Home Up

  Llygad y Ffynnon

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 46, Haf 2019

 

DIFRODI FFYNNON FAIR

Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer, fel y bu (uchod) ac fel y mae (isod).

   

 Difrodi Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer

Wedi mynd â swyddogion Jones Bros (Ruthin), contractwyr ffordd osgoi Caernarfon, i safle Ffynnon Fair fisoedd yn ôl, a dangos y ffynnon iddynt, syndod fu canfod ddechrau mis Mai fod tunelli o bridd a cherrig wedi’u gwthio ar ei phen hi. Mae dŵr y ffynnon yn awr yn llifo i’w nant blaenorol trwy beipen blastig, a’r safle’n un llanastr. Llwyddais i dynnu lluniau o’r man, er gwaethaf gwrthwynebiad rhyw Siôn-mewn-swydd o giaffar safle: ond ’does a ŵyr sut lun fydd ar y lle erbyn i’r gwaith ddarfod.

Rhoddwyd gwybod am hyn i Gyngor Gwynedd, ond yn ôl yr Adran Briffyrdd yno, mater i Lywodraeth Cymru yw’r ffordd osgoi. Ysgrifennwyd ar ran y Gymdeithas at Ken Skates AC (Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth) er mwyn protestio ynghylch y difrod, gyda chopïau at Lesley Griffiths AC, Siân Gwenllian AC, Hywel Williams AS, Y Comisiwn Henebion a Cadw. Gofalwyd hysbysu’r cyfryngau hefyd, ac o ganlyniad fe gafodd y digwyddiad – a gwrthwynebiad y Gymdeithas Ffynhonnau – gryn sylw: ond hyd yn hyn, nid yw neb wedi cynnig ceisio adfer y safle.

Er gwybodaeth, dyma gopi o’r neges a yrrwyd at Ken Skates:

Par: Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer

 

Ysgrifennaf atoch er mwyn rhoi gwybod i chi fy nheimladau ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd i Ffynnon Fair, Llanfair-is-gaer, o ganlyniad i waith adeiladu ffordd osgoi Caernarfon. Fisoedd yn ôl, ymatebais i’r ymgynghoriad ynghylch cynllun y ffordd osgoi trwy roi gwybod bod y ffynnon hon, a gofnodwyd gyntaf ym 1458, yng nghyffiniau’r gwaith arfaethedig, ac y dylid gofalu nad amherid arni. Euthum â Swyddog Cyswllt y Cyhoedd yr ymgymerwyr, Jones Bros Ruthin,  i’r safle ei hun, ac fe’i dangosais iddo. Cefais sicrwydd yr ystyrid y ffynnon wrth gynllunio’r gwaith adeiladu. 

 

Erbyn yr ail o’r mis hwn, yr oedd yn amlwg imi fod y gwaith ar y safle yn peryglu’r ffynnon: prin y gellid peidio â sylwi ar y chwydfa fawr o bridd a cherrig yn y cae cyfagos, ac at lanastr y coed diwreiddiedig. Er gwaethaf hynny, a serch bod boncyffion coed oedd wedi eu taflu o’i chwmpas, yr oedd y ffynnon yn dal i lifo’n ddirwystr; felly tybiais (yn ddigon gwirion) fod y Llywodraeth a’r contractwyr – Jones Bros a’r gweddill – wedi hidio’r wybodaeth a roddais iddynt, ac y byddai’r safle yn cael ei ddiogelu a’i dwtio wedi i’r gwaith ddarfod. 

 

Dau ddiwrnod yn ddiweddarach yr oedd y darddell wedi’i gorchuddio gan dunelli o gerrig a phridd coch, a’r unig weddill oedd mymryn o lif allan o diwb plastig wedi’i orchuddio, i bob golwg, â bag bin. Alla’i ddim mynegi i chi pa mor drist, pa mor siomedig, ac ie, pa mor ddig (os caniateir dicter cyfiawn) yr wyf o ganlyniad i’r hyn sydd wedi’i wneud. Rhoddwyd yr wybodaeth i Swyddog Cyswllt y Cyhoedd, ac am a wn i, bu iddo yntau ei rhoi i’r sawl sy’n ei gyflogi, ac ymlaen i’r Llywodraeth. Fe’i hanwybyddwyd. 

 

Teg gofyn, felly, pam yr ymgynghorwyd â’r cyhoedd o gwbl. Pa ddiben sydd i hynny, pan anwybyddir y canlyniadau? Ai fel math o ymarferiad cysylltiadau cyhoeddus yn unig? Mae’n edrych i mi fel petai’r cyfan eisoes wedi’i benderfynu, waeth beth fu barn y cyhoedd, ac mai dipyn o “addurno ffenestr” yn unig fu gyrru’r Swyddog i holi am y ffynnon. 

 

Gallaf glywed y gwadu a’r ymesgusodi wrth imi ysgrifennu’r geiriau hyn. Fe ddywedwch, debyg, y cynhaliwyd ‘arolwg’, ac y gwnaed ‘asesiad ystyrlon’, ac y bu ‘ymgysylltu ac ymgynghori trwyadl’; ac y mae llefarydd ar ran eich Llywodraeth wedi datgan ei bod ‘wedi ystyried presenoldeb Ffynnon Fair trwy “bob cam o'r broses” ddatblygu’.

 

Wir? Beth, felly, fu canlyniad eich ‘ystyried’? Penderfynu y dylid gollwng ar Ffynnon Fair hynny o fudreddi ag y gallai tarw dur ei wthio. Ni fu eich ‘ystyried’ yn ddim ond  ymarferiad ticio blychau. Yr oedd y ffynnon hon yn hynafol, yn sanctaidd, yn rhan fechan iawn ond gwerthfawr o’n treftadaeth ni fel cenedl: ond y mae’n amlwg nad yw geiriau fel ‘hynafol’, ‘sanctaidd’ a ‘treftadaeth’ yng ngeirfa’r Llywodraeth, nac yn golygu dim i bwy bynnag arall benderfynodd gyflawni’r weithred ddrwg hon. Ni allwch amgyffred y fath bethau, mae’n amlwg. 

 

Pe bai’n ddinistr oherwydd anwybodaeth neu dwpdra, gellid ei hanner ei esgusodi: ond yr oeddech yn gwybod, ac nid ydych yn dwp. Y mae hyn wedi digwydd oherwydd difaterwch ymwybodol, oeraidd, sy’n fwy na fandaliaeth ddifeddwl: y mae’n fwriadol wrth-hynafol, gwrth-ysbrydol, gwrth-ddiwylliannol, yn yr un ysbryd ag y chwalwyd cymuned Epynt ac y boddwyd Capel Celyn. Dyna ansawdd ein Llywodraeth. 

 

Dwi’n sicr y dywed rhywun y gwnaed ymchwil trwyadl, ac y cyflogwyd archeolegydd i archwilio’r safle o flaen llaw, ac na chanfu yntau ddim yno a deilyngai ei ddiogelu. Wrth gwrs ni chanfu. Y mae a wnelo archeoleg â gwrthrychau materol, a hyd y gwn i ni fu erioed  unrhyw olion materol yno i’w canfod. Ar un adeg, bu dŵr yn llifo o agen naturiol. Enw’r allt uwchlaw iddi oedd (ac yw) Allt Ffynnon Fair. I’r gorllewin o’r ffynnon ceir eglwys Llanfair-is-gaer, ac eithaf cyffredin yw bod ffynnon sanctaidd yn ymyl eglwys ac (fel yn yr achos hwn) ar ffin y plwyf. Pan adeiladwyd ffordd osgoi’r Felinheli, caewyd y ffynnon o dan y lôn (Lôn Ffynnon Fair) sy’n arwain o gylchfan Griffith’s Crossing i fyny i gyfeiriad y B4366, ac yr oeddwn i fy hun yn tybio, ar un adeg, y collwyd y ffynnon yn llwyr yr adeg honno: ond na, gofalwyd y gallai’r dŵr barhau i lifo allan. Nid olion materol oedd yn diffinio presenoldeb ac arwyddocâd y ffynnon, ond traddodiad llafar, sydd yr un mor bwysig yng nghyfanrwydd ein treftadaeth ni. Meddyliwch am y Mabinogi, fel y maent wedi’u lleoli’n fanwl yn nhirwedd Cymru. Ni all archeolegydd ddweud fawr ddim wrthych am hynny. 

 

Yn wir, nid yw o wahaniaeth mawr gan archeolegwyr a yw safleoedd yn cael eu dinistrio ai peidio. Mae gwaith archeolegwyr, y cloddio a’r datgymalu, yn aml yn dinistrio’r union beth y maent yn ymchwilio iddo: ond cyn belled a bo ganddynt gofnod cywir o’r manylion a’r mesuriadau, maent yn fodlon. Mae’r gwrthrych yn parhau i ‘fodoli’, fel petai, yng nghrombil cyfrifiadur. Nid peth felly yw traddodiad llafar, yn enwedig yng Nghymru. Yma mae’n rhaid angori hanes wrth lecyn, wrth fan penodol, er mwyn i’r hanesyddol fod ag arwyddocâd ar gyfer y presennol a’r dyfodol. Yr wyf fi’n gweld Ffynnon Fair yn dystiolaeth i barch tuag at y Forwyn Fair, a thuag at ffynonellau dŵr glân, dibynadwy eu llif. Y mae Jones Bros, neu Lywodraeth Cymru, neu bwy bynnag arall fu’n gyfrifol am yr anfadwaith, yn gweld twll yn y ddaear â dŵr yn llifo ohoni, dim gwahanol i gannoedd o rai tebyg, niwsans yn ffordd y gwaith mewn llaw: dinistrier hi, rhag oedi dim ar gyflawni’r cytundeb. 

 

Mae’n debyg gennyf y bu i’r ymarferiad ticio blychau gynnwys ymgynghori â Cadw, ac efallai’r Comisiwn Henebion, hefyd. Gellid tybio, yn sicr, y byddai cyrff cadwraethol o’r fath ym mlaen y gad wrth ddiogelu henebion: ond nage, nid yn achos ffynhonnau sanctaidd. Am nad oes yno olion materol, nid yw’r cyrff hyn, hyd y gellir gweld, ag unrhyw ddiddordeb mewn pethau o’r fath. Er mwyn i safle gael ei gofrestru’n heneb, a chael ei ddiogelu gan y gyfraith, rhaid iddo fodloni meini prawf niferus a llym: ac nid yw traddodiad llafar o fawr werth yn y broses honno. 

 

Dylai cyrff cenedlaethol fel hyn fod wedi cynnal arolwg o ffynhonnau sanctaidd ein gwlad, eu cofnodi a’u diogelu, ymhell cyn hyn: nhw yw’r unig gyrff sydd â’r gallu i wneud hynny. Ond ni wnânt, gan bledio ‘diffyg adnoddau’: sy’n ffordd  o ddatgan nad yw ffynhonnau sanctaidd ar restr eu blaenoriaethau. Mentrwn ddweud, pe bai dichon i Ffynnon Fair ddenu ymwelwyr, neu pe bai Edward I wedi codi llathen o wal o’i blaen, y byddai swyddogion Cadw a’r Comisiwn Henebion oll yno am y gorau, ac yn fuan iawn yn canfod yr adnoddau angenrheidiol i’w diogelu. Y mae nad ydynt ar ei chyfyl, ac nad oes ganddynt ddim i’w ddweud yn ei chylch, yn rhoi lle i rywun amau diben y cyrff hyn, a holi: ‘Pa beth yr aethoch allan i’w achub?’

 

A ellir achub dim o Ffynnon Fair? Wn i ddim. Ar hyn o bryd nid oes yno ond pibell blastig hyll yn gollwng ychydig o’r llif a fu yno cyn y gwaith diweddar: mae’r gweddill, debyg yn llifo i’r ddaear rhywle o dan y llanastr. Y lleiaf y gellid ei wneud yw datgloddio yn ôl at y tarddiad fel yr oedd cyn y gwaith diweddar, a gosod, os oes modd, bibell gadarn i gludo’r holl lif allan i fan lle gellid ei weld unwaith yn rhagor. Gallai hynny fod yn gyfle i greu tarddle newydd a theilyngach ohoni, fel y gwnaed yn ddiweddar yn Ffynnon Wyddelan, Dolwyddelan, a Ffynnon Fyw, Mynytho: ond o weld eich gwaith hyd yn hyn, amheuaf a oes gennych chi, yr awdurdodau, unrhyw awydd gwneud dim o’r fath. ’Does dim cydymdeimlad lle ni fo cydwybod. 

 

Fy mwriad wrth ysgrifennu atoch yw rhoi gwybod i chi, y gŵr sy’n gyfrifol am drafnidiaeth yng Nghymru, fy marn ynghylch yr hyn sydd wedi’i wneud, yr hyn y bu i chi ran ynddo. Gallwch faddau imi dybio na ddigwydd dim o ganlyniad i hynny, ond os daw i’ch meddwl y gellid ceisio adfer y ffynnon, croeso i chi gysylltu â mi i’r perwyl hwnnw. Yn unig, da chi, peidiwch ag ysgrifennu’n ôl ataf gan geisio cyfiawnhau’r difrodi. 

 

Yn gywir, 

Howard Huws

Ysgrifennydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru”

Pe hoffech ychwanegu eich llais at y brotest, gan ofyn am adfer y safle, croeso i chi gysylltu â’r canlynol:

 

Gohebiaeth.Lesley.Griffiths@llyw.cymru

Gohebiaeth.Sian.Gwenllian@llyw.cymru

Gohebiaeth.Ken.Skates@llyw.cymru

hywel.williams.mp@parliament.uk

nmr.wales@rcahmw.gov.uk

cadw@gov.wales

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Ffynnon Ofuned Fwyaf Gogleddol Ynysoedd Prydain?

Unst yw ynys gyfannedd fwyaf gogleddol Ynysoedd Prydain, ac y mae’n gartref i tua 630 o bobl. Yno ceir tarddell o’r enw Helia Brune neu Yellabrun, sydd (yn ôl y tarddwr geiriau Jakob Jakobsen) yn cynnwys yr elfennau hen Lychlyneg “brunnr” (tarddell, ffynnon, man lle codir dŵr neu lle mae gwartheg yn yfed) a “hela-“ neu “jela-” (iachusol).1 Cyfeirnod Arolwg Ordnans y ffynnon yw HP 594046.

 

Ffynnon Yellabrun, Unst, Ynysoedd Shetland

Nid Jakobsen oedd y cyntaf i sylwi ar y ffynnon. Yn ei lyfr “A description of the Shetland Islands, comprising an account of their geology, scenery, antiquities, and superstitions”, mae Samuel Hibbert yn datgan:

                “Ymysg y bryniau sarff-faen y bu imi fynd i drafferth fawr wrth eu harchwilio

  â thrafferth fawr er mwyn canfod cromad haearn, mae nant bur sy’n enwog

  ers talwm am ei rhinweddau iachaol tybiedig. Hyd yn ddiweddar arferid

  cerdded at ei tharddell, a thaflu ar lecyn cyfagos tair carreg. Mae’r arfer hwn

  cyn hyned, fel y codwyd pentwr sylweddol gan yr offrymau hyn; ond gan y bu

  dylanwad duw’r dyfroedd ar encil ers hir amser, cydnabyddir yn llawer llai aml

  yn awr. Arferol, hefyd, wedi aberthu i’r duw, fu yfed dŵr y darddell, a sicrhâi

  iechyd i’r llowciwr selog. Felly cafodd y nant yr enw Yelaburn neu Hielaburn,

  sef Nant Iechyd.”2

 

Nid dyna’r unig draddodiad ynghylch y ffynnon, oherwydd ar lafar gwlad mae hanes y cyflawnwyd llofruddiaeth yno. Dyma a dywedodd Alan Fraser o Crosbister ym 1983:

“Mae hen ffynnon yno … Yellabrun, mae o’n un pentwr o gerrig rŵan, a’r dyb oedd yr aeth rhywun heibio, a gafodd … beth wnaeth o … neu rywbeth? A’r dyb oedd y llofruddiwyd ef yno. Ac yn ôl pob tebyg, ceisiasant brofi nad oedd yn gyfrifol am ei weithredoedd y lladdwyd ef o’u herwydd, a dywedasant mai’r prawf o hynny fyddai llif o ddŵr, dŵr ysbrydol, yn codi lle y dienyddiwyd ef, yn brawf nad ef oedd y sawl a wnaeth ef [y camwedd]. A dyna pam Yellabrun, ac yr oeddent i … a thaflent ddarn arian neu rywbeth, gofuned ffynnon, a gwnaent dair gofuned wrth iddynt fynd heibio i hon. A dyna sut y crynhoir y pentwr hwn o gerrig gan bobl yn mynd heibio ac yn taflu rhywbeth i mewn, carreg neu rywbeth, ond fel arfer taflent arian neu geiniogau i mewn i’r ffynnon. Mae Yellabrun yn ffynnon ofuned, welwch chi.”3

Cydnabyddir cymorth Eileen Brooke-Freeman, Swyddog Prosiect (Enwau Lleoedd), Shetland Amenity Trust, gyda chanfod yr wybodaeth hon.

1. Jakobsen, J. The Place-names of Shetland. London: David Nutt (A. G. Berry), 1936, t. 31.

2. Hibbert, S. A description of the Shetland Islands, comprising an account of their geology, scenery, antiquities, and superstitions. Edinburgh: Archibald Constable & Co., 1822, t. 409.

3. Casgliad Llafar Archifau Shetland SA 3/1/49, 1983.

 

         Christopher Naish (cyfieithwyd gan H. Huws)

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’: 

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

Clôdd Fenton ei adroddiad 1807 â disgrifiad o’r gell yn y capel, gan grybwyll dim ond arfer gwneud addunedau tra wedi ymwasgu iddi. Yn ei adroddiad nesaf, a ysgrifennwyd yn fuan wedyn, mae’n amlwg iddo gyrchu’r capel o gyfeiriad y  tir, gan y tro hwn y dechreuodd â disgrifiad maith o’r “gell wyrthiol” a fedrai guddio “sant a ymlidiwyd yn agos gan ei erlynwyr paganaidd” cyn symud at y ffynnon yn y capel, ac yna at Saint Govan’s Well ei hun.

“Ar ochr ogleddol y capel ar y llawr mae ceudod bychan, yn arddangos peth ôl gwlybaniaeth megis diferiad o ryw darddell ym mhen y clogwyn, a chan hidlo trwyddo ffurfia waddodiad mwdlyd yno, a ddefnyddir ac y bernir ei fod yn effeithiol tu hwnt ar gyfer anhwylderau’r llygaid, er y bernir yn graff fod y Sibyl hynafol [sef ei ffordd ysmala ef o gyfeirio at “warchodes” y ffynnon, yr hon y mae yntau’n amau ei bod yn gorliwio rhinweddau’r ffynnon] sy’n goruchwylio’r dyfroedd gwyrthiol honedig, trwy ei halcemeg neilltuol hi ei hun, yn cyfrannu fwyaf at eu rhinweddau. Gan adael y capel, parhaf i ddisgyn sawl gris carreg hyd nes y cyrhaeddaf y ffynnon sancteiddiedig, lle mae cleifion crupul yn golchi eu haelodau, llawer o ba rai a ddeuant o rannau mwyaf anghysbell perfeddwlad y dywysogaeth i geisio esmwythâd yma, ac a adawant eu baglau ar ôl yn offrwm addunedol ar yr allor, megis a welais wedi’u gosod yno pan ymwelais ddiwethaf â’r feudwyfa hon.”18 

Pererinion afiach yn gobeithio cael eu hiacháu

Ar fordaith o amgylch Prydain Fawr ym 1813, ymwelodd dau ddyn (Richard Ayton a William Daniell) â’r capel, gan ddisgrifio’r adeilad, y gell a’r ffynnon yn fanwl iawn. Aeth eu tywysydd â hwy i mewn i’r capel i ddangos iddynt yr arddangosfa faglau:

“Aeth ein tywysydd, yn awyddus i weld llwyr gadarnhau ein ffydd, â ni i’r tu mewn, lle gwelsom, yn crogi o’r muriau, sawl bagl, a gynaliasant y crupul a’r crediniol at y ffynnon, ac a grogwyd yma yn dystiolaeth i’w hiachâd, ac yn offrymau diolch i’w gwaredwr graslon.”

