Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Rhifyn 53, Nadolig 2022
Heb
Ddŵr, Heb Ddim
Ffynhonnau
Caerdydd a’r Cylch
Rhan
7
Robin
Gwyndaf
Mae’r
dŵr o’r pwll yn llifo yn nant fechan i nant fwy o lawer o’r enw Nant
Fawr, a’r nant Fawr yn ei thro yn llifo i Afon Rhymni. Ceir dau lun lliw
ardderchog o’r ffynnon a’r pwll yn y coed. Un gan Phil Cope yn ei gyfrol The
Living Wells of Wales (2018)78,
ac un gan Andrew Misell mewn erthygl ddiddorol, ‘Corneli Cudd Caerdydd’, yn Barn
(2018).79 Y mae
ar gael hefyd lun du a gwyn trawiadol o’r ffynnon fel yr oedd yn 1999,
wedi’i gyhoeddi yn nghyfrol Gareth Williams, Life on the Heath.80
Y mae’r enw ‘Ffynnon Llandennis’ yn annatod glwm wrth yr enw Llanisien ac
enw Sant Nisien, neu Isien. Dyma rai ffurfiau cynnar ar enw’r plwyf a’r
Sant: Sancti nisien (1128, 1160-80); capel Sancti Dionisii de Kybour (c. 1175);
Landyneys (1317); capel St Denis in Kybour (1400); Llan Isen (c. 1538);
Llanyssen (1557); Lanisshan (1578); ll. nisen (1590); Lanissan (c.1659);
Lanishen (1833).81 Y
mae’n werth dal sylw yma ar y ddau enw: ‘capel Sancti Dionissi’ (c.1175),
a ‘capel St Denis’ (1400), a nodwyd uchod. Cofiwn hefyd fod cyfeiriad ar Fap
y Llywodraeth, 1833, at dŷ o’r enw Capel Denis (c. ST 183 806),
hen gapel Canoloesol gynt, mae’n dra thebyg, oedd unwaith yn agos at leoliad
Ffynnon Llandennis. Erbyn 1866 roedd yr enw wedi ei newid i ‘Dyffryn’.82
Y
mae nifer o’r awduron sydd wedi ysgrifennu am Ffynnon Llandennis wedi datgan
mai ffurf sathredig yw Denis ar yr enw Lladin personol, Dionysius. Yn eu plith,
y Parchg C A H Green, awdur Notes on the Churches in the Diocese of Llandaff.83 Meddai Stan Jenkins yntau yn ei gyfrol werthfawr, Llanishen:
A Historical Miscellany: ‘Inevitably, in the course of time, the name
Dionysius was misheard by the local community and was corrupted to Dennis or
Denys.’84 Fodd
bynnag, y mae Richard Morgan yn ei gyfrol safonol, Place-Names of Glamorgan
(2018) a’i gofnod cynhwysfawr ar Lanisien wedi bwrw amheuaeth ar y
ddamcaniaeth hon. Meddai:
‘Nisien
is almost certainly the same saint dedicated at Llanisien
(Llanishen), Monmouthshire.85
The
name is not a Welsh corruption of the Latin personal name Dionysius ...
Dionysius (probably
St
Denis the martyr [bu farw, c.258], patron saint of France) is simply
another example of the
substitution
of the name of a Continental saint for a lesser-known Celtic saint, a change
often
prompted
by a perceived similarity of form and through the use of Latin in ecclesiastical
and
secular
administration.’86
Yn
ei gofnod mae Richard Morgan yn ein hatgoffa mai i Sant Denis hefyd y cysegrwyd
yr eglwys bresennol sydd ym mhlwyf cyfagos Llys-faen, yn ogystal, wrth gwrs, â
chysylltiad anwahanadwy yr un sant â Ffynnon Llandennis. Un ragdybiaeth arall a
gyflwynwyd gan amryw o’r awduron sydd wedi ysgrifennu am Ffynnon Llandennis yw
fod Nisien, neu Isien, wedi bod yn ddisgybl i Sant Illtud yn Llanilltud Fawr.
Dyma, er enghraifft, sylw Gareth Williams yn ei gyfrol, Life on the Heath:
‘It
is traditionally believed that one of Illtud’s pupils set up his own little
‘cell’ within a few
hundred
yards of the old road across the Heath, near the present-day Rhyd-y-pennau.’87
Ond
unwaith eto y mae’n werth cofnodi barn Richard Morgan am y gred hon, a’i
sylw hefyd am ddwy ffurf gynnar ar yr enw ‘Llanisien’.
‘Nisien
(or ‘Isien’) is reputed to have been a disciple of St Illtud, but
this seems to be an error
derived
from a misunderstanding of the Breton Life of St Samson (of Dol), c.610, which
records
an
abbot Isanus summoned by St Illtud to his monastery ... This Isan may be the
saint of
Llanisan-yn-rhos
(identified with St Ishmael’s, Pembrokeshire) which occurs in the Book
of
Llandaf, 12th cent. as lanyssan, lann isann and similar spellings. Early
spellings of Llanisien,
Glamorgan,
show conclusively that the place-name does not include the personal name
Isan.
Later spellings, such as Lanisshan 1578 and Lanishan 1758 reflect
the local colloquial pronunciation with ‘sh’.’ 88
Nodiadau
Rhan 7
77
ST 184/806.
78
The Living Wells of Wales, t. 245.
79
Barn, rhifyn Gorffennaf – Awst, 2018, t. 36.
80
Life on the Heath, Gwasg Merton, 2001, t. 22.
81
Gw. Richard Morgan, Place-Names of Glamorgan, Welsh Academic
Press, Caerdydd, 2018, t. 126.
Hefyd Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names
of Wales, Gwasg Gomer, Llandysul,
t. 2007, t. 269.
82
Dictionary of the Place-Names of Wales, t. 269.
83
Aberdâr, 1906, Tudalen 32, 34.
84
Llanishen: A Historical Miscellany, Llanishen Local History
Society, 2014, t. 4.
85
Gw. Dictionary of the Place-Names of Wales, t. 269.
86
Place-Names of Glamorgan, t. 126.
87
Life on the Heath, t. 19.
88
Place-Names of Glamorgan, t. 126.
Cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau
Cymru
Cyfarfod Rhithiol “Zoom” Ar-lein am 10:30 o’r
gloch 16.7.2022.
COFNODION.
Yn
bresennol: Robin Gwyndaf (Llyw.), Howard Huws (Ysg.), Gwyn Edwards (Trys.),
Dennis Roberts (Arch.), Mike Farnworth, Anne E. Williams, Eirlys Gruffydd-Evans,
Elfed Gruffydd (rhan).
1.
Croeso’r Cadeirydd. Croesawyd yr
aelodau gan y Cadeirydd.
2.
Ymddiheuriadau. Eleri Gwyndaf, Dafydd
W. Thomas.
3.
Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
2021, a materion yn codi.
a).
Yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn mynd rhagddo
eleni, a bydd Mike Farnworth yn traddodi darlith cyfarfod CFfC ym Mhabell y
Cymdeithasau 2 am 15:30 o’r gloch ddydd Gwener y 5ed o Awst. Mae Mike yn
dymuno cael adborth o’r achlysur, ac os yw’n ffafriol, gall ail-recordio’r
ddarlith ar YouTube. Mae wedi traddodi’r ddarlith i Gymdeithas Cymru Penbedw
eisoes, a bu’n llwyddiannus. Canmolodd Robin Gwyndaf Mike am ei gyfraniad
a’i weithredu ardderchog. Awgrymodd y dylid rhannu dalen ar faes yr Eisteddfod
ynghylch y ddarlith, ond penderfynwyd y byddai Trydar yn well dull
cyhoeddusrwydd: yr Ysgrifennydd i wneud hynny. Gofynnodd Robin Gwyndaf a
allwnddefnyddio Gweplyfr?
Dywedodd
Gwyn Edwards ei fod wedi sefydlu tudalen Gweplyfr yn enw’r Gymdeithas
Ffynhonnau, sy’n rhoi gwybodaeth am wahanol ffynhonnau oddi ar ein gwefan ni.
Mae sawl un wedi ymuno. Awgrymodd
Robin Gwyndaf y gallai Radio Cymru fod yn barod i dderbyn sgyrsiau: Rhaglen Aled
Hughes, er enghraifft. A fyddai modd cysylltu â nhw i roi gwybod am y ddarlith,
a ffynhonnau yn ardal yr Eisteddfod? Dywedodd Mike Farnworth ei fod wedi anfon
hysbyseb atynt, ond nid galwad ffôn. Mae rhaglen radio Ifan Jones Efans am 2
o’r gloch yn derbyn hysbysebion: Mike am geisio cysylltu â nhw.
b).
Ffynnon Redyw. Mae Gwyn Edwards wedi codi’r mater efo’r Orsaf ym Mhen-y-
groes (canolfan gweithgaredd cymunedol). Y mater i’w roi o flaen y pwyllgor,
ac y mae Gwyn Edwards i’w hatgoffa. Mae’n ffynnon fawr, a byddai ei hadfer
yn gamp, ond mae amheuaeth ynghylch perchnogaeth y tir.
c).
Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer. Mae’r gwaith ffordd wedi gweddnewid y lle,
a’r dŵr yn llifo allan o ddwy bibell lle bu un. Anodd dweud pa un yw
goferiad Ffynnon Fair: yr Ysgrifennydd i fynd ynoi ymchwilio , gan y bu dŵr
y ffynnon wastad yn oer.
ch).
Ffynnon Garon, Tregaron. Cysylltwyd â Chyngor Tregaron ynghylch adfer Ffynnon
Garon erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Cafwyd ateb gan y Cyngor yn dweud
eu bod “mewn cydweithrediad â grŵp o bobl leol wedi bod yn trafod hyn
dros y misoedd diwethaf ac ar hyn obryd yn trefnu i glirio a gwneud gwelliannau
i ardal Ffynnon Garon.” Yr Ysgrifennydd i ymweld â’r safle ar adeg yr
Eisteddfod Genedlaethol.
d).
Penodi Swyddog Cyhoeddusrwydd. Cysylltwyd â Deri Tomos, ond yn anffodus, er
cymaint ei ddiddordeb, ni all wirfoddoli i ddal y swydd hon.
“Ymddiheuraf
yr ofnaf na fedraf dderbyn y gwahoddiad. Ni fyddai gennyf y syniad cyntaf sut i
fod yn Swyddog Cyhoeddusrwydd. Mae'n wir fy mod ar y cyfryngau o bryd i'w gilydd
- ond yn ymateb i ymholiadau (gobeithio am bethau y gwn ychydig amdanynt) yw
hynny pob tro.
diwylliant - ond hefyd o'r ffaith mai dŵr yw'r cemegyn (neu'r
‘elfen’) yr ydwyf wedi'i hastudio yn
bennaf trwy gydol fy ngyrfa. Rwyf wrth fy modd yn darllen y ‘Llygad’
ac yn diolch yn fawr
amdano.”
Awgrymodd
Robin Gwyndaf na ddylem anghofio am hyn. Rhaid dal i chwilio. O safbwyntdyfodol
y Gymdeithas rhaid rhoi sylw i gael rhagor o aelodau gweithgar. Cynigiodd yn
ffurfiol y dylai Elfed Gruffydd i fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith. Dennis
Roberts yn eilio. Dywedodd Elfed
ei fod yn fodlon. Dywedodd Eirlys Gruffydd-Evans fod adfer ffynnon yn gorfforol
yn ysbrydoli’r ifanc. A oes modd cysylltu efo rhywun yn y brifysgol/colegau
sy’n darlithio ar lên gwerin i gynnwys ffynhonnau? Dywedodd ei bod yn fodlon
gwneud hyn.
dd).
Mynegai. Penderfynwyd y dylai Dennis ddal ati i orffen diweddaru’r mynegai
ffynhonnau, a bod Gwyn i wneud y gweddill. Ychydig fanion sy’n weddill efo’r
ffynhonnau, ond gobeithir y bydd ar y wefan ymhen ychydig iawn. Gobeithir y bydd
Gwyn wedi gorffen y rhan arall ynfuan.
Dywedodd
Robin fod gwaith diweddar y Gymdeithas (a gwaith Dennis ac Eirlys, yn enwedig,
sef troi’r wybodaeth ysgrifenedig yn ddigidol) yn hynod bwysig. Diolchodd i
Dennis, Gwyn ac Eirlys am hyn. Diolchodd Eirlys i Dennis hefyd.
e).
Cynnal darlithoedd byw trwy gyfrwng “Cwmulus”. Llongyfarchodd Dennis Howard
ar ei ddarlithCwmwlws ynglŷn â Ffynhonnau Carpiau Cymru: dylid ei
chyhoeddi yn “Llygad y Ffynnon”.Dywedodd Robin ei fod wedi mwynhau’r
ddarlith, a holodd a fyddai modd, yn y dyfodol, i’r gynulleidfa gymryd rhan
wedi’r ddarlith ei hun. Dywedodd Mike fod perygl “Zoom bomio”, sef pobl
ddieithr yn ymyrryd â’r ddarlith, os yw’n gwbl agored. Dyna pam y cyfyngir
cwestiynau i’r adran “Chat” ar Cwmwlws.
f).
Cyfrifon Trydar a Facebook. 434 o ddilynwyr Trydar erbyn hyn, o gymharu â 217 y
llynedd.
ff).
Canfod ffynonellau ariannol. Anodd yw cael arian heb fod gan rywun brosiect a
chynllun penodol. Yn achos Ffynnon Redyw, er enghraifft, bydd Yr Orsaf i hwyluso
hynny. Gobeithir y bydd ffynonellau arian yn agor trwy hynny. Dywedodd Robin nad
oes angen arian i’r Gymdeithas ei hun onid ydym ni’n chwilio am fodd
defnyddio arian. Dywedodd fod “Llygad y Ffynnon” yn dda, ac na
ddylai prinder arian gan y Gymdeithas fod yn rheswm dros gyhoeddi
rhifynnau “Llygad y Ffynnon” llai.
