COFIO CYFRANIAD KEN
gan Eirlys Gruffydd .
Yn blygeiniol ar fore Dydd Calan collodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ei Thrysorydd ym marwolaeth sydyn Ken Lloyd Gruffydd. Roedd Ken yn ofalus iawn o eiddo’r Gymdeithas ac yn sicrhau fod popeth yn ei le hyd eithaf ei allu. Os nad oedd y llyfrau mewn trefn byddai mewn hwyl ddrwg! Diolch i’r cyfaill annwyl, Dennis Roberts, y Felinheli, sy wedi bod yn archwiliwr mygedol y Gymdeithas ers blynyddoedd ac sy’n gyfrifol am y wefan, byddai popeth yn gweithio allan i’r geiniog.
Ganwyd Ken ym Mhorthmadog ac wedi cael addysg yn ysgolion y dref dechreuodd brentisiaeth gyda chwmni penseiri lleol. Yma y datblygodd ei ddoniau o gofnodi adeiladau ar bapur. Roedd yn artist gwych yn enwedig gyda phen ag inc. Dyna pam fod nifer helaeth o ffurfiau ein ffynhonnau sanctaidd ar gof a chadw. Roedd astudio’r ffynhonnau yn cyfuno ei ddiddordeb o mewn pensaemiaeth a’m diddordeb innau mewn llên gwerin. Byddai’n cymryd amser maith i fesur ac i wneud darluniau bras o’r cerrig yn y ffynnon. Yna, ar ôl dod adre, byddai’n treulio amser maith yn creu’r darlun gorffenedig. Gellir gweld ffrwyth ei lafur mawr yn y ddwy gyfrol ar Ffynhonnau Cymru yng nghyfres Llyfrau Llafar Gwlad. .
Byddai’n dylunio pob carreg yn ofalus a hyn yn nodweddiadol o’i bwyslais ar fanylder a chywirdeb ym mhob peth a wnâi. Gallai weld ffynnon o safbwynt hollol wahanol i bawb arall. Erbyn hyn mae’r darluniau yma yn gofnodion hanesyddol o bwys. Wrth adnewyddu ffynnon gall y ffurf gael ei newid a’i golli, ond diolch i ddarluniau Ken, maent o hyd ar gof a chadw. Y flwyddyn nesaf bydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn cyrraedd yr ugain oed ac mae ei llwyddiant i’w phriodoli i waith cyson a gofalus Ken a’i ddawn arbennig i ddylunio’r ffynhonnau. Diolch amdano.
COFIO KEN LLOYD GRUFFYDD
Un hwyliog rannai’i olud – i’w ardal
ffrind ar fordaith bywyd,
deheuig ddyluniwr diwyd
yn falch o fapio ei fyd.
Ffynhonnell ein cymhelliant – a’i ynni
yn annog ein prifiant,
ei eiriau yn llifeiriant
a’i blwy yn hafan i’w blant.
Nia Wyn Jones
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 37 Nadolig 2014
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff