ABERAERON
FFYNNON RINWEDDOL
Diolch
i Erwyd Howells am ein cyfeirio at yr erthygl hon, ‘Aberaeron’s Closed Well’ a ymddangosodd yn y Welsh Gazette ar yr
11eg o Dachwedd, 1901. Ffug-enw’r awdur yw Philip Sydney. Dyma fersiwn Gymraeg
o’r cynnwys:
Yn
ôl yr hanes, meddyg a ddarganfu’r ffynnon a ffuriwyd cwmni i’w datblygu fel
adnodd iachusol i’r sawl a ddeuai i yfed o’i dŵr. Adeiladwyd drosti a
deuai ymwelwyr a phobl leol i yfed ohoni ac i dalu dimau y tro er mwyn i’r
wraig a ofalai am y ffynnon gael cydnabyddiaeth ariannol am ei thrafferth.
Oherwydd anghydweld ymhlith aelodau o’r cwmni rheoli penderfynwyd peidio ag
agor y ffynnon a hynny mewn tref sy’n awyddus i ddenu ymwelwyr. Yn sicr ni
bydd cau’r ffynnon o unrhyw les i’r ardal. Siawns nad yw’n bosibl i
drigolion tref bwysig fel Aberaeron godi fel un gŵr a mynnu fod y ffynnon
yn cael ei hailagor cyn y daw tymor gwyliau eto! Mae’n siwr fod yna rwystrau
ond maent yno er mwyn iddynt gael eu gorsegyn. Os
na fedrir talu’r wraig am ofalu am y ffynnon allan o’r ddimai a geir am
lasiad o ddŵr oni byddai modd rhoi slot
machine yno – peiriant i dderbyn yr arian. Buan y byddai’n talu am ei le
a dod ag elw hefyd. Unwaith yr ymleda’r wybodaeth fod y ffynnon ar agor eto
bydd meddygon yn argymell i’r cleifion fynd yno i yfed y dyfroedd a bydd
Aberaeron yn ymhyfrydu yn yr hen ffynnon unwaith yn rhagor. Anodd credu fod
rheolwyr y ffynnon yn ei chadw ar gau mewn tref sydd, ymhen ond ychydig, yn mynd
i fwynhau holl fanteision cael rheilffordd i’w chysylltu â’r byd! Dylai
gair i gall fod yn ddigonol. Fel un sydd wedi yfed y dŵr, a dŵr llawer
o ffynhonnau enwog eraill, ni fyddai dim yn rhoi mwy o bleser i mi na rhoi
cymorth i’w hailagor.
Mae llyfr yr ymwelwyr yn adeilad y ffynnon yn werthfawr a diddorol.
Mae’r tudalennau rhydd yn frith o enwau a chyfeiriadau. Dylent gael eu gosod
wrth ei gilydd a’u rhwymo’n destlus a gofalus er mwyn cadw’r gyfrol i’r
oesoedd a ddel. Mae hanesion am bobl a gafodd wellhad drwy ddyfroedd y ffynnon
yn hynod o ddifyr. Copïais rai ohonynt ond mae’r tudalennau llaith yma yn
galw am law garedig i’w hadfer. Am ba hyd y galwant am gymorth?
Tybed
pa adwaith fu i’r erthygl? Byddai’n ddiddorol gwybod mwy o hanes Ffynnon
Aberaeron. Ar fap o’r dref, a gyhoeddwyd gan Gyngor Ceredigion yn 1995, ceir
yr enw Maes-y-Ffynnon / Chalybeate Gardens
rhwng afon Aeron a’r ffordd A482 sy’n dod i mewn i’r dref o gyfeiriad
Llanbedr-Pont-Steffan. Gellir mynd yno wrth droi i’r chwith o Stryd-y
Fro / South Road, cyn dod at y ffordd sy’n arwain at gae chwarae Sgwâr
Alban. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y ffynnon hon byddem yn falch iawn o
glywed gennych. Cyfeirnod map ffynnon Aberaeron yw SN459627.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004
cffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffcffccffccffccffccffccffccffccffccfcffccffc
PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR
Yn y gyfrol
The County Coast Series – The South Wales Coast, gan Ernest Rhys a gyhoeddwyd yn 1911, ceir cyfeiriadau am nifer o ffynhonnau ardaloedd yr arfordir yn siroedd Mynyw, Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro. Mae ei sylwadau yn rhoi darlun i ni o gyflwr y ffynhonnau hyn ganrif yn ôl.Aberaeron (SN 4562)
Wedi cyrraedd Aberaeron (SN 4562) (ymwelodd â’r ffynnon iachusol yno. Dywed fod hon yn un o’r ffynhonnau haearn (chalybeate) g orau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffynhonnau hyn yn arferol yn cynnwys swllfed o galsiwm a magnesiwm ac nid yw’r rhain yn hwyluso mynediad yr haearn i’r corff. Mae dŵr ffynnon Aberaeron ar y llaw arall, yn cynnwys ‘carbonate of the proxide of iron’wedi ei doddi mewn dŵr eithriadol o bur. Fel canlyniad mae blas y dŵr yn fwy melys ac effaith yr haearn ar y corff yn fwy llesol ac yn gweithio yng nghynt na dŵr y ffynhonnau haearn arferol.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffcffccffccffccffccffccffccffccffccfcffccffc