Mae angen digon o arian i sicrhau bod y cylchgrawn printiedig yn ddigonol, a
dylid defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am arian.
Dywedodd
Mike fod cyfraniadau ar-lein yn bosibl gyda WordPress: penderfynwyd y dylai
drafod hyn efo Dennis.
Diolchodd
Robin i Eirlys am y rhodd hael i’r Gymdeithas er cof am Ken Gruffydd. Cynigodd
roi £300 i’r Gymdeithas er mwyn sicrhau bod rhagor o ddeunydd yn rhifyn nesaf
“Llygad y Ffynnon.” Mae tair rhan o’i ddarlith ar Ffynhonnau Caerdydd yn
weddill, a gobeithir rhoi’r cyfanyn un cyhoeddiad yn enw’r Gymdeithas
Ffynhonnau, a chael grantiau ychwanegol i gyhoeddi. Diolchodd Eirlys i Robin am
ei waith.
Dywedodd
Dennis ei fod wedi dechrau rhoi rhannau darlith Robin at ei gilydd yn un
ddogfenpdf.
4.
Adroddiad yr Ysgrifennydd.
a.)
Cyhoeddir erthygl ynghylch Ffynnon Llechid yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir
Gaernarfonyn yr hydref.
b).
Llwyddwyd i sicrhau gwell slot ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod
Genedlaethol eleni, sef am 3:30 o’r gloch ar bnawn Gwener y 5ed o Awst.
c).
Traddodwyd cyflwyniad ynghylch “Ffynhonnau Carpiau Cymru” ar “Cwmwlws”.
Bwriedir ei recordio ar gyfer YouTube. Bydd erthygl ar ffynhonnau carpiau Cymru
yn ymddangos yn y cylchgrawn “Folk Life” yn y dyfodol, a thrafodwyd pwnc
ffynhonnau carpiau ar Raglen Aled Hughes ar Radio Cymru ddydd Mawrth yr 21ain o
Fehefin.
ch).
Mae Gwyn Williams wedi gwneud fideo model 3D o Ffynnon Eidda, a gyrru copi atom.
Mae o’n gofalu am y ffynnon yn gyson, ac am ymaelodi â’r Gymdeithas.
d).
Cysylltwyd â Chyngor Tregaron ynghylch adfer Ffynnon Garon erbyn yr Eisteddfod
Genedlaethol eleni. Cafwyd ateb gan y Cyngor yn dweud eu bod “mewn
cyweithrediad â grŵpo bobl leol wedi bod yn trafod hyn dros y misoedd
diwethaf ac ar hyn o bryd yn trefnu i glirio agwneud gwelliannau i ardal Ffynnon
Garon.” Bydd yr Ysgrifennydd yn ymweld â’r safle adeg Eisteddfod
Genedlaethol Tregaron yn Awst.
dd).
Mae’r Ysgrifennydd wedi tanysgrifio i wefan “Holyandhealingwells”, rhag y
daw unrhyw wybodaeth ychwanegol oddi yno.
5.
Adroddiad y Trysorydd.
Diolchwyd
i’r Trysorydd am y fantolen. Dywedodd Dennis yr arferem dalu £32.50 y
flwyddyn am gael enw gwefan y Gymdeithas ar ffeil, ond ers tair blynedd bu’r
cwmni cyfrifol (Telemat) yn gyrru bil i
Gymdeithas Bob Owen a Chymdeithas Ffynhonnau Cymru ar y cyd. Mae Dennis a
thrysorydd CBO wedi rhoi gwybod i Telemat pwy yw trysoryddion y ddwy gymdeithas,
fel mae trysorydd CBO. Felly mae Telemat am yrru bil am y tair blynedd, sef tua
£100.
Awgrymodd
Dennis y byddai bod â chyfrif banc electronig yn hwyluso gwaith y Trysorydd,
gan y byddai ‘r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar gyfer llunio’r fantolen
flynyddol. Ni fyddai angen i’r Trysorydd fynd i’r banc ei hun. Dywedodd y
Trysorydd yn dweud ei fod yn anghyfarwydd â materion technegol, ond ei fod am
ganlyn yr awgrym. Dywedodd Dennis y byddai’n gyrru gwybodaeth am hyn at y
Trysorydd, a dywedodd Howard y byddai’n fodlon cynorthwyo.
Gyda
mwyafrif y banciau mawrion yn codi am gael cyfrif, ac am bob siec a drafodir,
tynnodd Eirlys sylw at y ffaith nad yw banc Halifax yn codi. Dywedodd Dennis y
byddai newid banciau yn golygu y byddai’n rhaid i’r Trysorydd drefnu i bawb
ailymaelodi. Oni fyddai perygl i rai beidio ag ailymaelodi? Tua 70 o aelodau
sy’n talu erbyn hyn, 25 yn talu trwy’r banc a 37 yn aelodau am oes.
Tynnodd
Eirlys sylw at y ddyled i Telemat, ond dywedodd Dennis nad oedd hynny (tua £100)
am ein methdalu.
Diolchodd
y Trysorydd i Dennis am ei gefnogaeth gyson; mae’n gwirio’r cyfrifon yn
fisol. Diolchodd yr aelodau i Gwyn a Dennis.
6.
Adroddiad yr Archwiliwr Mygedol.
Adroddodd
yr Archwiliwr Mygedol fod y cyfrifon yn gywir ac yn gyflawn. Diolchwyd i Dennis
am ei waith.
7.
Adroddiad Golygydd “Llygad y
Ffynnon”.
Cyhoeddwyd
dau rifyn, papur ac electronig, gyda chymorth Dennis.
Ynglŷn
â mynegai “Llygad y Ffynnon”. Gyrrwyd drafft o fynegai rhifynnau 41-50 at
Dennis Roberts yn Awst 2021. Mae Dennis wedi gyrru rhestr newidiadau 41-50 at
Howard ar gyfer eu gwirio. Pan wneir hynny, gellir eu rhoi ar y wefan.
Tynnodd
Dennis sylw at y ffaith fod gwerth degawd o’r fersiwn electronig wedi’i
gyhoeddi.
8.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Gofynnodd
Robin am gadarnhau’r hyn a benderfynwyd eisoes, sef gofyn i’r Ysgrifennydd
arwain gwibdaith yn ardal Bangor, y flwyddyn nesaf. Howard i gynnig dyddiadau
i’r Pwyllgor Gwaith, i ddechrau.
Cynigodd
Robin y dylid gofyn i Elfed Gruffydd draddodi sgwrs yn Eisteddfod Llŷn ac
Eifionydd y flwyddyn nesaf. Cytunwyd i ofyn iddo, ac onid yw’n derbyn, cawn
drafod ymysg ein gilydd.
Dywedodd
Dennis ei fod wedi dal i fyny efo gwaith y wefan, a bod y ffynhonnau oll arni. Y
mae’n barod i drafod efo Mike i
weld a allem symud i system newydd. Mae rhagor na 4,000 o ffeiliau ar y wefan, a
byddai gwaith symud i wefan newydd yn cymryd tua 2 flynedd.
9.
Unrhyw fater arall.
a).
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Dywedodd Gwyn fod llythyr wedi cyrraedd aelodau
cylchgrawn Utgorn Cymru i’r perwyl bod yr Eglwys Bresbyteraidd yn bwriadu
gwerthu Capel Ebeneser, Clynnog, gan gynnwys yr ystafell lle cynhyrchir Utgorn
Cymru, a bod cyfreithwyr yr Eglwys wedi rhybuddio’r Ganolfan symud allan o’r
gweithdy crynoddisgiau. Mae’r Ganolfan Hanes yn gofyn i gefnogwyr gysylltu â’r
Eglwys yn gofyn iddynt ailedrych ar y sefyllfa efo Capel Ebeneser ac
ailystyried.
Awgrymwyd
y dylai fod yna gytundeb rhentu, a roddai hawliau. Heb hynny, byddai’r
Ganolfan mewn sefyllfa wan i wneud hawliau. Byddai’r pwnc yn dod o dan
Bwyllgor Adnoddau ac Eiddo’r Gymdeithasfa, ac yna’r Gymdeithasfa ei hun. Os
am werthu, byddai’n rhaid edrych ar y cytundeb, sydd yn fater i’r
cyfreithwyr. Rhaid cofio, hefyd, fod yr Eglwys Bresbyteraidd yn elusen, ac
atebol i’r Comisiwn Elusennau. Dywedodd Eirlys ei bod yn fodlon cysylltu efo
Harry Hughes, sy’n gyfrifol am eiddo’r Eglwys yn y gogledd, i weld beth
yw’r sefyllfa, a beth yw’r trefniant â’r Ganolfan.
b).
Gofynnodd Robin a oes modd i’r Ysgrifennydd roi gwybod pwy arall sy’n
aelodau o’r PwyllgorGwaith. Awgrymodd ein bod ni’n gofyn i bobl sy’n
aelodau o’r Gymdeithas fod yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith hefyd.
10.
Dyddiad a lleoliad y Cyfarfod Cyffredinol
nesaf.
Penderfynwyd
cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf am 10:30
o’r gloch ddydd Sadwrn15.7.23, trwy gyfrwng Zoom.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Ffynnon
Garon, Tregaron.
Yn
unol â phenderfyniad y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ymwelodd yr Ysgrifennydd
â Ffynnon Garon yn Nhregaron ar adeg yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cafwyd
fod y ffynnon yn hawdd ei chanfod ar ochr chwith ffordd yr A485 o Dregaron i
Lanbedr Pont Steffan, ychydig y tu allan i’r dref. Mae’r ffordd ati a’i
hamgylchedd wedi’u clirio, a ffens bren gadarn o’i chwmpas. Mae’r dŵr
i’w weld yn llifo’n ddirwystr ac yn lân.
Un o’r amryfal wrthrychau ar y safle.
Nid
annisgwyl oedd gweld bod nifer o wrthrychau wedi’u gadael wrth y safle, gan
gynnwys sgarffiau, botymau, darnau o wehyddwaith ac, am ryw reswm, polyhedron
plastig melyn. Boed a fo am y rheiny, y prif beth yw bod mynediad rhwydd at y
ffynnon, a’i bod mewn cyflwr da. Rhaid diolch am hyn y Gyngor Cymuned Tregaron
a’r sawl fu wrth y gwaith. A chryn dipyn o waith, hefyd, gan mor anhygyrch
fu’r ffynnon cyn eleni. Dyna ni, hawdd ysgrifennu am ffynhonnau a phregethu
bod angen eu diogelu, ond rhaid torchi llawes er mwyn sicrhau hynny.
H.H
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
“The
Holy Wells of Wales” gan Francis Jones:
rhai
camgymeriadau wedi’u cywiro
gan
Janet Bord a Tristan Gray Hulse (parhad)
Tudalen 114: Ffynnon Fair, Llanbedrog, Sir Gaernarfon. Disgrifia FJ draddodiad
ynghylch taflu bara i ddyfroedd Ff Bedrog a Ff Fair yn Llanbedrog, ond awgryma
ffynonellau eraill mai yn Ff Fair yn unig y digwyddai hyn. Daw’r unig
wybodaeth ynghylch defnydd y ffynnon hon gan Myrddin Fardd, ac oherwydd ei natur
anghyffredin, fe’i hail-adroddwyd mewn llawer o lyfrau ynglŷn â llên
gwerin Cymru. Dyma fersiwn John Rhys mewn erthygl a gyhoeddwyd ym 1893
(‘Sacred Wells in Wales’, Folklore, cyf.4
(1893), tt. 61-2) ac eto yn ei lyfr Celtic Folklore: Welsh and Manx (Oxford:
Clarendon Press, 1901, t.364). Gan
fod yr adroddiadau hyn yn hŷn na chyhoeddi llyfr Myrddin Fardd ym 1908 (Llên
Gwerin Sir Gaernarfon, Sir Gaernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, 1908,
t.183), mae’n amlwg i Rhys gael ei wybodaeth gan Myrddin Fardd ei hun.
“…the big well
in the parish of Llanbedrog in Lleyn, as I learn from Myrddin Fardd, required
the devotee to kneel by it and avow his faith in it.
When this had been duly done, he might
proceed in this wise: to
ascertain, for instance, the name of the thief who had stolen from him,
he had to throw a bit of bread into the well and name the person whom he
suspected. At the
name of the thief the bread would sink;
so the inquirer went on naming all the persons he could
think of until the bit of bread sank, when the thief was identified.”
Er bod adroddiad cyhoeddedig Myrddin Fardd ynghylch Ff Fair yn disgrifio
defod y bara, dywedodd John Rhys yn ei fersiwn ef i Myrddin Fardd ddweud wrtho y
digwyddai yn “the big well in the parish
of Llanbedrog” ac nid yw’n enwi Ffynnon Fair yn benodol.
Mae yn Llanbedrog ffynnon yn dwyn enw’r sant lleol, Pedrog, sef Ff
Bedrog, a gallai fod yn bosibl mai hon a olygai Rhys wrth ‘big well.’ Gan
ddrysu rhagor ar bethau, dywed Francis Jones: “At
Ffynnon Bedrog and Ffynnon Fair (both in Caern.) the injured party knelt and
expressed his faith in the well, and then threw pieces of brown bread into the
water, calling out the names of the suspects.
When the name of the actual thief was uttered, the bread sank.”
Ar wahân i gyflwyno haeriad mai bara coch a deflid, ymddengys fod Jones
wedi darllen dau fersiwn yr hanes hwn, a rhagdybio y cyfieirai Rhys at Ff
Bedrog, gan ragdybio drachefn y cyflawnid y ddefod, gan hynny, yn y ddwy
ffynnon. Yn ei ddisgrifiad o Ff Bedrog, fodd bynnag, nid yw Myrddin Fardd yn
crybwyll y ddefod, felly ymddengys i Rhys beri dryswch trwy beidio ag enwi’r
ffynnon, gyda Francis Jones, wedyn, yn tybio heb sail neu heb ofal.
Tudalennau 115-16:
Ffynnon Llandyfaen, Llandyfaen, Sir Gaerfyrddin. Dywed FJ sut yr yfid dŵr
o Ff
Llandyfaen o benglog dynol, “but
by 1815 the reputation of this skull was ‘in a great degree lost.’”
Yr hyn a ddywed ei ffynhonnell (Thomas Rees, The Beauties of England
and Wales: South Wales, cyf.XVIII (London, 1815) t.321) mewn gwirionedd yw:
“…at a place called Llanduvaen, are some natural baths, once greatly
resorted to by the natives for the cure of paralytic affections;
but their reputation is now in a great degree lost.”
Nid yw’r cyfeiriad byr hwn yn crybwyll penglog, ac enw’r baddonau
yw’r hyn a gollwyd.
Tudalen 142:
Ffynnon Gybi yng Nghlorach, Sir Fôn. Bu dwy ffynnon yma ar un adeg. Dywed FJ y dinistriwyd Ff Gybi tua 1840,
gan adael Ff Seiriol yn gyfan, ond mae peth anghytuneb ynghylch pa ffynnon a
ddinistriwyd. O dderbyn mai’r Parch. Skinner (Revd John Skinner, Ten
Days’ Tour Through the Isle of Anglesea, December, 1802;
cyhoeddwyd yn atodiad i Archaeologia Cambrensis, cyf.VIII, 6ed
Cyfres, London: Cambrian Archaeological Association, 1908) yw’r ffynhonnell
fwyaf dibynadwy, mae’n eglur mai Ff Gybi yw’r un a oroeosodd, gan i’r
Parch. Skinner wneud braslun o’r safle gan ddangos lleoliad y ddwy ffynnon ar
yr adeg y’u gwelodd, gan eu henwi ar sail gwybodaeth leol, debyg. Ff Gybi oedd
yr un ddeheuol, i’r de o’r ffordd yn awr, a chadarnheir yr enwi hwn gan fap
Arolwg Ordnans o ddiwedd y 19eg ganrif. Gwelodd FJ Ten Days’
Tour y Parch. Skinner, gan y
cyfeiria ato, felly nid oes ganddo esgus dros gam-enwi’r ffynnon a oroesodd.
Tudalen 142:
Ffynnon Gybi, paragraff rhif 2.
Fel y nodwyd uchod yn achos tudalen 111, nid y ffynnon yng Nghaergybi
yw’r Ff Gybi a ddisgrifir gan FJ, ond yr un yn Llangybi, Sir Gaernarfon.
Janet
Bord a Tristan Grey Hulse (cyfieithiad
Howard Huws.)
(I’w pharhau.)
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Ffynnon Seiriol, Penmon – Ffynnon
Sanctaidd?
Yn
rhifyn diweddaraf (2021) Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr Môn
mae gan Janet Bord, awdurdod ar ffynhonnau sanctaidd, erthygl ddiddorol iawn ar
Ffynnon Seiriol, Penmon. (“Reinterpreting
Saint Seiriol’s Well, Penmon, Anglesey.” Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr
a Naturiaethwyr Môn, 2021, tt. 46-65.)
Er
yr adnabyddir y ffynnon i’r dwyrain o eglwys Penmon fel Ffynnon Seiriol,
dadleua Bord nad oes unrhyw dystiolaeth cyn dechrau’r 19eg ganrif i
awgrymu ei bod yn gysylltiedig â Seiriol, nac unrhyw dystiolaeth ganoloesol bod
parch neilltuol i Seiriol ym Mhenmon nac yn unman arall, namyn ambell i enw lle
fel Ynys Seiriol.
Mae
llechen ar adeilad presennol y ffynnon yn cofnodi gwaith yno ym 1710, er y
gallai hynny olygu gwaith trwsio neu ailwampio adeilad blaenorol. Yr oedd
hwnnw’n gyfnod addasu tarddellau naturiol gan dirfeddianwyr at amryw
ddibenion. Nid yw’r pwll presennol yn ddigon mawr i ymdrochi ynddo, ond fe all
y bu’n llifo i un arall gerllaw, ar un adeg. Mae sylfeini adeilad crwn wrth y
ffynnon, ond nid dim i dystio eu bod yn hynafol iawn.
Tyn
Bord sylw at gyfres o sylwadau ynghylch y ffynnon a ysgrifenwyd gan ymwelwyr a
hynafiaethwyr o 1798 ymlaen. Mae Bingley (1800) yn crybwyll y ffynnon, ond nid
unrhyw draddodiadau yn ei chylch. Nid yw Carlisle (1811) yn ei chrybwyll o gwbl
yn ei ddisgrifiad o Benmon. Mae Evans (1812) yn cyfeirio ati fel “Ffynon
vair, or holy-well”: enw cyffredinol ar ffynnon sanctaidd. Ayton (1813)
yw’r cyntaf i’w chysylltu â Seiriol Sant, ac Angharad Llwyd (1833) yw’r
gyntaf i’w galw’n “Seiriol’s well”.
Mae eraill yn cyfeirio ati fel ffynnon ofuned, a rhai yn cyfeirio at Ffynnon
Seiriol yng Nghlorach, ond nid at un ym Mhenmon. Yr oedd yna gymysgu, hefyd,
rhwng y ffynnon ym Mhenmon a Ffynnon Seiriol arall yn Llangoed gerllaw.
Adroddiad o 1912 yw’r cyntaf i’w galw’n “Ffynnon Seiriol”.
Dim
ond wedi canol y 19eg ganrif y ceir manylu cynyddol ynghylch
cysylltiad Seiriol â’r ffynnon, a honiadau ynghylch yr hyn a ddigwyddai neu a
adeiladid yno. Dywedid rhagor nag unwaith ei bod yn fedyddfa, a dylanwadol fu
haeriad y Comisiwn Brenhinol (1937) y bu yno gangell a chorff capel, ac mai
annedd Seiriol fu’r adeilad crwn. Nid oes unrhyw dystiolaeth i’r perwyl, ond
nid yw hynny wedi atal awduron rhag bwydo ar waith ei gilydd, ac ychwanegu ato,
yn eu hawydd i ddynodi Ffynnon Seiriol yn ffynnon sanctaidd, hynafol. Mae hyd yn
oed Cadw yn ymuno â hwy. Mwy gofalus yw Nansi Edwards (1986), sy’n sylwi na
phrofwyd i hanes unrhyw ffynnon sanctaidd ym Môn ymestyn yn ôl i ddechrau’r
Oesoedd Canol, ac na chanfu cloddiad archeolegol cyfyngedig ym Mhenmon ddim hŷn
na 1710, dyddiad cwt y ffynnon.
Beth
yw barn Bord, felly? Bod y ffynnon yn un sanctaidd yng ngolwg rhai pobl, ac y
cyfeirient ati fel Ffynnon Fair, enw cyffredinol ar dardell o’r fath; ond nad
oedd cysylltiad penodol â Seiriol. Hwyluswyd cysylltu’r ffynnon â’r sant
gan bresenoldeb yr eglwys gerllaw, ond ni ddaeth hynny’n gyffredin tan yr 20fed
ganrif, a thwf ysbrydolrwydd “Oes Newydd”. Tyb Bord nad ystyrid y ffynnon yn
Ffynnon Seiriol yn hanesyddol; onide, buasai’r traddodiad hwnnw wedi’i
gadw’n lleol, a’i grybwyll gan y teithwyr a hynafiaethwyr cynnar. Deil fod
hanes y man yn ddiddorol, ond mai camarweiniol yw ei galw’r darddell yn
Ffynnon Seiriol.
Mae
trylwyredd Bord, a’i gwrthrychedd, i’w hedmygu. Gwyddom y cambriodolwyd
sancteiddrwydd i amryw ffynhonnau, ac y bu i awduron llai disgybledig gamddeall
cofnodion, neu roi rhwydd hynt i’w dychymyg, yn eu hawydd i bwysleisio gwerth
ysbrydol tarddellau. Eto rhaid cofio y gall nad oedd rhai o’r teithwyr a
hynafiaethwyr cynnar yn gyfarwydd â chyfeiriadau cynnar at Seiriol, nac â pha
draddodiadau Cymraeg yn ei gylch oedd wedi goroesi hyd eu cynfod hwy. Gwir nad
yw Bingley, Carlisle na Cathrall
(1828), na’r Cymro Peter Bailey Williams (1839) yn sôn am draddodiadau, ond
peryglus yw dadlau (ar sail eu distawrwydd hwy) nad oedd dim, er bod Williams yn
crybwyll y traddodiad ynghylch ffynhonnau Clorach. Mae’n annhebyg y medrai
Evans Gymraeg, ac yr oedd iddo duedd i godi ei ddisgrifiadau o waith awduron
eraill: eto clybu, rywle, fod y ffynnon yn un sanctaidd. Yr oedd Ayton yn
ddramodydd ac yn ysgrifennwr medrus, ond ni wyddys o ble y cafodd yr wybodaeth
a’i galluogodd i ddweud:
“St. Seiriol, from whom every charm of which these waters were the
instrument
was supposed to emanate, had
himself a great reverence for wells … .”
Medrai
Angharad Llwyd y Gymraeg, ac oni chododd hithau ei gwybodaeth am “Seiriol’s well” o Ayton, o ble gafodd hi’r syniad? Trwy
ragdybio cysylltiad, yn unig? Ceir awgrym mwy pendant ynglŷn â chysylltiad
Seiriol a Phenmon ym Monedd y Saint (llawysgrif Peniarth 45, diwedd y 13eg
ganrif):
7. Einawn Vrenhin yn Lleyn a Seiryol ym Pen[n] Mon a Meiryawn yn y
cantref meib[y]on
Ywein
Danwyn m. Einawn Yrth m. Cuneda Wledic.
Yna
ceir cyfeiriadau barddol ato sy’n awgrymu cysylltiad neilltuol â Môn. Canodd
Robert Leiaf (tua 1480) fel hyn i Siôn Moel o Fiwmares, y dref agosaf at
Benmon:
“Mynwes arian, myn Seirioel,
Ysy’n eu mysg i Siôn
Moel … .”
Meddai
Tudur Aled (tua 1465-1525) am Syr Siôn Ingram, Prior Penmon:
“Sain Siôn, Sain Sieron, un soel,
Sain Siôr dros Ynys
Seirioel … .”
Canodd
Guto’r Glyn (tua 1430-1493) am Syr Hywel ap Dai o Lanelwy:
“Syr Hywel mal Seirioel Môn
Y sy eilmeistr fal
Salmon.”
a
Lewys Môn (tua 1460-1527) i’r un gŵr:
“Syr Hywel, ail Seirioel, wyf,
Bwa dadl, ab Dai
ydwyf:”
Gellid
dadlau mai dim ond cyflythrennu cynganeddol yw’r cyfeirio at Syr Hywel a
Seiriol yn yr un gwynt: nid un o Fôn ydoedd. Eithr cyfeiriodd Lewys Môn ei
gywydd gofyn ar ei ran at Huw Morgan o Brysaddfed, Archddiacon Môn, felly nid
rhyfedd iddo ddwyn enw’r sant i mewn i’w gân.
Mwy
penodol yw’r modd y rhestra Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan (hanner gyntaf
yr 16eg ganrif) Seiriol ymysg saint Môn:
“Cybi, Seiriel, ddiogel ddawn,
Eilian, Dwynwen, wlad
uniawn,
Llun y wlad, llawn,
oludog,
Llyna groes mal llun y
Grog.”
Un
o Fôn oedd y bardd-offeiriad Syr Siôn Trefor, i’r hwn y canodd Huw ap Dafydd
ap Llywelyn ap Madog (tua 1520–1540):
“Gwaed Ednyfed, rhwydd rhoddion – Iorwerth Foel,
Ail Seirioel, oes Aaron… .”
Tybiaf,
felly, mai rhesymol yw awgrymu cysylltiad hynafol rhwng Seiriol â Mon, ac ar
sail Bonedd y Saint, â Phenmon. Tystiolaeth o denau, ond un na ellir ei
hanwybyddu.
I
grynhoi. O ofyn “A oes tystiolaeth hynafol, bendant ynghylch cysylltiad
uniongyrchol rhwng Seiriol Sant a’r ffynnon ym Mhenmon?”, mae Bord yn llygad
ei lle: nid oes, hyd y gwyddom. Y mae tystiolaeth ynghylch cysylltiad rhwng
Seiriol a Phenmon, ac yr ystyrid y ffynnon yno yn un sanctaidd, yn
“Ffynnon-vair” erbyn 1812, o leiaf. Gellid enwi Maentwrog a’i Ffynnon Fair
fel enghraifft arall o hynny. Erbyn 1813 cysylltir ffynnon Penmon â Seiriol.
Dwi’n meddwl fod hynny, a thystiolaeth y Bonedd a’r beirdd, yn caniatáu’r
posibilrwydd mai ffynnon â chysylltiad hynafol â Seiriol yw un Penmon, ac na
ddylid diystyru’r syniad yn llwyr.
Y
mae angen rhagor o erthyglau fel un Bord. Gwnaed a gwneir cymaint o honiadau
di-sail a chamarweiniol ynghylch ffynhonnau sanctaidd, gan daflu cysgod dros yr
holl bwnc, ac y mae angen agwedd mwy gwrthrychol, ysgolheigaidd at y
dystiolaeth, gan fwrw ymaith yr hyn y gellir dangos ei fod yn anwir neu’n
ddi-sail. Mae’r gwirionedd ynghylch y ffynhonnau, boed yn amlwg neu eto’n
gudd, ym mha beth bynnag sy’n weddill wedi hynny.
H.H.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Ffynnon
Fihangel, Maesmynan, Caerwys
Mae
pryder wedi’i fynegi ynghylch dyfodol adeilad gerllaw Ffynnon Fihangel, Coed
Maes Mynan, Caerwys. Yr adeilad o dan sylw yw ffermdy Coed, sydd i’r gorllewin
o’r pentref, rhwng eglwys y plwyf (a gysegrwyd yn enw’r Archangel Mihangel),
a’r ffynnon ei hun, i lawr yng ngwaelod hafn Nant Mihangel yng Nghoed
Maesmynan. Fe'i crybwyllir gyntaf gan Syr John Salusbury rhwng 1597 a 1610, ac y
mae Edward Llwyd yn cyfeirio at “Avon Mihangel” yn llifo ohoni. Mae i'w
gweld ar fap 1742. Mae Ceir manylion ynghylch y ffynnon yng nghyfrol Eirlys a
Ken Lloyd Gruffydd, “Ffynhonnau Cymru: Cyfrol 2”, tudalen 82 (Llanrwst:
Llyfrau Llafar Gwlad, 1999).
Ffermdy Coed, Caerwys, fel y bu.
Mae Lyn Lawrence, brodores a fu’n byw yn
ffermdy Coed yn ei phlentyndod, yn argyhoeddedig fod yr adeilad yn gapel anwes
canoloesol cysylltiedig â’r ffynnon. Cyfeiria at arddull “gothig” y
ffenestri, ac olion gwaith cerrig a all awgrymu y bu ffenestr fawr ym mhen
dwyreiniol yr adeilad: adeilad sydd a’i ddau ben yn cyfeirio tua’r dwyrain
a’r gorllewin, fel y disgwylid gan gapel hynafol, ac a godwyd ar glwt
cyfyngedig o dir uwchlaw’r ffynnon, lle buasai codi adeilad yn cyfeirio
tua’r gogledd a’r de yn llawer mwy synhwyrol. Nid yw’r adeilad yn
ymddangos ar fap a wnaed ym 1742: ond dengys llwybr o’r pentref at safle’r
adeilad, ac fe all na nodwyd ar y map yr hyn oedd, erbyn hynny, yn hen adfail yn
y coed.
Mae William Cathrall yn ei “The History of
North Wales” (1828) yn dweud:
“In
a wood near the town is a well called St Michael’s, close to a very romantic
rock on which
a
Roman Catholic Chapel is supposed to have once been situated...
.”
Ceir Capel Mair ar ben craig yn
Nhremeirchion nid nepell i ffwrdd, ond nid adeiladwyd hwnnw tan 1866. Mae’n
amlwg fod Cathrall wedi clywed hanes am gapel ar ben craig yng Nghaerwys
ddeugain mlynedd, o leiaf, cyn hynny.
Yn sicr yr oedd Coed yno erbyn 1841,
oherwydd fe’i cofnodwyd yn gartref William Hughes y cipar pan gasglwyd
manylion Cyfrifiad y flwyddyn honno: ac y mae i’w weld ar Fap Degwm 1849. Mae
dogfennau ystâd Mostyn yn cadarnhau y bu saethu adar yn y cyffiniau cyn hynny,
felly efallai yr oedd angen cartref ar gyfer cipar. Y cwestiwn yw, a addaswyd
adfail canoloesol blaenorol, ynteu a godwyd tŷ o’r newydd, gydag
addurniadau ffug-ganoloesol yn unol â ffasiwn y cyfnod? Os oedd yn “cottage orné”,
yn fwthyn ffug-wledig rhamantus, pam ei godi mewn lle mor anghysbell, lle ni
allai prin neb ei weld? Ymwelodd archwilwyr y Comisiwn Brenhinol â’r ardal ym
1910, ond ni chrybwyllasant ddim ynghylch hen gapel yno. Ai oherwydd eu bod wedi
chwilio i lawr wrth y ffynnon (lle ni fu adeilad erioed), yn hytrach na’r tir
uwchlaw?
Newidiwyd yr adeilad yn
sylweddol yn y gorffennol. Llanwyd bwâu'r ffenestri pan wnaed llofftydd, ac
ychwanegwyd ystafelloedd gwydr ac estyniadau eraill: ond mae’r pedwar wal
sylfaenol yn aros. Ers y 1980 mae’r safle yn rhan o faes golff, ac ers
marw’r perchennog yn ddiweddar mae’r tir a’r ffermdy ar werth. Gobaith y
perchnogion yw y gellir gwerthu’r cyfan yn faes cabanau gwyliau, gan droi’r
ffermdy’n fythynnod gwyliau. Gallai hynny arwain at ei chwalu, neu at golli ei
adeiladwaith sylfaenol
Mae hyn wedi peri i Lyn
Lawrence gysylltu efo Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, Y Comisiwn
Henebion a CADW er mwyn ceisio atal hynny. Os yw’r ffermdy yn cynnwys
gweddillion capel anwes canoloesol, byddai hynny o arwyddocad mawr i amgylchedd
daearyddol, hanesyddol ac ysbrydol Ffynnon Fihangel, a byddai ei golli’n
drychinebus. Mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y cyrff uchod i fynegi prydon
a galw am archwilio’r adeilad yn drwyadl.
H.H.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Ymwelwyr Tramor â
Ffynnon Wenfrewy, Treffynnon.
Charles-Etienne Coquebert de Montbret
Ym Medi a Hydref 1789 teithiodd Charles-Etienne
Coquebert de Montbret (1755-1831) o Baris i Ddulyn, lle’r oedd ganddo
swydd ddiplomyddol. Cofnododd ei “Voyage de Paris à Dublin à travers la
Normandie et l’Angleterre en 1789” mewn llyfrau nodiadau, a chyhoeddwyd y
cynnwys ym 1995. Dyma ei sylwadau ynghylch Ffynnon Wenfrewy, Treffynnon.
“Mae Treffynnon ddwy filltir o’r môr,
yn ymyl canol llethr mynydd uchel. Deillia ei ddechreuad cyntaf o darddell a
gyfyd mewn amgaefa wythochrog, cromennog tan gapel, darddell o’r fath
gyflenwad helaeth fel ei bod yn gyrru sawl melin ddŵr yn y man (dywed
Pennant ei fod yn darparu 21 tunnell fetrig o ddŵr y funud). Mae hynny’n
beth wmbredd o ddŵr ar lethr serth iawn. Fe’i defnyddiwyd yn effeithiol i
sefydlu 3 melin gotwm sy’n gweithio ar gyfer Manceinion a’r Alban. Ni fu
modd inni eu gweld. Dim ond gwragedd a merched a osodir i weithio yno,
gwaharddir dynion … Un felin bapur, un tybaco. Mae tair gordd siglo gopr ar
gyd yr afon hon, hefyd, ac un lle gwneir copr melyn drwy ei gymysgu â chalamin
yn null Aix-la-Chapelle. Mae’r ffwrneisi plwm ddwy filltir i ffwrdd. Dywedir
wrthym mai’r Maes Glas yw enw’r ardal (Yn Ninas Basing mae ffos hynafol a
elwir Wat Maes Glas yn Gymraeg yn dod i ben, dyma’r Abaty Dinas Basing
hynafol). Nid syndod yw bod y trigolion wedi parchu’r darddell hon y mae ei
genedigaeth mor rhyfeddol; ond haedda eu teyrngedau oherwydd ei bod yn rhoi
gwaith i gynifer o bobl. Torrwyd pen y Santes Wenfrewy ar gopa’r mynydd gan ei
chariad Caradog, mab y Brenin Alen; arhosodd ei phen yno. Sodrodd Beuno Sant ef
yn ôl a bu fyw’r Santes am 15 mlynedd wedi hynny. Yna cymerwyd ei chorff
i’r Amwythig. Ymwelir â’r darddell gan Brotestaniaid fel
gan Gatholigion. Mae ei dŵr, mewn gwirionedd, yn ddi-flas ac yn bur iawn,
ac os bu o fudd i bobl sydd wedi ymdrochi ynddo, mae hyn, debyg, fel unrhyw ddŵr
dymunol o oer arall (Ac ymhellach, mae nifer y pererinion yn lleihau pob
blwyddyn). Dosberthir taflen yn y capel yn adrodd yr hanes gwyrthiol, gan nodi
bod yr Hen Destament a’r Testament Newydd yn cofnodi pethau dim llai rhyfedd,
ac felly na ddylem amau rhagor yr hanes ynghylch y ffynnon.”
Ym 1866 teithiodd Arthur d’Arcis i ogledd Cymru ar gais Gymdeithas Ddaearyddol
Genefa. Cyhoeddwyd ei “Voyage au nord du pays de Galles” yn 1887, a dyma ei
sylwadau yntau:
“Ond dyma Holywell neu Treffynon, tre’r
ffynnon, dref fechan o 5,000 o drigolion sydd â melinau gwlân, toddleoedd, a
chapel bach hyfryd sy’n rhyfeddod yr ardal gyfan. Dyma ei darddiad a’i
chwedl:
Colofnau
meinion Ffynnon Wenfrewy
Ddechrau’r seithfed ganrif yr
oedd Gwenffrewi neu Winifred, perthynas i Feuno Sant, yn o nawddsaint Cymru, yn
byw yn Nhreffynnon ac fe’i chwenychwyd gan bennaeth Cymreig o’r enw Caradog.
Nid wnaeth ei distawrwydd neu’i dirmyg tua phenderfynoldeb angerddol y
Barbariad hwn ond cynnau ei lid. Un diwrnod cyfarfu Caradog â Gwenfrewy ar fryn
sydd fel rhagfur ogylch dyffryn Treffynnon. Ymbiliodd â di, unwaith ac am byth,
i wrando arno’n ffafriol, ac o’i wrthod fel o’r blaen, ni allai ei reoli
ei hun rhagor ac ag un ergyd torrodd ei phen ymaith. Treiglodd y pen at waelod
yr allt heb atal, hyd nes iddo gyrraedd llwyfandir bychan. Yn yr union fan hwn
cododd tarddell o ddŵr pur, glân a gasglwyd mewn ffynnon yn ddiweddarach,
ac uwchlaw’r ffynnon adeiladwyd, megis gortho, gapel bach Gothig hyfryd o
gerrig, â cholofnau meinion, gwrymiau meindlws, ac addurniadau o gerfwaith
cain. Crogir ambell i lechen goffaol, bagl neu ffon gerdded, ar y colofnau a’r
muriau. Mae dau o risiau yn arwain i lawr at y pwll, a amgylchynir â phafin ar
ba un mae rhai cabanau syml iawn yn agored.
Yr enw ar y cyfan hwn yw ffynnon y Santes Wenfrewy ac y mae’n eiddo
i’r Catholigion sy’n codi tâl mynediad bychan i’r rhai sy’n dymuno
ymweld neu’i ddefnyddio. Mae Treffynnon ei hun, gyda llaw, yn ganolfan
Gatholig ac â dwy ysgol: un wedi’i chynnal gan yr Iesuwyr, a’r llall gan
leianod. Syndod pleserus imi oedd deall y perchir y mynaich, y lleianod a’r
Iesuwyr yn fawr gan y boblogaeth Gymraeg sydd, fel y gwyddys yn dda, yn
Brotestaniaid pybyr. Dyma esiampl dda o oddefgarwch sy’n glod i drigolion y
wlad ac i aelodau’r glerigiaeth y mae’r Eglwys Rufeinig yn eu gyrru i’r
parthau hyn fel ei gilydd.”
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Siom
Penliniodd yn ysgafn
i daeni
ar ffynnon Dwynwen
ei lliain main
ar wyneb y dŵr.
Ei chalon yn gwingo’n
llysywen wallgo’
yn erfyn ffyddlondeb.
Mor llonydd yw’r llyn
a distaw
yw distyll
ei dagrau’n
araf
ddiferu
i bwll ei hanobaith
dan y lliain llwyd.
Cerdd gan J. Arfon Huws, yn "Y Lleufer Newydd" 1993 Rhifyn
3. Ceisid darogan tynged y rhai claf o gariad trwy gyfrwng symudiad pysgod.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Ffynnon Gelli Onnen.
“Mae Ffynnon Gelli Onnen ym Morgannwg, heb fod ymhell o
Bontardawe. Arferai pobl fynd yno, gynt, ar adeg sychdwr er mwyn cael peth o’r
dŵr; yr hwn, pan deflid neu sgeintid ef o amgylch, a ddeuai â glaw. Yr
oedd hyn yn arferol ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dywedodd hen
ŵr, a gofiai hyn yn ei blentyndod, y dawnsiai pobl yn y man glas agosaf at
y ffynnon, a thaflent flodau a phwysi o berlysiau at ei gilydd. Yna canent
faledi Cymraeg hen-ffasiwn, a chwareuent facyn wrth gwt. Llefai arweinydd y
cwmni, wrth fynd at y ffynnon, “Tyred â glaw inni!” dair gwaith. Yna
byddai’r bobl, llanciau a llancesau gan fwyaf, yn llenwi powlenni neu biserau
â’r dŵr ac ynteu’n ei daflu yno neu’n ei gludo adref i’w sgeintio
ar yr ardd. Byddai wastad yn bwrw wedyn.
Marie Tevelyan, “Folk-lore and Folk-stories of Wales”,
1909, t.14.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
“Llygad
y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw
Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru
erbyn 31.5.2022, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 07870 797655.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Manylion Cyswllt Cymdeithas Ffynhonnau
Cymru
Mae pob croeso i unrhyw un
sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r
Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac
£20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os
gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.
Er mwyn ymaelodi, neu
adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm
a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â
Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.
Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar
gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a
hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts
yn llygad_y_ffynnon@btinternet.com. Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas
Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan
Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau
unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen
ymaelodi ar-lein.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Nadolig Llawen
a Blwyddyn Newydd Dda
i’n holl ddarllenwyr ni!
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc