Home Up

Y BALA

FFYNNON BEUNO

SH 923 358 

 

ADFER FFYNNON BEUNO, Y BALA.

Jane Hughes.

 

Lleolwyd Ffynnon Beuno mewn cae o'r enw Mawnog Fach sydd i'r gorllewin o dref y Bala, i gyfeiriad Llyn Tegid ar ffordd Dolgellau, ym mhlwyf Llanycil. Cysegrwyd y ffynnon i Sant Beuno yn yr un modd ag eglwys plwyf Llanycil. Nid yw'r ffynnon yn heneb gofrestredig gan CADW ond serch hynny, cyfeirir ati yn yr Inventory of Ancient Monuments of Wales and Monmouth a gyhoeddwyd yn 1913 fel hyn:

Ffynnon Beuno: In a field called Cae Mwnog Bach, a few hundred yards south west of the town of Bala, rising in a sunken rectangular enclosure of stone, 12 feet by 9 with six steps at one corner. The hilly district to the south west is called Bronydd Beuno.

Mae Edward Lhuyd yn sôn amdani yn ei Parochialia ii, 68:

In Llanycil parish about 100 yards SW of Bala: Ffynnon Veino yn ymil yr eglwys.

Ceir cyfeiriad ati hefyd yn llyfr Francis Jones, The Holy Wells of Wales (tud, 189).

Honnid fod y ffynnon hon â rhinweddau i wella dyn ac anifail. Dywedir y deuai pobl i ymolchi yn nŵr y ffynnon i'w gwaredu o grydcymalau, llygaid llosg a golwg gwan. Yn ogystal â hyn roedd y dŵr yn iachusol i'w yfed at ddiffyg ar yr iau, yr ymysgaroedd a'r arennau. Mor iachusol oedd y dŵr fel y bu i R.J.Lloyd Price, Rhiwlas, Y Bala (1842 -1923) fentro marchnata'r dŵr dan yr enw St. Beuno Table Water neu Rhiwlas Sparkling Waters, gan hysbysebu ei fod 'mor oered â nad asyn'.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafodd Ffynnon Beuno ei hesgeuluso. Tuag ugain mlynedd yn ôl gwerthwyd y tir o amgylch safle'r ffynnon i gwmni o adeiladwyr i godi stad o dai.

Safle Ffynnon Beuno.

Dan amodau'r gweithredoedd, ni chaniateid gwerthu'r ffynnon a pharhaodd yn eiddo i Fudiad yr Efengylwyr yng Nghymru, y mudiad a werthodd y tir i'r adeiladwyr. Codwyd wal frics isel o amgylch y ffynnon i'w gwahanu oddi wrth erddi'r ddau fyngalo cyfagos. Y datblygiad nesaf oedd i berchennog presennol y byngalo gael caniatâd gan Fudiad yr Efengylwyr yng Nghymru i lenwi'r ffynnon â cherrig a phridd. Yn fwy diweddar, dymchwelwyd rhan o'r wal frics a hawliwyd y safle ganddo. Tua dwy flynedd yn ôl bu Cyngor Tref y Bala yn ceisio cymell y perchennog i ail-godi'r wal, ond ofer fu'r ymdrech.

Cysylltodd y Cyngor Tref â Cantref â Chymdeithas Treftadaeth y Bala a Phenllyn - gan ddwyn sylw'r gymdeithas at y cais a ddaeth i law yn gofyn am ganiatâd i gau Ffynnon Beuno yn barhaol. Cais diweddar ydoedd; roedd y difrod wedi'i gyflawni'n barod! Dyma ddechrau ymgyrch i adfer safle'r hen ffynnon hon. Cymerwyd camau gan y pwyllgor dros bedair blynedd rhwng 1993 a 1997. Ysgrifennwyd at Bare Cenedlaethol Eryri i ddatgan bod Cantref yn gwrthwynebu'r cais a'u bod o blaid adfer y safle.

Ym mis Hydref 1996, derbyniwyd llythyr oddi wrth swyddog o'r Pare Cenedlaethol yn mynegi ei gefnogaeth i'r bwriad o adfer Ffynnon Beuno - ond ni allai roi cymorth ariannol tuag at y gwaith. Nodwyd hefyd y byddai'n rhaid i'r pwyllgor wneud cais am ganiatâd cynllunio. Ysgrifennwyd at Fudiad yr Efengylwyr yng Nghymru, gan mai nhw oedd perchenogion y ffynnon, yn egluro'r sefyllfa a mynegwyd parodrwydd Cantref i ymgymryd â'r dasg o achub y ffynnon. Wedi cyfnod maith o lythyru, daeth gair oddi wrth Fudiad yr Efengylwyr yn mynegi eu parodrwydd i gyflwyno'r ffynnon yn rhodd i'r Cyngor Tref neu i unrhyw gymdeithas elusennol gofrestredig o fewn y dref ar yr amod na fyddent yn manteisio'n fasnachol arni. Wedi ystyried y cynnig, derbyniodd Cantref y ffynnon, gan wneud ymrwymiad â Chyngor Tref y Bala mai nhw fyddai'n cynnal a chadw’r ffynnon pan ddeuai Cantref yn berchen arni.

