Home Up

  

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 52, Haf 2022

 

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 6

Robin Gwyndaf

 

  1. Pen uchaf Ffynnon y Gorthwr, Castell Caerdydd, o gyfnod Iarll Caerloyw (1090-1147).   Llun Erfyl Parry.

 

Ffynhonnau Castell Caerdydd

O’r ffynnon ger Castell Sain Ffagan (Rhan 5), awn draw yn awr i Gastell Caerdydd. Syndod i lawer o’r darllenwyr, bid siŵr, fyddai gwybod bod pedair ffynnon i’w gweld hyd heddiw sy’n perthyn i’r Castell. Ni wyddwn innau chwaith hyd nes i Erfyl Parry, Dirprwy Guradur Castell Caerdydd fy ngoleuo. Y mae ganddo ef fwynglawdd o wybodaeth am y ffynhonnau hyn, a mawr iawn yw fy niolch iddo am ei rannu gyda mi mor raslon. 63 Er nad oes dŵr glân i’w gael yn yr un o’r ffynhonnau ers blynyddoedd maith bellach, y mae i bob un ohonynt ran bwysig ac annatod yn hanes y Castell a’r personau a fu’n byw ynddo, neu yn ei berchenogi. Dyma nodyn byr amdanynt. Yn ffodus iawn, gellir ymweld â phob un ohonynt heddiw.

 

2. Ffynnon y Gorthwr, Castell Caerdydd, wedi’i hadnewyddu. Llun Erfyl Parry  

Dechreuwn gyda’r ffynnon  hynaf: Ffynnon y Gorthwr. (Gorthwr: y tŵr cadarnaf mewn castell. S. Keep.) I gerdded tuag at y ffynnon y mae hi oddeutu 120 troedfedd o’r brif fynedfa (gyferbyn â Heol y Castell), gan ddilyn y llwybr a’r canllawiau diogelwch. Mae’r ffynnon ar ben y gorthwr yn gylch crwn o gerrig, a gellir cerdded o’i hamgylch. Perthyn i gyfnod Robert Consul (Robert FitzRoy, Iarll Caerloyw, 1090 -1147), un o feibion anghyfreithlon Harri’r 1af.

Ond nid y ffynnon wreiddiol yw hon. Ail-adeiladwyd y ffynnon  gan John Patrick Crichton-Stuart, Trydydd Ardalydd Bute (1847-1900). Pan ar ganol y gwaith o adnewyddu’r ffynnon darganfuwyd ar ei gwaelod ganon bychan, heb olwynion iddo. Cyfeirir ato fel ‘Canon Cromwell’. Caiff ei arddangos heddiw y tu fewn i ran mwy diweddar y Castell (Y Tŷ). Darganfuwyd hefyd belenni canon a  darnau o grochenwaith. 

 

 3. Ffynnon Castell Caerdydd, o gyfnod Gilbert de Clare (1262-1292).  Llun: Erfyl Parry

 

 4. Maria North, Ail Ardalyddes Bute (1793-1841). Llun drwy garedigrwydd Erfyl Parry.

   

5. Ffynnon yn y brif fynedfa i Gastell Caerdydd, o gyfnod Iarll Warwick (1382-1439).  Llun Erfyl Parry

 

  6. Ffynnon Maria North, Ail Ardalyddes Bute (1793-1841), Parc Bute, Caerdydd.  Llun Phil Cope.

Perthyn i gyfnod  Gilbert de Clare (1262-1295) y mae’r ail ffynnon. Troi i’r chwith yn y brif fynedfa, ac y mae’r ffynnon Ganoloesol hon i’w gweld ar y dde ar dir glas ymhen oddeutu 60 troedfedd. Gilbert de Clare a adeiladodd Gastell Caerffili. Ef hefyd a adeiladodd y Tŵr Du yng Nghastell Caerdydd, y tŵr a fu’n garchar i Lywelyn ap Gruffudd, ‘Llywelyn Bren’ (dienyddiwyd yn 1317), gor-ŵyr (?) i Ifor Bach, Arglwydd Senghennydd.

Mae’r drydedd ffynnon i’w gweld yn union o flaen y fynedfa i ran ddiweddaraf y Castell (Y Tŷ), a adeiladwyd yn 1423 gan Richard Beauchamp, Iarll Warwick (1382-1439). Y mae’n debyg i’r ffynnon gael ei hadeiladu yn ystod ei gyfnod ef, ond fe’i hadnewyddwyd gan Drydydd Ardalydd Bute, John Patrick Crichton- Stuart (1847-1900). Bellach gosodwyd lamp dal ar wyneb y ffynnon i oleuo’r fynedfa i mewn i’r Castell ac i groesawu ymwelwyr.

Ffynnon wedi’i lleoli ym Mharc Bute, y tu allan i furiau gogleddol y Castell, yw’r bedwaredd ffynnon i sylwi arni. O’r brif fynedfa i’r Parc ar Heol y Gogledd, mae’r ffynnon yn agos at bont y dywedir iddi gael ei hadeiladu ar gais Maria North (1793 -1841), gwraig gyntaf John Crichton-Stuart, Ail Ardalydd Bute (1793-1848). Cyfeirir at y bont heddiw fel ‘Pont Arglwyddes Bute’ / ‘Lady Bute’s Bridge’, neu fel ‘Pont Ail Ardalyddes Bute’/ ‘The Second Marchioness of Bute’s Bridge’. Mae’r bont yn croesi’r gamlas a ffurfiwyd yn ystod 1836-1841 i ‘fwydo’ dociau Caerdydd. Roedd y gamlas hon, fe gredir, yn rhan gynt o gafn y felin: y ffrwd o ddŵr oedd yn cael ei ddefnyddio i weithio un o amryw felinau cynnar y Castell.

Mae’r ffynnon yn agos at Bont Ail Ardalyddes Bute ac, yn ôl un o ddogfennau’r Castell, dywedir i Maria North ofyn am gael agor y ffynnon ‘to preserve a spring of water’. Ar y dde, yn lled agos i’r ffynnon a’r bont, fe welwn Gerrig yr Orsedd (Eisteddfod Caerdydd, 1978).

 

 Map o blwyfi Caerdydd, drwy gar edigrwydd Owen John Thomas.

Cyntwell

Dyma ni yn rhoi sylw penodol nawr i ffynhonnau wedi’u lleoli yn y  plwyfi a oedd erbyn tua 1850 yn cael eu hystyried fel rhan o Gaerdydd, plwyfi ac ardaloedd ar gyrion y ddau blwyf  yng  nghanol y dref y cyfeiriwyd atynt yn gynharach yn yr erthygl hon, sef  Plwyf Sant Ioan a Phlwyf  y Santes Fair. Soniwyd eisoes am ffynhonnau ym mhlwyfi Radur a Sain Ffagan. Y plwyfi eraill yw: Llandaf; Caerau; Llanfihangel-ar-Elái; Yr Eglwys Newydd; Llanisien; Llys-faen; Llanedern; Llaneirwg; Tredelerch; a’r Rhath. Yn nhraethawd ymchwil gwerthfawr Owen John Thomas: ‘Caerdydd a’r Iaith Gymraeg: 1550 - 1850’, cynhwysir map o’r plwyfi hyn fel yr oeddynt c.1776 - c.1819, ac fe’i cyhoeddir yn yr erthygl hon. 64

Yn gyntaf, fodd bynnag, gair o rybudd caredig. Mae yna o leiaf un enw yng Nghaerdydd  sy’n cynnwys y ffurf Saesneg ‘well’, ac enw sy’n awgrymu, o bosibl, rhyw gysylltiad â ffynnon. Ond mae angen gofal wrth ddiffinio enwau o’r fath.

Yr un enghraifft arbennig yw’r enw Cyntwell, sef enw ar dŷ, ac, yn ddiweddarach, enw ar res o dai, ym mhlwyf Caerau. Y mae’r Athro Gwynedd O. Pierce wedi dangos yn glir iawn inni nad at ffynnon y mae’r ffurf ‘well’ yn yr          enw hwn yn cyfeirio. Tarddu o’r gair Saintwell  mae Cyntwell. Y ffurf gynharach ar yr enw Saesneg yw Saintwall  (gyda’r elfen ‘wall’ yn golygu ‘ mur’, nid ‘well’: ffynnon). Deillio a wnaeth y gair Saesneg hwn ar lafar o’r gair Cymraeg ‘seintwar’ (ceir enghraifft ohono yn 1641), a’r gair hwnnw  wedi tarddu o’r Saesneg Canol: ‘seintuarie’, a roes inni yn ddiweddarach y gair ‘sanctuary’. Ar lafar aeth y gair ‘seintwar’ yn ‘seintwal’. A dyma enghraifft dda o’r llythrennau ‘r’ ac ‘l’ yn ymgyfnewid mewn geiriau Saesneg - Cymraeg sy’n fenthyciadau. Er enghraifft: corner /cornel; dresser / dresel; razor /rasel. 65

Y mae hyd yn oed Francis Jones yn ei gyfrol arloesol, The Holy Wells of Wales (tudalen 184, arg. 1992) wedi cael ei gamarwain gan yr enw Cyntwell / Saintwell. Ymhlith ei restr gynhwysfawr o ffynhonnau Sir Forgannwg (Adran A; ‘Ffynhonnau sy’n gysylltiedig â seintiau’), mae’n cynnwys un ffynnon a elwir ganddo yn ‘Saint Well’, gan ychwanegu cyfeiriad at ei lleoliad: ‘SW of the parish church of Caerau’.

Ffynnon Wen

Afraid dweud, y mae enwau lleoedd yn dystiolaeth arbennig o werthfawr sy’n ein cyfeirio o dro i dro at         fodolaeth ffynhonnau. Un enghraifft o hynny yw’r enw hyfryd Ffynnon Wen. Cyfeiriwyd eisoes at Ffynnon Wen, Llanbedr-y-fro, a Ffynnon Wen yn ardal Y Groes-wen. (Rhan 2) Cofiwn hefyd am Ffynnon Wen, tŷ fferm gynt yn ardal Pant-mawr, plwyf Yr Eglwys Newydd. Yr unig wybodaeth sydd gennyf fi i yw bod y ffynnon hon wrth odre darn o graig ar dir a berthynai gynt i’r fferm. Disgrifiwyd hi yn Saesneg fel ‘prolific spring’. Hefyd fel ‘a sparkling well’. 66  Mae’n werth ein hatgoffa ein hunain y gall yr ansoddair ‘wen’ yn yr enw hwn, wrth gwrs, olygu ‘gwyn’. Y dŵr grisialog yn wyn gan  fwrlwm. Ond gall olygu hefyd ‘gwynfydedig’. Ffynnon Wen: ffynnon fendigaid; ffynnon sanctaidd. 67

Ffynhonnau ardal Pentrebaen, Tyllgoed a Thre-lai

Mewn sawl rhan o Gaerdydd ceir enwau ar ffyrdd – enwau Saesneg, fel arfer – sy’n awgrymu rhyw gysylltiad â ffynnon, megis Wellwood Close yn Llanedern.  Ar yr un map cyfeirir hefyd at goed cyfagos o’r enw Wellwood. Yn lled agos at y coed y mae nant o’r enw Nant Pant Bach, a thŷ gerllaw o’r enw Spring Cottage. 68 Mae bwrw golwg ar fapiau cynnar a manwl y Llywodraeth yn ail hanner y 19g. a dechrau’r 20g. yn dangos inni mor niferus oedd y ffynhonnau mewn rhai rhannau o Gaerdydd a’r cylch. Y gair a ddefnyddir, fel arfer, ar y mapiau hyn yw ‘spring’ (ffynnon, ffrwd, bwrlwm, tarddiad dŵr). Yn llai aml, y gair a ddynodir yw ‘well’. Yn anffodus, anaml iawn y cynhwysir enw’r ffynnon.

Ardal Glan y Nant yng nghanol Tyllgoed, c.1920-1930.  Mae’r tŷ to gwellt wedi hen ddiflannu. Gwesty’r Fairwater sydd ar y safle bellach. 

Llun rhif 26, o gyfrol Stewart Williams, Cardiff Yesterday (8), (1984).

Y mae ardal Pentrebaen a Thyllgoed (Fairwater), er enghraifft, yn cynnwys amryw gyfeiriadau at ffynhonnau. Mae rhai ohonynt yn agos at nant sy’n llifo o gyfeiriad Pentrebaen a Phlas-mawr i ganol pentref Tyllgoed. Yr hen enw ar y tir ger y bont sy’n croesi’r nant yng nghanol y pentref yw Glan y Nant. Yr oedd hefyd unwaith ar y tir ble mae Canolfan Iechyd y Tyllgoed heddiw dŷ o'r enw Glan y Nant Cottage, ac y mae llun o dalcen yr hen dŷ ar gael a rhan o'r ardd. 69 Yr enw a roddwyd ar stryd fechan yn agos i’r bont yw Clôs y Nant. 70 Yn ei gyfres werthfawr o lyfrau Cardiff Yesterday (8), cyhoeddodd Stewart Williams ddau lun prin o’r bont, y nant, a’r fangre wledig hon fel yr oedd tua 1920 -1930, cyn yr adeiladu prysur yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ni wn a oedd enw Cymraeg cynnar ar y nant hon,  ond cyfeirir ati gan Stewart Williams fel ‘Fairwater Brook’. Cyhoeddir un o’r lluniau hyn yn yr erthygl hon. 71 Mae yna gyfeiriad ar fapiau at rai ffynhonnau hefyd ar y tir rhwng pentref Tyllgoed ac Afon Elái. 72 Yr un modd, dylid nodi bod enwau Tyllgoed a Fairwater eu hunain yn arwyddocaol.  Dyma nodyn nodweddiadol dreiddgar sydd gan Richard Morgan yn ei gyfrol ragorol, Place-Names of Glamorgan

‘Fairwater, Tyllgoed: ‘beautiful stream’: Eng. fair, water; ‘the pierced wood, the wood with a gap’, y twll, coed bella acqua c,1300, Farrewater 1431, Feyrwater 1530, Fairwater 1582, Tvll Coit; estrat ager, idest tollcoit; uillam Strat hancr c,1145, Tilthecoit, Tilcoyth c.1538, tilcot 1578. The meaning of Fairwater is confirmed by the Latin form c.1300. The name applies to a small tributary of the River Ely / Elai rising west of Waterhall (formerly at ST 136785). Tyllgoed  could mean ‘a wood full of holes’ or ‘trees pierced by holes’, but Tyll is also known to have described rivers and streams which cut a path, as in this case, through woodland.’ 73

Perthnasol yn y fan hyn hefyd yw nodi’r enwau Saesneg sydd ar dair stryd gyfagos i’w gilydd yn ardal Tyllgoed, sef Wellwright Road, Everswell Road, ac Everswell Avenue. Yr un modd rhaid crybwyll un sylw arwyddocaol a glywais gan fy nghyfeilles, Mair Davies, sy’n byw heddiw yn Heol Wellright. Dywedodd wrthyf i nifer o dai yn ei stryd hi a Heol Everswell gael difrod. A’r eglurhad?  Sylfeini’r tai heb fod yn ddigon cadarn, oherwydd bod y tir lle’r adeiladwyd hwy yn wlyb. 74

Wilderness Well, Gabalfa

Ni allwn ond dyfalu faint o enwau Cymraeg ar ffynhonnau Caerdydd a’r cylch sydd gydag amser wedi mynd yn angof. Pwll mewn pantle, ger Afon Taf, yng Ngabalfa, a grisiau yn arwain ato yw’r ffynnon ag iddi’r enw Saesneg hytrach yn anghyffredin: ‘Wilderness Well’. Ond ni wn ei lleoliad, ac ni welais i'r un cyfeiriad at ‘Ffynnon yr Anialwch’, nac at unrhyw enw Cymraeg arall ar y ffynnon hon. 75

Ladywell, yr Eglwys Newydd

Dyma enw Saesneg eto, ond dyma’r unig enw sydd gennyf ar ffynnon wedi ei lleoli ar fancyn serth yng Nghoed Tŷ Clyd, yr Eglwys Newydd, ger Melin Gruffydd, ar ochr ddwyreiniol y Gamlas. Yn ôl un traddodiad fe lofruddiwyd merch ifanc ger y ffynnon hon. O ganlyniad, yn ôl y gred, os cai carreg ei thaflu i’r ffynnon, byddai’r dŵr yn troi’n goch. A’r rheswm? Y dŵr, meddid, yn cymysgu gyda gwaed y ferch a laddwyd. Mae’n dra thebygol, wrth gwrs, mai oherwydd bod haearn yn y ffynnon yr oedd y dŵr yn troi’n goch. Dywed traddodiad hefyd fod ysbryd gwraig mewn gwisg wen yn trwblu ardal Coed Tŷ Clyd. 76  Gwyddom, wrth gwrs, fod y ‘Ladi Wen’ yn gysylltiedig â sawl ffynnon yng Nghymru. Tybed a fu i’r ffynnon hon gynt gael ei galw wrth enw megis ‘Ffynnon y Ladi Wen’, neu ‘Ffynnon y Ladi’? Ond, afraid dweud, dyfaliad pur  yn unig yw hyn.

Un sylw pellach. Teg cydnabod nad yw Francis Jones yn ei gyfrol The Holy Wells of Wales yn cyfeirio at unrhyw un o’r ddwy ffynnon uchod: ‘Wilderness Well’ a ‘Ladywell’.

Nodiadau 

63   Gw. dau e-bost Erfyl Parry ataf, dyddiedig 17 Mai 2022, a nodiadau sgwrs a gawsom, 19 Mai 2022. Bu mor garedig hefyd ag anfon ataf luniau o dair o’r ffynhonnau.

64   Traethawd MA Coleg Caerdydd, Prifysgol Cymru, 1990. Diolch o galon i Owen John Thomas a’i fab, Rhys ab Owen, AS.

65    Gw. sylwadau Gwynedd O Pierce ar ‘Cyntwell’ yn ei gyfrol ef ar y cyd gyda Tomos Roberts, Ar Draws Gwlad (2) Ysgrifau ar Enwau Lleoedd, Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1999, t. 31. Gw. hefyd, Gwynedd O Pierce, Place-Names in Glamorgan, Gwasg Merton Priory, 2002, tt. 63-5. A dyma ran o sylw Richard Morgan yn Place-Names of Glamorgan, Welsh Academic Press, Caerdydd, 2018, t. 64: ‘The colloquial form [for Cyntwell] has seintwal with the variation -r,  -l ... Taken from a house on Cowbridge Road and transferred to a row of houses near Caerau Arms (later the Culverhouse) public house. The anglicised spelling with Cynt- [sint] was adopted before 1919, and -well is likely to be a product of association with English well.’

66    Gw. cardiau mynegai Thelma a Barry Webb, Llanhiledd. Hefyd Edgar L Chappell, Old Whitchurch, 1945, t. 206.       

67    Gwerthfawrogwn groeso cynnes Siân a Dr Huw Thomas bob tro yr ymwelwn â Ffynnon Wen, eu cartref. Er wedi clywed digon o sôn am y ffynnon, nid oedd ganddynt hwythau chwaith wybodaeth am ei lleoliad.

68    Gw. Map y Llywodraeth, rhif 43/8. Arg. 1919.

69    Y mae llun o dalcen y tŷ a rhan o’r ardd ar gael. Gw. The Archive Photographs Series: Llandaff. ‘Compiled by the Llandaff Society / Cymdeithas Llandaf’, The Chalford Publishing Company, Chalford, 1996, t. 124.

70    Gw. map rhif 43/9. Ail arg. 1901.

71   Cardiff Yesterday (8), Stewart Williams Publishers, Y Barri, 1984.  Lluniau rhifau 26 a 28. Gyda diolch arbennig hefyd i Ella Edwards, Y Llyfrgell, Tyllgoed.

72    Gw. map rhif 43/9. Ail arg. 1901.

73    Place-Names of Glamorgan, t. 77. 

74    Gwybodaeth ar lafar, 17 Mehefin 2018.

75    Edgar L Chappell, ‘Holy and Healing Wells: Some Glamorgan Examples’, Cardiff and Suburban News, 19 Mawrth 1938.

76   ibid.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Dyddiadau i’w Cofio!

Ddydd Sadwrn yr 16eg o Orffennaf 2022 am 10:30 o’r gloch: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru trwy gyfrwng “Zoom”. Croeso i bawb, ac edrychwn ymlaen at eich gweld, gan fod cyfraniad yr aelodau at y cyfarfod yn hanfodol ar gyfer parhad y Gymdeithas. Y ddolen ar gyfer ymuno yn y cyfafod yw:

https://us02web.zoom.us/j/87204086802?pwd=ISDTJtUtxIQ6k6dKJdWA1NGxnTmW9h.1

Rhif y cyfarfod: 872 0408 6802

Cyfrinair: 139926

Ddydd Gwener y 5ed o Awst 2022 am 3:30 o’r gloch: Cyfarfod Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau 2, maes Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Bydd Mike Farnworth yn traddodi cyflwyniad ynghylch "Paganiaeth dan yr Wyneb - ffynhonnau sanctaidd Ceredigion a thu hwnt": sgwrs sy'n olrhain traddodiad ffynhonnau sanctaidd o'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid i'r amser presennol, gan ddadlau bod yr Eglwys wedi meddiannu ffynhonnau a’u henwi ar ôl saint, ond ar yr un pryd bod hen draddodiadau gwerin wedi parhau’n ddi-dor.  

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc 

Ffynnon Garon, Tregaron.

Fe ŵyr darllenwyr “Llygad y Ffynnon” y buom yn trafod cyflwr Ffynnon Garon yn Nhregaron, gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol i’w chynnal yno yn Awst eleni. Fis Hydref diwethaf, yn dilyn cais gennym am wybodaeth, cafwyd gwybod bod Cyngor Cymuned Tregaron “mewn cydweithrediad â grŵp o bobl leol wedi bod yn trafod hyn dros y misoedd diwethaf ac ar hyn o bryd yn trefnu i glirio a gwneud gwelliannau i ardal Ffynnon Garon.”

Ddechrau eleni hysbysebwyd y cynhelid “Gŵyl Seic a cherddoriaeth ryfedd” Ffynnon Garon ar y 5ed o fis Mawrth (Gŵyl Garon), gyda “‘thaith gerdded ddefodol’ dan arweiniad pibau Cymreig gyda Ceri Rhys Matthews” at y ffynnon, a “wisgid” at yr achlysur. Addawyd y ffilmid y digwyddiad.

Ymddengys nad oedd y sawl a luniodd yr hysbyseb yn gyfarwydd iawn â’r ffynnon, gan na wyddai am unrhyw arferiad penodol cysylltiedig â hi. Mewn gwirionedd ’roedd plant yn arfer dod at y ffynnon i yfed y dŵr wedi ei felysu â siwgr ar ŵyl Garon, a chariadon yn dod ati ar Sul y Pasg i roi anrheg o fara gwyn i’w gilydd ac i yfed y dŵr (gw. “Llygad y Ffynnon” 7, Nadolig 1999). Dywed yr hysbyseb (https://calendr.360.cymru/calendr/2022/galw-artistiaid-crefftwyr-gwneuthurwyr-eraill/)“Mae gwisgo’n dda yn gyffredin ledled y Deyrnas Unedig”, sef camgyfieithiad o “well dressing”, addurno ffynhonnau. Mae’n wir bod addurno ffynhonnau yn boblogaidd yn lleoedd fel Swydd Derby yn Lloegr, ond nid yng Nghymru, hyd y gellir gweld.

Da, serch hynny, yw gweld pobl yn ymddiddori yn y ffynnon ac yn dathlu ei phresenoldeb trwy ddulliau newydd.

Os gŵyr unrhyw un beth ddigwyddodd ar yr achlysur uchod, byddem yn falch iawn o glywed, fel y gallwn dynnu sylw erbyn y tro nesaf.

HH

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

The Holy Wells of Wales” gan Francis Jones:

rhai camgymeriadau wedi’u cywiro

 gan Janet Bord a Tristan Gray Hulse

Mae ‘The Holy Wells of Wales’, ‘Beibl’ Francis Jones o ffynhonnau sanctaidd Cymru, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1954, yn gasgliad aruthrol o wybodaeth a luniwyd ar adeg pan oedd ymchwil yn aml yn llawer mwy cymhleth ac araf nag yw heddiw, gan nad oedd mynediad hwylus at wybodaeth drwy’r rhyngrwyd. Nid yw’n syndod, felly, bod ychydig gamgymeriadau yn ei lyfr.

 Mae rhai’n ddibwys, ond eraill yn bwysig, ac y mae angen eu dwyn mewn cof gan unrhyw un a ddibynno ar THWOW am ei wybodaeth. Tueddir i feddwl am y llyfr fel tarddle gwybodaeth ynghylch ffynhonnau Cymru, ond dylai defnyddwyr sylweddoli nad oedd Francis Jones yn anffaeledig. Ei gamgymeriad mwyaf anffodus wrth ddwyn ynghyd ei gyfrol fu cynnwys llawer o ffynhonnau na ellir eu galw’n rhai sanctaidd.

Rhanna ei restrau’n bum dosbarth, sef yn fyr: 

Dosbarth A: ffynhonnau’n dwyn enwau saint; 

Dosbarth B: ffynhonnau cysylltiedig ag eglwysi; 

Dosbarth C: ffynhonnau yr honnid eu bod yn iachusol, heb fod arnynt enw sant na chysylltiad ag eglwys;

Dosbarth D: ffynhonnau’n dwyn enwau lleygwyr;

Dosbarth E: ffynhonnau amryfal. 

Dylid bod wedi hepgor Dosbarthau D ac E, fan leiaf, a Dosbarth C hefyd, o bosibl. Mae ei waith yn cynnwys ffynhonnau heb unrhyw gysylltiadau crefyddol wedi arwain at ormod o bobl yn barnu bod yr holl ffynhonnau a enwyd yn rhai ‘sanctaidd’, yn wreiddiol; ac nid yw hynny’n wir o gwbl.

Mae llawer o ddehongliadau Jones yn ddadleuol, ac y mae ei ysgolheictod yn aml ar ôl yr oes, bellach. Nid yw agos neb yn deall i THWOW ddechrau fel traethawd gradd MA, a nas datblygwyd fawr ddim y tu hwnt i hynny. Nid oedd astudiaeth Jones ond yn gyflwyniad i’r pwnc, nid yr astudiaeth hollgynhwysol a diffiniadol ag yw yn awr yn y farn academaidd a phoblogaidd fel ei gilydd.  Dim ond y statws anhaeddiannol, diweddarach hwn sy’n gwneud y llyfr yn gymaint problem i ysgolheigion a myfyrwyr heddiw, gan nad yw’r rhelyw ohonynt yn ymwybodol o’i ddiffygion.

Dyma restr o’r camgymeriadau pwysicaf y sylweddolasom arnynt.

Tudalen 27: Pistyll Teilo, Cydweli, Sir Gaerfyrddin.  Awgryma FJ y crybwyllir Pistyll Teilo yng nghofnodion Capel Teilo yn Llawysgrifau Mwdlescwm (Muddlescombe); ond dengys y cofnodion yn Archif Melville Richards ar-lein mai Capel Teilo yn unig a gynhwysir yn y llawysgrif, heb unrhyw gyfeiriadau at Bistyll Teilo.

Tudalennau 36 a 95: Ffynnon Fyllin, Llanfyllin, Maldwyn. Gweler y cofnod ynghylch tudalennau 198-9 isod.

Tudalennau 82 a 150:  Ffynnon Gadfarch, Abererch, Sir Gaernarfon. Cyfeiliorna FJ wrth ddweud y cymerid dŵr o’r ffynnon i’w ddefnyddio ar gyfer bedyddiadau yn eglwys Abererch. Mewn gwirionedd fe’i cymerid o Ffynnon Gawrdaf.  Mae FJ wedi camddarllen papur 1893 y Parch. Elias Owen yn y Montgomeryshire Collections.

Tudalennau 89 a 187:  Ffynnon Llangynwyd, Morgannwg. Cyfeiria FJ at ‘Llangynwyd Well’ a rhydd gyfeiriad Parochialia (Edward Llwyd), ond mae FJ yn camarwain, gan beri ymddangos ei bod yn ffynnon ag enw arni. Yr unig gyfeiriad ati yn y Parochialia (Rhan III, tudalen11) yw at ‘a Spring that cures the gowt & all aches’.  Â FJ rhagddo i ‘ddyfynnu’ o’r Parochialia parthed y tarddle y mae ef ei hun wedi’i gamenwi’n ‘Llangynwyd Well’:  ‘was a great resort in the month of May’. Union eiriau’r Parochialia yw ‘Great resort to it in the month of May yearly.’

Tudalen 100, llinell olaf: dylai Ffynnon Fair (Aberdyfi) fod yn Ffynnon Fair (Aberdaron).  Nid oes, mewn gwirionedd, unrhyw Ffynnon Fair yn Aberdyfi, felly nid dim ond camgymryd rhwng ffynhonnau ag enwau tebyg yw hyn (fel yn achos yr amryw gamgymeriadau rhwng ffynhonnau Cybi), ond creu ffynnon hollol newydd, ond dychmygol, gan Jones.

Tudalen 111:   Ffynnon Gybi, Llangybi, Sir Gaernarfon. Cyfeiria FJ at ‘Ffynnon Gybi (Caern.)’ ac yna at ‘Ffynnon Gybi (Holyhead)’.  Mae’r ddau, mewn gwirionedd, yn gyfeiriadau at yr un ffynnon, sef honno yn Llangybi yn Sir Gaernarfon; ac y mae’r ddau arfer a grybwylla yn ddau wahanol ddehongliad o’r un arfer.  Mae ei ffynhonnell yn  Archaeologia Cambrensis 1904, ynglŷn â gwragedd yn dymuno gwybod bwriadau eu cariadon, yn dweud:  ‘After bathing, they would throw a bit of rag or feather on the surface of the water, and if it floated to the south there would be great joy and delight, but if to the north “fe ai’r hogan yn hen ferch:” the girl would be an old maid.’  (Walter Williams, ‘Some Traces and Traditions Round Llangybi’, Arch. Camb. cyf. IV (6ed gyfres)(1904), t.113.)  Nid yw fersiwn FJ yn hollol gywir, gan ei fod yn troi ‘great joy and delight’ Williams yn ‘true love’, a ‘the girl would be an old maid’ Williams yn ‘matters boded ill’, y gellid bod wedi’i eirio’n well.

Tudalen 111:  Ffynnon Ddwynwen, Sir Fôn. Disgrifia FJ ‘movements of a sacred fish or eel in Ffynnon Ddwynwen’, ond mewn gwirionedd mae a wnelo’r hanes a edrydd â ffynnon Crochan Llanddwyn yng Nghoed Niwbwrch.  Nid yw’n bell o Ffynnon Ddwynwen, sydd ar Ynys Llanddwyn, ond yn bendant, mae’n wahanol ffynnon. Cyfeiria FJ at y Crochan ar dudalen 112.

 

Janet Bord  a Tristan Grey Hulse (cyfieithiad Howard Huws.)                                                                             (I’w pharhau.)

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc 

Ffynnon Geiniog, Llansanffraid Cwmdeuddwr.

  Ffynnon Geiniog, Llansanffraid Cwmdeuddwr. Cyfeirnod Arolwg Ordnans SN 87211 73702,

Fel un sydd wedi sôn am ffynhonnau ysblennydd iawn yn eich cylchgrawn, dyma fi’n cyflwyno’r ffynnon fwyaf di-nod posibl, ac eto un sy’n cyflawni ei phwrpas, sef diwallu dŵr croyw i’r trigolion. Mae’r ardal hon, a’i miloedd o gyfeiri agored, o safbwynt bugeiliol yn fan a alwaf yn Baradwys, a mawrygaf bob cyfle sy’n codi i ‘hel a didol diadell’ yno. Braint, a dweud y lleiaf.

Mae Ffynnon Geiniog wedi ei lleoli dros yr afon Elan o fferm Abergwngu. Yn ystod haf sych 1955 gorfu i David Williams (sy’n byw yn Llandrindod erbyn hyn) fynd i gyrchu dŵr yfed o’r ffynnon dan sylw, a oedd yn dal i fyrlymu er gwaetha’r sychder. David, a gynrychiolai’r bedwaredd genhedlaeth yn Abergwngu, oedd yr olaf, hyd y gwyddys, i’w defnyddio.

Gan fod y ffynnon wedi ei lleoli ar dir Bodtalog, sydd tua hanner milltir i ffwrdd, meddyliais tybed a oedd y teulu Pugh wedi codi pris o geiniog ar deulu Abergwngu fel ffordd o ddangos eu hawl ar y ffynnon tra bod teulu Abergwngu, ryw amser maith, maith yn ôl, yn cydnabod hynny wrth wneud defnydd o’r ffynnon. Pwy a ŵyr?

Wrth sôn am deulu Pugh, Bodtalog, rhaid nodi bod y   ddegfed genhedlaeth o’r un teulu yn dal i fyw yno. Flynyddoedd yn ôl, ’roedd un o’r teulu, William Hugh Pugh, ar ei wely angau, ac fe ofynnodd i’w ŵyr, Clifford

Wrth sôn am deulu Pugh (sydd erbyn hyn yn 88 oed ac yn byw yn Rhaeadr Gwy) mofyn dŵr iddo i’w yfed o Ffynnon Geiniog. Bu W.H. Pugh farw ar 17 Mai 1943 yn 81 oed.

Dyma lun a dynnwyd gan Jessica Hughes ar ôl i mi lanhau Ffynnon Geiniog ar 30 Mai 2012. Yn y cefndir gwelir y ffordd sy’n arwain o Bontarfynach i Raeadr Gwy. O’r chwith i’r dde: Erwyd Howells; David Evans, Abergwngu gynt; Janet a Robert Hughes, Aberglanhirin sy’n gymdogion i Abergwngu a Bodtalog.

Gan fod y nifer o bobl sy’n gwybod am Ffynnon Geiniog yn fach iawn, hyderaf y bydd y dernyn hwn o ysgrif yn ‘ei dwyn i gof, dyna’i gyd.’

 

      Erwyd Howells, Capel Madog.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Ffynnon Aelrhiw, Y Rhiw.

Bydd ffyddloniaid yn cofio’r ymdrech a fu yn y gorffennol diweddar i lanhau ac agor Ffynnon Aelrhiw yn y Rhiw, Llŷn (gw. “Llygad y Ffynnon” 17, 20, 24, 31 a 38.) Wedi ymholiad diweddar trwy gyfrwng ein cyfrif trydar, cafwyd gwybod y glanhawyd y ffynnon yn drylwyr drachefn ym Medi 2021, a dyma lun gan Sarah Mint, sy’n  fyfyrwraig Archeoleg ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor.

Mawr ddiolch iddi hi, ac i’r lleill fu wrthi!

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Ffynnon Fair, Llantrisant, a’r “Ladi Wen”.

 

 Hen fap o Lantrisant. Ceir tarddell “Spring” yn ardal arw’r Graig i’r gorllewin o’r pentref.

Ceir yn y “Porthcawl News”, 5ed o Fawrth 1914, hanes am Ffynnon Fair a darddai o oddi tan garreg fawr yng nghyffiniau’r Graig yn Llantrisant, Morgannwg. “Y Graig” oedd enw Adroddid ei bod ar fryn uwch y dref, ac y bu hollt yn y garreg lle bu delw o’r Forwyn Fair ar un adeg.  Prif hynodrwydd y ffynnon oedd mai yno, amlaf, y gwelid drychiolaeth o’r enw’r “Ladi Wen”, ar ffurf gwraig aeddfed, brydferth wedi’i gwisgo mewn dillad hen-ffasiwn. Yr oedd yr hanes amdani’n peri peth dychryn i bobl, yn enwedig plant: ond o’i gweld, nid ofnid hi ragor. Credid bod ei gweld yn arwydd o lwc dda i ddod, a dywedid am un a gawsai lwc dda ei fod “wedi gweld y Ladi Wen”, yn enwedig pe digwyddai iddo briodi’n dda, neu ymadfer wedi afiechyd difrifol. Gwaetha’r modd fe ddinistriwyd y ffynnon gan waith chwarelyddol, ac ni welwyd y Ladi Wen ers hynny.

(Diolch i Ian Taylor o “Wellhopper” am yr hanesyn hwn.)

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

The Monks' Well, Wavertree, Lerpwl

 

 The Monk’s Well, Wavertree, Lerpwl

Hen bentref yw Wavertree, a lyncwyd gan dwf Lerpwl yn 1895, ond a oedd yn bwysicach yn yr oesoedd canol. Mae Llyfr Stent Lloegr (1086) yn sôn am Wavertree, er nad yw’n dweud dim byd  am Lerpwl.

 Mae lawnt y pentref yn dal i fodoli, ac ar ei gyrion mae'n bosibl gweld hen ffynnon sanctaidd, “The Monks' Well,” fu yno er 1414 O.C. Roedd y ffynnon mewn lle arall yn wreiddiol, dipyn bach i fyny'r allt, ond cafodd hi ei symud yn y ddeunawfed ganrif i'r safle presennol gan berchennog Lake House. Doedd e ddim yn hoffi gweld y bobl gyffredin yn cerdded dros ei dir preifat ef er mwyn cael dŵr o'r ffynnon, felly adeiladodd sianel i gario'r dŵr i safle newydd y ffynnon ar lawnt y pentref.

 Mae enw'r ffynnon yn dod o'r mynachdy oedd gerllaw, ac yn ôl "Moss's Liverpool Guide, 1796", cawsai’r mynachod arian gan bobl am ddefnyddio'r dŵr yno. Yn y gwaith cerrig mae 'na arysgrif Lladin sy'n bygwth y sawl nad yw’n gadael offrwm: "Qui non dat quod habet, dæmon infra ridet", sef "Yr hwn ni rydd yr hyn sydd ganddo, mae'r cythraul isod yn chwerthin am ei ben.”

 Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu’r ffynnon yn fan cyfarfod a chymdeithasu i ferched y pentref, a phryderai’r awdurdodau am eu heneidiau, yn arbennig ar y Sul. Gorchmynnwyd i’r cwnstabl  gloi'r ffynnon yn ystod amseroedd gwasanaethau’r eglwys, felly, er mwyn rhwystro'r merched rhag hela clecs mewn lle cyhoeddus ar ddiwrnod sanctaidd.

Diflannodd y dŵr pan ddaeth cyflenwadau cyhoeddus newydd o gronfeydd yn Swydd Gaerhirfryn ac yng Nghymru, mwy na chanrif yn ôl, ond cafodd y strwythur ei gadw fel adeilad rhestredig. Mae fe yma o hyd.

Mike Farnworth

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Hen Ffynhonnau Bangor.

Coffa da am yr hen hanesydd R. Idloes Owen, fu’n ddyfal iawn yn y 1970au a’r 80au yn dwyn sylw at hanes dinas Bangor yn ei golofn “Historical Notebook” yn y North Wales Chronicle. Yn rhifyn 1.7.1982 Gwelodd yn dda i restru chwe ffynnon a ddefnyddid gan drigolion  Bangor ers talwm, sef:

Un ar ael y bryn uwchlaw Capel Ebenezer, Cae Llepa.
Un yn ymyl Bryn Difyr, Lôn Melin Esgob (y llwybr rhwng Lôn Bopty a phen uchaf Maesgeirchen).
Ffynnon Ty’n’rodyn, Ffordd Pen’rallt, Glanrafon.
Ffynnon Cae Crochan, yn ardal comin Maes Glas (Pendref) y tu cefn i’r British Hotel (Tŷ Willis, bellach).
Un yng ngwaelod Kyffin Square.
Un yn yr Ardd Fawr, ar waelod Stryd y Ffynnon, lle mae siop fwyd Marks and Spencer heddiw.

Annigonolrwydd y ffynonellau hyn yn wyneb twf poblogaeth y ddinas, a budreddi ofnadwy afon Adda, arweiniodd at ddarparu cyflenwad dŵr pibell o gronfa Cae Ffynnon Ddeiniol yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Tapiau dŵr Mynydd Llandygái.

Daw’r erthygl ganlynol o wefan https://hanesdyffrynogwen.wordpress.com/2021/03/17/, a diolchwn i John Llywelyn am ganiatâd i’w chynnwys yma.

Cyfraniad ar y cyd â Helen Hughes, Nant y Graean, Tregarth. Helen sydd yn haeddu’r clod am fod y cyntaf i sylwi ar y nodweddion pwysig yn hanes ein bro a drafodir yn y nodyn hwn.

1854 oedd y flwyddyn y derbyniodd Bethesda gyflenwad dŵr yfed am y tro cyntaf a hynny o gronfa a phurfa a adeiladwyd yn arbennig yn Nhŷ Dŵr ar Afon Gaseg ger Nant y Graen ym Mraichmelyn. Cynlluniwyd y gronfa i wasanaethu dinas Bangor yn bennaf, a thrwy agosrwydd y trothwy megis, y cynhwyswyd gofynion pentref Bethesda yn y cynllun.  Deddf Gwelliant Bethesda yn 1854 wnaeth awdurdodi’r cynllun, a chyfrannodd yr Arglwydd Penrhyn £1000 at wella’r cyfleusterau yn ogystal. Golygodd y Ddeddf gadarnhau gwell safonau adeiladu tai yn y pentref, a chynlluniwyd system o garthffosydd integredig i ofalu fod glendid cyffredinol y gymdeithas ar ei mantais, tra bo’r cyflenwadau o nwy o waith cynhyrchu ar gwr gogledd y pentref yn sefydlu trefn o oleuo’r pentref.

Ond pentref Bethesda yn unig oedd i elwa o welliannau’r Ddeddf ac nid Dyffryn Ogwen yn ei gyfanrwydd. Cyn i’r Chwyldro Diwydiannol ddechrau llygru amgylchedd y dyffryn ar derfyn y ddeunawfed ganrif, cyfres o ffynhonnau a fyddai wedi cyflawni’r gofyn am ddŵr yfed i’r gymdeithas, fel ym mhob ardal arall gyffelyb yng nghefn gwlad Cymru’r cyfnod.  Yn ein hardal ni chofnodwyd lleoliad nifer o’r ffynhonnau hyn mewn enwau caeau sydd yn Arolwg Stad y Penrhyn yn 1768 (Gweler y rhestr ar derfyn y nodyn). Yn y ddau blwyf, Llanllechid a Llandygái, mantais eithriadol oedd bod yn agos at gyflenwad y dŵr, boed hynny mewn tyddyn, fferm neu dreflan. Y gred oedd y byddai’n annhebygol i ddŵr y ffynnon fyth rewi, ac os oedd llyffant yn lletya yn ei dyfroedd byddai hynny yn gwarantu purdeb ei hylif. Felly, yng nghymuned Hen Gerlan ffynnon y fferm oedd yn dyfrio gofyn bythynnod gwreiddiol y dreflan ymhell cyn i resi tai canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gael eu hadeiladu, ac yr oedd y ffynnon yng Ngwernydd at ddefnydd y rhes tai cynnar a oedd yno. Ym Methesda, ar gwr eithaf y pentref yn Nol-goch, pistyll agored ar fin ffordd fawr Telford oedd tarddle dŵr yfed preswylwyr y rhes bythynnod hyd at derfyn yr Ail Ryfel Byd. A tybed pa ran chwaraeodd y ffynnon yn sefydlu lleoliad dwy ganolfan tai pwysig ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym mhlwyf Llanllechid, y naill yn Rachub a’r llall yn Gerlan lle mae Stryd y Ffynnon yn ganolog i’r ddau ddatblygiad?

 

  Ffynnon Gwernydd, Gerlan, Dyffryn Ogwen.

Hanes tebyg sydd ym mhlwyf Llandygái lle mae’n amlwg i ffynhonnau chwarae rhan sylfaenol bwysig yn y broses o anheddu llwyfandir agored Mynydd Llandygái yn y cyfnod yn dilyn 1768. Ni fyddai gan bob ‘ffynnon’ ei siafft o reidrwydd ond yn hytrach gallasai fod yn bwll cyfleus i oedi dŵr y ffrwd. Yr oedd yno ffynnon yn Nhŷ’n Buarth, Penllyn ar Lôn ’Rynys ac yng Nglanrafon Bach, a ffynnon, a’i dŵr i’w rannu rhwng dau dyddyn oedd ym Mryniau Gwyddelod hefyd, tra sefydlodd ffynnon ym Modfeurig leoliad y tyddyn yn Ffynnon Bach. Islaw cefnen Braich Talog yn Nhre-garth dŵr Cae Ffynnon oedd yn dyfrio tyddyn Tanrhiw ac o leiaf dri annedd arall a oedd gyfagos.

 

 Ffynhonnau Mynydd Llandygái,1888.    

 

Tapiau dŵr Mynydd Llandyái, 1923.

Wedi gobeithio derbyn cynllun dŵr yfed cynhwysfawr, dewis tra gwahanol oedd gan breswylwyr plwyf Llandygái chadael eu cyfoedion yn Llanllechid. Tiriogaeth yr Arglwydd Penrhyn oedd plwyf Llandygái yn ei gyfanrwydd a ‘doedd dim gofyn iddo ef brofi i’w blwyfolion ei awdurdod haelionus megis ym Methesda. Mae’n rhesymol nodi, er hynny, fod amgylchiadau’r plwyf yn dra gwahanol. Nid oedd yno gronfa i buro’r dŵr, ac i gymhlethu’r sefyllfa fwyfwy, roedd patrwm anheddu eithriadol wasgaredig a diffyg canolfannau niwcledig fel oedd yn y plwyf gyferbyn.

Ond yr oedd yno ffrydiau lawer i’w harneisio yn llifo o Waun Gynfi – digon i gynllunio math o gyfundrefn amrwd a phur gyntefig, ond eto cyfundrefn led effeithiol, er budd y gymuned. Pan sefydlodd yr Arglwydd dair stryd o dai yn y Gefnan, Llwybr Main a Thanybwlch yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gofalodd fod ffos danddaearol yn rhedeg drwy gaeau perthynol y tair rhes gydag agoriadau digonol, fwy neu lai, ym mhob cae ar gyfer codi dŵr i ddisychedu’r anifeiliaid – o gofio wrth gwrs mai  un o  gynseiliau pennaf y cynllun anheddu oedd ‘an acer and a cow’. Ond yno hefyd yr oedd nifer o ‘ffynhonnau’ wedi eu dosbarthu blithdraplith,  rhai yn agos at y tai, eraill beth pellter i ffwrdd, ychydig mewn caeau ond eraill ar ymyl y ffordd neu gyffordd yn y lôn, ond oll yn byllau arbennig i oedi ffrwd y nentydd a fyrlymai’n iraidd drwy’r ardal. Mae map ordnans 1888 yn dangos yn eglur amlder y dosbarthiad, a nifer o’r safleoedd yn gynseiliau, bid sicr, i ffynhonnau ychydig yn fwy soffistigedig mewn cynllun mwy cynhwysfawr a ddilynodd yn ddiweddarach. Ymddengys i’r cynllun elfennol oroesi hyd at dro’r ganrif pan sefydlwyd cynllun mwy cymeradwy bryd hynny. Tro’r Awdurdod Lleol,  gyda chytundeb ac efallai nawdd gan berchnogion y Penrhyn, oedd datblygu cynllun mwy effeithlon a  chynaliadwy i breswylwyr plwyf Llandygái.

Cyngor Gwledig Ogwen oedd berchen ar y cynllun gyda ffynhonnell y dŵr i’w dderbyn oddi uchod yn nyfroedd Llyn Marchlyn. Ffrydiai’r dŵr oddi yno i adeilad sy’n ymddangosiadol ddigyswllt, ei bwysigrwydd yn anghofiedig erbyn heddiw, yng nghanol gweundir Gwaun Gynfi. Yno yr oedd tarddle pibell danddaearol a  yrrai’r dŵr i danc cronni ym Mhant yr Afon, Bodfeurig, i’w ddanfon ymlaen i Sling a Thregarth, cyn gorffen y daith ar Ynys Môn. Canghennau o’r bibell hon a rannai’r dŵr drwy weddill y plwyf, a gellir olrhain llwybr y cyflenwad yn y cyfresi o dapiau cymunedol a leolwyd  mewn mannau canolog hwnt ac yma i dynnu dŵr o’r sustem. Teclyn ar ddalen o haearn bwrw, a bollt yn ei ganol i agor llif y  dŵr drwy’r pig, oedd y ddyfais, ac uwchben y follt moldiwyd ar ffurf pedol y geiriau ‘T Kennedy patent’.  Gan amlaf gwarchodwyd y tapiau mewn encilion pwrpasol ym môn y wal, ond erbyn heddiw dim ond yr encilion sy’n nodi’r lleoliad, ac eithrio mewn rhai safleoedd go arbennig lle erys dyfais y tap yn ei gyfanrwydd.

 

  Tudalen o gatalog cwmni Glenfield and Kennedy yn 1916, yn dangos y tap D19 ond heb nodi ei bris.          

Gwneuthurwr y ddyfais oedd cwmni Kennedy o Kilmarnock yn yr Alban, ac wrth gwrs enw gorwych tap y cwmni a ddefnyddiwyd yn deitl i’r nodyn hwn.  Er hynny, un o greadigaethau mwyaf distadl cwmni Kennedy oedd y D19.  Yn ei ddydd yr oedd cwmni Kennedy yn enfawr ei faint a’i bwysigrwydd, ac yn bennaf gynllunydd ffynhonnau dinesig addurno gyda marchnad ryngwladol rymus i’w pryniant.                                                                                           Sefydlwyd y cwmni yn 1863 yn arbenigo mewn cynllunio a chynhyrchu gwahanol fathau o ddyfeisiadau dyfrio ac yn rhannu safle â chwmni Glenfield a oedd yn gyfrifol am gyflawni gwaith haearn bwrw’r creadigaethau. Yn 1899 ymunodd y ddau i ffurfio cwmni Glenfield and Kennedy ac mae’r dyddiad hwn yn rhoddi bras amcan o ddyddiad creu rhwydwaith dŵr yfed plwyf Llandygái. Ond er mor dderbyniol y cyflenwad, cynllun cymunedol, ac nid er hwylustod i ddrws y tŷ, a gyflwynwyd gan yr Awdurdod, ac ysywaeth nid oedd traeniad carthffosiaeth yn rhan ohono.

O ganlyniad, gorchwyl pur annymunol fyddai’r dasg i’r plwyfolion gladdu’r gwastraff teuluaidd ym mhen yr ardd, ond onid oedd llwyddiant i bob gorchwyl yng nghyflawnder rhiwbob gorau’r greadigaeth a dyfai yn y gerddi hyn!

Mae’n amlwg fod cynllun tebyg wedi ei sefydlu ym mhlwyf Llanllechid i wasanaethu rhan o ogledd yr ardal nad oedd yn derbyn dŵr o gynlluniau trefol yr ardal. Mae’n berthnasol gwybod fod  rhan uchaf  pentref Rachub, sef yr hen Gae Llwyn Grydd, wedi yn derbyn dŵr o Ffridd Corbri ar un cyfnod, tra bo rhan isaf y pentref yn derbyn dŵr o ddatblygiad a oedd yn tarddu yng Ngerlan. Ar gyfer anghenion yr ardal rhwng Llanllechid a Thalybont sefydlwyd cynllun a oedd yn harneisio dyfroedd Afon Llan yn ei tharddle yng ngwaun Corbri. Yno yr oedd cwt yn dargyfeirio dŵr yr afon i’w ddanfon i danc cronni yng Nghaban Coch ac oddi yno i’w ddanfon i bentref Talybont lle’r oedd tapiau cymunedol o fath y D19 wedi eu gosod mewn mannau canolog at wasanaeth y gymuned.  

 

 

Tap D19 cyflawn mewn wal ac ynddi encil priodol yn Nhregarth.

I blwyfolion Llandygái, a rhannau o Lanllechid, y dasg ddyddiol fore a nos oedd casglu dŵr o’r ffynnon, pistyll, pwmp neu dap. Roedd yn orchwyl ailadroddus, trwm a diddychymyg, ond cwbl angenrheidiol yn nhrefn y dydd. Doedd prin amser i glonc a sgwrs wrth ddisgwyl tro i godi’r hylif, ac er mor gymunedol y safleoedd buan iawn y gallasai’r gwmnïaeth gymeradwy suro os oedd dŵr y cyflenwad wedi ‘ei sbydu’ yn ôl yr ymadrodd. Wrth gerdded yr ardal heddiw, drwy edrych, dyfalu, rhyfeddu a gweld sawl adeiladwaith cymen ym môn y clawdd, neu gilfach neilltuedig yn y wal,  ac yna sylweddoli eu bod oll yn gyfrannog yn nhapestri hanes ein hardal. A sylweddoli bod angen diogelu’r ychydig sy’n aros o’r hen ddyfrleoedd bendithiol hyn, ac o weld bod  nifer eu safleoedd, ysywaeth, yn faluriedig ac ar fin tranc anghofrwydd terfynol. Ond yr oedd iddynt oll eu cyfraniad gwerthfawr i hanes ein cymdeithas, ac mae cyfrifoldeb eu gwarchod lawn cyn bwysiced i’n bro ag yw cadwraeth genedlaethol yr honglad hyll o ffoli a adeiladwyd ger pentref Llandygái.

Diolchiadau – cyfrannodd nifer o gyfeillion o’u gwybodaeth i’r nodyn hwn ac mae’n bleser cofnodi ein diolch iddynt – Idris Lewis, Dolwern; Wynne ap Iorwerth, Glanrafon Bach; Ieuan Wyn, Talgarreg; Huw John Huws, Porthaethwy; Alwenna Williams,  Cefnddwysarn; Eluned Rowlands, Groeslon;  Brian Thompson, Tamworth; Kevin Williams, Bryn Eithin; Owie a Betty Williams, Bryn Owen, Gwilym Rees Evans, Mignant, Ceri Evans, Llanllechid, Wyn Roberts Tregarth, Margaret  Fernley Talybont, Megan a Deri Tomos, Sychnant.

 

John Llywelyn a Helen Hughes

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Manylion Cyswllt Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Gwefan: www.ffynhonnau.cymru

Gweplyfr:  Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Trydar: @ffynhonnau

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn llygad_y_ffynnon@btinternet.com. Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Mae ymchwilio i ffynhonnau fel unrhyw ymchwil

arall gwerth chweil. Chwiliwch yn fanwl,

cofnodwch yn gywir, a rhowch wybod i’r byd!

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up