Cylchlythyr
Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Rhifyn
49, Nadolig 2020
Heb
Ddŵr,
Heb Ddim
Ffynhonnau
Caerdydd a’r Cylch
Rhan 3
Robin Gwyndaf
Un
o’r lluniau a gyhoeddwyd eisoes yn yr ail ran oedd llun Pistyll Yfed Treganna.
Yn y llun hwnnw fe gofiwch fod rhywun, neu rywrai, wedi gosod yn y ddysgl ddŵr
gerflun o ben ellyllaidd, adeiniog. Ai pen y Diafol, y Gŵr Drwg ei hun,
ydyw? Dewis cwbl anaddas ac anffodus iawn, yn fy marn i. Nid â drygioni a
melltith y cysylltwn ein ffynhonnau a’n pistylloedd dŵr, ond â daioni a
bendith.
Wele,
fodd bynnag, erbyn heddiw ciliodd y cerflun dychrynllyd yr olwg, na wyddom i
ble, a’r hyn sydd wedi’i gywasgu i mewn i adeiladwaith cerrig y pistyll yfed
gynt yn Nhreganna nawr yw cwpwrdd plastig bychan a’i lond o lyfrau. Ar wyneb y
cwpwrdd (yn yr iaith Saesneg yn unig, ysywaeth) pan welais i ef, ym mis Awst
2020, argraffwyd y geiriau: ‘Canton Book Swap’. Er mai gwell, gan
amlaf, yw peidio ag ychwanegu dim at adeiladau hanesyddol, megis hen bistyll
yfed, dyma weithred sy’n haeddu gair o ddiolch, nid condemniad.
Mae
iddi, o leiaf, amcan dyrchafol: bod o werth i eraill. A daw hyn yn fwy amlwg pan
gofiwn fod pob ffynnon o ddŵr glân yn ddelwedd hefyd o’r hyn sy’n ein
hysbrydoli. Mor wir yr hen ddihareb Gymraeg: ‘Lleufer dyn yw llyfr da.’ Y
mae llyfrau yn oleuni. A dyma un rheswm digonol dros gyhoeddi ail lun o Bistyll
Yfed Treganna yma.
Pistyll
Yfed Treganna, Caerdydd
(trwy garedigrwydd Phil Cope).
Y
mae’n dra phosibl, wrth gwrs, mai hap a damwain oedd dewis hen Bistyll Yfed
Treganna i osod arno lyfrau i’w darllen. Fodd bynnag, boed hynny’n wir neu
beidio, y mae’r weithred hon yn ein hatgoffa o un arfer gyffredin y mae unrhyw
un sy’n ymddiddori yn ffynhonnau Cymru, fel yn ffynhonnau gwledydd eraill,
wedi sylwi droeon arno, bid siŵr. A dyma yw hynny: hoffter y rhai sy’n
ymweld â ffynnon i osod gwrthrych arbennig, ac weithiau fwy nag un, ger y
ffynnon honno, ac weithiau i mewn yn y dŵr. Fe ddigwyddodd hynny gyda rhai
o’r ffynhonnau a ddisgrifir yn yr erthygl hon.
Rhai
gwrthrychau cyffredin yw croesau, carpiau (neu rannau o ddillad y claf), arian,
a phinnau, ond ceir amrywiaeth mawr yn y gwrthrychau hyn o ffynnon i ffynnon, ac
o gyfnod i gyfnod. A dyma destun pwysig i hanesydd cymdeithas. Yr ydym ym maes
hanes ar waith; hanes gweithredol; ‘history in action’, chwedl y sawl
sy’n ysgrifennu yn Saesneg. Cwestiwn y byddwn am ei ofyn yw: beth yw ystyr y
gwrthrychau i ni sy’n eu gweld heddiw? A chwestiwn pwysicach fyth: beth oedd
yr ystyr ar y pryd i’r sawl a osododd y gwrthrych? Pam y dewiswyd y gwrthrych
arbennig hwnnw?
A
dyma ni nawr yn rhoi pwys nid yn unig ar weithredoedd pobl, ond hefyd ar eu
teimladau. Pwys ar yr hyn a alwodd yr hanesydd a’r athronydd disglair R(obin)
G(eorge) Collingwood (1889-1943) yn ei glasur o gyfrol, The Idea of History,
yn ‘the states of mind’ – cyflwr meddwl y bobl hynny y mae’r
hanesydd yn astudio eu hanes. Ai delweddau? Ai symbolau yw’r gwrthrychau ger y
ffynnon? Pa ofnau cudd y maent yn ei gyfleu? Pa ddyhead oesol am iechyd,
sicrwydd, a gwynfyd?35
Ffynnon
Tarws, Gwenô (llun Robin Gwyndaf).
Gyda
llaw, fe wêl y darllenydd nod wedi’i gerfio ar ochr dde gwaith carreg y
ffynnon hon. Mae’n debyg i ‘Nod Cyfrin’ yr Orsedd, ond nid dyna yw. Yn
hytrach, mae’n feincnod Arolwg Ordnans sy’n dynodi union uchder llinell
lorweddol y nod uwch lefel y môr, ac o wybod hynny gellir mesur lefel popeth
arall yn y cyffiniau. Ceir union ffigur y lefel hwnnw ar fap Ordnans manwl yr
ardal.
Un
ffynnon a ddisgrifiwyd yn yr ail ran yw Ffynnon Tarws, Gwenfô. Bellach, drwy
garedigrwydd fy nghyfaill Gwyndaf Breese, mi wn ble mae’r ffynnon hon, a
chefais gyfle i dynnu llun ohoni ar gyfer trydedd ran yr erthygl. I ymweld â’r
ffynnon, teithiwch o gylchdro Croes Cwrlwys ar hyd Heol y Porth / Port Road:
A4050, i gyfeiriad Y Barri. Yn union wedi cyrraedd Gwenfô, trowch ar y dde, ger
Bwyty’r Beefeater, i Heol Nant Isaf. Ymhen ychydig lathenni fe ddowch i drofa.
Fe welwch lôn ar y dde, a Lôn Tarws yn union syth o’ch blaen. Os mewn
cerbyd, gadewch ef mewn man diogel (ar Heol Nant Isaf?) a cherddwch ychydig
lathenni i fyny Lôn Tarws. Mae’r ffynnon yn y clawdd ar y chwith.
Nodiadau
Rhan 3
35.
Gwelir y geiriau o eiddo R G Collingwood yn eu cyd-destun ar glawr ôl ei
gyfrol, The Idea of History (Gwasg Rhydychen, 1961; cyhoeddwyd gyntaf yn
1946). Gellid yn rhwydd ychwanegu’r gair ‘objects’ wrth inni
gymhwyso’r geiriau hyn at geisio deall arwyddocâd gosod gwrthrychau ger
ffynhonnau:
‘History
is not contained in books, documents [and objects], it lives only as a present
interest and pursuit, in the mind of the historian when he criticizes and
interprets those documents [and objects], and by so doing relives for himself
the states of mind into which he inquires.’
(I’w
pharhau)
Robin
Gwyndaf.
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod 350 mlynedd (parhad).
Cyfeiriadau
cynyddol at glai iachusol
Mae’r adroddiadau hyn yn olrhain hanes y
ffynnon/ffynhonnau dros 350 o flynyddoedd, tros ran helaeth o ba gyfnod y
ceisiwyd iachâd rhag amrywiaeth eang o anhwylderau. Ymddengys y defnyddid
ffynnon y capel erioed ar gyfer iacháu trafferthion llygaid yn unig, ond
defnyddid dŵr ffynnon y sant ar gyfer “pob clefyd”, “llawer o
anhwylderau”, “cleifion crupul yn golchi eu haelodau”, a “manwynion,
parlys, dropsi, ac anhwylderau eraill”. Ychydig o’r adroddiadau cynharach
sy’n cynnwys unrhyw gyfeiriad at y clai iachusol a geid wrth y ffynnon.
Cyfeiria Fenton at “waddodiad
mwdlyd” ond ceid hwn wrth ffynnon y capel. Mae adroddiad 1859 hefyd yn
cysylltu’r “clai” iachusol â ffynnon y capel.35
Cyfeirir yn adroddiad 1905 at ddefnyddio “clai” o gerllaw’r ffynnon
i drin y llygaid, ond nid y corff cyfan.36
Cyfeiriodd
y daearegwr Syr Roderick Impey Murchison at glai iachusol St Govan mewn
troednodyn yn ei lyfr ar ddaeareg Cymru dyddiedig 1839:
“Preswyliai
Saint Gofen (neu St. Gawin) gell wedi’i naddu i wyneb y clogwyn serth a
phictiwrésg hwn. Ymysg ei weithredoedd da mae un sydd fel petai’n
cysylltu ei enw
â’r daearegwr. Bu i’w fendith roi rhinwedd iachusol ar y clai
neu’r garreg glai goch,
sy’n deillio o ddadelfeniad y garreg galch, sy’n ffurfio talws lle
mae’r clogwyn yn
cilio yn ôl. Cludir y pererinion cloff a dall eto gan eu cyfeillion i
lawr y grisiau
geirwon a naddwyd gan y gŵr sanctaidd, ac wedi eu heneinio â
phowltis,
a wneir o’r clai gwlyb, fe’u gadewir yno am sawl awr i dorheulo tan
haul yr haf.
Mae’r dull iacháu yn gyffelyb i’r un a weithredir gan faddonau mwd
Acqui
ac Abano yng ngogledd yr Eidal.
Mae llawer o gyrchu, hefyd at seintwar Saint Gofen, hafn yn y graig sydd
ond
yn ddigon mawr i gynnwys unigolyn, megis “man deisyf.” Mae’r
deisyfwr yn sicr
o gael ei ddymuniad cyn diwedd y flwyddyn, os yw’n ei ailadrodd
deirgwaith,
gan droi ei hun o gwmpas, pob un tro, yn y gilfach gul; ond nid fy maes
i yw’r straeon gwyrthiol hyn na rhai eraill a gysylltir â’r man
gwyllt hwn.”37
Ac yntau’n ddaearegwr, roedd Murchison yn amlwg â diddordeb yn
ffynhonnell a chyfansoddiad y clai, felly gellir tybio mai ei ddisgrifiad ef
ohono yw’r cywiraf. Mae rhywun yn rhagdybio iddo ef ei hun ymweld â’r safle
i weld y ffynhonnell, ac iddo gasglu ar yr adeg honno ychydig fanion o
draddodiad, ond nid yw’n eglur a fu iddo weld ai peidio ddefnyddio’r clai
gan bererinion afiach.
Gan
fod yna wahanol ddisgrifiadau o ddefnyddio mwd neu glai o ddwy ffynhonnell, y
ffynnon yn y capel a’r clai coch o’r clogwyn, efallai y bu peth dryswch yn
ystod y blynyddoedd. Mae’r cofnod cynharaf a ganfûm sy’n cyfeirio at
ddefnyddio’r clai coch yn dyddio o 1818: “yn taenu ar eu cymalau chwyddedig
a chrupul blastrau o’r clai coch yn llawn dŵr y ffynnon”.38
Ond ni ddywed o ble y daw’r clai coch, dim ond y’i cymysgid â dŵr
o’r ffynnon, manylyn nas crybwyllir gan Murchison yn ei adroddiad ynghylch yr
arfer 20 mlynedd yn ddiweddarach. Efallai, wrth i’r ffynnon ddechrau mynd yn
hesb, y rhoddwyd mwy o bwyslais ar ddefnyddio clai ar gyfer iacháu, ond i bobl
anghofio y dylasai’r mwd neu’r clai iachusol ddod o ffynnon y capel, ac
iddynt ddechrau defnyddio unrhyw glai y gallent ei ganfod. Nid yw’r dyfyniad o
waith Murchison yn eglur ynghylch ar ba rannau o’r corff, yn union, y rhoddid
y powltis glai, er y cyfeiria at “bererinion dall”. Yn ôl adroddiad Fenton
o ddechrau’r 19eg ganrif defnyddid y mwd o ffynnon y capel ynghylch
y llygaid,39 a chan mlynedd yn ddiweddarach mae adroddiad 1905 hefyd
yn crybwyll defnyddio’r clai ar y llygaid yn unig.40
Eithr y mae’n debygol y buasai bobl a geisient yn daer am iachâd wedi
ei daenu ar rannau eraill o’r corff.
Nodiadau.
36
‘Holy Wells in Wales’, op.cit.
37
Murchison, op.cit., 382-3 troednodyn
38
An Account of Tenby, op.cit., 139
39
Fenton, A Historical Tour…, op.cit., 415
40
‘Holy Wells in Wales’, op.cit.
Janet
Bord (cyfieithwyd
gan Howard Huws)
(i’w pharhau)
Ffynnon
Ddewi, Olygate, Wexford, Iwerddon.
Gwyddwn fod Ffynnon Ddewi yn
Newcastle West, Swydd Limerick (Llygad y Ffynnon 14 (Haf 2003),
t. 9), ond yn ddiweddar cefais
wybod am ddwy arall yn yr Ynys Werdd, y naill yn Olygate, Swydd Wexford, a’r
llall yn Woodhouse, Swydd Waterford. Mae a wnelo’r erthygl hon â’r gyntaf.
Y mae’n darddell naturiol,
gyda mur ffurf twll clo o’i hamgylch. Mae grisiau’n disgyn i lawr at y
dyfroedd, a’r cyfan mewn trefn dda. Bu dylanwad gan dilynwyr Dewi ar Iwerddon
ers Oes y Saint, ond diau y gellir priodoli cysegriadau yn enw Dewi Sant i
bresenoldeb llawer o Gymry a Normaniaid mewnfudol o Ddyfed gyfagos yn y rhan hon
o’r Ynys Werdd o’r 12fed ganrif ymlaen, gan iddynt ei
threfedigaethu’n drylwyr.
Ar fap Ordnans 1840 nodir
eglwys a ffynnon yno, ond mae’r eglwys wedi diflannu erbyn hyn. Arferwyd
gwerthu dŵr y ffynnon yn feddyginiaeth hyd 1810, pryd y caewyd hi gan
amaethwr lleol.
Ffynnon
Ddewi, Olygate, Swydd Wexford.
Hysbyseb
gwasanaeth cludo teithwyr at y ffynnon.
Bu bri neilltuol ar y ffynnon
yn y blynyddoedd 1911-13, pan gofnodwyd sawl gwellhad yno. Lleihaodd nifer y
pererinion erbyn 1916, ond ni ddaeth y pererindota i ben ac y mae’r ffynnon yn
parhau i ddenu cryn dyrfa pob Gŵyl Ddewi. Codwyd cerflun o Ddewi Sant yno
ym 1961.
Pererinion
wrth y ffynnon ddechrau’r 20fed ganrif
Cerflun
Dewi Sant gerllaw’r ffynnon yn Olygate.
Diolch i Louise Nugent, awdures
y gyfrol ddiddorol Journeys of Faith:
Stories of Pilgrimage from Medieval Ireland am yr wybodaeth hon ac am ganiatâd
i ddefnyddio ei lluniau.
Howard
Huws
Dadl
seneddol ynghylch Ffynnon Gwenfrewy 1904
Yn rhifyn 19.5.1904 y “Clorianydd”
(wythnosolyn Ceidwadol Môn, tudalen 6) ceir adroddiad am ddadl seneddol yn Nhŷ’r
Cyffredin, San Steffan ar yr 16eg ynghylch ail ddarlleniad Mesur Draeniau
Mwyngloddiau Milwr. Ofnid y byddai agor ffosydd draenio mor agos at Ffynnon
Wenfrewy’n effeithio ar y cyflenwad dŵr iddi. Cynigodd Syr T. Esmonde y
dylid gwrthod y Mesur, gan y dargyfeiriai ddŵr o’r afon a lifai o’r
ffynnon, gan ddifetha diwydiannau a ddibynnent arni. Barn Mr J. H. Lowther oedd
y gallai’r cynllun wneud hynny, er nad oedd ganddo unrhyw dystiolaeth i’r
perwyl.
Map
o Dwnnel Milwr a’r gwythiennau plwm.
Cefnogodd Mr Moss y Mesur, gan ddadlau y bu mwyngloddiau
yng nghyffiniau’r ffynnon hyd 1874 yn pwmpio dŵr o lefel islaw’r
ffynnon heb wneud unrhyw niwed iddi. Yn ôl Mr M’Kean roedd Cyngor
Dosbarth Treffynnon yn gwrthwynebu’r mesur. Roedd “Ffynnon y Santes
Gwenffrewi [sic],” meddai, “yn iechydfa, lle yr oedd afiechydon wedi myned
tu hwnt i fedrusrwydd dynol wedi cael eu gwella.”
Barn Mr J. Herbert Lewis oedd y dylai’r Tŷ
ofyn a fyddai’r dŵr a ffrydiai o’r ffynnon yn lleihau ai peidio. Roedd
twnnel draenio wedi’i agor o Helygain eisoes, 4 milltir o’r ffynnon, ac wedi
effeithio ar lif dyfroedd yn yr ardal. Beth felly fyddai effaith pum twnnel llai
na hanner milltir o’r ffynnon? (Ebychiadau o “clywch, clywch!”) Dylid
gofalu, meddai, rhag gwneud difrod i un rhan o’r wlad wrth geisio gwneud lles
i ran arall. Atebodd Mr James y bu diffyg glaw yn yr ardal er 1882, a dim ond yn
ddiweddar y daeth yn ôl i fel y bu. Hynny oedd ar fai am y lefelau isel, nid
gwaith twnnel Helygain.
Ar y bleidlais cymeradwywyd ail ddarlleniad y
Mesur o 159 i 61. Er gwaethaf protestiadau croch caredigion y ffynnon yn
Nhreffynnon a thu hwnt, cafodd y Mesur trydydd ddarlleniad, ac o weithredu’r
cynllun gwelwyd gwireddu ofannu’r gwrthwynebwyr. Bu lleihad sylweddol yn y
llif o’r ffynnon, ac ar y 5ed o Ionawr 1917, yn wir, fe aeth hesb,
ac nis adferwyd tan yr 22ain o Fedi’r flwyddyn honno.
Gellir gweld yr
adoddiad ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, https://newspapers.library.wales/view/3783045/3783051/94/
Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar y We
Gwefan: www.ffynhonnau.cymru
Gweplyfr:
Cymdeithas Ffynhonnau
Trydar: @ffynhonnau
“Llygad y
Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw
Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru
erbyn 31.5.2021, os gwelwch yn dda.
Gellir ei alw ar 07870 797655.
Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn
natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl
aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth;
ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda –
mae’n arbed cymaint o drafferth.
Er mwyn ymaelodi, neu
adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm
a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â
Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.
Cofiwch
fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg.
Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim
ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.
Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
yn www.ffynhonnau.cymru, neu
gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan
gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen
ymaelodi ar-lein.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n Holl
Ddarllenwyr!
Cofiwch yrru lluniau a hanesion ffynhonnau atom!