Home Up

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 48, Haf 2020

 

Heb Ddŵr, Heb Ddim

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

 

 

Pistyll Yfed Gerddi’r Faenor, Caerdydd. Llun: Phil Cope.

Rhan 2

Yn rhan gyntaf yr erthygl hon bu inni roi sylw arbennig i’r ffynnon bwysig oedd wedi’i lleoli gynt ger Hen Neuadd y Dref ar Heol Eglwys y Santes Fair, Caerdydd. Cyhoeddwyd llun ohoni hefyd wedi iddi gael ei symud o’i lleoliad gwreiddiol yn 1860. (Llygad y Ffynnon, rhif 47, Nadolig 2019) Yn yr ail ran yn awr cyhoeddir llun prin o’r Hen Neuadd a ddymchwelwyd yn 1861, sef ymhen blwyddyn wedi ail-leoli ac ail-greu fframwaith y ffynnon. Cyhoeddir yn ogystal lun map John Speed, 1610, o ganol Caerdydd lle roedd y ffynnon yn bodoli.

Yn rhan gyntaf yr erthygl cyfeiriwyd hefyd at bistylloedd yfed, neu ffowntenni, yr oedd Cyngor Tref Caerdydd wedi’u cynllunio er mwyn darparu dŵr glân i’r trigolion. Cyhoeddir lluniau pedwar o’r pistylloedd hyn yn awr, drwy garedigrwydd Phil Cope, awdur y gyfrol werthfawr, The Living Wells of Wales (2019). 

Hen Neuadd y  Dref Caerdydd

Map John Speed o Gaerdydd, 1610. Dynoda’r llythyren “P” safle’r hen neuadd a’r ffynnon.

Ffynhonnau ar gyrion Caerdydd

Yn ail hanner rhan gyntaf yr erthygl fe gofiwch inni gyfeirio at y gwahanol fathau o ffynhonnau oedd ar gael, er bod perygl parod mewn gor-ddosbarthu a chreu ffiniau gor-bendant. Soniwyd am ffynhonnau dŵr glân naturiol; ffynhonnau sanctaidd, gyda chyswllt uniongyrchol neu anuniongyrchol yn aml â’r goruwchnaturiol; ffynhonnau meddyginiaethol, rhinweddol; a ffynhonnau gofuned, neu ffynhonnau dymuno. Mae cofio am swyddogaeth y gwahanol ffynhonnau yn gymorth i ddeall paham fod yr arfer o’u mynychu wedi parhau cyhyd yng Nghymru, fel mewn cymaint o wledydd eraill. Nid oedd Caerdydd a’r cyffiniau yn eithriad, ac y mae’n bryd i ninnau nawr fynd ar daith i ddarganfod cyfran o’r ffynhonnau hyn.

Pistyll Yfed Caeau Llandaf. Llun: Phil Cope  

 

     Pistyll yfed Parc Buddug. Llun: Phil Cope.

 

Pistyll Yfed Treganna. Llun: Phil Cope.

Yn gyntaf, dyma gyfeirio at ddetholiad o ffynhonnau mewn pentrefi ac ardaloedd ar gyrion y dref. Detholiad o’r cyfoeth rhyfeddol o ffynhonnau a fu unwaith yn rhan mor annatod o fywyd trigolion y gornel hon o Gymru; darn o hanes sy’n haeddu ei roi ar gof a chadw.

Ffynnon Fair, Trwyn Larnog (Lavernock Point).

Dyma un o’r ffynhonnau niferus yng Nghymru a gysegrwyd i’r Forwyn Fair. Cyfeirir ati, er enghraifft, gan y Cynghorydd Edgar L Chappell, yn un o’i ddwy erthygl gynhwysfawr, ‘Holy and Healing Wells: Some Glamorgan Examples’, a gyhoeddwyd ganddo yn y Cardiff and Suburban News, 12 a 19 Mawrth 1938.8                  

Ffynnon yr Hebog, ym Mhendeulwyn (Pendoylan).

Enw arall arni ydoedd ‘Ffynnon y gwalch glas’. Ni wn paham y gelwir y ffynnon hon yn Ffynnon yr Hebog. Cyfeirir ati, er enghraifft, gan Thelma a Barry Webb, Llanhiledd, Gwent, yn eu casgliad oes o dystiolaeth am ffynhonnau Cymru. Yr unig air a gofnodwyd ganddynt i’w disgrifio yw ‘healing’.9

Ffynnon Deilo, Pendeulwyn.

Cyfeirir at y ffynnon hon, er enghraifft, gan Francis Jones yn ei gyfrol arloesol, The Holy Wells of Wales (1954, 1992). Ei lleoliad yw hanner milltir i’r de ddwyrain o bentref Pendeulwyn.10

Ffynnon Gatwg, Pendeulwyn, ger yr eglwys.11

Dywedid fod y ffynnon hon, fel Ffynnon Deilo ym Mhendeulwyn, yn rhinweddol iawn at wella llygaid dolurus a thân eiddew (fflamwydden dân, neu’r gafod fendigaid: erysipelas).12    

‘Ffynnon y Sgubor’ (Barnwell), Lecwydd.

Ceir tŷ fferm yno heddiw o’r enw Brynwell, ond ‘Barnewell’, a ffurfiau cyffelyb, oedd yr enw Saesneg gwreiddiol ar y tŷ hwn. Dyma sylw yr hanesydd diwylliedig, Tom Jones, Trealaw, yn ei gyfres o ysgrifau ar ‘Lên Gwerin Morgannwg’ yn Y Darian:

‘Mae ym mhlwyf Lecwyth dŷ fferm yn dwyn yr enw Brynwell. Llygriad ydyw

 o’r enw cyfansawdd Barnewell, sef ‘Ffynnon y Sgubor’. Nid ‘Ffynnon y Bryn’

 mo’r ystyr o gwbl.’13

Dyma rai o’r ffurfiau a nodir gan yr Athro Gwynedd Pierce yn ei gyfrol safonol, The Place-names of Dinas Powys Hundred (1968): Barnewell (1393); The Bernewill (1630); Barnwell (1610-30, 1779); Burnwill (1773); Brynwell (1830); a Bryn Well ar Fap Ordnans 1885.14

Ffynnon y Brychau.

I’r de orllewin o bentref Llandocha Fach.15

Ffynnon Sain Nicolas.

Ffynnon ger Tai’r Ffynnon, i gyfeiriad y gogledd o’r pentref a’r eglwys.16

Ffynnon Lawrens, Sain Nicolas.

Ffynnon yn Nyffryn Golych ac yn agos i’r plasty o’r un enw (Dyffryn House). Nid oes sicrwydd pwy yw’r Lawrence y cyfeirir ato yn enw’r ffynnon. Tybed ai Sant Lawrens ydoedd? Cofiwn mai ef oedd nawddsant Eglwys Larnog, nid nepell o Sain Nicolas.17

Pwmp Eglwys Sain Nicolas.18                         

Ffynnon Castell Coch.19  

Ffynnon Wen, Llanbedr-y-fro.20

Ffynnon Wen, Groes-wen.21

Ffynnon Dwym, Creigiau. Bu Don Llywelyn, yr hanesydd cymwynasgar o Ben-tyrch, mor garedig â â rhoi mwynglawdd o wybodaeth imi am ei fro a’r ardaloedd cyfagos, megis Creigiau, Gwaelod y Garth, a Mynydd y Garth. Roedd Ffynnon Dwym, meddai, wedi’i lleoli yng Nghreigiau, lai na chan llath o dŷ to gwellt o’r un enw. (Gw. llun o’r tŷ sydd yn ei feddiant.) Mae’r tŷ wedi diflannu bellach, ond safai gynt ger y fynedfa i’r hen chwarel carreg galch: ‘Cwar Creigia’, ble mae’r caeau chwarae heddiw.22

 

 Ffynnon Dwym, Creigiau.

Ffynnon Gatwg, Pen-tyrch.

Ni wyddom i sicrwydd bellach union leoliad y ffynnon hon, ond dywedodd Don Llewellyn wrthyf mai’r enw ar y nant fechan sy’n llifo ohoni yw Nant Gwladus. Hi oedd mam Catwg Sant, neu Cadog, ac, yn ôl yr achau, roedd yn un o ferched niferus Brychan Brycheiniog. Sant Gwynllyw oedd tad Catwg.23

Ffynnon Gruffydd, Pen-tyrch.

I fynd i weld y ffynnon hon dewch gyda mi i lawr y tyle o Ben-tyrch ar hyd Heol Goch am oddeutu 300 llath, nes dod at goedwig fechan o’r enw Coed y Bedw, yn ardal Cwm Llwydrew. Yno yn y coed y mae’r ffynnon.24

Ffrwd Meurig, Mynydd Y Garth.

Mae’r ffynnon hon ar ochr y llwybr sy’n arwain at Big y Mynydd, ac o fewn tua 150-200 llath i hen dafarn y Colliers Arms.25

Pistyll Golau, Radur.

Ffynnon o ddŵr oer iawn oedd y ffynnon hon ag iddi enw mor hyfryd. Lleolid hi tua hanner milltir, neu lai, o’r Eglwys, yn y goedwig rhwng yr Orsaf Drenau – y ‘Taff Vale Railway’ – a’r Hen Chwarel. Roedd y dŵr yn fodd i iacháu cloffni a gewynnau gweinion.26 O dan y pennawd: ‘Radyr and Other Notes’, yn y Cardiff and Suburban News, 10 Mawrth 1934, ceir y sylwadau a ganlyn gan Edgar L Chappell:

‘Pistyll Goleu is situated in the wood about 100 yards north of Radyr Quarry, and not

 in the quarry itself. At one time it had a reputation for healing sprains and rheumatism,

 and, indeed, when very young, I have gone there daily many times. In those days it was

 well roofed in,  but in recent years it has been sadly neglected. Visitors will find this

 interesting spot opposite a signal box, nesting peacefully amongst undergrowth and

 under the shade of large trees.’27

Yn yr un papur, 19 Mawrth 1938, ychwanegodd Edgar L Chappell y geiriau hyn:  

‘Pistyll Goleu (or sparkling fountain) is the name of a prolific spring ... The water contains

 no special medicinal ingredients, and its medical efficacy, if any, consists in its extreme

 coldness. The well is enclosed by a stone well head.’

Ffynnon Tarws, Gwenfô.

Dyma enw diddorol iawn ar ffynnon. Y mae’n tarddu o’r ffurf Saesneg ‘tare-house: adeilad i gadw, i bwyso, ac i buro bwydydd (‘tares’) i anifeiliaid, ŷd yn arbennig. Cymharer ffurfiau megis: work-house > wyrcws; ware-house > warws. Fel y nododd Gwynedd Pierce, ceir nifer o ffurfiau ar enw’r adeilad yng Ngwenfô, gan gynnwys: Winvo Tarehous (1540); Tarrus (1762); Tarws (dechrau’r 19 g.); Tar House (1885). Ger yr adeilad yr oedd cae o’r enw Gwaun y Tarrus (1762) a Gwaun y Tarws (dechrau’r 19 g.). Nodir y ffurfiau a ganlyn ar enw’r ffynnon: ‘The Tarus Well’ (1674); ‘Tarhowse Well’ (diwedd yr 17g.); Tarhouse Well a Tarrws (Map Ordnans 1885). Ger y ffynnon ceir cae o’r enw Erw’r ffynnon (1762).28

Cofnodwyd un goel ddiddorol iawn oedd yn gysylltiedig â Ffynnon Tarws. Meddai Edgar L Chappell:

‘At Wenvoe there was a notable well, the waters of which were reputed to turn brown

 in colour and become unfit for use when quarrels broke out amongst the people who

 regularly used it.’29

Ffynnon y Coed, Gwenfô.

Hyd y gwn i, nid oes dim yn wybyddus heddiw am y ffynnon hon, nac am ei hunion leoliad ym mhlwyf Gwenfô, ond cyfeirir ati ar Fap Ordnans 6 modfedd.30

Ffynnon yr Hofel / Ffynnon Hywel, Gwenfô.

Dyma ffynnon arall ym mhlwyf Gwenfô na wyddom ddim amdani bellach, ond cofnodir yr enw ‘Ffynnon yr Hovel’ ar Fap Ordnans 6 modfedd. Tua milltir i’r gorllewin ar fap 6 modfedd 1885, Ffynnon Hywel yw’r enw, ac fe’i lleolir yng Nghoed Sutton. Mae’n dra thebyg mai yr un ffynnon yw ‘Ffynnon yr Hovel’ a ‘Ffynnon Hywel’. Gwyddom am y duedd yn y Gymraeg i’r cytseiniaid ‘f’ ac ‘w’ ymgyfnewid. Er enghraifft: tyfod / tywod; cafod / cawod; hofel (hofal) /  hoewal. Ond anodd iawn bellach yw penderfynu pa un ai ‘hofel’ ynteu ‘Hywel’ oedd yr enw gwreiddiol.31  

Ffynnon Coedrhiglan.

 

 Ffynnon Coedrhiglan.

Ffynnon ym mhlwyf Sant Siorys (St George Super Ely), ar dir plas Coedrhiglan yw’r ffynnon fechan gron hon. Meddai T H Thomas yn 1903, mewn erthygl yn y cylchgrawn, Transactions of the Cardiff Naturalists’ Society: ‘Some Folk-lore of South Wales’:

‘In the park at Coed-rhyd-y-glyn, the seat of Capt.

 Treharne, exists a small circular well which is

 considerably visited as medicinal, and rags from

 the clothing, or especially from bandages of the

 votaries, are continually suspended from the branches

 of an oak tree which overshadows it.’32

Credid fod dŵr y ffynnon hon yn arbennig o rinweddol at wella llygaid dolurus. Ond yr oedd yn arfer hefyd i daflu pinnau i’r dŵr. A dyma enghraifft dda, fel yn achos cymaint o ffynhonnau, o’r ddolen anniffiniadwy ac annatodadwy ym meddyliau ein hynafiaid rhwng y naturiol a’r goruwchnaturiol (dolen nad yw wedi llwyr ddiflannu heddiw). Credu bod gwerth meddygol yn y dŵr, a dyma ni yn y byd naturiol, gwyddonol. Ond credu hefyd fod gwerth mewn taflu pinnau i’r dŵr. A dyma ni nawr ym myd anwyddonol y goruwchnaturiol. Byd swynion, coelion, arferion, a chof gwerin. Byd yr hen goel fod pinnau yn fetel wedi’i buro yn y tân, ac felly yn swyn bendithiol i’n diogelu rhag pob drwg ac i hyrwyddo iechyd. Hefyd, o bosib, byd hen gof gwerin fod modd trosglwyddo afiechyd i fater, neu wrthrych arall. Dyna fel y credai ein hynafiaid gynt. Dyna oedd eu harfer hwy – ‘mi wnawn ninnau yr un modd: mi daflwn ninnau binnau i’r dŵr’, gan weithredu yn ysbryd y ddihareb: ‘Hen arfer, hon a orfydd’. 

Coedrhydyglyn yw’r enw mwyaf cyfarwydd heddiw ar y plasty a’r tir lle mae’r ffynnon hon wedi’i lleoli, gan dybio bod yr enw yn seiliedig ar ffurf  megis ‘coed-ar-hyd-y-glyn’: ‘the wood along the glen’. Ond, fel yr eglurodd Gwynedd Pierce, esboniad onomastig lled ddiweddar ar lafar gwlad yw hyn. Roedd y tŷ gwreiddiol ar dir uwch, nid ‘ar hyd y glyn’ fel y tŷ presennol a adeiladwyd yn 1830. Nid yw ffurfiau cynnar ar yr enw chwaith yn awgrymu’r ystyr ‘ar hyd y glyn’. Yn hytrach, mae’r enwau yn awgrymu cysylltiad agos â hen deulu Raglan oedd â thiroedd yn y rhan hon o Fro Morgannwg. Dyma ychydig o’r enwau: Reglines Wood (1540); Raglande; (1591); Riglyn (1695-1709: Edward Lhuyd); Coedrhyglan (1799, 1811); Coedriglan (1805).33 O gofio hyn oll, nid yw’n syndod mai’r ffurf swyddogol a ddewiswyd gan Bwyllgor Iaith a Llenyddiaeth Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn 1957 ydoedd, nid Coedrhydyglyn, ond Coedrhiglan.34

Nodiadau Rhan 2

8.            12 Mawrth 1938.

9.            Gw. cardiau mynegai Thelma a Barry Webb, adran Sir Forgannwg. Cawsant yr wybodaeth

               gan ‘Mr Williams’, 1 Heol Sant Catwg, Pendeulwyn.

10.          Holy Wells of Wales, t. 181.

11.          Ibid., t. 182.

12.          Cardiff and Suburban News, 19 Mawrth 1938.

13.          Y Darian, 11 Mawrth 1926.

14.          The Place-names of Dinas Powys Hundred, t. 53.

15.          Holy Wells of Wales, t. 188.

16.          Ibid., t. 183.

17.          Cyfeiriad ar Fap Ordnans 6 modfedd. Gw. hefyd Place-names of Dinas Powys Hundred,

               t. 266, a Holy Wells of Wales, t.188.

18.          ST 090 744. Gw. llun Phil Cope, The Living Wells of Wales, t. 243.

19.          ST 131 825. Gw. llun Phil Cope, ibid., t. 244. 

20.          Cardiff ... News, 19 Mawrth 1938.

21.          Ibid.

22.          Don Llewellyn, tystiolaeth lafar, Medi 2019.

23.          Ibid. Gw. hefyd lun Phil Cope o leoliad tybiedig y ffynnon (The Living Wells of Wales, t. 244). Am hanes Cadog / Catwg Sant (a llun cerflun ohono), gw. S Baring-Gould a John Fisher, The Lives of the British Saints, cyf. 2, 1908, tt. 14-42. Hefyd Y Bywgraffiadur Cymreig Hyd 1940, tt. 55-6.

24.          Tystiolaeth lafar Don Llewelyn, Medi 2019.

25.          Ibid.

26.          Gw., er enghraifft, Holy Wells of Wales, t. 186.

27.          Cardiff ... News, 10 Mawrth 1934, t. 7.

28.          Gw. Place-names of Dinas Powys Hundred, tt. 316-17.

29.          Cardiff ... News,19 Mawrth 1938. Carwn hefyd ddiolch i’m cyfaill a’m cyn-gydweithiwr,

                Gwyndaf Breese, Gwenfô, am rannu gyda mi ei ddiddordeb yn y ffynnon hon.

30.          Place-names of Dinas Powys Hundred, t. 307.

31.          Ibid.

32.          Transactions of the Cardiff Naturalists’ Society, cyf. 36, 1903, t. 57. Gw. hefyd C F Shepherd, A Short History of St George Super Ely, Caerdydd, 1933, t. 39; a Holy Wells of Wales, t. 185.

33.          Gw. Place-names of Dinas Powys Hundred, tt. 251-3.

34.          Gw. Elwyn Davies, gol., Rhestr o Enwau Lleoedd. A Gazetteer of Welsh Place-names, Caerdydd, 1957 (1975), t. 30.                                                                                                                                                                   

Robin Gwyndaf

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’:

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

Eto’n boblogaidd yn Oes Fictoria

Gan symud i ail hanner y 19eg ganrif, dywed adroddiad o 1859 wrthym fod yna eto geisio dŵr y ffynnon yr adeg honno ar gyfer ei rinweddau iachusol.

Dyma feudwyfa (neu gapel) St Gawen, neu Goven, ym mha un y mae ffynnon, dŵr pa un, a’r clai cyfagos, a ddefnyddir ar gyfer llygaid dolurus. Gerllaw hyn, ychydig islaw’r capel, mae ffynnon arall, gyda grisiau’n arwain i lawr iddi, yr ymwelir â hi gan bobl o bellafoedd y dywysogaeth, ar gyfer gwella manwynion, parlys, dropsi, ac anhwylderau eraill. Nid y tlodion yn unig sy’n gwneud y bererindod hon: daeth achos i’m sylw yn fuan, lle bu i wraig fonheddig, un o gefnog, a fu ers peth amser yn dioddef yn arw gan y parlys, a’i hataliodd rhag rhoi ei llaw yn ei phoced [gan olygu bod ei braich wedi’i pharlysu, nid yn ystyr presennol yr ymadrodd!],  i drigo mewn ffermdy ger y ffynnon, ac wedi ymweld â hi’n feunyddiol am rai wythnosau, dychwelodd adref wedi’i llwyr iacháu.26

Yr oedd yn arfer i bererinion claf i ffynhonnau eraill, hefyd, aros yn y gymdogaeth ac ymweld yn fynych â’r ffynnon; mae bwthyn, hyd yn oed, yn nesaf at Ffynnon Gybi yn Llangybi (Sir Gaernarfon).

    Â’r adroddiad hwn rhagddo â disgrifiad o chwedl y gloch ddygedig, a disgrifiad maith o’r “Gornel Ddeisyf”, yr hafn garreg yn y capel lle’r ymguddiodd yr Iesu rhag yr Iddewon oedd yn ei erlid, neu lle’r ymwasgodd St Gawen yn feunyddiol “yn benyd am ei gamweddau, hyd onid adawyd ôl ei asennau ar y graig”. Byddai pererinion yn ymdroi naw gwaith ac yn gwneud dymuniad, a gyflawnid pe cymeradwyai’r sant. Mae hon yn ffurf ar gylchrodio, sef cylchu defodol ar safle cysegredig, naw gwaith fel arfer. Wedi’i gofnodi’n aml yn Iwerddon, digwydda ym mannau eraill yng Nghymru, hefyd: disgrifiodd Edward Llwyd ym 1693 fel y gwelsai ddyn “yn gorymdeithio naw gwaith ogylch Gorffwysfa Beris [yn Llanberis]… yn ailadrodd Gweddi’r Arglwydd, ac yn bwrw carreg ar bob cylchyniad”.27

Diddorol gweld sut y mae adroddiadau diweddarach yn tueddu i roi mwy o bwyslais ar y “gornel”, y “gwely” neu’r “arch” yn hytrach nag ar ffynhonnau, fel, er enghraifft, adroddiad ddiwedd y 1850au gan ymwelydd Albanaidd, Cosmo Innes.  Disgrifia’r ffynnon: “Ychydig lathenni ymhellach i lawr yr hafn, [o’r capel] mae ffynnon sydd eto wedi’i orchuddio gan do o bensaernïaeth fras, ac y mae’r brodorion yn parhau i’w pharchu’n fawr iawn, ac yn ymweld â hi er mwyn iacháu amryw glefydau.” Yna â rhagddo i ddisgrifio “gwely” St Govan a ddangoswyd iddo’n eglur gan rywun arall oedd yno’n bresennol: “Mae’r garreg wedi’i gloywi gan nifer yr ymwelwyr sy’n eu gosod eu hunain yng ngwely penyd y Sant, ac y mae’r brodorion yn peri i chi deimlo yn yr wyneb mewnol yr olion a achoswyd gan asennau’r Sant!”28  Ceir olion rhannau o gyrff saint mewn llawr o fannau eraill, ond fel arfer maent yn olion traed neu bennau gluniau: ceir llawer rhagor o enghreifftiau yn fy llyfr Footprints in Stone.29

Ysgrifenna Innes fod pobl yn parhau i ymweld â’r ffynnon gan geisio eu hiacháu; ond mae peth ansicrwydd ynghylch pa mor boblogaidd oedd y ffynnon ganol y 19eg ganrif, gan i Mary Anne Bourne ddatgan yn ei llyfr dyddiedig 1843 fod “y parch at y ffynnon sanctaidd yn llai nag y bu ers talwm”30, ond efallai mai ei hagwedd bersonol hi a’i harweiniodd i ddweud hyn, yn hytrach na’i fod yn adlewyrchu’r gwir sefyllfa. Mae’n debyg y byddai niferoedd cynyddol o ymwelwyr wedi atal cleifion rhag dinoethi eu hanhwylderau i dwristiaid. Erbyn diwedd y ganrif roedd ysgrifenwyr eraill yn adrodd bod y traddodiad iacháu wedi darfod, i bob golwg. Yn ei lyfr a gyhoeddwyd ym 1895, ysgrifennodd, H. Thornhill Timmins:

O’r capel sgrialwn i lawr at y “ffynnon sanctaidd,” man diymwelwyr heb ddim o ddiddordeb ynddo heblaw’r hyn a geir trwy draddodiad. Eto ymhell yn ôl roedd pobl yn dueddol i ymgynnull yma o bell ac agos, gan ddisgwyl iachâd disymwth...31

Mae adroddiad yn y Welshman ym 1905, fodd bynnag, fel petai’n gwrth-ddweud honiad Timmins nad ymwelwyd â’r ffynnon bellach er mwyn iacháu, er y mae’n awgrymu bod bri’r ffynnon yn wir ar ddarfod: 

Dywed ‘County News’ Dinbych-y-pysgod…  ‘…Yn St. Govan’s roedd ffynnon sanctaidd i ba un, o fewn y deugain mlynedd diwethaf, y dygid y claf a’r methedig i’w hiacháu.’…Y mae – nid yr oedd – ffynnon sanctaidd yn St. Govan’s lle mae sawl un o frodorion Sir Benfro wedi ceisio eu hiachâd, lai na deng mlynedd yn ôl, hyd y gwyddom ninnau’n bendant. Amheuwn yn fawr nad yw rhai pobl hyd y dydd hwn yn taenu’r ‘clai’ gerllaw’r ffynnon ar eu llygaid.32 

Erbyn 1922 roedd y ffynnon yn hesb, fel y mae heddiw, ac yn amlwg yn annefnyddiedig, fel yr adroddwyd yng Nghofrestr y Comisiwn Brenhinol.  

Amddiffynnir y Ffynnon, sydd rhwng y capel a’r môr, gan gwfl o waith cerrig; mae’r fynedfa

ar yr ochr ogleddol. Bu’r darddell yn hesb ers sawl blwyddyn... Ymwelwyd, Mehefin y 14eg, 1922.33

Mae’n bosibl y bu i weithred gorchuddio’r ffynnon â gwaith cerrig ar ryw ddyddiad anhysbys yn y 19eg ganrif (er y mae’n amlwg y’i gorchuddid i ryw raddau cyn 1860, fel y dengys adroddiad Cosmo Innes) wedi ymyrryd â’r cyflenwad dŵr. Ymddengys na fu’r cyflenwad erioed yn helaeth, o farnu yn ôl sylw yn adroddiad 1807 Fenton, sef y credai’r “ofergoelus” fod yr “ychydig ddŵr” yn ddihysbydd, ond “a amheuir yn graff gan y rhai a farnant yn ddiduedd ei fod yn digwydd ar hap”, ac y mae’n bosibl yr ategwyd tarddell naturiol gan ddŵr glaw, a beidiai cyn gynted ag y gorchuddid y ffynnon.  Mae adroddiad 1818, fodd bynnag, yn crybwyll “yn agos i ugain o gleifion ar unwaith yn golchi eu haelodau”, sy’n awgrymu cyflenwad helaeth o ddŵr. Erbyn 1870, fodd bynnag, roedd y ffynnon “agos yn hesb erbyn hyn”, a chan yr ysgrifennwyd hyn yn fuan wedi gorchuddio’r ffynnon, gallasai gadarnhau i’r weithred fod â rhyw ran mewn lleihau’r cyflenwad dŵr.  Ymddengys yn debyg, hefyd, y gallasai nifer gynyddol yr ymwelwyr wedi’i heffeithio er gwaeth. Dywed   C.F. Cliffe yn amwys, yn ei Book of South Wales (1848): “Y mae’r ffynnon wedi’i niweidio gan ddosbarth o ymwelwyr sydd ym mhobman yn dwyn anfri ar enw Prydain.”34  Yn anffodus nid yw’n ymhelaethu, ond y mae’n swnio fel petai twristiaid, hyd yn oed yn yr oes honno, yn difrodi’n ddi-hid y mannau yr oeddent wedi ymdrafferthu i ymweld â hwy.  

Nodiadau.

26. Robert J. Allen yn ‘Choice Notes from Notes and Queries’, yn Folklore (1859), t. 204.

27. Baring-Gould a Fisher, op.cit., IV, t. 93.

28. Cosmo Innes, ‘Notice of St Govane’s Hermitage, near Pembroke, South Wales’, yn Proceedings of

      the Society of Antiquaries of Scotland (Edinburgh, 1862) III, tt. 184-5;  cyhoeddwyd adroddiadau

      am ei ymweliad yn The Cambrian Journal (Tenby, 1860), 76-7, a’r The Archaeological Journal

      (London, 1859), tt. 198-9, 361 hefyd.

29. Janet Bord, Footprints in Stone (Wymeswold, 2004).

30. Mary Anne Bourne, A Guide to Tenby and its Neighbourhood (Carmarthen, 1843), t. 54.

3[1]. H. Thornhill Timmins, Nooks and Corners of Pembrokeshire (London, 1895), tt. 69-70.

32. ‘Holy Wells in Wales’, yn Welshman, 7 Ebrill 1905.

33. Royal Commission Inventory: Pembroke, op.cit., rhif 50, t. 22.

34. Cliffe, op.cit., t. 298

Janet Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)                                                                                         (i’w pharhau)

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Gyndeyrn, Dinpelydr, Yr Alban?  

 

 Traprain Law, Yr Alban: safle caer Dinpelydr?

Ceir Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin, a chysylltir Cyndeyrn Sant â Llanelwy, hefyd*: ond rhaid teithio i ogledd Lloegr a’r Alban er mwyn canfod ffynhonnau wedi’u cysegru yn ei enw, neu yn ei lasenw, Mungo. Ceir o leiaf tair yn Lloegr (Caldbeck, Bromfield, a Copgrove), ac o leiaf tair ar ddeg yn yr Alban, o ba rai'r enwocaf yw’r ffynnon yng Nghadeirlan Glasgow, y brif ganolfan a gysylltir â’r sant hwn. Bu hon yn seintwar ac yn fan pererindota o bwys. Ceir un ffynnon arall yn Glasgow gerllaw Capel Mungo, Gallowgate.

Crybwyllwyd hon ym 1542, ac eto ym 1558 dan yr enw “Sanct Mongowis Spoutis.” Fe’i hadferwyd ym 1906, gydag arysgrif yn datgan mai yno y cyfarfu’r sant â’r Cristnogion lleol “ar ei ddychweliad o Gymru”, ac a Columba Sant hefyd.  Adeiladwyd tafarn gerllaw ym 1755, a thynnid dŵr y ffynnon i wneud coctel grymus “Glasgow Punch” (rým, sudd leim, siwgr a dŵr iasoer). Perchen y dafarn oedd Robert Tennant, sylfaenydd y teulu bragu enwog.

 

Plant yn chwarae ar ben St Mungo’s Well, Gallowgate, Glasgow, 1967  

Tua chanol y ddeuddegfed ganrif ysgrifennwyd Buchedd Gyndeyrn ar gyfer Herbert, Esgob Glasgow. Seiliwyd y testun ar lawysgrif neu lawysgrifau hŷn, a thraddodiadau llafar. Dywed sut y penderfynwyd dienyddio mam y sant (oherwydd iddi feichiogi y tu allan i briodas) trwy ei rhoi mewn wagen a’i gwrthio oddi ar ben mynydd “Kepduf”; ond wrth i’r wagen bowlio am yn ôl o’r copa, trodd i wynebu’r ffordd arall, gan wthio un o’i llorpiau i’r ddaear, ac aros yno. “Ac ar unwaith”, medd y Fuchedd, “dechreuodd darddell fwyaf grisialaidd ffrydio, nad yw wedi peidio â llifo hyd y dydd hwn”. Agorodd y llorpiau rigolau yn y graig, hefyd, a barnai awdur y Fuchedd fod y ffynnon a’r rhigolau yn “wyrth fawr” i’r sawl a’u gwelai.

Mae’r debyg mai “Kepduf”, neu “Dumpelder”, yw bryngaer fawr Traprain Law ger Haddington, East Lothian. Ei hen enw Brythonaidd oedd Din Pelydr, gyda “pelydr” yn dynodi ynteu pelydr gwaywffyn, neu byst pren palisâd y gaer. Ceir tarddell fechan ychydig islaw copa’r mynydd, uwchlaw’r clogwyn ar ei hochr ddeheuol; ac yno ceir ffurfiau rhigolaidd yn y creigiau, hefyd. Tybed, felly, ai dyma’r man y mynnai llafar gwlad y ddeuddegfed ganrif y ceisiwyd rhoi terfyn ar yrfa Cyndeyrn cyn iddi ddechrau?

 *Barn haneswyr cyfoes yw bod y cysylltiad hwn yn annilys. 

Howard Huws

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffyhonnau Sanctaidd yn Ethiopia

Fis Chwefror diwethaf treuliais bythefnos yn Ethiopia, gan ymweld â llawer i fan o ddiddordeb imi. Un ohonynt oedd mynachlog Asheton Maryam, uwchlaw dinas Lalibela ym mynydd-dir gogledd y wlad.  

Mae Lalibela ei hun 2,600 medr (8,500 troedfedd) uwchlaw lefel y môr, ac yn enwog am yr eglwysi canoloesol a gloddiwyd o garreg feddal goch yr ardal. Bwriwyd y garreg “twff” hon yn lludw o hen losgfynydd Abune Yosef, saif gerllaw; ac o fewn ychydig i’r copa, bron 1,400 medr uwchlaw’r ddinas, ceir mynachlog wedi’i chysegru yn enw’r Forwyn Fair.

Roedd yn rhaid imi ymweld, wrth gwrs, ac yn ffodus iawn mae modd gyrru o’r dref i ben llwybr sy’n arwain at y fynachlog: fel arall rhaid cerdded neu farchogaeth mul am ddwy awr a hanner. Yna rhaid dringo’r llwybr carreg am ryw 40 munud, a hwnnw wedi’i gloddio’n rhannol o graig llethr y mynydd, gyda grisiau lle bo angen.

Ym mhen draw’r llwybr mae agen wedi’i chloddio trwy dwff gwyn, a rhaid mynd i fyny trwy’r “grau nodwydd” hwn er mwyn cyrraedd y fynachlog ei hun, ar fath o lwyfan fechan o graig wastad. Mae’r adeiladau, gan gynnwys yr eglwys, wedi’u cloddio o’r creigludw gwyn a daflwyd allan gan Abune Yosef filoedd o flynyddoedd yn ôl.

Yn Ethiopia, fel yng ngwledydd eraill, rhaid i’r sawl sy’n dymuno ei ynysu ei hun o’r byd ganfod man anghysbell sydd â chyflenwad parod, dibynadwy o ddŵr. Felly nodweddir sawl mynachlog yno gan ffynnon sanctaidd, ac y mae gan gredinwyr ffydd fawr yng ngalluoedd y dyfroedd i’w hiacháu rhag amryw glefydau. Nid eithriad Asheton Maryam, ac ar ymyl y llwybr, tua hanner ffordd i fyny, gwelais ffynnon wedi’i chau o fewn math o gist isel o waith cerrig nadd. Roedd wedi’i hadeiladu yn erbyn y graig, a ffurfiai ddwy ochr iddi. Roedd y ddwy ochr arall wedi’u llunio o gerrig sgwâr a hirsgwar gwelwlwyd, wedi’u cydgysylltu â morter gwyn, ac ar hwnnw batrwm bregiant a haenau’r cerrig  wedi’i amlinellu â phaent du. Roedd rhan isaf y gist wedi’i phlastro’n wyn, ac yr oedd gwaith cerrig yn do gwastad arni. Ar ben y to, yn ei ganol, safai carreg gron â chroes wedi’i cherfio i’w hwyneb.

Yng nghanol yr ochr hir o’r gist a wynebai’r llwybr, roedd drws bach pren, hirsgwar, â ffrâm o’r un deunydd, oll wedi’u peintio’n las. Roedd patrwm igam-ogam wedi’i naddu i’r morter islawr gwaelod y ffrâm. Cefais wybod mai ffynnon sanctaidd oedd hon, a phan edrychais drwy’r drws i mewn i’r siambr, gallwn weld nid yn unig y dŵr, ond hefyd bod rhagor o waith cerfio y tu mewn. Ymgronnai’r dŵr mewn pwll bach hanner crwn, ac yn y cefn safai croes tan fwa dwbl syml. Roedd aelodau’r groes yn ymledu o’r canol allan i lenwi’r gofod o dan y bwa, a’r cyfan wedi’i naddu o graig y llethr. Safai’r groes hyd at ei chanol yn y dŵr. Amcangyfrifais fod yno ryw droedfedd o ddŵr, neu ychydig yn rhagor.

Ni phrofais o’r dyfroedd: roeddwn y pryd hwnnw newydd ddod ataf f’hun wedi pwl o wenwyn dŵr Giardia a ddaliais ychydig ddiwrnodau ynghynt, ac wedi hynny nid oeddwn am fentro yfed dim nad oedd wedi’i ferwi neu mewn potel wedi’i selio. Gerllaw’r ffynnon roedd pant bach crwn wedi’i gafnu o’r graig, a dŵr yn codi neu’n ymhél yn hwnnw, yn debyg i bullán Gwyddelig neu Faen Bedydd Baglan yn Llanfaglan. Dywedwyd wrthyf fod bugeiliaid yn diodi eu hanifeiliaid o’r cafn hwn, a bod y dŵr hwnnw, hefyd, yn sanctaidd.

Yma adeiladwyd eglwys o greigludw coch Lalibela, ond y prif reswm dros hynny oedd oherwydd bod dŵr yn diferu’n barhaus o’r graig uwchlaw. Waeth pa mor sych y bo pobman arall, ceir dŵr yn Nakuta La’ab, hyd yn oed yn Chwefror, anterth y tymor sych. Difera’r dŵr o nenfwd yr hollt i gawgiau o garreg fasalt islaw, ac ystyrir ei fod yn iachaol, er na chanfûm a ddefnyddir ef at unrhyw anhwylderau neilltuol.

Howard Huws

COFIWCH YRRU ATOM LUNIAU O FFYNHONNAU’CH BRO CHI, NEU RAI A WELSOCH AR EICH GWYLIAU, GYDAG ADRODDIAD AM EU CYFLWR, AC UNRHYW DRADDODIADAU NEU STRAEON YN EU CYLCH. ATODWCH LUNIAU HEFYD, OS GWELWCH YN DDA.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Yr Eisteddfod Genedlaethol

 

Bu’n fwriad gan y Gymdeithas gynnal cyfarfod yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020, gyda Mike Farnworth yn traddodi cyflwyniad ynghylch "Paganiaeth dan yr Wyneb: Ffynhonnau Sanctaidd Cymru" am 5 o’r gloch pnawn dydd Mawrth y 4ydd o Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 1.

Yn anffodus, fel y gwyddom, bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod tan y flwyddyn nesaf, Awst 2021. Er gwaethaf hynny mae’r Gymdeithas wedi sicrhau ein bod ein cadw ein lle yn amserlen Pabell y Cymdeithasau 1, felly oni ddaw dim arall i’n llesteirio, bwriadwn gynnal y cyfarfod, gyda’r un cyflwyniad, am 5 o’r gloch ddydd Mawrth y 3ydd o Awst y flwyddyn nesaf. Gobeithio y gwelwn ni bob un ohonch yno!  

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Dyma Swyddogion Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

 

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

“Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru erbyn 11.11.2019, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

  cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 Home Up