Home Up

ABERDARON 

 

Ffynnon Saint

 SH12 165 267

ANNWYL OLYGYDD…

Diolch am y cylchlythyr Llygad y Ffynnon Rhif 3. Mae un eitem ynddo sydd wedi peri i mi fod eisiau dweud gair o ddiolch a chlod wrth Gyngor Cymuned Aberdaron, am wella cyflwr Ffynnon Saint (Cyfeirnod Map SH12 165 267). Mae llwybr wedi ei agor tuag ati, lle roedd tyfiant dryslyd, ac mae caead arni hefyd. Mae’r dŵr ohoni’n cael ei bibellu, ac yn gyflenwad hael i’r ardal.

Mae hon yn hen hen ffynnon, a’r eitem a’m hanogodd i ysgrifennu oedd y posibilrwydd o adfer Teithiau’r Pererinion ar hyd Penrhyn Llŷn, ac mae hon yn sicr o fod ar y llwybr yma. 

Ces fy ysgogi i wneud cais i’r Cyngor wella cyflwr y ffynnon yma ar ôl derbyn llythyr gan gyfeilles sy’n byw yn Ne Affrica, ond sydd wedi treulio cyfnodau yn Aberdaron – ac wedi yfed o ddŵr y ffynnon – ac yn holi am ei chyflwr. O ddeall ei bod mewn cyflwr go druenus, pwysodd arnaf fi i wneud rhywbeth ynglŷn â’r peth. Es innau ar ofyn y Cyngor Cymuned ac roedd yr ymateb yn dda, fel bob amser. 

Mae enwogrwydd arall i Ffynnon Saint, sef y cyfeiriad ati yn un o lyfrau Doctor Emyr Wyn Jones – Lloffa yn Llŷn. Yno mae’n adrodd hanes meddyges Bryn Canaid yn cyrchu dŵr o Ffynnon Saint i baratoi rhai meddyginiaethau. Mae’n llyfr sy’n werth ei ddarllen.

Gobeithio y bydd hyn o ddiddordeb,

Wil Wiliams, Rhoshirwaun, Pwllheli.

[Dyma sydd gan Myrddin Fardd i’w ddweud am Ffynnon Saint, Aberdaron yn Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908, tud. 187):

Y mae cyflenwad hwn mewn hen geimle ar fin y ffordd sydd yn arwain at Anelog o bentref Aberdaron, ac mewn cyflwr adfeiliedig, gan ddarfod i seiri meini, yn eu dibrisdod o honi, gario ymaith ei cheryg at wneud pont gyfagos. Ni phriodolir dim gwyrthiau iddi, ond yn unig meddyginiaeth naturiol drwy gynneddfau ei dwfr. (Gol.)]

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Sarn y Felin

SH 174 264  

ANNWYL OLYGYDD  

Diolch o galon i Wil Williams, Ardd Las, Rhoshirwaun, Pwllheli am anfon gwybodaeth a lluniau am ddwy ffynnon i LLYGAD Y FFYNNON.

Nodyn byr am ddwy ffynnon sydd gen i, heb fawr o fanylion. Mae'r gyntaf, sef Ffynnon Saint, neu Ffynnon Bron Llwyd, wedi ei chofrestru yn An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire a disgrifir hi fel ffynnon sy'n sefyll dri chan troedfedd uwchlaw'r môr, ar lethrau Mynydd y Rhiw yn Llŷn, wrth ymyl Bron Llwyd. GWELER RHIW AM WYBODAETH AM Y FFYNNON ARALL

Mae'r ail ffynnon yn ddirgelwch llwyr. Daethpwyd o hyd iddi'n ddamweiniol ym mis Mehefin 1999 wrth osod llwybr troed ar ochr y ffordd fawr, B4413, sydd yn arwain o Aberdaron i Bwllheli. Penderfynwyd gwneud llwybr gan ei bod yn beryglus cerddedar hyd y ffordd i ac o'r pentref. Mae'r ffynnon wedi ei gweithio gyda cherrig ac roedd wedi ei gorchuddio a phridd ac o'r golwg yn yr allt, a thu ôl i wal. Pan ddaeth yr ymgymerwyr o hyd iddi gwelwyd cyfle i wneud yn fawr ohoni ac mae wedi ei thacluso a'i gwneud yn focal point gyda sedd gerllaw. Mae pobl sydd dros eu pedwar ugain wedi eu holi ond does gan neb gof am fodolaeth y ffynnon hon. Mae'r Cyngor wedi derbyn yr enw Ffynnon Sarn y Felin arni. Mae plwyfolion Aberdaron yn hoff o'r enw Sarn ar eu gelltydd ac mae melin flawd i lawr yn y pentref sydd wedi cau ers 1950.

Cyflwr y ffynnon: da dros ben.            Cyfeirnod map: SH 174 264

Darganfod Ffynnon Sarn y Felin wrth ledu'r ffordd. (Mehefin 1999)

Ffynnon Sarn y Felin wedi ei hadgywiro. (Ionawr 2000)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

HEL FFYNHONNAU

Eirlys Gruffydd

FFYNNON SARN Y FELIN

Rhaid oedd gadael y tir uchel a mynd i lawr i Lanfaelrhys i weld FFYNNON NANT GADWAN. Roedd y ffynnon i'w gweld o dan yr inclên a godwyd drosti gan y gwaith manganîs o ddeutu 1902-1903. Yna drwy Aberdaron heibio i FFYNNON SARN Y FELIN a adnewyddwyd yn ddiweddar ac y cyfeiriwyd ati yn rhifyn yr haf, ac i weld FFYNNON SAINT.

LLYGAD Y FFYNNON RHIF 9 Nadolig  2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON FAIR 

SN 139 252

Cyfeiriadau at FFYNHONNAU yn y cylchgrawn CYMRU

(Casglwyd gan Ken Lloyd Gruffydd. Cadwyd at y sillafu gwreiddiol)

John Thomas, Aberdaron; CYMRU, XII (1897) tud. 118-9:

Bydd llawer yn teimlo dyddordeb neillduol yn yr hen Ffynnon Fair, yr hon sydd ar lan y môr ym mhen tir Lleyn, ryw ddwy filltir o Aberdaron. Bydd llawer yn cyrchu ati yn yr haf er mwyn cael eu “dymuniad”. Geilw y Saeson hi yn “Wishing Well.” Wedi i chwi ddod i ben y tir y mae y ffynnon i lawr yn y gwaelod, ac y mae yno agos i gant o risiau cerrig, a’r rhai hynny yn lled anwastad, cyn y dowch at ei dyfroedd. Mae croesaw i chwi yfed y faint ar a fynnwch o’r dŵr, ond cyn i chwi gael sicrwydd y cyflenwir eich dymuniad, rhaid i chwi gydymffurfio a’r amodau, sef yw hynny, llenwi eich genau yn llawn o’r dyfroedd, ac esgyn i fyny yr holl grisiau, a hynny heb golli yr un dafn; ac nid hawdd yw hynny, yn enwedig os bydd eich cyfeillion yn ymyl, yn gwneud eu gorau i beri i chwi chwerthin. Ond os methwch y tro cyntaf y mae ail gynnyg i Gymro, a thri os bydd taro, chwedl Syr Meurig. Clywais y byddai llawer o hen lanciau a hen ferched yn ymweld a hi yn aml yn yr hen amser gynt, a thipyn o orchest oedd cael ganddynt gyfaddef pa beth oedd eu dymuniad hwy; ond byddai rhai yn sibrwd fod a fynnai cariadau rywbeth a’r ymdrechion hyn.

LLYGAD Y FFYNNON RHIF 18, HAF 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up