LLANDEILO
FFYNNON DEILO
(SN633224)
(Diolch i Rhobert ap Steffan o Langadog am dynnu ein sylw at y wybodaeth ganlynol o'r Carmarthen Journal, Awst 16 a 22 eleni)
Gorffenwyd y rhan gyntaf o'r cynllun i adnewyddu eglwys y plwyf, Llandeilo, ar gost o £56,000. Bydd yr holl waith yn costio £250,000. Mae CADW wedi rhoi 40% o'r cyllid ar gyfer y cynllun a'r gynulleidfa leol yn codi'r gweddill. Mae'r rhan o fur y fynwent, sy'n cynnwys Ffynnon Deilo, wedi ei hailadeiladu. Ar ôl glaw trwm ymddangosodd craciau yn y wal yn Stryd yr Eglwys ac roedd pryder y gallai adeiladwaith y ffynnon ei hun, sydd mewn cilfach ddofn yn y wal, ddymchwel. Mae twnel 40 troedfedd o hyd yn cysylltu Ffynnon Deilo a siambr danddaearol o dan y fynwent lle mae bedyddfaen hynafol. Roedd y siambr yn rhan o'r hen abaty ac mae'n bur debyg mai yma, yn y chweched ganrif, y bedyddiodd Teilo Sant y rhai cyntaf i dderbyn Cristnogaeth trwy ei bregethu.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFILMIO’R FFYNHONNAU
FFYNNON DEILO
LLANDEILO FAWR
Eirlys
Gruffydd
Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg
i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a
Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar
eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau
wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un
ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu
cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.
Wedi teithio drwy’r canolbarth, gan osgoi Llanfair ym Muallt oherwydd y
sioe, daethom i Landeilo Fawr yn Sir Gaerfyrddin. Ym mur y fynwent islaw’r
eglwys mae Ffynnon Deilo (SN633224) Mae rhes o dai gyferbyn a’r ffynnon ac
mae’n amlwg fod pobl yn ymddiddori
yn y lle gan fod planhigion mewn potiau yn cael eu gadael ar y cerrig ger y
ffynnon . Llifa’r dwr o agen yn y mur ac mae’n llifo i faddon islaw. Heb
amheuaeth dyma ffynnon sanctaidd Teilo Sant ac fe’i defnyddiwyd ganddo a’i
ddilynwyr nid yn unig fel dwr yfed ond i fedyddio hefyd. Byddai arwydd yn
cyfeirio’r cyhoedd at y ffynnon ac enw arni yn gymorth i ymwelwyr. Roedd
dynion yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar dy gyferbyn a’r ffynnon a
swn morthwylio a llifio heb son am ambell frawddeg uwch na’i gilydd yn
gwneud ffilmio yn anodd ar adegau.
Ffynnon Deilo, Llandeilo Fawr.
LLYGAD Y FFYNNON Rhifyn 17 Nadolig 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNHONNAU
SIR GAR gan Saundra Storche
(Traddodwyd y sgwrs yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014)
Ffynnon Deilo
LLYGAD
Y FFYNNON
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc