Llygad y Ffynnon
Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Rhifyn 43, Nadolig 2017
Gwiriwch
Eich Ffynonellau!
Eleni
cyhoeddwyd llyfr diddorol iawn o’r enw “Golwg Newydd ar yr Hen Ogledd”,
gan Glan George (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch). Y mae’n trafod pwnc hen
deyrnasoedd Brythonaidd y tiroedd sydd heddiw yng ngogledd Lloegr a de’r
Alban, a faint o’u hanes a’u diwylliant sydd wedi goroesi yno hyd y dydd
hwn. Gyda hynny mewn golwg, cyfeirir (ar dudalen 328) at ddwy ffynnon, sef
“Ffynnon y Santes Helen” ym mhentref Great Asby yn Cumbria (gweler y llun
uchod) a “Ffynnon Powdonnet” ger Morland. Dyma a ddywed Glan George:
“I’r hen Geltiaid, roedd lleoedd gwlyb yn fannau
sanctaidd, fel y tystiai’r creiriau a daflwyd i lynnoedd fel Llyn Cerrig Bach.
Gyda thwf Cristnogaeth, diflannodd y mwyafrif o’r defodau oedd yn ymwneud â dŵr,
ond parchuswyd eraill i’w cynnal ar wedd newydd. Dyna a ddigwyddodd i rai o
ffynhonnau paganaidd Ardal y Llynnoedd, trwy newid eu henw a throi’r ddefod yn
ddefod
Gristnogol. Un enghraifft yw’r ffynnon a gysylltid â’r
dduwies Geltaidd Alauna ym mhentref
Great Asby. Wedi derbyn y ffydd, newidiwyd yr enw i ‘St Helen’s Well’,
felly nid syndod gweld mai eglwys y pentref oedd yn gyfrifol am adnewyddu’r
safle yn 2008.
“Mae’n debyg mai’r syniad bod gan y dŵr rhyw
briodoledd iachusol oedd yn gyfrifol am oroesiad Ffynnon Powdonnet ger Morland
er bod y cof am ragoriaethau’r dŵr wedi pallu. Yn y ganrif ddiwethaf
dywedir mai hen wraig o’r pentref oedd yn gwarchod y safle, ond y mae’n
derbyn mwy o sylw erbyn hyn. Ymddengys o sillafiad yr enw mai ‘Pwll Dunawd’
oedd yr enw gwreiddiol ond ni wyddys pwy oedd hwnnw. Dunawd oedd enw mab Pabo
Post Prydain [sic] yn y chweched ganrif ond yr oedd teyrnas Pabo ymhell tua’r
gorllewin. Gwyddys o ganu Taliesin fod gan Urien lys ar lannau afon Lyvennet ond
gall y ffynnon fod yn llawer hŷn na hyn. Pan ymwelais á’r safle beth
amser yn ôl, yr oedd rhywun wedi gosod maen hir gyda’r enw ‘Powdonnet’
wrth ymyl y ffynnon ac yr oedd tusw o gennin Pedr wrth ei droed.”
Mae’r dyfyniad uchod yn ddiddorol, ond hefyd yn amlygu
rhai o’r anawsterau sy’n wynebu’r sawl a gais wybodaeth am ffynhonnau.
Mae’n wir y ceir ffynhonnell gref a pharhaus o’r enw “St Helen’s Well”
yn Great Asby, ac y ceir hefyd dduwies Geltaidd o’r enw Alauna sydd â mannau
wedi eu henwi ar ei hôl yn Llydaw, Ffrainc, Yr Alban a Lloegr, megis afon Aulne
yn Llydaw; caerau Rhufeinig Alaunia (Maryport a Kendal) yn Cumbria; afon Aln yn
Northumbria, ac efallai Allan Water yn yr Alban.Tenau, fodd bynnag, yw’r
dystiolaeth o blaid awgrym a wnaed (gan G.
Jones yn ei “Holy wells and the cult of
St Helen” yn y cylchgrawn Landscape
History, 1986) bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y dduwies hon â St
Helen’s Well yn Great Asby, a ffynhonnau Helen yn gyffredinol. Yr un mor
simsan yw’r goel bod a wnelo Ffynnon Helen â duwies Geltaidd o’r enw
“Elin”; a bod agos pob ac unrhyw ffynhonnell ddŵr gerllaw neu o
fewn golwg unrhyw
eglwys yn “ffynnon sanctaidd” (Cumberland and Westmorland
Herald, 26.1.2007). Pedr, nid Helen, yw nawddsant eglwys Great Asby.
Maen
hir Powdonnet, a godwyd ym 1994
Ddim mor hynafol, felly!.
Felly
hefyd yn achos ffynnon Powdonnet. Crybwyllir yr enw “Powdonet” gyntaf ym
1637, ond nid oes sôn am “Powdonnet Well” hyd 1859. Yn ôl erthygl yn y Cumberland
and Westmorland Herald 10.6.1999, nid yw dŵr y ffynnon byth yn pallu,
nac yn rhewi. Mab Pabo Post Prydyn, yn ôl yr hen achresi, oedd Dunawd, tad
Deiniol Sant ac ewythr Asaff a Thysilio: ond ni wyddom ymhle’n union yr oedd
teyrnas Pabo, ac nid yw’n amhosibl y bu ganddo gysylltiad â dyffryn
Llwyfenydd (Lyvennet).
Efallai’n wir mai o “Pwll Dunawd” y daw
“Powdonnet”, ac efallai mai Dunawd fab Pabo oedd hwnnw: ond yr un mor
debygol yw mai Dunawd neu Donnet arall roddodd ei enw ar y ffynnon. Bu
“Donatus” a ffurfiau arno megis Dunawd neu Dunwyd yn enw eithaf cyffredin,
nid un unig ymysg Brythoniaid ond hefyd ymysg
Gwyddelod a Normaniaid. Nid oes dim i gysylltu’r safle
ag unrhyw sant o'r enw “Dunawd”, ac fe gysegrwyd yr eglwys leol yn enw Sant
Lawrens.
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Atgof
ynghylch Ffynnon Feuno, Tremeirchion (1856).
“Y tu hwnt i’r pentref [Tremeirchion], ac wedi disgyn
tua milltir i lawr yr allt, heibio i gellïoedd ffynidwydd, a choed deiliog Plas
Brynbela, deuthum at droed yr allt, ac ychydig lathenni o ymyl y ffordd
safai’r dafarn, y siop groser, a’r ffermdy a elwid yn Ffynnon Beuno...O’i
chymharu â ffynnon enwog y Santes Wenfrewi yn Nhreffynnon, mae’r eiddo Beuno
Sant yn eithaf dinod, heb rinweddau y tu hwnt i burdeb a chroywder. Cesglir y dŵr
mewn tanc carreg yn nesaf at dŷ Ffynnon Beuno, a chaniateir iddo ddianc, er
budd y pentrefwyr, trwy geg agored portread anghelfydd o ben dynol, sydd
wedi’i osod yn y wal flaen.” Stanley,
H. M., a Stanley, D. The Autobiography of
Sir Henry Morton Stanley. Santa Barbara: The Narrative Press, 2001, t. 50.
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFf
‘…yn enwog am Iacháu pob Clefyd…’:
Saint
Govan’s Well yn ystod 350 mlynedd
(parhad).
Er mwyn cymhlethu rhagor ar hyn, awgrymwyd hefyd mai Gawain, un o
farchogion enwog Bwrdd Crwn Arthur, oedd Gofan. Ffurfiwyd y cysylltiad hwn dros
ganrifoedd o amser, os yw crynodeb gan Cosmo Innes yn y 19eg ganrif
yn gywir: ond nid yw ei ymdriniaeth ef â’r chwedl ond yn ymwneud â manylion
claddu Gawain wedi’i farwolaeth, ac nid yw’n ystyried y gallasai fod yn sant
yn byw mewn cell unig ar lan môr Sir Benfro.
“Lladdwyd Syr Gawain,
marchog enwog y Bwrdd Crwn, gan Syr Lawnslot, a hawliodd llawer i fan anrhydedd
cadw ei weddillion: dywed Langtoft y’i claddwyd yn Wybre yng Nghymru;
lleola Caxton a Leland ei fedd yn Nofr; ac yn ôl y Brut, cludwyd ef
i’w famwlad, Yr Alban. Bu bod enw mor debyg â Govan, a gysylltir â man
hynod, yn ddigon, i bob golwg, i gyfiawnhau hawliad ar ran Sir Benfro. Nid
yw’r honiad, er mor rhyfedd, yn gyfoes, oherwydd edrydd William o Malmesbury
am ganfod ar lan môr rhanbarth Rhos yng Nghymru, yng nghyfnod Gwilym Goncwerwr,
fedd Gawain, 14 troedfedd o hyd; a hefyd y llongddrylliwyd y marchog anafedig ar
y lan, ac y’i lladdwyd gan y brodorion. Gwrthyd Leland y chwedl, ond cofnoda
fod adfeilion castell ar y lan, ag arno enw Gawain; a dywed Syr F. Madden
[hynafiaethydd, 1801-73] y daliai traddodiad y fro mai yn St. Govan’s Head y
claddwyd nai’r Brenin Arthur.”2
Hawliwyd hefyd mai Gawain oedd Gwalchmai, cymeriad chwedlonol o’r
traddodiad Cymreig, sydd a’i enw i’w gael yn Sir Benfro. Mae Castell
Gwalchmai (“Walwyn’s Castle”) tua 16 milltir i’r gogledd-orllewin o St
Govan’s Head, ac y mae cysylltiadau lleol eraill: dywedodd Lewis Morris fod
bedd Gwalchmai rhwng ynysoedd Sgomer a Sgogwm, nid nepell oddi wrth y lan
tua’r gogledd-orllewin. Ymddengys yn ddichonol, gan nad oes ond ychydig
filltiroedd rhwng y lleoliadau Gwalchmai/Gawain a Govan, y bu i’r tebygrwydd
enwau achosi i’r traddodiad Syr Gawain ymledu i’r de i diriogaeth St Govan,
fel y dengys sylw o eiddo Syr Frederic Madden a nodwyd uchod. Ymddengys mai ef
oedd y cyntaf i gamleoli bedd Gawain o Gastell Gwalchmai i St Govan’s Head,
felly nid yw’r dybiaeth mai Gawain yw Govan ond yn dyddio o hanner cyntaf y 19eg
ganrif.3
Ymddengys fod pawb wedi rhoi cynnig ar ganfod pwy yw “St Govan”, ac
at feirniadu cynigion pobl eraill hefyd, a nodweddiadol o hynny yw’r
troednodyn canlynol o lyfr o ddiwedd y 19eg ganrif ynghylch
Dinbych-y-pysgod a’i chyffiniau:
“Y
mae’r marchog dewr - y Syr Gawain, o Fwrdd Crwn y Brenin Arthur da - wedi’i
drawsffurfio, gan gamdybiaeth gyffredin, yn sant. Nid oes diwedd ar y straeon
ofergoelus y mae lleoliad neilltuol adeilad cysegredig wedi’u hachosi.” -
Malkin. [Mae Benjamin Heath Malkin (1769-1843) yn ei ysgrifau ei hun wastad yn
cyfeirio at “Sir Gawaine’s Chapel” yn hytrach na St Govan’s Chapel.]
Nid yw Malkin yma, yn ogystal ag yn llawer o’i ragdybiaethau eraill,
i’w bwyso arno; dichon fod yr enw yn llygriad o Sant Giovanni, i ba un y
cysegrwyd y capel.”4
Nid oedd unrhyw obaith o gwbl mai’r un oedd St Govan â Sant Giovanni
Eidalaidd sydd, debyg, yn Sant Ioan Efengylwr neu’n Sant Ioan Fedyddiwr, ac
nid yn Sant Ioan Eidalaidd ar wahân. Mae uniaethiad llawn mor annhebygol yn
gwneud Govan yn ddynes, y Santes Cofen, gwraig brenin Cymreig o’r 6ed ganrif:
“Yr oedd y Santes Cofen, Govein, neu Goven yn santes Gymreig gynnar, yn
wraig Tewdrig ac yn fam Mewrig,
brenhinoedd De Cymru.”5 Cyfeiria
Malkin hefyd at St Goven Brydeinig, ac â ymlaen i ddweud: “Weithiau
camgymerir St. Goven a St. Golwen hwy ill dwy am Godwin”, ac yna crybwylla
“a saint Golwin”6 : ymddengys
fod pob amrywiad sillafu wedi ymddangos yn rhywle er mwyn ceisio esbonio pwy
oedd y sant annirnad hwn. Cydsynnir heddiw, i bob golwg, mai’r Sant Gobhan
Gwyddelig oedd Govan - ond fel y sylwyd uchod, mae hynny’n debyg o fod yn
anghywir, a’r tebyg yw y bu’n sant brodorol o Sir Benfro am yr hwn ni wyddys
dim.
Mae peth tystiolaeth go anhysbys na chysylltir St Govan
ond â’r capel clogwyn adnabyddus sydd heddiw’n dwyn ei enw: mae’n bosibl
y bu’n weithredol, hefyd, yn Arberth tua 12 milltir i’r gogledd-ddwyrain o
St Govan’s Chapel, ardal yn yr un ddeoniaeth wledig â Bosherston. Mae
Dosraniad Degwm Arberth yn cynnwys yr enwau caeau hanesyddol “Upper Saint
Gowens” a “Lower Saint Gowens”, gyda Gowen yn un o’r ffurfiau eraill ar
Govan. Dri chwarter milltir i’r gogledd-ogledd-orllewin o’r ddau gae hyn mae
St Owen’s Well yn Stoneditch Lane gyferbyn â thŷ a enwir, bellach yn
“The Valley”.
Mae’n annhebyg mai’r “Owen” yw’r St Owen
anhysbys sy’n ymddangos ym Muchedd y Santes Milburga (mae ganddo ffynnon yng
Ngweunllwg yn Swydd Amwythig), na Sant Ouen esgob Rouen sydd â’i barch yn
fawr yng ngogledd Ffrainc, na’r merthyr yr Iesüwr Sant Nicholas Owen;
ymddengys, yn hytrach, fod yr enw’n fersiwn o “Gowen”, yn deillio (debyg)
o’r modd y treiglir rhai enwau yn dilyn "ffynnon" neu
"llan". Felly byddai St Gowen’s Well yn Gymraeg yn Ffynnon Owen, yn
union fel yr oedd gan y sant a elwid Gallgo ym Môn ei Lanallgo a’i Ffynnon
Allgo.
Yr hen Reithordy fu’r “Valley” ar un adeg, a dyna’r enw arno ar
Fap AO 1888. Dywedwyd wrth gyn-reithor Arberth gan “blwyfolyn hen iawn” tua
1884 i’w rieni ddweud wrtho y bu yn y cae wrth y tŷ adeilad hynafol lle
cynhaliwyd priodasau, Cynhwyswyd rhannau o’r adeilad hwn yn y Rheithordy, a
adeiladwyd ym 1827. Dywedodd y rheithor hefyd bod “ffynnon ar ffurf cwch
gwenyn o ddŵr rhagorol” gerllaw’r adfeilion: sef St Owen’s Well, enw
a gofnodwyd tua 1700 gan Edward Llwyd. Cofnodwyd
yr enw “Henllan” yn Stoneditch ym 1688; a chanfuwyd carreg fedd
arysgrifynedig o’r 6ed ganrif yma, hefyd. Maent oll yn awgrymu y bu eglwys
wedi’i chysegru i St Govan yn Arberth, un y collwyd pob atgof amdani bellach
heblaw am yr ychydig awgrymiadau hyn.7
(I’w pharhau)
Nodiadau
2 Cosmo Innes, wedi’i
ddyfynnu yn The Cambrian Journal (Tenby,
1860), 76; William o Malmesbury, Gesta
Regum Anglorum: General Introduction and Commentary (Oxford, 1999), II, 261
3 Peter C. Bartrum, A
Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth,
1993), 303-5
4 Mr a Mrs S.C. Hall, Tenby:
Its History, Antiquities, Scenery, Traditions, and Customs (Tenby, 2il
arg., 1873), 45
5 Y Parch. James B. Johnston,
The Place-Names of England and Wales (London, 1915), 428
6 Benjamin Heath Malkin, The
Scenery, Antiquities, and Biography, of South Wales (London, 2il
arg., 1807), II, 381
7 Cofnodion Ymddiriedolaeth
Archeolegol Dyfed o St Owen’s Well: PRN
3756 a PRN 3622. Gweler hefyd The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments and
Constructions in Wales and Monmouthshire, An Inventory of the Ancient Monuments
in Wales and Monmouthshire, VII County of Pembroke (London, 1925), 249-50.
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Y
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Canolfan
Tan-y-bwlch, Maentwrog, 15.7.2017.
Cynhaliwyd
y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni yng Nghanolfan Tan-y-bwlch, Maentwrog, a
chafwyd diwrnod cofiadwy iawn yn y lle hyfryd hwnnw.
Yn bresennol oedd Eirlys Gruffydd-Evans (Cadeirydd), Robin
Gwyndaf (Llywydd), Howard Huws (Ysgrifennydd a Golygydd “Llygad y Ffynnon”),
Gwyn Edwards (Trysorydd), Dennis Roberts (Archwiliwr Mygedol), Anne Williams,
Howard Williams, Dafydd Jones, Anne Owen ac Elisabeth Rees. Derbyniwyd
ymddiheuriadau Bill Jones.
Wedi gair o groeso gan y Cadeirydd, darllenwyd cofnodion y
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol blaenorol, ac fe’u cafwyd yn gywir. Cododd y
materion canlynol ohonynt:
Adolygu’r
rhestr aelodaeth.
Y mae’r rhestr aelodaeth wedi’i hadolygu’n drylwyr
gan D. Roberts a G. Edwards. Darparodd D. Roberts y rhestr aelodaeth
ddiweddaraf. Mae 97 o enwau arni erbyn hyn, 40 ohonynt yn aelodau am oes.
Penderfynwyd rhoi cyfle i 30 sydd heb dalu’r tâl aelodaeth eto dalu, ac felly
aros yn aelodau: ond os felly, y byddai’n rhaid iddynt dalu cyn dyddiad
penodedig. (Y dyddiad a ddewiswyd yn ddiweddarach gan y swyddogion oedd y 30ain
o Dachwedd 2017, a gyrrwyd llythyrau at bob un o’r 30 i’w hysbysu ynghylch y
penderfyniad.)
Awgrymodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod adeg yr
Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle i gael aelodau newydd. Ar awgrym y Llywydd,
penderfynwyd newid y ffurflen aelodaeth er mwyn hwyluso ymaelodi trwy archeb
banc yn unig (oni bai bod hynny’n hollol amhosibl), neu ymaelodi am oes.
Penderfynwyd dylid darparu cyfle i aelodau roi rhodd ariannol i’r Gymdeithas,
gan ddiolch iddynt am hynny yn nhudalennau “Llygad y Ffynnon”.
Penderfynwyd rhoi ffurflen ymaelodi ym mhob copi o
“Llygad y Ffynnon”, ac annog pob
aelod i geisio cael un aelod newydd arall.
Yn dilyn awgrym yr Ysgrifennydd, penderfynwyd hefyd y
dylid penodi Swyddog Cyhoeddusrwydd. Gallai swyddog o’r fath:
·
dynnu sylw at
ffynhonnau lleol, eu hanes a’u traddodiadau, gan ysgogi casglu gwybodaeth
amdanynt;
·
codi
ymwybyddiaeth ynghylch ffynhonnau ymysg cynghorau lleol a chymdeithasau bro;
·
annog ysgolion i
gyflwyno ffynhonnau lleol i blant yn rhan o’u gweithgareddau addysgiadol; a
thrwy hyn oll
·
diogelu
ffynhonnau rhag eu difrodi, eu hanghofio a’u colli.
Archifau’r
Gymdeithas.
Mae archifau’r Gymdeithas yng nghartref y Cadeirydd, a
hithau’n ceisio eu didoli, ond y mae hynny’n gryn waith. Awgrymodd y Llywydd
fod y Llyfrgell Genedlaethol yn medru rhoi trefn ar archifau, ac mai digon
fyddai llunio rhestr fras o’r cynnwys, a rhannu’r deunydd gweinyddol o’r
deunydd hanesyddol. Penderfynwyd y dylai’r archifau i fynd i’r Llyfrgell
Genedlaethol.
Materion
yn codi o Gyfarfod Pwyllgor y Gymdeithas, 1.4.17.
Penodi Eirlys Gruffydd-Evans yn Gadeirydd y Gymdeithas.
Diolchodd y Llywydd i’r Cyn-gadeirydd, D. Jones, am ei barodrwydd i sefyll yn
y bwlch. Ar gynnig y Llywydd, pleidleisiwyd dros benodi E. Gruffydd-Evans yn
Gadeirydd.
Gyrru copi electronig o fynegai ffynhonnau sanctaidd Dyfed
i’r Cadeirydd. Y mae’r Ysgrifennydd wedi gwneud hynny.
Rhoi gwybod i Wasg y Lolfa fanylion cyswllt cywir y
Gymdeithas. Y mae’r Ysgrifennydd wedi gwneud hynny.
Gyrru copi electronig o “Llygad y Ffynnon” at bob
aelod y mae gennym eu cyfeiriad e-bost, er mwyn eu hannog i dderbyn y newyddlen
trwy e-bost yn unig o hynny ymlaen. Y mae D. Roberts wedi gwneud hynny.
Gofyn i Rhys Mwyn ymuno â’r Cyngor. Y mae’r Ysgrifennydd wedi gwneud hynny, a bu iddo gytuno
Cynhadledd Waterford. Adroddodd yr Ysgrifennydd ei fod
wedi mynd i gynhadledd “An Tobar: Sacred Springs and Holy Wells” yn
Waterford ar Fehefin 26-27 2017 ar ran y Gymdeithas. Bu’n gynhadledd hynod
ddiddorol, difyr a llwyddiannus y gellid ei chrynhoi, yn fyr iawn, fel a ganlyn:
·
Roedd yno tua
hanner cant o academyddion a chynrychiolwyr o Ewrop a Gogledd America.
·
Trafodwyd
amrywiaeth eang o bynciau cysylltiedig â ffynhonnau sanctaidd, gan gynnwys tri
phwnc yn ymwneud yn uniongyrchol â Chymru sef arolwg electronaidd o ffynhonnau
sanctaidd Llŷn (Graham Jones); arolwg newydd o ffynhonnau sanctaidd
gorllewin Cymru (Mike Ings, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed); ac ymdrechion
cymunedol a chadwraeth ffynhonnau sanctaidd a meddyginiaethol (Alexander
Makovics, Cadwch Gymru’n Daclus). Y mae’r arolygon hyn wedi esgor ar
gronfeydd gwybodaeth electronig fanwl y talai i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru gael
mynediad atynt.
·
Bu’r gynhadledd
yn gyfle gwych i ganfod a rhannu gwybodaeth nad oedd eraill yn ymwybodol ohoni,
yn enwedig gwybodaeth mewn ieithoedd arall na’r Saesneg.
·
Roedd rhai
cyflwynwyr, hyd yn oed academyddion, yn anymwybodol o ffynonellau gwybodaeth nad
ydynt yn Saesneg, ac yn cyfaddef nad oeddent wedi ystyried ffynonellau o’r
fath oherwydd y golygai hynny ormod o waith a thrafferth iddynt (hyd yn oed
ffynonellau Gwyddelig yn Iwerddon!). Gan fod
rhai arbenigwyr yn y maes yn Saeson uniaith, tueddent i Seisnigo’r
wybodaeth sydd ar gael mewn ieithoedd eraill. Enghraifft o hyn fu cyfeirio at
Ffynnon Meddygon ym Myddfai fel “The Physician’s Well”, enw na fu erioed
ar y ffynnon honno. Tanlinella hyn pa mor bwysig yw cadw enwau a thraddodiadau
brodorol, a chael cymdeithasau fel Cymdeithas Ffynhonnau Cymru sy’n gweithredu
trwy’r iaith frodorol.
·
Dangosodd y
cyflwyniadau dangos pa mor fregus yw safleoedd ffynhonnau, a’r traddodiadau yn
eu cylch. Gall ymdrechion trwsgl i ddiogelu safle ddinistrio tystiolaeth
archeolegol, a throi amgylchedd naturiol y ffynnon yn glwt o goncrit difywyd.
Gall traddodiadau ynghylch ffynhonnau ddiflannu o fewn 10-15 mlynedd i golli’r
trosglwyddwyr olaf, felly mae addysgu plant lleol yn bwysig. Gall trefnu
ymweliad dosbarth ysgol leol â ffynnon ddiogelu gwybodaeth am y safle a’i
draddodiadau am genhedlaeth gyfan.
Diolchwyd
i’r Ysgrifennydd am fynd i’r Gynhadledd ar ran y Gymdeithas.
Mynegai cynnwys “Llygad y Ffynnon”. Penderfynwyd y
dylai’r Ysgrifennydd adolygu’r
mynegai a gynhyrchwyd gan Ian Taylor, a thynnu sylw ato yn “Llygad y
Ffynnon”, gan ddiolch i Ian Taylor am ei waith.
Adroddiad yr Ysgrifennydd.
Adroddodd
yr Ysgrifennydd fod popeth mewn trefn ar hyn o bryd.
Adroddiad y Trysorydd.
Diolchodd y Trysorydd i Dennis Roberts am ei gefnogaeth
a’i gymorth parod. Mae’r gostyngiad yn nifer yr aelodau yn cael ei
adlewyrchu yn yr arian yn y banc. Bu trafferthion gyda ffurflenni archeb banc,
gan nad oedd y banciau’n eu prosesu. Bu i’r Trysorydd a’r Ysgrifennydd
ymweld â Banc HSBC yng Nghaernarfon er mwyn ceisio datrys yr anawsterau. Mae
taliadau hanner yr archebion wedi dod ar ddechrau mis Mehefin, ond nid eu taliad
cyntaf.
Mae un banc (Santander) wedi gwrthod â phrosesu archeb
oherwydd bod y ffurflen yn uniaith Gymraeg. Gofynnwyd a ddylid cysylltu â’r
Comisiynydd Iaith ynglŷn â hyn? Clywyd fod Cymdeithas Bob Owen yn darparu
archeb banc ddwyieithog, ac awgrymodd D. Roberts y dylid cael ffurflen o’r
fath dros dro. Cefnogodd y Cadeirydd hynny, ond y dylid dweud wrth y Comisiynydd
Iaith, hefyd. Rhybuddiodd y Llywydd y gallai cynnwys Saesneg ar y ffurflen
archeb esgusodi banciau rhag eu dyletswydd parthed y Gymraeg. Cytunodd D.
Roberts a D. Jones y dylid defnyddio ffurflenni dwyieithog, dan brotest.
Dywedodd y Trysorydd fod pob banc yng Nghaernarfon â staff sy’n siarad
Cymraeg, felly dylent fedru dweud wrth eu pencadlysoedd beth yw cynnwys
archebion banc Cymraeg, os oes angen.
Adroddiad yr Archwiliwr Mygedol.
Adroddodd
yr Archwiliwr Mygedol fod y cyfrifon yn gywir ac mewn trefn.
Adroddiad Golygydd “Llygad y Ffynnon”.
Ymddiheurodd y Golygydd am gamgymeriadau iaith niferus yn
Rhifyn 41 y newyddlen, a achoswyd gan gamddealltwriaeth â’r argraffydd ym
Mangor. Penderfynwyd cyfyngu’r fersiwn papur i 8 tudalen, yn hytrach na 12,
oherwydd y gost. Cynigiodd D. Roberts y gallai’r fersiwn electronig yn 12 neu
ragor o dudalennau, ac y gellid rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol ar wefan y
Gymdeithas. Cytunwyd ar hynny.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Penodi
Swyddog Addysg neu Gysylltiadau Cyhoeddus / Cyhoeddusrwydd.
Awgrymodd R. Gwyndaf y dylid cyhoeddi taflen ynglŷn
â’r Gymdeithas, gan gynnwys ffurflen aelodaeth, ac y byddai ef ei hun yn
fodlon talu am gynhyrchu taflen wybodaeth o’r fath yn gam cyntaf at waith hybu
cyhoeddusrwydd. Diolchwyd iddo, a chytunwyd i hynny.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylid gosod hysbyseb yn “Llygad
y Ffynnon” yn datgan ein bod yn chwilio am Swyddog Cyhoeddusrwydd (sy’n
cynnwys gwaith addysgiadol), gan ofyn a oes gan aelod o’r Gymdeithas
ddiddordeb. Cytunwyd ar hynny.
Awgrymodd D. Roberts y dylid yn gyntaf cael taflen yn
barod erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Awst, ac yna crybwyll yr angen am
Swyddog Cyhoeddusrwydd yn rhifyn nesaf “Llygad y Ffynnon”. Dywedodd y
Trysorydd y byddai hwn yn gyfle i rywun ifanc wneud gwaith gwirfoddol ar ôl
gadael coleg/ysgol. Ni fyddai tâl, ond byddai’n ychwanegiad da at CV rhywun
o’r fath.
Penderfynwyd y dylai’r Ysgrifennydd geisio llunio taflen
erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chael logo’r Gymdeithas gan D. Roberts.
Unrhyw fater arall.
Dywedodd
D. Roberts fod cryno-ddisg yn cynnwys ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon” 1-40
yn awr ar gael. Pan geir y mynegai, gellir ychwanegu hwnnw at wefan y
Gymdeithas.
Diolchodd y Llywydd i’r swyddogion eraill am eu gwaith.
Dywedodd fod Barry Webb a’i wraig Thelma, arbenigwyr ar ffynhonnau, wedi rhoi
cist fawr o wybodaeth am y pwnc i’r Amgueddfa Werin. Mae’r Llywydd yn llunio
disgrifiad o’r cynnwys, ac am ei roi i’r Ysgrifennydd. Dywedodd fod angen
pwyllgor i gydlynu’r holl wybodaeth am ffynhonnau Cymru. Gellid cydweithio â’r
Comisiwn henebion, i roi’r pwnc ar eu rhaglen waith.
Ynghylch Canolfan Uwchgwyrfai: pe bai darlith neu
weithgaredd penodol ynghylch ffynhonnau, gellid ei chynnwys ar Raglen y
Ganolfan.
Diolchwyd i Anne Owen am luniau ar gryno-ddisg Ffynnon
Fyw, ac i Elisabeth Rees am doriadau gwybodaeth o’r Daily Post.
Dyddiad a lleoliad y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.
Penderfynwyd cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf
ddydd Sadwrn 21.7.2018 yn Nhan-y-bwlch.
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Gyda hynny, daeth y cyfarfod ffurfiol i ben. Wedi cinio,
aeth yr aelodau ar daith o amgylch tair ffynnon sanctaidd leol, sef Ffynnon
Decwyn yn Llandecwyn; Ffynnon Fair ym Maentwrog; a Ffynnon Fihangel yn
Ffestiniog.
Bu cryn ddryswch yn y gorffennol ynghylch ymhle’n union
y mae Ffynnon Decwyn, ond diolch i gydweithrediad tirfeddiannwr lleol, Mr
Richard Williams-Ellis, cawsom hyd i’r ffynnon yn weddol ddidrafferth.
Ceir y ffynnon ychydig i’r gogledd-orllewin o Blas
Llandecwyn. Er mwyn ei chanfod, ewch ar hyd y ffordd sy’n arwain o Dalsarnau i
fyny at Eglwys Llandecwyn. Toc cyn cyrraedd yr eglwys, ceir mynedfa Plas
Llandecwyn ar y dde; a gellir canfod y ffynnon trwy gerdded at fuarth y plas, ac
yna troi i’r chwith i fyny’r allt, trwy giât, ac i fyny at y ffynnon.
Ffordd arall yw trwy gerdded ychydig lathenni heibio i fynedfa’r plas, ac yna
troi i’r dde ar hyd llwybr sydd yn arwain at fuarth y plas. Nodwedd amlwg i
anelu amdano yw’r ddraenen sy’n tyfu ar ben y dibyn caregog uwchlaw’r
ffynnon. Mae safle’r ffynnon wedi’i blannu a’i gadw’n drefnus iawn. Os
am fynd yno tros dir y plas, dylid gofyn caniatâd, wrth gwrs.
Yr ail ffynnon yr ymwelwyd â hi oedd Ffynnon Fair ym
Maentwrog. Mae hon hefyd braidd yn anodd ei chanfod oni wyddoch ymhle y mae,
felly er mwyn ei chanfod, dringwch y grisiau gyferbyn â mynedfa Eglwys Twrog
Sant, hyd nes y dewch at res o dai ar y dde gyda llain o dir glas o’i blaen.
Trowch i’r dde a cherddwch heibio i wyneb y rhes (y mae yna lwybr), ac wedi
cyrraedd y ffordd ddu (tarmac), trowch i’r chwith, heibio i res o dai o’r
enw Bron Mair. Mae’r ffynnon yn y coetir ar y dde, mewn tanc llechen.
Ffordd arall o gyrraedd y ffynnon yw trwy yrru trwy
Faentwrog ar y ffordd tua Thalsarnau, ac wedi mynd heibio i’r eglwys ar y dde,
mynd i fyny’r allt a chymryd y troad cyntaf i’r chwith. Yna mae angen troi
i’r chwith eto, cyn cyrraedd y capel - troad go hegar - ac ymlaen at dai Bron
Mair. Roedd y tanc bron o’r golwg o dan fieri a rhedyn pan gyraeddasom, felly
gwnaethom ein gorau i dwtio digon at y lle i beri bod y ffynnon yn o amlwg.
Cawsom ysbaid yn y “Grapes” ym Maentwrog, wedyn, ac
yna aeth pethau braidd yn flêr. Na, nid oherwydd inni fwynhau gormod ar
arlwy’r dafarn, ond oherwydd ein bod ni’n teithio mewn tri char, ac inni
rywsut lwyddo i golli ein gilydd a mynd ar ddisberod. Llwyddodd un llond car
ohonom i gyrraedd tŷ Ffynnon Fihangel yn Llanffestiniog, ond erbyn hynny
roedd y tywydd wedi dirywio’n arw, a’r glaw yn tresio i lawr arnom. Yno
cawsom hyd i ddŵr yn tarddu o ganol cerrig a llysiau’r dial, ond wedi
ailedrych ar y mapiau yn ddiweddarach, amheuaf inni fethu â chanfod y ffynnon
ei hun: felly bydd rhaid dychwelyd yno, rywbryd.
Dipyn o siom a dryswch yn y diwedd, felly: ond at ei
gilydd bu’n ddiwrnod llwyddiannus iawn, gan osod trefn ar faterion y
Gymdeithas am flwyddyn arall, llwyddo i ganfod dwy ffynnon y bu cryn ansicrwydd
ynghylch eu hunion leoliad, a mwynhau diwrnod yng nghwmni pobl frwdfrydig eraill
o gyffelyb fryd. Dyma edrych ymlaen at y tro nesaf!
H.H.
Ffynnon
Fair, Maentwrog yn ei thanc llechen
yn y coed
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bodedern 2017
Gallasem
fod wedi gwrando ar lawer rhagor!
H.H.
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
YN EISIAU: SWYDDOG CYHOEDDUSRWYDD
Mae
ar Gymdeithas Ffynhonnau Cymru angen Swyddog Cyhoeddusrwydd er mwyn cynyddu
diddordeb y cyhoedd ym mhwnc ffynhonnau Cymru’n gyffredinol, ac yn eu
harwyddocâd hanesyddol a diwylliannol. Hynny er mwyn ceisio diogelu ein
ffynhonnau, a chadw a lledaenu gwybodaeth yn eu cylch.
Gwaith
y Swyddog fydd:
·
Tynnu sylw at
ffynhonnau lleol, eu hanes a’u traddodiadau, gan ysgogi casglu gwybodaeth
amdanynt;
·
Codi
ymwybyddiaeth ynghylch ffynhonnau ymysg cynghorau lleol a chymdeithasau bro;
·
Annog ysgolion i
gyflwyno ffynhonnau lleol i blant yn rhan o’u gweithgareddau addysgiadol;
·
Diogelu
ffynhonnau rhag eu difrodi, eu hanghofio neu’u colli;
·
Hyrwyddo
Cymdeithas Ffynhonnau Cymru a chynyddu ei haelodaeth.
Swydd
ddi-dâl, wirfoddol fydd hon, ond byddai’n ychwanegiad gwerthfawr at grynodeb
gyrfa unrhyw unigolyn sy’n amcanu gweithio ym meysydd cadwraeth, addysg, hanes
neu gymdeithaseg. Y mae’n swydd ddelfrydol at gyfer unigolyn brwdfrydig a
gweithgar o unrhyw oedran, ac yn neilltuol ar gyfer rhywun sydd am brofiad
gwaith cyn mynd ymlaen i addysg bellach neu swydd arall.
Y
mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, a byddai trwydded yrru yn
fanteisiol iawn. Dylai’r sawl sydd â diddordeb gysylltu â’r Ysgrifennydd
yn cyfarchiad@yahoo.co.uk
neu trwy alw 07870 797655 / 01248 351503.
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Os ydych yn mynd ar wyliau eleni, cofiwch dynnu
lluniau unrhyw ffynhonnau diddorol a welwch, holwch am fanylion yn eu cylch, a
gyrrwch nhw at olygydd “Llygad y Ffynnon”!
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Y Prosiect Ffynhonnau Byw.
Ar y 15fed o Dachwedd eleni cymerais ran mewn gweithdy
hynod ddiddorol a heriol ym Mhlas Glyn y Weddw ger Llanbedrog. Roedd y diwrnod
yn rhan o’r Prosiect Ffynhonnau Byw”, sy’n cael ei arwain gan Cadw
Cymru’n Daclus, gyda’r nod o adfer 25 o ffynhonnau cysegredig ledled Cymru.
Mae Partneriaeth Ffynhonnau Byw yn chwilio am gyllid ar gyfer cyfres o
weithgareddau prosiect, a’r gobaith yw y bydd yn denu cyllid Cronfa
Dreftadaeth y Loteri ac arian cyfatebol arall. Bydd hynny’n eu galluogi i
barhau i gyflwyno prosiect aml-haen a fydd o gymorth i sicrhau dyfodol
ffynhonnau hanesyddol yng Nghymru, a’u gwarchod a’u hadfywio ar gyfer
cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr.
Arweiniwyd y gweithdy gan Gareth Kiddie ac Angharad Wynne
gyda chymorth Bronwen Thomas. Mae
Gareth yn arbenigwr treftadaeth ac adfywio cymunedol, ac Angharad yn
arbenigwraig marchnata a chyfathrebu, ac yn storïwraig gyda diddordeb byw mewn
hynafiaethau a chwedlau. Mae Bronwen yn bensaer tirwedd a hefyd yn gadeirydd
cymdeithas Wellsprings.
Roedd
tua dwsin ohonom i gyd yn y gweithdy ac fe’n heriwyd i edrych ar nifer o
faterion gan ofyn y cwestiynau canlynol:
1
Beth fydd yn gweithio’n dda?
2
Beth fydd yn heriol?
3
Beth yw’r cyfleoedd allweddol?
4
Pa fudiadau a phobl sy’n allweddol?
Gyda’r cwestiynau yma yn flaenllaw yn ein meddyliau
roeddem yn edrych ar nifer o faterion, sef sut y gellir cofnodi ffynhonnau yn
well, a sut y gellid eu hadfer a’u hadnewyddu. Edrychwyd ar sut y gellid
sicrhau bod cymunedau yn perchnogi ffynhonnau ac felly yn eu cynnal, ac yn
gwarchod nid yn unig y safleoedd, ond hefyd yr etifeddiaeth ehangach megis
hanesion am y seintiau: a thrwy hyn yn cadw’r etifeddiaeth yma’n fyw.
Edrychwyd ar sut i ddehongli, dathlu a hybu’r etifeddiaeth hon, a sut y gellid
marchnata a hyrwyddo treftadaeth ein ffynhonnau fel rhan o hybu ymwybyddiaeth
o’n treftadaeth ehangach.
Roedd y cyfarfod yn un o dri sydd i wyntyllu’r materion
hyn, gyda’r cyfarfodydd eraill i’w cynnal yn Aberhonddu a Thyddewi. Mae’r
hyn sydd o dan sylw yn uchelgeisiol iawn: ac os llwyddir, bydd proffil
ffynhonnau hanesyddol Cymru’n llawer uwch a bydd llawer rhagor o gymunedau yn
cymryd diddordeb byw yn eu hetifeddiaeth. Edrychaf ymlaen at weld pa gynnydd a
wneir dros y flwyddyn nesaf.
Gwyn Edwards
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Mynegai i ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”!
Gŵyr pawb sy’n ceisio olrhain hanes neu wneud
gwaith ymchwil pa mor anhepgor yw mynegeion dibynadwy. Mae un o’n haelodau,
Ian Taylor, bellach wedi gwneud cymwynas fawr trwy baratoi mynegai o gynnwys pob
un rhifyn o “Llygad y Ffynnon” o’r cyntaf (Nadolig 1996) hyd at rifyn 41
(Nadolig 2016). Dyma waith sylweddol a fydd yn anhepgor ar gyfer unrhyw un
sy’n dymuno mynediad at holl gyfoeth yr wybodaeth a grynhowyd yn y cylchgrawn
hwn ers 20 mlynedd. Gydag ychydig rhagor o waith golygu, bydd y mynegai yn barod
i’w lanlwytho ar ein gwefan ni ymhen dim, ac ar gael i ymchwilwyr sydd â
diddordeb ynteu mewn ffynnon neu ffynhonnau neilltuol, neu mewn rhyw agwedd
neu’i gilydd o hanes, llên gwerin neu ddaearyddiaeth y mae ffynhonnau
Cymru’n berthnasol iddi. Diolch yn fawr, Ian!
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
“Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas
Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw
gyfraniad ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru. Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.
Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur,
hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth
yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir
pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed
cymaint o drafferth. Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y
ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn
trysorydd@ffynhonnau.cymru, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn
uniongyrchol.
Cofiwch fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn
awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein
gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis
Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.
Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn
www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau.Cymru. Mae yno
doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau
“Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi
ar-lein.
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA