ADOLYGIAD
gan Howard Huws
Rattue, James.
The
Living Stream: Holy Wells in Historical Context
(Woodbridge: Boydell Press, 1995) (i-vi) 183tt. £16.99 (clawr papur)
Dyma gyfrol y dylai ei neges fod ar gof unrhyw un sy'n ymddiddori mewn traddodiad: byddwn ar ein gwyliadwraeth rhag ymchwil anghyflawn, grym ein dychymyg, a'r duedd i ddethol a dehongli tystiolaeth yn un â'n rhagfarnau ein hunain.
Dadl Rattue yw bod y dystiolaeth ynghylch ffynhonnau sanctaidd wedi ei chasglu mewn modd mympwyol, annisgybledig ac anghyflawn; bod amrywiaethau enfawr yn ansawdd y dystiolaeth, pa bryd ac ymhle y'i cofnodwyd, i ba raddau, gan bwy, ac i ba ddiben. Mae anghofio hynny wedi arwain at ddamcaniaethu simsan iawn ynghylch hynafiaeth, diben a thraddodiad y ffynhonnau.
Yn rhy aml mae gan gasglwyr traddodiad ragdybiaethau personol sy'n eu harwain i ddewis ac i ddehongli tystiolaeth yn unol â darlun o orffennol delfrydol. Mae hynny, yn ei dro, yn cyfiawnhau eu hagweddau at y presennol hwn. Lle nad oes tystiolaeth gyfleus ar gael gall tybiaeth lenwi'r bylchau, neu os yw'r dystiolaeth yn anghyfleus, gellir ei hanwybyddu. Llawer gwaith y gollyngir dros gof fodolaeth ac arwyddocâd ffynhonnau nad ydynt yn sanctaidd, ac y diystyrir holl gyd-destun y traddodiadau lleol hynny nad oes a wnelo hwy, ar yr olwg gyntaf, ddim â'r ffynnon ei hun.
Oherwydd i'r dysgedigion esgeuluso'r maes, fe'i gadawyd i'r rhai sy'n defnyddio ffynhonnau sanctaidd er mwyn hyrwyddo daliadau megis Celtomania, afresymoliaeth, ffeministiaeth a rhamantiaeth. O weld hynny, mae'r rhai sy'n well ganddynt ymchwilio ar sail rheswm yn cadw draw; nid ydynt am fod yn gysylltiedig â'r tueddiadau uchod. Sefydlwyd cylch dieflig. Mae awdur y gyfrol yn dadlau o blaid dwyn astudiaeth o ffynhonnau sanctaidd eto i'r gorlan academaidd, nid er mwyn gwagio'r ffynnon o'i dŵr bywiol a'i llenwi â llwch ysgolheictod, ond er mwyn sicrhau bod astudio a chofnodi yn digwydd mewn modd trylwyr a disgybledig; fod canfod a chadw'r cyfan o'r dystiolaeth; a bod tynnu ffiniau rhwng ffaith, tybiaeth a ffantasi.
Nid yw'r gwirionedd yn bygwth Sancteiddrwydd. I'r gwrthwyneb, y mae'n briodoledd Sancteiddrwydd, a thrwy ganlyn y gwirionedd daw'r sanctaidd i'r amlwg. Gwyddom fel y gall anwybodaeth a ffug-ysbrydolrwydd orchuddio a thagu llif y dŵr. Credaf, felly, y dylid rhoi sylw i ddadleuon ac amcanion awdur y gyfrol ac rwyf yn eich annog i ddarllen ei waith.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc
ADOLYGIAD
HOLY WELLS: WALES ~ a photographic journey, gan Phil Cope
Cyhoeddwyr: Seren, (Penybont-ar-Ogwr 2008). Clawr caled. Tud.222. Pris £20
Dwi’n hynod falch i mi brynu’r llyfr hwn yn anrheg i’m gwraig oherwydd rwyf wedi cael mwynhad eithriadol yn bodio trwyddo. Mae’r awdur, y dylunydd Ian Findlay a’r cyhoeddwr i’w llongyfarch ar gynhyrchiad diddorol a lliwgar.
Fel un sy’n hoffi darllen roeddwn yn siomedig nad oedd yna wybodaeth llawnach am rai o’r ffynhonnau yr ymdrinir â hwy, ond i fod yn deg â’r awdur, nid llyfr hanes mohono a gwneir hynny yn berffaith glir yn yr is-bennawd, ‘siwrnai ffotograffig’; ac mae Phil Cope yn bencampwr gyda chamera. Yn aml iawn mae’n dangos fod ganddo lygaid artist da i adnabod gwrthrychau diddorol ac anghyffredin. Yr hyn a roddodd y pleser mwyaf i mi oedd gweld sut yr oedd wedi llwyddo’n grefftus i gyflwyno arliwiau gwyrdd i gynlluniau â brown yn liw cynradd iddynt – ac hefyd- fel yr oedd ambell dro wedi ymyrryd â’r dŵr gyda ffon a cherrig man, (mi dybiaf), i gael effaith cynnwrf ar yr wyneb.
O bryd i’w gilydd ychwanegir darn o farddoniaeth i gydfynd â llun, gan gynnwys gwaith Dafydd ap Gwilym, Lewis Morris, Gerald Manley Hopkins, R.S.Thomas, Yr Archesgob Rowan Williams, Phil Cope ei hun ac eraill.
O’r mil, cant a saithdeg naw o ffynhonnau sanctaidd a gofnodwyd gan y diweddar Francis Jones yn ei gyfrol werthfawr The Holy Wells of Wales (Caerdydd 1954), amcangyfrifa Phil Cope iddo ymweld ag oddeutu dau gant ohonynt ac ymddengys pedwardeg pedwar o’r rhai hynny yn y llyfr. Dywed y bu rhai o’i ymdrechion i ddarganfod safle arbennig yn fethiant llwyr ac fe’i cythruddwyd fwy nag unwaith pan ddeuai ar draws ffynnon wedi ei difrodi. Yr hyn a’i gwylltiodd fwyaf oedd y cawliach y bu dyn yn gyfrifiol amdano wrth geisio atgyweirio ambell ffynnon. Mae’n amlwg mai ffynhonnau wedi eu hesgeuluso yw’r rhai a welir yma sydd mewn cyflwr gwael neu fregus.
Hefyd, ar yr ochr negyddol, byddai rhywun yn meddwl fod canolbarth Cymru yn wag o ffynhonnau os defnyddir y llyfr hwn fel canllaw. Yn ychwanegol, dw i’n amau dilysrwydd llun a ddisgrifir fel ‘yr hyn sy’n weddill o Ffynnon Ddwynwen’ (t. 51). Mae’r ffynnon yn y llun yn un fawr gyda muriau o’i chwmpas a grisiau yn mynd i lawr iddi. Er nad oes amheuaeth mai safle hen ffynnon sydd yma, nid hon yw ffynnon y santes. Pan ymwelais ag Ynys Llanddwyn rhyw ddegawd yn ôl dangosodd Warden y Warchodfa Natur Ffynnon Santes y Cariadon i mi. Mae’n bwll naturiol yn y graig ychydig droedfeddi uwch llanw’r môr. Dywedodd wrthym mai Ffynnon Ddafaden oedd y llall. Eithriad yw llithriad fel hyn.
Gyda phob ffynnon mae map bach o Gymru yn dynodi ei safle ac os ydych eisiau gwybodaeth manylach er mwyn cael ymweld â hwy ceir Cyfeirnod Grid Cenedlaethol hefyd. Cyhoeddir Holy Wells Wales gan Seren, 57 Stryd Nolton, Penybont-ar Ogwr. CF31 3AE. Gellir prynu’r gyfrol drwy wenud siec i Seren Books. Mae’r gost o £20 yn cynnwys cludiant. Os am wneud ymholiadau ar y ffôn y rhif yw 01656 660318. Gallwch hefyd archebu ar y we: www.seren-books.com
Amicus
Mae Phil Cope wedi ymaelodi yng Nghymdeithas Ffynhonnau Cymru yn ddiweddar.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 55 Nadolig 2008
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc
FFYNHONNAU CERNYW
CYFROL ARALL GAN PHIL COPE
Yn 2008 cyhoeddodd Phil Cope- sy’n aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru y gyfrol fendigedig Holy Wells:Wales (220 o dudalennau) a gyhoeddwyd gan gwmni argraffu SEREN, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hon yn gyfrol fyddai’n harddu unrhyw silff lyfrau ac ynddi mae darluniau eithriadol o rhai o’n ffynhonnau amlycaf a chyfeirnod map i bob un. Pris y gyfrol yw £20. Yn wir mae’r lluniau yn syfrdanol ac mae Phil wedi llwyddo i ymweld â rhai ffynhonnau na chafodd neb arall y fraint o wneud hynny. Mae’r lluniau yn gofnod pwysig iawn o’r gorffennol y dylid eu trysori i’r dyfodol.
Bellach mae Phil wedi mynd ar daith trwy Gernyw ac mewn cyfrol Holy Wells: Cornwall (250 o dudalennau - pris £20) mae’n disgrifio lleoliad y ffynhonnau ac yn rhoi nifer o luniau o bob un. Mae’n ddiddorol cymharu adeiladwaith y ffynhonnau hyn a’r rhai sy gennym ni yma yng Nghymru. Ceir rhai sy a dim ond cerrig diaddurn o’u cwmpas ond yn fwy aml na pheidio ceir adeilad o gerrig nadd dros y tarddiad. Mae nifer o ffynhonnau wedi eu cysegru i seintiau sy’n adnabyddus i ni yma yng Nghymru megis Cybi, Dewi a Non, Cain, Cenwyn a Mihangel. Bydd ymwelwyr yn gadael clytiau, blodau neu hyd yn oed ddoliau wrth ambell ffynnon. Mae’n amlwg fod pobl Cernyw yn parchu ac yn gofalu am eu ffynhonnau sanctaidd yn llawer gwell na ni, ac yn manteisio arnynt i ddenu ymwelwyr a chodi statws y ffynhonnau. Mae ein cefndryd Gwyddelig yn Iwerddon yn gwneud yr un fath. Onid yw’n amser i ni yng Nghymru ddeffro i bwysigrwydd a chyfoeth ein treftadaeth cyn ei bod yn rhy hwyr? Mae cwmni cyhoeddi SEREN yn cynnig gostyngiad o £5 i bobl sy’n prynu’r ddwy gyfrol gyda’i gilydd. Mewn sgwrs ar y ffôn dywedodd Simon Hicks, cyfarwyddwr y cwmni wrthyf y byddai’n barod i roi nawdd ariannol i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru am bob cyfrol sy’n cael ei phrynu gan aelodau’r Gymdeithas. Peth am brynu’r ddwy gyfrol? Maent yn edrych yn hapus iawn ochr yn ochr â’i gilydd ar y silff lyfrau. Dyma gyfle i ddefnyddio’r tocynnau llyfrau a gawsoch fel anrhegion adeg y Nadolig. Os byddwch yn mynd i Gernyw yn ystod y flwyddyn bydd y gyfrol yn sicr o gyfoethogi eich ymweliad a’r rhan Geltaidd hon o Loegr.
Dyma fanylion cwmni SEREN: 57 Nolton St, Peny Bont ar-Ogwr, (Bridgend) CF31 3AE
Rhif ffôn : 01656 663018. Seren@SerenBooks.com www.SerenBooks.com
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc