Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

CYLCHGRAWN CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMU   RHIFYN 39 NADOLIG 2015

 

 

CYFARFOD CYFFREDINOL CLYNNOG

Na, nid yn Ffynnon Beuno y cynhaliwyd y cyfarfod ar Fedi19 eg ond yng Nghanolfan Uwchgwyrfai a diolch i Marian Elias am drefnu i ni gael defnydd o’r adeilad ac am ein croesawi ni i’r ganolfan. Cafwyd darlith diddorol iawn gan Elfed Gruffydd ar ffynhonnau’r ardal a diolch iddo am ei waith ymchwil a’i barodrwydd i rhannu ei wybodaeth a’i arbenigedd ag eraill. Wedi’r ddarlith cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol o dan lywyddiaeth y Dr. Robin Gwyndaf yn absenoldeb anorfod ein Cadeirydd,  Howard Huws.

Wedi marwolaeth sydyn ein Trysorydd, Ken Lloyd Gruffydd enwyd Gwyn Edwards fel Trysorydd newydd. Diolch iddo am ymgymryd â’r  gwaith. Hefyd dywedodd Eirlys ei bod yn dymuno rhoi’r gorau i fod yn Ysgrifennydd y Gymdeithas yn y Cyfarfod Cyffredinol  nesaf. Hi fu’n gyfrifol am sefydlu’r gymdeithas  ugain mlynedd yn ôl a bellach mae’n teimlo ei bod yn amser i rhywun arall gymryd  yr awenau. Roedd hefyd yn dymuno rhoi’r gorau i fod yn olygydd  Llygad y Ffynnon  wedi i Rhifyn 40 ddod o’r wasg. Dywedodd Dennis Roberts fod pob rhifyn o’r cylchgrawn ar y wefan. Yn y dyfodol y gobaith fydd i anfon y cylchlythyr allan ar y we a dim ond argraffu ychydig o gopïau i’r aelodau na allant ei dderbyn ac i sefydliadau megis y Llyfrgell Genedlaethol.

Cytunwyd  i godi’r tâl aelodaeth blynyddol i £10 ar gyfer aelod unigol, £15 i deulu a £20 i gorfforaeth. Hefyd bydd y flwyddyn aelodaeth yn cychwyn ar y 1af o Orffennaf o hyn allan yn hytrach nag ar 1af oAwst. Byddwn yn annog pawb i adnewyddu eu haelodaeth trwy ddefnyddio archeb banc os yn bosib a gwneur cais arbennig i Aelodau am Oes i wneud cyfraniad pe dymunent.

( Mae’r ffurflen Archeb Banc i’w chael ar dudaen olaf y rhifyn yma o Llygad y Ffynnon.)

Diolchwyd i Bill Jones a Rhys Mwyn am ddarlith ddifyr iawn yn yr Eisteddfod ar eu gwaith yn adfer Ffynnon Gwyddelan, Dolwyddelan.(SH 73705248)

Yn y prynhawn aeth aelodau’r Gymdeithas i ymweld â Ffynnon Beuno, Clynnog (SH41324945) ac yna ymlaen i Ffynnon Gybi, Llangybi.(SH4241)

 

 

 Cafwyd prynhawn o fwynhad pur ac edrychwn ymlaen at ein Cyfarfod Cyffredinol nesaf yng Nghlynnog ar Orffennaf 16eg 2016.

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffc

CROESO I AELODAU NEWYDD

Dawi Griffiths, Trefor

Mererid Moffett, Crundale, Hwlffordd

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffc

PYTIAU DIFYR

HEN  FFYNHONNAU  TREF  ABERYSTWYTH

Casglwyd y wybodaeth ganlynol gan David Samuel, prifathro cyntaf Ysgol Ardwyn. Gwnaeth nodiadau ar gyfer erthyglau a ddyddiwyd Gorffennaf 27ain, 1892. Mae’r dogfennau i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol o dan y cyfeirnod NLW MS 2832B. Diolch i Jane Lloyd Francis. Abercregir ger Machynlleth, am anfon y wybodaeth ar gyfer Llygad y Ffynnon (Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

Meddai David Samuel “Cefais yr hanesion canlynol oddi wrth Mr John Evans, Cabinet maker, un o hen ddinasyddion Aberystwyth, yr hwn sy’n gyfoethog o lawer hanes cysylltiedig â’n tref.”

FFYNNON TWLC YR HWCH

Flynyddodd yn ôl …nid oedd rhwng adeilad y Coleg a’r castell yr un wal yn y byd – peth cymharol ddiweddar yw’r ffordd sy’n arwain heibio i’r coleg at y castell, ac yn ddiweddar, wrth wneud y ffordd yr adeiladwyd y mur- ‘y sea wall.’ Yr oedd yn y fan hon, rhwng y môr a’r Eglwys, gae bychan, yr hwn a elwid ‘Cae Judith . Hen housekeeper-ni-charge i’t tŷ a adweinid y pryd hwnnw ac am flynyddoedd wedyn, ac a adwaenir eto gan hen bobl y dref wrth yr enw ‘Castle House’, sef y darn canol  o’r Coleg a thŷ y Prifathraw. Ystyrid yr hen Judith yn ddoctores o gryn fri yn enwog fel meddyg. Mae Judith wedi marw bellach ers 60 mlynedd. Ymddengys fod Cae Judith yn terfynu ar ochr y môr mewn dibyn serth, ac yng nghesail y dibyn llochesai Ffynnon Twlc yr Hwch. Elent at y ffynnon o Pier Street, drwy King Street (neu College Street fel y myn rhai ei galw yn awr) ac wedi myned heibio i’r Castle House, yr oedd yno lwybr yn arwain i’r traeth ac at y ffynnon. Yn y fan hon rhwng Craig y Castell a Chraig y Wig yr oedd yno draeth bychan yr hwn a elwid yn gyffredim wrth yr enw ‘Glan Môr Ladis’ am y reswm mai yn y fan hon yr arferai merched drochi yn yr amser gynt. Ymolchent ac ymdrochent yn y fan hon yn y drefn fwyaf cyntefig, yn hanner noethion neu yn gwbl noethion. Yn y traeth hwn hefyd y mae Pwll Padarn yr hwn y gellir ei weled yn ein hamser ni pan y bydd y trai ymhell allan. Arferai yr hen bobl drochi yn aml,aml ynddo. Pan adeiladwyd Eglwys Mihangel Sant ( y drydedd o’r enw hwnnw) cauwud y llwybr a arweiniai efo’r wal i fyny , a gwnaethpwyd y ‘sea-wall’ presennol. Yr adeg honno dinistriwyd yr hen ffynnon hefyd. Yr oedd ynddi ddigon o ddwfr bob amser, digon o ddwfr a’r math ragora, yr hwn oedd yn hynod ddymunol oblegid ei oerni adfywiol ym misoedd tesog yr haf. Ond ar brydiau, a’i y ffynnon yn hollol ddi-fudd, yn enwedig yn amser y ‘spring tides’ mawrion, pan y byddai’r môr yn codi i’r lan yn uchel, a’r llanw yn ddigon cyflawn I ddod at y ffynnon a’i llenwi â heli. Tybir mai llysenw o ryw fath oedd yr enw roed ar y ffynnon.

FFYNNON GRAIG GOCH

Ffynnon rinweddol iawn oedd hon-arferai pobl y dref fynd at ei dyfroedd bob bore i olchi eu llygaid os bydd ryw wst arnynt. Yr oedd y ffynnon yng nghardd Graig Coch, wrth gefn y tŷ, rhyngddo a’r môr. Yr oedd tua 10 troedfedd mewn dyfnder. Deuai’r dŵr i’r ffynnon o graig yn bistyll neu raeadr bach tlws iawn. Nid oedd y wal sy’ nawr yn rhedeg o gylch yr ardd wedi ei hadeiladu y pryd hwnnw. O’r pistyll bach byddai y rhai oeddynt am yfed y dwfr yn arfer ei sugno i mewn trwy welltyn tenau.

FFYNNON GYMMYRCH

Yr oedd y ffynnon hon hanner ffordd rhwng Trefechan a Felin y Môr, ac yr wyf yn lled hyderu mai hon yw’r ffynnon sy’n awr i’w gweled ar ymyl y ffordd sydd rhwng Trefechan a’r felin. Nid wyf yn gwybod fod dim neullduol wedi digwydd yn dwyn perthynas â’r ffynnon hon. Nid wyf yn sicr fy mod wedi sillebu ei henw yn iawn ac nid oes gennyf y syniad lleiaf beth yw meddwl ac ystyr y gair.

FFYNNON YR ANCR

Nid wyf yn berffaith sicr fy mod yn sillebu’r gair hwn yn gywir. Yn gyffredin ysgrifennir ef fel gair Saesneg ‘anchor’ ond nid angor yw’r enw priodol ar y ffynnon ond ‘ancr’ neu meudwy- ‘hermit’s well’. Ceir hefyd yn ‘Pen anchor- ‘hermit’s peak’. Ymddengys fod gynt ddwy ‘Ffynnon yr Ancr’- yr oeddynt yn llochesi dan y geulan ar y ffordd yr eloch o ‘Ben yr Ancr’  yng nghyfeiriad y pier cerrig. Yr oedd y ddwy yn agos iawn lle y gosodir y lamp  i fyny gyferbyn â’r fynedfaa i’r porthladd, i ddangos i’r llongau y modd i iawn gyfeirio eu cwrs pan yn gwneud eu ffordd i mewn drwy fynedfa gul ym mhen y bar. Mae’r ddwy ffynnon wedi eu cau i fyny ers 40 neu 50 mlynedd yn ôl. Cauwyd hwynt pan y cynlluniwyd y ffordd sydd yno i fyned yn ôl a blaen at y pier. Yn ymyl y fan lle’r oedd y ffynnon mae yno, fel y gwyddys, graig wedi ei thorri trwodd - êl y ffordd yn awr drwy fwlch yn y graig. Gwnaethpwyd hyn tua’r un adeg a phan y llanwyd y ffynhonnau. Gelwid y lle hwn yn ‘Pen Huwcyn’. Arferai’r hen forwyr ddweud am yr ‘Huwcyn ‘hwn, mae dyn ydoedd heb fod yn ei lawn synhwyrau, ac yn arfer mynychu fel gwallgofddyn ar ei ben ei hun i’r man unig neillduedig hwn. Ac yn y ffaith hon, yn y bywyd meudwyol yn ddiau y treuiliasai Huwcyn ei hoedl, y gwelaf esboniad ar y geiriau uchod,’Ffynnon yr Ancr’a ‘Phen yr Ancr’.

(Nid oes sicrwydd o leoliad y ffynhonnau hyn erbyn heddiw felly mae’n amhosibl rhoi cyfeirnod map cywir iddynt. Gol.)

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffc

FFYNHONNAU COLL RHUTHUN

  (O’r  BEDOL Chwefror 2013 tudalen 25. Gwybodaeth gan John Ormsby .

Diolch i’r Dr. Robin Gwyndaf am dynnu ein sylw at y wybodaeth hon.)

 Yn y flwyddyn 1304 adeiladwyd priody yn Rhuthun gan yr Arglwydd de Grey i’r Mynachod Carmelite. Yr un adeg rhoddodd De Gray gae i’r mynachod, y cae sydd rhwng y tai a Ffordd Corwen a’i alw yn Cae Gwynfynach. Yng nghornel bella’r cae, wrth yr afon Clwyd, roedd ffynnon , a bendithiwyd y dŵr am ei fod yn gwella cleifion. Roedd y mynachod yn dod i’r dŵr yma i ymolchi a mynd a’r dŵr yn ôl i olchi’r mynachdy. Pan adeiladwyd y tai roedd angen enw ar y ffordd yma, ac fel arfer roedd  y Cyngor  yn edrych ar hen hanes y dref, a dyna sut cafwyd yr enw Ffordd Gwynach wedi dod o Cae Gwynfynach. Pan ddaeth y rheilffordd i Rhuthun yn 1862, a chychwyn tyllu i’r tir i fynd a’r tren i gyfeiriad Corwen gwnaeth y tyllu ddrysu’r dŵr a diflannodd am byth. Digwyddodd yr un peth gyda Ffynnon Pump Cwrt wrth Awelon wrth adeiladu Stesion Rhuthun.

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffc

FFYNNON JIWBILI

Diolch i Helga Martin, Ysbyty Ifan am y llun a’r wybodaeth am y ffynnon hon.

 

 Mae Ffynnon Jiwbili Brenhines Ficytoria yn ymyl coedlan ar y ffordd rhwng Ysbyty Ifan a’r ffordd A5. Mae’n dal i lifo. Nid ffynnon sanctaidd mo hon ond mae wedi ei gosod i anifeiliaid allu cael diod.  Yn ôl y sôn roedd Ysbyty Ifan ers talwm yn lle roedd y porthmyn yn cysgu cyn gyrru’r gwartheg i Loegr.

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffc

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.CH7 1TH

Ffôn: 01352 754458   Cyfeiriad e-bost:  gruffyddargel@talktalk.net

Gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru :  www.ffynhonnau.cymru

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffc

Home Up