APEL DAER I'R AELODAU
gan Dennis Roberts, Meistr ein Gwefan a’n Archwilydd
Mygedol
Mae cryn drafodaeth wedi bod yn y Cyngor ynglŷn â
chostau argraffu a phostio Llygad y
Ffynnon. Mae’r costau wedi cynyddu yn sylweddol dros y blynyddoedd
diwethaf, ac erbyn hyn yn rhoi
dyfodol Llygad y Ffynnon yn y fantol. Felly erfyniwn at y rhai ohonoch a
fedr dderbyn eich copi ar ffurf ddigidol (PDF) i gysylltu â’r Golygydd ar golygydd@ffynhonnau.cymru gyda’ch cyfeiriad ebost. Neu os hoffech, yn y lle
cyntaf, gael copi o un rhifyn o’r cylchrawn i weld os ydych yn hapus gyda’r
copi digidol yna gyrrwch eich cyfeiriad ebost
i Dennis Roberts at gwefeistr@ffynhonnau.cymru Dros amser
gobeithio bydd y rhan fwyaf o’r aelodau yn derbyn Llygad y Ffynnon mewn ffurf digidol, a thrwy hynny yn arbed swm
sylweddol i’r gymdeithas i’w wario ar faterion eraill yn ymwneud â
ffynhonnau ac i ddatblygu Llygad y Ffynnon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 40 Haf 2016
cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf