Home Up

BEREA

 

GOHEBIAETH

Ffynnon Cwmwdig  

(SM7527)

Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gareth Richards, perchennog tua phedair milltir i’r gogledd o Dyddewi yn sir Benfro. Yn y gyfrol The Holy Wells of Wales mae Francis Jones yn dweud fod capel dros y ffynnon a bod cyfeiriad mewn dogfennau o’r Oesoedd Canol at Eglwys Cwmwdig. Tan yr ail ganrif ar bymtheg roedd to bwaog dros y ffynnon. Dywedir bod dyn tua naw deg oed a oedd yn fyw yn 1715 yn cofio gweld drws yn ochr orllewinol y capel; bod gwraig dduwiol yn mynd at y ffynnon bob dydd Iau i gymryd y dŵr; a bod bwa hardd o gerrig yn cysgodi’r tarddiad.

Mae’n amlwg felly fod hon yn ffynnon sanctaidd ac mae cyfeiriad ati yng nghyfrol y Comisiwn Brenhinol ar henebion Penfro. Yn ôl Gareth, ‘Mae’r ffynnon mewn cyflwr truenus, fel y gwelwch o’r llun, ac fe hoffwn, yn y dyfodol, ei hailadeiladu. Mae gennyf ychydig wybodaeth ysgrifenedig amdani ond, y Ffynnon Non anffodus, dim hen lun o unrhyw fath sy’n dangos ei ffurf gwreiddiol.’ Yr unig gymorth ychwanegol y gallem ei gynnig i Gareth oedd anfon lluniau o ddwy ffynnon arall o sir Benfro iddo – , Tyddewi (SM751243) a Ffynnon Gapan, Llanllawer, Cwm Gwaun, (SM987360), gan fod bwa o gerrig dros y ddwy ffynnon yma.

FFYNNON CWMWDIG (SM7527)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 22 Haf 2007 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up