Home Up

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 51, Nadolig 2021

 

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 5

Robin Gwyndaf

 

 

Ffynnon Sain Ffagan. Llun: Dafydd Wiliam.

 

Ffynnon Llwyn yr Eos, Sain Ffagan

Bydd ymwelwyr â Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, yn gyfarwydd â ffermdy ac adeiladau fferm Llwyn yr Eos. Perthynai’r fferm gynt i Ystâd y Plymouth, a cheir tystiolaeth ar un o fapiau’r ystâd o’i bodolaeth, o leiaf o’r flwyddyn 1776. Adeiladwyd y tŷ presennol yn 1820. Agorwyd y tŷ ac adeiladau’r fferm i’r cyhoedd fel rhan o’r Amgueddfa Werin yn 1989. O flaen y tŷ ceir ffynnon eang o ddŵr oer. Y mae wedi’i hamgylchynu â wal gerrig a phridd, gyda grisiau yn arwain ati Mae’n dra phosibl, onid yn debygol, iddi gael ei defnyddio gynt i ddiodi trigolion y cartref, ond y defnydd pennaf a wnaed ohoni, o leiaf yn y cyfnod diweddaraf, oedd i oeri’r piseri a’r caniau llaeth. Heddiw mae’r dŵr ar wyneb y ffynnon a’r borfa laith o’i hamgylch yn drwch o ferwr y dŵr.54

Ffynnon Llwyn yr Eos, Sain Ffagan

 

Ffynnon Sain Ffagan, ger Castell Sain Ffagan

Ffynnon ar dir Amgueddfa Werin Cymru eto yw’r ffynnon hon: ond ble yn union y mae? Dyma, felly, gychwyn ar y daith braf o’r brif fynedfa yn yr Amgueddfa i gyfeiriad y pysgod-lynnoedd a’r grisiau cerrig serth sy’n arwain i fyny tuag at y Castell. Wrth edrych ar y llynnoedd o’ch blaen, fe welwch hefyd nant fechan yn llifo gyda’u hochrau, agosaf atoch. Hyd y gwn i, nid oes enw swyddogol ar y nant hon wedi’i gofnodi ar unrhyw fap, ond ‘Nant yr Arian’ y byddaf i yn ei galw. Mae’n enw hyfryd i’r glust. Ceir bwthyn to gwellt o’r enw Silver Stream Cottage i gyfeiriad y llyn           isaf (ar y dde ar waelod y rhiw, islaw’r Castell). Lleolir y bwthyn y tu ôl i safle’r hen efail gynt sydd bellach yn faes parcio.

Yn union cyn croesi’r llyn isaf, os cerddwch gam neu ddau i’r dde i lawr i’r pantle ger y nant, mae’r ffynnon yn y ddaear ble mae’r dŵr yn llifo o dan y llwybr cerdded. Mae’r  ffynnon erbyn hyn fel petai’n rhan o’r nant. Prin y gellir ei gweld heb fynd yn agos iawn ati, a sylwi ar fwrlwm gwan y dŵr. ‘Ffynnon Sain Ffagan’ yw’r enw arferol ar y ffynnon. Ond ‘Ffynnon Ffagan Sant’ yw’r enw a roes y Parchg  William Rhys Jones, ‘Gwenith Gwyn’, arni yn ei golofn Gymraeg: ‘Newyddion y Barri a’r Cylch’, yn y Barry Herald and Vale of Glamorgan Times (20 Mai 1927). Dyma ei sylw cryno ef am rinweddau meddyginiaethol y ffynnon:

‘Yn y flwyddyn 1645 yr oedd plasdy teg o fewn muriau hen Gastell Ffagan Sant, ac yn y berllan a berthynai i’r plasdy, o dan hen bren ywen, yr oedd ffynnon mewn craig a elwid Ffynnon Ffagan Sant. Cyrchid i yfed dyfroedd y ffynnon enwog hon o bob parth, a chyfrifid ei dyfroedd yn feddyginiaeth ddi-ffael at yr Haint Dygwydd (Epilepsy).’55

Fersiwn Gymraeg yw’r geiriau hyn o’r nodyn a sgrifennwyd gan ŵr o’r enw Richard Symonds. Yn 1645, dair blynedd cyn y frwydr fawr, 8 Mai 1648, rhwng  milwyr y Brenin a lluoedd Cromwell a’r Senedd, fe ddaeth Richard Symonds gyda Siarl y 1af  i Sain Ffagan. Yn ei ddyddiadur am y flwyddyn honno: ‘Diary of the Marches of the Royal Army During the Great Civil War’, fe gyfeiriodd at y ffynnon gyda’r geiriau hyn:

‘St Faggin’s Church.

Neare the Church stands a faire howse within the old walls of a castle, called St Faggin’s; the heire of Mr Edward Lewis, Esq. owes [owns] it ...  In the orchard of this howse [sef y Castell], under an old yew tree, is a spring or well within the rock, called St Faggins’ Well; many resort from all parts to drinke it for the falling sickness [epilepsy], and cures them at all seasons. Many come a yeare after they have dranke of [it], and relate their health ever since.’56

Dyma’r sylw canmoliaethus a diddorol a wneir am Ffynnon Sain Ffagan yn y gyfrol Ewen’s Guide and Directory to the Town of  Cardiff and its Environs (1855), tt. 91-3:

‘The famous well here must not be forgotten; the properties ascribed to which almost rival the fabled “Fountain of Youth”. It is certain that the inhabitants of this favored (sic) place attain great ages; on a feast being given to the aged poor by the South Wales Railway Company, on the opening of the station, the united ages of 12 then present was above one thousand years.’

Mewn Cyfrol o’r enw Annals of St Fagan’s with Llanilterne. An Ancient Glamorgan Parish (1938, t. 50), fe ddywedodd yr awdur, Charles F Shepherd:

‘The yew tree disappeared long ago, but the water still springs from the rock, though of its health-giving properties nothing now is known.’ 

Yn fuan wedi fy mhenodi ar staff yr Amgueddfa Werin ym mis Hydref 1964, bûm innau’n  holi rhai o’r to hynaf ym mhentref  Sain Ffagan am y ffynnon. Roedd tybiaeth gan rai y gallai dŵr o’r ffynnon fod wedi cael ei ddefnyddio at wella llygaid dolurus, ond prin oedd unrhyw dystiolaeth bendant.

Arwyddocaol iawn yw tystiolaeth Richard Symonds fod ‘hen goeden ywen’ yn tyfu gynt dros y ffynnon. Nid damwain mo hynny. Yr oedd yr ywen (Taxus bacatta) yn bren cysegredig, ac, yn ôl y gred, yn diogelu dyn ac anifail. Pren cysegredig, rhinweddol a bendithiol, fel dŵr y ffynnon ei hun. Heddiw y mae ywen lled ifanc yn tyfu ger y ffynnon.

Roeddwn i yn awyddus iawn i wybod ai ywen wedi’i phlannu yn fwriadol yw’r ywen lled ifanc hon, ynteu pren wedi tyfu o fôn yr hen ywen. Dau o brif arbenigwyr coed yw ym Mhrydain yw fy nghyfeillion, Allen Meredith, Charlbury, ger Rhydychen (gynt o Derwydd, ger Llandybïe, Sir Gaerfyrddin), a Fred Hageneder, gynt o’r Almaen, telynor, ethnofotanegydd enwog ac awdur cyfrolau, megis The Spirit of Trees. Science, Symbiosis, and Inspiration (2001), ac Yew. A History (2007).   Fy mraint yn nawdegau’r ugeinfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar hugain. oedd eu gwahodd fwy nag unwaith i’r Amgueddfa Werin ac i weld y ffynnon.

Ym marn  y ddau arbenigwr hyn roedd yr ywen ifanc wedi tyfu o foncyff yr hen ywen. Mewn llythyr ataf, dyddiedig 14 Tachwedd 2003, mae Allen Meredith yn dyfynnu barn Dr Bill Linnard yntau am yr ywen bresennol: ‘not a very old one’. Yna mae’n ychwanegu’r geiriau: ‘as was my first observation’.

 

Lleoliad Ffynnon Sain Ffagan ar fap o eiddo’r Amgueddfa Werin.

Yn yr un llythyr y mae Allen Meredith yn cyfeirio hefyd at sylw’r awdur toreithiog, Stewart Williams, yn ei gyfrol Annals of South Glamorgan (1913). Wedi i’r awdur grybwyll sylwadau Richard Symonds am y ffynnon yn 1645, mae’n ysgrifennu’r geiriau hyn: ‘Though the old yew tree has long since disappeared, the sparkling waters of the spring still gush forth from beneath the rock.’ Â ymlaen:

‘What is interesting is no mention of a yew in 1913 – were they like me dismissing the present yew and looking for something very big – an ancient shattered relic. There is no doubt that the present yew didn’t appear over night and is most certainly centuries old. If there was a planting in recent times, it would have been recorded  given the popularity of the site.’57

Fodd bynnag, nid oes modd bellach i gadarnhau a wnaed cofnod o’r plannu, ai peidio, a gallai’r cofnod – pe gwnaed un - fod wedi mynd ar goll, fel yr aeth llawer o luniau cynnar o’r ffynnon a’i lleoliad, mae’n dra thebygol. Hyd nes y daw rhagor o dystiolaeth bendant i’r fei, doethach lawer, yn fy marn i, yw peidio â bod yn rhy bendant wrth geisio damcaniaethu ai tyfu o foncyff yr hen ywen a wnaeth yr ywen bresennol, ynteu cael ei phlannu o’r newydd. Dyna hefyd farn y Dr Bill Linnard, Radur mewn sgwrs, 3 Tachwedd 2021.58

Rhoddwyd cryn sylw i’r ywen eisoes yn yr erthygl hon oherwydd ei bod yn un o’r coed cysegredig. Roedd coed cysegredig eraill yn cynnwys: y dderwen, pren celyn, onnen, cerddinen / criafolen, bedwen, morwydden (mulberry), pren afal, a rhai mathau o ddrain. Yr oedd i amryw o’r coed cysegredig uchod gysyllylltiad annatod â defodau ac arferion a gynhelid ger y ffynnon. Ceir tystiolaeth bendant o hyn, er enghraifft, ym mhymthegfed bennod cyfrol D A Mackenzie, Ancient Man in Britain (1922): ‘Why Trees and Wells were Worshipped?’

