Home Up

BRYNCROES

 

FFYNNON FAIR

(SH 227315)

FFILMIO’R FFYNHONNAU

 Eirlys Gruffydd

Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau wrth weld bod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.  

Y ffynnon olaf y buom yn yweld a hi y diwrnod arbennig hwn oedd Ffynnon Fair, Bryncroes. (SH 227315). Mae hon eto yn un o ffynhonnau’r pererinion ac mae yng nghanol y pentref. Mae’n amlwg fod trigolion Bryncroes yn gwybod fod ganddynt drysor oherwydd mae’r ffynnon ei hun a’r tir o’i hamgylch yn cael ei gadw’n dwt. Roedd y dwr yn bur a gloyw ac yn eich gwahodd i yfed ohono. Diwedd arbennig i ddiwrnod bendigedig.  

 Ffynnon Fair, Bryncroes.

 LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up