Home Up

ABERGELE

Clec Llys Awel, o

Canfod Delwau Cŵn Mewn Tarddell?

rhan o erthygl Howard Huws

Ddiwedd 1979 canfu chwilotwr yn defnyddio synhwyrydd metelau gelc (neu gelciau) hynod ddiddorol o wrthrychau cynhanesyddol, Rhufeinig a diweddarach yn Llys Awel, Tan y Gopa, Abergele. Roedd yno 533 o ddarnau arian Rhufeinig o’r 4edd ganrif; blaen picell o Oes y Pres; breichled; broetsh o’r 9fed ganrif;

 darnau o wifrau, a delw fechan o’r duw Mercher. Yn fwy diddorol fyth, fodd bynnag, roedd yno ddwy ddelw o gŵn (tua 5cm o uchder) ar eu heistedd a’u tafodau allan, delw arall o filgi, a dau blac, y naill â llun ci arno, a’r llall â’r hyn a allai fod yn llun ci, neu efallai’n gynnig ar ysgrifennu enw.1

1 Manley, J.F. 1982: ‘Finds from Llys Awel, Abergele’, Archaeology in Clwyd 5, tt. 6–7.

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 44 Haf 2018

Home Up