Home Up

Llygad y Ffynnon

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru.

Rhifyn 41, Nadolig 2016.

  Croeso i Lŷn!

 

Gwynfor Ellis yn ei elfen wrth y Ffynnon Fyw.

Cawsom ddiwrnod wrth ein boddau ddydd Sadwrn yr 16eg o Orffennaf, pryd y cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yng Nghanolfan Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr. Daeth criw go dda at ei gilydd, ac wedi’r Cyfarfod Cyffredinol ei hun yn y bore, aeth tua dwsin ohonom ymlaen ar wibdaith trwy Lŷn yn y pnawn, gan ymweld â thair ffynnon tan arweiniad brwdfrydig a gwybodus Gwynfor Ellis, Mynytho.

 Y ffynnon gyntaf yr ymwelwyd â hi oedd Ffynnon Felin Bach ar ffin orllewinol Pwllheli, tua chwarter milltir i’r dwyrain o Bont Pen-sarn (Cyfeirnod Ordnans SH 236429  335324; Cod Post LL53 5TF). Mae’n adeilad rhestredig Gradd II, ac fe’i crybwyllir ym mhryddest Cynan, “Mab y Bwthyn”:  

“’Does dim wna f’enaid blin yn iach

   Ond dŵr o Ffynnon Felin Bach.”

Aethom ymlaen wedyn i Fynytho, lle ceir ffynnon nodedig a lwyr adferwyd yn ddiweddar, sef y Ffynnon Fyw.

Mae hon yn darddell ddiddorol iawn, a gysegrwyd yn wreiddiol yn enw Curig Sant. Mae’i henw “Ffynnon Fyw”, braidd yn anarferol yng Nghymru, er fe’i ceir yn gyffredin yng Ngwlad Groeg megis symbol o’r Forwyn Fair, tarddle’r “dyfroedd bywiol”. Y mae o ddiddordeb neilltuol i aelodau’r Gymdeithas hon oherwydd y modd y’i llwyr adferwyd yn ddiweddar. Ar un adeg yr oedd agos wedi’i cholli yng nghanol drysni a llaid, ond trwy waith caled, penderfynol fe’i cliriwyd ac fe’i hatgyweiriwyd yn drylwyr iawn, fel ei bod bellach yn wirioneddol werth ei gweld. Os ydych am ymweld â hi, fe’i ceir y tu cefn o gapel Horeb, Mynytho, yng Nghyfeirnod Ordnans SH 30908 30876, Cod Post LL53 7RS.

 

Ffynnon Fyw, Mynytho, wedi ei hadfer.

Ceir rhagor o hanes adfer y Ffynnon Fyw yn Rhifyn 15 (Nadolig 2003) Llygad y Ffynnon.

Aethom ymlaen wedyn at y drydedd ffynnon ar ein gwibdaith, sef Ffynnon Engan, Llanengan. Dyma ffynnon a achubwyd o ddifancoll trwy ymdrechion Ken ac Eirlys Gruffudd, ac y mae’n hyfryd ei gweld yn ei chyflwr presennol, ac er 1996 yn Adeilad Rhestredig Gradd II.

Bu bri mawr ar gysegrfa Einion Frenin yn Llanengan cyn y Diwygiad Protestannaidd.

 Yn ôl cywydd Hywel ap Dafydd ab Ieuan  (tua 1460) i eglwys Einion Frenin:

Gorffenaist gaer y ffynnon,

 A thŵr rhudd it’ wneuthur hon.”  

Cofnododd Leland bererindota mawr yno pan ymwelodd yntau â’r fan ym 1538. Parheid i godi dŵr ohoni at ddibenion bedyddio cyn ddiweddared â dechrau’r 20fed ganrif, a dywed H.R. Roberts yn ei “Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn” (1910) y gellid gweld yno wal gerrig betryal, seddi a grisiau.

Eithr ni wyddai na Myrddin Fardd na Francis Jones amdani, ac erbyn ymweliad y Comisiynwyr Brenhinol ym 1964 nid oedd yno ond  “ychydig olion gwaith cerrig”. Mae’r ffynnon fel y mae heddiw yn tystio i waith adfer trylwyr yn y 1990au, ac ychwanegwyd at harddwch y safle gan waith tirlunio crefftus ogylch all-lif y ffynnon.

Ffynnon Engan, Llanengan.

Ceir Ffynnon Engan yng Nghyfeirnod Ordnans SH 229307 327079, Cod Post LL53 7LL.

 Dwi’n sicr y cytunai pawb fu ar y wibdaith y cafwyd pnawn gwerth chweil, gyda gweld y ffynhonnauyn yn eu cyflwr presennol

yn hwb mawr inni yn ein hymdrechion i ddiogelu’r gweddill.  

 

Mae modd llwyddo!

 cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, 16.7.2016.

 Croeso’r Cadeirydd. Croesawyd pawb i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gan yr Ysgrifennydd (H. Huws) ar ran y Cadeirydd (D. Jones).


Ymddiheuriadau:
Nia Rhosier.

1. Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2015.  

Darllenwyd y cofnodion. Cynigiwyd ac eiliwyd eu bod yn gywir, a phleidleisiwyd o blaid hynny.

2. Cofnodion Cyfarfod Pwyllgor y Gymdeithas, Canolfan y Fron Goch, Caernarfon, 17.11.15.

a.) Penodwyd Howard Huws yn Olygydd “Llygad y Ffynnon”, gydag Anne Williams i gynorthwyo gyda darllen y proflenni.

3. Cofnodion Cyfarfod Cyngor y Gymdeithas, Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, 9.4.2016.

a.) Clywyd fod Anne Williams yn dymuno ymddiswyddo o’r Cyngor. Derbyniwyd ei hymddiswyddiad, gyda diolch iddi am ei holl waith.

b.) Penodwyd Dafydd Jones yn Gadeirydd.

c.) Penodwyd Howard Huws yn Ysgrifennydd.

4. Y Rhestr Aelodaeth.

Penderfynwyd fod angen adolygu’r rhestr aelodaeth, er mwyn gweld pwy sy’n parhau i dalu’r tâl aelodaeth blynyddol. Os oes rhai nad ydynt, yna byddwn yn eu hatgoffa.

5. Llygad y Ffynnon.

Penderfynwyd y dylid gyrru’r cylchgrawn allan ar ffurf electronig i bob aelod, ac eithrio’r rhai sy’n datgan eu bod am dderbyn copi papur. Bydd hyn yn arbed llawer o draul cyhoeddi.  Hyd yn hyn, mae 3 o 110 aelod y Gymdeithas wedi gofyn am gopi digidol. Bydd rhifynnau 1-40 “Llygad y Ffynnon” ar gael ar ddisg yn y dyfodol agos am £6.50c yr un, ac y mae ffurflen archebu ar gael.

6. Archifau’r Gymdeithas.

Ar awgrym y Dr Robin Gwyndaf, penderfynwyd y dylid gyrru’r archifau i’r Llyfrgell Genedlaethol. Talodd Robin Gwyndaf deyrnged i’r rhai fu’n cynnal y Gymdeithas, ac yn arbennig i Eirlys Gruffydd a’r diweddar Ken Gruffydd, am eu gwaith yn ystod y blynyddoedd.

7. Adroddiad yr Ysgrifennydd.

Darllenwyd adroddiad gan Eirlys Gruffydd, yn amlinellu hanes sefydlu’r Gymdeithas ym Mehefin 1996. Cyhoeddwyd dwy gyfrol ar ffynhonnau’r gogledd a’r canolbarth. Bu cydweithio â chymdeithasau eraill, a gobeithiwyd sefydlu cymdeithas i gynnwys pawb sydd â diddordeb mewn ffynhonnau: ond wedi ymadawiad y Dr Jonanthan Wooding i Awstralia, ni ddaeth ddim o’r bwriad hwn. Y sefyllfa o hyd yw nad yw ffynhonnau wedi’u diogelu yn swyddogol.

Adroddiad yr Ysgrifennydd (parhad). Eto, bu cynnydd yn y diddordeb mewn ffynhonnau, ac yn yr aelodaeth. Mae pob aelod newydd yn cael dau neu dri chopi o rifynnau blaenorol “Llygad y Ffynnon”, ac y mae’n dda gweld y gwaith yn parhau.

8. Adroddiad y Trysorydd.

Rhannwyd copi o’r fantolen ariannol ddiweddaraf. Gan na fu Trysorydd am y rhan fwyaf o’r llynedd oherwydd marwolaeth Ken Gruffydd, bu Eirlys yn talu o’i phoced ei hun am rai pethau cyn y penodwyd Trysorydd newydd, felly ad-dalwyd rhagor na £400 o bunnoedd iddi. Mae hynny wedi’i ddangos ar y fantolen. Mae £505 yn y cyfrif cyfredol, a £1,892 yn y cyfrif cadw, sef cyfanswm o £2,907 ar hyn o bryd. Y mae rhai pobl yn parhau i dderbyn “Llygad y Ffynnon”, ond heb dalu aelodaeth: felly mae rhestr wedi’i thynnu o bobl nad ydynt wedi talu ers 3 blynedd, a bydd y Trysorydd (G. Edwards) yn cysylltu â nhw. Oni thalant, rhoddir y gorau i yrru’r “Llygad” atynt. Diolchwyd i Dennis Roberts yr Archwiliwr am ei gyngor a’i ofal.

Dywedodd R. Gwyndaf nad gwaith Trysorydd nac unrhyw swyddog arall yw atgoffa pobl eu bod heb dalu. Yng Nghymdeithas y Cymod, mae pob aelod newydd yn talu trwy archeb banc: ac awgrymodd y dylai Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ddilyn y drefn honno. Dywedodd E. Gruffydd bod pobl wedi cael ffurflen i’r perwyl hwnnw. Awgrymodd R.Gwyndaf y dylid gorfodi hynny. Clywyd bod 10 yn talu trwy archeb banc ar hyn o bryd. Mae 39 o aelodau am oes nad oes unrhyw enillion ychwanegol yn deillio ohonynt. Rydym bellach yn gyrru at bawb: a phenderfynwyd onid yw’r rhai na ddarfu dalu’r llynedd neu’r flwyddyn gynt yn ymateb, y rhoddir y gorau i yrru’r “Llygad” atynt. Awgrymodd D. Roberts y dylai talu trwy archeb banc ddod yn orfodol i aelodau newydd yn y dyfodol.

Diolchwyd i Gwyn Edwards a Dennis Roberts am eu gwaith.

9. Adroddiad yr Archwiliwr Mygedol.

Cafwyd adroddiad gan Dennis Roberts fod y cyfrifon wedi’u harchwilio ganddo a’u cael yn gywir.

10. Adroddiad Golygydd “Llygad y Ffynnon”.

Mae “Llygad y Ffynnon” wedi’i gynhyrchu ar gyfrifiadur, a’i roi i argraffwr ym Mwcle gydag archeb am nifer o gopïau: y pris yw £80 am 120 o gopïau. Gan fod rhai aelodau wedi mynegi y byddai’n well ganddynt gopïau papur, cytunwyd y dylai’r Golygydd newydd (H. Huws) gael prisiau gan argraffwyr ardal Bangor. Penderfynwyd y dylid ystyried penodi Swyddog Aelodaeth i helpu’r Ysgrifennydd, cynyddu aelodaeth a chael aelodau i adnewyddu’u tanysgrifiad, mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol.

Dywedodd R. Gwyndaf fod hwn yn gyfle newydd i gael rhagor o aelodau. Dylid chwilio am argraffwyr newydd, ond cadw’r safon.

COFIWCH FOD YNA WASTAD GROESO I CHI GYFRANNU ERTHYGLAU, HANESION, LLUNIAU, NEWYDDION A MANION I “LLYGAD Y FFYNNON”! MAE POB TAMAID BACH O WYBODAETH YN CYFRANNU AT Y DARLUN CYFAN O GYFOETH EIN TREFTADAETH!

11. Cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

a). Dywedodd R. Gwyndaf ei fod yn frwd dros sefydlu “Lle Hanes” yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dylai’r Gymdeithas fod yno, ond rhaid cael aelodau i fod yn gyfrifol am ofalu am safle’r Gymdeithas Ffynhonnau. Holwyd ynghylch cost y bwriad, a dywedodd R. Gwyndaf y dylid ystyried y syniad, o leiaf.  

b). Cyfarfod Eisteddfod Genedlaethol 2016, Y Fenni. Cynhelir cyfarfod y Gymdeithas ym Mhabell y Cymdeithasau 2, ddydd Mercher 3.8.16, am 12:30. Bydd y Dr Robin Gwyndaf yn traddodi cyflwyniad ynghylch “Cyfoeth Ffynhonnau Cymru”. Mae R. Gwyndaf wedi gyrru llythyr yngylch y cyflwyniad at bapurau bro er mwyn tynnu sylw at yr achlysur a chynyddu diddordeb.*

12. Unrhyw fater arall.  

a). Ar bleidlais unfrydol, penodwyd Eirlys Gruffudd yn aelod anrhydeddus o’r Pwyllgor.

b). Tynnodd R. Gwyndaf sylw at gyfrol “Maritime Wales in the Middle Ages” gan y diweddar Ken Lloyd Gruffydd, a oedd yn arbenigwr yn y maes. Mae Eirlys Gruffydd wedi’i dwyn trwy’r wasg, a’r pris yw £25 yr un.

13. Dyddiad a lleoliad y cyfarfod cyffredinol nesaf.

Gan fod adroddiadau’r banc yn dueddol o gyrraedd yn hwyr ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol yng Ngorffennaf, awgrymwyd cynnal y Cyfarfod Blynyddol ychydig hwyrach ymlaen yn y flwyddyn.  Penderfynwyd ar ddydd Sadwrn yr 22ain o Orffennaf 2017.

Gofynnodd R. Gwyndaf a oes modd gwneud cais i gyfarfod Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ddod yn rhan o raglen swyddogol Canolfan Uwchgwyrfai? Byddai wedyn yn cael cyhoeddusrwydd yn neunydd Canolfan Uwchgwyrfai. Dywedodd Anne Williams y byddai’r Ganolfan yn fodlon ystyried y mater, pe bai’r Gymdeithas yn cynnal darlith. Efallai na fyddai modd cynnwys gwybodaeth am Gyfarfod Cyffredinol yn unig.

Clywyd fod pris Canolfan Uwchgwyrfai yn £15 yr awr, gan gynnwys paned. Ceir Tan-y-bwlch am ddim, os bydd ystafell ar gael.

Awgrymodd R. Gwyndaf y dylid cysylltu efo Tan-y-bwlch i ofyn a fyddai lle ar gael: Eirlys Gruffydd i holi. Onide, parhau efo Canolfan Uwchgwyrfai. Rhoddir yr wybodaeth yn rhifyn nesaf “Llygad y Ffynnon”. Dirprwywyd i’r Swyddogion yr hawl i benderfynu hyn cyn gynted ag y bo modd.

Diolchwyd i Marian Elias o’r Ganolfan am ddarparu lluniaeth ysgafn.

Gyda hynny daeth rhan ffurfiol y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i ben, ac aeth yr aelodau ar daith chwilio ffynhonnau Llŷn. Penderfynwyd ymweld â Ffynnon Felin Bach, Pwllheli; Ffynnon Fyw, Mynytho; a Ffynnon Engan, Llanengan.

*A da dweud y cafwyd cyflwyniad gwerth chweil gan y Dr Robin Gwyndaf ar destun “Cyfoeth Ffynhonnau Cymru” ar ddydd Mercher Eisteddfod y Fenni.

cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

Cydymdeimlad: ar ran Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, dymunwn fynegi ein cydymdeimlad â’r Dr Robin ac Eleri Gwyndaf ar achlysur eu 

 colled drist fis Hydref eleni, pan laddwyd eu mab-yng-nghyfraith, Eifion Gwynne o Aberystwyth, mewn damwain yn Sbaen.  

cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

 

Croeso yma i un arall o’n haelodau, JANET BORD, sydd wedi hen ennill ei phlwyf ym maes yr ymchwil i ffynhonnau, eu hanes a’u harwyddocad. Mae ei llyfrau a’i herthyglau’n batrwm o ysgolheictod gofalus a thrylwyr, a phleser mawr yw derbyn ganddi’r wybodaeth ganlynol ynghylch Ffynnon Dudur.  

Ffynnon Dudur, Darowen, Maldwyn

Darfu i Tristan Gray Hulse a minnau ymweld â Darowen, yn ymyl Machynlleth ym Mhowys, yn Ebrill 2016 i chwilio am Ffynnon Dudur. Dyma ffynnon y sant o’r chweched ganrif, Tudur, a sefydlodd eglwys Darowen, lle y dywedir y’i claddwyd. Bu ganddo gysylltiadau â Sir Ddinbych, hefyd, gan fod ffynnon arall yn Llanelidan yn dwyn ei enw.

Yn ôl cofnod Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys (PRN 1725), mae Ffynnon Dudur ym mhen gogledd-orllewinol mynwent Darowen, bellach ar ffurf draen y tu allan i wal y fynwent. Yn ôl ffynhonnell arall a ganfûm ar-lein, fodd bynnag, y mae’r ffynnon mewn cae i’r de-ddwyrain o’r eglwys. Mae map Arolwg Ordnans o ddiwedd y 19eg ganrif yn dangos ffynnon (megis ‘W’) yn y man olaf, ond nis enwir. Cysylltais â’r Parchedig Roland Barnes, na wyddai ymhle y ceid Ffynnon Dudur: ond cyfeiriodd ef ni at Mrs Wigley, un o’r trigolion lleol, a gytunodd i’n cyfarfod yn yr eglwys. Cyfarfuom yn ôl ein cynllun, ac er na wyddai Mrs Wigley, chwaith, ymhle’r oedd ffynnon y sant, roedd yn ymwybodol o’r ffynnon yn y cae.

O flaen yr eglwys mae clwt bach trionglog o dir a ddefnyddir yn faes parcio, gyda lôn fach yn arwain i lawr oddi yno. Ar yr ochr chwith, ym mhen y lôn, ceir giât sy’n arwain i mewn i gae. I’r chwith o’r giât ceir hen bwmp haearn, ac i’r dde, tŷ unllawr o’r enw Caerffynnon. Yn y cae y mae’r llwybr yn mynd yn syth ymlaen hyd ymyl gardd y tŷ unllawr, ac yn union y tu draw i ben yr ardd, ar y dde, ceir pant gwlyb wedi’i ffensio, yn llawn tyfiant, lle gellid gweld y ffynnon yn union yn ei ganol: ond mae wedi’i hesgeuluso’n arw.

Y mae’r hyn sy’n ymddangos yn debyg i glawr carreg wedi’i guddio, gan fwyaf, tan ddalennau haearn gwrymiog, gyda changhennau o’r gwrych amgylchynnol (sydd wedi tyfu’n wyllt) yn gorwedd o gwmpas. Wrth inni edrych ar y ffynnon, daeth y ffermwr i’r golwg, a chadarnhaodd yntau nad yw’r ffynnon byth yn hesb: ond ni wyddai ai Ffynnon Dudur oedd ai peidio. Defnyddid y dŵr, ers llawer dydd, gan yr ysgol a’r preswylwyr lleol, gyda phwmp wrth giât y cae er eu cyfleuster.

Ni chanfûm eto unrhyw gadarnhad dogfennol hanesyddol mai hon, mewn gwirionedd, yw Ffynnon Dudur, ond ymddengys hynny’n debyg. Mae cyfeiriad hanesyddol at y ffynnon mewn tirlyfr o 1663, lle y dywedir y’i lleolid ar dir llan Darowen, ac y mae’r cae lle gwelsom y ffynnon yn ddigon agos i’r eglwys i fod yn rhan o’r tir hwnnw. Ar fap degwm o ddechrau’r 19eg ganrif mae’r enw ‘Pant y pistill’ ar y cae, ond ysywaeth heb enwi’r pistyll ei hun: ond yr oedd ganddo ei amgae sylweddol ei hun, ac yr oedd popeth yn ei gylch yn cefnogi ein teimlad mai hon, yn wir, yw Ffynnon Dudur. 

Yr oedd y Parchedig Barnes wrth ei fodd o glywed am ein hymweliad, ac ni wastraffodd amser cyn ymweld â’r ffynnon ei hun. Dywedodd wrthym y bwriadai wneud ymweliad â’r ffynnon yn rhan o wasanaethau bedyddio yn y dyfodol.

Janet Bord

Awst 2016  

cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

FFYNNONGROYW.

Rhag ofn nad ydych erioed wedi gweld y ffynnon sy’n rhoi ei henw i bentref Ffynnongroyw yn Sir y Fflint, dyma i chi lun gan Dai Roberts o Fostyn ohoni, diolch i Paul o Gymdeithas Bwcle. Ceir y ffynnon yn “Well Lane” yn y pentref, a dyma i chi atgofion Ness Davies (ganed 1917) amdani:

 

 “’Na’ i ddeu’ ’thych chi be’ on ni yr adag yna yndê, Ffynnongroyw. Wel Ffynnongroyw ydi... dach chi’n gwbod be’ ma... mae’n feddwl, yntê, bo’ gynnon ni ffynnon yma. A mi odd ’i’n groyw. Ag odd y ffynnon... dyma Well Lane, man nw’n galw... dach chi’n gweld? Wel yn ganol y pentra, i lawr yn Well Lane ’ma, mi o ’na ffynnon. Mae ‘i yna rwan, ond bo’ nw ’di châ hi fyny. A dwi ‘di bod yn deu’th y cownsils ’ma, ond man nw yn deud bod nw’n mynd i ail ’i hagor ’i. A ma’ ’i’n ffynnon sy ’di bod yn rhedag ar hyd yr oesoedd. A dena odd yn job mwya ni odd cario dŵr. Ag on i’n cario i ’nghartre fi, yndoedd, ag on i’n cario i ddau ne dri o gartrefi erill, ag on nw’n rhoid ceniog. On i’n lwcus yn câl ceniog.”

Gellir clywed atgofion Ness Davies yn https://museum.wales/articles/2011-03-29/The-Welsh-dialect-of-Ffynnongroyw-East-Clwyd/ 

 cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

Ffynhonnau Maramureș, Romania

 

Ddiwedd mis Awst diwethaf treuliais ychydig ddiwrnodau yn rhanbarth Maramureș yng ngogledd Romania, am y ffin â’r Wcráin. Nid af fi ddim i draethu yma am yr holl ryfeddodau a welais yno: cewch ddarllen rhagor am hynny yn rhifynnau nesaf “Llafar Gwlad”, os ydych â diddordeb. Digon dweud yma y deuthum ar draws dau fath o ffynnon ddiddorol.

 

 

 

“Aiasma”cwfaint Bârsana, ger Sighet ym Maramureș.  

 

 

Eicon “Y Ffynnon Fywiol”, ac arwydd “Dŵr Sanctaidd”

 

Uchod mi welwch “aiasma”, sef ffynhonnell dŵr sanctaidd sy’n gysylltiedig   â safle o bwys crefyddol. Yn yr achos hwn, cwfaint Bârsana ger dinas Sighet. Er mor hynafol yr olwg arnynt, i’n golwg ni, yw’r adeiladau pren yno, fe’u codwyd oll er 1993, ac y maent yn cynnwys math ar dabernacl pren uwchben ffynhonnell dŵr sanctaidd ar gyfer defodau’r Eglwys Uniongred a’r miloedd pererinion sy’n ymweld â’r lle.  

 

Arwydd ffynhonnell dŵr yfadwy gerllaw pistyll.

 

Math arall ar ffynhonnell a welais oedd y “tsiwrói”, sef tarddle dŵr yfed. Arwyddir safle’r darddell, a bod y dŵr yn addas i’w yfed, trwy osod ffon yn y ddaear gerllaw,  ac ar ei phen, gwpan neu lestr â’i ben i  waered.  

 

Gwelais hwy ar fy nheithiau. Byddai yno bobl yn llenwi piseri a chaniau â’r dŵr, oherwydd er bod gan ardaloedd trefol Romania gyflenwadau dŵr go ddiogel a dibynadwy, mae llawer o’r farn nad yw dŵr tap i’w gymharu â dŵr yr hen ffynnonellau dibynadwy fu’n cyflenwi eu hynafiaid ers canrifoedd. Yn aml nid oes dŵr tap yng nghefn gwlad: mae’r trigolion yn dibynnu ar eu ffynhonnau eu hunain, a chodwyd eu tyddynnod gyda golwg ar leoliad y cyflenwad dŵr agosaf. Mae dŵr, wedi’r cwbl, yn drwm drybeilig i’w gario!

HH.

 cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

 

Pleser gennym yw cynnwys yn y rhifyn hwn o “Llygad y Ffynnon” ran gyntaf crynodeb o erthygl gan TRISTAN GREY HULSE o’r Bontnewydd, Llanelwy. Mae Tristan yn aelod o’r Gymdeithas, ac yn adnabyddus iawn nid yn unig am ei ddiddordeb dwfn mewn ffynhonnau sanctaidd ac agweddau eraill ar ein treftadaeth ysbrydol, ond hefyd am ei wrthrychedd a’i drylwyredd ysgolheigaidd. Ym maes hanes safleoedd sanctaidd, mae hynny o wybodaeth ddibynadwy sy’n weddill yn aml wedi’i chuddio tan drwch o ddychmygion, tybiaethau a ffantasïau; felly da cael cryman miniog meddwl Tristan i hel yr holl chwyn o’r ffordd, a chaniatáu inni olwg eglur ar ein hetifeddiaeth.

 

Ffynnon Leinw, Cilcain (1)

 

Ceir Ffynnon Leinw, Cilcain yn union i’r de o ffordd yr A541 rhwng yr Wyddgrug a Dinbych, yng nghongl ogledd-orllewinol coedwig yn union i’r gorllewin o’r Hendre (Cyfeirnod AO 186 677). Mae hanes y darddell hon yn gymhleth ac, yn aml, yn ddryslyd.

 

Ar ei daith trwy Gymru ym 1188 arhosodd Gerallt Gymro noson yng Nghastell Rhuddlan, lle y clybu:

 Y mae tarddell nepell o Ruddlan, yn rhanbarth Tegeingl, sydd nid yn unig yn treio ac yn llenwi’n rheolaidd fel y môr, ddwywaith ym mhob pedair awr    ar hugain, ond ar adegau eraill yn aml yn codi ac yn gostwng liw nos a lliw dydd.

 

Yr oedd Gerallt eisoes wedi sylwi ar ffynnon gyffelyb ei hymddygiad ger Castell Dinefwr yn Nyfed.

 

Ym 1572 cyhoeddodd Humphrey Llwyd ei Commentarioli Britannicae Descriptionis Fragmentum, lle crybwyllir bod yn Nhegeingl:

 

Mae yn Nhegeingl ffynnon o natur ryfeddol sydd, a hithau chwe milltir o’r môr,  ym mhlwyf Cilcain, yn treio ac yn llenwi ddwywaith y dydd. Eto sylwais ar hyn yn ddiweddar, pan gyfyd y lleuad o’r gorwel dwyreiniol i’r de (ar ba adeg y llif yr holl foroedd) bod dŵr y ffynnon hon yn treio ac yn llenwi ar yr adeg honno.

 

Mae’r frawddeg gyntaf fel petai’n adleisio Gerallt, ond mae’n lleoli’r ffynnon yng Nghilcain. Gŵr o Ddinbych oedd Llwyd: yr oedd yn amlwg yn gyfarwydd â Chilcain, ac wedi sylwi ar duedd y ffynnon i fynd yn hesb ar adegau neilltuol o’r flwyddyn.

 

Y cyntaf i’n hysbysu ynghylch enw’r ffynnon yw David Powel yn ei argraffiad o daith Gerallt Gymro, lle’i geilw yn “Fynon Leinw”. Wedi hynny crybwyllir y ffynnon gan Camden ym 1586 a 1603, a Speed ym 1611/12. Ym 1694 rhoddodd Richard Mostyn o Nannerch wybod i Edward Llwyd am “Fynnon Leinw”, gan ddweud nad oedd nac yn treio nac yn llenwi, er “y bu yn y gorffennol, fel y dywedant”. Tybiai Mostyn nad Ffynnon Leinw oedd yr un a gofnodid gan Gerallt, ond yn hytrach, Ffynnon Asa, ffynnon sylweddol y dywedid ei bod hithau hefyd yn treio ac yn llenwi.

 

Tua 1699 mae gohebwyr Llwyd yn crybwyll Ffynnon Fihangel a Ffynnon Leinw ym mhlwyf Cilcain;  Ffynnon y Santes Gatrin, Ffynnon y Beili a Ffynnon Maes Garmon ym mhlwyf yr Wyddgrug; ac yn y Cwm, tarddell “hynod iawn” Ffynnon Asa, y dywedid ei bod yn treio ac yn llenwi gyda’r môr, ond bod cadw golwg arni am naw awr wedi profi nad gwir hynny.

 

Mae Moses Williams (1723) yn crybwyll nad oedd Ffynnon Leinw, Cilcain bellach yn llenwi ac yn treio, er y dyfalai Williams fod yr enw’n awgrymu y bu felly yn y gorffennol. Dywed Thomas Pennant (1781) fod y ffynnon yn un betryal, gyda wal ddwbl o’i hamgylch. I grynhoi:

 

·         Gerallt Gymro yn crybwyll tarddell yn ymyl Rhuddlan sy’n treio ac yn llenwi ddwywaith y dydd, ond hefyd yn aml yn ystod y dydd;

·         Humphrey Llwyd yn uniaethu tarddell Gerallt â ffynnon dreio-a-llenwi ddienw yng Nghilcain, sydd hefyd yn hesb ar adegau o’r flwyddyn;

·         David Powel yn enwi’r ffynnon yng Nghilcain a grybwyllir gan H. Llwyd, sef Ffynnon Leinw;

·         William Camden yn crybwyll ymddygiad hynod ffynnon Cilcain;

·         Richard Mostyn ac Edward Llwyd yn awgrymu y byddai Ffynnon Asa, Cwm, yn cyfateb yn well i darddell Gerallt, ac nad yw Ffynnon Leinw, Cilcain, bellach yn ffynnon dreio-a-llenwi.

 

Nid Ffynnon Leinw a Ffynnon Asa mo’r unig ffynhonnau o’u bath. Honnid yr un peth am o leiaf deg arall yng Nghymru, a cheir eraill yn Lloegr. Amhosibl dweud yn sicr pa un o’r ddwy yw’r darddell y clywsai Gerallt Gymro amdani, ond bu cynnwys Ffynnon Leinw yn arolwg daearyddol dylanwadol William Camden, Britannia, yn fodd sefydlu’n gyhoeddus bod ffynnon yng Nghilcain a fwydid gan darddell a dreiai ac a lenwai.

 

Mewn gwirionedd, ni chadarnhawyd fod unrhyw un o’r ffynhonnau hyn yn gwneud dim o’r fath. Mae pob ffynnon yn tueddu i amrywio o ran llif, a llawer yn mynd yn gwbl hesb ar dywydd sych. Gall  dŵr tarddellau ar garreg galch hydraidd, fel rhai Sir y Fflint, lifo’n afreolaidd, diflannu o dan y ddaear, ac yna ailymddangos drachefn, weithiau gryn bellter i ffwrdd. Nodwyd hynny yn achos plwyf Cilcain ei hun yn Parochialia Edward Llwyd, lle y dywedir bod “eu holl nentydd yn plymio”. O gofio hynny, ac y gallai peth amser fynd heibio cyn i ddŵr glaw dreiddio trwy’r ddaear a’r creigiau i ailgyflenwi’r tarddellau hyn, nid rhyfedd iddynt weithiau ffrydio’n fyrlymus, ac weithiau beidio. Hynny, mae’n debyg, a barodd adnabod un ohonynt megis y ffynnon a leinw, ac i bobl dybio bod a wnelo hynny â’r un grym a yrrai lanw a thrai’r môr.

 

I “Nennius”, Gerallt ac Edward Llwyd, yr oedd ymddygiad anarferol tarddellau, llynnoedd a llanwau yn destun rhyfeddod a chwilfrydedd mawr, ond yn anesboniadwy. Rhyfeddod naturiol oedd ffynnon Cilcain gan wŷr dysgedig fel Humphrey Llwyd a Thomas Pennant, hefyd: ond ni cheisient gynnig rheswm am y llenwi a’r treio. Yn ei bryddest hirfaith Poly-Olbion (1613), mae Michael Drayton yn mydryddu sylwadau Humphrey Llwyd am y ffynnon yng Nghilcain fel a ganlyn:

 

As also be thy Spring, such wonder who dost win,

That naturally remote, six British1 miles from sea,

And rising on the firm, yet in the natural day

Twice falling, twice doth fill, in most admired wise,

When Cynthia2 from the East unto the South doth rise,

Then mighty Neptune3 flows, then strangely ebbs thy Well;

And when again he sinks, as strangely she doth swell...

 

                 1 Cymreig, hynny yw. 2 Y Lloer. 3 Y môr.

 

Eto, yn ei sylwadau ar gynnwys y gerdd, mae’r hynafiaethydd John Selden (1584-1654) nid yn unig yn datgan mai Finon Leinw yn Kilken yw’r gwrthrych, ond hefyd yn cyfeirio at sylwadau H. Llwyd a Powel, ac at ffynhonnau cyffelyb yn Nhrenewydd yn Notais ym Mro Morgannwg.

 

 Â rhagddo i hanner awgrymu, â’i dafod yn ei foch, bod Natur yn darparu’r fath ryfeddodau’n fwriadol er mwyn creu penbleth i ddysgedigion. Yn wir, yr oedd yr hinsawdd ddeallusol yn newid: ac yn ei Micrographia (1665), mae’r “athronydd arbrofol” Robert Hooke yn wfftio at y syniad o ryfeddodau naturiol, gan geisio esbonio ymddygiad ffynnon Cilcain trwy ddamcaniaethu y gallai’r darddell fod â chysylltiad tanddaearol â’r môr. Yr oedd yr Oes Wyddonol ar wawrio.

 

Diddorol – a gwers inni – yw cydnabod cyn lleied o’r dysgedigion a ysgrifenasant ynghylch Ffynnon Leinw a’i gwelodd erioed. Yr oedd ei statws megis rhyfeddod naturiol yn parhau oherwydd bod awduron yn dibynnu ar awdurdod awduron blaenorol, yn hytrach na’i hastudio. Eithr ni ddarfu am y diddordeb yn y ffynnon gyda diwedd oes y rhyfeddodau naturiol. Yn hytrach, caniataodd hynny  ddwyn i’r amlwg agweddau eraill ar hanes y ffynnon, a chynnig model newydd agosach, efallai, at y ffeithiau gwirioneddol, a mwy cydnaws â hydeimleddau Gothig a Rhamantaidd y ddeunawfed ganrif a’r ganrif ganlynol. Y model hwnnw yw bod Ffynnon Leinw’n ffynnon sanctaidd.

 

(i’w pharhau)

 

cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

 

FFYNHONNAU CYMRU A’R SIPSIWN

 

Cyfrol ddiddorol eithriadol yw “The Dialect of the Gypsies of Wales” John Sampson, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1926. Treuliodd Sampson flynyddoedd yn byw gyda’r Sipsiwn, yn dysgu eu hiaith, yn cofnodi eu chwedlau ac yn astudio eu diwylliant. Rhydd inni olwg ar fyd llefarwyr Romani olaf Cymru, ychydig flynyddoedd cyn i’r byd hwnnw ddiflannu. Yma a thraw yn ei gyfrol ceir cyfeiriadau at ffynhonnau neilltuol, ac arferion neu gredoau cysylltiedig â nhw. Dyma rai y sylwais arnynt:

 

Am ffynnon ym Môn, dywedir (t.145): “Unwaith y flwyddyn byddai’r darddell hon yn cynhyrfu: a phe bai unrhyw un a gyflawnasai drosedd, megis llofruddiaeth, teflid ef i’r dŵr cynhyrfus hwn; ac os oedd i’w achub, ac nid ei ddinistrio, byddai’r dŵr yn ei fwrw’n fyw ar dir sych (chwedl ynghylch diheurbrawf mewn tarddell ym Môn).”

 

Am ffynnon arall, dywedir (t.148): “Arferai fy mam-yng-nghyfraith fwydo hances yn y darddell (yng Nglan-y-mor [sic]) a’i fowldio’n llun calon, a’i gosod eto’n llaith ar ei chalon ei hun (swyn i wella afiechyd a achosid gan wrachyddiaeth).” Ymhellach (t.179-180): “Dwi wedi fy witsio. Af yno, i’r ffynnon fechan yng Nglan-y-môr, ac ymolchaf, ac yfaf o’i dŵr (dywedwyd gan Syforella Wood).”

 

Rhestrir rhai ffynhonnau eraill, hefyd, a’u henwau Romani yn aml yn gyfieithiadau o’r Gymraeg:

 

I gozhvali cheni (y ffynnon swyn): Ffynnon hud, tarddell iachaol; yn enwedig honno yn Llandrillo-yn-Rhos.

Glanimoraki cheni (ffynnon Glan-y-môr): Tarddell iachaol ddirgel yng Nglan-y-môr.

I cali cheni (y ffynnon ddu): Ffynnon Ddu, yn ymyl y Drenewydd.

I loli cheni (y ffynnon goch): Cae Coch, yn ymyl Trefriw (ffynnon ddurllyd).

Saraci cheni (ffynnon Sara): Ffynnon Sara, Clawddnewydd.

I iŵzhi cheni (y ffynnon bur): Ffynnongroyw, yn ymyl Mostyn.

I chenako gaf (lle’r ffynnon): Treffynnon.

 

Gallai rhywun dybio y byddai “ffynnon glan-y-môr” yn enw addas ar Ffynnon Drillo yn Llandrillo-yn- Rhos, ond mae rhestr Samson yn awgrymu mai dwy wahanol ffynnon ydynt. A all unrhyw un awgrymu ymhle’n union y mae, neu yr oedd, “Ffynnon Glan-y-môr”? Ac a ŵyr unrhyw un pa darddell oedd honno ym Môn y bwriwyd troseddwyr tybiedig iddi? Byddai’n ddiddorol iawn gwybod!

 cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

 

“Llygad y Ffynnon” yw cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Y golygydd yw Howard Huws, Bangor, a gellir gyrru unrhyw gyfraniad ato yn golygydd@ffynhonnau.cymru . Gellir ei alw ar 01248 351503 neu 07870 797655.

 

Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natur, hanes ac arwyddocâd ffynhonnau Cymru ymuno â’r Gymdeithas. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn i unigolion, £15 i deulu, ac £20 i gorfforaeth; ac anogir pawb i dalu trwy archeb banc uniongyrchol, os gwelwch yn dda – mae’n arbed cymaint o drafferth. Er mwyn ymaelodi, neu adnewyddu aelodaeth, llanwch y ffurflen ar-lein yn http://www.ffynhonnaucymru.org.uk/ffurflen_aelodaeth.htm a gyrrwch hi at Gwyn Edwards yn  trysorydd@ffynhonnau.cymru , neu cysylltwch â Gwyn neu unrhyw swyddog arall yn uniongyrchol.

 

Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bu’n rhaid i Dafydd Jones ymddeol o’r Gadeiryddiaeth a phob swydd arall am resymau meddygol. Yr ydym, felly, yn chwilio am GADEIRYDD NEWYDD ar gyfer y Gymdeithas. Mae’r dyletswyddau’n gyfyngedig i gadeirio’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yng Ngorffennaf ac un Cyfarfod Pwyllgor ym mis Mawrth, a chynrychioli’r Gymdeithas o bryd i’w gilydd os bydd angen. Pwy hoffai’r swydd ddymunol hon?

 

Cofiwch hefyd fod ôl-rifynnau 1 - 40 “Llygad y Ffynnon” yn awr ar gael ar gryno-ddisg. Mae’n drysorfa o wybodaeth ynghylch ffynhonnau ein gwlad, a hynny am ddim ond £6.50c. Er mwyn archebu copi, cysylltwch â Dennis Roberts yn dennis.h.roberts@btinternet.com.

 

Cofiwch hefyd am WEFAN Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn www.ffynhonnau.cymru, neu gallwch ein canfod tan Ffynhonnau Cymru. Mae yno doreth o wybodaeth, gan gynnwys manylion ffynhonnau unigol, copïau o ôl-rifynnau “Llygad y Ffynnon”, manylion a hanes y Gymdeithas, a ffurflen ymaelodi ar-lein. 

 

Os oes arnoch awydd ein helpu, a bod gennych ychydig amser, mae gwir angen creu MYNEGAI i gynnwys 40 rhifyn cyntaf “Llygad y Ffynnon”. Byddai o gymorth mawr i bobl ganfod gwybodaeth berthnasol heb orfod bustachu trwy bob un rhifyn, ac i swyddogion a chyfranwyr weld pa wybodaeth a gyhoeddwyd eisoes, rhag inni ein hailadrodd ein hunain! Gwerthfawrogid y fath gymorth yn fawr.

NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA I CHWI OLL! YMLAEN Â NI YN 2017!

cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf