Cylchlythyr
Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Rhifyn
50, Haf 2021
Heb Ddŵr, Heb Ddim
Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch
Rhan
4
Robin
Gwyndaf
Ffynnon
Daf, 1861. S.C. ac A.M. Hall, “The Book of South Wales.”
Ffynnon
Daf
Dyma roi sylw nawr i ffynnon enwog iawn.
Mewn ysgrif yn y gyfres
werthfawr ar ‘Lên Gwerin Morgannwg’ yn y newyddiadur Tarian
y Gweithiwr (Y Darian), yn 1926,
y mae’r hanesydd Tom Jones, Trealaw, yn y Rhondda, yn agor ei sylwadau ar
‘Ffynnon Taf’ fel hyn:
‘Dyma
un o’r ffynhonnau hynotaf yn y sir, os nad yng Nghymru. Saif yng ngwely’r
Afon Taf, gerllaw Tongwynlais. Fe’i gorchuddir hi’n llwyr pan fo llif yn yr
afon ... Nid oes mynedfa ati ym misoedd y gaeaf, ond yn ystod misoedd yr hâf
gellir cerdded ati drwy wely’r afon yn eithaf hwylus.’36
Fel rhan o’i baragraff agoriadol y mae’r cofnodydd llên gwerin diwyd o
Drealaw yn dyfynnu’r geiriau a ganlyn o eiddo David Watkin Jones, ‘Dafydd
Morganwg’, awdur y gyfrol lafurfawr, Hanes
Morganwg (1874):
‘...
ond er ei llenwi â graian a mân gerryg gan lifogydd, mae yn ei
glanhau ei hun trwy wthio allan bob gronyn, er eu bod tua troedfedd o
ddyfnder.’37
‘Gerllaw Tongwynlais’, meddai Tom Jones. Gellid ychwanegu hefyd, wrth
gwrs, fod y ffynnon gerllaw pentref o’r enw Ffynnon Taf, ym mhlwyf Eglwys
Ilan, De Morgannwg. ‘Ffynnon Taf’ yw’r enw ar y ffynnon gan Tom Jones a
llawer un arall, a’r enw yn aml hefyd ar lafar. Ond ‘Ffynnon Daf’,
gyda’r treiglad (oherwydd fod y gair ‘ffynnon’ yn fenywaidd), sy’n fwy
gramadegol gywir. Dyma rai ffurfiau a ddefnyddid gynt wrth gyfeirio at y ffynnon
ac a gofnodwyd gan Richard Morgan: ‘Funon Tave’ (1778); ‘Taf’s Well
farm’ (1795); ‘Taffs Well’ (1825); ‘Fynon Tâf, or the well of Tâf’
(1840); ‘Fynon Taf’ (1873).
‘Its
water is tepid – the uniform temperature is 67°. It also contained mineral
ingredients similar to those of Bath, which are supposed to be efficacious in
the case of rheumatic ailments.’39
Ychwanegodd
Francis Jones un darn o wybodaeth bellach:
‘It
was also called Ffynnon Dwym, and visitors paid annual subscriptions to keep it
in
repair.’40
Fel
hyn y mae Phil Cope yntau yn cyfeirio at Ffynnon Daf ym mharagraff agoriadol ei
gyflwyniad i’w luniau ohoni:
‘The
Ffynnon Dwym hot springs are warmed geothermally from deep within the earth. At
a constant twenty-one degrees centigrade, the waters travel on their slow,
twenty-five kilometre journey from their source, at perhaps just a few metres a
year, through warming cracks in the earth.’41
Roedd gwerth meddyginiaethol amlwg iawn yn nŵr Ffynnon Daf, a deuai
pobl o bell ac agos i ymolchi yn ei dyfroedd er mwyn gwella eu crydcymalau a’u
cloffni. Y gred oedd y byddai’r claf yn gwella o fewn mis wedi iddo ef neu hi
ymolchi yn y dŵr. Adroddir am un llanc ifanc ganol y bedwaredd ganrif ar
bymtheg a fu’n ‘ymolchi yn y ffynnon am bythefnos gron, ac ar derfyn y
cyfnod hwn bu’n bosibl iddo daflu’i ffyn baglau a neidio o lawenydd.’42
A dyma eto dystiolaeth Tom
Jones:
‘...
mae rhinwedd ei dyfroedd yn ddiarhebol at wella’r Crud Cymalau neu’r
Gwynegon (‘gwynêcon’, ys dywedwys gwŷr Pentyrch). Mae llawer un gafodd
iechyd drwy hon wedi bwrw ei ffyn baglau gerllaw iddi, ac wedi neidio a llamu yn
llawen wrth ddod oddiyno. Nid anhygoel felly yw clywed am y garn o ffyn baglau a
ffyn llaw a welir ambell waith ar lan yr afon yn yr ymyl.’43
Cyfeiria Tom Jones hefyd at ddefod y disgwylid i’r cleifion ei dilyn:
‘Rhaid
i’r gŵr neu was, neu’r ferch neu wraig, daenu pilyn o ddillad
ar draws perth neu bren gerllaw neu’r ffynnondy ei hun pan fo yn
ymdrochi yn y dŵr.’44
Yn 1926 y cyhoeddodd Tom Jones y geiriau uchod. Dyma yr hyn oedd gan Edgar L
Chappell i’w ddweud yn 1938:
‘Prior
to the erection of the present spa building, the well was enclosed in an iron
structure, outside which was hung a garment to indicate that the well was in
use, a petticoat in the case of a woman, a trousers in the case of a man.’45
Cyhoeddwyd cyfrol Wirt Sikes, British Goblins, mor gynnar ag 1880, ac
y mae’n amlwg fod y caban o haearn yn bod bryd hynny. Dyma frawddeg neu ddwy
o’r un paragraff a sgrifennwyd ganddo ef am Ffynnon Daf. Cyfeiriodd yntau at
yr arfer o osod dilladau arbennig o eiddo’r dynion a’r merched ar yr ‘iron
structure’ a elwir ganddo ef yn ‘rude hut of sheet iron’.
‘Some
of the Welsh mystic wells are so situated that they are at times
overflowed by the waters of the sea or river. Taff’s well, in
Glamorganshire, a pleasant walk from Cardiff, is situated practically in the bed
of the river Taff ... A rude hut of sheet iron has been built over it. ... A
primitive custom of the place is that when men are bathing at this well they
shall hang a pair of trousers outside the hut; women, in their turn, must hang
out a petticoat or bonnet.’46
O dro i dro ceir cyfeiriadau yn llên gwerin Cymru at wragedd mewn dillad
llwyd, gwyn, gwyrdd, ac weithiau ddu. Yn aml ceir traddodiadau sy’n cysylltu
rhai o’r gwragedd hyn â ffynhonnau. Cysylltir un traddodiad felly â Ffynnon
Daf. Fel hyn y mae Marie Trevelyan yn ei chyfrol Folk-Lore and Folk-Stories
of Wales (1909) yn adrodd hanes rhyfeddol y wraig mewn dillad llwyd
ger y ffynnon.
‘A
lady robed in grey frequently visited this well, and many people testified to
having seen her in the twilight wandering along the banks of the river near the
spring, or going on to the ferry under the Garth Mountain. Stories about this
mysterious lady were handed down from father to son. The last was to the effect
that about seventy or eighty years ago [h.y., oddeutu 1829-39] the woman in grey
beckoned to a man who had just been getting some of the water. He put his
pitcher down and asked what he could do for her. She asked him to hold her tight
by both hands until she requested him to release her. The man did as he was
bidden. He began to think it a long time before she bade him to cease his grip,
when a ‘stabbing pain’ caught him in his side, and with a sharp cry he
loosened his hold. The woman exclaimed: ‘Alas! I shall remain in bondage for
another hundred years, and then I must get a woman with steady hands and better
than yours to hold me.’ She vanished, and was never seen again.’47
Yng nghyfrol Marie Trevelyan mae’r awdur yn cofnodi hefyd dystiolaeth am
un arfer hynod o ddiddorol oedd yn cael ei gysylltu â Ffynnon Daf.
‘In
connection with this well there was a custom prevalent so late as about seventy
years ago [h.y. oddeutu 1839]. Young
people of the parish used to assemble near Taff’s Well on the eighth Sunday
after Easter to dip their hands in the water, and scatter the drops over each
other. Immediately afterwards they repaired to the nearest green space, and
spent the remainder of the day in dancing and merry-making.’48
Y mae’r cyfeiriad at yr wythfed Sul wedi’r Pasg yn y dyfyniad uchod yn
arwyddocaol. Dyma ni ym misoedd Mai-Mehefin a dechrau’r haf. Cyfnod y coelion
a’r holl arferion oedd yn ymwneud â gofyn am fendithion ar y tymor newydd
hwn. Adeg y dathlu mawr mewn dawns a chân. Wedi’r gaeaf hir, adeg i lawenhau
yng nghwmni’r haul. Cyfnod y ‘Carolau Mai’ a’r ‘Canu Ha’;
‘codi’r Fedwen Haf’ a ‘dawnsio Cadi Ha’;
y ‘twmpath chwarae’, neu, yn arbennig ym Morgannwg, y ‘taplas
haf’.49
Cofiwn hefyd am yr hen gred gynt fod gwlith cyntaf Calan Mai yn arbennig o
rinweddol at ymolchi croen yr wyneb. I raddau llai, roedd y gwlith cyntaf drwy
gydol mis Mai yn fendithiol.50 Ai atgof o gred pobl gynt yng
nghysegredigrwydd dŵr, yn arbennig gwlith cyntaf mis Mai, sydd yn yr hen
arfer uchod o fendithio eraill drwy eu gwlychu â dafnau dŵr o Ffynnon Daf?
Yn ôl un traddodiad credid fod Ffynnon Daf yn enwog am rinwedd ei dŵr
mor gynnar ag oes y Rhufeiniaid. Arferid dweud bod llif mawr yn yr afon yn y
flwyddyn 1799 wedi datgelu olion cerrig o’r cyfnod cynnar hwnnw. Fodd bynnag,
os gwir hynny, nid oes dim o’r olion i’w gweld heddiw.51
Yn arbennig er mwyn pwysleisio mor hen oedd yr arfer o fynychu’r ffynnon,
y mae’r hynafiaethydd o Drealaw yn dyfynnu o gyfrol George Nicholson,
The Cambrian Traveller’s Guide in Every Direction (1813):
‘Mantz
found the remains of the once celebrated Taffe’s Well. It was formerly
enclosed, and said to possess the infallible property of curing the most
inveterate rheumatism, but at present its delapidated state allows the water of
the river often to mingle with its contents.’52
Fel y bu lleihad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed
ganrif yn yr arfer o ymweld â rhai o ffynhonnau enwocaf Cymru, megis Ffynhonnau
Trefriw yn y Gogledd a Ffynhonnau Llandrindod a Llanwrtyd yn y De, felly y
gwelwyd lleihad yn nifer y rhai a ymwelai â Ffynnon Daf. Bu dirywiad amlwg
hefyd yn y ddarpariaeth ar gyfer y cyhoedd. Er hynny, bu i’r trigolion lleol
yn y man sicrhau bod pwll nofio ar gael ger y safle yn cynnwys dŵr cynnes
o’r ffynnon.
Bu’r pwll nofio hwnnw ar agor hyd bumdegau hwyr yr ugeinfed ganrif, ond,
yn bennaf oherwydd fod Afon Taf yn gorlifo’i glannau mor aml, cau, ysywaeth,
fu hanes y pwll yn y man. Erbyn dechrau’r unfed ganrif ar hugain roedd y
cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr unwaith eto wedi dirywio’n sylweddol;
anharddwyd llawer ar y muriau o amgylch y ffynnon; a bu’r mynediad ati am
gyfnod ar gau.
Bellach, fodd bynnag, gwnaed llawer o waith adnewyddu ar y fangre hanesyddol
hon. Efallai nad pawb fydd yn hoffi’r trawstiau haearn mawr a osodwyd o
amgylch y ffynnon, na’r palis dur tal a ychwanegwyd er mwyn sicrhau diogelwch
y cyhoedd. Er hynny, rhaid cydnabod mai da yw gwybod bod y ffynnon enwog hon –
Ffynnon Daf – ar agor unwaith eto i groesawu ymwelwyr o bell ac agos.53
Mae Cyfeillion Parc a Tharddell Dwym Ffynnon Daf wedi comisiynu astudiaeth
ddichonoldeb ynghylch defnyddio’r dyfroedd yn gyflenwad twymo amgen ar gyfer
Pafiliwn y Parc. Dangosodd yr astudiaeth, fodd bynnag, y darparai’r dyfroedd
gyflenwad twymo llawer mwy ar gyfer naill ai tai neu’r ysgol gynradd leol, ac
oherwydd maint y prosiect fe’i trosglwyddwyd i awdurdod lleol Rhondda Cynon
Taf i edrych ar y defnydd gorau. Wedi rhagor o brofion ac astudiaethau,
penderfynwyd cynnwys system cyfnewid gwres yn Ysgol Gynradd newydd Ffynnon Daf,
ynghyd â phaneli ynni haul, a olygai nad allyrrai’r ysgol unrhyw garbon.
Mynedfa
bresennol Ffynnon Taf (llun Phil Cope)
Da yw y cynhesir pafiliwn y Parc hefyd, a gosodir
system dwymo o’r ffynnon wedi i ddifrod Storm Dennis gael ei drwsio. Bydd
gwaith gosod uned cyfnewid gwres yn dechrau yn y dyfodol agos. Mae’r gymuned
yn falch for y dŵr twym yn cael ei ddefnyddio er budd yr ardal ac yn edrych
ymlaen at ragor o waith yn y dyfodol.
Adeilad
newydd arfaethedig Ffynnon Daf.
Nodiadau
Rhan 4.
36.
Y Darian, 18 Chwefror 1926.
37.
ibid.
38.
Place-Names of Glamorgan, t. 212.
39.
Cardiff and Suburban News, 19 Mawrth 1938.
40.
Holy Wells of Wales, t. 106.
41.
The Living Wells of Wales, t. 231.
42.
Robin Gwyndaf, ‘Chwedl a Choel yn Nhaf Elái’, yn David A Pretty,
gol., Rhwng Dwy Afon, 1991, t. 167.
43.
Y Darian, 18 Chwefror 1926.
44.
ibid.
45.
Cardiff and Suburban News, 19 Mawrth 1938.
46.
British Goblins: Folk-Lore, Fairy Mythology: Welsh, Legends and
Traditions, argraffiad
newydd, E P Publishing, 1973, t. 358. Cyhoeddwyd gyntaf gan Sampson Law,
Llundain, 1880. Awdur: Wirt Sikes, ‘United States Consul for Wales’. Gw.
hefyd Dafydd Morganwg, Hanes Morganwg, t.29.
47.
Folk-Lore and Folk-Stories of Wales, Elliot Stock, London, 1909,
t.195. Am draddodiadau cyffelyb sy’n gysylltiedig â ffynhonnau eraill yng
Nghymru, gw. Holy Wells of Wales, tt. 126-7.
48.
ibid., tt. 195-6.
49.
Gw. Trefor M Owen, Welsh Folk Customs, Amgueddfa Genedlaethol
Cymru, Caerdydd, 1959. Pennod 3: ‘May and Midsummer’, tt. 95-112.
50.
Gw., er enghraifft, Iona Opie a Moira Tatem, A Dictionary of
Superstitions; Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1992, tt. 245-6 (arg. 1af 1989); a
Steve Roud, A Pocket Guide to the Superstitions of the British Isles,
Penguin Books, 2004, tt. 25-6.
51.
Holy Wells of Wales, t. 106.
52.
Y Darian,18 Chwefror 1926; The Cambrian Traveller’s Guide in
Every Direction, 1813, t. 729.
53.
Am un farn a fynegwyd, gw. dwy gyfrol Phil Cope, Holy Wells: Wales. A
Photographic Journey, Seren, 2008, tt. 194-7; a The Living Wells of Wales,
Seren, 2019, tt. 231-2
Robin
Gwyndaf.
Ni allwn adael ffynhonnau Caerdydd heb luniau o ddwy ffynnon arall y cyfeiriwyd atynt yn rhan flaenorol erthygl Robin, sef pwmp dŵr eglwys Sain Nicolas, a safle debygol Ffynnon Gatwg ym Mhen-tyrch. Daw’r ddau o gyfrol Phil Cope, The Living Wells of Wales (2019), a diolchwn iddo am ei ganiatâd i’w cynnwys yma.
Safle
Ffynnon Gatwg ym Mhen-tyrch.
Pwmp dŵr eglwys Sain Nicolas
HH.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod
350 mlynedd (parhad).
Ymhelaethiadau
cyfoes
Bu St Govan’s Chapel yn atyniad twristaidd poblogaidd ers talwm, yr hyn y
gellir ei ddeall o gofio ei leoliad dramatig, a thros amser y mae manylion y
straeon a’r chwedlau wedi mynd yn fwyfwy helaeth. Mae hyn i’w weld yn
neilltuol wrth gymharu’r adroddiadau byrion gwreiddiol â’r fersiynau
estynedig a gyhoeddir heddiw. Cyn y 18fed ganrif nid oedd sôn am
fedd y sant, cell y sant, y garreg gloch, ac ati, sydd oll bellach rhan annatod
o chwedl St Govan. Anodd gwybod pryd y daeth y traddodiadau hyn i fod gyntaf.
Mae bod bedd y sant o dan yr allor y tu mewn i’r capel yn enghraifft
ddiddorol. Ceir y gred hon yn fynych mewn disgrifiadau o’r capel, bellach, ond
yn rhyfedd ddigon nis ceir mewn llawer o adroddiadau cyn y ganrif bresennol.
Mae’r cyfeiriad cyntaf a ganfûm yn dyddio o 1811 pan sylwodd Fenton wrth
fynd heibio fod “rhai yn honni bod y Sant meudwyaidd wedi’i gladdu” lle
mae’r allor.41 Yr unig
gyfeiriad arall o’r 19eg ganrif a ganfûm hyd yn hyn yw un o 1852 pan
ddatganodd Ernest Silvanus Appleyard fod y capel “yn cynnwys allor
ddyrchafedig, o dan ba un y credir y gorwedd y sant”.42
Mae cyfeiriadau o’r 20fed ganrif hefyd yn brin; ond yn yr 21ain
ganrif mae mwyafrif y disgrifiadau’n cynnwys yr wybodaeth y claddwyd y sant o
dan yr allor. Bu ailadrodd helaeth erioed ar chwedl y gloch a ddygwyd gan fôr-ladron,
er yr ychwanegwyd elfen o fursendod yn ddiweddar: dywedir bellach iddo gael
“ei achub gan fôr-rianedd a’i gosododd y tu mewn i garreg ger y capel”
neu “Fe’i dygwyd gan y lladron ond fe’i hawliwyd yn ôl gan angylion a’i
caeodd o fewn carreg ar lan y môr.”
Ychwanegiad diweddar arall yw “yr argraffwyd ôl dwylo’r sant ar lawr y
capel.” Cyfeiria un ffynhonnell at “olion yn y garreg a wnaed gan fysedd y
sant pan ymguddiodd yma” - ond y traddodiad, yn wastad, fu mai ôl asennau’r
sant ydynt, nid ei fysedd, felly efallai fod hwn yn newid arall sydd ar gynnydd,
neu efallai’n gymysgiad â’r traddodiad newydd arall, sef un olion dwylo’r
sant ar y llawr.43 Tuedd
cyfoes yw gweld ffynhonnau sanctaidd yn “ffynhonnau deisyf”, ac y mae
disgrifiad diweddar o Saint Govan’s Well yn dweud ei bod yn “ffynnon ddeisyf
ac yn ffynnon iacháu” - er mai anodd fyddai ei defnyddio at y naill ddiben
na’r llall yn awr, gan ei bod yn hesb.44
Yn y ganrif bresennol mae tuedd hefyd yn datblygu i Gymreigio enwau Seisnig
rhai ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru. Mae rhai ffynhonnau, yn bennaf yn
ardaloedd mwy Seisnig Cymru, wastad wedi bod ag enwau Seisnig ac nid erioed rhai
Cymraeg, ac y mae Saint Govan’s Well yn un o’r cyfryw. Ar y sail mai gwell
cadw’r arfer traddodiadol, dylid galw’r ffynnon hon yn St Govan’s Well ac
nid byth yn Ffynnon Gofan. Byddai
hynny’n anghywir beth bynnag, oherwydd pa bai’n “Ffynnon Gofan”, yna
enw’r sant, heb ei dreiglo wedi enw gwrthrych benywaidd unigol fel
“ffynnon”, fyddai Cofan. Os Gofan yw ei enw, yna enw’r ffynnon fyddai
Ffynnon Ofan.
Janet
Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)
(i’w pharhau)
Nodiadau
41 Fenton, A Historical Tour…, op.cit., 414
42 ‘By the author of “Proposals for Christian Union’ [a enwir yn
ddiweddarach yn E.S.A., sef Ernest
Silvanus Appleyard], Welsh Sketches,
Chiefly Ecclesiastical, to the Close of the Twelfth Century (London, 2il
arg., 1852), 129
43 Ceir enghreifftiau o lên gwein cyfoes yn:
‘St Govan’s Chapel, Bosherston, Pembrokeshire, Wales’, The
Journal of Antiquities, 18 Awst 2013 – mae hwn â chyfeiriadau at y bedd,
y gloch, olion bysedd y sant, a Ffynnon Govan (http://thejournalofantiquities.com/category/st-govans-holy-well-at-st-govans-head-in-pembrokeshire/);
Mae gan Pixyledpublications, ‘St Govan’s Well and Chapel’,
gyfeiriadau at y gloch a’r olion dwylo (https://insearchofholywells
andhealingsprings.wordpress.com/2013/06/14/st-govans-well-and-chapel/)
44 Mae gan Fywoliaeth Reithorol Cil-maen ddisgrifiad manwl o’r ffynnon a’i llên gwerin, ac yn cynnwys crybwyll y ffynnonn megi ffynnon ddymuno (http://www.revjones.fsnet.co.uk/govan/govan.html)
Ffynhonnau Sanctaidd Gogledd Iwerddon.
Mae 187 o ffynhonnau sanctaidd wedi’u cofnodi yng nghofnod henebion
Gogledd Iwerddon, ac y mae rhai ohonynt yn cael eu defnyddio hyd heddiw: ond y
maent tan fygythiad oherwydd “datblygiadau” cyfoes, ac ni wyddys sawl un a
gollwyd. Bydd y Dr Ray’n cydweithio â thîm ymchwil Treftadaeth Guddiedig
Ffynhonnau Sanctaidd sydd newydd ei ffurfio ym Mhrifysgol Queen’s, Belffast, i
astudio a chofnodi pwysigrwydd daearyddol, hanesyddol ac ieithyddol y
ffynhonnau.
"Ffynhonnau sanctaidd yw rhai o safleoedd
cysegredig hynaf y byd,” meddai’r Dr Ray. “Hwy yw’r lleoedd cyntaf lle
ceisiai bobl y goruwchnaturiol; hwy yw’r lleoedd cyntaf y daeth pobl yn
amddiffynnol a hyd yn oed yn diriogaethol ynglŷn â nhw.”
Dywedodd yr Athro Keith Lilley o’r tîm ymchwil: “Mae ffynhonnau
sanctaidd yn neilltuol agored i ddifrod, gan fod llawer ar dir preifat ac nid
oes iddynt ddiogelwch cyfreithiol. Mae ffynhonnau sanctaidd yn bethau sy’n
ymddangos fel petaent yn fyrhoedlog, ac nid ydynt yn hysbys iawn, ond mae’n
amlwg eu bod o bwys diwylliannol mawr yn hanes Iwerddon ac yn hanes Cristnogaeth
ar ynys Iwerddon. Mae’n dreftadaeth ar raddfa fechan, ond pan ychwanegwch y
cyfan at ei gilydd, mae’n hanes mawr.”
Coeden
garpiau wrth Ffynnon Olcan, Antrim.
Ceir rhagor o fanylion yma: https://www.bbc.co.uk/news/uk-northern-ireland-56216763
HH.
Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar y We
Gwefan:
www.ffynhonnau.cymru
Gweplyfr:
Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Trydar: @ffynhonnau
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
“Llygad y Ffynnon” yw
cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a
gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru
erbyn 31.11.2021, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 07870 797655.
Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd
ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn
i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy
archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o
drafferth.
Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm
a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â
Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.
Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40
“Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am
ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com. Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn
www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno
doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau
“Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen
ymaelodi ar-lein.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 50 Haf 2021
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc