Cylchlythyr
Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Rhifyn
42, Haf 2017
Ffynnon
sanctaidd newydd
mewn groto Lourdes ym Morgannwg
Ar
un olwg, lle go annhebygol i ganfod groto Lourdes yw Abercynon yn Rhondda Cynon
Taf, calon maes glo’r de ar un adeg: ond y mae un yno, yn union ar lan yr afon
yng nghanol y dref. Mae’n un o sawl groto Lourdes ledled y byd, yn dathlu’r
man yn Ffrainc lle cafodd Bernadette Soubirous, bugeiles dlawd, weledigaethau
o’r Forwyn Fair ym 1858.
Crëwyd
groto Abercynon gan lowyr Gwyddelig ac Eidalaidd adeg streic fawr 1926, a hynny
o ganlyniad i syniad offeiriad Catholig ar gyfer eu cadw’n brysur trwy greu
cysegrfa Lourdes Gymreig.
Wrth
i’r dynion arloesi’r llethr, gan godi cerrig enfawr o’r afon i gynnal y
lan, darganfuasant ddwy darddell o ddŵr glân, yn gwrthgyferbynnu’n
drawiadol â dŵr yr afon a oedd yn ddu gan lo o’r glofeydd ymhellach i
fyny’r cwm. Buan iawn y creasant Lourdes Cymreig a enillodd enw am iacháu, ac
ymwelai llond coetsis o bererinion o bob rhan o’r de, cynifer â 10,000 y
flwyddyn.
Bu
straeon, hefyd, am wyrthiau a briodolwyd i’n Harglwyddes, fel yr un a
adroddwyd gan Gerald O’Shea 3 oed a drigai wrth yr eglwys. Un diwrnod aeth
adref gyda dillad gwlybion â darnau o fwsogl yn sownd wrthynt, a dywedodd wrth
ei fam ei fod wedi syrthio i’r dŵr, oedd yn 3 troedfedd o ddyfnder ar yr
adeg honno. Fe’i hachubwyd gan wraig mewn gwisg las, y wraig y gellid ei gweld
ar ei fedal. Teimlodd bachgen â pholio a ymwelodd â’r ffynnon symudiad ym
mysedd ei draed, ac wedi naw ymweliad medrai Golwg
agosach ar un o’r tarddellau gerdded. Iachawyd dyn oedd yn fud ac â golwg
yn un llygad yn unig: a gwellhawyd anhwylderau croen llawer o bobl.
Gyda’r
blynyddoedd esgeuluswyd y gysegrfa, ac aeth yn anhygyrch oherwydd mieri, dail
poethion a llysiau’r dial. Lansiwyd apêl adfer yn 2011, a bellach mae’r
gwaith wedi’i gwblhau, a gellir ymweld â’r gysegrfa a’r ffynnon unwaith
yn rhagor. Ni roddwyd enw i’r ffynnon erioed, ond y mae ei lleoliad yng
nghysegr Ein Harglwyddes o Lourdes, ac achub Gerald 3 oed gan wraig mewn gwisg
las (sef Ein Harglwyddes, yn amlwg) yn ei chymhwyso’n un o Ffynhonnau Mair
Cymru, ac yn wir y ffynnon ddiweddaraf i’w chreu ymysg y 100 a rhagor a
gysegrwyd yn enw’r Forwyn Fair yng Nghymru.
Ceir
y groto a’r ffynnon ar dir Eglwys Gatholig Sant Thomas yn Abercynon,
gerllaw’r B4275 ar ochr ddwyreiniol yr afon. O faes parcio’r eglwys, ewch
i’r chwith o’r eglwys lle mae llwybr yn arwain i’r gysegrfa. Ewch i lawr y
grisiau at lan yr afon, trowch i’r chwith a cherddwch ar hyd y lan hyd oni
chyrhaeddwch y ffynnon. Cyfeirnod
Arolwg Ordnans ST08399489.
Janet
Bord
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
CYFARFOD
CYNGOR CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU 2017
Cynhaliwyd
cyfarfod Cyngor Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ym Mhlas Tan-y-bwlch ar Ebrill y 1af
2017 am 2.00 o’r gloch.
Yn
bresennol: Howard Huws, Ysgrifennydd; Gwyn
Edwards, Trysorydd; Eirlys Gruffydd-Evans, Aelod Anrhydeddus; Dafydd Jones, Bill
Jones a Dennis Roberts.
Ymddiheuriadau:
Y Dr Robin Gwyndaf, Dewi Ensyl Lewis.
Darllenwyd
cofnodion y cyfarfod Cyngor blaenorol a gynhaliwyd ar Fawrth y 9fed
2016 ym Mhlas Tan-y-bwlch. Cytunwyd bod angen cywiro’r nodyn ynghylch faint o
arian oedd yn y cyfrifon. Roedd y ffigur o £2,470.07 yn y Cyfrif Cadw yn
anghywir, gan mai dyna oedd cyfanswm y ddau gyfrif. Ar wahân i hynny,
derbyniwyd fod y cofnodion yn gywir.
Materion
yn codi:
a.
Llofnodi sieciau. Penderfynwyd glynu at y trefniant ar gyfer llofnodi sieciau,
er nad yw Eirlys Gruffydd-Evans yn Gadeirydd bellach.
b. Y
Gadeiryddiaeth. Clywyd fod Dafydd Jones wedi gorfod ymddiswyddo o’r Gadair
oherwydd rhesymau iechyd. Dewiswyd
Eirlys Gruffydd-Evans yn Gadeirydd. Bydd
angen cadarnhau’r penodiad hwn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf.
c.
Adolygu rhestr aelodaeth. Roedd Dennis Roberts wedi adolygu’r rhestr cyn y
gyrrwyd allan rifyn Nadolig “Llygad y Ffynnon”.
ch.
Dogfennau’r Gymdeithas (Archifdy). Clywyd fod y dogfennau gan y Cadeirydd, ac
y byddai hi’n rhoi trefn arnynt cyn gynted ag y byddai modd. Parthed cyhoeddi
llyfr ynghylch ffynhonnau de Cymru, clywyd nad oedd Gwasg Carreg Gwalch yn
fodlon cyhoeddi un Cymraeg, ond y byddai’n fodlon cyhoeddi un Saesneg.
Cytunodd yr Ysgrifennydd i yrru at y Cadeirydd gopi electronig o fynegai
ffynhonnau Sanctaidd Dyfed.
d.
Manylion y Gymdeithas yn nyddiadur Y Lolfa. Yr Ysgrifennydd i hysbysu’r Lolfa
ynghylch manylion cyswllt cywir y Gymdeithas.
Adroddiad
yr Ysgrifennydd:
Dywedodd
yr Ysgrifennydd fod y gwaith ysgrifenyddol yn mynd rhagddo’n hwylus, a’i fod
mewn cyswllt efo Fforwm Hanes Cymru.
Adroddiad
Golygydd Llygad y Ffynnon:
Ymddiheurodd
y Golygydd am y rhifyn diwethaf (Nadolig 2016), oedd â chamgymeriadau iaith
oherwydd camddealltwriaeth gyda’r argraffwyr. Oherwydd pris uchel defnyddio
Sackville Printers, Bangor, penderfynwyd holi Gwasg Eryri, Porthmadog ynghylch
costau argraffu, neu fynd yn ôl at ddefnyddio EWS Printing, Pinfold, Bwcle.
Pris cyhoeddi’r rhifyn diwethaf fu £227.50.
Cafwyd
gwybod bod Ian Taylor yn gweithio ar fynegai i ôl-rifynnau Llygad y Ffynnon. Mae’r
gwaith bron wedi’i gwblhau, ac y mae’n ganmoladwy. Penderfynwyd
rhoi’r mynegai ar y we ac ar ddisg.
Erbyn
hyn mae 7 o aelodau yn derbyn fersiwn electronig o Llygad y Ffynnon. Gan y
cafwyd 3 neu 4 o aelodau newydd yn ddiweddar, mae angen cyhoeddi eu henwau yn
rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon.
Penderfynwyd
gyrru rhifyn electronig, yn ogystal â rhifyn papur, i bawb sydd wedi rhoi
manylion cyfeiriad e-bost inni, gyda neges yn eu hannog yn gryf i dderbyn copi
electronig yn unig o hynny ymlaen am y byddai hynny’n arbed costio argraffu a
phostio i’r Gymdeithas.
Adroddiad
y Trysorydd:
Clywyd
y bu £2,397.88 yn y ddau gyfrif ar 1.7.16, a £2,255.85 ynddynt erbyn 31.3.17,
sef gostyngiad o £142.03.
Y
mae rhai aelodau eto heb newid eu harchebion banc i adlewyrchu’r tâl
aelodaeth newydd. Yn ôl Dennis Roberts, mae 41 o bobl ar y rhestr aelodau sydd
ddim wedi talu ers blwyddyn neu ragor. Penderfynwyd cysylltu’n uniongyrchol
efo’r rhai sydd heb dalu am y flwyddyn 2015/16, gan ofyn a ydynt yn dymuno
parhau’n aelodau. Aethpwyd trwy’r rhestr aelodau gan nodi rhifau ffôn fel y
gallai aelodau o’r Cyngor alw’r rhai sydd heb dalu a’u hatgoffa. Penderfynwyd
rhoi nodyn yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon hefyd. Penderfynwyd rhoi cynnig o
flaen y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf fod unrhyw un nad yw wedi talu am y
ddwy flynedd ddiwethaf yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr aelodau.
Cynlluniau
ar gyfer y dyfodol:
a.
Ar awgrym y Dr Robin Gwyndaf,
derbyniwyd y dylid gofyn i Rys Mwyn a hoffai ymuno â’r Cyngor, a bod yr
Ysgrifennydd i ofyn iddo.
b.
Cynhadledd Waterford 26-27.6.17. Clywyd y cynhelir “An Tobar”, cynhadledd ynghylch ffynhonnau sanctaidd, yn Waterford
ddiwedd Mehefin. Dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai’n mynd yno ar ran y
Gymdeithas, a mynegodd Bill Jones ddiddordeb hefyd.
Dyddiad
a man cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:
Cytunwyd
yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf i gynnal Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol 2017 ym Mhlas Tan-y-bwlch ar 22.7.17. Mae’r Cadeirydd wedi gofyn am
ystafell o 10:00 hyd 12:00 y bore hwnnw. Yn y prynhawn bwriedir ymweld â
ffynhonnau lleol, gan gynnwys Ffynnon Fair, Maentwrog; Ffynnon Fihangel,
Ffestiniog, ac efallai ffynhonnau eraill yn y cyffiniau.
Yr
Eisteddfod Genedlaethol:
Cynhelir cyfarfod y Gymdeithas am 2:30 bnawn
dydd Llun y 7fed o Awst ym Mhabell y Cymdeithasau. Thema’r cyfarfod
fydd “Ffynhonnau Môn”, gyda chyflwyniad gan y Cadeirydd.
Unrhyw
Fater Arall:
Gan
nad oedd dim arall i’w drafod, daeth y cyfarfod i ben am 15:45 o’r gloch.
Howard
Huws
Ysgrifennydd
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Ffynnon
Leinw, Cilcain (2)
Yn ei Commentarioli, mae
Humphrey Llwyd, wedi sôn am ffynnon Gilcain, yn mynd rhagddo i drafod Ffynnon
Wenfrewi yn Nhreffynnon, lle’r “addolir yn ofergoelus y wyryf Wenfrewi, ac y
gwellheir llawer o bobl trwy yfed y dŵr ac ymdrochi ynddo. Mae’n amlwg ei
fod yn disgrifio nid rhyfeddod naturiol yn unig, ond “ffynnon sanctaidd”. Ni
ddarfu i neb, o Llwyd hyd Pennant, fyth drafod Ffynnon Leinw yn y modd hwn: ond
er gwaethaf hynny, datblygodd tuedd o ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen
i’w hystyried yn “ffynnon sanctaidd”.
Roedd yr awduron cynnar yn deall eu bod yn dilyn adroddiad Gerallt
Gymro ynghylch rhyfeddod naturiol, ac yn ysgrifennu’n unol â hynny. Nid oedd
ganddynt lawer o ddiddordeb mewn ffynhonnau sanctaidd ac “ofergoelion” o’r
fath, ac efallai yr arweiniodd hynny at fethiant i gofnodi gwybodaeth ynghylch
Ffynnon Leinw nad oedd yn unol ag adroddiad Gerallt: ond erbyn diwedd yr 17eg
ganrif yr oedd hynafiaethwyr wedi ehangu maes eu casglu gwybodaeth, ac yn barod
i ystyried tarddellau nid yn unig fel rhyfeddodau naturiol, ond hefyd fel
nodweddion ag iddynt arwyddocâd hanesyddol.
Darfu
i adran hynafiaethau holiadur plwyfol Edward Llwyd ofyn yn benodol am
“Enwau’r Llynnoedd a’r Tarddellau hynod; ac a nodwyd unrhyw beth rhyfeddol
yn eu cylch”. Dyma ddechrau’r casglu gwybodaeth (er mor anghyflawn ac
aneglur) ynghylch ffynhonnau sanctaidd y Gymru ganoloesol, ac yn achos Ffynnon
Leinw, darfu i Pennant (wedi crybwyll y dyb ei bod yn llenwi ac yn treio) ei
disgrifio’n “ffynnon betryal hir gyda wal ddwbl o’i chylch”: yr awgrym
cyntaf bod adeiladwaith am y darddell erbyn y 1780au.
Esbonnir yr adeiladwaith gan grybwylliad Gwallter Mechain (1761-1849)
yn Topographical Dictionary Samuel Lewis (1848) bod y ffynnon yn boblogaidd iawn
ar gyfer ymdrochi. Hwyrach y’i defnyddid at y diben hwnnw am gryn amser cyn y
cofnodwyd y ffaith, ond yn sicr daeth ymdrochi er mwyn gwella’r iechyd yn
ffasiynol iawn yn y 18fed ganrif, gan roi ail fywyd i lawer hen ffynnon
sanctaidd. Digwyddodd hynny nid nepell o Gilcain yn Ffynnon Ddyfnog yn
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, er enghraifft.
Am y
rhan olaf o’i oes bu’r casglwr llên gwerin dyfal hwnnw, y Parch. Elias
Owen, yn gweithio ar lyfr o’r enw “The
Holy Wells of North Wales” nas cyhoeddwyd fyth. Heblaw am grybwyll
sylwadau awduron blaenorol ynghylch Ffynnon Leinw, a ffynhonnau llenwi a threio
eraill, rhydd ddisgrifiad go fanwl o adeiladwaith y ffynnon a’i chyflwr.
Bu’n amlwg mewn cyflwr da ar un adeg, ond bellach roedd wedi dirywio, gyda
chwyn a choed gwern yn tyfu o’i hamgylch. Roedd yno weddillion waliau dwbl,
seston fawr, a grisiau i lawr i’r dŵr. Cadarnhaodd
gwraig leol y defnyddid y dŵr at ddiben yfed, ac y bu llawer yn ymdrochi
yno. Roedd gan Owen lythyr oddi wrth Ficer Rhyd-y-mwyn, hefyd, yn datgan mai dŵr
wyneb oedd yn cyflenwi’r ffynnon, a’i bod yn hesb bob haf: roedd gwaith mwyn
yr Hendre wedi amharu ar y cyflenwad gwreiddiol.
Ar wahân i’r ffaith bod pobl wedi ymdrochi yno, a oes unrhyw awgrym
yr ystyrid Ffynnon Leinw’n ffynnon sanctaidd, yn ogystal â’i bod yn
rhyfeddod naturiol? Efallai. Ym
1623 priododd Syr Thomas Mostyn Elizabeth ferch James Whitelocke o Gaer. Roeddent
yn byw yng Nghilcain, ac ymwelwyd â hwy yno gan frawd Elizabeth, Bulstrode
Whitelocke. Tra yno, cofnododd yn ei ddyddiadur iddo ymweld â “henebion a
hynodion”, gan gynnwys “St Katherines
Well”, a oedd yn hynod oherwydd pe teflid dim aflan iddi, âi’n hesb hyd
yr Ŵyl Gatrin ganlynol, pryd yr adlenwai drachefn.
Ni allai’r “St Katherine” hon fod yn neb llai na’r Santes
Gatrin, a oedd yn eithriadol boblogaidd ddiwedd y canol oesoedd yng Nghymru fel
yng ngweddill gorllewin Ewrop. Cysegrwyd
tair eglwys ganoloesol yn ei henw yng Nghymru (o gymharu â 62 yn Lloegr), gyda
ffynhonnau sanctaidd yn dwyn ei henw yn yr Wyddgrug, Caerhun, Gresffordd a
Rudbaxton. Y mae ffynnon sanctaidd ger Eglwys Gatrin yng Nghricieth, ond
“Ffynnon y Saint” yw enw honno, a dim ond yn ddiweddar y daeth yn
gysylltiedig â Chatrin.
Ai
Ffynnon Leinw yng Nghilcain, felly, oedd y “St Katherines Well” yr ymwelodd
Whitelocke â hi?
O
blaid credu hynny mae’r ffaith iddo ei chrybwyll yn ei ddyddiadur yn union cyn
cofnodi ymweliad â Ffynnon Wenfrewi yn Nhreffynnon hefyd, yn yr un modd ag y
mae Humphrey Llwyd, Drayton a Speed hwythau’n cofnodi ymweld â Ffynnon Leinw a Ffynnon Wenfrewi
yn yr un gwynt, fel petai. Mae
Camden yn crybwyll y ddwy ffynnon yn ei bennod fer ynghylch Sir y Fflint. Fel
Ffynnon Leinw, roedd llif “St Katherines Well” yn ysbeidiol: ond serch hynny
nid yw’r un awdur arall yn cysylltu’r Santes Gatrin â Ffynnon Leinw, ac nid
oes unrhyw “Ffynnon Gatrin” nac ôl parchu Catrin yn unrhyw blwyf cyfagos,
heblaw bod holiadur Edward Llwyd yn cofnodi “Ffynnon Seint y Katrin” rhywle
ym mhlwyf yr Wyddgrug.
Gall ffynhonnau fod â rhagor nag un enw, neu newid eu henwau gydag
amser. Hwyrach y bu’r enw “St
Katherines Well” ar darddell sydd wedi’i llwyr anghofio erbyn hyn, ond ple
bynnag oedd, yr oedd rhywle o fewn pellter marchogaeth cyfleus i Whitelock yng
Nghilcain. Fel y cofiwn, yr oedd wedi mynd i gael golwg ar “henebion a
hynodion”, ac nid oedd dim yn y cyffiniau mor hynod, yn ôl tystiolaeth
cofnodwyr a dysgedigion y cyfnod a sawl canrif flaenorol, â Ffynnon Leinw. O
gofio bod plwyfi Cilcain a’r Wyddgrug yn ffinio â’i gilydd, ac nad yw
Ffynnon Leinw’n bell o’r ffin honno, a yw’n bosibl bod y sawl a atebodd
holiadur Edward Llwyd wedi camleoli “Ffynnon Seint y Katrin” yn yr Wyddgrug,
yn hytrach na Chilcain?
Efallai y bu gan Ffynnon Leinw ddau enw, sef un cysegriadol, “Ffynnon
Seint y Katrin”, ac un arall, “Ffynnon Leinw”, a ddisgrifiai ei
hymddygiad. Os felly, gallai’r duedd i ymdrochi ynddi ddyddio nid o’r
ddeunawfed ganrif, ond o’r cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Gallai’r
rhyfeddod naturiol a’r ffynnon sanctaidd fod yn un.
Tristan
Grey Hulse
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Cofiwch
y cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf ym Mhlas Tan-y-bwlch,
Maentwrog am 10 o’r gloch fore dydd Sadwrn yr 22ain o Orffennaf eleni. Bydd yn
parhau hyd hanner dydd, ac wedi cinio bwriedir ymweld â Ffynnon Fair,
Maentwrog; Ffynnon Fihangel, Ffestiniog, ac efallai ffynhonnau eraill y
cyffiniau. Dewch oll i fwynhau’r diwrnod!
‘…yn
enwog am Iacháu pob Clefyd…’
Saint
Govan’s Well yn ystod 350 mlynedd
Janet
Bord
Er
bod tua 700 ffynnon sanctaidd yng Nghymru, bach o gofnod sydd o’r mwyafrif
ohonynt. Nid oedd y corff mawr ohonynt ond yn hysbys yn eu bro: bach iawn
ohonynt oedd yn wybyddus y tu hwnt i’w plwyf, ac fel arfer ni feddyliodd neb
am eu cofnodi pan oedd defnydd arnynt. O ganlyniad anghofiwyd a chollwyd
llaweroedd, heb adael rhagor o gof amdanynt na hen enw cae. Ar hyn o bryd rwyf
yn ymchwilio i holl ffynhonnau seintiau Cymru: ffynhonnau seintiau, yn hytrach
na’r holl ffynhonnau sydd ag enwau arnynt, o ba rai y dichon fod sawl mil. Nid
yw pob ffynnon neu sba sy’n dwyn enw yn ffynnon sanctaidd: rhaid i ffynnon
o’r fath ddwyn enw sant, neu fod â rhyw gysylltiad crefyddol penodol. Nid
oedd llawer o ffynhonnau ond yn gyflenwadau dŵr lleol, ag enw personol,
efallai (enw’r perchen neu’r defnyddiwr, fel arfer), ond yn aml heb unrhyw
draddodiadau.
Ychydig
iawn o ffynhonnau sanctaidd oedd ar lwybr ymwelwyr y 18fed ganrif
a’r 19eg, heblaw am y rhai enwog am ryw reswm penodol, megis
ffynnon fwyaf adnabyddus a thrawiadol Cymru, Ffynnon Wenffrewi yn Nhreffynnon yn
Sir y Fflint, sy’n parhau i ddenu’r afiach yn y gobaith o gael gwellhad, yn
ogystal â llawer o bererinion Catholig ac ymwelwyr anghrefyddol. Ymwelid,
hefyd, â ffynnon a ddaeth yn ddrwg-enwog oherwydd ei henw fel ffynnon
felltithio, sef Ffynnon Elian yn Llaneilian-yn-Rhos yn Sir Ddinbych, gan lawer o
dwristiaid y 19eg ganrif yn ogystal â chan bobl leol a gredent yn
ddiffuant y gallai gelyn eu melltithio a’u “rhoi yn y ffynnon”.
Ysgrifennodd
twristiaid hefyd am ffynhonnau hynafol ar lwybrau pererinion awgrymedig neu’n
agos at gysegrfannau saint pwysig, megis Ffynnon Feuno yng Nghlynnog Fawr yn Sir
Gaernarfon: ond ni ddenodd y mwyafrif o ffynhonnau lleol bychain fawr o sylw’r
byd mawr y tu allan. Yn y de cynhwyswyd un ffynnon fechan a dinod yr olwg yn
nheithiau twristiaid, yn bennaf oherwydd ei lleoliad dramatig, ac o ganlyniad
mae disgrifiadau o’r hyn a ganfu teithwyr yno wedi rhoi inni olwg ar sut y
gall hanes ffynnon sanctaidd ddatblygu a newid gyda’r blynyddoedd. Darganfûm
hyn pan osodais yn nhrefn amser yr holl ddisgrifiadau y gallwn eu canfod o’r
hon a elwir yn awr yn Saint Govan’s Well, ym mhlwyf Bosherston nid nepell o
Ddinbych-y-pysgod yn ne Sir Benfro.
Pwy
oedd “Saint Govan”?
Y
dirgelwch cyntaf, fel yn fynych yn achos ffynhonnau saint, yw pwy oedd “Saint
Govan”. “Govan” yw’r sillafiad a welir amlaf heddiw, ond y mae
sillafiadau eraill o’i enw yn cynnwys “Sct. Gouen” (y cynharaf y canfûm
i, ar fap Sir Benfro 1578 Saxton); hefyd Gowan (ar fap Arolwg Ordnans 1868,
e.e.), Gowen, Goven, Gofan a Gobin. Efallai
y’i ganed tua’r flwyddyn 500 ac y mae’n bosibl y bu’n ddisgybl i Eilfyw,
y sant o Sir Benfro a fedyddiodd Dewi Sant, ac y dywedir (er yn anghywir) ei fod
yn Wyddel, ac yn un â Sant Ailbe o Emly, esgob Gwyddelig enwog. Mae’n bosibl
ei fod yn nai i Ddewi hefyd, gan y dywed un ffynhonnell mai chwaer Dewi oedd ei
fam.
Dryswyd,
hefyd, rhyngddo ef a Gobhan, sant Gwyddelig sy’n hysbys ym muchedd Sant Ailbe,
oherwydd tebygrwydd eu henwau a’r cymysgu Ailbe ag Eilfyw. Deillia’r cymysgu
hwn o gyn belled yn ôl â diwedd yr 11eg ganrif, ym Muchedd Dewi
Rhygyfarch. Gallai sillafu enw’r sant o Sir Benfro yn “Gobin” mewn
adroddiad gan John Ray yn yr 17eg ganrif awgrymu ei fod yn sant
brodorol o Sir Benfro y dryswyd rhyngddo â disgybl Sant Ailbe oherwydd bod eu
henwau mor debyg. Yn un “Buchedd Ailbe”, dywedir mai cogydd Sant Ailbe oedd
y Gobhan Gwyddelig, ac iddo deithio i Rufain gyda dau o’i ddisgyblion er mwyn
cael copi o gyfarwyddiadau cywir dathlu Offeren.
Bu
Gobhan yn wael ar CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
(I’w pharhau.)
Nodiadau.
[1]
Trafodir hunaniaeth St Govan yn S. Baring-Gould a John Fisher, The
Lives of the British Saints (London, 1907, 1908, 1911, 1913), III, 143-5; Elissa
R. Henken, Traditions of the Welsh Saints (Cambridge, 1987), 258-9;
Pádraig Ó Riain, A Dictionary of Irish Saints (Dublin, 2011), 58-60, 367
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Croeso
i’n haelodau
newydd!
Elizabeth
Stephen Colbourne, Rhosllannerchrugog
Rosealie
Lamburn, Mogerhanger
Elizabeth
Rees, Deganwy
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
“Llygad
y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y
golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru
. Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.
Mae
pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd
ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i
unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy
archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o
drafferth. Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein
yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm
a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn trysorydd@ffynhonnau.cymru
, neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.
Cofiwch
fod ôl-rifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg.
Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond
£6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.
Cofiwch
hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru,
neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan
gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau
o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen
ymaelodi ar-lein.
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC
Os
ydych yn mynd ar wyliau eleni, cofiwch dynnu lluniau unrhyw ffynhonnau diddorol
a welwch,
holwch
am fanylion yn eu cylch, a gyrrwch y manylion at olygydd “Llygad y Ffynnon”!
CFfC
CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC CFfC