Home Up

Llygad y Ffynnon

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhifyn 44, Haf 2018

 

 Canfod Delwau Cŵn Mewn Tarddell?

Ddiwedd 1979 canfu chwilotwr yn defnyddio synhwyrydd metelau gelc (neu gelciau) hynod ddiddorol o wrthrychau cynhanesyddol, Rhufeinig a diweddarach yn Llys Awel, Tan y Gopa, Abergele. Roedd yno 533 o ddarnau arian Rhufeinig o’r 4edd ganrif; blaen picell o Oes y Pres; breichled; broetsh o’r 9fed ganrif; darnau o wifrau, a delw fechan o’r duw Mercher. Yn fwy diddorol fyth, fodd bynnag, roedd yno ddwy ddelw o gŵn (tua 5cm o uchder) ar eu heistedd a’u tafodau allan, delw arall o filgi, a dau blac, y naill â llun ci arno, a’r llall â’r hyn a allai fod yn llun ci, neu efallai’n gynnig ar ysgrifennu enw.1

Nid yw’r gwrthrychau hyn yn unigryw. Cafwyd delwau cyffelyb yn sawl rhan o’r hen Ymerodraeth Rufeinig, ac yn rhanbarth Britannia. Cafwyd delw o gi neu flaidd a’i dafod allan (ac un o Fercher yn dal pwrs, fel yn Llys Awel) yng nghelc Southbroom ger Devizes ym 1714, a delw o flaidd ar ei eistedd yn Woodeaton, Swydd Rydychen. Y diweddaraf i’w ganfod (ym Medi 2017) yw delw o Swydd Gaerloyw, eto â’i dafod allan: ond camgymeriad, wrth gwrs, fu datgan mai hwn oedd yr un cyntaf o’i fath i’w ganfod ym Mhrydain.2

Ceir delwau cyffelyb yng Ngwlad Belg a gogledd-ddwyrain Ffrainc, hefyd, ac weithiau y mae’r genau â thafod yn dod allan ohonynt, neu ddarn o gorff dynol wedi’u dal ynddynt. Y celc tebycaf i Lys Awel yw un o Chartres, lle cafwyd dwy ddelw o gŵn ymysg offrymau o’r ganrif gyntaf OC a’r ail, ynghyd â llestri cyfan, esgyrn dynol ac anifeiliaid, wedi’u gosod mewn ffynhonnau a phydewau.3

Ymylol i faes diddordeb pennaf darllenwyr y cylchgrawn hwn fyddai’r manylion hyn, heblaw am un peth: yn debyg i gelc Chartres, roedd celc Llys Awel, yn ôl adroddiadau ar y pryd, wedi’i osod mewn tarddell. Mae erthygl di-ddyddiad (“Treasure find at a sacred spring”) gan un Jayne Thomas mewn papur newydd dienw (y Daily Post, efallai) yn dyfynnu Richard Brewer o Amgueddfa Genedlaethol Cymru i’r perwyl hwnnw. Awgryma’r dyfyniad ei fod yn cyfeirio’n benodol at safle Llys Awel, ond y mae’n bosibl ei fod yn sôn, yn hytrach, am weithred gyffredinol offrymu gwrthrychau mewn tarddellau er mwyn ceisio iechyd.4 Y mae archeolegydd fu’n gysylltiedig â’r safle yn cofio bod y gwrthrychau’n awgrymu cysylltiad â chysegr gwella, ond nid a oeddent yn gysylltiedig ai peidio â nant neu darddell.5

Cymylwyd hanes y canfod gan y ffaith na ddaeth y gwrthrychau i sylw archeolegwyr am flwyddyn a rhagor wedi eu palu o’r ddaear, ac ni chadwodd eu canfyddwyr gofnod manwl o ble’n union y cawsant hyd iddynt. Er y bu gan y canfyddwyr ganiatâd perchen y safle i’w archwilio, yr oeddent yn gwrthod â dweud, i ddechrau, ymhle’n union yr oedd; a hynny, efallai, am nad oeddent am i eraill ysbeilio’r man, ac oherwydd bod archeolegwyr yn gwgu’n fawr ar ddefnyddwyr synwyryddion metel. Yr oedd (ac y mae) “ceiswyr trysor” yn gwneud difrod ofnadwy i safleoedd hanesyddol bregus. Ni ddaeth y mater i sylw hyd nes i’r canfyddwyr gynnig y gwrthrychau i Amgueddfa Caer; a hyd yn oed wedyn bu gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru gryn waith eu cael nhw yn ôl i’r wlad hon.6  

Gwyddys y cysylltid cŵn yn neilltuol â duw meddygaeth y Groegwyr, Asclepios, ac mai rhan o ddefod trin cleifion yn ei deml yn Epidafros oedd y llyfid hwy gan gŵn sanctaidd. Y mae’n wir fod poer cŵn yn cynnwys sylwedd antiseptig.7 Cysylltid cŵn â’r duw Brythonaidd Nodens (Nudd/Lludd), duw hela a’r môr, a oedd â theml fawr yn Lydney yn Swydd Gaerloyw. Yno hefyd credid y gallai llyfiad ci wella dolur ac anhwylder, ac ymddengys y bu’r seintwar yn ganolfan cwlt iacháu: canfuwyd naw delw o gi yno.8 Parhaodd y gred hon yn hir: cofiaf fy nhad, a modryb imi’n crybwyll yr arferid peri i gi lyfu dolur, gan gredu y byddai hynny’n ei wella.  

Un posibilrwydd, felly, yw y bu tarddell yn Llys Awel yn ganolbwynt cwlt iacháu, ac y gosodwyd y delwau o gŵn ynddi yn benodol megis offrymau addas at y diben hwnnw. Posibiliadau eraill yw mai trwy gyd-ddigwyddiad  y gadawyd y gwrthrychau yn agos i darddell, neu fod ysgolheigion wedi rhagdybio mai mewn tarddell y’u canfuwyd, oherwydd mai mewn mannau o’r fath y canfuwyd enghreifftiau eraill o wrthrychau tebyg yn y gorffennol. Yng Nghymru, canfu defnyddwyr synwyryddion metel gryn nifer o wrthrychau ym mannau corsiog ym mlaenau Ddawan ac yn Llanddunwyd, Morgannwg.9

Mentrus tu hwnt, fodd bynnag, fyddai dal bod cysylltiad uniongyrchol rhwng arferion Rhufeinig a’r hyn a gofnodid yma lawer yn ddiweddarach, megis offrymu pinnau neu ddarnau arian mewn ffynhonnau er mwyn gwella anhwylderau. 

Felly er bod y darganfyddiad hwn yn ddiddorol iawn, rydym eto i weld canfod offrymau sylweddol o’r hen oes mewn ffynnon yng Nghymru yn ystod archwiliad archeolegol gofalus.

                                                                            H.H.  

1 Manley, J.F. 1982: ‘Finds from Llys Awel, Abergele’, Archaeology in Clwyd 5, tt. 6–7.

2 https://www.telegraph.co.uk/news/2017/09/27/roman-licking-dog-never-seen-britain-found-metal-detector-enthusiasts/ Leon Watson, Daily Telegraph 27.9.2017.

3 Durham, E. (2014) Style and substance: some metal figurines  from south-west Britain. Britannia, 45, tt. 195-221 http://centaur.reading.ac.uk/39196/1/DurhamSouthbroom.pdf

4 Mae erthygl Durham hefyd yn datgan y canfuwyd y gwrthrychau mewn tarddell, ac yn cyfeirio’n ôl at adroddiad Manley: ond nid yw’r adroddiad hwnnw’n sôn dim am darddell, dim ond y canfuwyd y darnau arian Rhufeinig wedi’u gwasgaru dros ardal eang.

5 Neges e-bost gan Stever Grenter at Howard Huws, 21.5.2018.

6 Elizabeth Grice, “Treasure hunt finds ‘secret’ Roman remains”. The Times, ?15.1.1981; Gohebydd dienw, “Controversy over Roman site finds”, Daily Telegraph 19.1.1981; Alan Bennett, “Row as ‘lost city’ is found”, Daily Express, 19.1.1981; Gohebydd dienw, “Archaeologists hit out over Roman ‘secret’”, Rhyl Journal, 29.1.1981.

7 Sanctuary of Asklepios, Epidauros. https://warwick.ac.uk/fac/arts/classics/students/modules/greekreligion/database/clumcc/

8 Roman Britain: Templum Marti Nodentis. http://roman-britain.co.uk/places/lydney_park.htm

9 J. L. Davies. Refresh of the Research Framework for the Archaeology of Wales 2011-2016: Romano British. https://www.archaeoleg.org.uk/pdf/review2017/romanreview2017.pdf

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’: 

Saint Govan’s Well yn ystod  350 mlynedd (parhad).

Lleoliad Saint Govan’s Well

Ceir St Govan’s Well gerllaw St Govan’s Chapel, filltir i’r de o Bosherston yn Sir Benfro (Cyfeirnod Grid SR96709295).  Ceir mynediad agored i’r capel a’r ffynnon, ond weithiau y mae’r ffordd o Bosherston ar gau oherwydd maes tanio cyfagos y fyddin. Rhaid dilyn y lôn tua glan y môr hyd oni chyrhaeddir y maes parcio, yna cerdded i lawr rhes faith o risiau carreg geirwon (y dywedir na ellir mo’u cyfrif) i’r capel a’r ffynnon. Llenwa’r capel y gofod rhwng y clogwyni, a rhaid mynd trwyddo i gyrraedd y ffynnon. Ni wyddys ddim, i bob golwg, am hanes y capel, er y credir ei fod o’r 13eg-14eg ganrif, a’i darddiad yn hŷn na hynny, debyg. Fe’i hadferwyd yn y 1980au.

Adeilad carreg bychan yw, yn un siambr 18 troedfedd wrth 12 troedfedd, gyda thri drws. Mae un ohonynt, yn y wal ogledd-ddwyreiniol, yn arwain i gell naturiol yn y graig, y “cell y sant” honedig a grybwyllir drachefn ymhellach ymlaen. Y tu mewn i’r capel gellir gweld allor garreg, cawg, meinciau carreg a ffynnon. Mewn gwirionedd, mae dwy ffynnon yma, er nad yw enw’r sant ond ar un ohonynt; mae’r llall yn ddienw, i bob golwg, ac y mae y tu mewn i’r capel, ar y llawr i’r chwith o ddrws y wal ogleddol. Ceir ffynnon y sant trwy adael y capel ar yr ochr ddeheuol a mynd i lawr grisiau geirwon tua glan y môr; mae mynedfa’r ffynnon yn wynebu’r capel. Mae ffynhondy carreg drosi, gyda tho corbelog a chapan drws carreg.8 

Yr ymweliadau cynharaf a gofnodwyd

Bu’r capel a’r ffynhonnau’n enwog ers canrifoedd, ac wedi’u hir sefydlu ar y llwybr twristiaid, yn enwedig yn y 19eg ganrif, felly erbyn hyn mae gennym lawer o ddisgrifiadau ohonynt dros y 350 mlynedd diwethaf. Yr un printiedig cynharaf y deuthum ar ei draws hyd yn hyn yw cofnod John Ray, yn dilyn ei ymweliad ym 1662:

Oddi yno'r un Diwrnod i St. Gobin’s Well, wrth Lan y Môr, lle, o dan y Clogwyn, y saif Capel bychan, wedi’i gysegru i’r Sant hwnnw, ac ychydig islaw iddo Ffynnon, enwog am Iacháu pob Clefyd. Y mae, o Ben y Clogwyn i’r Capel, Disgynfa o 52 Gris.9

Nid yw Ray yn crybwyll y ffynnon o fewn y capel, ond crybwyllir y ddwy mewn cofnod ynghylch “Bosherstone” yn Parochialia Edward Llwyd, y dyddio o tua 1700.

Capel hynafol o’r enw St Goveans ger glan y môr rhwng 2 graig fawr. O fewn y Capel mae tarddell ac un arall islaw’r Capel tua’r môr. Ceir bod dŵr y tarddellau hyn yn dda ar gyfer llawer o anhwylderau. [i]0 

Cynhwysodd dyddiadur Syr Thomas Gery Cullum ar gyfer 1775 ddisgrifiad o’i ymweliad ar y 27ain o Orffennaf â ffynnon “St Gobin”, sy’n neilltuol o ddiddorol gan y bu modd iddo weld cleifion yn defnyddio dŵr y ffynnon. Cyfeiria hefyd at “Offeiriades y Capel”, a âi ati i gasglu rhoddion gan ymwelwyr, arfer a geir yn rhai ffynhonnau sanctaidd neilltuol o boblogaidd lle y pwysid ar ymwelwyr, efallai, i offrymu arian i warchodes, er yn yr achos hwn ni ddywedir a oedd hi, mewn gwirionedd, yn darparu unrhyw wasanaethau ar gyfer cleifion a ddeuent yno i geisio iachâd. Efallai mai hi oedd perchnoges neu ddeilyddes y tir, neu ddim ond rhywun a drigai gerllaw a ganfu y gallai ennill ychydig arian gan bererinion, os oedd hi ar gael,  trwy eu cyfarwyddo yn y defodau.

[Y mae’r ffynnon] yn agos iawn at y môr, wedi’i gorchuddio â rhyw waith cerrig bras. Mae’r dŵr yn glaear, heb unrhyw flas neilltuol. Mae rhai eto’n credu ynddo. Roedd gwraig dlawd wrtho â’i gŵr o Gaerfyrddin, agos i 40 milltir [i ffwrdd]; roedd ganddo Boen yn ei Glun; golchodd y Rhan ac yfodd y Dŵr. Rydych yn disgyn iddi trwy Gapel bychan nad yw’n hynafol iawn, 18 wrth 12. Yn un pen ceir rhywbeth tebyg i Allor...efallai’r hen Allor. Ar yr Allor hon y rhoddir arian yr Ymwelwyr, os digwydd nad yw Offeiriades y Capel yno. Felly pan oeddwn innau yno, a’r Wybodaeth a gefais oedd gan y wraig dlawd a’i gŵr; pan ddychwelais [ar ei ffordd allan, h.y.] fe’i gwelais i hi, a gofynnodd imi faint yr oeddwn wedi’i adael iddi yn y Capel. Mae gan yr adeilad sedd garreg o’i amgylch i gyd. Ynddo mae Pwllyn bychan a alwant yn darddell, yn dda ar gyfer y Llygaid. Cymerir y dŵr allan â chragen Llygad Maharen...Nifer y grisiau i’r Capel yw tua 70, oddi yno i’r Ffynnon, 30...

Mae ceudwll bychan yn y creigiau yn agos at y Capel, ym mha un, y dywedir wrthych, y cafodd ein Gwaredwr loches rhag yr Iddewon; gallwch eto weld ôl ei Gorff.

Gyda llaw, efallai nad anodd yw i’r Ffynnon hon gynnal ei Henw, os ymwelir â hi gan Bobl a all gerdded agos i 40 milltir ac yn ôl drachefn!11

 

8 Ceir rhagor o ddisgrifiadau o’r ffynhonnau yn Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Cardiff, 1954), 208;  Baring-Gould a Fisher, op.cit., III, 144-5;  cronfa wybodaeth Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, Coflein – capel NPRN 95059, ffynnon NPRN 32502;  Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed – capel PRN 630, ffynnon y capel well PRN 102724, St Govan’s Well PRN 1268

9 William Derham, D.D., Select Remains of the Learned John Ray, M.A. and F.R.S. with his Life (London, 1760), 242

10 Edward Llwyd, Parochialia – Being a Summary of Answers to “Parochial Queries in Order to a Geographical Dictionary, etc., of Wales”, Part III – North Wales and South Wales (continued) (London, 1911), 74

11 Herbert M. Vaughan, ‘A Synopsis of Two Tours made in Wales in 1775 and in 1811’, yn Y Cymmrodor, XXXVIII (1927), 46-7

Janet Bord                                                                                                                                          (i’w pharhau)

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Dyma Swyddogion Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

 

                             Robin                      Eirlys                      Howard                          Gwyn                       Dennis

                          Gwyndaf,           Gruffydd-Evans,                Huws,                         Edwards,                   Roberts,

                           Llywydd.              Cadeirydd.               Ysgrifennydd.                   Trysorydd.          Archwiliwr Mygedol.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

Cyfarfod Cyngor Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, 24.4.2018.

Cyfarfod Cyngor y Gymdeithas am 2:00 o’r gloch prynhawn dydd Mawrth y 24ain o Ebrill 2018

ym Mhlas Tan-y-bwlch.

COFNODION  

Yn bresennol: Eirlys Gruffydd-Evans (Cadeirydd), Robin Gwyndaf (Llywydd), Howard Huws (Ysgrifennydd), Gwyn Edwards (Trysorydd), Dennis Roberts (Archwiliwr Mygedol).

1. Croeso’r Cadeirydd.

Croesawyd yr aelodau i’r cyfarfod gan y Cadeirydd E. Gruffydd-Evans, gan ddatgan ei diolch i’r Plas am ddarparu’r ystafell.

2. Ymddiheuriadau.

Derbyniwyd ymddiheuriadau Bill Jones a Rhys Mwyn.

3. Cofnodion Cyfarfod Cyngor 2017, a materion yn codi.

Darllenwyd cofnodion Cyfarfod Cyngor 1.4.2017. Fe’u cafwyd yn gywir, ac fe’i derbyniwyd yn ffurfiol.

Materion yn codi:  

   a) Cadarnhau penodi Eirlys Gruffydd-Evans yn Gadeirydd.

         Cadarnhawyd hynny.

  b) Gyrru copi electronig o fynegai ffynhonnau sanctaidd Dyfed at y Cadeirydd.

            Cadarnhawyd fod yr Ysgrifennydd wedi’i gyrru at y Cadeirydd.

   c)Dogfennau’r Gymdeithas.

            Clywyd eu bod eto gan y Cadeirydd, er iddi gysylltu â’r Llyfrgell Genedlaethol, ac i hwythau addo  cysylltu’n ôl     â hi. Ni fu modd iddi fynd â nhw i Aberystwyth ei hun yn ddiweddar, oherwydd anhwylder.

         Awgrymodd y Llywydd y gallai’r Cadeirydd roi’r papurau mewn blychau, ac y byddai yntau’n mynd â nhw i Aberystwyth. Cytunwyd i hynny.

  ch) Hysbysu Gwasg y Lolfa ynghylch manylion cywir y Gymdeithas, ar gyfer ei dyddiadur blynyddol.

          Yr Ysgrifennydd wedi’i hysbysu.

     d) Rhoi’r mynegai i gynnwys ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon” ar y wefan ac ar ddisg. Clywyd nad yw’r Ysgrifennydd eto wedi cwblhau’r gwaith hwn, ond y bwriada wneud hynny’n fuan.

         Derbyniwyd hynny.

   dd) Hyrwyddo derbyn fersiwn electronig o “Llygad y Ffynnon” gan aelodau’r Gymdeithas.

    Clywyd fod yr Archwiliwr Mygedol, y Trysorydd a’r Ysgrifennydd, rhyngddynt, wedi llwyddo i gynyddu’n sylweddol nifer y rhai sy’n derbyn y fersiwn electronig yn hytrach neu’n ogystal â’r un papur.

     e) Cysylltu â’r aelodau hynny oedd heb dalu’r tâl aelodaeth, a diwygio’r rhestr aelodaeth.

          Clywyd fod y Trysorydd a’r Archwiliwr Mygedol wedi diwygio’r rhestr yn drwyadl, a bod llawer o’r rhai fu’n ddyledwyr yn awr wedi talu eu tâl aelodaeth o ganlyniad i’w hatgoffa.

      f) Gofyn i Rhys Mwyn ymuno â’r Pwyllgor.

          Gwnaed hynny gan yr Ysgrifennydd, a bu iddo gytuno i ymuno.

 4. Diogelu Data Cyffredinol.   

Clywyd fod dogfen wedi’i chyhoeddi gan y Llywodraeth yn rhoi canllawiau i gymdeithasau ynghylch y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol sydd ar ddod i rym. Rhaid i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, fel pob cymdeithas arall sy’n dal data personol ei haelodau, ufuddhau i’r Rheoliad.

Clywyd fod y swyddogion eisoes yn dilyn yr arferion a argymhellir gan y Rheoliad, a bod yr Archwiliwr Mygedol wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd i’w osod yn “Llygad yn Ffynnon” yn rheolaidd. Rhaid i’r  swyddogion fod yn ymwybodol y gall pobl ofyn am ddiddymu manylion personol a ddelir ar gyfrifiadur.

Yn ôl y Rheoliad, rhaid rhoi gwybod i bobl sut yr ydym am ddelio efo “ceisiadau cyrchiad pwnc”. Cynigiwyd a derbyniwyd y dylai’r Trysorydd ddelio â cheisiadau o’r fath.

Parthed y ffurflen ymaelodi, gellir ychwanegu ati ffurf ar eiriad yn galluogi aelodau i ganiatáu cadw gwybodaeth ar y rhestr aelodaeth, ac yn rhoi gwybod iddynt ymhle y gallant gael gwybodaeth am eu hawliau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Dywedodd yr Archwiliwr Mygedol y gallai argraffu geiriau i’r perwyl hwnnw ar y ffurflenni aelodaeth presennol. Cytunwyd y dylai’r Ysgrifennydd ac yntau drafod hynny. Gofynnodd y Llywydd am yrru 30 copi o’r ffurflen ymaelodi ddiwygiedig ato, iddo eu dosbarthu yn ôl y cyfle.

Cofnodir trwy hyn fod pwnc dyletswyddau swyddogion Cymdeithas Ffynhonnau Cymru o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol wedi’i drafod gennym. Diolchwyd i’r Archwiliwr Mygedol am wneud cymaint o waith ar fyr rybudd er mwyn egluro’r pwnc cymhleth hwn i’w gyd-swyddogion.

Ar gyfer argraffiad nesaf y ffurflen ymaelodi, cytunwyd y dylid cynnwys arni gyfeiriad gwefan y Gymdeithas, a manylion sut mae cyfrannu rhodd ariannol iddi.

5. Adroddiad yr Ysgrifennydd \ Golygydd “Llygad y Ffynnon”.

Clywyd fod rhifyn diwethaf “Llygad y Ffynnon” (Nadolig 2017) wedi’i gyhoeddi’n rhwydd, gan ddefnyddio’r argraffwyr blaenorol ym Mwcle, sydd yn rhatach ac yn hwylusach na’r wasg ym Mangor a ddefnyddiwyd ar gyfer rhifyn Haf 2017. Trowyd y fersiwn “Word” electronig yn fersiwn “.pdf” gan yr Archwiliwr Mygedol, ac fe’i gyrrwyd at bawb sy’n ei ddymuno. Mae 26 o 84 aelod y Gymdeithas yn derbyn y fersiwn electronig, bellach. Awgrymwyd y dylid cynnwys ym mhob rhifyn y dyddiad cau ar gyfer cyfraniadau i’r rhifyn dilynol. Byddai’n dda cael adolygiad o lyfr J. Beckerman ar Ffynnon Elian yn y rhifyn nesaf: y Golygydd i ofyn i Tristan Grey Hulse am un. Bydd angen i gyfraniadau at rifyn Haf 2018 gyrraedd y Golygydd erbyn diwedd mis Mai.

6. Adroddiad y Trysorydd.

Cyflwynodd y Trysorydd adroddiad hyd at y 5ed o Fawrth 2018. Y mae’r sefyllfa’n well nag y bu’r llynedd, gyda £142 yn fwy yn y coffrau, yn rhannol oherwydd ei waith yn cysylltu ag aelodau oedd heb ailymaelodi. Bu i ychydig beidio ag ailymaelodi oherwydd eu bod yn heneiddio, a’u  golwg yn pallu, ond yn gyffredinol bu ymateb da, gyda rhai yn ychwanegu rhoddion ariannol. Diolchwyd i’r Trysorydd a’r Archwiliwr Mygedol am eu gwaith manwl a thrafferthus gyda hyn.  

Mae derbyn £479 o arian aelodaeth yn ffafriol o gymharu â blynyddoedd diweddar; anelir at ragor eleni. Mae 84 o aelodau ar hyn o bryd, 39 yn rhai am oes; 24 yn talu trwy archeb banc (codiad sylweddol), a 21 yn talu’n flynyddol. Penderfynwyd, onid yw aelod wedi talu erbyn y 1af o Hydref, yna y dylid gyrru llythyr atgoffa ato neu ati, gan ddatgan mai dull y Gymdeithas o dalu yw trwy’r banc, onid oes rheswm penodol pam na ellir hynny.

Awgrymodd y Llywydd y dylid cynnwys yn “Llygad y Ffynnon” apêl garedig am gyfraniad ariannol gan y rhai sy’n derbyn copi papur, gan fod costau postio ac argraffu yn cynyddu. Awgrymodd y Trysorydd y dylid rhoi’r arian at brosiect penodol, sef cyhoeddi llyfr y Cadeirydd ynghylch  ffynhonnau de Cymru, nas cyhoeddwyd hyd yn hyn. Awgrymodd y Llywydd y dylai’r Cadeirydd a’r Ysgrifennydd ar y cyd fod yn gyfrifol am baratoi’r gwaith, ac y byddai yntau yn fodlon cynorthwyo gyda gwybodaeth o gasgliadau’r Amgueddfa Werin. Gallai hwn fod yn gynllun tair blynedd, gyda’r Gymdeithas yn cyhoeddi. Gellir cyhoeddi fersiwn electronig am y nesaf peth i ddim arian.

7. Cynlluniau ar gyfer y dyfodol:

·                     Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Orffennaf yr 21ain ym Mhlas Tan-y-bwlch. Mae angen trefnu’r cyfarfod flwyddyn o flaen llaw, ac awgrym y Llywydd oedd bod angen denu pobl yno trwy hysbysrwydd o flaen llaw.

 

·                     Cyfarfod y Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, ddydd Mawrth y 7fed o Awst 2018. Mae ystafell wedi’i harchebu gan yr Ysgrifennydd, a thalwyd amdani. Bydd y Llywydd yn traddodi ynghylch “Ffynhonnau Caerdydd”; cyhoeddwyd crynodeb yn “Y Dinesydd” eisoes. Ymddiheurodd y Llywydd am gynllunio geiriad y dystysgrif ddiolch i Thelma a Barry Webb heb ymgynghori â’r Gymdeithas, ond roedd angen brys er mwyn ei chwblhau mewn pryd. Mae’r Llywydd am dalu i Tegwyn Jones, Bow Street, am y llythrennu, ond awgrymodd y gallai’r Gymdeithas, efallai, gyfrannu at hanner pris y fframio. Cytunwyd i hynny.

Yr Ysgrifennydd i  gyfieithu ar y pryd os daw Thelma a Barry i’r cyfarfod anrhydeddu yn yr Eisteddfod. Ar gynnig y Llywydd, cytunwyd i anfon tocyn o ffurflenni ymaelodi ac ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon” iddo, i’w rhoi yn lle’r Amgueddfa Werin yn “Lle Hanes” yr Eisteddfod eleni.

 

·                     Cyfarfod y Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, 2019

Awgrymodd y Llywydd y dylai’r Gymdeithas anelu at ymbresenoli yn y “Lle Hanes” yn Eisteddfod 2019, gan y bydd nifer dda o’r aelodau yno. Dywedodd y Cadeirydd y byddai angen i rywun fod yno’n barhaus, ac na cheir yno ddim ond darn o fwrdd a’r wal y tu cefn.

Yn siaradwr posibl yn y cyfarfod yn yr Eisteddfod, awgrymwyd Gareth Pritchard, sydd yn byw yn Rhiwledyn, Llandudno: y Cadeirydd i ofyn iddo, daw ateb erbyn Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas yng Ngorffennaf. Yn enwau eraill awgrymwyd Janet Bord neu Angharad Wynne, sydd yn wybodus, ac yn byw ger Llantrisant. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2020 yng Ngheredigion.

·                     Ethol rhagor o aelodau Cyngor.

Gan fod nifer aelodau’r Cyngor yn prinhau, awgrymwyd y canlynol yn rhai y gellid gofyn iddynt a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn dod yn aelodau ohono:

Janet Bord; Elfed Gruffydd;  Anne Owen; Bleddyn Jones Swyddog AHNE Llŷn; Einion Tomos, Archifydd Prifysgol Bangor; Steffan ab Owain; Hedd Ladd-Lewis; Cynan Jones, Beddgelert; Tecwyn Vaughan Jones; Dafydd Whiteside Thomas, Llanrug, ac Angharad Wynne, Llantrisant. Cytunodd y Trysorydd i ofyn i Angharad Wynne. Penderfynwyd cysylltu â’r unigolion hyn, gan eu cael yn aelodau o’r Gymdeithas yn gyntaf, onid ydynt eisoes. 

 

·                     Ystyried penodi Swyddog Cyhoeddusrwydd.

Tybiai’r Llywydd bod angen un, ond bod rhaid cael rhywun sydd ar gael i wneud y gwaith. Dywedodd fod angen rhoi rhagor o gyhoeddusrwydd i’r Gymdeithas, a rhannu baich yr Ysgrifennydd / Golygydd “Llygad y Ffynnon”. Gan y byddai’n swydd wirfoddol, byddai’n rhaid cael rhywun sydd â chariad at ffynhonnau, yn ogystal ag amser, egni ac ymroddiad. Os gellir cael rhagor o aelodau, efallai y gellir cael hyd i rywun yn eu plith.

Penderfynwyd ailgyhoeddi’r alwad am Swyddog Cyhoeddusrwydd a ymddangosodd yn rhifyn diwethaf “Llygad y Ffynnon”.

8. Unrhyw fater arall.

 

·                     Dywedodd y Llwydd fod sawl cymdeithas bellach yn cynnal cyfarfodydd ffôn, neu Skype. Pan fo angen trafod materion penodol, pendant, er enghraifft, ac er mwyn arbed costau teithio. Nid yw’r dechnoleg ddim yn broblem.

               Penderfynwyd ystyried yr awgrym.

·                     Dyddiad y cyfarfod Cyngor nesaf: penderfynwyd gadael y pwnc tan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf.

 

·                     Cyfarfod Cadwch Cymru’n Daclus ym Mhlas Glyn-y-weddw yn Nhachwedd 2017. Dywedodd y Trysorydd y bu’n gyfarfod buddiol, a fu yno ac mewn cysylltiad â’r trefnydd, Angharad Wyn. Ym mis Mawrth eleni anfonwyd at Cadwch Cymru’n Daclus adroddiadau o’r tri chyfarfod a gynhaliwyd yn Llŷn, Brycheiniog a Sir Benfro, gan argymell adfer 20 o ffynhonnau, cael cynllun codi ymwybyddiaeth leol, a phobl i’w gwarchod a’u cynnal.

Yr ydys yn aros am adborth gan Cadwch Cymru’n Daclus. Mae angen gwaith cyllido i baratoi cais i’w roi gerbron Cronfa’r Loteri.

 

·                     Wrth i’r Llywydd gyflwyno i Richard Segget o’r Comisiwn Henebion, arbenigwr ar dai cynnar, gopi o ail argraffiad ei gyfrol ynghylch Hedd Wyn, darfu iddo sôn wrth y Comisiwn y byddai’n dda iddynt roi ar eu hagenda gynnal arolwg safonol o ffynhonnau gan ddefnyddio’r holl wybodaeth sydd ar gael ac wedi’i chrynhoi. Nid yw’r pwnc yn cael ei ystyried gan y Comisiwn ar hyn o bryd, felly dylai’r Gymdeithas ysgrifennu atynt. Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi ysgrifennu atynt flynyddoedd yn ôl, ond mai’r ateb oedd bod angen i ffynnon fod â nodweddion neilltuol yn y gellid ei chofrestru a’i gwarchod. Penderfynwyd ailysgrifennu at y Comisiwn.

 

·                     Awgrymodd yr Archwiliwr Mygedol y dylid cael gofod yn “Llygad y Ffynnon”  ar gyfer yr aelodau. Byddai yn cynnwys materion megis yr isod:

1.                   Pwy yw’r swyddogion, gyda lluniau ohonynt.

2.                   Cofnodion y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor

3.                   Hysbysiad Preifatrwydd o dan Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

4.                   Hysbysebion y Gymdeithas

5.                   Gwybodaeth am y wefan, Cryno ddisg “Llygad y Ffynnon”  ayb

Derbyniwyd yr awgrym.

Gan nad oedd dim rhagor i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben am 16:15 o’r gloch.

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

FFYNNON PEN-Y-BRONNYDD, TREGARTH

 

Ffynnon Pen-y-bronnydd, Tregarth.

 

Y ffynnon yn ei chynefin. Mae’r bibell ddraenio ar waelod y llun yn mynd â dŵr i gae islaw..

Saif rhes tai Pen-y-bronnydd (neu Ben-y-bronydd) yng nghymuned Tregarth, ar ochr orllewinol Lôn Tal Cae sy’n arwain o’r A5 i Dregarth, yng Nghyfeirnod Arolwg Ordnans SH 60342 68738. Cofnodwyd yr enw’r tai gyntaf tua’r flwyddyn 1900, ond ceir yr enw “Pen y bronnith” yn nogfen Ystâd y Penrhyn dyddiedig 1717.

Rhed llwybr o Lôn Tal Cae heibio i flaen y rhes tai, i gyfeiriad Cororion. Gam neu ddau chwith o’r llwybr, mewn clwt o dir gwlyb, ceir ffynnon adeiledig at ddefnydd gwlad. Nid yw’n ffynnon sanctaidd: mae’n gyflenwad dŵr go ddibynadwy at ddibenion  beunyddiol; rhywbeth sy’n gynyddol brin y dyddiau hyn.

Fis Tachwedd diwethaf daeth i sylw Cymdeithas Ffynhonnau Cymru bod cais wedi’i wneud gan gwmni Cornerstone Telecommunications Infrastructure Ltd (Slough) am ganiatâd cynllunio ar gyfer codi mast telathrebu 17.5m, dau gabinet offer, un cabinet mesurydd ac offer cysylltiedig ar y tir yn union y tu ôl i’r ffynnon. Barn y rhai cyfarwydd â’r safle yw y gallai hyn arwain at ddifrodi neu hyd yn oed ddileu’r ffynhonnell hon.

Wedi ymweld â’r safle, gyrrwyd gwrthwynebiad at Gyngor Gwynedd yn enw’r Gymdeithas, yn gofyn nid am atal y cynllun, ond am leoli’r mast a’r offer ychydig ymhellach o’r ffynnon ei hun. Teimlid y byddai hynny’n gyfaddawd derbyniol gan bawb. Cyhoeddwyd yn y North Wales Chronicle 17.5.18, fodd bynnag, fod y Cyngor wedi penderfynu caniatáu’r cais cynllunio er gwaethaf pob gwrthwynebiad.

Nid oedd unrhyw reswm cynllunio, meddid, yn erbyn hynny, ac roedd cais blaenorol ar safle 200 medr i’r de wedi’i atal oherwydd yr effaith bosib ar heneb gofrestredig Cytiau Parc Gelli.

                Howard Huws

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

YN EISIAU: SWYDDOG CYHOEDDUSRWYDD

Mae ar Gymdeithas Ffynhonnau Cymru angen Swyddog Cyhoeddusrwydd er mwyn cynyddu diddordeb y cyhoedd ym mhwnc ffynhonnau Cymru’n gyffredinol, ac yn eu harwyddocâd hanesyddol a diwylliannol. Hynny er mwyn ceisio diogelu ein ffynhonnau, a chadw a lledaenu gwybodaeth yn eu cylch. Gwaith y Swyddog fydd:

 

·                     Tynnu sylw at ffynhonnau lleol, eu hanes a’u traddodiadau, gan ysgogi casglu gwybodaeth amdanynt;

·                     Codi ymwybyddiaeth ynghylch ffynhonnau ymysg cynghorau lleol a chymdeithasau bro;

·                     Annog ysgolion i gyflwyno ffynhonnau lleol i blant yn rhan o’u gweithgareddau addysgiadol;

·                     Diogelu ffynhonnau rhag eu difrodi, eu hanghofio neu’u colli;

·                     Hyrwyddo Cymdeithas Ffynhonnau Cymru a chynyddu ei haelodaeth.

Swydd ddi-dâl, wirfoddol fydd hon, ond byddai’n ychwanegiad gwerthfawr at grynodeb gyrfa unrhyw unigolyn sy’n amcanu gweithio ym meysydd cadwraeth, addysg, hanes neu gymdeithaseg.  

Y mae’n swydd ddelfrydol at gyfer unigolyn brwdfrydig a gweithgar o unrhyw oedran, ac yn neilltuol ar gyfer rhywun sydd am brofiad gwaith cyn mynd ymlaen i addysg bellach neu swydd arall.

Y mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, a byddai trwydded yrru yn fanteisiol iawn. Dylai’r sawl sydd â diddordeb gysylltu â’r Ysgrifennydd yn cyfarchiad@yahoo.co.uk neu trwy alw 07870 797655 / 01248 351503.

 

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD (yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol)

Mae gan y gymdeithas wybodaeth am enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-byst aelodau mewn ffeil ar gyfrifiadur. Cafwyd y wybodaeth hon o’r ffurflen gais am aelodaeth a dderbyniwyd gan y Gymdeithas. Defnyddir yr wybodaeth i gysylltu â’r aelodau ynglŷn â materion yn ymwneud â’r Gymdeithas, megis cylchredeg ein cylchgrawn “Llygad y Ffynnon”, ac i brosesu tanysgrifiadau’r aelodau . Bydd y data y mae’r Gymdeithas yn ei gadw yn cael ei drin yn gyfrinachol, gyda hawl gweld gan Swyddogion y Gymdeithas yn unig. Pan ddelo aelodaeth i ben diddymir cofnod yr aelod oddi ar y ffeil aelodaeth. Mae gan Aelodau hawl i gopi caled, o fewn mis o ofyn amdano, o’r  wybodaeth amdanynt a gedwir gan y gymdeithas, a’r hawl i ofyn am gywiro eu gwybodaeth neu’i diddymu oddi ar y cyfrifiadur. Ynghylch y materion hyn dylid cysylltu â Thrysorydd y Gymdeithas. 

Derbynwyd yr uchod gan Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas ar Mawrth y 24ain o Ebrill 2018.

 CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

“Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru. Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth. Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein.

CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC

 

Home Up