Home Up

YR ALBAN

Ffynnon Ofuned Fwyaf Gogleddol Ynysoedd Prydain?

Unst yw ynys gyfannedd fwyaf gogleddol Ynysoedd Prydain, ac y mae’n gartref i tua 630 o bobl. Yno ceir tarddell o’r enw Helia Brune neu Yellabrun, sydd (yn ôl y tarddwr geiriau Jakob Jakobsen) yn cynnwys yr elfennau hen Lychlyneg “brunnr” (tarddell, ffynnon, man lle codir dŵr neu lle mae gwartheg yn yfed) a “hela-“ neu “jela-” (iachusol).1 Cyfeirnod Arolwg Ordnans y ffynnon yw HP 594046.

Ffynnon Yellabrun, Unst, Ynysoedd Shetland

Nid Jakobsen oedd y cyntaf i sylwi ar y ffynnon. Yn ei lyfr “A description of the Shetland Islands, comprising an account of their geology, scenery, antiquities, and superstitions”, mae Samuel Hibbert yn datgan:

               “Ymysg y bryniau sarff-faen y bu imi fynd i drafferth fawr wrth eu harchwilio â thrafferth fawr er mwyn canfod cromad haearn, mae nant bur sy’n enwog

  ers talwm am ei rhinweddau iachaol tybiedig. Hyd yn ddiweddar arferid cerdded at ei tharddell, a thaflu ar lecyn cyfagos tair carreg. Mae’r arfer hwn

  cyn hyned, fel y codwyd pentwr sylweddol gan yr offrymau hyn; ond gan y bu dylanwad duw’r dyfroedd ar encil ers hir amser, cydnabyddir yn llawer llai aml

  yn awr. Arferol, hefyd, wedi aberthu i’r duw, fu yfed dŵr y darddell, a sicrhâi iechyd i’r llowciwr selog. Felly cafodd y nant yr enw Yelaburn neu Hielaburn,

  sef Nant Iechyd.”2

Nid dyna’r unig draddodiad ynghylch y ffynnon, oherwydd ar lafar gwlad mae hanes y cyflawnwyd llofruddiaeth yno. Dyma a dywedodd Alan Fraser o Crosbister ym 1983:

“Mae hen ffynnon yno … Yellabrun, mae o’n un pentwr o gerrig rŵan, a’r dyb oedd yr aeth rhywun heibio, a gafodd … beth wnaeth o … neu rywbeth? A’r dyb oedd y llofruddiwyd ef yno. Ac yn ôl pob tebyg, ceisiasant brofi nad oedd yn gyfrifol am ei weithredoedd y lladdwyd ef o’u herwydd, a dywedasant mai’r prawf o hynny fyddai llif o ddŵr, dŵr ysbrydol, yn codi lle y dienyddiwyd ef, yn brawf nad ef oedd y sawl a wnaeth ef [y camwedd].

A dyna pam Yellabrun, ac yr oeddent i … a thaflent ddarn arian neu rywbeth, gofuned ffynnon, a gwnaent dair gofuned wrth iddynt fynd heibio i hon. A dyna sut y crynhoir y pentwr hwn o gerrig gan bobl yn mynd heibio ac yn taflu rhywbeth i mewn, carreg neu rywbeth, ond fel arfer taflent arian neu geiniogau i mewn i’r ffynnon. Mae Yellabrun yn ffynnon ofuned, welwch chi.”3

Cydnabyddir cymorth Eileen Brooke-Freeman, Swyddog Prosiect (Enwau Lleoedd), Shetland Amenity Trust, gyda chanfod yr wybodaeth hon.

1. Jakobsen, J. The Place-names of Shetland. London: David Nutt (A. G. Berry), 1936, t. 31.

2. Hibbert, S. A description of the Shetland Islands, comprising an account of their geology, scenery, antiquities, and superstitions. Edinburgh: Archibald Constable & Co., 1822, t. 409.

3. Casgliad Llafar Archifau Shetland SA 3/1/49, 1983.

         Christopher Naish (cyfieithwyd gan H. Huws)

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 46 Haf 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Ffynnon Gyndeyrn, Dinpelydr?

Traprain Law, Yr Alban: safle caer Dinpelydr?

Ceir Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin, a chysylltir Cyndeyrn Sant â Llanelwy, hefyd*: ond rhaid teithio i ogledd Lloegr a’r Alban er mwyn canfod ffynhonnau wedi’u cysegru yn ei enw, neu yn ei lasenw, Mungo. Ceir o leiaf tair yn Lloegr (Caldbeck, Bromfield, a Copgrove), ac o leiaf tair ar ddeg yn yr Alban, o ba rai'r enwocaf yw’r ffynnon yng Nghadeirlan Glasgow, y brif ganolfan a gysylltir â’r sant hwn. Bu hon yn seintwar ac yn fan pererindota o bwys. Ceir un ffynnon arall yn Glasgow gerllaw Capel Mungo, Gallowgate. Crybwyllwyd hon ym 1542, ac eto ym 1558 dan yr enw “Sanct Mongowis Spoutis.” Fe’i hadferwyd ym 1906, gydag arysgrif yn datgan mai yno y cyfarfu’r sant â’r Cristnogion lleol “ar ei ddychweliad o Gymru”, ac a Columba Sant hefyd.  Adeiladwyd tafarn gerllaw ym 1755, a thynnid dŵr y ffynnon i wneud coctel grymus “Glasgow Punch” (rým, sudd leim, siwgr a dŵr iasoer). Perchen y dafarn oedd Robert Tennant, sylfaenydd y teulu bragu enwog.

Tua chanol y ddeuddegfed ganrif ysgrifennwyd Buchedd Gyndeyrn ar gyfer Herbert, Esgob Glasgow. Seiliwyd y testun ar lawysgrif neu lawysgrifau hŷn, a thraddodiadau llafar. Dywed sut y penderfynwyd dienyddio mam y sant (oherwydd iddi feichiogi y tu allan i briodas) trwy ei rhoi mewn wagen a’i gwrthio oddi ar ben mynydd “Kepduf”; ond wrth i’r wagen bowlio am yn ôl o’r copa, trodd i wynebu’r ffordd arall, gan wthio un o’i llorpiau i’r ddaear, ac aros yno. “Ac ar unwaith”, medd y Fuchedd, “dechreuodd darddell fwyaf grisialaidd ffrydio, nad yw wedi peidio â llifo hyd y dydd hwn”. Agorodd y llorpiau rigolau yn y graig, hefyd, a barnai awdur y Fuchedd fod y ffynnon a’r rhigolau yn “wyrth fawr” i’r sawl a’u gwelai.

Plant yn chwarae ar ben ffynnon Mungo, Gallowgate, Glasgow, 1967.

Mae’r debyg mai “Kepduf”, neu “Dumpelder”, yw bryngaer fawr Traprain Law ger Haddington, East Lothian. Ei hen enw Brythonaidd oedd Din Pelydr, gyda “pelydr” yn dynodi ynteu pelydr gwaywffyn, neu byst pren palisâd y gaer. Ceir tarddell fechan ychydig islaw copa’r mynydd, uwchlaw’r clogwyn ar ei hochr ddeheuol; ac yno ceir ffurfiau rhigolaidd yn y creigiau, hefyd. Tybed, felly, ai dyma’r man y mynnai llafar gwlad y ddeuddegfed ganrif y ceisiwyd rhoi terfyn ar yrfa Cyndeyrn cyn iddi ddechrau?

*Barn haneswyr cyfoes yw bod y cysylltiad hwn yn annilys.

Howard Huws

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 48 Haf 2020

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up