Yn ôl y Cyfreithiau Cymreig roedd i rai coed arbennig a oedd wedi’u cysegru i seintiau fwy o werth na choed cyffredin. Er enghraifft, roedd ywen wedi’i chysegru i sant yn werth 120 ceiniog. Ond 15 i 20 ceiniog oedd gwerth ywen gyffredin.59  

Yn ogystal â Ffynnon Sain Ffagan, dyma ychydig enghreifftiau o ffynhonnau eraill yng Nghymru â choeden ywen yn tyfu yn eu hymyl, neu yn eu cysgodi: Ffynnon Beuno, Clynnog Fawr, Arfon; Ffynnon Gwenlais, Llanfihangel Aberbythych, Sir Gaerfyrddin; Ffynnon Bedr, Llanbedrycennin, Sir Gaernarfon; Ffynnon Elias, Maldwyn; a Ffynnon Capel Llanfihangel Rhos-y-corn, Sir Gaerfyrddin.60 Yn Ffynnon Beuno, ger Capel Aelhaearn, Meirionnydd, yr oedd yn arfer unwaith i ddefnyddio cangen o bren ywen i daenellu dŵr o’r ffynnon ar gefnau gwartheg clwyfus.61

Bu’n freuddwyd gennyf er pan ymunais â’r Amgueddfa Werin  i weld Ffynnon Sain Ffagan yn cael ei harddangos i’r ymwelwyr, gyda mawr ofal, afraid dweud, i sicrhau’r diogelwch eithaf. Yr oeddwn yn awyddus iawn hefyd i gael tystiolaeth wyddonol o ansawdd y dŵr. Ym mis Mai 1991, felly, trefnwyd gyda Chyngor Dinas Caerdydd, ar ran yr Amgueddfa, i gael dŵr y ffynnon wedi’i ddadansoddi. Paratowyd yr adroddiad gan John Elliot a’i ddychwelyd atom i’r Amgueddfa gan B G Sanders, ‘Dadansoddwr y Ddinas / City Analyst’, 11 Mehefin 1991. Anaml y ceir dadansoddiad mor fanwl â hyn o ansawdd dŵr rhai o’n ffynhonnau yng Nghymru, a hyderaf y bydd o ddiddordeb arbennig i ddarllenwyr Llygad y Ffynnon. Fe welir bod yr adroddiad yn cynnwys mewn dwy golofn fanylion am ansawdd dŵr y nant, yn ogystal â dŵr y ffynnon.                                                      

Chemical Results in mg/litre                                         

                                                  A.  H176E: Well water     B.  H177E: Pond water

Appearance                                                 Clear                     Hazy

Sediment                                                     Slight                     Moderate     

Colour (Hazen units)                                        <5                          10              

Reaction, pH value                                         6.9                         7.9             

Electrical Conductivity at 20oC                       800                        520                   

Chlorides (as C1)                                            65                          31                

Carbonate hardness (as CaCO3)                       348                        226                  

Non-carbonate hardness                                  24                         37                          

Total hardness (as CaCO3)                              372                       263                 

Ammonium (NH4)                                         0.006                    0.015  

Albuminoid nitrogen                                     0.054                    0.246                   

Nitrite (as NO2)                                             Nil                      0.023                   

Nitrate (as NO3)                                            2.0                       4.4               

Sulphate (as SO4)                                                                                                                                   

Oxygen absorbed in 4 hrs at 80F                     0.24                     1.16       

       

Metals:                                                                                                                                               

Copper                                                           Nil                         Nil                           

Lead                                                               Nil                         Nil                       

 Iron                                                               0.01                       0.30                                                                

Manganese                                                       Nil                         0.07                        

Zinc                                                                Nil                         0.02

 Observations: a clear, colourless, neutral, very hard water of good organic quality.

 Ar sail yr adroddiad uchod, er y ganmoliaeth, dyfarnodd B G Sanders nad oedd yn cymeradwyo yfed y dŵr.62 

Nodiadau Rhan 5

54.    I weld lluniau o dŷ ac adeiladau Llwyn yr Eos, gw. argraffiadau o Lawlyfr Amgueddfa Werin Cymru. I weld llun

          o’r ffynnon, gw. yr un gan Phil Cope yn y cylchgrawn presennol.

55.    Gweinidog gyda’r Bedyddwyr a hynafiaethydd brwd oedd y Parchedig   William Rhys Jones, ‘Gwenith Gwyn’

          (1868-1937). Ceir casgliad helaeth o’i bapurau a’i lawysgrifau (1464) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi’u

         catalogio gennyf, gyda llungopïau o amryw ohonynt ar gadw hefyd yn Archif Llawysgrifau Amgueddfa Werin

         Cymru. Rhif 706 yn y catalog yw’r eitem a ddyfynnir yn yr erthygl bresennol. Am beth o hanes bywyd a gwaith

         William Rhys Jones, gw. fy erthygl: ‘Gwenith Gwyn: Cynheilydd Traddodiad ei Dadau’, Trafodion Cymdeithas

         Hanes y Bedyddwyr, 1980, tt.32-58.

56.   Richard Symond’s Diary, gol. C E Long; Camden Society, 1859, t. 215.

57.   Cedwir llythyr Allen Meredith yn fy Archif  Ffeiliau yn Amgueddfa Werin Cymru, Adran Byd Natur: ffeil

         ‘Ffynnon Sain Ffagan: Gohebiaeth R.G.’

58.   Y mae’r Dr Bill Linnard, yn gyn-gydweithiwr, yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Un o’i gyfrolau

         gwerthfawr yw: Welsh Woods and Forests: History and Utilization, Amgueddfa Cymru, 1982.

59.   A W Wade-Evans, Welsh Medieval Law, Rhydychen, 1909, tt.104, 248.

60.   Francis Jones, Holy Wells of Wales, t.19.

61.   Edward Lhuyd, Parochalia (1695-98), Arch. Cam. Atodiad, 1909, 1910-11, ii, 40.      

62.   Carwn ddiolch yn ddiffuant iawn i Phil Cope, Dafydd Wiliam, ac i Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, am y

         ddau lun a’r map yn rhan 5 yr erthygl hon.  Mawr ddiolch hefyd i’r Dr Christopher Thomas, CADW, am ei

         gymorth parod gyda’r map i ddynodi union leoliad Ffynnon Sain Ffagan.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 ‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’: 

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

 

Dirywiad traddodiad canoloesol.

    Mae hanes St Govan, ei hunaniaeth bosibl, ei gapel a’i ffynnon, wedi newid yn unol â diddordebau a ffasiynau’r dydd, a dengys yr astudiaeth hon o werth 350 o flynyddoedd o adroddiadau, wedi’u hategu’n helaeth â dyfaliadau hynafiaethol, sut y mae traethiadau’n newid ac yn datblygu gydag amser. Yn yr achos hwn, mae’n debygol ein bod ni, mewn gwirionedd, yn dystion i ddirywiad traddodiad canoloesol. Mae tirwedd cwlt y sant eto’n parhau, ond nid yw mwyafrif yr ymwelwyr yn ei gweld am yr hyn oedd ar un adeg. Canolbwynt y safle yw “cell” y sant a ddefnyddid, debyg, gan y sant yn wely penydiol iddo. Yn ddiweddarach, codwyd capel, â’r gell yn ganolbwynt iddo, lle gallai pererinion anrhydeddu’r sant; a dygwyd y ffynonellau dŵr (y tarddellau neu’r ffynhonnau y tu mewn i’r capel ac islaw iddo) i chwedl y sant yn fannau lle gallai pererinion dderbyn o rymoedd iachaol y sant. Mae hefyd rhes hir o risiau carreg i lawr at y capel, sydd megis man traws-symud rhwng ein byd unfed ganrif ar hugain ni a’r eiddo St Govan. Mae’r dyb nad oes modd cyfrif y grisiau yn ychwanegu awyrgylch o ansicrwydd i’r daith o’r byd beunyddiol i’r gofod cysegredig y ceir mynediad iddo trwy ddrws i’r capel. Rhaid mynd trwy’r capel, hefyd, i gael at ffynnon y sant, arwydd arall o fynd trwy ddrws o’r naill gyflwr o fodolaeth i’r nesaf.

      Mae’r adroddiadau cynharaf o 1662 a thua 1700 yn fyrion, gan grybwyll dim ond capel a ffynnon iachaol y sant. Ond diau y bu rhai o’r traddodiadau eraill eisoes yn fyw iawn, ac y buasai pererinion yn ymwybodol o’r defodau y dylid eu cyflawni er mwyn ennill elw ysbrydol o ddod i mewn i’r dirwedd gysegredig. Gydag amser ychwanegid at y traddodiadau, yn benodol trwy’r chwedlau parthed cell St Govan a’r budd y gellid ei ennill trwy ymwasgu i’r man lle y dywedid bod y sant ei hun wedi ymguddio, a thrwy hynny ddod i gysylltiad personol â’r sant.  Magwyd traddodiadau eraill, megis y gloch a ddygwyd a’r garreg gloch a ganai, ymweliad yr Iesu, claddu’r sant y tu mewn i’r capel, olion ei asennau y tu mewn i’r gell, olion ei ddwylo ar lawr y capel...Ond wrth inni ddod i mewn i’r 20fed ganrif, mae’r pwyslais wedi newid. Mae’r ffynnon ar lan y môr eisoes wedi’i chadw a’i hategu trwy ychwanegiad gorchudd carreg yn y 19eg ganrif; ond erbyn yr 20fed ganrif nid yw ond yn gofeb segur coelion y gorffennol, gyda’i chyflenwad dŵr yn hesb a’i diben iacháu wedi peidio. Yn wir, efallai mai’r diffyg dŵr a arweiniodd at ragor o bwyslais ar ddefnyddio clai yn gyfrwng iacháu, o’r ffynnon y tu mewn i’r capel i ddechrau, ond yn ddiweddarach o unrhyw le yn y cyffiniau.

       Wrth i deithio ddod yn haws ac i ragor o bobl fedru ymweld â mannau mwy anghysbell, daeth y capel bychan a gyrhaeddid trwy droedio’r grisiau serth tan glogwyni dramatig yn brif atyniad, gyda llawer o ymwelwyr heb wybod dim am na’r sant na’i ffynhonnau. Yn araf, gyda’r canrifoedd, mae pererinion duwiol wedi troi’n dwristiaid bydol. Ond y mae eu hawydd parhaus i ymweld â St Govan’s Chapel, ynghyd â bywiogrwydd y traddodiadau, yn dangos bod y man yn parhau i gynhyrfu dychymyg pobl, hyd yn oed os ni sylweddolant eu bod wedi dod i mewn i dirwedd sanctaidd 1,500 mlwydd oed.

 
Janet Bord .                                                                                                                                               (Cyfieithiad Howard Huws.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Cyfarfod Rhithiol “Zoom” ar-lein

am 10:30 o’r gloch 17.7.2021.

 COFNODION.

 Yn bresennol: Robin Gwyndaf (Llyw.), Eirlys Gruffydd-Evans (Cad.), Howard Huws (Ysg.),

Gwyn Edwards (Trys.), Dennis Roberts (Archwil.), Mike Farnworth, Elisabeth Rees, Elwyn Jones.

1. Croeso’r Cadeirydd.

    Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

2. Ymddiheuriadau. Dafydd Whiteside Thomas, Eifion Jones, Ann Owen, Eleri Gwyndaf,

    Anne E. Williams.

3. Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2020, a materion yn codi.

a). Cryno-ddisg mynegai “Llygad y Ffynnon”. Bwriedid rhoi’r mynegai ar y wefan. Dennis Roberts i fod yn gyfrifol am hynny. Mynegwyd diolch iddo.

b).  Cyhoeddi cyfrol ynghylch ffynhonnau Morgannwg. Eirlys Gruffydd-Evans yn brysur iawn â gwaith bugeiliol ar hyn o bryd, ond tynnwyd sylw at gyhoeddiad Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent, “Medieval and Post-Medieval Holy Wells in Glamorgan and Gwent”, mis Mawrth 2011, ac at gyfraniadau Robin Gwyndaf yn “Llygad y Ffynnon.”

c). Yr Eisteddfod Genedlaethol. Gohiriwyd eleni eto, ond ni newidiwyd y cynlluniau, ac edrychir ymlaen at glywed cyflwyniad Mike Farnworth yn Nhregaron yn 2022.

ch). Gwibdaith yn wythnos gyntaf Awst. Gan fod y cyfyngiadau eto mewn grym, ni threfnwyd y wibdaith hyd yn hyn. Awgrymodd Robin Gwyndaf nad wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol fyddai’r adeg orau, gan fod cynifer o weithgareddau eraill ymlaen ar yr un pryd, a awgrymodd y Cadeirydd y byddai Gorffennaf yn well. Efallai y bydd modd trefnu un ym Mangor adeg yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023, onid ynghynt.

d). Penodi Swyddog Cyhoeddusrwydd. Awgrymodd Dennis Roberts y byddai’n werth cysylltu â Deri Tomos, gan ei fod yn nabod pobl yn Adran Wyddorau Prifysgol Bangor. Penderfynwyd y dylai’r Ysgrifennydd gysylltu â Deri Tomos.

dd). Cynnal darlithoedd byw. Mae Mike Farnworth wedi sefydlu “Cwmulus”, gwefan sy’n llwyfannu darlithoedd misol, a medrai gynnig lle i’r Gymdeithas wneud darlith yn Ebrill 2022. Dywedodd y gallai ef wneud popeth technegol, y cyhoeddusrwydd, a threfnu’r cyfieithu ar y pryd. Rhaid ymgofrestru, ond mae modd gweld y ddarlith ar YouTube a Zoom Cymraeg a Saesneg.

Penderfynwyd y dylai’r Ysgrifennydd gysylltu, a rhoi gwybodaeth yn Llygad y Ffynnon. Awgrymwyd enwau sawl unigolyn a all ddarlithio: Robin Gwyndaf ar Ffynhonnau Caerdydd (darlith Eisteddfod Caerdydd, Caerdydd), Howard Huws, Eirlys Gruffydd-Evans, ac Elfed Gruffydd yn Llŷn. Awgrymodd Robin Gwyndaf y byddai modd cynnal sgyrsiau am waith cyfoes y Gymdeithas, hefyd. Gofynnodd Mike yn gofyn am gyfraniad ym mis Ebrill, a chynigodd Robin y dylai Howard Huws gynnal sgwrs yn cyflwyno’r Gymdeithas, gyda lluniau o ffynhonnau, yn Ebrill. Penderfynwyd hynny.

Dywedodd Dennis Roberts fod gan Gareth Roberts, Menter Fach-wen, wybodaeth am Ffynnon Cegin Arthur, ymysg llawer o wybodaeth ac adnoddau eraill.

e). Cyfrifon Trydar a Facebook. Dywedodd yr Ysgrifennydd fod gan y cyfrif Trydar 217 o ganlynwyr. Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi ysgrifennu erthygl i “Cennad” (newyddlen ar-lein y Presbyteriaid a’r Bedyddwyr) Ffynnon Degla, Llandegla. Bu’r Trysorydd yn lanlwytho deunydd o wefan y Gymdeithas i wefan Facebook.

Dywedodd Robin Gwyndaf fod modd defnyddio’r cyfryngau newydd i gael rhagor o arian, a gofynnodd a oes modd i ddilynwyr Trydar ddod yn aelodau, yn dod yn gefn ariannol i’r Gymdeithas er mwyn cyflawni prosiectau? Dywedodd y Cadeirydd y bu hi’n edrych ar wefan Wellhopper; maen nhw’n gofyn am gyfraniad ariannol ar eu gwefan.

f). Canfod ffynonellau ariannol. Gw. uchod. Bu Dennis Roberts yn edrych ar beth oedd yn bosibl trwy fudiadau gwirfoddol, ond nid yw’n ymddangos fel petai lawer i’w gael o’r cyfeiriad hwnnw. Awgrymodd y Cadeirydd y gellid gwahodd perchnogion Ffynnon Helen, Caernarfon i ymuno â’r Gymdeithas.

4. Adroddiad yr Ysgrifennydd.

Bu’n flwyddyn ddistaw oherwydd y cyfyngiadau, ond llwyddwyd i gynnal y Gymdeithas. Diolchodd y Cadeirydd i Howard a Robin am eu gwaith yn ystod y flwyddyn, a dywedodd fod y Pwyllgor wedi cadw cysylltiad trwy e-bost.

5. Adroddiad y Trysorydd.

Diolchodd y Trysorydd i’r Cadeirydd am gyfraniad o £500 er cof am Ken Gruffydd. Fel arall, ni fu llawer o newid, gyda £5 o wahaniaeth yn y cyfrif cyfredol: ond ni chafwyd anfoneb gan Telemat am gynnal y wefan er 2019, ac y mae honno’n sicr o ddod yn y dyfodol agos. Bydd angen talu i’r Lolfa am argraffu “Llygad y Ffynnon”, hefyd. Nid oedd costau ynglŷn ag ymbresenoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd nac eleni, ond er bod golwg sefydlog ar yr arian, mae peth i’w dalu allan, felly bydd rhaid cael arian i mewn. Diolchodd i Dennis am ei gymorth.

6. Adroddiad yr Archwiliwr Mygedol.

Adroddodd yr Archwiliwr Mygedol fod y cyfrifon yn gywir ac yn gyflawn. Diolchwyd iddo.

7. Adroddiad Golygydd “Llygad y Ffynnon”.

Adroddodd y Golygydd fod dau rifyn wedi’u cyhoeddi, sef rhai’r Nadolig a’r haf. Dywedodd y Cadeirydd y dylid rhoi gwybodaeth am "Llygad y Ffynnon" ar Drydar a Gweplyfr. Diolchodd y Llywydd i Eirlys a’r diweddar Ken Gruffydd am eu gwaith hwy â Llygad y Ffynnon, ac i Dennis Roberts a Howard Huws. Llongyfarchodd Dennis Howard ar ei 10fed rhifyn fel Golygydd, gan edrych ymlaen at ei 40fed rhifyn i wneud cystal ag Eirlys.

8. Cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Adroddodd Gwyn Edwards ei fod yn ceisio cael pobl at ei gilydd i ddechrau adfer Ffynnon Redyw, Llanllyfni. Mae Angharad Tomos a Lorena Hughes wedi cytuno (Lorena yn warden eglwys Llanllyfni) a Ben Gregory, gŵr Angharad, hefyd: mae ganddo ddawn codi arian. Mae angen cytuno ar ddyddiad cyfarfod. Mae llwybr cyhoeddus ar y tir lle ceir y ffynnon, ond nid i’w chyfeiriad hi, ac mae angen canfod pwy yw’r tirfeddiannwr. Mae prosiect ar y gweill i gysylltu safleoedd eglwysig o ddiddordeb hanesyddol, felly mae’n bosibl y bydd cymorth ar gael. Gobeithir medru adrodd am gynnydd ymhen blwyddyn. Mae unrhyw ymgais i adfer ffynnon yn llawn problemau, felly ni ellid gwneud addewidion, ond y nod yw hwyluso mynediad, cael bwrdd dehongli, a glanhau’r ffynnon,  gyda phobl yn gyfrifol am ofalu amdani.

Dywedodd y Cadeirydd fod hwn yn newyddion gwych. Mae’r safle ar gyrion yr eglwys: a oes gwybodaeth am berchnogaeth gan y Gofrestrfa Tir neu Cadw? Mae’n debyg nad oes, gan nad yw’r tir wedi newid dwylo ers cyfnod helaeth. Gobeithir medru rhoi adroddiad yn “Llygad y Ffynnon” erbyn diwedd y flwyddyn. Mae’n ffynnon fawr: ymwelodd y Cadeirydd â hi ym 1987.

Mae ffynhonnau eraill yn y cyffiniau - safle Ffynnon Faglan a Ffynnon Feuno, er enghraifft.

Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer. Adroddodd yr Ysgrifennydd ei fod yn cadw golwg ar y safle, ond mae cymaint o waith wedi’i wneud yno, a’r dirwedd wedi’i newid cymaint, fel y mae’n annhebyg fod yno ddim y gellid ei hadfer, bellach.

Arddangosfa Fforwm Hanes Cymru. Dywedodd y Llywydd fod Fforwm Hanes Cymru’n holi a ddymunwn gael gofod i gynnal arddangosfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf yn Nhregaron. Mae modd gael bwrdd neu banel arddangos, un o’r newydd, efallai, fel nad oes angen i neb fod yno: byddai’r lluniau’n llefaru. Rydym yn dal i dalu £20 y flwyddyn am aelodaeth o’r Fforwm. Y teimlad oedd y byddai angen cael rhywun yno gydol yr wythnos. Dywedodd Mike Farnworth y byddai’n fodlon bod yno ar adegau, ond teimlwyd mai anodd fyddai cael neb yno gydol yr wythnos.  Er gosod paneli a rhannu rhifynnau o’r “Llygad” a thaflenni ymaelodi, byddai angen rhywun yno i hyrwyddo, ac i ofalu nad yw mudiadau neu gyrff eraill yn meddiannu’r gofod. Mae’r Fforwm yn gofyn am gyfraniad ariannol am gael lle, yn ychwanegol at y tâl aelodaeth blynyddol: £50 yn 2018.

Cynigodd yr Ysgrifennydd y dylid hepgor hyn am y tro. Eiliwyd hynny gan Dennis Roberts: mae’n bwysig gwario ein harian mewn ffordd sy’n talu. Awgrymodd y Cadeirydd y dylid hysbysebu’r ddarlith yn yr Eisteddfod, a gweithio o gwmpas honno, gan ei bod yn ffordd fwy effeithiol o gael aelodau newydd, ac y mae’n bwysig cyfeirio adnoddau i le maen nhw’n fwyaf effeithiol. Cytunwyd, felly, i beidio â derbyn cynnig Fforwm Hanes Cymru.

Ffynnon Garon Tregaron. Clywyd fod hon wedi’i hadfer yn y gorffennol, ond mae wedi’i gadael i ddirywio eto. Bu Mike Farnworth yno 2 flynedd yn ôl, ac fe’i cafwyd yn llawn mieri, heb liw o’r bont bren: dangosodd luniau diweddar (2019) ohoni yn ei chyflwr. Mae llwybr ati ar dir Glan Brenig, ond mae’r fynedfa ar gau.

Ar gynnig yr Ysgrifennydd, penderfynwyd y dylai ysgrifennu at Gyngor Cymuned Tregaron yn holi ynghylch y ffynnon a phosibilrwydd ei hadfer erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf.

9. Unrhyw fater arall.

a.) Dywedodd Dennis Roberts fod meddalwedd y wefan yn hen-ffasiwn, bellach. Bydd symud o Windows 10 i Windows 11 ymhen ychydig, ac efallai na fydd y meddalwedd presennol (FrontPage) yn gweithio llawer rhagor: mae angen trosglwyddo i raglen fwy cyfredol. Dywedodd Mike Farnworth fod pobl yn defnyddio rhaglenni “Content Management System” yn y we, yn awr: rhai fel WordPress. Nid oes dim ar y cyfrifiadur ei hun: mae’r cyfan yn y we. Penderfynwyd y dylai Dennis i gysylltu â Mike i drafod rhoi’r safle mewn lle mwy diogel.

b). Dywedodd y Llywydd fod yr aelodau presennol oll yn mynd yn hŷn, a bod angen cael aelodau gweithredol, brwdfrydig. Mae angen rhoi sylw i gael aelodau newydd sy’n bresennol mewn gweithgareddau. Cytunodd yr Ysgrifennydd fod angen cyrraedd yr ifanc cyn gynted ag y bydd amgylchiadau’n caniatáu.

10. Dyddiad a lleoliad y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.

Dywedodd y Cadeirydd fod cyfarfodydd rhithiol yn gyfleus iawn. Dywedodd y Trysorydd y byddai’r 23ain o Orffennaf 2022 yn orau ar gyfer cael adroddiadau’r banc. Cytunodd Dennis Roberts y byddai’n gyfyng cael yr wybodaeth erbyn 16eg, ond nid yn amhosibl, a byddai’r 16eg yn gadael mwy o amser ar gyfer trafod unrhyw beth cyn yr Eisteddfod.

Penderfynwyd cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf ar ddydd Sadwrn yr 16eg o Orffennaf 2022, trwy gyfrwng rhithiol “Zoom.”

Wedi i’r Cadeirydd ddiolch i bawb, ac i hithau dderbyn diolchiadau’r gweddill, daeth y cyfarfod i ben am 12:00.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffy nnon y Fuwch Frech, Rhiw, Groes, Dinbych.

 

Llun: Ffion Clwyd-Edwards, @FfionClwyd   

https://mobile.twitter.com/mimnant/status/1118218431902437382?lang=cs Cyrchwyd 7.11.2021.

 

Mae Ffynnon y Fuwch Frech ar Allt y Fuwch Frech, Rhiw, Groes, Llansannan, Dinbych. Bedyddid holl blant Capel Ebenezer Y Rhiw gan ddefnyddio dŵr y ffynnon. Yn ôl y chwedl, yfai’r fuwch o’r ffynnon hon, a rhoddasai laeth i bawb hyd nes y’i digid: a digwyddodd hynny pan ffraeodd ddau frawd ynghylch y fuwch, ac y lladdodd y naill y llall. Ceir fersiynau eraill o’r chwedl o Fetws Gwerfyl Goch, Iwerddon, Lloegr a’r Alban, weithiau’n gysylltiedig â hen gylchoedd cerrig fel Preseb y Fuwch Frech ar Gefn Bannog.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc  

 

Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar y We:

Gwefan: www.ffynhonnau.cymru

Gweplyfr:  Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Trydar: @ffynhonnau

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru erbyn 31.5.2022, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 07870 797655.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Gynidr, Y Clas-ar-Wy.

 

Dyma ffynnon hardd rhwng y Clas-ar-Wy a Llansteffan yn ne eithaf Elfael, Powys. Ei chyfeirnod Arolwg Prdanas yw SO 1640 4132. Dyma a ddywed Francis Jones amdani yn Crwydro Sir Faesyfed I, tt. 97-8. Llandybïe: Llyfrau’r Dryw, 1966.

“Ar ôl gadael y capel [Maesyronnen] a chyrraedd yr heol unwaith eto penderfynasom ohirio ymweld â’r Clas-ar-Wy tan ddiwedd y daith ac felly daliasom ymlaen i fyny’r rhiw tua chomin Ffynnon Gynidr. Pwy, tybed, sy gyfrifol am newid enwau lleoedd y sir hon ar y mapiau? Gwelaf i rywun droi Cynidr fab Brychan yn ‘gynydd’ ar y mapiau diweddar. Ac erbyn heddiw ‘Ffynnon Gynydd’ yw’r ffurf a arferir ar y papur lleol er bod pawb o’r ardalwyr yn dweud Ffynnon Gynid.’ Dyna’r ffurf a glywais gan Mrs. Ricketts, gwaig y gof, yn ddiweddar. Dywedodd Mrs. Ricketts fod traddodiad yma i fintai o bengryniaid Cromwel ddyfod i’r hen efail ar y comin a pheri i’r gof drwsio’u cleddyfau. Y mae’n debyg gennyf fod hyn yn wir.”

Cynidr yw (neu oedd) nawddsant y Clas-ar-Wy yn Elfael; Aberyscir, Llan-y-wern a Chantref ym Mrycheiniog, a Kenderchurch ac efallai Winforton yn Swydd Henffordd.

  

Adeilad y ffynnon.

 Clawr y ffynnon ar agor.  

Cofeb gerllaw’r ffynnon.

    Lluniau: https://www.megalithic.co.uk/article.php?sid=24673. Cyrchwyd 7.11.2021.

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Wichell, Penboyr.

O “Baner ac Amserau Cymru” 8.11.1902, tud. 5.

 

“Cynghor Plwyfol Penboyr

Cynnigiodd Mr. Rees Jones fod y ffynnon a elwir Ffynnon Wichell mewn gwir angen ei hadgyweirio, a bod y Cynghor Plwyfol yn gwneyd y gwaith; ac y byddai y trigolion oedd yn defnyddio y dwfr yn dwyn hanner y draul. Cynnygiwyd gwelliant gan Mr. Evan Evans, ac eiliwyd gan Mr. John Evans, Esgair Villa, fod dau aelod o'r cynghor, ynghyd a Mr. Rees Jones, i ofyn caniatad y rhai sydd yn dal y tir yn gyntaf, ac yna i'r gwaith gael ei wneyd. Yr aelodau a ddewiswyd oeddynt y Mri. D. Hugh Lewis, a David Lewis.”  

Ac o’r un papur, 7.2.1903, tud. 6.

“Darllenwyd gohebiaeth oddi wrth y Cynghor Dosbarth, am roddi cynllun o waith a fwriedir ei wneyd ar Ffynnon Wichell, a'i anfon iddynt, er mwyn ei osod ger bron goruchwyliwr ystad Dolhaidd. Gohiriwyd hyny hyd y cyfarfod nesaf, yr hwn sydd i'w gynnal yn fuan.”

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc 

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn llygad_y_ffynnon@btinternet.com. Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up