BLAENAU FFESTINIOG
FFYNNON FIHANGEL
YN Y RHIFYN NESAF .....
fydd allan erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol - gobeithio'r ymgyrch i achub
Ffynnon Beuno, Y Bala, a Ffynnon Fihangel,
Blaenau Ffestiniog
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 1 Nadolig 1996
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc
FFYNNON FIHANGEL - Y FFYNNON
Emrys Evans.
Y ffynon a arferid yn Ffestiniog oedd Ffynnon St. Michael , a adweinir eto fel 'Y ffynon.'
Yr oedd olion adeiladau crynion heb fod nepell oddi wrth y ffynnon hon hyd yn ddiweddar, oddeutu Llwyn Crai, y rhai a allent fod o'r cyfnod hwn (sef cyfnod cynnar yr ardal); os felly, buasai'r ffynnon hon mewn lle cyfleus ac agos atynt, yr hyn a allasai fod yn rheswm am eu dewisiad. Priodolid rhinwedd iachaol i ddyfroedd y ffynnon hon ... , a hyd ddechrau'r ganrif bresennol arferai llaweroedd ymgasglu i'r fan gan ddisgwyl cael eu gwella o'r crydcymalau, y gymalwst, a llawer o anhwylderau eraill.
Dyna’r hyn sydd gan Griffith John William i'w ddweud am Ffynnon Mihangel yn ei lyfr Hanes Plwyf Ffestiniog o'r Cyfnod Boreuaf a gyhoeddwyd yn 1882.
Y cyfeiriad cynharaf at y ffynnon y gwn i amdano yw un sydd ar fap a gaiff ei ddyddio yn ôl i'r flwyddyn 1795. Ar hwnnw fe gyfeirir ati fel 'Ffynnonfihangel'. Ar fapiau diweddarach,'Y Ffynnon' yn unig sydd ar ei chyfer. Ar dir preifat y mae 'Y Ffynnon', y tu isaf i'r ffordd fawr bresennol rhwng Llan Ffestiniog a Blaenau Ffestiniog, oddeutu hanner ffordd rhwng y ddau le, ac mae ei dŵr yn llifo i afon fechan sy'n tarddu yn Llyn y Manod ac yn mynd heibio iddi.
Ar hyn o bryd does dim i'w weld yno ond cerrig blith- draphlith, sef gweddillion bwthyn bychan. Ffynnonddwr oedd enw'r bwthyn yma, a adeiladwyd ar y ffynnon. Ni welir yr enw yng nghyfrifiad 1841 nac 1851, ond yng nghofrestr claddedigaethau'r plwyf ceir fod plentyn naw mis oed o'r enw Ann Jones, Ffynnonddwr, wedi'i chladdu ar yr 17eg o Ragfyr ,1857. Yng nghyfrifiad 1861 roedd William Jones a'i fam yn byw yno; ac yn 1881, Owen Roberts, ei wraig a'u dwy ferch a drigai yno. Nid oes cofnod ar gyfer 1891 ac fe ymddengys fod y lle wedi mynd â'i ben iddo.
Gof oedd Owen Roberts, brawd y Dr Robert Roberts, neu Isallt fel y'i gelwid gan amlaf. Ac yntau'n un o 'Ddoctoriaid Congl y Wal' fel yr oeddynt yn cael eu galw, gwyddai o'n dda am yr ardal. Byddai'n barddoni cryn dipyn hefyd, ac mae ganddo gerdd ddisgrifiadol 'Congl y Wal a Theigl' sydd nid yn unig yn ddiddorol ynddi'i hun ond fe ychwanegodd Isallt nodiadau ati yn egluro ambell enw a chyfeiriad yn y gerdd. Yn 1910 y'i cyhoeddwyd hi. I bwrpas hyn o nodyn ar 'Y Ffynnon', y pennill sydd o ddiddordeb i ni yw'r un a ganlyn:
Y Ffynnon, tŷ hysbys, a'r Ffynnon Ddŵr glodus Ddenai lu dan y parlys i'w llys i wellhau;
Yn ei dŵr yr ymdrochent, o'i rhin y cyfrannent, Hael yfent a photient rhag ffitiau.
Yna, mae Isallt (bendith arno!) yn ychwanegu'r nodyn a ganlyn ar waelod y dudalen:
Deuent o bellteroedd am wellhad rhag ffitiau a chrydcymalau a hefyd parlys, meddai rhai. Ni fu oes hir iddi - ni chynhwysai ei dŵr unrhyw sylwedd fferyllol. Mae ei holion o fewn y murddun eto o ffurf chwe ochrog, a dwy ris i fynd iddi,ond wedi ei gorchuddio a sbwriel, pridd a.y.b.
Dyma'r unig fan lle'r ydw i wedi gweld disgrifiad o'r Ffynnon, sef ' o ffurf chwe ochrog, a dwy ris i fynd iddi ... ' a chan mai brawd i Isallt oedd yn byw yn y Ffynnonddwr yn 1881, roedd o, mae'n bur debyg, yn gyfarwydd â thu mewn y bwthyn yma.
Ceir cyfeiriad at 'Y Ffynnon' yn y gyfrol Royal Commission on Ancient Monuments in Wales and Monmouth. Ymwelwyd â'r safle ar yr 21ain o Fedi 1914, a'r nodiad arni yw fel a ganlyn:
This is not so much a well as a spring of water which, rising beneath the floor of ân
old ruined house, flows copiously through an iron pipe from under the ruins. It is still resorted to by sufferers from rheumatism, fractured limbs and other maladies, but not to the same extent as in former days. For this reason it has been suggested that it might have been the old sacred well of Ffestiniog, but it is not associated with any saint and is known only as ‘Y Ffynnon’.
Nid yw'r sylw, 'not associated with any saint' ar ddiwedd y nodyn uchod yn dal dŵr, fel petai, yn wyneb yr hyn sydd ar y map a ddyddiwyd 1795, na chwaith yr hyn sydd gan Griffith John Williams i'w ddweud yn ei Hanes Plwyf Ffestiniog. Nid oes gan Francis Jones ddim byd gwahanol i'w ddweud yn ei lyfr The Holy Wells of Wales.
Mae rhai tai sydd wedi eu codi ger y ffynnon wedi cymryd eu henwau oddi wrthi - Y Ffynnon, Bron Ffynnon, Tŷ Newydd Ffynnon, ac mae tŷ a godwyd yn ddiweddar wedi'i alw'n Ffynnon Uchaf.
Yn ddiweddar, hynny yw, yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, bu'r Tad Deiniol, offeiriad yr Eglwys Uniongred Roegaidd ym Mlaenau Ffestiniog, yn ymddiddori yn y ffynnon. Mae hi wedi'i chysegru ganddo a bu'n ceisio cael nawdd gan adran o'r Gymuned Ewropeaidd er mwyn clirio'r safle a'i dacluso, ac adfer adeiladwaith y ffynnon. Yn anffodus, nid oes arian ar gael i wneud y math yma o waith, ac felly, mae'r ffynnon yn dal wedi'i chladdu dan gerrig a phridd a sbwriel. .
**************************************************************
NODYN GOLYGYDDOL: Diolch i Emrys am ei waith yn casglu gwybodaeth am y ffynnon. Mae'n wir i ddweud ei bod yn weddol ddiogel o dan y pridd ond mor braf fuasai ei hadfer a gweld y dŵr yn byrlymu ynddi eto. Diwedd y gan yw'r geiniog ac mae'n ymddangos mai diffyg cyllid yw'r anhawster mwyaf sy' n wynebu unrhyw un sy' n ceisio adfer ffynnon. Gan nad oes arian i'w gael o Ewrop, hwyrach y dylid gofyn am gymorth gan fusnesau yma yng Nghymru. Yn aml mae ganddynt ddigon i'w sbario ar gyfer noddi amrywiol weithgareddau.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 2 Haf 1997
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc
FFYNNON FIHANGEL, FFESTINIOG
(Gweler Llygad y Ffynnon Rhif 1.)
Ym Mehefin cafwyd llythyr gan Glerc Cyngor Tref Ffestiniog yn dweud eu bod yn barod i symud ymlaen i adnewyddu’r ffynnon. Anfonwyd ato gopi o’r erthygl am Ffynnon Fihangel a ymddangosodd yn y rhifyn cyntaf o Llygad y Ffynnon. Hefyd dywedwyd wrtho mai’r sawl a wyddai fwyaf am y ffynnon oedd un o aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac awdur yr erthygl, sef Mr Emrys Evans, Garth Gwyn, Manod. Ar ddiwedd mis Gorffennaf bu Emrys ac Eirlys Gruffydd yn ymweld a’r ffynnon yng nghwmni perchennog y tir, sef Mrs Beti Hughes. Roedd hi wedi cael ar ddeall mai eglwys fechan oedd yr adeilad sydd dros y ffynnon a bod y ffynnon oddi mewn iddi. Mae’r ffynnon ar lan afon a sŵn y dŵr yn fyddarol. Bydd y dŵr yn goferu hyd llwyfan o gerrig ac uwchben y gofer ei hun mae dwy garreg wen. Mae’r adeilad o gwmpas y ffynnon o gerrig mawr, nid annhebyg i adeiladwaith Ffynnon Gybi yn Eifionydd fel y gwelir uchod. Yn ystod mis Hydref cafwyd nifer o aelodau newydd ac yn eu plith Mrs Mair E. Jones, Y Drenewydd. Dywedodd hi ei bod yn arfer byw yn ardal Blaenau Ffestiniog pan oedd yn ferch ifanc. Un tro roedd wedi sigo’i ffer ac aeth ei mam i nôl dŵr o Ffynnon Fihangel i drin y goes. Roedd y driniaeth yn llwyddiannus. Da yw cael nodi fod rhinwedd yn nŵr y ffynnon o hyd.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 5 Nadolig 1998
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc
ADFER FFYNHONNAU
Ffurfiwyd
cymdeithas Cyfeillion Ffynnon Fihangel i geisio adfer Ffynnon
Fihangel ym Mlaenau Ffestiniog. Edrychwn ymlaen at
gael clywed sut mae pethau’n datblygu yno.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc
FFYNNON FIHANGEL
Bellach mae'r cynllun i adnewyddu'r ffynnon hon yn rhan o gynllun ehangach i bwysleisio pwysigrwydd treftadaeth gyfoethog yr ardal. Edrychwn ymlaen i weld beth fydd hanes y ffynnon arbennig hon yn y dyfodol.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc
Dyddiad
a man cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:
Cytunwyd yn
y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf i gynnal Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol 2017 ym Mhlas Tan-y-bwlch ar 22.7.17. Mae’r Cadeirydd wedi gofyn am
ystafell o 10:00 hyd 12:00 y bore hwnnw. Yn y prynhawn bwriedir ymweld â
ffynhonnau lleol, gan gynnwys Ffynnon Fair, Maentwrog; Ffynnon
Fihangel, Ffestiniog, ac efallai ffynhonnau eraill
yn y cyffiniau.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 42 Haf 2017
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNNON FIHANGEL
Dyddiad
a lleoliad y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.
Penderfynwyd cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf
ddydd Sadwrn 21.7.2018 yn Nhan-y-bwlch.
Cawsom ysbaid yn y “Grapes” ym Maentwrog, wedyn, ac
yna aeth pethau braidd yn flêr. Na, nid oherwydd inni fwynhau gormod ar
arlwy’r dafarn, ond oherwydd ein bod ni’n teithio mewn tri char, ac inni
rywsut lwyddo i golli ein gilydd a mynd ar ddisberod. Llwyddodd un llond car
ohonom i gyrraedd tŷ Ffynnon Fihangel yn Llanffestiniog, ond erbyn hynny roedd
y tywydd wedi dirywio’n arw, a’r glaw yn tresio i lawr arnom. Yno cawsom hyd
i ddŵr yn tarddu o ganol cerrig a llysiau’r dial, ond wedi ailedrych ar y
mapiau yn ddiweddarach, amheuaf inni fethu â chanfod y ffynnon ei hun: felly
bydd rhaid dychwelyd yno, rywbryd.
Dipyn o siom a dryswch yn y diwedd, felly: ond at ei
gilydd bu’n ddiwrnod llwyddiannus iawn, gan osod trefn ar faterion y
Gymdeithas am flwyddyn arall, llwyddo i ganfod dwy ffynnon y bu cryn ansicrwydd
ynghylch eu hunion leoliad, a mwynhau diwrnod yng nghwmni pobl frwdfrydig eraill
o gyffelyb fryd. Dyma edrych ymlaen at y tro nesaf!
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 43 Nadolig 2017