Bu cynrychiolaeth o'r Gymdeithas yn trafod y sefyllfa a'r bwriad i ail-agor y ffynnon â pherchennog y byngalo ym Mawnog Fach, ond ni fynnai gydymffurfio. Bellach nid yw'n ymateb i unrhyw ohebiaeth gan y Gymdeithas.

Anfonwyd at Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ofyn am nawdd ariannol at y cynllun. Gwrthodwyd y cais ond mynegwyd parodrwydd i ddanfon swyddog o'r Comisiwn i fod yn bresennol pan fyddai'r gwaith ar droed. Cawsom ein cyfeirio at CADW er mwyn sicrhau statws heneb gofrestredig i'r ffynnon ond cadarnhaodd CADW nad oedd Ffynnon Beuno yn cyrraedd y meini prawf ar gyfer ei chofrestru fel heneb ganddynt. Ceisiwyd cael nawdd ariannol gan Gymdeithas Edward Llwyd ond mynegwyd y byddai hynny hefyd yn annhebygol.

Cysylltwyd â Peter Crew, Swyddog Archeolegol y Parc Cenedlaethol i ymgymryd â gwaith agor safle'r ffynnon. Cynhaliwyd cyfarfod ar y safle a chafwyd addewid y byddai'r Parc yn arolygu'r gwaith a thalu peth o'r costau. Bydd y gwaith yn dechrau wedi i'r safle gael ei drosglwyddo i ofal Cartref.

Ym mis Ionawr eleni gwahoddwyd Eirlys Gruffydd, Ysgrifennydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, i roi darlith yng Nghanolfan y Plase - sef cartref Cantref - ar y testun 'Ffynhonnau Lleol.' Bu'r ddarlith yn fodd i dynnu sylw aelodau Cantref ac ardalwyr Penllyn at y gwaith sy'n cael ei wneud i geisio amddiffyn ac adfer Ffynnon Beuno, ac ennyn diddordeb y trigolion er mwyn cael cefnogaeth yn y dyfodol. Dal ati a wnawn bellach; rhaid peidio llaesu dwylo.

**************************************************************

NODYN GOLYGYDDOL - Diolch o galon i Jane am fod mor barod i gofnodi'r ymdrech i adfer Ffynnon Beuno. Wrth ddarllen yr hanes gallwn ddeall rhwystredigaeth cyfeillion y Bala wrth geisio sicrhau na fydd Ffynnon Beuno yn diflannu am byth. Mae achub ffynnon yn waith hir gan fod angen sicrhau cydweithrediad nifer o unigolion neu fudiadau. Yn sicr, mae profiad cyfeillion Cantref yn agoriad llygad i ni fel Cymdeithas, a'u dyfalbarhad yn esiampl. Nid ar chwarae bach y gellir adfer ffynnon unwaith y bydd wedi mynd a'i phen iddi - ond mae'n bosib - a dyna pam mae angen Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i hybu'r math yma o waith. Hyd yma, nid ydym wedi cael ein cofrestru fel elusen, ac ni allwn felly ofyn am grantiau. Mawr hyderaf y bydd hyn yn dod yn ffaith yn fuan wedi'r Cyfarfod Cyffredinol yn Eisteddfod y Bala eleni.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 2 Haf 1997

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON BEUNO

SH 923 358 

Yn yr un rhifyn o Llygad y Ffynnon cafwyd hanes am ymdrech Cantref – Cymdeithas Treftadaeth y Bala a Phenllyn – i gael perchnogaeth o’r safle. Da yw dweud iddynt lwyddo a bod safle’r ffynnon bellach wedi ei diogelu. Mawr obeithiwn fedru adrodd hanes adfer y ffynnon yn Llygad y Ffynnon yn y dyfodol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 3 Nadolig 1997

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON BEUNO

Erbyn hyn mae safle'r ffynnon wedi ei hailfeddiannu a wal ar ffurf hanner cylch wedi ei hadeiladu o gwmpas y ffynnon. Gobeithir ddechrau ar y cloddio eleni.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON BEUNO

Mae safle'r ffynnon bellach wedi ei diogelu a mur pwrpasol wedi ei godi o'i chwmpas. Nid oes unrhyw arwydd pryd y dechreuir ar y gwaith cloddio gan dim o archaeolegwyr o dan arweiniad Peter Crew. Rhaid bod yn amyneddgar wrth geisio adfer ffynhonnau!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

AILAGOR FFYNNON BEUNO, Y BALA 

Yn ystod mis Awst eleni dechreuwyd ar y gwaith o ailagor Ffynnon Beuno yn y Bala.(SH/922358) Mae hon yn hen ffynnon rinweddol ac fe'i disgrifir fel crair hanesyddol yn An Inventory of the Ancient Monuments of Meirionnydd a gyhoeddwyd yn 1921. Yn ôl y disgrifiad a roddir o'r ffynnon roedd yn ddeuddeg troedfedd wrth naw gyda llechi mawr o'i chwmpas a cherrig yn llawr iddi. Roedd chwe gris yn arwain i lawr at y dŵr. Rhinwedd arbennig y ffynnon hon oedd ei bod yn dda iawn at wella gewynnau neu esgyrn wedi eu hysigo. Byddai tywallt y dŵr dros yr aelod anafus yn siŵr o ddod â rhyddhad yn fuan iawn ac fe allai'r ffynnon fod o gymorth i wella llygaid poenus hefyd. Roedd y dŵr yn dda at ddiffyg ar yr iau, yr ymysgaroedd a'r arennau hefyd. Ffynnon werth ei chael yn wir! Ceisiodd Mr R.J.Lloyd Price, Rhiwlas, botelu'r dŵr a'i farchnata o dan yr enw 'St Beuno's Table Waters' neu ' Rhiwlas Sparkling Waters'.

Mae'r ffynnon ar safle stad o dai ar yr ochr dde i'r ffordd sy'n mynd allan o'r Bala i gyfeiriad Dolgellau. Mae angen troi i'r dde gyda'r arwydd sy'n dangos y ffordd i'r clwb golff cyn cyrraedd at y Ganolfan Hamdden. Wrth droi o'r ffordd fawr gwelir arwydd Mawnog Fach. O droi i'r dde eto a dilyn y ffordd i mewn i'r stad o dai a mynd i'w phen draw gellir gweld y ffynnon yno. Rhoddwyd cryn sylw i hanes y ffynnon arbennig hon yn Llygad y Ffynnon dros y blynyddoedd.(Gweler erthygl Jane Hughes yn Rhif 2, Haf 1997, er enghraifft.) Nodwyd fod tai wedi eu hadeiladu ar safle'r fawnog lle goferai'r ffynnon a bod un teulu wedi gofyn i'r perchennog tir am gael llanw'r ffynnon gan fod ganddo blant a'r ffynnon yn beryglus. Yn hytrach na sicrhau na allai neb syrthio i'r ffynnon aed ati i'w llanw, er ei bod yn grair hanesyddol. Yna ceisiodd perchennog y tŷ cyfagos ymgorffori'r darn tir lle roedd y ffynnon yn ei ardd. Dyma oedd y sefyllfa pan ddaeth Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i fod yn 1996. Roedd CANTREF, Cymdeithas Dreftadaeth Y Bala a Phenllyn, wedi bod yn gweithio ers 1993 i geisio adfer y ffynnon a'i diogelu. Mae hyn yn profi proses mor hir yw adfer ffynnon. Rhaid wrth amynedd a dyfalbarhad i gael y maen i'r wal.  

Mrs Jane Hughes a Dr Iwan Bryn Williams, CANTREF, yn edrych ar y ffynnon.

Bellach mae Mr Eilir Rowlands wedi dechrau ar y gwaith mawr o ailagor y ffynnon ac ailgodi'r muriau. Da gennym yw dweud fod y dŵr yn codi ynddi a gellir gweld bwrlwm yn y dŵr pan fydd hyn yn digwydd. Bu darogan na fyddai dŵr yn y ffynnon oherwydd i'r llifeiriant gael ei effeithio pan adeiladwyd y tai ar y safle ond da yw gallu cyhoeddi fod yr hylif gwyrthiol yn tarddu yno o hyd. Y cwestiwn mawr yn awr yw sut i'w diogelu i'r dyfodol. Byddai'n bechod o'r mwyaf ei chau unwaith eto ond gan ei bod yn ffynnon fawr a chryn dipyn o ddŵr ynddi rhaid sicrhau na all neb fynd iddi'n ddamweiniol. Ond hefyd rhaid ei gadael yn ddigon agored i bobl fedru ei gweld a'i gwerthfawrogi. Wrth gwrs, bydd hyn i gyd yn costio a gwaith anodd eto fydd sicrhau arian i gwblhau'r gwaith. Wedi dweud hyn gall Ffynnon Beuno, fel pob ffynnon arall , fod yn fodd i ddod ag ymwelwyr i'r ardal yn ogystal â chyfoethogi treftadaeth ei thrigolion.

Bydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn gwneud ei gorau glas i fod o gymorth i CANTREF yn yr ymgais i ddiogelu Ffynnon Beuno, Y Bala.

 LLYGAD Y FFYNNON  Rhif 13, Nadolig  2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON BEUNO, Y BALA

 

 

 

Cafodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wahoddiad i fod yn bresennol pan ddadorchuddiwyd llechen i nodi safle Ffynnon Beuno ar Fehefin y 7ed. Derbyniwyd y llythyr canlynol gan Dr. Iwan Bryn Williams, un o swyddogion CANTREF, sef Cymdeithas Treftadaeth y Bala a Phenllyn, yn egluro sut y bu’n rhaid cau’r ffynnon. Dyma oedd ganddo i’w ddweud

‘Fe welsoch y twll a agorwyd ar y llain uwchben y ffynnon ac efallai i chwi glywed sôn am rai o’n bwriadau i ddatblygu’r safle. Yn y diwedd penderfynwyd cau’r twll yn ôl a chodi muriau isel yn union uwchben y muriau gwreiddiol i ddangos beth oedd maint y ffynnon ac i gyfleu bod rhai stepiau yn un gornel i gerdded i lawr ati. Yr ydym wedi ceisio gwneud hyn yn union i’r ffigyrau a ddyfynnir yn Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Adeiladau Hanesyddol a gyhoeddwyd yn 1913. Mae canol y ffynnon yn dipyn is na’r tir y tu allan iddi. Ar y llechen dywedir mai dyma oedd safle Ffynnon Beuno. Darperir taflen wybodaeth yn nodi peth o hanes y ffynnon i’w rhoi yn y Ganolfan Ymwelwyr. Mae’r tir rhwng muriau’r “ffynnon” newydd bellach wedi ei guddio gan slabiau carreg a graean i leihau’r angen am gynnal a chadw. Gwnaed y gwaith gan Eilir Rowlamds, yr Hendre, Cefnddwysarn. Cafwyd grantiau gan Barc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Tref y Bala ac Ymddiriedolaeth D. Tecwyn Lloyd ond y grant mwyaf o ddigon oedd gan Cist Gwynedd, un o gronfeydd Cyngor Gwynedd

Yr hyn a barodd i ni roi’r ffidil yn y to ynglŷn â cheisio adfer yr hen ffynnon wreiddiol oedd, yn gyntaf fod cryn chwe troedfedd o bridd wedi ei osod uwchben y waliau gwreiddiol pan wastatawyd y safle i godi tai. Yn ail nad oedd unrhyw arwydd bod y dŵr yn symud, ac efallai nad oedd y dŵr yng ngwaelod y twll yn ddim ond yr un math o beth ag y byddem yn ei weld pe byddem wedi palu i’r un dyfnder mewn unrhyw fan ar y safle. Yn drydydd, er i ni gynnig cynlluniau i greu rhwydwaith metel chwaethus dros y twll roedd gwrthwynebiadau o safbwynt iechyd a diogelwch ynglŷn â’r adeiladwaith ac ynglŷn â’r peryg i ymwelwyr ac yn ogystal roedd yr anhawster i gael grantiau ariannol i wneud y gwaith yn codi o hyd ac o hyd. Roeddem fel Ymddiriedolwyr yn gwybod bod ein methiant i symud ymlaen ac arafwch i gael y lle yn daclus yn codi gwrychyn y cymdogion ac yn peri gofid i ninnau. Yn y diwedd penderfynwyd mai’r cynllun gorau oedd ceisio codi strwythur o furiau fyddai’n dangos mai dyma oedd y safle a’i wneud yn y fath fodd fel y gallai sefyll heb ormod o angen cynnal a chadw. Mae hi’n agos i dair blynedd ar ddeg ers i’r saga yma ddechrau ac mae’n braf gweld carreg filltir bwysig wedi ei chyrraedd. 

Gallwn ddysgu llawer oddi wrth brofiadau cyfeillion CANTREF. Mae angen amynedd, dyfalbarhad, gwaith caled a gweledigaeth wrth geisio adfer ein hen ffynhonnau. Rhaid hefyd bod yn barod i gydymffurfio â rheolau iechyd a diogelwch. Credwn eu bod wedi llwyddo mewn modd eithriadol i gadw safle’r ffynnon a’i hanes ar gof a chadw. Hebddynt ni fyddai dim o hyn wedi digwydd a’r ffynnon a’i thraddodiadau wedi mynd yn angof o fewn cenhedlaeth.

LLYGAD Y FFYNNON  Rhif 18, Haf 2005 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up