle ger y nant, mae’r ffynnon yn y ddaear ble mae’r dŵr yn llifo o dan y llwybr cerdded. Mae’r  ffynnon erbyn hyn fel petai’n rhan o’r nant. Prin y gellir ei gweld heb fynd yn agos iawn ati, a sylwi ar fwrlwm gwan y dŵr. ‘Ffynnon Sain Ffagan’ yw’r enw arferol ar y ffynnon. Ond ‘Ffynnon Ffagan Sant’ yw’r enw a roes y Parchg  William Rhys Jones, ‘Gwenith Gwyn’, arni yn ei golofn Gymraeg: ‘Newyddion y Barri a’r Cylch’, yn y Barry Herald and Vale of Glamorgan Times (20 Mai 1927). Dyma ei sylw cryno ef am rinweddau meddyginiaethol y ffynnon:

‘Yn y flwyddyn 1645 yr oedd plasdy teg o fewn muriau hen Gastell Ffagan Sant, ac yn y berllan a berthynai i’r plasdy, o dan hen bren ywen, yr oedd ffynnon mewn craig a elwid Ffynnon Ffagan Sant. Cyrchid i yfed dyfroedd y ffynnon enwog hon o bob parth, a chyfrifid ei dyfroedd yn feddyginiaeth ddi-ffael at yr Haint Dygwydd (Epilepsy).’55

Fersiwn Gymraeg yw’r geiriau hyn o’r nodyn a sgrifennwyd gan ŵr o’r enw Richard Symonds. Yn 1645, dair blynedd cyn y frwydr fawr, 8 Mai 1648, rhwng  milwyr y Brenin a lluoedd Cromwell a’r Senedd, fe ddaeth Richard Symonds gyda Siarl y 1af  i Sain Ffagan. Yn ei ddyddiadur am y flwyddyn honno: ‘Diary of the Marches of the Royal Army During the Great Civil War’, fe gyfeiriodd at y ffynnon gyda’r geiriau hyn:

‘St Faggin’s Church.

Neare the Church stands a faire howse within the old walls of a castle, called St Faggin’s; the heire of Mr Edward Lewis, Esq. owes [owns] it ...  In the orchard of this howse [sef y Castell], under an old yew tree, is a spring or well within the rock, called St Faggins’ Well; many resort from all parts to drinke it for the falling sickness [epilepsy], and cures them at all seasons. Many come a yeare after they have dranke of [it], and relate their health ever since.’56    

Dyma’r sylw canmoliaethus a diddorol a wneir am Ffynnon Sain Ffagan yn y gyfrol Ewen’s Guide and Directory to the Town of  Cardiff and its Environs (1855), tt. 91-3:

‘The famous well here must not be forgotten; the properties ascribed to which almost rival the fabled “Fountain of Youth”. It is certain that the inhabitants of this favored (sic) place attain great ages; on a feast being given to the aged poor by the South Wales Railway Company, on the opening of the station, the united ages of 12 then present was above one thousand years.’

Mewn Cyfrol o’r enw Annals of St Fagan’s with Llanilterne. An Ancient Glamorgan Parish (1938, t. 50), fe ddywedodd yr awdur, Charles F Shepherd:

‘The yew tree disappeared long ago, but the water still springs from the rock, though of its health-giving properties nothing now is known.’ 

Yn fuan wedi fy mhenodi ar staff yr Amgueddfa Werin ym mis Hydref 1964, bûm innau’n  holi rhai o’r to hynaf ym mhentref  Sain Ffagan am y ffynnon. Roedd tybiaeth gan rai y gallai dŵr o’r ffynnon fod wedi cael ei ddefnyddio at wella llygaid dolurus, ond prin oedd unrhyw dystiolaeth bendant.

Arwyddocaol iawn yw tystiolaeth Richard Symonds fod ‘hen goeden ywen’ yn tyfu gynt dros y ffynnon. Nid damwain mo hynny. Yr oedd yr ywen (Taxus bacatta) yn bren cysegredig, ac, yn ôl y gred, yn diogelu dyn ac anifail. Pren cysegredig, rhinweddol a bendithiol, fel dŵr y ffynnon ei hun. Heddiw y mae ywen lled ifanc yn tyfu ger y ffynnon.

Roeddwn i yn awyddus iawn i wybod ai ywen wedi’i phlannu yn fwriadol yw’r ywen lled ifanc hon, ynteu pren wedi tyfu o fôn yr hen ywen. Dau o brif arbenigwyr coed yw ym Mhrydain yw fy nghyfeillion, Allen Meredith, Charlbury, ger Rhydychen (gynt o Derwydd, ger Llandybïe, Sir Gaerfyrddin), a Fred Hageneder, gynt o’r Almaen, telynor, ethnofotanegydd enwog ac awdur cyfrolau, megis The Spirit of Trees. Science, Symbiosis, and Inspiration (2001), ac Yew. A History (2007).   Fy mraint yn nawdegau’r ugeinfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar hugain. oedd eu gwahodd fwy nag unwaith i’r Amgueddfa Werin ac i weld y ffynnon.

Ym marn  y ddau arbenigwr hyn roedd yr ywen ifanc wedi tyfu o foncyff yr hen ywen. Mewn llythyr ataf, dyddiedig 14 Tachwedd 2003, mae Allen Meredith yn dyfynnu barn Dr Bill Linnard yntau am yr ywen bresennol: ‘not a very old one’. Yna mae’n ychwanegu’r geiriau: ‘as was my first observation’.

 

Lleoliad Ffynnon Sain Ffagan ar fap o eiddo’r Amgueddfa Werin.

Yn yr un llythyr y mae Allen Meredith yn cyfeirio hefyd at sylw’r awdur toreithiog, Stewart Williams, yn ei gyfrol Annals of South Glamorgan (1913). Wedi i’r awdur grybwyll sylwadau Richard Symonds am y ffynnon yn 1645, mae’n ysgrifennu’r geiriau hyn: ‘Though the old yew tree has long since disappeared, the sparkling waters of the spring still gush forth from beneath the rock.’ Â ymlaen:

‘What is interesting is no mention of a yew in 1913 – were they like me dismissing the present yew and looking for something very big – an ancient shattered relic. There is no doubt that the present yew didn’t appear over night and is most certainly centuries old. If there was a planting in recent times, it would have been recorded  given the popularity of the site.’57

Fodd bynnag, nid oes modd bellach i gadarnhau a wnaed cofnod o’r plannu, ai peidio, a gallai’r cofnod – pe gwnaed un - fod wedi mynd ar goll, fel yr aeth llawer o luniau cynnar o’r ffynnon a’i lleoliad, mae’n dra thebygol. Hyd nes y daw rhagor o dystiolaeth bendant i’r fei, doethach lawer, yn fy marn i, yw peidio â bod yn rhy bendant wrth geisio damcaniaethu ai tyfu o foncyff yr hen ywen a wnaeth yr ywen bresennol, ynteu cael ei phlannu o’r newydd. Dyna hefyd farn y Dr Bill Linnard, Radur mewn sgwrs, 3 Tachwedd 2021.58

Rhoddwyd cryn sylw i’r ywen eisoes yn yr erthygl hon oherwydd ei bod yn un o’r coed cysegredig. Roedd coed cysegredig eraill yn cynnwys: y dderwen, pren celyn, onnen, cerddinen / criafolen, bedwen, morwydden (mulberry), pren afal, a rhai mathau o ddrain. Yr oedd i amryw o’r coed cysegredig uchod gysyllylltiad annatod â defodau ac arferion a gynhelid ger y ffynnon. Ceir tystiolaeth bendant o hyn, er enghraifft, ym mhymthegfed bennod cyfrol D A Mackenzie, Ancient Man in Britain (1922): ‘Why Trees and Wells were Worshipped?’

Yn ôl y Cyfreithiau Cymreig roedd i rai coed arbennig a oedd wedi’u cysegru i seintiau fwy o werth na choed cyffredin. Er enghraifft, roedd ywen wedi’i chysegru i sant yn werth 120 ceiniog. Ond 15 i 20 ceiniog oedd gwerth ywen gyffredin.59  

Yn ogystal â Ffynnon Sain Ffagan, dyma ychydig enghreifftiau o ffynhonnau eraill yng Nghymru â choeden ywen yn tyfu yn eu hymyl, neu yn eu cysgodi: Ffynnon Beuno, Clynnog Fawr, Arfon; Ffynnon Gwenlais, Llanfihangel Aberbythych, Sir Gaerfyrddin; Ffynnon Bedr, Llanbedrycennin, Sir Gaernarfon; Ffynnon Elias, Maldwyn; a Ffynnon Capel Llanfihangel Rhos-y-corn, Sir Gaerfyrddin.60 Yn Ffynnon Beuno, ger Capel Aelhaearn, Meirionnydd, yr oedd yn arfer unwaith i ddefnyddio cangen o bren ywen i daenellu dŵr o’r ffynnon ar gefnau gwartheg clwyfus.61

