BEDD GELERT
PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR
BEDD GELERT- ITS FACTS, FAIRIES & FOLK-LORE
gan D.E. Jenkins 1899
Mae’r awdur yn sôn am
Ffynnon y Priordy (SH 5948) ym Meddgelert ar dudalen105.Cysegrwyd y priordy i’r Santes Fair a nepell o’r pentref roedd ffynnon wedi ei neilltuo i ddefnydd y mynachod, a thrwy ei dŵr byddent yn gwneud gwyrthiau o iachau.Wrth ddisgrifio Cwm Diffwys ar dudalen 133 mae’n disgrifio
Ffynnon Owain Glyndŵr:Nepell o’r fan lle mae dŵr yn tarddu o’r ddaear mae pwll bychan a elwir yn
Ffynnon Owain Glyndŵr. Dywedir mai dyma’r fan lle cafodd Owain ddŵr i’w yfed yn ddyddiol yn ystod y chwe mis y bu’n cuddio yn yr ardal hon.Ar dudalen 225 ceir hanes am drysor mewn ffynnon ar Ddinas Emrys.
Roedd gweision Hafod y Porth yn cywain gwair ar Ddinas Emrys un prynhawn heulog braf. Aeth un ohonynt at y ffynnon a gwthio coes ei gribyn i mewn i’w gwaelod. Wrth daro’r graig gallai glywed sŵn fel darnau o arian yn tincian. Ceisiodd gael gafael ar yr arian a dechreuodd godi cerrig o’r ffynnon. Yr eiliad honno daeth corwynt i lawr o’r tir uchel a chenlli o law i’w ddilyn. Rhedodd pawb i lawr ochr ogleddol y mynydd ond erbyn iddynt gyrraedd Maes yr Efail roedd yn haul braf ac nid oedd diferyn o law i’w weld ar y ddaear. Cymaint oedd dychryn y gweithwyr fel y gwrthododd pawb fynd yn ôl i’r cae gwair a bu rhaid i’r ffermwr droi ei anifeiliaid iddo er mwyn bwyta’r gwair.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffc