Home Up

Talfyriad o

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 49, Nadolig 2020

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

Rhan 3

  

Ffynnon Castell Coch, Caerdydd (trwy garedigrwydd Phil Cope)

Un o’r lluniau a gyhoeddwyd eisoes yn yr ail ran oedd llun Pistyll Yfed Treganna. Yn y llun hwnnw fe gofiwch fod rhywun, neu rywrai, wedi gosod yn y ddysgl ddŵr gerflun o ben ellyllaidd, adeiniog. Ai pen y Diafol, y Gŵr Drwg ei hun, ydyw? Dewis cwbl anaddas ac anffodus iawn, yn fy marn i. Nid â drygioni a melltith y cysylltwn ein ffynhonnau a’n pistylloedd dŵr, ond â daioni a bendith

 

Pistyll Yfed Treganna, Caerdydd (trwy garedigrwydd Phil Cope).

Un ffynnon a ddisgrifiwyd yn yr ail ran yw Ffynnon Tarws, Gwenfô. Bellach, drwy garedigrwydd fy nghyfaill Gwyndaf Breese, mi wn ble mae’r ffynnon hon, a chefais gyfle i dynnu llun ohoni ar gyfer trydedd ran yr erthygl. I ymweld â’r ffynnon, teithiwch o gylchdro Croes Cwrlwys ar hyd Heol y Porth / Port Road: A4050, i gyfeiriad Y Barri. Yn union wedi cyrraedd Gwenfô, trowch ar y dde, ger Bwyty’r Beefeater, i Heol Nant Isaf. Ymhen ychydig lathenni fe ddowch i drofa. Fe welwch lôn ar y dde, a Lôn Tarws yn union syth o’ch blaen. Os mewn cerbyd, gadewch ef mewn man diogel (ar Heol Nant Isaf?) a cherddwch ychydig lathenni i fyny Lôn Tarws. Mae’r ffynnon yn y clawdd ar y chwith.  

 

Ffynnon Tarws  (llun Robin Gwyndaf).

(I’w pharhau)                                                                                                                                    

Robin Gwyndaf.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Cyfarfod Rhithiol “Zoom” Ar-lein am 10:30 o’r gloch 18.7.2020.

COFNODION.

Yn bresennol: Eirlys Gruffydd-Evans (Cad.), Howard Huws (Ysg.) Gwyn Edwards (Trys.)

Dennis Roberts (Archwiliwr), Mike Farnworth, Dafydd Whiteside Thomas, Anne E. Williams.

1. Croeso’r Cadeirydd.

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

2. Ymddiheuriadau. Robin Gwyndaf (Llywydd), Ian Taylor, Ann Owen.

3. Cofnodion. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2019, a materion yn codi.

a). Cryno-ddisg mynegai “Llygad y Ffynnon”. Adroddodd Dennis Roberts fod y gwaith yn mynd ymlaen. Ceisir cael y drafft cyntaf yn fuan, a’i ddiwygio wedyn. Dennis a Howard i drefnu hyn.

b).  Gyrru fersiwn terfynol o erthygl “Ffynhonnau Caerdydd” at olygydd “Llygad y Ffynnon”. 

Robin wedi gwneud hyn.  

c). Cyhoeddi cyfrol ynghylch ffynhonnau Morgannwg. Dywedodd Eirlys fod  angen cyfrol ar siroedd y de i gyd-fynd â’r ddwy arall. Nid yw wedi medru gwneud hynny oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo, a llawer o waith bugeiliol i’r Eglwys. Bydd rhaid bwrw ymlaen â’r gwaith fesul dipyn.  

ch). Yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae sgwrs a sleidiau wedi’u paratoi gan Mike ar bwnc “Ffynhonnau Ceredigion” gyfer y cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod yn Nhregaron 2021. Roedd Mike wedi siarad â’r technolegydd adeg cyfarfod Eisteddfod Llanrwst 2019, er mwyn ymgyfarwyddo â’r offer cyflwyno. Dywedodd yr Ysgrifennydd ei bod yn bosibl y ceir gwell amser ar gyfer y cyfarfod na 5:00 o’r gloch y pnawn; pe ceid, byddai Mike yn fodlon â hynny.

4. Adroddiad yr Ysgrifennydd.  

Blwyddyn ddistaw, nid yn lleiaf oherwydd cyfyngiadau’r firws corona. Golyga hyn:

Na fu modd teithio er mwyn ymweld â safleoedd o ddiddordeb;

Na chynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni;

Nad yw cyrff fel cynghorau lleol, cyrff statudol a gwirfoddol yn gwbl weithredol, felly nid oes modd gofyn iddynt weithredu ynghylch unrhyw bwnc neilltuol cysylltiedig â ffynhonnau;

Na fu modd cynnal y cyfarfod blynyddol hwn yn ei ffurf arferol.

Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst y llynedd, pryd y cafwyd cyflwyniad ardderchog gan Gareth Pritchard, Llandudno ar destun “Ffynhonnau’r Gogarth”. Llawer o ddiolch iddo am rannu’r fath wybodaeth ddiddorol â chynifer ohonom.

Tynnodd Howard sylw’r aelodau ato yw’r rheidrwydd i’r gymdeithas gynnig rhagor o weithgareddau i’n haelodau. Hynny yw, rhywbeth iddynt ei wneud, amgen na derbyn dwy newyddlen.

Siaradodd Mike o blaid posibilrwydd cynnal cyfarfodydd “Zoom” a chynnal gwibdeithiau o gwmpas ffynhonnau. Byddai modd hyrwyddo’r Gymdeithas thrwy wefan “Say Something in Welsh!”, a rhoi erthygl yn “Yr Angor”, papur bro Lerpwl. Gallid cynnal gwibdeithiau yn unrhyw le: crybwyllwyd Bangor, y gogledd-ddwyrain, a Dyffryn Conwy, er enghraifft.

Dywedodd Dafydd fod Gareth Roberts, Menter Fachwen, wedi ymchwilio llawer i  Ffynnon Cegin Arthur, Llanddeiniolen, a bod y ffynnon honno’n eithaf hawdd ei chyrraedd.

Dywedodd Gwyn fod hynny’n syniad da iawn. Mae sawl cymdeithas hanesyddol a llenyddol y byddai o fudd inni gysylltu â nhw, a’u hysbysu pan fwriadwn gynnal taith, gan osod hysbyseb yn y papur bro lleol hefyd: byddai’n gyhoeddusrwydd, a gallai ddenu aelodau newydd a meithrin ymwybyddiaeth o’r Gymdeithas. Tueddwn i wneud popeth yn y gogledd oherwydd rhesymau ymarferol, ond dylid canfod modd cynnal gweithgareddau yn y gorllewin a’r de hefyd, a chael pobl i arwain teithiau ym mannau eraill yng Nghymru.  Yng nghyffiniau Tregaron, er enghraifft (ardal yr Eisteddfod genedlaethol nesaf), ceir Ffynnon Gybi, Ffynnon Garon, a ffynnon Ystrad Fflur. Pe gyrrid gwybodaeth i bapurau bro ar ffurf llythyr at y golygydd, gellid osgoi gorfod talu am osod hysbyseb.  

Penderfynwyd cynnal gwibdaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf, gan roi cyhoeddusrwydd iddi yn ystod sgwrs Mike ar ddydd Mawrth yr ŵyl.

O dan y cyfyngiadau presennol nid oes modd trefnu dim i sicrwydd, ond yn y cyfamser gellir traddodi darlithoedd dros y we. Mae Mike wedi gwneud hyn sawl gwaith yn barod, yn Saesneg, gyda 400 o wylwyr yn edrych ar ei ddarlith ddiwethaf. ’Does dim problem  gwneud hyn. Cytunodd Dennis fod modd gwneud darlith neu bytiau byrion ar YouTube. Gellid adeiladu stôr o gyflwyniadau ar wahanol ffynhonnau unigol, fel na fyddai angen mynd i’r ffynhonnau eu hunain, o dan y cyfyngiadau.

5. Adroddiad y Trysorydd.

Rhoddwyd y cyfrifon diweddaraf ar y sgrin, fel y gallai pawb eu gweld. Diolchodd Gwyn i Dennis am ei gymorth.

Yn ystod y flwyddyn ariannol 2018-19 aeth tri thaliad allan am argraffu a dosbarthu “Llygad y Ffynnon”, felly ’roedd arian y cyfrif cyfredol wedi crebachu. Mae costau’r rhifyn diweddaraf (48) yn cael eu talu yn y mis hwn (Gorffennaf), a’r gweddill fydd £322.25c, sef cynnydd o ryw £32 ar y llynedd: felly mae maint yr arian yn y cyfrif fwy neu lai’n sefydlog.

Aeth llythyr allan yn hydref 2019 i rai nad oeddent wedi adnewyddu eu haelodaeth, ac o ganlyniad daeth £110 i mewn cyn y Nadolig: felly mae’n werth atgoffa pobl sydd heb dalu, cyn i rifyn Nadolig y Llygad fynd allan. Mae’r Gymdeithas yn sefyll yn ei hunfan o ran aelodaeth, a’r cyfrifon yn adlewyrchu hynny.  

Diolchodd Eirlys i Gwyn am ei waith, a mynegodd ei chydymdeimlad ag o yn ei golled ddiweddar. Dywedodd ei bod am roi rhodd sylweddol i’r Gymdeithas er cof am y diweddar Ken Lloyd Gruffydd. Dywedodd y Trysorydd mai taliad uniongyrchol i’r cyfrif fyddai rwyddaf, ac awgrymodd ei roi yn y cyfrif cadw, yn hytrach na’r un cyfredol. Eto, llog pitw iawn fu ar y cyfrif cadw, tua 30c y mis, a bellach aeth yn is fyth. Gwyn am e-bostio’r manylion i Eirlys, Diolchwyd i Gwyn am ei waith.

Ychwanegodd Dennis fod y gwariant yn llai oherwydd nad oes Eisteddfod Genedlaethol, a bod llawer o aelodau yn talu ar y 1af o Orffennaf, sef y rhai yn y golofn Aelodaeth 20-21 yn y cyfrifon.

6. Adroddiad yr Archwiliwr Mygedol.

Cafwyd fod y cyfrifon yn gyflawn ac yn gywir. Mae angen ychwaneg o aelodau, gan fod y nifer wedi gostwng gan tua 50 yn y pum mlynedd diwethaf. Mae rhagor (12) yn talu trwy’r banc, a dim ond 12 yn parhau i dalu’n flynyddol. Mae 38 o aelodau am oes, rhagor na sy’n talu’n flynyddol.  

7. Adroddiad Golygydd “Llygad y Ffynnon”.

Llwyddwyd i ddwyn rhifynnau Nadolig 2019 a Haf 2020 drwy’r wasg, a’u dosbarthu i’r aelodau. Diolchwyd i Dennis am ei gymorth, ac yn neilltuol i Robin Gwyndaf am ei erthyglau ynghylch “Ffynhonnau Caerdydd”. Da fyddai gweld rhagor o gyfraniadau, o ba faint bynnag, gan aelodau eraill. Defnyddiwyd Gwasg y Lolfa ar gyfer rhifyn Haf 2020, gan nad yw’r argraffwyr arferol, EWS Print o Fwcle, yn weithredol oherwydd y cyfyngiadau Covid-19.

Diolchodd Eirlys i Howard am ei waith.

8. Cynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

Cytunwyd fod angen rhagor o aelodau. ’Roedd Eirlys yn ennill aelodau pan oedd yn gwneud cyflwyniadau, ond efallai y gellir parhau i’r cyfeiriad hwnnw ar y we. Dywedodd Mike fod modd cynnal darlithoedd byw, gyda phobl yn cyfrannu, ac yn  cael cyfle i holi. Dywedodd fod YouTube yn dda, ond bod darlithoedd byw yn dda hefyd, a llawer o gymdeithasau yn rhoi darlithoedd byw ar y we. Cytunwyd y dylai Mike drafod hyn efo Dennis, sydd wedi prynu tanysgrifiad i Zoom. Mae modd darlledu efo Zoom, a gellir gwneud hynny yn ystod y cyfnod clo.

Dywedodd Dennis y dylid rhoi darlith Eisteddfod Tregaron Mike ar Zoom wedi’r Eisteddfod ei hun. Gyda chyfryngau ar-lein mae modd hysbysebu ehangach, a dylid symud ar-lein. ’Roedd Darlith ar-lein Mike yn Ninbych wedi gweithio’n dda, gyda mwy o gynulleidfa.

Cynigodd Howard y dylai Dennis, Mike ac yntau gynnal cyfarfod i drafod hyn. Mae gan Mike lawer o brofiad, ac yn gwybod sut mae gwneud hyn. Dywedodd Eirlys fod gan y Gymdeithas ddigon o adnoddau oddi fewn iddi hi’i hun - erthyglau Robin ynglŷn â Ffynhonnau Caerdydd, er enghraifft. Byddai’n bosibl cael cynulleidfa fyd-eang.

9. Unrhyw fater arall.

a). Hepgor lluniau swyddogion y Gymdeithas o “Llygad y Ffynnon”.

Penderfynwyd hepgor y lluniau o’r rhifyn nesaf (Nadolig 2020) ymlaen.

b). Cyfethol Mike Farnworth i’r Pwyllgor.

Dywedodd ei fod yn hapus i helpu, ond heb lawer o amser i’w roi i’r Gymdeithas. Cytunwyd fod ei gyfraniadau’n bwysig, ac fe’i cyfetholwyd yn aelod cyffredin, heb bortffolio. Dywedodd Dafydd Whiteside Thomas ei fod yntau hefyd yn brysur, ond yn fodlon helpu.  

c). Sefydlu cyfrif trydar i’r Gymdeithas.

Dywedodd Howard ei fod yn fodlon gwneud hynny, ac y byddai’n ennill cyhoeddusrwydd i “Llygad y Ffynnon”.

Dywedodd Gwyn fod Facebook yn boblogaidd iawn (yn enwedig â rhai dros 40 oed), a bod sawl gwahanol dudalen Facebook yn canolbwyntio ar hanes lleol. Mae’n gyfrwng da ar gyfer rhannu gwybodaeth, hanesion, a lluniau. Dywedodd ei fod yn  fodlon agor tudalen Facebook ar gyfer y Gymdeithas, ac y gallai sefydlu dolen rhwng Facebook a gwefan y Gymdeithas.

ch). Ceisio ffynonellau ariannol er mwyn datblygu rhaglen waith.

Cytunwyd ei bod yn adeg gyfyng am arian ym mhobman. Er mwyn cael arian ar gyfer ffynnon, rhaid iddi fod yn rhan o brosiect mwy. Dywedodd Dennis ei bod yn fain ar gynghorau cymuned eisoes; ond gan fod gan fudiadau gwirfoddol Gwynedd  wybodaeth am le mae arian ar gael, y byddai yntau’n fodlon ymchwilio i hyn, â chymorth Gwyn a Howard.

10. Dyddiad a lleoliad y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.

Cytunwyd i gynnal y cyfarfod ymhen blwyddyn, ar 17.7.2021. Cytunwyd y bu’r cyfarfod Zoom yn llwyddiannus, ac y dylid ei wneud yn drefniant blynyddol. Nid oes angen talu am ddefnyddio adeilad, ond bod Dennis yn talu am Zoom. Felly Mike hefyd. Diolchodd Dennis i Mike am ei wybodaeth a’i brofiad technegol.

Daeth y cyfarfod i ben am 11:50.

 CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’: 

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

Cyfeiriadau cynyddol at glai iachusol

Mae’r adroddiadau hyn yn olrhain hanes y ffynnon/ffynhonnau dros 350 o flynyddoedd, tros ran helaeth o ba gyfnod y ceisiwyd iachâd rhag amrywiaeth eang o anhwylderau. Ymddengys y defnyddid ffynnon y capel erioed ar gyfer iacháu trafferthion llygaid yn unig, ond defnyddid dŵr ffynnon y sant ar gyfer “pob clefyd”, “llawer o anhwylderau”, “cleifion crupul yn golchi eu haelodau”, a “manwynion, parlys, dropsi, ac anhwylderau eraill”. Ychydig o’r adroddiadau cynharach sy’n cynnwys unrhyw gyfeiriad at y clai iachusol a geid wrth y ffynnon. Cyfeiria Fenton at  “waddodiad mwdlyd” ond ceid hwn wrth ffynnon y capel. Mae adroddiad 1859 hefyd yn cysylltu’r “clai” iachusol â ffynnon y capel.35  Cyfeirir yn adroddiad 1905 at ddefnyddio “clai” o gerllaw’r ffynnon i drin y llygaid, ond nid y corff cyfan.36

Janet Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)                                                  (i’w pharhau)

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Ffynnon Ddewi, Olygate, Wexford, Iwerddon.

Gwyddwn fod Ffynnon Ddewi yn Newcastle West, Swydd Limerick (Llygad y Ffynnon 14 (Haf 2003),

t. 9), ond yn ddiweddar cefais wybod am ddwy arall yn yr Ynys Werdd, y naill yn Olygate, Swydd Wexford, a’r llall yn Woodhouse, Swydd Waterford. Mae a wnelo’r erthygl hon â’r gyntaf.

 

 Ffynnon Ddewi, Olygate, Swydd Wexford.

 

   

Ffynnon Ddewi, Olygate: golwg i mewn i’r ffynnon.

 

Hysbyseb gwasanaeth cludo teithwyr at y ffynnon.

 

   

Pererinion wrth y ffynnon ddechrau’r 20fed ganrif  

 

Cerflun Dewi Sant gerllaw’r ffynnon yn Olygate.

                                                                                                                                                                         

Howard Huws

 CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC  

 

Dadl seneddol ynghylch Ffynnon Gwenfrewy 1904

Yn rhifyn 19.5.1904 y “Clorianydd” (wythnosolyn Ceidwadol Môn, tudalen 6) ceir adroddiad am ddadl seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan ar yr 16eg ynghylch ail ddarlleniad Mesur Draeniau Mwyngloddiau Milwr. Ofnid y byddai agor ffosydd draenio mor agos at Ffynnon Wenfrewy’n effeithio ar y cyflenwad dŵr iddi. Cynigodd Syr T. Esmonde y dylid gwrthod y Mesur, gan y dargyfeiriai ddŵr o’r afon a lifai o’r ffynnon, gan ddifetha diwydiannau a ddibynnent arni. Barn Mr J. H. Lowther oedd y gallai’r cynllun wneud hynny, er nad oedd ganddo unrhyw dystiolaeth i’r perwyl.

  

Map o Dwnnel Milwr a’r gwythiennau plwm.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar y We

 Gwefan:   www.ffynhonnau.cymru

 Gweplyfr:   Cymdeithas Ffynhonnau

                     Trydar:   @ffynhonnau

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru erbyn 31.5.2021, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 07870 797655.

 

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.

 

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

 

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.

 

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n Holl Ddarllenwyr!

Cofiwch yrru lluniau a hanesion ffynhonnau atom!

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

 

 

 

 

Home Up