Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

CYLCHGRAWN CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMU                                                                                    RHIFYN 40 HAF  2016

FFYNHONNAU ARDUDWY

Codwyd y wybodaeth ganlynol o Gyfrol David Davies, (Dewi Eden) Harlech ARDUDWY A’I GWRON a gyhoeddwyd yn 1914 ac a argraffwyd  dros y  cyhoedddwr gan J. D.Davies and Co., Swyddfa’r “Rhedegydd”, Blaenau Ffestiniog. Dyma a ddywedir am ffynhonnau Ardudwy ar dudalennau 21a22. (Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

Gall aml i ardal yng Nhymru ymffrostio yn eu ffynhonnau hynafol, y rhai gynt a ystyrid yn gysegredig. Yn yr oes hygoelus, tybid fod y ffynhonnau hyn wedi eu gwaddoli gan y seintiau â rhin ysbrydol. Ceir nifer o’r ffynhonnau hyn yn cael eu hystyried felly heddyw gan lu o bobl. Tebygol  fod yr uwchafiaeth hon a briodolir i’r ffynhonnau yn gwreiddio yn yr amseroedd cyn y cyfnod Cristionogol, oblegid, fel y gwyddys, yr oedd afonydd a ffynhonnau yn cael lle dwfn yn y gyfyundrefn dderwyddol, mewn canlyniad, yn ddiamheuol, i’r traddodiadau adgofiannol yng nghylch y Diluw – yr amgylchiad mawr hwnnw, a ddinistriodd, ac a gadwodd yn fyw. Yr oedd y parch i’r ffynhonnau yn cael ei gario mor bell, fel yn Llydaw a Ffrainge, y dirywiodd y parch i eulunaddoliaeth ronc, oblegid yr oedd parchedigaeth ddwyfol yno yn weithredol, yn cael ei dalu i Onvana neu Divona, fel y dduwies oedd yn llywyddu dros y dyfroedd,&c. (Ceir ysgrif ddiddorol ar y pwnge hwn gan Ap Ithel yn yr “Archaeologia Cambrensis” (1846), p.50).

Nodwn rai ffynhonnau o hynodrwydd geir yn Ardudwy.

FFYNNON BADRIG (SH59982455)

 Ceir hon ar dir Caerffynnon , yn Nyffryn Ardudwy. Cafodd ei henw oddiwrth Sant Badrig, yr hwn a annogodd Osborn Wyddel, a drigai ar y pryd yn y Byrllysg, neu yn fwy priodol Osber-lys. Yr hwn wedi hyny a briododd aeres Gorsygedol, - i ymolchi yn ei dyfroedd ac iddo wedi hynny gael gwared oddiwrth anhwyldeb pwysig oedd yn ei flino.

FFYNNONAU Y TYDDYN MAWR A GHORS DDOLGAU

Ceir y rhai hyn yn Nyffryn Aedudwy. Dywed traddodiad mai Gwyddno Garanhir, Tywysog Cantref y Gwaelod, a gafodd allan gyntaf erioed fod rhinweddau yn perthyn i ddyfroedd y ffynhonnau hyn. Dywedir mai un o Phylipiaid Awenyddol Mochras a ddywedodd am ddyfroedd Ffynnon Cors Ddolgau:

                        “Diliau geir wrth Gors Dolgau

                         Na wyddys eu rhinweddau.”

FFYNNON ENDDWYN (SH61372552)

Tardda Ffynnon Enddwyn ar fridd Talwrn Fawr, oddeutu dwy filltir o Llanenddwyn, yn Ardudwy. Dywed traddodiad i’r Santes Enddwyn, yr hon a sefydlodd Eglwys Llanenddwyn, gael ei blino gan ryw afiechyd poenus, ac  iddi un prynhawngwaith tesog o haf hir felyn, a hi yn ymdaith i Drawsfynydd trwy Gwm Nantcol, droi at ffynnon fechan yng ngwaelod y Cwm, ac yfed ohonni ac ymolchi er dadluddedu, ac iddi yn y fan ddyfod yn holliach; a gelwid y ffynnon ohynny allan yn “Ffynnon Enddwyn.”  

 FFYNNON ENDDWYN  

 FFYNNON ERWDDWFR (SH612338)

 Mae hon ar dir Erwddwfr, Trawsfynydd. Priodolir i’r ffynnon hon gan y trigolion hynafiaeth a rhin. Pwy, a pha bryd y cafwyd allan ei rhin sydd anhysbys. Yr oedd wedi ei hadeiladu ar raddeg fechan er yn foreol. Adgyweiriwyd a helaethwyd hi gan y diweddar Barchedig  Edward Davies (A.) Derfel Gadarn, yr hwn a fu yn trigiannu am gyfnod  maith yn Erwddwfr, ac yn gweinidogaethu i’r Annibynwyr yn yr ardal. Dywedir fod dyfroedd y ffynnon hon yn meddu rhin i wella afiechydon amrywiol a phriodolid iddi rin cyfriniol.

 cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffc

FFYNHONNAU’R YNYS, GER TALSARNAU

(Diolch i Dafydd Jones,Bryn Offeren, Blaenau Ffestiniog am gael golwg ar y ddogfen sy’n cynnwys y wybodaeth yma a gasglwyd  beth amser yn ôl o atgofion pobl leol. Mae’n dangos pa mor ddibynnol oedd pawb ar ffynhonnau ers talwm)

Cyn 1935 roedd y dŵr yn Edrin yn dod o ffynnon ac roedd pwmp yno ar safle’r ffynnon. Os oeddech am gael bath roedd rhaid pwmpio’r dŵr trideg pump o weithiau. Roedd y ffynnon rhwng Clogwyn Melyn a Cefn  Gwyn a’r dŵr  yn cael ei bwmpio i danc mawr yn y to.

 Roedd y dŵr i Wrach Ynys yn cael ei gario mewn peipiau o darddiad yn Tŷ Cerrig ac yn cael ei bwmpio i fewn i do’r tŷ. Ger Tŷ Cerrig roedd tank wrth y ffordd  a dyna pam fod y cae yn cael ei alw yn Cae’r Ffynnon. Mae’r ffynnon ei hun ymhellach i mewn i’r cae. Mewn tywydd sych byddai’r merched yn cario dŵr o ffynnon Tŷ’r Ogof. Roedd yna ffens o’i chwmpas a giat i fynd i mewn ati.  Arferid cario’r dŵr mewn bwcedi ar iau oedd yn cael ei osod ar draws ysgwyddau person- un bwched bob ochr.

Roedd fynnon ar ochr y ffordd wedi mynd heibio Rhyd Goch ond roedd y perchennog  wedi gosod clo arni. Mae ffynnon Ael y Bryn wedi diflannu o dan y tyfiant erbyn hyn.  Cafodd ei chau pan ledwyd y ffordd . Pan oedd  y peipiau i gyd wedi rhewi yn 1963 a dim dŵr ar gael, agorwyd y ffynnon unwaith eto. Roedd carreg fawr dros y ffynnon ac yng nghyfnod ei defnyddioldeb, unwaith yr wythnos cai’r ffynnon ei gwagio a’i glanhau a llifai dŵr  glân i mewn iddi. Ffynnon gref arall oedd ffynnon Bron Ynys. Cafodd hithau ei defnyddio yn 1963 i  gael dŵr yfed. Ffynnon rhyfeddol yw Ffynnon Traeth, rhyw dri chan llath o’r Clogwyn Melyn islaw Edrin. Mae llanw’r môr yn llifo drosti ond pan ddaw’r trai mae’r dŵr yn gwbl glir unwaith eto heb unrhyw flas halen arno. Byddai pobl yn mynd at y ffynnon i gael picnic ers talwm, yn yfed y dŵr ac yn llanw tegell ohoni i’w ferwi a chael te. Byddai blas arbennig ar ddŵr y ffynnon ac ar y te hefyd!

cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

APEL DAER I'R AELODAU

gan Dennis Roberts, Meistr ein Gwefan a’n Archwilydd Mygedol

Mae cryn drafodaeth wedi bod yn y Cyngor ynglŷn â chostau argraffu a phostio Llygad y Ffynnon. Mae’r costau wedi cynyddu yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac erbyn hyn yn  rhoi dyfodol Llygad y Ffynnon yn y fantol. Felly erfyniwn at y rhai ohonoch a fedr dderbyn eich copi ar ffurf ddigidol (PDF) i gysylltu â’r Golygydd ar golygydd@ffynhonnau.cymru gyda’ch cyfeiriad ebost. Neu os hoffech, yn y lle cyntaf, gael copi o un rhifyn o’r cylchrawn i weld os ydych yn hapus gyda’r copi digidol yna gyrrwch eich cyfeiriad ebost  i Dennis Roberts at gwefeistr@ffynhonnau.cymru  Dros amser gobeithio bydd y rhan fwyaf o’r aelodau yn derbyn Llygad y Ffynnon mewn ffurf digidol, a thrwy hynny yn arbed swm sylweddol i’r gymdeithas i’w wario ar faterion eraill yn ymwneud â ffynhonnau ac i ddatblygu Llygad y Ffynnon.

cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

 

Y FFYNNON GOCH NEU FFYNNON BOSTO

(SH4786)

 

Diolch i’r Dr Graham Loveluck, Marianglas, Sir Fôn am dynnu sylw at erthygl yn Yr Arwydd- Papur Bro Cylch Bodafon, am Y Ffynnon Goch. Meddai yn ei lythyr, “ Roedd yna erthyglau yn Llygad y Ffynnon rhifyn 16 ac 17 ar Ffynnon Lord Boston yn Mhenrhosllugwy, Môn. Felly ‘rydw i’n siwr fod gennych ddiddordeb yn yr erthygl amgauedig.” 

Awdur yr erthygl oedd Mair Tyddyn Main neu Mair y Wern ac wedi cael sgwrs ar y ffôn cafwyd caniatâd i adgynhyrchu cynnwys yr erthygl yn Llygad y Ffynnon:-

Dyma atgofion Eric Roberts, sy’n 91 oed, ac wedi ymgatrtrefu yn Hatton, Swydd Derby ers yn ŵr ifanc, am Ffynnon Lord Boston ar Ros Glytir.

 Pan oeddwn yn blentyn yn 1936 cofiaf fynd i nôl dŵr mewn bwced i mam; y dŵr gorau i drin menyn yn yr hen gorddwr pren. Roedd y menyn yn galed, gaeaf a haf, ac rwyf wedi yfed chwartiau o’r dŵr; dŵr perffaith glir wedi ei godi o’r ffynnon, ond ar ôl ei ferwi yn troi yn goch. Mae’n debyg mae’r sulphur oedd wedi achosi hyn. Mae’r adeilad wedi altro’n arw ers pan wyf fi’n ei gofio wrth gerdded bob dydd trwy Rhos Glytir i Ysgol Penrhos.”

Dyma erthygl Mair:

Yn sicr bu amryw o drigolion Penrhos yn yfed y dŵr llesol o’r Ffynnon Goch ar Ros Glytir ers cyn cof. Mae’n debyg bod fy nheulu wedi cario dŵr ohoni ymhell cyn i’r muriau gael eu codi. O’i hamgylch felly’r Ffynnon Goch oedd hi i ni yn Nhyddyn Main. Cariai fy nhaid, William Owen (1847-1932) ddŵr ohoni’n rheolaidd ac yn ôl bob sôn roedd yn hen ŵr prysur a sionc a fu farw’n sydyn yn 90 oed. Y diwrnod cynt dringodd i ben ystol yn ddidrafferth i lifio brigau coeden oedd yn taflu gormod o gysgod dros yr ardd.

Llwydiaid Llugwy oedd tirfeddianwyr y rhan helaethaf o blwyf Penrhosllugwy o’r canol oesoedd hyd nes i’r olaf o’r teulu, Thomas Lloyd, orfod gwerthu ei etifeddiaeth oherwydd trafferthion ariannol yn 1741. Prynwyd y stad gan yr Arglwydd Uxbridge, yr hwn a’i gadawodd i’w nai, Syr William Irby a gafodd ei urddo’n Arglwydd Boston y cyntaf.

Yn 1864 cododd George Ives Irby, y 4ydd Arglwydd Boston, furiau caerog o amgylch yr hen ffynnon gyda drws trwm a handlen fawr gron i godi’r clicied. Gosododd blac uwch ben y drws ac arno,

                                                SULPHUR WELL

                                                    “BOSTON”

                                                        1864

Dyddiau cyn Nadolig 1869 bu farw yn ei gartref yn Llundain yn 67 mlwydd oed ac ar ôl ei farwolaeth etifeddodd ei fab, Florence George Irby y teitl. Cafodd y 5ed  barwn yr enw ‘Florence’ am iddo gael ei eni yn y ddinas honno yn yr Eidal  a chariwyd yr enw ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth. Roedd y 6ed barwn, George Florence Irby, yn ŵr amryddawn, yn wleidydd ac yn wyddonydd a chymerai ddiddordeb mewn archaeoleg, natur a llawer mwy. Bu’n Llywydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Naturiaethwyr Môn a’i sefydlu yn 1912 tan ychydig cyn ei farw yn 1941. Yn dilyn ei farwolaeth bu rhaid gwerthu’r rhan fwyaf o’r stad. Ar y cynllun arwerthiant yn 1945 nodir safle’r ffynnon fel chalybeate spring, a dyna ydyw, mae dŵr y ffynnon yn sicr yn cynnwys haearn. Yn ôl ei arogl efallai’n wir fod ynddo rhywfaint o swlffwr yn ogystal, a phwy a ŵyr beth arall.

Ar ddechrau’r Mileniwm aeth heibio darganfyddodd y Rhufeiniaid ddŵr iachusol yn Nhrefriw – dŵr chalybeate. Ar wahan i’r haearn sydd yn y dŵr hwnnw mae llawer iawn o fwynau ac elfennau hybrin sydd yn llesol i ngorff a meddwl dyn. Bellach mae’n cael ei ddefnyddio ym mhob cwr o’r byd.

Mae dŵr Ffynnon Boston yn gryfach o lawer ei flas ond nid yn gryfach ei arogl na dŵr Trefriw. Beth bynnag yw ei gynnwys mae’n amlwg bod ei yfed wedi cadw fy nhaid a fy ffrind bore oes, Eric Glytir, yn heini yn eu henaint.

Gresyn bod y ffynnon mewn cyflwr rhy ddrwg erbyn hyn i ddyn nag anifail yfed ohoni.

  cffcfcffcffcffcffcffcffcffcf

CYFRANIAD WELL HOPPER

Os oes gennych gyfrifiadur ewch i wefan Well Hopper https://wellhopper.wordpress.com/. Yno cewch weld lluniau gwych o lawer o ffynhonnau o Ogledd Cymru. Dyn o’r enw Ian Taylor o Helsby, Cilgwri sy’n gyfrifol amdanynt. Mae yn aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru ac yn dysgu Cymraeg. Mae’n ddi-ildio yn ei gais am wybodaeth am ffynhonnau ac yn barod i fentro i fannau anodd i gael hyd i ffynnon. Diolch am ei gyfraniad arbennig. Daeth i’n cynhadledd yn Llandudno yn 2013.  Wrth i’w waith a’i wybodaeth gael ei ganmol yno ac i bobl holi pwy oedd y Well Hopper cyfaddefodd  mai fo ydoedd a hynny mewn modd gwylaidd  a gostyngedig iawn.

  cffcfcffcffcffcffcffcffcffcf

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FWROG, LLANFWROG, RHUTHUN (SJ1157)

Mae Llanfwrog ar y ffordd allan o Rhuthun i gyfeiriad Cerrigydrudion. Mae’r stryd sy’n cario enw’r sant yn un llydan braf, ond wedi mynd heibio’r cylchdro mae’r ffordd sy’n dringo at yr eglwys a’r dafarn yn gul a throellog cyn lledu eto a mynd i gyfeiriad Clawdd Newydd.Yn ddiweddar derbyniwyd ebost gan Susan Kilday o Rhuthun. Roedd wedi gweld ein gwefan ac yn gobeithio y gallem fod o gymorth iddi. Roedd wedi sylwi fod y fynedfa at y ffynnon wedi cael ei symud gan darw dur a giat wedi ei gosod dros y fynedfa. Cyn hynny roedd llwybr o laswellt yn arwain at y ffynnon. Bwriad Susan oedd cysylltu â  Chyngor y Dref i weld beth oedd yn digwydd ar y safle. Anfonwyd ebost at Janet Bord, arbenigwraig ar ffynhonnau sanctaidd ac awdur nifer fawr o lyfrau ar y pwnc. Mae hi’n byw yn Llanfwrog ac yn dysgu Cymraeg. Er iddi edrych ar fapiau’r degwm- sy bellach ar gael ar lein- nid oedd cyfeiriad at y ffynnon arbennig hon. Cysylltodd â Tristan Gray Hulse- arbennigwr arall ar ffynhonnau sy’n byw yn Bont Newydd ger Llanelwy. Flynyddoedd yn ôl roedd wedi cyfarfod â hen glerigwr oedd wedi dweud wrtho mai’r ffynnon arbennig hon oedd Ffynnon Fwrog. Dwedodd ei bod ar dorlan nant yn agos i’r eglwys. Aeth Ian Taylor i Lanfwrog ac mae’n credu ei fod wedi darganfod y safle ond bod y ffynnon yn sych. Da gweld fod pobl leol yn ymwybodol o bwysigrwydd yr hen ffynhonnau a bod arbennigwyr o fri yn barod i ddod at ei gilydd i gofnodi a chadw ein hetifeddiaeth.

cffcffcffcffcffcffcffcfcffcffcffcffcf

DYDDIADAU PWYSIG I’W COFIO

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

 Cynhelir yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfa, Clynnog Fawr

 Dydd Sadwrn Gorffennaf 16eg  2016  

10.30 am. Ymgynnull yn yr Ysgoldy, Canolfan Hanes Uwchgyrfai.

10.45 am. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

11.45. am Cinio. Pawb i ddod â’i becyn bwyd ei hun. Darperir paned.

12.45 ymlaen am Ymweld â Ffynnon Fyw, Mynytho, Ffynnon Engan, Llanengan  a  Ffynnon Aelrhiw, Rhiw.

Croeso i aelodau hen a newydd.

cffcfcffcffcffcffcffcffcffcf

    EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU SIR FYNWY

 DYDD MERCHER AWST 3ydd

PABELL Y CYMDEITHASAU 2

12.30 – 1.30

 CYFARFOD DAN NAWDD CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

SGWRS YNG NGWMNI

DR ROBIN GWYNDAF, CAERDYDD

 CYFOETH  FFYNHONNAU  CYMRU

cffcfcffcffcffcffcffcffcffcf

DIWEDD CYFNOD

Annwyl Gyfeillion,  

Wedi ugain mlynedd fel Ysgrifennydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac fel Golygydd Llygad y Ffynnon teimlaf fod yr amser wedi dod i mi drosglwyddo’r awenau i eraill. Wedi colli Ken mae ymwneud â’r ffynhonnau yn mynd yn fwy a mwy anodd i mi. Roeddem wedi bod yn chwilio am ffynhonnau a’u cofnodi am bron i hanner ein bywyd priodasol ac wrth i mi barhau i geisio gwneud fy rhan fel Ysgriennydd a Golygydd mae’r hiraeth yn dwysau. Hefyd gwelais mor anodd oedd hi i gario ymlaen gyda gwaith y Gymdeithas heb Drysorydd. Doeth felly yw trosglwyddo’r cyfrifoldebau hyn i eraill. Byddwn yn cynnal Cyfarfod Blynyddol ym mis Gorffennaf a’r adeg honno bydd dwylo medrus Howard Huws yn gwneud y ddwy swydd. Gan mai ef yw’r Cadeirydd presennol rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael Dafydd Jones i eistedd yn y gadair a llywio ein cyfarfodydd. Dymunaf bob rhwydddineb iddynt yn y gwaith. Diolch i Gwyn Edwards am gymryd drosodd fel Trysorydd a diolch am gymorth parod Dennis Roberts ein Harchwilydd. Diolch i’r Dr Robin Gwyndaf am ei arweiniad arbennig fel Llywydd ac i bawb a fu’n aelodau o’r Gyngor. Diolch i holl ddarllenwyr Llygad y Ffynnon sy wedi ymaelodi yn y gymdeithas. Erbyn hyn mae diddordeb yn ein hen ffynhonnau sanctaidd wedi tyfu’n aruthrol a’u dyfodol, o’r herwydd, yn fwy sicr.

Hwn felly fydd y rhifyn olaf i mi ei olygu. O hyn ymlaen bydd y cylchgrawn i’w gael ar ffurf digidol i’r rhai sy’n medru ei dderbyn ond a gael ar bapur hefyd i’r rhai sy heb y gyfleusterau i’w ddderbyn ar gyfrifiadur. Bydd hyn yn arbed costau cynyddol i’r gymdeithas.

 Pob bendith ar waith y gymdeithas i’r dyfodol,

Yn ddidwyll iawn,

Eirlys.

cffcfcffcffcffcffcffcffcffcf

 

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.CH7 1TH

Ffôn: 01352 754458   Cyfeiriad e-bost:  gruffyddargel@talktalk.net

Gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru :  www.ffynhonnau.cymru

  cffcfcffcffcffcffcffcffcffcf

Home Up