Home Up

BANGOR

 

FFYNHONNAU’R PERERINION

  Oes yna ffynhonnau eraill sy’n gysylltiedig â’r pererinion? Os oedd y pererinion yn cychwyn o Fangor siawns na fyddai angen gorffwys arnynt cyn cyrraedd Glynllifon. Gwyddom fod dwy ffynnon i Sant Deiniol ym Mangor. Os oedd y pererinion yn mynd ar hyd y Fenai tybed a fyddent wedi aros wrth Ffynnon Fair yn Llanfair is Gaer, lle mae Plas Menai heddiw? A beth am Ffynnon Helen ar y ffordd allan o Gaernarfon i gyfeiriad Bontnewydd a Ffynnon Faglan yn Llanfaglan? A oed rhywun yn gwybod am draddodiadau sy’n cysylltu’r ffynhonnau hyn â’r pererinion? (GOL.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

FFYNNON DDEINIOL

GLANADDA, BANGOR

Howard Huws

Addasiad o Fap 8/11 yng Nghasgliad Yr Eglwys yng Nghymru (Bangor)., Llyfrgell Genedlaethol Cymru.]

Nid oes dirgelwch ynghylch lleoliad cyffredinol y ffynnon sanctaidd hon, gan fod yr enw Cae Ffynnon ddeiniol yn ymddangos ar hen fapiau Arolwg Ordnans ardal Glanadda, Bangor. Mae’r tir yn disgyn on o serth o’r de tua’r gogledd i gyfeiriad yr afon Adda. Holltir y llethr gan geunant dwfn sy’n cyfeirio o’r dr i’r gogledd. Digwydd yr enw cyntaf- hyd y gwn i- mewn rhestr rhent dyddiedig 1647 

Eiddo Esgob Bangor oedd y tir hyd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pryd y dechreuwyd gwerthu clytiau i’r hwn a’r llall. Defnyddiwyd y ceunant ar gyfer cronfa ddŵr gyntaf Bangor yn 1843, eithr darfu am y fenter honno toc wedi 1845. Adeiladwyd bragdy ym mhen isaf (gogleddol) y cae yn 1867, ac erbyn y 1880’au roedd hwnnw wedi troi’n ffatri diodydd ‘ysgafn’. Yn amlwg, nid oedd yno brinder cylenwad dŵr dibynadwy.

Mae hysbyseb o’r 1880’au yn dweud yn blwmp ac yn blaen fod y dŵr ar gyfer y ffatri yn tarddu ‘from that celebrated well called Ffynnon Deiniol (sic), which has been so highly celebrated for its health restoring qualities for many centuries past.’ Dyna’r unig gyfeiriad a welais hyd yn hyn am rinweddau dŵr y ffynnon: fe all fod yn enghraifft o or-ddweud masnachol, neu gred sy’n seiliedig ar draddodiad lleol a aeth yn angof bellach. Ni pharodd y ffatri’n hir ond fe lynodd yr enw ‘Cae Ginger Beer’ ar y lle hyd heddiw.

Tua chanol y  bedwaredd ganrif ar bymtheg gwnaed map bras o’r safle. Dangosir arno ddwy ffynnon. Un (gadewch i ni ei galw’n Ffynnon A) ar y tir uwch, yn agos i ffermdy Hendrewen, mewn cae ar wahân a enwir Cae Ffynnon mewn dogfennau diweddarach. Dangosir y ffynnon arall (Ffynnon B) yng nghanol Cae ffynnon Ddeiniol, nid nepell o dyddyn bach a chwarel fechan. Erys copïau o’r map hwn yn nogfennau’r Eglwys yng Nghymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yng nghasgliad papurau’r Penrhyn yn y Brifysgol ym Mangor. Prynwyd Cae Ffynnon Ddeiniol gan Ystad y Penrhyn yn 1871 ac 1872. Ar fap y Penrhyn rhoddir ffurf betryal i Ffynnon B.

Ar fap o’r flwyddyn 1917 dangosir y chwarel â’r tyddyn yn ymyl safle Ffynnon B, a’r enw Cae Ffynon Deiniol Cottage wrth y tyddyn ond ni ddangosir unrhyw ffynhonnau ar y map hwn nac ar unrhyw fapiau diweddarach. Erbyn canol yr ugeinfed ganrif roedd safle’r hen gronfa wedi troi’n domen sbwriel gyhoeddus a lenwyd ac a gaewyd erbyn tua 1965. Deil nant o liw coch afiach i lifo o’r hen geunant llawn sbwriel, gan ffrydio i’r amlwg am ychydig lathenni ar draws rhan isaf Cae Ffynnon Ddeiniol cyn diflannu i lawr draen gyfagos. 

Yn 1995 bwriais olwg ar y caeau hyn. Cadarnhaodd perchennog Hendrewen, y bu ffynnon gerllaw’r ffermdy hyd yn gymharol ddiweddar, gyda grisiau carreg yn arwain i lawr ati. Dywedodd hefyd fod gweithredoedd y fferm yn datgan bod hawl gan drigolion tai cyfagos i gyrchu dŵr ohoni. Dangosodd y safle imi, gerllaw hen goeden, a gyfatebai’n union i safle Ffynnon A ar fapiau’r Eglwys a’r Penrhyn. Roedd ef ei hun wedi ei llenwi rhyw flwyddyn neu ddwy ynghynt, rhag i’w wartheg syrthio iddi, meddai.

Yng Nghae Ffynnon Ddeiniol islaw Hendrewen roedd gweddillion math o ffos ddŵr fechan wedi ei gwneud o lechi i bob golwg. O graffu ychydig gwelais ei bod yn llawn mwd, ond fe gynhwysai ddarnau o boteli gwydr ac o lestri, braidd yn debyg (yn fy marn i) i enghreifftiau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg neu ddechrau’r ugeinfed ganrif.

O grwydro’r cae hwn hyd at safle tybiedig Ffynnon B, gwelais fod tir lleidiog iawn a ffrwd fechan yn dod i’r amlwg ac yn ymuno a’r llifeiriant o’r hen domen ond roedd y drysni yno’n gyfryw ag i rwystro unrhyw ymchwil pellach y diwrnod hwnnw; a ph’run bynnag, roedd ar dir nad oedd gennyf hawl i’w grwydro.

Y cam nesaf oedd canfod pwy oedd biau’r tir hwnnw. Ymhen hir a hwyr canfûm ei fod yn eiddo i berchnogion tŷ newydd cyfagos o’r enw Bryn Llywelyn, ond sydd yn amlwg ar safle’r hen Ffynnon Ddeiniol Cottage. Diolch i’r drefn, roedd gan y perchennog, Mr Peris Hughes, ddiddordeb mawr yn hanes y ffynnon ac fe roddodd ganiatâd i mi chwilio’r fan.

Dringais i lawr llethr ber, serth ac ansefydlog o gerrig, sbwriel, llaid a thyfiant at safle tybiedig Ffynnon B. Nid oedd dwywaith nad oedd dŵr yn tarddu yno ond gwaith mawr fyddai i neb geisio clirio’r safle er mwyn cael gwell golwg. Tybiais mai dyna ddiwedd y peth; enghraifft arall, efallai, o ffynnon wedi’i cholli drwy esgeulustod a difaterwch.

Ar ddechrau 2000 cysylltodd gŵr Bryn Llywelyn â mi i ddweud ei fod am weddnewid y safle drwy logi jac codi baw a thwtio’r lle. A fyddai gennyf ddiddordeb mewn ysgwyddo rhan o’r draul pe gellid defnyddio’r peiriant i glirio safle tybiedig Ffynnon B a chaniatau imi gael golwg iawn ar y lle? ‘Doedd angen iddo ofyn ddwywaith.

I dorri stori hir yn fyr, ym mis Mai 2000 roedd Mr Hughes a minnau yn y glaw ar y llethr yn gwylio gyrrwr y jac yn crafu ymaith lwyni, pridd a thunelli o rwbel adeiladu - cerrig, llechi a malurion cyffelyb. Yn amlwg, roedd y chwarel fechan gerllaw Ffynnon Deiniol Cottage hithau wedi ei defnyddio fel tomen sbwriel ar un adeg, a honno wedi ymledu - rhywbryd rhwng 1880 ac 1917 mae'n debyg - nes llwyr orchuddio Ffynnon B.

Wedi peth amser, roeddwn wedi creu pant sylweddol yn ochr y rwbel, un ochr iddo yn gydwastad â'r cae, a'r ochr arall yn glogwyn deuddeg troedfedd o bridd, cerrig, llechi a brics. Yng ngwaelod y pant roedd pwll o ddŵr lleidiog a hwnnw'n llifo tua'r cae. Ychydig dyrchu eto gyda dwylo a blaenau esgidiau, a dyma rhyddhau cynnwys y pwll, a datgelu ffynhonnell y dŵr: peipen blwm rhyw fodfedd a hanner o led a'i phen wedi ei wasgu a'i dorri'n fler. Roedd y dŵr a ddeuai ohoni yn ymddangos yn berffaith groyw ond er siom imi, doedd dim golwg o unrhyw waith cerrig, petryal neu fel arall, o gwmpas y tarddle.

Gyda thameidiau o rwbel a phridd eisoes yn dechrau llithro tuag atom i lawr wyneb y pant, rhaid oedd gweithredu'n gyflym nid oeddem un am aros yn hir dan gysgod y clogwyn ansefydlog hwnnw. Ar frys, cawsom hyd i weiren hyblyg rhyw ddeuddeg i bymtheg troedfedd o hyd ac fe wthiwyd honno heb unrhyw drafferth i mewn i'r bibell blwm.

Cafwyd hyd i hen beipen blastig lydan, fawr ac fe osodwyd honno i orwedd gydag un pen iddi'n cynnwys y beipen blwm a'r llall yn cyfeirio tua'r cae. Cawsom hyd i botel lefrith hanner galwyn ac wedi ei golchi'n drwyadl â dŵr o'r beipen blwm, dyma'i llenwi â'r dŵr hwnnw rhag ofn y gellid ei brofi mewn labordy.

Wedi inni ddringo i le diogel, caeodd gyrrwr y jac codi baw y pant a rwbel. Roeddwn yn eithaf argyhoeddedig ein bod wedi ailagor Ffynnon B a'i galluogi i lifo unwaith eto. Canfûm y byddai'r awdurdod iechyd yr amgylchedd lleol yn medru profi'r dŵr - am dâl o £60 - ac y byddai angen ei brofi sawl gwaith dros gyfnod o amser cyn y gellid dyfarnu a oedd y dŵr yn ddiogel i'w yfed ai peidio. O amcangyfrif y traul, pylodd fy awydd braidd ac fe benderfynais mai'r cam nesaf fyddai imi chwilio ymhellach am dystiolaeth bendant ynghylch union leoliad Ffynnon Ddeiniol cyn imi wario allan o hydion.

Da o beth oedd hynny, oherwydd ychydig wythnosau wedyn cyfarfûm a hanesydd lleol gwybodus, David Price. Soniais wrtho am yr hyn a ddigwyddodd yn y cae y prynhawn hwnnw a chyn imi fanylu dim dyma fo'n dweud,

   "Peipen blwm? Tua dwy fodfedd o led?"

   "Ia! Sut y gwyddoch…?"

   "Honna oedd peipen cyflenwad dŵr cyhoeddus cyntaf Bangor, o'r gronfa i'r dref."

Roedd y tri ohonom a fu wrthi am oriau yn y glaw a'r rwbel wedi datguddio tamaid diddorol o hanes y ddinas, ond nid peipen ddŵr o unrhyw ffynnon sanctaidd - dyma fi wedi cael ail. Euthum yn ôl at y map hynaf a gweld fod y lluniwr wedi cynnwys graddfa fesur ar y gwaelod. Dychwelais at y safle gan wneud yr hyn y dylswn fod wedi ei wneud cyn dechrau'r miri; derbyn bod y raddfa yn un gywir er mor aflunaidd y map, a defnyddio tâp mesur er mwyn nodi union safle Ffynnon B mewn perthynas â hen wal gerrig. Ac yn wir, roedd y fan lle buom ni'n gweithio fymryn yn rhy bell i'r de, o rhyw ddwylath neu dair. Roedd y  man cywir ychydig y tu ôl i'r lle safai'r jac codi baw.

Dydw i ddim am ddigalonni. Mi a'i ati i chwilota cofnodion am unrhyw wybodaeth bellach ac os gwelaf dystiolaeth mai Ffynnon B yw Ffynnon Ddeiniol, fe fyddaf yn fodlon. Mi wn i rwan lle y mae hi, a serch ei bod wedi ei chladdu o dan ysbwriel y blynyddoedd, rwy'n gwybod hefyd bod modd symud hwnnw ymaith, ond i rywun fod yn ddigon penderfynol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON SANCTAIDD YCHWANEGOL YM MANGOR?

  Howard Huws

Ymysg cofnodion plwyf Bangor yn arolwg yr Inventory of Ancient Monuments (Sir Gaernarfon, Cyfrol ii, tud.12), ceir a ganlyn:

  The early monastery probably consisted of a scatter of small buildings, showing no regular arrangement; the foundations of which survive on the slope below the University College may be one of these... The Cathedral, and the old parish church, probably occupy part of the early monastery. So also may the holy well, now a marshy hollow at the foot of the college grounds; in modern times, however, it has been known as St. John’s Well.

Felly y tybiwyd pan gyhoeddwyd y Rhestr Henebion ym 1958. Y farn heddiw yw y saif y Gadeirlan bresennol yn y man lle sefydlodd Deiniol Sant ei fynachlog yng nghanol y chweched ganrif, a bod ffiniau’r gymuned gyntaf honno eto i’w gweld ym mhatrwm strydoedd canol y ddinas. At hynny, ceid is-sefydliadau yn y cyffiniau, gan gynnwys eglwys Llanfair Garth Branan (yr old parish church uchod) ar lethrau gogledd-orllewinol y dyffryn, o fewn Parc y Coleg.

Amlinellir hanes cynnar y fynachlog yn erthygl Enid Pierce Roberts, ‘The Tradition of Saint Deiniol’ yn y llyfr Bangor: from a Cell to a City (Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Bangor, 1994). Ar un o fapiau’r erthygl, ceir ‘St. Deiniol’s Well’ ychydig y tu allan i ben gogleddol ffin y fynachlog, fwy neu lai lle safai canolfan siopa ‘Cae Ffynnon’ hyd yn ddiweddar iawn. Hyd yn hyn, ni lwyddais i ganfod y dystiolaeth y seiliwyd y map hwn arni. Gwir y bu yno dŷ a elwid ‘Wellfield House’, a cheir ‘Stryd y Ffynnon’ y tu cefn i’r ganolfan siopa: ond ar y mapiau cynnar o’r ardal a welais hyd yn hyn, ‘Cae Knowl(e)s’ yw’r enw ar y tir hwnnw, nid ‘Cae Ffynnon’. Gwyddys fod Ffynnon Ddeiniol ym Mangor, ond yr oedd honno tua milltir i’r gorllewin o’r canol, yng Nghae Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda. Yn ôl archif Melville Richards digwydd yr enw ‘Ffynnon Ddeiniol’ ym Mhentir hefyd, eto o fewn hen blwyf Bangor ar un adeg, ond ymhellach fyth o ganol y ddinas.

Y mae daeareg Parc y Coleg yn gyfryw ag i ganiatáu tarddelli, ond ni sylwais erioed ar un wrth droed allt y parc, ac ni chlywais erioed am unrhyw ‘St John’s Well’ na ‘Ffynnon Ioan’ yno. Wn i ddim ychwaith pa dystiolaeth fu gan lunwyr y Rhestr Henebion i’r perwyl hwnnw, ond gyda’u trylwyrdeb arferol bu iddynt gynnwys Cyfeirnod Arolwg Ordnans ar gyfer y ffynnon, sef SH57157188, gan nodi’r lleoliad ar fraslun. Euthum i chwilio’r fan cyn gynted ag y medrwn, ac er gwaethaf y coed a’r llwyni, credaf imi ganfod y llecyn yn union gyferbyn â chongl ogleddol adeilad Swyddfa’r Post ar Ffordd Deiniol. Nid oes i’w weld ar hyn o bryd ond twll crwn ymysg prysgwyddau godre’r llethr, tua dwy droedfedd ar draws, yn llawn dail pydredig, gwlybion hydrefoedd lawer; gwlybion, hynny yw, pan oedd y ddaear ogylch yn sych grimp ddechrau Chwefror eleni.

Os yw’n ffynnon sanctaidd, byddai’n ailddarganfyddiad diddorol. Ond rhaid gofalu peidio â mentro gormod ar rhy ychydig o dystiolaeth, felly bwriadaf ymchwilio rhagor i’r pwnc cyn awgrymu dim. Gwnaed ymchwil helaeth i enwau lleoedd ardal Bangor gan Mrs Garmon Jones a Glyn Roberts tua hanner canrif yn ôl, ac y mae eu cofnodion ar gael yn archifdy’r Brifysgol. Yno hefyd ceir dogfennau Ystâd Penrallt (yr adeiladwyd y Coleg arni), a’r eiddo’r Coleg ei hun. Os caf hwyl ar y chwilio, rhoddaf wybod i chi. Yn y cyfamser, fe allai darllen cynnwys yr Inventory of Ancient Monuments ddwyn tystiolaeth ynghylch ffynhonnau anghofiedig eraill i’r amlwg. Cyhoeddwyd o leiaf un gyfrol ar gyfer holl siroedd Cymru, a dylent fod ar gael ym mhrif lyfrgelloedd cyhoeddus ein gwlad.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Crybwyllir Ffynnon Ddeiniol mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Ers yr unfed ganrif ar bymtheg, collwyd rhagor o ffynhonnau trwy esgeulustod a diystyrwch nag a ddilëwyd gan ddelwddryllwyr. O golli eu harwyddocâd ysbrydol, gadawyd iddynt lenwi â llaid, sychwyd neu llanwyd hwy am ryw reswm neu’i gilydd, dinistriwyd hwy yn enw rhyw welliant honedig, neu fe'u hanghofiwyd hwy. Peidiodd Ffynnon Chad yn Hanmer â llifo wedi gwaith draenio lleol; mae Ffynnon Ddeiniol ym Mangor o dan domen rwbel; adeiladwyd pont am ben Ffynnon Gybi yng Nghlorach, ac nid yw Ffynnon Redifael ym Mhenmynydd ond yn bant budr. Mae’r rhestr yn rhy faith o lawer, ac yn sicr bu i ddylanwad Calfiniaeth greu awyrgylch lle gellid goddef, onid cyfiawnhau’r fath halogi: ond hyd yn oed wedi cilio o’r athrawiaeth honno, mae anwybodaeth a difaterwch yn parhau i fygwth gweddillion ein hetifeddiaeth sanctaidd. Rhaid bod ar wyliadwriaeth barhaus rhag y cynllun lledu ffordd nesaf, neu’r newydd-ddyfodiad a benderfyno mai da fyddai claddu’r hen darddell yn ei ardd â choncrit, er mwyn hwyluso parcio’i gar.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

MANION  DIFYR AM FFYNHONNAU

gan Howard Huws

BANGOR, Gwynedd (SH5872)

Yn rhifyn Nadolig 2006  Llygad y Ffynnon bu imi grybwyll bod yn Archif Melville Richards gofnodi “Ffynnon Ddeiniol” ym Mhentir, ym mhen pellaf hen Faenol Bangor.  Daeth yr wybodaeth hon, yn ôl yr Archif, o LTA, sef Land Tax Assessments 1707. Tybio’r oeddwn y gallai’r ffynnon hon, yr honnid ei bod ym Mhentir, fod yn ychwanegol at y Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda, filltir i’r gorllewin o ganol Bangor.

Wedi bwrw golwg ar gofnodion y dreth, gwelaf fod yr asesiadau’n cynnwys trefgordd Pentir, Caerwedog a Thyllfaen yn un dosbarth. Ceir yno’n gyson gofnodion fel “The Right Revd. The Lord Bishop for Cae ffynnon daniel £0:2:9”1 Mae Pentir gryn ffordd o Fangor, ond daw Tyllfaen â ni llawer iawn agosach i gyffiniau gorllewinol y ddinas: felly mae’n amlwg mai Cae Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda sydd yma, nid Ffynnon Ddeiniol ychwanegol ym Mhentir ei hun.

Yn yr un rhifyn o Llygad y Ffynnon mae J. E. Williams o Lanrug yn dal mai ym Mhant Tan Dinas, yn ymyl Dinas Dinorwig, mae “Ffynnon Ddeiniol”. Mae’r hanesydd lleol, Dafydd Whiteside Thomas, fodd bynnag, yn dweud mai un o ddwy “Ffynnon Ddeiniolen” bosibl yw’r ffynnon “yn y pant islaw Dinas Dinorwig”.2

Dychwelwn i ddinas Bangor. Yn yr erthygl yn rhifyn Nadolig 2006, darfu imi grybwyll cyfeiriad at “St. John’s Well” yn Inventory of Ancient Monuments 1958. Mae erthygl ddiweddarach yn Nhrafodion  Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yn datgan nad yw’r “ffynnon sanctaidd” honno namyn sỳmp ar gyfer draenio tir Parc y Coleg.3 Erys traddodiad llafar, fodd bynnag, am “Ffynnon Ddeiniol” arall eto ar waelod Allt Glanrafon, tua chanllath i’r gorllewin o “St. John’s Well, a’i bod wedi’i chladdu pan godwyd adeilad Undeb y Myfyrwyr ddechrau’r 1970au. Canolfan Pontio sydd yno rŵan.

Wrth ddisgrifio gweddillion plas Esgobion Bangor ym 1801, mae Thomas Evans yn dweud:

          “In the garden of this palace is a mineral spring of common chalybeate

            and at Aber-ceggen, about  half a mile from the former, is another.” 4

Yr oedd gerddi’r plas yn ymestyn i fyny at odre Allt Glanrafon a Pharc y Coleg, felly tybed ai’r ffynnon ddurllyd (chalybeate) a grybwyllir gan Evans yw’r “Ffynnon Ddeiniol” y mae cof amdani ar waelod yr allt? Mae’r ymchwil yn parhau, i honno ac i’r un yn Abercegin (Porth Penrhyn) hefyd.

TROED NODIADAU

1 Dogfen Archifdy Gwynedd, Caernarfon X/QA/LT 6/3

2 Thomas, Dafydd Whiteside. Chwedlau a Choelion Godre’r Wyddfa. Caernarfon: Gwasg Gwynedd 1988 t.45.

3 White, R.B. Rescue Excavation on the New Theatre Site, University College Park, Bangor.

Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 33 (1971). tt. 246-247.

4  Evans, T, Cambrian Itinery: or Welsh Tourist.

London: C. Whittingham, 1801, Cyf.ll, t. 284  

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 38 Haf 2015

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccff

 

  Home Up