Home Up

LLOEGR

CAER

 

MAE FFYNNON O DAN Y CAPEL…

Mae hanes achos y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yng Nghaer yn mynd yn ôl i 1789. Ar y dechrau, mewn tai y cyfarfyddai'r aelodau fel mewn llawer man arall, ond erbyn 1805 adeiladwyd capel yn Stryd y Drindod. Cymaint oedd llwyddiant y capel hwnnw nes bu'n rhaid prynu tir yn 1819 a chodi capel newydd. Erbyn 1864 roedd y capel hwnnw hefyd yn rhy fach. Prynwyd tŷ yn Stryd Sant Ioan am £1,700, ei ddymchwel ac adeiladu'r capel presennol ynghyd ag ysgoldy mawr ar y safle. Costiodd hyn £8,000, swm enfawr yr adeg honno. Agorwyd y capel newydd yn 1866. Cododd rhif yr aelodau i 450 cyn lleihau yn ystod yr ugeinfed ganrif ac erbyn 1996 tua 140 oedd eu nifer. Aeth yr adeiladau yn rhy gostus i'w cadw felly gwerthwyd yr ysgoldy am swm sylweddol ac addasu galeri'r capel i wneud ystafell ymgynnull a chegin braf. Aed ati i addasu'r cyntedd hefyd. Tra oedd yr adeiladwyr yn gweithio ar y capel daethant o hyd i rywbeth anghyffredin. Roedd fynnon ugain troedfedd o ddyfnder a dwy droedfedd o led ac ynddi ddwy droedfedd o ddŵr glân o dan yr adeilad. Yn ffodus, llwyddwyd i'w diogelu ond mae bellach o'r golwg. Rhoddwyd slaben o goncrid arni. Does dim i ddangos ei bod yno, ond yno y mae, o dan y sedd olaf ar y dde wrth fynd i mewn i'r capel. Mae adeiladwaith y ffynnon yn dyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif. Yn y gorffennol roedd yn diwallu anghenion trigolion Caer. Bellach mae ar safle sy'n diwallu anghenion ysbrydol yn ogystal.

 

 

Ffynnon Capel St.John's Street, Caer.

 

Nid peth anarferol yw cael ffynnon oddi mewn i gapel. Wrth addasu hen gapel yn Llangïan, Llŷn i fod yn gartref, daeth y Prifardd Elwyn Roberts ar draws ffynnon. Adeiladwyd Capel Als, Llanelli ar safle Ffynnon Als, a dyna sut y cafodd ei enw. Mae Ffynnon Drillo oddi mewn i eglwys fechan Trillo Sant ar lan y môr yn Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn. Ar un adeg roedd adeilad yr eglwys yn ddigon eang i gynnwys Ffynnon Fair, yn Wigfair, ger Llanelwy. Ym mhlwyf Llanddarog, sir Gaerfyrddin roedd ffynnon  oddi mewn i gapel anwes bychan o'r enw Capel Begewdin. Felly hefyd ym mhlwyf Llanarthne yn yr un sir. Yno roedd ffynnon gref yn codi oddi mewn i adeilad a adnabyddid fel Capel Herbach. Mae'n siŵr fod ffynhonnau a fu gynt oddi fewn i adeilad capel anwes neu eglwys bellach y tu allan i'r adeilad o ganlyniad i adnewyddu'r adeilad. Tybed a wyddoch chi am enghreifftiau eraill o ffynhonnau oddi mewn i gapel neu eglwys, neu dŷ annedd hyd yn oed?

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up