Bu’n freuddwyd gennyf er pan ymunais â’r Amgueddfa Werin  i weld Ffynnon Sain Ffagan yn cael ei harddangos i’r ymwelwyr, gyda mawr ofal, afraid dweud, i sicrhau’r diogelwch eithaf. Yr oeddwn yn awyddus iawn hefyd i gael tystiolaeth wyddonol o ansawdd y dŵr. Ym mis Mai 1991, felly, trefnwyd gyda Chyngor Dinas Caerdydd, ar ran yr Amgueddfa, i gael dŵr y ffynnon wedi’i ddadansoddi. Paratowyd yr adroddiad gan John Elliot a’i ddychwelyd atom i’r Amgueddfa gan B G Sanders, ‘Dadansoddwr y Ddinas / City Analyst’, 11 Mehefin 1991. Anaml y ceir dadansoddiad mor fanwl â hyn o ansawdd dŵr rhai o’n ffynhonnau yng Nghymru, a hyderaf y bydd o ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr Llygad y Ffynnon. Fe welir bod yr adroddiad yn cynnwys mewn dwy golofn fanylion am ansawdd dŵr y nant, yn ogystal â dŵr y ffynnon.                                                      

                    Chemical Results in mg/litre                                        

                                                  A.  H176E: Well water     B.  H177E: Pond water

Appearance                                                 Clear                     Hazy

Sediment                                                     Slight                    Moderate     

Colour (Hazen units)                                       <5                          10              

Reaction, pH value                                        6.9                         7.9             

Electrical Conductivity at 20oC                      800                        520                   

Chlorides (as C1)                                           65                          31                

Carbonate hardness (as CaCO3)                     348                        226                  

Non-carbonate hardness                                24                          37                          

Total hardness (as CaCO3)                            372                        263                 

Ammonium (NH4)                                      0.006                     0.015  

Albuminoid nitrogen                                  0.054                     0.246                   

Nitrite (as NO2)                                           Nil                      0.023                   

Nitrate (as NO3)                                          2.0                        4.4               

Sulphate (as SO4)                                                                                                                                   

Oxygen absorbed in 4 hrs at 80F                 0.24                      1.16       

       

Metals:                                                                                                                                               

Copper                                                     Nil                         Nil                           

Lead                                                        Nil                          Nil                       

 Iron                                                        0.01                       0.30                                                               

Manganese                                                Nil                         0.07                        

Zinc                                                         Nil                          0.02

Observations: a clear, colourless, neutral, very hard water of good organic quality.

Ar sail yr adroddiad uchod, er y ganmoliaeth, dyfarnodd B G Sanders nad oedd yn cymeradwyo yfed y dŵr.62 

Nodiadau Rhan 5

54.    I weld lluniau o dŷ ac adeiladau Llwyn yr Eos, gw. argraffiadau o Lawlyfr Amgueddfa Werin Cymru. I weld llun

          o’r ffynnon, gw. yr un gan Phil Cope yn y cylchgrawn presennol.

55.    Gweinidog gyda’r Bedyddwyr a hynafiaethydd brwd oedd y Parchedig   William Rhys Jones, ‘Gwenith Gwyn’

          (1868-1937). Ceir casgliad helaeth o’i bapurau a’i lawysgrifau (1464) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi’u

         catalogio gennyf, gyda llungopïau o amryw ohonynt ar gadw hefyd yn Archif Llawysgrifau Amgueddfa Werin

         Cymru. Rhif 706 yn y catalog yw’r eitem a ddyfynnir yn yr erthygl bresennol. Am beth o hanes bywyd a gwaith

         William Rhys Jones, gw. fy erthygl: ‘Gwenith Gwyn: Cynheilydd Traddodiad ei Dadau’, Trafodion Cymdeithas

         Hanes y Bedyddwyr, 1980, tt.32-58.

56.   Richard Symond’s Diary, gol. C E Long; Camden Society, 1859, t. 215.

57.   Cedwir llythyr Allen Meredith yn fy Archif  Ffeiliau yn Amgueddfa Werin Cymru, Adran Byd Natur: ffeil

         ‘Ffynnon Sain Ffagan: Gohebiaeth R.G.’

58.   Y mae’r Dr Bill Linnard, yn gyn-gydweithiwr, yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Un o’i gyfrolau

         gwerthfawr yw: Welsh Woods and Forests: History and Utilization, Amgueddfa Cymru, 1982.

59.   A W Wade-Evans, Welsh Medieval Law, Rhydychen, 1909, tt.104, 248.

60.   Francis Jones, Holy Wells of Wales, t.19.

61.   Edward Lhuyd, Parochalia (1695-98), Arch. Cam. Atodiad, 1909, 1910-11, ii, 40.      

62.   Carwn ddiolch yn ddiffuant iawn i Phil Cope, Dafydd Wiliam, ac i Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, am y

         ddau lun a’r map yn rhan 5 yr erthygl hon.  Mawr ddiolch hefyd i’r Dr Christopher Thomas, CADW, am ei

         gymorth parod gyda’r map i ddynodi union leoliad Ffynnon Sain Ffagan.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 51 Nadolig 2021

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up