Yna aethant ymlaen drwy’r capel a chyfarfuant â dau blentyn a ddaethant i’r ffynnon er mwyn eu hiacháu. Mae’n werth dyfynnu adroddiad Ayton yn llawn, gan y portreada yn ddiffuant gyfyngder enbyd cleifion 200 mlynedd yn ôl pan nid oedd gofal meddygol dibynadwy:

“Mae ychydig risiau’n arwain o’r capel i lawr at y ffynnon, ac wrth inni ddisgyn cyfarfuom â geneth druenus, guriedig a oedd yn straffaglu i fyny gyda’r drafferth a’r boen fwyaf, ac wedi’u chrymu tan bwysau piser mawr o ddŵr, yr hwn y dywedodd hi wrthym ei bod hi am ei yfed. Bu’n wael ei hiechyd am flynyddoedd lawer, a chynt bu iddi yfed y dŵr yn rheolaidd iawn yn ystod deuddeng mis, ond gan fynd yn waeth, yr oedd wedi ymgynghori â meddyg, a ddatganodd, wedi prawf maith, na allai liniaru dim arni, a’i bod yn awr wedi dychwelyd eto, megis i’w noddfa olaf, at Saint Gowan. Roedd methiant y meddyg wedi deffro ynddi ei holl hyder yn y sant, ac nid oedd ond yn ofni y gallai fod wedi digio wrth ei diffyg amynedd blaenorol hi. Wrth inni esgyn o’r ffynnon, gwelsom addunedwr arall nad oeddem wedi sylwi arno o’r blaen, bachgen tlawd yn eistedd ar graig, a’i lygaid yn syllu’n ddiwyro ac yn dduwiol ar y capel. Roedd yntau hefyd yn dioddef gan glefyd, a hir y bu’n yfed o’r dŵr swyn heb unrhyw les i’w iechyd, a heb unrhyw niwed i’w ffydd: roedd yn rhy wan i weithio, a threuliai llawer o’i amser ymysg y creigiau unig hyn, yn ei ddiddanu’i hun â’i bensel, nas hyfforddwyd ef erioed sut i’w ddefnyddio, ond a’i galluogai, rhyw ddiwrnod, fe obeithiai, i wneud llun cywir o’r grisiau, y capel a’r ffynnon. Ymddangosai’r trueiniaid hyn yn gwbl anwybodus o bob manylyn ynghylch genedigaeth a hanes Saint Gowan, ac fe’u cyflwynasant eu hunain i’w ofal heb ymdrafferthu ynghylch ei gymwysterau. Nid yw f’ymholiadau innau ynghylch y pwnc hwn (a gellir tybio bod fy nymuniadau yn y mur [cyfeiria at wneud dymuniad tra wedi ymwasgu i’r gell yn y graig] wedi peri imi ymholi â pheth taerineb,) wedi arwain at unrhyw gasgliadau boddhaol. Ymddengys fod amheuaeth a oedd yn sant o waed coch cyfan a fewnforiwyd o Iwerddon ym more Cristnogaeth, ynteu’n Sir Gawaine, nai’r Brenin Arthur, ac yn batrwm o wrhydri a chwrteisi, wedi’i ganoneiddio ar ôl ei farwolaeth trwy gamgymeriad ar ran y werin. Yn y naill achos a’r llall, ni wyddys ddim am ei anturiaethau mewn cysylltiad â’r man garw hwn, ac efallai ni chaniateir inni fyth wybod a fu fyw neu bu farw yma.”19

Dengys sylwadau Ayton fod cwlt personol y sant yn parhau i ffynnu hyd yn oed cyn ddiweddared â dechrau’r 19eg ganrif. Ni wyddai’r ferch a’r bachgen claf pwy oedd y sant, ond roedd ganddynt ffydd lwyr yn ei allu i’w hiacháu.

18 Richard Fenton, A Historical Tour Through Pembrokeshire (London, 1811), 414-16

19 Richard Ayton, A Voyage Round Great Britain (London, 1814), 91-2

Janet Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)                                                                         (i’w pharhau)

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Cofiwch ddod i’r cyfarfodydd pwysig canlynol!

Cyfarfod Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst

Pnawn Mercher y 7fed o Awst 2019, 1 o’r gloch

Gareth Pritchard, Llandudno: “Ffynhonnau’r Gogarth”

Pabell y Cymdeithasau 1.

 

Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Bore Sadwrn y 13eg o Orffennaf 2019, am 10.30 o’r gloch

Cwrdd yn Festri Capel Bethesda, Stryd Newydd, Yr Wyddgrug CH7 1NZ.

Paned ar gael, ond dewch â chinio gyda chwi.

Yna ymweliad â thair ffynnon:

Ffynnon Degla, Llandegla

Ffynnon Sara, Derwen

Ffynnon Sulien, Corwen

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Hen Ffynnon Cwm-y-glo.

Ymddangososdd y gerdd ganlynol, “Hen Ffynnon y Cwm” yn un o rifynnau “Eco’r Wyddfa” eleni. Yr awdur yw’r Parch. Collwyn Morgan, a symudodd o Gwm-y-glo yn Arfon i fod yn Rheithor Penmorfa a Dolbenmaen ym 1899. Mae yng Nghwm-y-glo nifer helaeth o ffynhonnau a tharddellau, felly ni ellir dweud, ar hyn o bryd, at ba un yn union y cyfeiria’r gerdd hon, os at unrhyw un neilltuol o gwbl. Rydym yn ddiolchgar i Dafydd Whiteside Thomas am ailgyhoeddi’r gerdd, ac i Geraint Jones, Trefor, am dynnu ein sylw ati. – gol.

 

Hen ffynnon loyw Cwmyglo,                                Mae hon yn wyrth yn llaw ein Duw

O fron y llechwedd dardd,                                   I estyn dŵr i’r dre’,

A’i ffrydiau clir ar hyd y gro                                Meddyges enwog yw i’r byw

Bob amser arnom chwardd;                                I iachus wella’r lle;

Mae’n fendith uwch darfelydd dyn,                      Drwy rydwelïau’n glir a glân

I bawb o bobl y lle,                                              Y daw i’n drysau ni;

Cyfrannu mae yn helaeth, un                               A’r holl deuluoedd fawr a mân,

O roddion pennaf ne’.                                         A’u llon groesawant hi.

 

Croesawa hon y baban bach                               Yng nghanol tymor haf-ddydd poeth

I fyd y dagrau i fyw;                                           Mae ei hadfywiol rin

A than ei dyfroedd peraidd iach                          Yn nerthu’r gweithiwr hanner noeth

Cyflwynir ef i Dduw;                                           I oddef gwres yr hin;

Gwas’naetha iddo’n llon o hyd,                          Mae’n disychedu pawb o’r bron,

Mewn adfyd, poen a hedd,                                 Cyfoethog a thylawd,

Drwy ddydd priodas addas fyd,                           A’r teithiwr blin wrth basio hon

Hyd ddydd i’w roi mewn bedd.                           A’i drachtia yn ei rawd.

 

Bu llawer o ieuenctid llon                                   Pan dderfydd ffrydiau bryniau ban,

A’u bron yn llawn o dân,                                    Ym mhoethder hir-ddydd haf,

Yn chwarae gynt o amgylch hon                         A’r holl ffynhonnau gylch y fan,

Gan seinio melys gân;                                         Bydd hi yn ffrydio’n braf;

Ond fel darfyddai’r bwrlwm dŵr                         A phan bo’r ddaear hygar hon

Cyn cyrraedd min y lan,                                      O’r bron gan rew yng nghlo

Aeth rhai’n cyn cyrraedd oedran gŵr,                Yn rhydd y rheda’i dyfroedd llon

I orwedd ger y Llan.                                           I bawb o Gwmyglo.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Ffynnon Helen, Caernarfon.

Nid oes dim dirgelwch ynghylch lleoliad Ffynnon Helen yng Nghaernarfon. Y mae i’w gweld ar fap Arolwg Ordnans Môn 1:10,560 1890-91 fel “St Helen’s Well” yng ngardd gefn tŷ sylweddol o’r enw “Bryn Helen” ar Lôn Parc, yn union gyferbyn â phen stryd Henwaliau. Adeiladwyd y tŷ cyn 1834 (pryd y mae’n ymddangos ar fap o’r dref), yn gartref i William Mathias Preece, debyg. Rhanwyd y tŷ wedi 1890 ond cyn 1918, gyda rhan ddeheuol yr adeilad rhestredig Gradd II bellach yn breswylfa o’r enw “Llwyn Helen”. Yng ngardd gefn Llwyn Helen mae’r ffynnon: y cyfeirnod grid yw SH48215 62166. Ni ddylid ceisio ymweld â’r ffynnon heb ganiatâd y preswylwyr.

Y cyntaf, hyd y gwn i, i wneud cofnod ysgrifenedig o’r ffynnon fu’r naturiaethwr John Ray ym 1662, adeg un o’i deithiau. Dywed:

                “Near Carnarvon remain still some Ruins of an old Town, which the Welch call Caer-Segon,

                 i.e. the Segontium of the Ancients: There is a little Chapel, with a Well close by it, dedicated

                 both to St. Elyn, as is also the River fast by,  called the Saint’s River; these are about a

                 Quarter of a Mile South of the Town.”1

 

Gan ysgrifennu rhywbryd cyn ei farwolaeth ym 1723, dywed Henry Rowlands yn ei Mona Antiqua Restaurata fod capel Helen i’w weld yng Nghaer Segont yn ei oes ef (“there to this day”).2 Wrth gofnodi ei deithiau yntau yng ngogledd Cymru rhwng 1773 a 1778, dywed Thomas Pennant fod ffynnon, “near the fort”, yn dwyn enw’r dywysoges, “and some very slight remains of ruins are to be seen adjacent. Tradition says, the chapel stood on that spot.”3

Yn ôl W. H. Jones (Old Karnarvon, 1889) nid oedd dim yn weddill o’r capel erbyn yr ysgrifennai ef, ac ni chynhwyswyd Capel Helen yn rhestr yr Esgob Meyrick o eglwys a chapeli Esgobaeth Bangor ym 1561.4 Yn ôl Harold Hughes a Herbert North, yn ysgrifennu ym 1924, yr oedd yn y ffynnon yr adeg honno ddigonedd o ddŵr, ac arferai pobl gyrchu’r ffynnon oherwydd ei dŵr iachusol, gan fynd ag ef ymaith mewn poteli.5 Honna erthygl yn y “Journal of Antiquities” y canfuwyd darnau arian Rhufeinig yng nghyffiniau’r ffynnon: ond ni rydd fanylion, felly ni ellir dyfalu a yw’r fath ddarnau ond yn rhan o hap-wasgariad daearyddol yr arian mân Rhufeinig a ollyngwyd yng nghymdogaeth Segontium, ynteu a ganfuwyd y fath grynodeb o ddarnau yn y man neilltuol hwn ag i beri amau bod â wnelo eu presenoldeb yno â’r ffynnon yn benodol.6

Adroddodd Hughes a North fod y tir o amgylch y ffynnon wedi’i godi llawer, a bod grisiau “bellach” yn arwain i lawr at ddyfrgist lechfaen. Pan ymwelais â’r man fis Ionawr eleni cefais y ffynnon mewn gelli bach o goed conwydd Leylandii (neu’u cyffelyb), ond roedd y grisiau yno o hyd, yn arwain tua phum troedfedd i lawr at seston a luniwyd, i bob golwg, o lechfaen. Y mae hwnnw’n mesur tua phum troedfedd sgwâr, ond ni phrofais pa mor ddwfn oedd y dŵr ynddo. Mae’r dŵr yn llonydd, gyda dail, brigau, a chasgliad helaeth iawn o beli plastig colledig yn nofio ynddo; ond o glustfeinio, gellir clywed dŵr yn gollwng rhywle gerllaw. Mae gwaith cerrig (tan dywarchen) yn do ar tua hanner y seston, gyda cholofn bregus yr olwg yn ei gynnal rhag mynd â’i ben iddo.

Cymwynas â’r ffynnon fyddai ei chlirio a’i glanhau, ond go gyfyng yw’r gofod yno ar gyfer cyflawni’r gwaith. Y mae, o leiaf, yn bodoli o hyd, ac nid oes golwg ei bod tan fygythiad: hir y parhao felly.

Mae’r chwedlau Cymreig yn cyfeirio at dair gwahanol Helen. Yn gyntaf, Helen o Gaerdroea (“Elen Fannawg”). Yn ail, y Santes Helen, gwraig yr Ymherawdr Constantiws I a mam yr Ymerhawdr Cystennin. Ganed Cystennin yn Niš (yn ne Serbia heddiw), ond erbyn tua’r flwyddyn 700 yr oedd chwedl ar led y’i ganed ef ym Mhrydain.7 Erbyn hanner cyntaf y ddeuddegfed ganrif credid bod Helen yn ferch i Coel o Gaercolun, ac arweiniodd hyn, ynghyd â’r chwedl ynghylch ei rhan allweddol hi yn ailddarganfyddiad y Groes Sanctaidd, at gysegru llawer i eglwys yn Lloegr yn ei henw hi.8

Yn drydedd, Elen ferch Eudaf, gwraig chwedlonnol Macsen Wledig. Y ddogfen hynaf i gysylltu unrhyw Elen neu Helen â Chernarfon yw “Breuddwyd Macsen Wledig”, a ysgrifenwyd yn y ffurf sydd ar glawr heddiw tua diwedd y 12fed ganrif, ac efallai cyn hwyred â thua 1215-17, wrth i Lywelyn Fawr geisio esbonio a chyfiawnhau ymlediad ei rym tros Gymru gyfan trwy bwysleisio parhad y cysylltiad rhwng y Cymry a’r Rhufeiniaid.9 Edrydd y chwedl sut y canfu Macsen Wledig ei wraig Elen brydferth yn “Aber Seint”, a oedd, wrth gwrs, yng nghraidd teyrnas Llywelyn, Gwynedd.10

Bu cryn orgyffwrdd rhwng y naill Helen a’r llall yn yr hen chwedlau a chroniclau, felly efallai y gellid disgwyl y ceid capel wedi’i gysegru yn enw’r Santes Helen (a ffynnon sanctaidd gysylltiedig) yng nghyffiniau’r hen gaer Rufeinig: ond pwy a’i sefydlodd, a phaham? Prin yw’r enghreifftiau o gysegriadau cyffelyb yng Nghymru. Ceir Llanelen yng Ngwent, a cheid un arall yn Llanrhidian yng Ngŵyr. Ceir Tref Elen (Bletherston) yn Sir Benfro, a ffynnon o’r enw “Elen’s Well” yn Llanhuadain, yn yr un sir. Yn ôl Stent Caernarfon (1352) ceid trefgordd o’r enw “Lanelen” a thir a ddelid trwy “Sca Elena” (y Santes Elena) yng nghwmwd Twrcelyn ym Môn.11 At ei gilydd, gellir gweld bod y cysegriadau yn tueddu i fod yn y rhannau hynny o Gymru a oedd yn fwy agored i ddylanwadau Seisnig: felly tybed ai dyna sy’n gyfrifol am y Capel Helen a’r Ffynnon Helen yng Nghaernarfon, hefyd?  

Yr oedd Edward I mor ymwybodol â Llywelyn Fawr o arwyddocad a grym dilysol enw’r Ymerodraeth Rufeinig, ac o bwysigrwydd Caernarfon yn y cyswllt hwnnw. Parodd ailgladdu yno gorff newydd-ganfyddedig tywysog mawr, “tad yr ymherawdr bonheddig Cystennin”, ac aeth ati’n fwriadol i geisio ailgreu gogoniant Rhufain yno, hyd at ddynwared ffurf muriau Caergystennin, a gosod eryrod ymerodraethol ar binaclau tŵr uchaf y castell, er mwyn pwysleisio’n symbolaidd ei hawl ef i’w gydnabod yn frenin Gwynedd, olynydd cyfreithlon a grymus Macsen a’r Rhufeiniad.12 Buasai iddo bwysleisio’r cysylltiad Rhufeinig (a chael ei weld yn anrhydeddu santes frenhinol) trwy sefydlu capel yn enw’r Santes Helen yno, neu newid cysegriad blaenorol i’w henw hi, yn gwbl gyson â hynny.  

1. Derham, J. Select Remains of the Learned John Ray… . London: George Scott, 1760, t. 228.

2. Rowlands, H. Mona Antiqua Restaurata. Ail argraffiad. London: J. Knox, 1766, t. 165.

3. Pennant, Thomas. The Journey to Snowdon (ail gyfrol Tours in Wales). London: Henry Hughes, 1781, t. 222.

4. Jones, W. H. Old Karnarvon. Caernarvon: H. Humphreys, (1889), tt. 163-164.

5. Hughes, H., a North, H. The Old Churches of Snowdonia. Bangor: Jarvis & Foster, 1924, tt. 236-237.

6. https://thejournalofantiquities.com/2016/01/29/st-helens-holy-well-caernarfon-gwynedd-wales/ dyddiedig 7.11.2018. Cynhwysodd awdur (neu awduron) yr Historia Brittonum yn y 9fed ganrif chwedl i’r perwyl y claddwyd Constantinus, mab Cystennin yng Nghaer Seint, ac iddo “hau tri hedyn, aur, arian ac efydd, ar balmant y ddinas honno, fel na fyddai i unrhyw ddyn fyw’n dlawd yno.”

Cyfeiriad, debyg, at y darnau arian Rhufeinig a ganfyddid yno. Gw. Roberts, B. F. Breudwyt Macsen Wledig. Dublin: Dublin Institute for Advanced Studies, 2005, tt. lxvii-lxviii.

7. Palliser, D. M. Medieval York: 600 – 1540. Oxford: OUP, 2014, t. 20.

8. Forester, T. (gol.) The Chronicle of Henry of Huntingdon. London: Henry G. Bohn, 1853, tt. 28-29.

9. Roberts, B. F., op. cit., t. lxxxv.

10. ibid., t. 6.

11. Baring-Gould, S., a Fisher, J. Lives of the British Saints. Felinfach: Llanerch Publishers, 2000,

Rhan 6, t. 259.

12. Roberts, B. F., op. cit., t. lxviii.

                                                                                                                                                                         Howard Huws.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Cofiwch ddod i’r cyfarfodydd pwysig canlynol!

Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Bore Sadwrn y 13eg o Orffennaf 2019, am 10.30 o’r gloch

Cwrdd yn Festri Capel Bethesda, Stryd Newydd,

Yr Wyddgrug CH7 1NZ.

Paned ar gael, ond dewch â chinio gyda chwi.

Yna ymweliad â thair ffynnon:

Ffynnon Degla, Llandegla

Ffynnon Sara, Derwen

Ffynnon Sulien, Corwen

O dan arweiniad Eirlys Gruffydd-Evans

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Cyfarfod Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst

Pnawn Mercher y 7fed o Awst 2019, 1 o’r gloch

Gareth Pritchard, Llandudno: “Ffynhonnau’r Gogarth”

Pabell y Cymdeithasau 1.

 

Croeso cynnes iawn i’r ddau gyfarfod.

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Dyma Swyddogion Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

“Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru erbyn 11.11.2019, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 Home Up