ADDURNO
FFYNHONNAU
Eirlys Gruffydd
Dwy o ffynhonnau Tissington, Swydd Derby, wedi eu haddurno.
Mae rhannau o Loegr yn enwog am addurno’u ffynhonnau ac
mae sawl un wedi gofyn imi a oedd yn arferiad gwneud hyn yng Nghymru hefyd. Mae
peth tystiolaeth fod pobl yn taenu blodau a changhennau o goed, llwyni a cherrig
o gwmpas ffynhonnau yn siroedd Morgannwg, Penfro a Maesyfed pan ymwelid â hwy
ar adegau arbennig fel Dydd Calan, ar ddydd Llun y Pasg neu ar Galan Mai.
Ym mhentref Diserth, i’r de o Landrindod, roedd Ffynnon
Cewydd. Ef yw’r sant Cymreig sy’n cyfateb i Sant Swithin y Saeson – Cewydd
y Glaw. Roedd yn arferiad i addurno’r ffynnon ond daeth hynny i ben ar
ddechrau’r ganrif hon. Yn ôl Edward Lhuyd arferai gwragedd yr ardal ymweld â’r
ffynnon ar Ddydd Calan ac ar ôl codi dŵr ohoni arferid ei haddurno ag
uchelwydd. Y wraig gyntaf i godi’r dŵr fyddai’n cael crop
y ffynnawn ac roedd hyn yn ei gwneud hi’n frenhines ymhlith y gwragedd.
Caed arferiad tebyg dros y ffin yn Swydd Henffordd lle galwyd y dŵr cyntaf
yn flodyn y ffynnon.
Dechrau’r ganrif hon gwelwyd arferiad diddorol yn
Llanishen, Caerdydd. Roedd ffynnon yno ger Y Groes yn cael ei haddurno ar Noswyl
Dydd Calan gyda brigau o’r llwyn bocs ac am hanner nos byddai ras at y ffynnon
i godi dŵr a’r enillydd yn cael yr hyn a elwid yn crop y ffynnon (the crop of the well). O’r dŵr yma arferid
gwneud te.
Roedd plant yn arfer addurno Ffynnon yr Offeiriad neu Priest’s
Well ger Red Cottages, Narberth, sir Benfro ar Galan Mai, gyda changhenau
o’r gerddinen neu’r griafolen (mountain
ash) neu cayer fel y’i gelwid yn
lleol. Roeddent hefyd yn addurno’r ffynnon a briallu Mair (cowslip)
er mwyn cadw gwrachod rhag witsio’r teuluoedd a ddeuai at y ffynnon i godi dŵr
Tybed a oes rhywun yn gwybod am enghreifftiau eraill yng
Nghymru? Byddai’n ddiddorol clywed amdanynt.
Yn ddiweddar cefais afael ar lyfryn bach o’r enw The
Well-Dressing Guide gan Crichton Porteous a gyhoeddwyd yn Derby yn 1962. Roedd
yr awdur eisoes wedi cyhoeddi llyfr ar addurno ffynhonnau yn 1949 o dan y teitl
The Beauty and Mystery of Well-Dressing ac felly yn gryn awdurdod ar y pwnc. Ei
eglurhad ef o’r awydd i addurno ffynhonnau yw fod pobl wedi teimlo’r angen i
dalu gwrogaeth i hen dduwiau’r dyfroedd gan fod dŵr yn hanfodol i fywyd.
Ofn oedd yn ein hysgogi i aberthu i lynnoedd, afonydd a ffynhonnau. Gall afonydd
sy’n gorlifo greu dinistr ofnadwy, fel y gwelsom adeg y Pasg eleni. Gwyddom
fod pethau gwerthfawr o aur wedi eu taflu i lynnoedd yma yng Nghymru gan ein
cyndadau Celtaidd. Roedd y Rhufeiniaid yn parchu’r ffynhonnau ac wedi iddynt
ymadael â’r wlad ac i Gristnogaeth ddod yn rym yn y tir daeth y ffynhonnau yn
fannau sanctaidd i’r seintiau. Ffordd o ddiolch iddynt oedd addurno’r
ffynnon â choed a blodau a chynnal gwasanaethau ar lan y dyfroedd tawel.
Dechreuwyd yr arferiad o addurno ffynhonnau yn Swydd Derby ym mhentref Tissington lle mae pump o ffynhonnau ond nid oes cytundeb ynglyn â phryd yn union y dechreuwyd gwneud hyn. Cred rhai mai yn 1350, fel diolchgarwch am ddihangfa wyrthiol y pentref yn ystod y cyfnod pan oedd y Pla Du yn sgubo drwy’r wlad. Ni bu neb farw yn y pentref a phriodolid hyn i burdeb y dŵr yn y ffynhonnau. Dywed eraill mai yn 1615 y dechreuodd yr arferiad, eto mewn diolchgarwch. Yn y flwyddyn honno bu sychder mawr a fawr ddim glaw yn syrthio rhwng diwedd Mawrth a dechrau Awst, ond doedd dim prinder dŵr yn Tissington gan fod y ffynhonnau’n dal i lifo. Ar ôl hyn, meddir, dechreuwyd addurno’r ffynhonnau. Barn y mwyafrif yw fod yr arferiad wedi dechrau ar ôl y Pla Du, wedi dod i ben ac yna wedi ei ailgychwyn ar ol 1615. Ni fu’n draddodiad di-dor. Cafwyd adfywiad yn 1950 ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Gweithio ar addurn i ffynnon yn Tissington
Mae’r niferoedd sydd wedi ymweld ag ardaloedd lle mae’r
arfer o addurno ffynhonnau yn dal mewn bri wedi cael eu cyfareddu gan harddwch
yr addurniadau. Yn Swydd Derbyn, nid dim ond mater o gario brigau a blodau at y
ffynnon yw’r weithred o addurno. Golyga oriau lawer o lafur caled, trefnu
manwl a chydweithio clòs rhwng aelodau cymuned. Bydd y ffynnon yn cael ei
haddurno â darlun cywrain wedi ei wneud o flodau. Gall rhai o’r darluniau fod
cyfuwch â deuddeg troedfedd er mai chwe throedfedd yw’r maint arferol. Cyn
dechrau rhaid cael darn gwastad o bren – tray,
rhyw fodfedd o ddyfnder, gyda channoedd o hoelion wedi eu curo i maen i’r cefn
fel bod pigau yn llanw’r tray ac yn sefyll i fyny rhyw chwarter modfedd. Mae
angen yr hoelion i ddal y clai arbennig sy’n cael ei ddefnyddio i greu’r
addurn. Rhaid i’r clai fod yn gwbl lân, heb ddim cerrig na brigau ynddo. Bydd
yn cael ei weithir gan y dynion nes ei fod o ansawdd tebyg i fenyn yn barod
i’w daenu ar fara. Ambell dro rhaid gwlychu’r clai a’i weithio â dwylo ac
a thraed noeth i’w wneud yn ddigon meddal. Yr un clai sy’n cael ei
ddefnyddio o flwyddyn i flwyddyn, yn wir mewn ambell bentref honnir bod y clai
wedi cael ei ddefnyddio ers canrif a mwy gyda pheth clai newydd yn cael ei
ychwanegu ato’n achlysurol.
Wedi i’r clau gael ei wasgu i’w le dros yr hoelion,
caiff ei lyfnhau, a’i gario i sied a’i osod i orwedd ar ei gefn ar dresl.
Eisoes mae patrwm yr addurn wedi ei baratoi a’i ddylunio ar ddarnau o bapur
wal. Gosodir y papur i orwedd ar y clai ac yna torrir drwy’r llinellau ar y
papur ac i’r clai gan ddefnyddio cyllell. Wedi codi’r papurau bydd y patrwm
yn glir ar y clai. Rhaid cadw’r papurau a’u hongian yn ofalus ar fur y sied
fel bo modd cyfeirio atynt wrth fynd ymlaen â’r gwaith. Y cam nesaf yw i’r
addurnwyr osod hadau o wahanol blanhigion yn y llinellau ar y clai er mwyn
iddynt gael eu gweld yn glir. Fel arfer bydd hyn yn digwydd tua wythnos cyn
amser penodedig addurno’r ffynnon ond ni fydd hynny prin yn ddigon i lanw’r
gofod rhwng y llinellau ar y clai a phetalau blodau.
Y cam nesaf yw llanw darnau i gyfleu creigiau, muriau,
llwybrau neu ffyrdd yn y darlun gan ddefnyddio mwsog, rhisgl neu foch coed.
Erbyn hyn bydd pobl y pentref wedi bod yn casglu blodau o bob math ac ymhen dim
gwelir y sied yn llawn o flodau wedi eu dosbarthu yn ôl eu lliw. Ambell dro
defnyddir blodyn cyfan ond fel arfer petalau unigol a ddefnyddir. Gosodir pob
petal yn ei le drwy ei wasgu i’r clai efo pen bys. Rhaid dechrau gweithio o
waelod y llun i fyny fel bod pob petal yn gorgyffwrdd fel llechi ar do, ac i’r
un diben, fel bo’r glaw yn gallu llifo i lawr y darlun heb amharu gormod arno.
Anodd gwybod faint o betalau unigol a ddefnyddir ond ni fyddai dweud degau o
filoedd yn ormodedd.
Mae’r gwaith o osod y petalau yn eu lle yn gofyn am lygad
da ac amynedd di-ben-draw. Ar ôl cyfnod o weithio ar yr addurn bydd rhai pobl
yn mynd yn petal blind, hynny yw ni
all y gweithiwr farnu lleoliad a lliw y petalau yn gywir, a rhaid rhoi’r gorau
iddi am y tro. Gall y gwaith achosi poen cefn difrifol hefyd gan na ellir pwyso
na llaw na braich ar y bwrdd rhag i linellau’r llun gael eu dileu. Ni
ddefnyddir unrhyw beth artiffisial yn yr addurn ac mae gwneud wyneb dynol, er
enghraifft, yn eithriadol o anodd. Meddyliwch am wneud llygad gan ddefnyddio
carreg fechan, petalau a mwsog. Gan fod y gwaith addurno yn araf ac yn cymryd
cymaint o amser, rhaid cael tîm o bobl i gydweithio arno. Pan ddaw dydd
addurno’r ffynnon rhaid cario’r addurn yn ofalus at ymyl y dŵr. Gall
unrhyw esgeulustod ddifetha wythnos gyfan o waith. Wedi gosod yr addurn yn ei le
gellir gwerthfawrogi cywreinrwydd campwaith artistig unigryw.
Does ryfedd fod y tyrfaoedd yn tyrru i Swydd Derby o gwmpas y Sulgwyn i weld y ffynhonnau adeg eu haddurno. Byddant hefyd yn taflu arian i’r ffynhonnau i ddangos eu gwerthfawrogiad o’r gwaith artistig ac mae’r cyfraniadau yma yn cael eu rhannu rhwng elusennau lleol. Dyma enwau’r pentrefi ble addurnwyd ffynhonnau yn y gorffennol rhag ofn y bydd rhai o ddarllenwyr Llygad y Ffynnon awydd mynd i weld y ffynhonnau drostynt eu hunain: Tissington, Wirksworth, Youlgrave, Tideswell, Buxton, Stoney Middleton, Bonsall, Eyam, Barlow, Derby, Belber, Ashford-in-the-water, Wormhill, Bradwell, Cutthorpe, Marsh Lane, Eckington a Hope. Tybed a oes gobaith i ninnau yng Nghymru wneud rhywbeth i dynnu sylw at gyfoeth pensaernïol a thraddodiadau meddyginiaethol ein ffynhonnau wrth inni gamu i fileniwm arall?
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc
YMWELD Â FFYNHONNAU SWYDD DERBY
Grace a Dennis Roberts
Ym mis Awst 2010 roedd pentre’ Wormhill yn Swydd Derby wedi dewis Dewi Sant fel ei thema i addurno ffynnon. Roedd merch yno yn gwerthu cardiau a chawsom sgwrs efo hi. Roedd hi’n hoff iawn o Dyddewi a bob amser yn treulio’i gwyliau yn Sir Benfro. I ni roedd yn arbennig iawn gweld mai ein nawdd Sant ni ein hunain oedd wedi ei ddewis, er eu bod nhw ( a ninnau ar y pryd) heb fod yn agos i Gymru. Eglurodd mai hi oedd un o’r ddwy oedd wedi creu’r gwaith. Edmwnd Tudur, tad Harri Tudur yw’r marchog ar yr ochr dde. Oddi tano mae wyneb dyn gwyrdd o gerflun ar y nenfwd. Ar yr ochr chwith mae angel sydd ar yr organ yn y gadeirlan ac oddi tano mae pen llew, sy’n cynrychioli Sant Marc, o gapel y Forwyn Fair yn yr eglwys. Palas yr Esgob a welir yn y gofod ar ffurf hanner lleuad uwchben y prif ddarlun. Defnyddiwyd pethau naturiol fel dail, petalau blodau ac ati i wneud y cyfan o’r addurniadau. Mae’r gwaith yn eithriadol o gelfydd ac anodd credu sut y gall petalau wedi eu gwasgu ar fwrdd wedi ei orchuddio â chlai ddangos adeilad mor fawreddog â chadeirlan Tyddewi mewn modd mor gywrain.
Ffynnon Wormhill, Swydd Derby.
Pentre’ ag iddo hanes diddorol yw Eyam. Daeth y pla i’r lle o Lundain yn 1665 mewn parsel o ddefnyddiau a anfonwyd at y teiliwr, George Vicars. Roedd yn llawn chwain oedd wedi eu heintio can y pla. Gan fod y defnyddiau yn wlyb fe’u rhodiwyd y tu allan i sychu a lledodd y chwain y pla drwy’r pentre’ . Y teiliwr oedd y cyntaf i farw. Ar gyngor y Rheithor, William Mompesson, torrodd y pentre’ bob cysylltiad â phentrefi eraill yr ardal. Gadawyd bwyd iddynt ger ffynnon ar y tir uchel uwchlaw Eyam. Bu farw llawer o’r trigolion, yn eu plith gwraig ifanc y Rheithor. Mae’r Sul olaf yn Awst bob blwyddyn yn cael ei alw yn Plague Sunday pryd y cofir am aberth y pentrefwyr. Buom yn Eyam ddwywaith, Y tro cynta’ dyma gyrraedd cwr y pentre’ a gweld arwydd bod y ffordd ar gau oherwydd y carnifal! Mi wnaethom wastraffu dipyn o amser yn mynd rownd yn y car i edrych be welem ni, a mynd yn ôl yno wedyn, ond roedd y carnifal yma’n glamp o ddigwyddiad a’r parêd yn dal heb orffen! Dangosodd rhywun i ni le o barcio, heb fod dan draed, a chawsom weld mymryn ar y pentre’, ond aethom yn ôl yno drannoeth i weld y lle yn iawn. Roedd y tywydd wedi amharu ar rai o’r addurniadau ar y ffynhonnau. Cawsom fynd i’r amgueddfa a gweld hanes y pentre’n ei ynysu ei hun rhag i neb o’r tu allan ddal y pla.
Ffynhonnau Eyam, Swydd Derby.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc