Home Up

Llygad y Ffynnon

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 45, Nadolig 2018

Anrhydeddu Thelma a Barry Webb.

 

O’r chwith i’r dde: Robin Gwyndaf (Llywydd Anrhydeddus CFfC); Barry Webb; Thelma Webb; Eirlys Gruffydd-Evans (Cadeirydd CFfC)

    Bu cyfarfod Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni’n achlysur anrhydeddu Barry a Thelma Webb gennym. Mae’r Webbiaid (o Lanhiledd ger Abertyleri ym Mlaenau Gwent) wedi treulio rhagor na 50 mlynedd yn ymchwilio i ffynhonnau Cymru.

   Maent wedi ymweld â phob rhan o Gymru, gan wneud cofnodion manwl o enwau, lleoliadau, hanesion a thraddodiadau, gan ddefnyddio ffynonellau llafar, ysgrifenedig a phrintiedig. Ar yr un perwyl bu iddynt fentro i rannau eraill o’r ynysoedd hyn hefyd, gan gynnwys Iwerddon, lle bu ond y dim i Barry suddo i fignen. “Roeddwn i’n meddwl”, meddai, “mai fi fyddai’r ‘corff cors’ nesaf!”

   Ffrwyth eu hymroddiad yw 20 ffeil drwchus o wybodaeth a thua thair mil o gardiau mynegai. Cyflwynwyd yr archif werthfawr hon i Amgueddfa Werin Cymru (Sain Ffagan) yn 2016: roedd yn ddigon i lenwi cist cerbyd.  

   Anrhydeddwyd y Webbiaid gennym oherwydd iddynt greu, diogelu a rhannu’r fath drysor: ac yn arwydd o’n parch a’n gwerthfawrogiad, comisiynodd Robin Gwyndaf y ceinlythrennwr Tegwyn Jones o Bow Street, i lunio teyrnged hardd, wedi’i fframio gan Anthony Burrell, Oriel y Bont, Aberystwyth. Cyflwynwyd hon iddynt gan ein Cadeirydd, Eirlys Gruffydd-Evans. Diolch yn fawr i bawb fu â rhan yn yr achlysur hyfryd hwn, ac yn fwyaf oll, i’r Webbiaid am eu gwaith dyfal. Hir oes iddynt!

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

   

FFYNHONNAU GUMFRESTON

 

   Pentref  yn agos i dref Dinbych y Pysgod yw Gumfreston. Yno mae eglwys hynafol a thair ffynnon  yn y fynwent islaw’r eglwys. Gellir dod o hyd i’r eglwys drwy droi i lawr o’r ffordd fawr a heibio i westy. Mae arwydd yn eich cyfeirio at yr eglwys a’r ffynhonnau. Mae’n bosib mynd â char at yr eglwys ac mae digon o le i droi’r cerbyd os bydd y maes parcio bach yn wag!

   Wrth y glwyd haearan i’r fynwent gellir gweld yr eglwys a gysegrwyd yn enw Lawrens Sant ond sydd ar safle llan Celtaidd lle’r ymsefydlodd sant o’r chweched ganrif y collwyd ei enw yn niwloedd amser. Y rhan hynaf o’r eglwys yw’r porth, ac mae’n debyg mai dyna safle cell y sant. Pan ddaeth y Normaniaid codwyd tŵr uchel ac adeiladwyd corff yr eglwys. Mae iddi bensaernïaeth arbennig, gydag ymdeimlad o gyfnod arall, a dull gwahanol o addoli, yn aros oddi fewn iddi o hyd.

   I’r de o’r eglwys mae llwybr o gerrig yn arwain i lawr at y ffynhonnau. Heb amheuaeth mae’r fangre yn un oedd yn gysegerdig i’r hen dduwiau Celtaidd cyn dyfod Cristnogaeth. Byddai’r bobl gyntaf a ddaeth i fyw i ddyffryn Rhydeg yn gwybod am rin y ffynhonnau. Yn Oes y Seintiau byddai angen y dŵr at anghenion beunyddiol, ac i fedyddio; a daeth yn lle o bererindod ac o wellhad. Parhaodd y traddodiad hwnnw hyd heddiw. Daw tair tarddle o’r galchfaen mewn ardal o raeanfaen (millstone grit), ac y mae hynny ynddo’i hun  yn wyrth.

   Yn y dyffryn coediog islaw’r eglwys gwelir olion cei ar lan yr afon. Byddai  pereinion yn dod mewn cychod i’r fan honno ac yna’n dringo at yr eglwys a’r ffynhonnau cyn cael cysgod a chyfle i orffwys ar eu taith mewn adeilad mynachaidd sydd bellach wedi diflannu.

   Daeth newidiadau mawrion  gyda diddymu’r mynachlogydd.  Collwyd sgrin y grog o’r eglwys a gwyngalchwyd y darluniau ar y waliau;  ond cadwyd y gloch, ac mae’n dal i gael ei denfyddio o hyd. Llwyddwyd hefyd i gadw’r ffynhonnau. Gyda datblygiad Dinbych y Pysgod fel tref wyliau yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg profwyd dŵr y ffynhonnau am eu gwerth lachusol, a chafwyd eu bod cystal bob diferyn a ffynhonnau enwog Tunbridge, er engraifft. Byddai plant y fro yn cael eu talu gan ymwelwyr i ddod â photeli o ddŵr o’r ffynhonnau iddynt. Hyd heddiw defnyddir y dŵr i wella anhwylderau’r gwaed, arthritis, llygaid a golwg gwan, i glirio defaid oddi ar y dwylo ac i yfed mwynau sy’n llesol i’r corff.

   Mae’n werth dilyn y llwybr cerrig i lawr at y ffynhonnau, dwy ohonynt a’u dyfroedd yn llawn haearn. Mae dyfroedd y tair yn llifo i’w gilydd ac allan o dan fwa o gerrig. Arferid taflu pinnau wedi’u plygu i’r  ffynhonnau ar Sul y Pasg. Yn wir, mae’r hen arferiad yn dal mewn bri pan fydd yr addolwyr yn taflu ‘hoelion Crist’ i’r dŵr ar fore’r Pasg i ddathlu’r Atgyfodiad. Traddodiad newydd yw gadael canhwyllau yn olau i arnofio ar wyneb y dŵr tra’n offrymu gweddïau.

   Braint oedd cael mynd i Gumfreston a phrofi o naws arbennig y gorffennol, gan wybod  y bydd parch a bri i’r ffynhonnau hyn  yn y dyfodol.

Eirlys Gruffydd-Evans                                                                                                                                                                   2018

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’: 

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

Cell y sant, y garreg gloch, a thraddodiadau eraill.

     Mae cyfeiriad Syr Thomas at “geudwll bychan” yn cyfeirio at y siambr fechan yn y graig a grybwyllwyd uchod - “cell” fechan y gellir ymwasgu iddi, ac a allai fod, mewn gwirionedd, yn ganolbwynt anghofiedig holl gyfadeilad y capel a’r ffynnon. Mae’n debyg mai hwn oedd ogof, cell neu wely penydiol y sant, ac efallai yr adeiladwyd y capel megis atodiad iddo. Y mae’n arwyddocaol fod allor y capel yn union wrth fynedfa’r gell. Mae sawl traddodiad wedi datblygu: bod St Govan, neu’r Iesu, wedi cuddio yno rhag môr-ladron, er enghraifft; ac mor gyfyngedig yw’r gofod, y mae ôl asennau’r sant eto i’w gweld ar y graig. Credid pe bai rhywun yn ymwasgu i’r ceudwll ac yn gwneud dymuniad, y gwireddid y dymuniad hwnnw pe gallai yntau neu hithau droi yn ei unfan wrth ei wneud. Mae sawl amrywiad ar y thema hon, ac y mae’n amlwg fod y gell yn boblogaidd iawn ag ymwelwyr gan y’i disgrifir, yn o drylwyr yn aml, ym mwyafrif y cofnodion.

      Nodwedd boblogaidd arall ar lên gwerin y safle yw’r “garreg gloch” fondigrybwyll, er, fel yn achos y gell, mae sawl amrywiad ar yr hanes. Y fersiwn fwyaf adnabyddus yw i fôr-ladron ddod i’r lan a dwyn cloch y capel. Wrth iddynt ddychwelyd i’w cwch, darfu iddynt sefyll y gloch ar gerrig neilltuol, a byth wedi hynny gwnâi’r cerrig hynny sain fel cloch pan drawyd hwy. Fersiwn arall yw y dychwelwyd y gloch trwy wyrth, ac iddi gael ei hymgorffori y tu mewn i garreg, sy’n canu fel cloch pan drewir hi. Fel traddodiad cell y sant y tu mewn i’r capel, mae chwedl y gloch wedi ymddangos mewn amryw ffurfiau tros amser.

      Mae rhai traddodiadau eraill a allasent fod yn fyw yng nghyswllt y capel a’r ffynnon, er mai prin y’u crybwyllir yn y llenyddiaeth, yn cynnwys y “pridd taenellu” bondigrybwyll y cyfeirir ato yn llyfr 1909 Marie Trevelyan, a geid o hafnau yn agos at y capel.12  Mae’n debyg y credid bod bendith y sant ar y pridd, ac y’i defnyddid i’w daenellu ar bererinion afiach a obeithient am wellhad; efallai mai hwn oedd yr un pridd a gymysgid â dŵr ac a roddwyd ar gyrff y cleifion. Ganrif ynghynt, crybwyllodd B.H. Malkin wrth fynd heibio y byddai cyplau weithiau’n ymbriodi yn y capel.13  Pwy, tybed, fuasai yn eu priodi? A yw’n bosibl fod hyn yn cyfeirio at ddefnydd dirgel ar y capel gan rai o’r Hen Ffydd? Yn y 1830au cyfeiriodd Syr Roderick Murchison at “y grisiau geirwon a naddwyd gan y gŵr sanctaidd”, ond os oedd hon yn rhan gadarn o’r traddodiad, mae’n rhyfedd nad yw neb arall yn ei chrybwyll.14  Canolbwyntiodd mwyafrif y sylwebyddion ar ailadrodd y traddodiadau parthed cell y sant a’r garreg gloch, ynghyd â manion eraill, pe’u cofid - efallai y bu rhagor na hynny’n gyfredol, ond nas ysgrifennwyd byth.  

 Dau ymweliad Richard Fenton ddechrau’r 19eg ganrif

     Ysgrifennodd Richard Fenton (1746-1821), yr hanesydd, topograffydd a’r olrheiniwr achau o Gymru, ddau adroddiad ynghylch y capel a’r ffynnon. Cyhoeddwyd hwy ill dau ym 1811, er y gellir dyddio un o’i ymweliadau i’r flwyddyn 1807, ac ag ystyried sylw yn yr adroddiad arall, ymweliad 1807 oedd ei gyntaf. Ar yr achlysur hwnnw daeth i’r lan o gwch, felly gwelodd ffynnon y sant cyn dod at y capel. Ysgrifennodd yn gyntaf ynghylch y cerrig cloch a chwedl y môr-ladron, yna ynghylch y ffynnon:

“…yng ngheudwll carreg wrth odre’r esgynfa tua hanner ffordd, [mae] ychydig ddŵr, y cred yr ofergoelus ei fod yn ddihysbydd, ond a amheuir yn graff gan y rhai a farnant yn ddiduedd ei fod yn digwydd ar hap. Tybir yr iacheir llawer yma trwy olchi’r aelodau; ac yn yr haf daw llawer o dlodion y berfeddwlad yma, sydd yn gadael eu baglau addunedol ar ôl yn wisg am furiau’r capel, gan ddychwelyd yn iach eu haelodau, yr hyn y gellir ei briodoli, efallai, gyda mwy o gyfiawnder, i newid awyr a gwynt y môr, nag i unrhyw rinweddau cynhenid yn y gwlybaniaeth anwadal hwn, a geir yn y basn carreg ac yn llawr y capel: ac yr wyf o’r farn y gallai’r un peth fod yn wir am bob ffynnon boblogaidd, gan y credaf yn gadarn fod hanner y gwelliannau a briodolir iddynt wedi’u hachosi’n amlach gan y gwahaniaeth mewn awyr, ymborth, ymarfer corff, ymlacio meddyliol, a rheolau sy’n tueddu at fwy o gymedroldeb, nag i unrhyw rinweddau iachusol yn y dyfroedd eu hunain.”

     Mewn geiriau eraill, mae pobl sy’n credu yn effeithlonrwydd ffynhonnau sanctaidd yn wael eu hymborth, yn ddiog, yn anwybodus ac yn feddw! Mae’n amlwg na chredai Fenton fod unrhyw welliannau iechyd yn ganlyniad i ymyrraeth y sant; ond y mae’r ffaith y gadewid baglau yn y capel yn awgrymu yr hawlid yr iacheid pobl, pa fodd bynnag yr achosid hynny. Hefyd, buasai’r gwirioneddol fethedig wedi cael trafferth fawr dringo’r grisiau i ben y clogwyn heb gymorth eu baglau. Â Fenton ymlaen:

 

“Dywedodd y llongwyr wrthyf y bu cymaint o barch at hylif St. Govan ychydig flynyddoedd yn ôl, fel y bu’n gyffredin i’r rhai cefnog, sy’n byw yn rhannau Seisnig y sir hon, ddod â’u babanod yno i’w heneinio (oherwydd ni ellir ei alw’n ymdrochi), gan dybio, a defnyddio eu hymadrodd eu hunain, fod y dŵr yn eu gwneud yn fwy ciwt, a chraff; ond os bu iddynt oll ymdebygu i olwg yr hylif, yr wyf yn sicr bod rhaid iddo eu gwneud yn fwdlyd a thwp.”15 

 

     Dywed y disgrifiad hwn wrthym nad oedd y ffynnon, ym 1807, eto wedi’i gorchuddio gan y ffynhondy bwa carreg sydd i’w weld yn awr: mae’r dŵr “yng ngheudwll carreg”. Anodd penderfynu pa bryd yn union y codwyd y ffynhondy presennol, ond mae’n debyg i hynafiaethwyr dwtio’r safle ddiwedd y 19eg ganrif, yn debyg i’r hyn a ddigwyddodd yn Ffynnon Non y tu allan i Dyddewi nid nepell i ffwrdd, a orchuddiwyd hefyd gan adeilad bwaog crwm. Fodd bynnag, yr oedd yna ryw fath o orchudd ddiwedd y 18fed ganrif, a barnu yn ôl adroddiad Syr Thomas Gery Cullum a ddyfynnwyd gynnau, gan iddo ddweud bod y ffynnon “wedi’i gorchuddio â rhyw waith cerrig bras.” Roedd hwn, yn ôl pob tebyg, wedi diflannu erbyn ymweliad Fenton ym 1807.

     Awgryma adroddiad Fenton hefyd nad oedd llawer o ddŵr yn y ffynnon ddadorchuddiedig: siarada am “ychydig ddŵr” a sut y byddai’n gwneud unrhyw un a yfai ohono yn “fwdlyd a thwp”, gan awgrymu mwy o bwllyn mwdlyd na tharddell gref.  Mae adroddiad arall yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif yn cyfeirio at “y nant nad yw’n loyw iawn”.16  Ganol y 19eg ganrif, fodd bynnag, dywedodd Thomas Roscoe fod y ffynnon yn “darddell o ddŵr gloyw byrlymus, wedi’i hamgylchu â gwaith brics”, sy’n anghytuno â’r adroddiadau am ddŵr lleidiog  - ac nid yw’n eglur iawn beth yr oedd Roscoe yn ei olygu wrth “wedi’i hamgylchu â gwaith brics”.17  Nid yw’n swnio fel petai’r ffynnon wedi’i gorchuddio. Hwyrach y bu nerth y llif yn ddibynnol ar y tywydd, pa faint o law a fu, a oedd y darddell yn llifo’n gyflym ac yn loyw.

 

12 Marie Trevelyan, Folk-Lore and Folk-Stories of Wales (London, 1909; Wakefield, 1973), 45

13 Benjamin Heath Malkin, The Scenery, Antiquities, and Biography, of South Wales (London, 1804), 529

14 Roderick Impey Murchison, The Silurian System (London, 1839), 382-3 troednodyn

15 A Barrister: Richard Fenton, Esq., A Tour in Quest of Genealogy, Through Several Parts of Wales, Somersetshire, and Wiltshire (London, 1811), 88-90

16 Awdur nas enwyd, A Handbook for Travellers in South Wales and its Borders, including the River Wye (London, arg. newydd, 1870), 161

17 Thomas Roscoe, Wanderings and Excursions in South Wales (London, 1854), 185

 

Janet Bord (cyfieithwyd gan Howard Huws)                                                                                                                

(i’w pharhau)

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Canolfan Tan-y-bwlch, Maentwrog, 21.7.2018.

COFNODION.

Yn bresennol: Eirlys Evans-Gruffydd (Cadeirydd), Robin Gwyndaf (Llywydd Anrhydeddus),

Howard Huws (Ysgrifennydd), Gwyn Edwards (Trysorydd), Dennis Roberts (Archwiliwr Mygedol), Elizabeth Rees, Anne Owen.

1. Croeso’r Cadeirydd.

                Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

2. Ymddiheuriadau.

                 Anne Williams.

3. Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2017, a materion yn codi.

Darllenwyd cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol blaenorol, ac fe’u cafwyd yn gywir.

Materion yn codi:

a). Adolygu’r rhestr aelodaeth.

  Mae’r rhestr aelodaeth bresennol yn cynnwys 84 aelod, o ba rai y mae 39 yn aelodau am oes, 24 yn talu trwy archeb banc, a 21 yn talu’n flynyddol. Collwyd rhai aelodau oherwydd henaint, ond enillwyd sawl aelod newydd. Canmolwyd gwaith y Trysorydd a’r Archwiliwr, am iddynt roi trefn ar y rhestr.

 

Barn y Llywydd oedd bod angen cael yr aelodau i weithredu. Mae derbyn a darllen “Llygad y Ffynnon” yn gymeradwy, ond mae angen cynnig rhagor. Cafwyd Cyfarfod Cyffredinol llwyddiannus ddwy flynedd yn ôl, yng Nghlynnog Fawr, pan ddaeth llawer ynghyd, ac efallai y bu’r lleoliad o gymorth, gan fod yn fwy hwylus i drwch yr aelodau, a bod pobl wedi arfer dod yno i gyfarfodydd o’r fath. Roeddem hefyd yn ennill  aelodau newydd pan gynhelid y Cyfarfod Cyffredinol adeg yr Eisteddfod Genedlaethol: ond gwell fyddai peidio â chyfuno’r ddau achlysur.

 

Tynnodd y Llywydd sylw at sut y mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru’n anfon rhaglen flynyddol at aelodau, yn nodi pa weithgareddau a gynhelir, ymhle, a sut ddarpariaeth fydd ar eu cyfer: mae’n fath o wahoddiad personol i ymuno yn y gweithgareddau hynny.

b). Archifau’r Gymdeithas.

Y mae’r archifau i’w trosglwyddo gan y Cadeirydd i’r Llywydd heddiw ar gyfer eu cludo i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae digon o ddeunydd ynddynt i gynnal arddangosfa neu ysgrifennu traethawd doethuriaeth.

c). Mynegai cynnwys “Llygad y Ffynnon” rhifynnau 1-41.

Mae’r Ysgrifennydd wedi cyfieithu a chywiro’r mynegai electronig a luniwyd gan Ian Taylor, a’r Archwiliwr yn awr yn ceisio ei ddwyn i drefn ar gyfer ei lanlwytho i wefan y Gymdeithas a’i roi ar gryno-ddisg. Canmolwyd y sawl fu wrth y gwaith, yn enwedig Ian Taylor.

Penderfynwyd anfon o’r cyfarfod i ddiolch i Ian Taylor.

Penderfynwyd gyrru copi o’r cryno-ddisg i’r Llyfrgell Genedlaethol, a thynnu sylw ato yn “Llygad y Ffynnon”.

Penderfynwyd rhoi gwybod amdano i ddarllenwyr “Y Casglwr”, “Llafar Gwlad” a “Fferm a Thyddyn”, hefyd.

Awgrymodd yr Archwiliwr y dylid cyfieithu gwybodaeth am un ffynnon ar y tro o wefan “Well Hopper”, hefyd, a’i chynnwys yn fersiwn digidol “Llygad y Ffynnon”, onid yr un papur hefyd. Byddai’n rhaid gofyn caniatâd “Well Hopper”, wrth gwrs.

ch). Ffurflen archeb banc y Gymdeithas.

Clywyd fod ceisio trefnu i aelodau sefydlu archebion banc, a chael y banciau i ufuddhau iddynt, yn waith parhaus. Llwyddwyd i gael rhagor o bobl i dalu’r tâl aelodaeth archeb banc, ond er i’r banciau’n derbyn ffurflenni, mae rhai mwy effeithlon na’i gilydd wrth eu prosesu. Nifer fechan o archebion sy’n peri trafferth,  ond y mae angen mynd ar eu holau nhw eto. Y drefn fwyaf effeithiol yw i’r aelodau eu hunain gysylltu â’u banc gan roi cyfarwyddyd i’r banc weithredu, ac yna rhoi gwybod i’r Gymdeithas. Bydd y fantolen nesaf yn dangos pwy’n union y mae problem â nhw oherwydd nad yw’r banc wedi gweithredu. Mae’r broblem waethaf lle nad oes modd i aelodau fynd i’w cangen leol i drafod y mater, ac nid yw bod rhai banciau wedi cau canghennau lleol, ac eraill heb swyddfeydd canghennol (y Co-op, er enghraifft) o gymorth.

d.) Taflen aelodaeth y Gymdeithas.

Mae’r daflen wedi’i chynhyrchu, a chymal Diogeledd Data Personol wedi’i gynnwys.

dd.) Disgrifiad o gynnwys cist wybodaeth Barry a Thelma Webb.

          Mae gwaith rhestru cynnwys archifau Barry a Thelma Webb yn mynd rhagddo, gan gymaint o ddeunydd sydd yn y casgliad.

        Mae Barry a Thelma yn gobeithio y medrant ddod i’r cyfarfod yn yr Eisteddfod, lle cânt eu hanrhydeddu gan y Gymdeithas. Y

        mae’r Llywydd am wneud y trefniadau angenrheidiol, ac wedi archebu rhodd ar eu cyfer. Bydd yr Ysgrifennydd yn cyfieithu ar y

        pryd yn y cyfarfod.

 

Gofynnodd Ysgrifennydd i’r Llywydd am grynodeb neu gopi o’r anerchiad ynghylch “Ffynhonnau Caerdydd” y bwriedir iddo’i draddodi yng nghyfarfod y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ar gyfer “Llygad y Ffynnon”. Awgrym yr Archwiliwr oedd y dylai rhywun dynnu lluniau o’r cyfarfod yng Nghaerdydd ar gyfer rhifyn nesaf y newyddlen.

Mae’r Llywydd hefyd wedi sicrhau casgliad Dafydd Guto Ifan o wybodaeth am lynnoedd, ogofeydd a ffynhonnau Cymru ar gyfer Amgueddfa Werin Cymru.

4. Cofnodion Cyfarfod Pwyllgor y Gymdeithas, 24.4.18 yn Nhan-y-bwlch, a materion yn codi.

a).    Cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Gwnaed ymdrech deg i gydymffurfio â gofynion y Rheoliad trwy gymryd camre pendant i gysylltu ag aelodau, rhoi gwybod iddynt eu hawliau, a gwahodd eu hymateb. Ychydig llai na hanner yr aelodau sydd wedi ymateb, ond byddys yn  dyfalbarhau, ac yn cysylltu â’r holl aelodau fel arfer yn y cyfamser. Yn achos unrhyw gais gan yr awdurdodau, er mor annhebygol hynny, gellir profi bod swyddogion y Gymdeithas wedi cyflawni eu dyletswydd yn y maes hwn. Diolchwyd i Dennis Roberts am ei waith.

b).    Paratoi a chyhoeddi cyfrol ynghylch ffynhonnau de Cymru.

Clywyd fod y Cadeirydd wedi cofnodi ffynhonnau Mynwy, a bod rhai Sir Gaerfyrddin a Sir Penfro (yn ogystal â Cheredigion) wedi’u cofnodi gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Gedy hynny Forgannwg yn unig. Awgrymodd y Llywydd y dylid  cael llungopïau o ddeunydd perthnasol yn archif y Gymdeithas cyn ei yrru i’r Llyfrgell Genedlaethol, neu drefnu i’w lungopïo yno. Mae amser y Cadeirydd yn brin, ond nid oes dim pwysau arni o du’r Gymdeithas Ffynhonnau, a bydd y Gymdeithas yn rhoi pob cefnogaeth iddi.

c).    Cyfarfod y Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, a sicrhau cyflenwad o ffurflenni ymaelodi ar gyfer y “Lle Hanes”. 

Trefnwyd argraffu cyflenwad digonol o ffurflenni, a gosod hysbysiad Diogelu Data Personol arnynt.

 

Penderfynwyd nad yw’r Gymdeithas yn talu am le yn y Lle Hanes eleni, felly ni fydd  bwrdd penodol yno ar gyfer y Gymdeithas: ond gellid rhoi ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon” ar fyrddau cymdeithasau eraill yno. Pris cael bwrdd yn y Lle Hanes yw £220 eleni. Gan y byddai hynny’n dwyn y Gymdeithas i sylw rhagor o aelodau dichonol, ac na fyddai angen ond 10 aelod newydd er mwyn adennill costau’r Ffi, penderfynwyd rhoi ar raglen y cyfarfod Pwyllgor nesaf fod y Gymdeithas yn gwneud cais am fwrdd yn y Lle Hanes yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy (Llanrwst) 2019.

 

ch).  Ymbresenoli yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Penderfynwyd ymbresenoli, a chael Gareth Pritchard i gyflwyno anerchiad yno.

Yr Ysgrifennydd i wahodd Gareth Wyn Pritchard, Llandudno.

d).    Cysylltu ag unigolion gan ofyn iddynt a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn dod yn aelodau o Gyngor y Gymdeithas.

Wedi tynnu’r rhestr, mynegodd Anne Owen ei bod yn anfodlon, oherwydd nad yw’n teimlo bod ganddi mo’r doniau angenrheidiol. Cafwyd sêl bendith y Cyfarfod i alluogi’r Ysgrifennydd i gysylltu â’r gweddill ar y rhestr.

 

Penderfynwyd y gellir gweithredu penderfyniadau’r Pwyllgor Gwaith heb sêl bendith y Cyfarfod Cyffredinol dilynol, o hyn ymlaen.

Penderfynwyd cynnwys Jane Beckermann, Llanelian-yn-Rhos, ar y rhestr.

dd).  Ailgyhoeddi’r alwad am Swyddog Cyhoeddusrwydd yn “Llygad y Ffynnon”.

Gwnaed hynny, ond ni chafwyd ymateb. Dywedodd y Llywydd y byddai’n cael gair â rhai pobl y mae’n eu hadnabod. Y mae’n bosibl y gallai rhai o blith yr enwau ar y rhestr aelodau pwyllgor newydd dichonol gynorthwyo, os derbyniant y cynnig.

e).    Ailysgrifennu at y Comisiwn Henebion ynghylch cynnal arolwg safonol o ffynhonnau.

Penderfynwyd y dylai’r Ysgrifennydd fwrw ymlaen â hynny.

f).     Cynnwys manylion ychwanegol yn “Llygad y Ffynnon”.

Gwnaed hynny.

5. Adroddiad yr Ysgrifennydd.

Gweithredwyd pob penderfyniad, a bydd medru gweithredu penderfyniadau’r Pwyllgor Gwaith heb ymgynghori â’r Cyfarfod Cyffredinol dilynol o gymorth gyda’r gwaith.

6. Adroddiad y Trysorydd.

Yn dilyn ymgyrch adnewyddu aelodaeth yn yr hydref, nid yw’r sefyllfa ariannol ddim gwaeth nag y bu flwyddyn yn ôl. Mae angen cael trefn efo’r talu trwy’r banc, i gael pawb i dalu ar yr un pryd. Diolchodd y Trysorydd i’r Archwiliwr a’r Ysgrifennydd am eu cymorth mawr.

 

Gan fod y Llywydd eisoes wedi talu £50 o’i boced ei hun i Tegwyn Jones, Bow Street, am waith llythrennu’r dystysgrif a gyflwynir i Barry a Thelma Webb, cytunwyd y dylai’r Gymdeithas dalu am fframio’r dystysgrif.

 

Penderfynwyd talu £47 am y gwaith hwnnw.

7. Adroddiad yr Archwiliwr Mygedol.

Clywyd fod y cyfrifon yn gywir ac mewn trefn.

8. Adroddiad Golygydd “Llygad y Ffynnon”.

Dywedodd y Golygydd yr hiraethai am gael cynnwys rhagor o dudalennau yn y fersiwn papur, ond y derbynia bod yr arian ar gyfer hynny’n brin. Galwodd am ragor o gyfraniadau i’r “Llygad” gan yr aelodau, er mwyn helaethu amrywiaeth y cynnwys.

9. Cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Bu’r gynhadledd a gynhaliwyd yn Llandudno yn llwyddiannus iawn, ond yn waith mawr. Os ceir rhagor o aelodau pwyllgor, efallai y byddent yn barod i drefnu achlysur cyffelyb. Os felly, dywedodd y Llywydd, byddai angen trefnu rhaglen gynhwysfawr, taith o amgylch ffynhonnau lleol, cinio, cylchlythyr i’r holl bapurau bro, a gwahoddiad ysgrifenedig i’r aelodau ac eraill ledled Cymru ddigon o flaen llaw.

Penderfynwyd ceisio trefnu cynhadledd yn ardal yr Wyddgrug ar ddydd Sadwrn yr 20fed o Orffennaf 2019, er cof am Ken Gruffydd. Gellid ei chynnal mewn festri capel lleol, er enghraifft, gydag ymweliad â ffynhonnau lleol i ddilyn. Neilltuid rhan gyntaf y gynhadledd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas. Y Cadeirydd i ymholi am fan cyfarfod addas yn ardal yr Wyddgrug, a’r aelodau eraill i’w chynorthwyo gyda’r trefniadau. 

10. Unrhyw fater arall.

Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod i draddodi cyflwyniad ynghylch “Ffynhonnau Sanctaidd Cymru” gerbron Cymdeithas Hanes y Tair Llan, Melin Wnda ym mis Mawrth 2019. Bydd yn achub y cyfle i dynnu sylw at weithgareddau’r Gymdeithas ac i rannu taflenni ymaelodi.

 

Gan nad oedd dim rhagor i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben am 12:05 o’r gloch. Ymneilltuodd yr aelodau i ginio, gyda rhai’n ymweld wedi hynny â Ffynnon Frothen, Llanfrothen. Gellir dweud inni ganfod y man, ond ei bod yn hollol hesb. O gofio tywydd haf eleni, nid oedd hynny’n syndod.

 

Ffynnon Frothen, Llanfrothen fis Gorffennaf eleni.

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

  Os ewch ar eich gwyliau’r flwyddyn nesaf, cofiwch dynnu lluniau unrhyw ffynhonnau diddorol. Dyma Ffynnon Ddeclan, Ard Mór, rhwng Waterford a Chorc yn Iwerddon. Mae’n ffynnon “fyw”, gyda llawer o bererinion yn cyrchu ati, yn enwedig yn ystod y gwylmabsant ar y 24ain o Orffennaf.  

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Dyma Swyddogion Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

 

            Robin                        Eirlys                                  Howard                                  Gwyn                                 Dennis

          Gwyndaf,               Gruffydd-Evans,                          Huws,                               Edwards,                              Roberts,

Llywydd Anrhydeddus.          Cadeirydd.                          Ysgrifennydd.                       Trysorydd.                       Archwiliwr Mygedol.

“Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad at y rhifyn nesaf ato golygydd@ffynhonnau.cymru erbyn 11.5.2019, os gwelwch yn dda. Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth.

Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn Llygad_y_Ffynnon@btinternet.com.

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau.Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA

IN HOLL DDARLLENWYR NI!

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Home Up