Home Up

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 47, Nadolig 2019

 

FFYNNON SULIEN, CORWEN

 

Nacáu Mynediad Cyhoeddus at Ffynnon Sulien.

Mae perchnogion tŷ Ffynnon Sulien, Corwen wedi gosod rhwystrau (weiren bigog) ac arwyddion yn nacáu mynediad cyhoeddus at Ffynnon Sulien, Corwen. Er bod ganddynt hawl cyfreithiol i wneud hynny, mae’r weithred yn golygu na all y rhai sydd â diddordeb yn y ffynnon sanctaidd hynafol hon ymweld â hi. Mae Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi cysylltu â’r Comisiwn Henebion a Cadw, ond nid yw’r un o’r ddau gorff yn medru gwneud dim ynglŷn â’r sefyllfa, gan nad yw adeiladwaith y ffynnon ei hun o dan fygythiad. Mae’r Gymdeithas wedi cysylltu â Chyngor Tref Corwen a Chyngor Sir Ddinbych, hefyd, er mwyn mynegi pryder am y sefyllfa a gofyn iddynt geisio darbwyllo’r perchnogion i ganiatáu mynediad rhwydd ar adegau rhesymol.

Yn ychwanegol at hynny mae swyddogion y Gymdeithas wedi ysgrifennu’n uniongyrchol at berchnogion Ffynnon Sulien, yn amlinellu arwyddocâd y ffynnon, yn eu hatgoffa o’u cyfrifoldebau tan Ddeddf Cynllunio 1990 a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol 2016, ac yn gofyn am fynediad cyhoeddus rhesymol. Danfonwyd y llythyr yn uniongyrchol gan y Llywydd a gallwch ddarllen y llythyr llawn yn fersiwn electronig y rhifyn hwn.

 

Gallwch chi, ddarllenwyr “Llygad y Ffynnon”, helpu dwyn y maen i’r wal trwy yrru at y perchnogion er mwyn mynegi eich anfodlonrwydd â’r sefyllfa, a gofyn yn fonheddig iddynt ail-ganiatáu mynediad. Y cyfeiriad yw: Y Perchnogion, Ffynnon Sulien,Corwen, Sir Ddinbych LL21 9BT. Gwaith pum munud!

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Festri Capel Bethesda, Stryd Newydd, Yr Wyddgrug, 13.7.2019.

 Cofnodion

Yn bresennol: Eirlys Gruffydd-Evans (Cadeirydd), Robin Gwyndaf (Llywydd),

Howard Huws (Ysgrifennydd), Gwyn Edwards (Trysorydd), Dennis Roberts (Archwiliwr Mygedol), Elizabeth Rees, Anne Owen, Mike Farnworth, Y Parch. Graham Murphy.

1. Croeso’r Cadeirydd. Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod a bu iddynt eu cyflwyno’u hunain i’r aelodau eraill.  

2. Ymddiheuriadau. Eleri Gwyndaf, Ian Taylor.

3. Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2018, a materion yn codi.

Cynigiwyd fod y cofnodion yn gywir, a chymeradwywyd hynny.

Materion yn codi:

a). Diolchwyd i Dennis Roberts am baratoi dadansoddiad o leoliad daearyddol yr aelodau a’r modd y maent yn talu am eu haelodaeth. Parthed cryno-ddisg mynegai “Llygad y Ffynnon”: adroddodd Dennis fod angen llawer o waith sicrhau bod pob ffynnon yn y sir gywir, ond bod y drafft cyntaf wedi’i baratoi ers mis Chwefror. Ni chafodd amser i fwrw ymlaen â’r gwaith ers hynny, ond gobeithia y caiff yn y dyfodol agos.

b). Archifau’r Gymdeithas. Mae’r rhain wedi’u trosglwyddo i’r Llyfrgell Genedlaethol.

c). Cyfieithu gwybodaeth o “Well Hopper”. Mae hynny i ddigwydd pan fo angen, ond ar hyn o bryd mae yna ddigon o ddeunydd arall ar gyfer “Llygad y Ffynnon”.

ch). Ffurflen archeb banc. Gwnaed hynny.

d). Taflen aelodaeth. Gwaned hynny.

dd). Anrhydeddu Thelma a Barry Webb. Anrhydeddwyd y ddau mewn cyfarfod yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Mae cyfieithiad o’r adroddiad yn “Llygad y Ffynnon” wedi’i roi i Thelma a Barry. Mae eu casgliad o wybodaeth ynghylch ffynhonnau bellach yn yr Amgueddfa Werin. Cadarnhaodd y Llywydd y bydd yn gyrru  fersiwn terfynol o erthygl “Ffynhonnau Caerdydd” at olygydd “Llygad y Ffynnon”. Talwyd am fframio tysteb i’r Webbiaid hefyd.  

e). Diogeledd gwybodaeth. Gweithredwyd yn unol â gofynion y gyfraith.

f). Cyhoeddi cyfrol ynghylch ffynhonnau Morgannwg. Y Cadeirydd yn gobeithio dechrau ar y gwaith yn y dyfodol agos.  

ff). Cais am fwrdd yn “Lle Hanes” Eisteddfod Genedlaethol 2019. Clywyd nad yw’r Fforwm Hanes am fod â bwrdd yn yr Eisteddfod eleni, ond y bydd â bwrdd yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020.

g). Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. Mae cyfarfod wedi’i drefnu, a Gareth Wyn Pritchard wedi derbyn gwahoddiad i draddodi cyflwyniad yng nghyfarfod y Gymdeithas yno ynghylch ffynhonnau Llandudno. Penderfynwyd y dylai’r Cadeirydd gadeirio’r cyfarfod, neu oni all hi fod yn bresennol, yr Ysgrifennydd. Mae angen sicrhau bod yno offer, sef gliniadur, taflunydd a sgrin, a’u bod oll yn cydweithio â’i gilydd.  

ng). Cysylltu ag unigolion i fod yn aelodau o Bwyllgor y Gymdeithas. Gwnaed hynny, ond bach o ymateb fu.

h). Ailgyhoeddi’r alwad am Swyddog Cyhoeddusrwydd. Ni fu ymateb.

i) Ailysgrifennu at y Comisiwn Henebion ynghylch cynnal arolwg safonol o ffynhonnau. Gwnaed hynny, a chafwyd ymateb. Ymateb yn awgrymu nad oes gan y Comisiwn mo’r adnoddau ar hyn o bryd, oherwydd toriadau, ac awgrymu y gallai’r Gymdeithas Ffynhonnau geisio arian o ffynonellau eraill.

Mae’r llythyr yn cydnabod, o leiaf, fod ffynhonnau yn rhan o faes diddordeb y Comisiwn. Penderfynwyd y dylid ysgrifennu’n ôl gan ddiolch am eu hawgrymiadau a bod y Comisiwn yn cydnabod yr angen am gofnodi ffynhonnau.

4. Adroddiad yr Ysgrifennydd.

a). Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer. Adeg yr ymgynghoriad ynghylch adeiladu ffordd osgoi Caernarfon, aethpwyd â swyddogion y contractwyr (Jones Bros., Rhuthun) i’r safle, dangoswyd y ffynnon iddynt, a chafwyd addewid y nodid hynny’n ofalus wrth gynllunio’r gwaith. Ddiwedd Ebrill gwelwyd fod y gwaith cloddio wedi dod yn beryglus o agos at y ffynnon, a gyrrwyd neges at Bryn Williams, swyddog Jones Bros, yn mynegi pryder. Cysylltwyd â Chyngor Gwynedd ar yr un pryd.

Erbyn dechrau Mai roedd y ffynnon yn y cyflwr y mae heddiw. Gyrrwyd at yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad lleol, at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac at y wasg a’r cyfryngau. Ni chafwyd unrhyw ymateb swyddogol, namyn datganiad bod y Llywodraeth “wedi ystyried presenoldeb Ffynnon Fair trwy ‘bob cam o'r broses ddatblygu”.

Os dim arall, darfu i’r gohebu a’r datgan dynnu sylw at y ffynnon hon yn neilltuol, a phwnc ffynhonnau sanctaidd yn gyffredinol. Mae dŵr y ffynnon yn dal i lifo trwy bibell blastig, a bydd rhaid disgwyl i’r gwaith ddarfod cyn y gellir gweld a oes modd adfer y safle.

b). Ffynnon Ddyfnog, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch. Fis Mai mynegwyd pryderon wrth yr Ysgrifennydd ynghylch cynlluniau i ddatblygu safle Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr, gerllaw Dinbych yn ganolfan addysg/ymwelwyr. Yn benodol, pryderon y gallai gwaith hwyluso mynediad at y safle a darparu cyfleusterau addysgol yno ddifrodi safle bregus sydd, efallai, yn enghraifft brin iawn o addasu ffynnon sanctaidd ganoloesol yn ganolfan adfer iechyd, yn “sba” yn y cyfnod modern cynnar.  

Ysgrifennwyd at yr awdurdodau lleol (Cyngor Llanrhaeadr a Chyngor Sir Ddinbych) ac at Cadw yn mynegi pryder ynghylch hyn. Y canlyniad fu cyfarfod ar y safle ddechrau Mehefin gyda chynrychiolwraig y rhai sydd y tu ôl i’r bwriad, pryd y bu iddi esbonio beth yn union oedd mewn golwg ganddynt.

Os yw’r grŵp sy’n pwyso am newid y safle yn cadw at yr hyn a esboniwyd wrth yr Ysgrifennydd, ei farn ef yw na fydd hynny’n difrodi’r lle. Ni fydd y “cyfleusterau addysgiadol”, er enghraifft, fawr mwy nag eisteddfa awyr-agored, ac ni fwriedir codi adeiladau ychwanegol. Dipyn o syndod, fodd bynnag, fu deall y bu hyn ar y gweill ers sawl blwyddyn, ond nad oedd Cadw’n ymwybodol ohono hyd nes i’r Ysgrifennydd dynnu sylw at y peth: a hynny mewn man lle mae sawl heneb restredig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd yr ofnai fod hyn, ac achos Llanfair-is-gaer, yn tanlinellu, unwaith yn rhagor, yr angen am ddiogelu ffynhonnau sanctaidd o dan yr un  ddeddfwriaeth ag y sy’n diogelu henebion eraill, er, efallai, nad yw safle’r ffynnon yn cynnwys unrhyw adeiladwaith. Y mae yna broses gofrestru, ond y mae’n gofyn am dystiolaeth fanwl ynglŷn â phob un safle unigol, ac nid yw traddodiad llafar fel petai’n cyfrif llawer tuag at hynny. Yn achos Ffynnon Ddyfnog, mae yna adeiladwaith: yn achos Ffynnon Fair, nid oes yna ddim: dim ond dogfen, enwau lleoedd cyfagos, a thraddodiad llafar. Eto, mae’r naill, fel y llall, yn rhan o’n treftadaeth ni.

Mae sefyllfaoedd fel hyn yn rhwym o godi, drachefn a thrachefn, hyd nes y bo mesur o ddiogelwch cyfreithiol i ffynhonnau sanctaidd. Mae’n amlwg nad ydi’r cyrff mwyaf perthnasol – Y Comisiwn Henebion a Cadw – am symud i’r cyfeiriad hwnnw o’u gwirfodd, felly rhai pwyso arnynt. Awgrymodd yr Ysgrifennydd y gallai’r Gymdeithas  lythyru, gohebu â’n haelodau seneddol a chynulliad, a ryddhau datganiadau; creu cyhoeddusrwydd, hynny yw, a gorfodi’r awdurdodau i ymateb. Rhaid i’r Gymdeithas  fod yn fwy na chorff cofnodi: rhaid iddi weithredu er mwyn sicrhau dyfodol i’n ffynhonnau sydd yn rhan mor werthfawr o’n treftadaeth ni fel cenedl.

c). Dywedodd yr Ysgrifennydd iddo draddodi cyflwyniadau ynghylch ffynhonnau sanctaidd gerbron Clwb Cinio Arfon ym Mrynrefail ar 1af o Fawrth a Chymdeithas Hanes y Tair Llan yn Llandwrog ar y 12fed o Fawrth. Mynegwyd cryn ddiddordeb ym mhwnc ffynhonnau sanctaidd, a bu’n gyfle i rannu ôl-rifynnau o “Llygad y Ffynnon” a thaflenni aelodaeth.

Canmolwyd yr Ysgrifennydd am y gwaith cyhoeddusrwydd.

5. Adroddiad y Trysorydd.

Cafwyd adroddiad y Trysorydd, a ddangosodd ostyngiad o £203.61c yn y cyfrif banc rhwng 1.7.18 a 1.7.19, o £2,399.95 i £2,196.34c. Hynny’n rhannol oherwydd talu am argraffu “Llygad y Ffynnon”: cyflwynwyd 3 siec dâl gan y wasg yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ond ni chyflwynir rhagor na dwy yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mynegodd mai dymunol iawn fyddai cynyddu aelodaeth, a phenderfynwyd  gadael ffurflenni aelodaeth ym mhebyll cymdeithasau cyffelyb eu diddordebau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Cytunodd Mike Farmworth i fynd â ffurflenni ag ef,  gan ei fod yn darlithio ar bwnc ffynhonnau ym Mhenbedw a Dinbych. Diolchodd y Trysorydd i Dennis Roberts am ei gyngor a’i gymorth parod, ac i Howard Huws: mae gwaith cadw trefn ar yr arian ac ar y rhestr aelodaeth yn waith tîm. Pwysleisiodd Dennis Roberts fod angen cynyddu aelodaeth er mwyn cadw’r llyfrau yn y du. Mae gyrru 51 copi o “Llygad y Ffynnon” drwy’r post yn golygu gwario, ond y mae 30 aelod yn derbyn copi electronig, bellach.

Dywedodd y Llywydd fod rhai cymdeithasau wedi dileu’r cynnig i dalu unwaith am oes o aelodaeth, neu’n gwahodd y rhai sydd eisoes yn aelodau am oes i dalu’n flynyddol neu wneud cyfraniad. Penderfynwyd gwahodd aelodau am oes i godi aelodaeth flynyddol, trwy’r banc, a derbyn copi electronig o “Llygad y Ffynnon”. Penderfynwyd cynnwys eitem yn rhifyn nesaf “Llygad y Ffynnon” yn apelio at aelodau am oes presennol i wneud hynny. Dywedodd y Cadeirydd iddi dalu £30 o’i gwirfodd am logi ystafell y Cyfarfod Cyffredinol heddiw’r 13eg o Orffennaf 2019.

6. Adroddiad yr Archwiliwr Mygedol.

Adroddwyd fod y cyfrifon oll yn gyflawn ac yn gywir.

7. Adroddiad Golygydd “Llygad y Ffynnon”.

Adroddodd y Golygydd fod digon o ddeunydd ar gyfer “Llygad y Ffynnon” ar hyn o bryd, ond anogodd yr aelodau i barhau i yrru cyfraniadau, er mwyn amrywio’r cynnwys. Diolchodd i Dennis Roberts am ei gymorth technegol. Derbyniwyd awgrym Dennis Roberts y dylid datgan yn y copi printiedig y deunydd ychwanegol sydd yn y copi electronig. Dywedodd y Golygydd y dylid argraffu llai o gopïau papur – o 70 i 55, hyd yn oed os nad yw hynny’n gwneud fawr o wahaniaeth yn y pris. Gyrrir copïau electronig i’r Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Werin, ac i Ymddiriedolaeth Ceredigion. Penderfynwyd y dylid gyrru copïau electronig i’r Gymdeithas Enwau Lleoedd, Cymdeithas Llafar Gwlad, Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, hefyd.

8. Cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Ar gynnig y Llywydd, penderfynwyd y dylai’r Ysgrifennydd drefnu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf ym Mangor ar ddydd Sadwrn yng Ngorffennaf 2020, gyda thaith o gwmpas rhai o ffynhonnau’r ardal i ddilyn yn y prynhawn.

Trafodwyd Eisteddfod Ceredigion 2020 yn Nhregaron. Awgrymodd y Llywydd y gallai  Mike Farnworth gynorthwyo gyda’r ochr dechnegol, ac efallai traddodi cyflwyniad ynghylch Ffynhonnau Ceredigion.

Os cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2021 yng Nghaernarfon, awgrymwyd y gallai’r  Ysgrifennydd draddodi yno ynghylch ffynhonnau’r ardal honno.

9. Unrhyw fater arall.

Ffynnon Sulien, Corwen. Adroddodd y Cadeirydd ei bod wedi ceisio ymweld â Ffynnon Sulien yng Nghorwen, ond bod y fynedfa wedi’i chau, gyda weiren bigog am y giât a rhybuddion ynghylch cŵn gwarchod ar y safle. Ofer fu pob ymgais i gysylltu â’r perchnogion presennol. Cyflwynodd i’r Cyfarfod ddeiseb oddi wrth y Gymdeithas at y perchnogion, yn eu hatgoffa bod y ffynnon yn Safle Rhestredig y mae’r gyfraith yn ei diogelu rhag ei handwyo neu’i newid mewn unrhyw ffordd, ac yn gofyn am fynediad rhesymol at y ffynnon.  

Penderfynwyd y dylid cyflwyno’r ddeiseb ar lun llythyr oddi wrth swyddogion y Gymdeithas, yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf a’r Saesneg yn ail mewn inc o liw gwahanol. Yr ysgrifennydd i lunio’r llythyr ac i’w yrru ogylch y swyddogion er mwyn cael eu llofnodion, cyn ei yrru ymlaen at berchnogion Ffynnon Sulien.

Penderfynwyd y dylid ysgrifennu i’r un perwyl at Cadw, gan dynnu sylw at y sefyllfa a gofyn iddynt ymateb, ac at Gyngor Tref Corwen a Chyngor Sir Ddinbych hefyd. 

10. Dyddiad a lleoliad y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.

Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf ym Mangor yng Ngorffennaf 2020. Yr Ysgrifennydd i drefnu.

Gwibdaith y pnawn.

Wedi’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn y bore, aeth yr aelodau ar wibdaith er mwyn ymweld â thair ffynnon:

a). Ffynnon Degla, Llandegla. Cafwyd fod y ffynnon yn weddol dda ei chyflwr, ond achubodd y Trysorydd (gan fod ganddo esgidiau priodol) y cyfle i dynnu brigau allan ohoni. Mae yno fwrdd gwybodaeth ynghylch defnydd y ffynnon ar gyfer defod iacháu’r “digwydd” neu “glwyf Tegla” (epilepsi), a chanfuwyd yno ddau geiliog plastig. Roedd yno hefyd garpia wedi’u clymu ar frigau’r goeden gerllaw.

b). Ffynnon Sara, Derwen. Cafwyd fod y ffynnon anghysbell ond sylweddol hon mewn cyflwr eithaf da, ond bod angen ei charthu. Anarferol fu canfod yno hen rybudd swyddogol nad yw’r dŵr yn addas i’w yfed.

c). Ffynnon Sulien, Corwen. Cafwyd nad oedd modd mynd at y safle (gw. uchod). Gan fod rhif teleffon y perchnogion yno, gadawyd neges ar eu peiriant ateb yn amlinellu cais y Gymdeithas am fynediad at y ffynnon.

Wedi hynny fe ohiriwyd i’r Rug am baned.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Ffynnon Cors Tyddyn Oer, Bethel, Caernarfon.

Ddechrau mis Medi eleni bu Mr Seiriol Owen, Tan y Cae, Bethel mor garedig â dangos imi ffynnon ar dir gerllaw Tyddyn Oer yn y pentref hwnnw.

Mae’r ffynnon yng Nghors Tyddyn Oer, rhwng nant i’r de-ddwyrain o ffermdy Tyddyn Oer ei hun a’r gefnffordd rhwng pentref Bethel a Bryn Pistyll, fwy neu lai gyferbyn â mynedfa ystâd Rhos Lan. Y cyfeirnod Arolwg Ordnans (AO) yw SH525657, ac y mae’r ffynnon, ar lun petryal bach gydag “W” (am “well”) wrthi, i’w gweld yn eglur ar fap AO chwe modfedd o’r ardal o’r flwydd yn 1899, gyda dau lwybr yn arwain yn syth ati o’r gefnffordd. Nid yw ddim i’w gweld ar fap chwe modfedd AO Môn XXIII SW 1888, lle nid oes ond un llwybr yn mynd heibio i’r fan, heb olwg o unrhyw ffynnon. Gellid dyfalu y lluniwyd y ffynnon rhwng tua 1888 a 1899 er cyfleuster i drigolion pentref Bethel, a oedd ar gynnydd yn sgil y diwydiant llechi. Yr oedd ffynnon arall yn Nhyddyn Oer ei hun, yr ochr draw i’r nant.

  

Y ffynnon gyda’r crawiau o’i chwmpas a’r goeden afalau gerllaw iddi.

Pwy bynnag a’i lluniodd, gwnaeth waith da ohoni, gan ddefnyddio cerrig a llechi cadarn; nid yw fawr gwaeth ei sut heddiw yn 2019 na phan gyntaf y’i gwnaed. Caewyd o’i hamgylch â ffens o grawiau llechi, a gosodwyd giât haearn i hwyluso mynediad. O’r giât gellir disgyn tua dwy droedfedd i lawr at y dŵr, sydd mewn pwll petryal tua llathen wrth bedair troedfedd, gyda math o drothwy llechen yn gwahanu un pen o’r pwll rhag y gweddill. Tros y pen hwnnw mae crawiau cadarn wedi’u gosod yn do. ’Roedd tua deng modfedd o ddŵr yno pan ymwelwyd â’r lle. Gallai fod yn rhagor, pe’i certhid. Mae coeden afalau yn tyfu gerllaw iddi, ond fel arall mae porfa arw o’i chwmpas.

Y mae yna adeiladu tai ar y tir hwn ar hyn o bryd, ond hyd y gallaf gasglu, y mae’r perchennog yn bwriadu cadw’r ffynnon. Y mae’r ffynnon ar dir preifat, ac yn bendant nid oes dim croeso i neb ymweld â’r ffynnon heb ganiatâd o flaen llaw.

                                                                                                                                                                                HH.

 

Bethel 2 Ffynnon Cors Tyddyn Oer wedi carthu ychydig arni.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Ffynnon Ddeiniol, Llanddeiniolen.

 Yn Rhifyn 21 (Nadolig 2006) “Llygad y Ffynnon” cawsom wybod gan y diweddar John E. Williams, Allt Riwth, Llanrug fod “Ffynnon Ddeiniol, ym Mhant Tan Dinas yn union islaw Dinas Dinorwig ar yr ochr orllewinol ac yng ngheg Lôn Bach y Gof lle byddai ceffylau pwn yn cario llechi i’r Felinheli cyn sefydlu Lein Smith i Lanberis. Mae ’na ffrwd yn rhedeg drwy’r ffynnon ac ar draws gwlad i arllwys yng Nghaernarfon. Tros y ffordd mae hen ffermdy Tan Dinas, gynt a oedd yn gapel Rhyd Fawr…Yma y deuai fy hynafiaid tros yr esgair o’r Gors i’r cyrddau cyn adeiladu Capel y Glasgoed, felly mae lleoli’r ffynnon ym Mhentir yn anghywir. Byddem yn mynd heibio i’r fan ar Suliau i Landdeiniolen.”  

Ddechrau mis Medi eleni bu Seiriol Owen o Fethel mor garedig â dangos y ffynnon hon imi. Y mae yn y man a ddisgrifiwyd gan J. E. Williams, ar ochr y ffordd rhwng eglwys Llanddeiniolen a Phont Rhythallt, gyferbyn â, ac ychydig uwchlaw, Tan Dinas. Y cyfeirnod Arolwg Ordnans yw SH548655. Mae’r dŵr yn gollwng o’r darddell i ffrwd fechan sy’n llifo heibio iddi.

 

Tarddle Ffynnon Ddeiniol, Llanddeiniolen.

Mae ceg Lôn Bach y Gof (llwybr troed, bellach) hefyd gyferbyn â Than Dinas, ond ychydig yn is i lawr. Rhoddodd Mr Owen wybod imi bod ffynnon arall yn yr ardd o flaen Tan Dinas, ond bod honno’n llawn planhigion, bellach. Byddai honno’n wir “yng ngheg Lôn Bach y Gof”, ond nid dros y ffordd i Dan Dinas, ac nid yw’n llifo i unrhyw ffrwd.

                                                                                                                                                                                        HH.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer

Daeth pwt bach ychwanegol o dystiolaeth ynghylch y ffynnon hon i’n sylw yn ddiweddar, sef brawddeg o lythyr a ysgrifennodd Richard Griffith, Plas Llanfair, o Ddulyn at ei wraig gartref ym 1649, yn cyfarwyddo ynghylch gwaith amaethyddol:  

                “…cause them to cutt all the freshe ground that cannot be plowed within the two

                  Broome fields between pen/y/brin and finnon vaire, for to be burntt for Rie…”

HH.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’: 

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

Mae holl adroddiadau dechrau’r 19eg ganrif yn tystio i boblogrwydd y ffynnon â phobl yn ceisio adferiad iechyd; dywed arweinlyfr Dinbych-y-pysgod ym 1818 “y gellir gweld yn agos i ugain o gleifion ar unwaith yn golchi eu haelodau ac yn taenu ar eu cymalau chwyddedig a chrupul blastrau o’r clai coch yn llawn dŵr y ffynnon.”20  (Cyfeiriaf eto yn hwyrach ymlaen at bwysigrwydd y clai coch.) O ddechrau’r 19eg ganrif ymlaen cyhoeddwyd llawer i adroddiad ynghylch y ffynnon, yn aml ar sail gwybodaeth o ffynonellau blaenorol. Mae llyfr C. F. Cliffe, y Book of South Wales, er enghraifft, yn ailadrodd adroddiad Fenton bron air am air, er lle mae Fenton yn defnyddio “Govan”, mae’n well gan Cliffe “Gowan”.21  Mae Samuel Lewis yn ei  Topographical Dictionary, fodd bynnag, yn fodlon ar “Gawen”.  Mae’n amlwg nad oedd cytundeb ynghylch sillafu enw’r sant ar yr adeg honno, ond ymddengys bod yna beth newid pwyslais yn datblygu tuag at enw tebyg i Gawain.

Traddodiad ymweliad Christ â St Govan’s

   Dengys adroddiad o tua 1830 cymaint y perchid St Govan’s Chapel yn y seice crefyddol lleol ar yr adeg honno. Gofynnodd ficer St Florence y tu allan i Ddinbych-y-pysgod tua 10 milltir i ffwrdd i’w ddisgyblion Ysgol Sul ymhle y gwelwyd yr Iachawdwr am y tro cyntaf wedi Ei atgyfodiad o’r meirw, a dywedasant wrtho “At  St Govan’s.”

   Gan holi eraill ynghylch achos yr ateb rhyfedd hwn, rhoddwyd gwybod iddo: “Unwaith roedd amaethwr yn hau haidd ar y twyni uwchlaw St. Govan’s, pan dynnwyd ei sylw gan olwg urddasol a thrawiadol dyn a oedd yn gwylio’r gwaith. O weld ei fod yntau wedi’i weld, amneidiodd y dieithryn at yr amaethwr, yr hwn o ddynesu ato, a chan ateb ei ymholiad ‘beth wyt ti’n ei wneud?’ a atebodd, ‘hau haidd.’ ‘Ond,’ meddai’r dieithryn. ‘bydd yr had hwn yr wyt ti’n ei gladdu yn pydru.’ ‘Bydd,’ meddai’r amaethwr, ‘bydd yn pydru, ond bydd yn egino drachefn, ac ar adeg y cynhaeaf dof a chasglaf ef i’m mynwes.’ ‘Wyt ti’n credu y gall yr hyn sydd farw fyw drachefn?’ ‘Ydw,’ meddai’r amaethwr. ‘Yna,’ atebodd y dieithryn â rhyw fawredd yn ei gylch, ‘Myfi yw’r Atgyfodiad a’r Bywyd; dos adref, cyrcha dy gryman a lladda dy ŷd.’ Gwnaeth y gŵr da fel y gorchmynnwyd iddo, ac erbyn iddo ddychwelyd roedd y dieithryn wedi diflannu, ond roedd yr haidd yn aeddfed ac yn barod i’w gynaeafu ar yr un diwrnod y’i heuwyd.”22

   Nid yw’r chwedl hwn yn unigryw i St Govan’s, ond ymddengys ym mannau eraill ym Mhrydain, yn St Milburga’s Well yn Stoke St Milborough yn Swydd Amwythig, er enghraifft. Pan ymlidiwyd y santes gan ei gelynion, syrthiodd oddi ar ei cheffyl a daeth rhyw weithwyr i’w cynorthwyo. Gorchmynnodd i’w haidd nhw dyfu’n gyflym, a dywedodd wrth y dynion, pe delai unrhyw un yn holi amdani, iddynt ddweud yr aeth hi heibio wrth iddynt hau eu haidd. Y noson honno roedd yr haidd, a heuwyd y bore hwnnw, yn barod i’w gynaeafu, ac felly cafodd y Santes Milbwrga’r gorau ar ei herlidwyr.23  Ceir yr un thema yng ngwledydd eraill, ac y mae’n sylwebaeth leoledig ar y Fföedigaeth i’r Aifft pan oedd y Teulu Sanctaidd yn dianc rhag y Brenin Herod a oedd yn bwriadu lladd plant. Mae fersiwn Sir Benfro o’r chwedl wedi’i addasu ar gyfer pregethu, ac nid oes iddo’r themâu ymlid ac osgoi.

   Yn St Govan’s Chapel amnewidiwyd yr Iesu weithiau am St Govan megis yr un a ymguddiodd yn y gell garreg er mwyn osgoi ei ymlidwyr. Dull y cuddio oedd y bu’r Iesu (neu Govan) yn dianc rhag ei elynion a darfu i’r creigiau ymagor; ymwasgodd i’r hafn, a gaeodd amdano wedyn, gan ei guddio hyd nes yr aeth y perygl heibio, ar ba adeg yr ymagorodd drachefn - ac yr arhosodd ar agor, gan adael yr agorfa a welwn heddiw, ynghyd ag olion asennau’r sant i brofi y bu yno. Ymddengys y gwyddai mwyafrif yr ymwelwyr yr hanes y defnyddiwyd y gell yn noddfa rhag ymlidwyr, ond  ymddengys nad oedd gan ymwelydd anhysbys ym 1836 fawr o wybodaeth am y traddodiad, gan iddo alw’r “gell” garreg yn lle tân: “ ymddengys y bu’r lle tân yn un gornel, gan fod cilfach yn y graig gydag agen trwyddi, er mwyn caniatáu i fwg ddianc, debyg”. Nododd yr ymwelydd hefyd “y mae yna hefyd lechen garreg wedi’i gosod ar y mur, a allai fod yn weddillion allor, ac ar y mur cyferbyn mae llechen yn dwyn y dyddiad 1176” - manylyn nas gwelais yn unman arall. Disgrifiodd y ffynnon hefyd, er nas argyhoeddwyd gan yr honiadau a wnaed ynghylch ei dŵr:  

   Gan fynd trwy’r capel, cyrhaeddir y ffynnon ryfeddol trwy ddisgyn un gris ar bymtheg i’r dŵr, y dywedir y gall iacháu pob anhwylder a niwed! Y mae o natur olewaidd, ond nid oes golwg atyniadol arno; y mae’r ffydd yn ei effeithiolrwydd, fodd bynnag, yn wirioneddol syfrdanol; a diau, os oes iacháu, y mae hynny i’w briodoli cymaint i effaith y teimlad hwnnw ag i unrhyw rinwedd iachusol perthynol i’r hylif: mae holl werin y gymdogaeth yn gadarn eu cred yn ei effeithiolrwydd.24

   Yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif, dywedwyd wrth ymwelydd â Dinbych-y-pysgod ym 1863 fod yr Iesu yn wir wedi ymweld â’r ffynnon: “Dywedodd rhai o’r hen drigolion wrth fy ngwestywraig y daeth ein Hiachawdwr yno i’r ffynnon.” Adroddodd hefyd fersiwn cwta a chymysglyd o chwedl y cynhaeaf disymwth, gan ddangos fod y traddodiadau hyn yn cael eu traddodi o genhedlaeth i genhedlaeth. 25

Nodiadau

20 Awdur nas enwyd, An Account of Tenby (Pembroke and Tenby, 1818), 138-9

21 Charles Frederick Cliffe, The Book of South Wales, the Bristol Channel, Monmouthshire and the

    Wye (London, 2il arg., 1848), 296-8

22 Edward Laws, The History of Little England Beyond Wales (1888;  Haverfordwest, 1995), 411

23 Janet Bord, Holy Wells in Britain: A Guide (Wymeswold, 2008), 109

24 ‘Extract from the Notes of a Tourist – Coast of Pembrokeshire, 1836’, yn The Nautical Magazine

   and Naval Chronicle, for 1837 (London, 1837), 613-15

25 Awdur nas enwyd, My Summer Holiday; being a Tourist’s Jottings about Tenby (London, 1863),     81-2

Janet Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)                                                                         (i’w pharhau)

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 ‘Heb Ddŵr, Heb Ddim’

Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

 Robin Gwyndaf

(Rhan gyntaf darlith a draddodwyd ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 7 Awst 2018. Cadeirydd: Eirlys Gruffydd-Evans; Trefnydd a Chyfieithydd: Howard Huws.) 1.

Gwyddom oll am yr hen air: ‘Heb Dduw, heb ddim’. Mor rhwydd fyddai aralleirio’r geiriau cyfarwydd hyn: ‘Heb ddŵr, heb ddim’. A gwir iawn hefyd yn hanes ffynhonnau Caerdydd a’r cyffiniau.

Tua’r flwyddyn1610 rhyw 1500 yn unig oedd poblogaeth Caerdydd. Rhyw 300 oedd nifer y cartrefi, gyda’r trigolion yn byw, yn bennaf, bryd hynny mewn dau blwyf: Plwyf Sant Ioan a Phlwyf y Santes Fair. Erbyn 1840, fodd bynnag, roedd y boblogaeth wedi cynyddu i10,000. O hyn ymlaen, yn arbennig gyda dyfodiad y ddau ddiwydiant: glo a haearn, cynyddu roedd y boblogaeth ar raddfa eithriadol iawn.

Hyd at 1850 derbyniai trigolion Caerdydd eu dŵr yn bennaf o’r ffynonellau hyn: Afon Taf; ffynhonnau preifat; a ffynnon gyhoeddus yn Heol Eglwys Fair (St Mary’s Street), ger hen Neuadd y Dref, y ‘Guild Hall’, lle roedd Banc Lloyds yn ddiweddarach. Roedd Eglwys y Santes Fair yn dyddio o’r unfed ganrif ar ddeg. Hi oedd yr eglwys fwyaf yn y dref, ond fe’i dinistriwyd gan lifogydd mawr Bae Bryste yn 1607.

Annigonol iawn oedd y trefniadau ar gyfer darparu dŵr glân i Gaerdydd. Yn 1848 bu i dros 400 o’r trigolion farw o’r Colera, a 747 y flwyddyn ganlynol.2 Cyffelyb oedd y sefyllfa yn nhrefi eraill Cymru a Lloegr, a does dim rhyfedd i’r haint ysbarduno’r awdurdodau i weithredu. Yn 1850 ac 1853, felly, drwy ddwy Ddeddf Seneddol, trefnwyd i ganol Caerdydd a rhai ardaloedd cyfagos dderbyn cyflenwad o ddŵr glân o Afon Elái, gyda’r brif orsaf ddŵr, neu bwmp dŵr, cyntaf yn ardal Trelái. 3

                O’r cyfnod hwn ymlaen, mi allwn ni hefyd hyd heddiw weld amryw o’r pistylloedd yfed, neu ffowntenni, roedd tref Caerdydd wedi’u cynllunio er mwyn darparu dŵr glân i’r trigolion. Bodlonir yn yr erthygl hon, fodd bynnag, ar gyhoeddi eu lluniau yn unig. Tynnwyd y pum llun gan Phil Cope, y ffotograffydd dawnus o Flaengarw, Morgannwg, ac awdur cyfrolau niferus. Un ohonynt yw’r gyfrol gyfoethog: Holy Wells: Wales. A Photographic Journey (2008). Cyhoeddwyd y pum llun eisoes yn ei gyfrol hardd ddiweddaraf, sy’n cynnwys dros dri chant o ddarluniau, sef: The Living Wells of Wales (2019). 4 Dyma enwau pedwar  o’r pistylloedd y gwelir eu lluniau yn yr erthygl bresennol:

-          Pistyll Yfed Caeau Llandaf (ST 180 749) 5

-          Pistyll Yfed Parc Buddug / Fictoria (ST 155 769)

-          Pistyll Yfed Gerddi’r Faenor / Grange (ST 180 749) 

-          Pistyll Yfed Treganna, ar y gornel lle mae Cilgant Romilly  (Heol Romilly Crescent) a Heol Llandaf yn cyfarfod. (ST 155 777)  

Hen Ffynnon Heol Eglwys y Santes Fair (1860)  

Priodol yn y fan hon yw cyfeirio at un o’r ffynhonnau, neu bistylloedd yfed, pwysicaf a harddaf yn Ninas Caerdydd, a’r dyddiad 1860 arni. Dyma un ffynnon oedd yn wreiddiol ger hen Neuadd y Dref yn Heol Eglwys y Santes Fair. Dymchwelwyd yr hen Neuadd  yn 1861. Yn ffodus iawn, fe arbedwyd y ffynnon. Ail leolwyd hi er 1862 fwy nag unwaith. Adeg cynllunio’r Ganolfan Ddinesig, symudwyd hi yn 1908 i Lôn y Felin. Yna, yn 1952, gosodwyd hi ar ei safle bresennol yn rhan o ganllaw a mur y bont dros gamlas gyflenwi dŵr i’r Dociau (‘Dock Feeder Canal’), ger y Boulevard de Nantes a’r mynediad i Heol y Brodyr Llwydion / Greyfriars Road. Yr adeilad mawr agosaf i’r bont yw ‘Rhif Un Heol y Brenin’ / ‘One Kingsway. 6

Dyma ddisgrifiad o’r hyn sydd i’w weld wrth syllu ar y ffynnon arbennig hon heddiw, a’ch cefn gyferbyn â’r ffrwd o drafnidiaeth brysur sy’n llifo heibio ochr Castell Caerdydd i gyfeiriad Heol y Gogledd a’r Ganolfan Ddinesig.

Gwnaed y ffynnon o haearn bwrw. Y mae ei chefn ar ffurf tarian fawr, addurnedig, wedi’i pheintio’n ddu. Bob ochr i’r darian, yn yr hanner uchaf,  ceir sbrigyn o eiddew, neu iorwg,  a’r dail wedi’u lliwio’n wyrdd. Cofiwn ninnau fod yr eiddew bythwyrdd yn un o’r planhigion pwysicaf i ddathlu’r Nadolig. Mae’n ddelwedd o barhad bywyd, o’r geni, y deffro, a’r bywyd newydd yng nghanol tywyllwch gaeaf. Yr un modd, gall ein hatgoffa o’r dŵr bywiol, bythol îr, a gynigir gan Grist ac y cyfeirir ato yn y geiriau a gerfiwyd ar y ffynnon hon.

Ar frig y darian, yn y cylch hanner lleuad, ceir cerflun mewn paent aur o angel adeiniog yn eistedd ar gymylau gwynion. O dan y cymylau gwelir yr adnodau a ganlyn, yn Saesneg: ‘Jesus said unto her, whosover drinketh of this water shall thirst again; but whosoever drinketh of the water that I shall give him, shall never thirst. John 1v.13.14.’ Yng nghanol y ffynnon ceir llwyfan i dderbyn y dŵr, a’r geiriau hyn uwch ei ben: ‘Wills Brothers Sculpts London.

Ar y chwith ceir cerflun o Grist troednoeth yn eistedd, mewn gwenwisg a chlogyn coch llaes amdano. Mae’i fraich chwith wedi’i chodi, fel petai’n cyfeirio tuag at y geiriau o’r Efengyl yn ôl Ioan, ac y mae ei wyneb a’i holl ystum fel petai’n syllu i fyny i’r awyr tua’r nef uwchben. Ar y dde i’r llwyfan ceir cerflun o’r Wraig o Samaria, hithau’n droednoeth mewn gwenwisg, ond clogyn llaes glas sydd ganddi hi. Y mae ei phen yn gorffwys ar ei braich dde ac yn gwyro i syllu ar Iesu, gan gyfleu’r teimlad ei bod yn gwrando’n astud ac yn myfyrio’n ddwys ar ei eiriau. Wrth ei thraed mae piser tal i gario dŵr o’r ffynnon.

Ar ran isaf y ffynnon ceir y geiriau: ‘Erected by Wm Alexander Mayor of Cardiff  A.D. 1860.

Ar y gwaelod isaf llythrenwyd y geiriau: ‘Cast by the Coalbrook Dale Co’.

 

Hen Ffynnon Heol Eglwys y Santes Fair. Llun: Phil Cope.

Y mae’n werth i bawb sy’n byw yng Nghaerdydd, neu yn ymweld â’r ddinas, i oedi ger y ffynnon nodedig hon, a rhaid llongyfarch y Cyngor am y graen sydd arni, er bod rhywrai wedi anharddu peth ar gefn y llwyfan uwchben tarddle’r dŵr, ac anharddu ychydig hefyd (wedi i’r llun gael ei dynnu) ar wynebau’r Iesu a’r Wraig o Samaria. Cofrestrwyd y ffynnon fel Adeilad o Werth Hanesyddol, Gradd 2, gan Cadw yn 1975.         

   ‘Rhed ataf yn rhad eto ...’

Cyn canol y 19g, a chyn i Gyngor Caerdydd ddarparu dŵr glân i drigolion y dref a’r ardaloedd cyfagos, ac wedi hynny, i raddau llai, fe fu i ffynhonnau a phistylloedd Caerdydd a’r cyffiniau ran eithriadol o bwysig ym mywydau bob dydd y trigolion.  Mor gwbl addas, fel y cawn sylwi eto, yw llinell glo englyn ardderchog William Roberts, Trefor, sir Gaernarfon, i’r ‘Pistyll’: ‘Rhed ataf yn rhad eto’.

Mi allem ni ddosbarthu’r ffynhonnau hyn yn fras i ddau brif ddosbarth – er bod perygl bob amser mewn gor ddosbarthu – rhy fawr yw’r meddwl dynol i’w osod yn daclus mewn blwch. Ond y mae dau air arbennig i’w cadw mewn cof: ‘naturiol’ a  ‘goruwchnaturiol’.

Yn gyntaf, felly: ffynhonnau  naturiol. Ar hyd yr oesoedd, ac ym mhob rhan o’r byd, mawr fu’r angen am ddŵr glân i’w yfed, a phobl yn parhau i ‘gario dŵr o’r ffynnon’ yn eu bywydau bob dydd. Y ffynhonnau ‘naturiol’ hyn oedd fwyaf niferus o ddigon yng Nghaerdydd a’r ardaloedd cyfagos. Ysywaeth, ond yn ddigon dealladwy gyda thwf rhyfeddol y boblogaeth a byd masnach, a’r angen mawr am adeiladu tai, diflannodd y cof am enwau a lleoliad nifer fawr o ffynhonnau naturiol o’r fath. Y mae hynny’n wir hefyd, mae’n sicr, ond i raddau llai, o bosibl, am y ffynhonnau llesol hynny y credai ein hynafiaid gynt fod rhinwedd meddyginiaethol yn y dŵr.

Yn ail, ffynhonnau goruwchnaturiol. Y pwys ar goel ac arfer, a’r coelion gwerin hynny yn arwain at gynnal defodau ac ymarfer swynion. Y cyfan, yn ôl y gred, yn fodd i wella afiechyd ac i dderbyn bendith. Er enghraifft, teflid pinnau i’r dŵr a chrogi clytiau, neu garpiau, ar lwyni a choed. Dyma gof gwerin am yr hen gred fod modd trosglwyddo’r drwg o berson i fater, neu o’r corff dynol i anifail. O’r corff i’r clwt; o’r corff i’r pin. Roedd y pin yn fetel wedi’i buro yn y tân, ac yr oedd hynny yn ychwanegu at y fendith. Yr un modd, cofiwn am y bwch dihangol yn y Beibl (Lefiticus 16:5-28), ac am yr ysbrydion aflan yn cael lloches yng nghyrff  Moch Gadara. (Math.8: 28-34; Marc 5: 1-20; Luc 8: 26-39.)  Daw i gof ymhellach yr hen arfer o wella defaid ar ddwylo drwy eu rhwbio â chig moch ac yna claddu’r cig moch i bydru yn y ddaear. Un amrywiad creulon ar yr arfer hwn oedd rhwbio’r defaid â malwen a gosod y falwen wedyn ar bigyn draenen i farw. Y mae un o brif arbenigwyr ym maes meddyginiaethau gwerin, Wayland D Hand (1907-86), wedi trafod y coelion hyn yn ardderchog iawn yn ei gyfrol, Magical Medicine (1980). Pennawd y bennod berthnasol yw: ‘Magical Transference of Disease’.7                                                                                                .                               

Fel y gwyddom, roedd hen, hen gred, fod dŵr yn gysegredig. Fel roedd yna dduw’r goedwig a hen arfer i gofleidio pren i ofyn am fendith y duw hwnnw (onid yw’n arferiad cyffredin hyd heddiw i bobl ddweud:‘touch wood’), felly, roedd yna dduw’r dŵr ac offeiriad ac offeiriades y ffynnon. Bu’n arfer i ddweud bod Cristnogaeth, yn arbennig yn sgîl Protestaniaeth a Diwygiadau Crefyddol y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi dinistrio llu o’r hen arferion a defodau oedd yn gysylltiedig gynt â ffynhonnau. Roedd tuedd i gondemnio’r ‘hen ofergoeliaeth’ a’i gysylltu’n aml â Phaganiaeth a Phabyddiaeth.  Y mae, bid siŵr, lawer o wir yn hynny. Ond cywirach, yn fy marn i, yw dweud mai’r hyn a ddigwyddodd, yn amlach na pheidio, oedd Cristioneiddio a sancteiddio’r coelion a’r arferion. Parhau, er enghraifft, i gysylltu’r ffynhonnau â seintiau a’r Forwyn Fair.

Mae’n wir fod ychydig ffynhonnau yng Nghymru yn  cael eu hystyried fel ffynhonnau melltithio (yr enwocaf yw Ffynnon Eilian, Llaneilian yn Rhos, sir Conwy.) Pobl a’u defodau yn defnyddio’r ffynnon i geisio dial ar eraill. Ond prin iawn yw’r ffynhonnau hyn. Cysylltu ffynnon â daioni a wneid, gan amlaf, ac â’r seintiau. Roedd y dŵr yn sanctaidd a chysegredig. Dŵr bendigaid. Nid heb reswm y galwodd Francis Jones ei gyfrol arloesol yn 1954 â’r teitl: The Holy Wells of Wales.                                                                                                                                                                                    

Oherwydd y gred fod dŵr yn gysegredig, fe ddaethpwyd hefyd i ystyried mwy a mwy o’r ffynhonnau yn ffynhonnau gofuned: ffynhonnau dymuno. Y dŵr sanctaidd yn gyfrwng i ofyn bendith a derbyn bendith. Yn gyfrwng, yr un modd, i gariadon wybod mwy am eu dyfodol.  Er pob gwrthwynebiad, ac er pob newid a fu er y Canol Oesoedd yn arferion a chredoau pobl, yr un yw ofnau a dyheadau pobl ym mhob oes: ofn afiechyd, tlodi a melltith. Ofn herio ffawd. Ofn bod ag ofn. Deisidaimonia y Groegwyr. Ond ble mae ofn, y mae hefyd ddyhead. Dyhead am iechyd, bendith, sicrwydd a llawenydd. Dyhead am wybod yr anwybod. Hiraeth am wynfyd a’r bodlonrwydd mawr: Pleroma y Groegwyr; Salaam y Dwyreinwyr a’r Arabiaid; Shalom yr Iddewon.

i’w pharhau

Nodiadau

1.       Caf gyfle eto i ddiolch i lu mawr o bersonau am lawer iawn o gymorth wrth baratoi’r ddarlith hon, ond carwn ddal ar y cyfle hwn yn awr i ddiolch yn arbennig i Eirlys Gruffydd-Evans a Howard Huws.

2.        ‘The Reminiscences and Historical Notes of Alderman W J Trounce J P, 1850 -1860’, Cardiff in the Fifties, Western Mail, Caerdydd, 1918. Gw. yn arbennig yr adran ‘Town’s Water Supply’, t.7.

3.       Am beth o hanes darparu dŵr glân i Gaerdydd a’r cyffiniau, gw., er enghraifft, yr erthyglau a’r adroddiadau a ganlyn: ‘Underground Water Circulation of Cardiff and its Neighbourhood: Report of the Research Sub-Committee’, Cardiff Naturalists’ Society. Report and Transactions, cyf. 26, rhan 2, 1893-94, tt. 95-104; J A B Williams, ‘The Water Supply’, yn: John Ballinger, gol., Cardiff Illustrated Handbook, Western Mail, Caerdydd,1896, tt.76-94; W S Boulton, ‘The Underground Water Supply of Cardiff’, Transactions of the Cardiff Naturalists’ Society, cyf. 43, 1910, tt. 32-5; F J North, ‘On a Boring for Water at Roath, Cardiff, with a Note on the Underground Structure of the Pri-Triassic Rocks of the Vicinity’, Transaction of the Cardiff Naturalists’ Society, cyf. 48, 1915, pp.36-49; William Rees, ‘Water Supply’, yn: Cardiff: A History of the City, The Corporation of the City of Cardiff, 1969, tt. 318-19.

4.       Cyhoeddwyd y ddwy gyrfol hon gan Seren, Pen-y-bont ar Ogwr. Carwn ddiolch o galon i Phil Cope am ei barodrwydd a’i garedigrwydd mawr yn rhoi imi bob cefnogaeth gyda’r lluniau.

5.        Ceir llun o Bistyll Caeau Llandaf hefyd yn un o lyfrau gwerthfawr Stewart Williams, Cardiff Yesterday, cyf. 8, 1984. Llun rhif 29.

6.       Rwy’n ddiolchgar iawn i Jon ap Dafydd, Bae Caerdydd, am fy arwain gyntaf at yr hen ffynnon a fu gynt yn Heol yr Eglwys Fair. Hefyd i Lowri Thomas a chyd aelodau staff Cyngor Dinas Caerdydd am wybodaeth bellach ynglŷn â’i hanes.

7.       Magical Medicine. The Folkoric Component of Medicine in the Folk Belief, Custom, and Ritual of the Peoples of Europe and America, Gwasg Prifysgol California, 1980, tt.17-42.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Ffynhonnau’r Gogarth

Yng nghyfarfod y Gymdeithas ar ddydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni cafwyd cyflwyniad cyflwyniad ardderchog gan Gareth Pritchard, Llandudno ar destun “Ffynhonnau’r Gogarth”. Llawer o ddiolch iddo am rannu â cynifer ohonom ni’r fath wybodaeth ddiddorol, ac i’r Cadeirydd am gadw trefn arnom: edrychwn ymlaen at Dregaron y flwyddyn nesaf!

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Chwedl Ffynnon Frynach, Sir Benfro.

Mae Gerallt o Gymru yn adrodd chwedlau ynghylch digwyddiadau rhyfeddol yn ardal Cemais, gogledd Sir Benfro. Un ynghylch bwyta llanc o’r enw Seisyllt Esgair-hir gan lu o frogaod, ac un arall ynghylch bwyta dyn gan lygod mawrion. Yna’r chwedl ganlynol:             

“Hefyd yn yr un farwniaeth, yn oes Henri’r Cyntaf, rhybuddiwyd tirfeddiannwr cefnog,

ag iddo dŷ ym mhen mwyaf gogleddol y Preselau, am dair noson yn olynol gan

freuddwydion y canfyddai, pe rhoddai ei law o dan garreg a grogai uwchben tarddell

fyrlymus gerllaw, o’r enw Ffynnon Frynach [Bernacus], y canfyddai yno dorchau aur,

felly aeth y trydydd diwrnod, ond derbyniodd, yn hytrach, anaf marwol gan wiber.”

Fe’ch rhybuddiwyd!

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Apêl at Aelodau Am Oes

Yn y gorffennol bu i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, fel sawl cymdeithas gyffelyb, gynnig “aelodaeth am oes” i unigolion am bris rhesymol (iawn). Bu hynny’n fodd codi cronfa o arian wrth gefn i’r Gymdeithas mewn ychydig amser, ar gyfer talu am gyhoeddi “Llygad y Ffynnon” a gweithgareddau eraill.

Gwariwyd yr arian yn ofalus, ond gyda phris argraffu yn cynyddu, mae arnom codi rhagor eto. Mae’r Gymdeithas, felly, yn gwahodd aelodau am oes i godi aelodaeth flynyddol hefyd, trwy’r banc, a derbyn copi electronig o “Llygad y Ffynnon” yn y fargen. Byddai hynny o gymorth mawr inni barhau i ddwyn “Llygad y Ffynnon” allan ddwywaith y flwyddyn, a chynnal a diwygio gwefan y Gymdeithas. Cysylltwch â’r Trysorydd neu’r Ysgrifennydd (manylion isod).

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Dyma Swyddogion Cymdeithas Ffynhonnau Cymru 

Swyddogion  

“Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru erbyn 11.11.2019, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

NADOLIG LLAWEN

A BLWYDDYN NEWDD DDA

IN HOLL AELODAU A THANYSGRIFWYR NI.

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

 

Home Up