LLYGAD Y FFYNNON
Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Rhifyn 38 Haf 2015
ADNEWYDDU FFYNNON GWYDDELAN SANT
Daeth
nifer dda o bobl i Ddolwyddelan ar brynhawn Gwener, Mai 22ain i ddathlu’n
swyddogol adnewyddiad Ffynnon Gwyddelan Sant.(SH73705248) Ym maes parcio
gwesty’r Elen Castle croesawyd pawb gan Bill Jones a dadorchuddiwyd plac yn
dweud hanes Gwyddelan Sant a’r ffynnon gan yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas.
Mae’r ffynnon ar dir y gwesty. Yna cerddodd pawb ar y palmant gydag ochr mur
gardd y gwesty cyn troi ar y dde ac i fyny’r llwybr cul at y ffynnon ei hun.
Mae’r safle yn un hynod ddeniadol gyda chlychau’r gog a briallu yn tyfu ar y
llethr o gwmpas y ffynnon. Yno hefyd dadorchuddiwyd plac yn union fel yr un yn y
maes parcio. Maent wedi eu dylunio gan Falcon D. Hildred, artist enwog sy’n
byw ym Mlaenau Ffestiniog.
Mae
nifer o unigolion a chymdeithasau wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau fod y
ffynnon yn cael gweld golau ddydd unwaith eto. Diolch i Adam a Helen Hardy,
perchnogion y safle, am fod mor barod i ganiatáu i Bill a Mary Jones
a Rhys Mwyn ac eraill i ddod yno i gloddio. Cafwyd cymorth ariannol gan
Barc Cenedlaethol Eryri i dorri’r goeden oedd yn tyfu ger y ffynnon. Diolch am
gefnogaeth Menter Siabod yn sicrhau ariannu gan y loteri er mwyn galluogi i’r
gwaith fynd yn ei flaen. Diolch hefyd am gefnogaeth Cymdeithas Hanes
Dolwyddelan. Roeddem ni fel Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn rhan o’r gefnogaeth hefyd.
Bendithiwyd y ffynnon gan y Parchedig Gerwyn Roberts, Llanrwst. Mae trigolion
Dolwyddelan yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y ffynnon a mawr obeithiwn y bydd
cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwarchod ac yn ei pharchu fel ffynnon sanctaidd
arbennig iawn.
Mae
achub ac adnewyddu’r ffynnon arbennig yma yn gwireddu breuddwyd. Dyma pam y
sefydlwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
yn y lle cyntaf er mwyn diogelu y rhan bwysig hon o’n treftadaeth bensaernïol,
werinol ac ysbrydol. Pan fo ardal yn parchu ei ffynnon sanctaidd mae ei dyfodol,
fel ei gorffennol mewn dwylo diogel. Diolch am gael bod yn rhan o’r broses a
gallwn ymfalchïo yn y gamp o’i hadfer.
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MALDWYN A’R GORORAU
DYDD
MERCHER AWST 5ed
PABELL Y CYMDEITHASAU 1 AM
1.00 o’r gloch
Mae Cymdeithas
Ffynhonnau Cymru wedi trefnu cyfarfod arbennig i ddathlu
ADFER FFYNNON GWEDDELAN SANT, DOLWYDDELAN
Darlith gan Bill Jones a Rhys Mwyn.
Dewch yn llu
i wrando ar yr hanes gan ddau arbenigwr dawnus.
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
CYNHELIR
CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL
CYMDEITHAS
FFYNHONNAU CYMRU
YNG NGHANOLFAN HANES UWCHGWYRFAI
CLYNNOG FAWR LL54 5BT
AR DDYDD SADWRN MEDI 19eg
2015
10.30
y.b Ymgynnull
yn yr Ysgoldy
10.45.y.b
Darlith ar Ffynhonnau Llŷn gan Elfed Gruffydd
11.45.y.b
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
12.30.y.p
Cinio – Pawb i ddod â’i fwyd ei hun. Darperir paned.
1.30.y.p
Ymweld â rhai o ffynhonnau’r ardal.
Bydd
arddangosfa ar Glynnog yn yr hen oes i’w gweld yn yr Ysgoldy.
Rhif cyswllt Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yw 01286 660853/655
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
FFYNHONNAU LLES
– CADWCH GYMRU’N DACLUS.
Mae Cymdeithas
Ffynhonnau Cymru yn cefnogi cais Cadwch
Gymru’n Daclus i gael grant gan y loteri
ar gyfer prosiect a all weddnewid dyfodol ein ffynhonnau. Diolch i
Rheinallt Williams a Robert Owen am ein hysbysu am fodolaeth y prosiect a’n
gwahodd i’w gefnogi.
Mae
gwarchod ansawdd a hybu cadwraeth dŵr yn elfen annatod o amcan Cadwch
Gymru’n Daclus i gael ‘Cymru hardd sydd yn cael ei gwarchod a’i
mwynhau gan bawb’. Yr ydym hefyd yn ymwybodol iawn o’r budd y daw i lesiant
person wrth greu perthynas agosach gyda dŵr yn yr amgylchedd naturiol;
perthynas sy’n croesi’r canrifoedd ond un sydd, fel y safleoedd sy’n
amlygu’r berthynas yma, yn mynd yn fwyfwy angof.
Gweledigaeth
ein prosiect pum mlynedd arfaethedig - Ffynhonnau Lles- yw amlygu’r
neges gyfoes bwysig yma tra hefyd wella llesiant
a chyfleoedd ar draws ein cymunedau. Trwy gais creadigol ac uchelgeisiol i Gronfa
Treftadaeth y Loteri ym mis mai 2015, gobeithiwn fedru gweddnewid agwedd
pobl tuag at un o’n hadnoddau naturiol pwysicaf. Y bwriad amlygu’r cyfnodau
ar draws hanes Cymru pan oedd dŵr yn cael ei ystyried fel elfen gysegredig
a’r mannau ble y daw i’r wyneb
fel mannau hudolus a sanctaidd. Wrth ysbrydoli a chefnogi cymunedau ar draws
Cymru i ymchwilio, cofnodi, adfera dathlu hanes a thraddodiadau hir y cannoedd o
ffynhonnau a nentydd cysegredig sydd o gwmpas y wlad, bydd Ffynhonnau Lles yn
gwneud cyfraniad pwysig i’n dealltwriaeth o’n perthynas gyda dŵr ac
o’r safleoedd sydd â chysylltiad mor arbennig â’r berthynas yma.
Bydd
cyfleoedd ar gyfer prosiectau ymarferol, digwyddiadau cyhoeddus, diwylliannol a
chelfyddydol yn ogystal ag arfau dehongli creadigol. Gobeithiwn hefyd fedru
ysgogi mentrau cymdeithasol ble’n briodol. Bwriedir cynnig a datblygu
cysylltiadau a’r tirlun o gwmpas y ffynhonnau fel canolbwynt a phwynt cyswllt
i ardaloedd a chymunedau eraill, fel bod y rhwydwaith ffynhonnau hynafol yn cael
ei ail-sefydlu fel mannau cyswllt.
Yn
gefn i gyflawni’n gweledigaeth, ffurfiwyd partneriaeth gref; Cadwch Gymru’n
Daclus, Church Tourism Network Wales, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed
(i arwain ar ran yr Ymddiriedolaethau Archeolegol eraill), Culture &
Democracy (Phil Cope- arbenigwr ag awdur ar ffynhonnau sanctaidd y DU) ac Artstation
(Glenn Davidson- artist aml-gyfrwng sydd wedi cynnal prosiectau celf cymunedol
yn canolbwyntio ar ddŵr a ffynhonnau).Y bartneriaeth yma fydd yn arwain y
prosiect ac yn cefnogi cymunedau Cymru i fanteisio ar gyfle unigryw.
Ein
gobaith yw y cawn benderfyniad cadarnhaol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ym mis
Medi er mwyn cychwyn ar y camau datblygiadol o’r prosiect cyffrous yma.
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcff
CROESO
I AELODAU NEWYDD
Trefina Roberts, Llanddoged
Eifion Jones, Llanddoged
R.Glyn Jones, Llanrwst
Mair Owens, Llanrwst
Jane J. Owen, Yr Wyddgrug
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
RYDYM YN DAL I CHWILIO AM DRYSORYDD........
Daeth
eto yn gyfnod i dalu tâl aelodaeth i’r rhai ohonoch nad oes gennych drefniant
efo’ch banc i dalu’n uniongyrchol i gyfrif y gymdeithas. Y tâl yw £5 y
flwyddyn. Gallwch anfon eich sieciau gyda’r ffurflen bwrpasol fydd yn eich
rhifyn personol chi o Llygad y Ffynnon i
Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1TH. Os
ydych wedi ymaelodi yn y misoedd diwethaf ni fydd disgwyl i chi dalu tan y
flwyddyn nesaf.
Mae’n
rhaid i ni gael trysorydd ar fyrder
oherwydd mae pob cost o gynhyrchu’r cylchgrawn
a phostio yn ogystal â phob
cost arall, fel talu am ddefnydd o Babell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod, i gyd
yn dod allan o gyfri personol Eirlys. Roedd angen iddi hi a Ken arwyddo sieciau
ond ers ei golli nid oes modd cael arian allan o’r cyfri. Mae talu i mewn yn
iawn!
Mawr
obeithiwn y bydd pethau’n dod i drefn yn ystod y Cyfarfod Blynyddol ym mis Medi.
Nid yw bod yn drysorydd yn waith anodd. Mater o gofnodi taliadau’r aelodau a
thalu allan am y cylchlythyr ac am y wefan yw’r gwaith mwyaf. Diolch i Dennis
Roberts, ein harchwiliwr mygedol, am gadw llygad gofalus a chefnogol ar yr
Ysgrifennydd wrth iddi geisio bod yn Drysorydd yn ogystal. Da chi dewch i’r
adwy a sefwch gyda ni yn y bwlch. Ni all cymdeithas weithredu heb drysorydd.
Mae’n waith llawer haws na chlirio ac adnewyddu ffynnon.
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
CLIRIO FFYNHONNAU
LLŶN
Diolch i Bleddyn Prys Jones am ganiatáu i ni ddefnyddio’r wybodaeth yma o LLYGAD LLŶN.
Clirio Ffynnon Aelrhiw (SH23392848) MEHEFIN 1af 2014
Cafwyd diwrnod clirio llwyddiannus ar ddydd Sul, Mehefin 1af, mewn llecyn arbennig iawn yn yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol.
Mae Ffynnon Aelrhiw yn
ffynnon sanctaidd, tafliad carreg o Eglwys Sant Aelrhiw yn Rhiw. Mae hi’n
ffynnon hanesyddol iawn , a chredir ers canrifoedd fod ei dyfroedd yn gallu
iachau rhai afiechydon y croen. Diolch i’r gwirfoddolwyr a ddaeth i
gynorthwyo, ac yn enwedig i Lee Oliver o Cadwch Gymru’n Daclus am drefnu’r
digwyddiad a sicrhau fod offer
pwrpasol a lluniaeth wrth law.
Wrth
weld cyflwr y safle cyn cychwyn y gwaith rhaid yw edmygu dewrder, cryfder a
dyfalbarhad y gwirfoddolwyr. Mae ffynhonnau yn bethau byw a rhaid eu hymgeleddu
yn barhaus. Mae berw’r dŵr arbennig o dda yn tyfu yn y ffynnon hon ac mae
wedi gwella anhwylder ar y croen yn gymharol ddiweddar. (Gol.)
Treuliwyd
diwrnod difyr unwaith eto yn tacluso safle un o ffynhonnau hanesyddol Llŷn. Mynytho oedd y lleoliad y tro hwn a diolch i’r sawl
ymunodd â ni i gynorthwyo. Dyma ffynnon ddiddorol
iawn gyda gwaith cerrig trawiadol o’i chwmpas. Fe’i lleolir i lawr heibio
Capel Horeb a cheir golygfeydd arbennig iawn oddi yno i Fae Ceredigion a thu
hwnt. Yn ôl traddodiad, mae dŵr y ffynnon yn llesol at anhwylderau’r
llygaid ymhlith afiechydon eraill. Mae ffynhonnau Llŷn yn nodweddion hanesyddol diddorol ac yn rhan bwysig
o’n treftadaeth. Gwaith pwysig felly yw ceisio gofalu amdanynt. Rydym yn
gobeithio bydd cyfle eto yn y dyfodol i gydweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus
i dacluso mwy o safleoedd. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan
Llygad Llŷn ac yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â ni.
Mae
angen calon gref a chorff cryf i ddechrau ar y gwaith o glirio ffynnon. Yn
anffodus nid yw’r mwyafrif o aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn ddigon
tebol i wirfoddoli! Ugain mlynedd yn ôl hwyrach - ond nid nawr!(Gol.)
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
MANION
DIFYR AM FFYNHONNAU
gan Howard Huws
Ym
1696 ymatebodd y Parch Alexander Forde (1664-1723) i ymholiad Edward llwyd
ynghylch hynodion a hynafiaethau Cas-mael trwy yrru ato wybodaeth am y
plwyf. Ymhlith manylion eraill ceir y canlynol:
Tomlyn
well is good for Agues: another good for sore eyes, issuing out of
the earth
close under a small rivulet called Nant-y-lake, and yet differing in
weight. Ffynnon fair also
near Nant y lake . this Nant y lake is by Poncheston
town the
North side of it, and running out of
a Moor.1
Ar fapiau Arolwg Ordnans 6 modfedd cynnar ceir
“Puncheston Common” ar y tir corsiog i’r gogledd o Gas-mael. Dangosir,
hefyd, nant yn draenio’r gors (sef “Nant y lake”), a ffynnon o’r enw
“Ffynnon Wern”: a gellid tybio mai honno yw naill ai’r ffynnon golchi
llygaid dolurus, ynteu Ffynnon Fair. Crybwyllwyd gwahaniaeth rhwng pwysau mesur
o ddŵr y ffynnon lygaid a’r un mesur o ddŵr Ffynnon Tomlyn neu Nant
y lake: rhywbeth a fyddai wedi ennyn chwilfrydedd gwyddonol Llwyd.
Ni chynhwyswyd Fynnon Fair Cas-mael yn Holy
Wells of Wales, Francis Jones.
LLANPUMSAINT,
Sir Gaerfyrddin ( SN 4129)
Y mae Francis Jones yn crybwyll ychydig fanylion ynghylch
ffynhonnau Llanpumsaint, ond ceir darlun llawnach yn adroddiad yr Archddiacon
Edward Tenison i gyflwr Archddiaconiaeth Caerfyrddin yn 1710. Dywed a ganlyn:
There are five wells or pools in the River, which tradition says were made
use of by
the five saints, & that each particular Saint had his
particular well. On S.Peter’s day yearly between two & three hundred people get together,
some to wash in &
some to see these wells. In the summer time the people in the neighbourhood
bathe themselves in these wells to cure aches. 2
Buasai’n ddiddorol gwybod pa bwll yn union a gysylltid
â pha un o bum sant Llanpumsaint (Gwyn, Gwynoro, Gwynno, Ceitho a Chelynnin),
ond os oedd yr wybodaeth honno wedi parhau hyd adeg ymweliad Tenison, ni
chofnododd mohoni.
BANGOR, Gwynedd (SH5872)
Yn rhifyn Nadolig 2006
Llygad y Ffynnon bu imi grybwyll bod yn Archif Melville Richards
gofnodi “Ffynnon Ddeiniol” ym Mhentir, ym mhen pellaf hen Faenol Bangor.
Daeth yr wybodaeth hon, yn ôl yr Archif, o LTA, sef Land Tax
Assessments 1707. Tybio’r oeddwn y gallai’r ffynnon hon, yr honnid ei
bod ym Mhentir, fod yn ychwanegol at y Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda, filltir
i’r gorllewin o ganol Bangor.
Wedi bwrw golwg ar gofnodion y dreth, gwelaf fod yr
asesiadau’n cynnwys trefgordd Pentir, Caerwedog a Thyllfaen yn un dosbarth.
Ceir yno’n gyson gofnodion fel “The Right Revd. The Lord Bishop for Cae
ffynnon daniel £0:2:9”3 Mae Pentir gryn ffordd o Fangor, ond daw Tyllfaen â
ni llawer iawn agosach i gyffiniau gorllewinol y ddinas: felly mae’n amlwg mai
Cae Ffynnon Ddeiniol yng Nglanadda sydd yma, nid Ffynnon Ddeiniol ychwanegol ym
Mhentir ei hun.
Yn yr un rhifyn o Llygad
y Ffynnon mae J. E. Williams o Lanrug yn dal mai ym Mhant Tan Dinas, yn ymyl
Dinas Dinorwig, mae “Ffynnon Ddeiniol”. Mae’r hanesydd lleol, Dafydd
Whiteside Thomas, fodd bynnag, yn dweud mai un o ddwy “Ffynnon Ddeiniolen”
bosibl yw’r ffynnon “yn y pant islaw Dinas Dinorwig”.4
Dychwelwn i ddinas Bangor. Yn yr erthygl yn rhifyn Nadolig
2006, darfu imi grybwyll cyfeiriad at “St. John’s Well” yn Inventory of
Ancient Monuments 1958. Mae erthygl ddiweddarach yn Nhrafodion
Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon yn datgan nad yw’r “ffynnon
sanctaidd” honno namyn sỳmp ar gyfer draenio tir Parc y Coleg.5 Erys
traddodiad llafar, fodd bynnag, am “Ffynnon Ddeiniol” arall eto ar waelod
Allt Glanrafon, tua chanllath i’r gorllewin o “St. John’s Well, a’i bod
wedi’i chladdu pan godwyd adeilad Undeb y Myfyrwyr ddechrau’r 1970au.
Canolfan Pontio sydd yno rŵan.
Wrth ddisgrifio gweddillion plas Esgobion Bangor ym 1801,
mae Thomas Evans yn dweud:
“In the garden of this palace is a mineral spring of common chalybeate
and at Aber-ceggen, about half
a mile from the former, is another.” 6
Yr oedd gerddi’r plas yn ymestyn i fyny at odre Allt
Glanrafon a Pharc y Coleg, felly tybed ai’r ffynnon ddurllyd (chalybeate)
a grybwyllir gan Evans yw’r “Ffynnon Ddeiniol” y mae cof amdani ar waelod
yr allt? Mae’r ymchwil yn parhau, i honno ac i’r un yn Abercegin (Porth
Penrhyn) hefyd.
Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru X,4, Gaeaf 1958,
t.401.
2 Griffiths, G.M. A
Visitation of the Archdeaconry of Carmarthen, 1710.
Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru XVIII, 3, Haf 1974, t. 296.
4 Thomas, Dafydd Whiteside. Chwedlau a
Choelion Godre’r Wyddfa. Caernarfon: Gwasg Gwynedd 1988 t.45.
5 White, R.B. Rescue Excavation on the
New Theatre Site, University College Park, Bangor.
Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 33 (1971). tt.
246-247.
6 Evans, T, Cambrian Itinery: or Welsh
Tourist.
London: C. Whittingham, 1801, Cyf.ll, t. 284
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
HOPIWR FFYNHONNAU
Mae Ian Taylor o Helsby, Swydd Gaer yn aelod o Gymdeithas
Ffynhonnau Cymru ac yn dysgu Cymraeg. Yn ein cynhadledd yn Llandudno fis
Medi 2012 gofynnais os oedd rhywun yn gwybod pwy oedd y Well Hopper- y
person oedd yn gyfrifol am y safle ar y we o’r un enw. Cefais syndod o glywed
llais yn dweud, “Fi ydi o!” Yn fuan wedyn gofynnodd am gael ymaelodi yn y
gymdeithas. Roedd gyda ni yn Nolwyddelan yn ddiweddar ac mae lluniau o’r
ffynnon ar y wefan. Os gallwch fynd ar wefan Well Hopper cewch weld fod Ian wedi ymweld â nifer fawr o
ffynhonnau ac wedi llwyddo i ddarganfod rhai sydd a’i safleoedd wedi
eu colli i bob pwrpas ymarferol ers blynyddoedd. Rydym yn fawr ein dyled
iddo am gofnodi safleoedd ffynhonnau na lwyddwyd i ddod o hyd iddynt cyn hyn.
Mae ei luniau o ffynhonnau hefyd yn werth eu gweld.
Bydd Ian yn
mynd i’r gynhadledd ffynhonnau sy’n cael ei threfnu gan Evelyn
Nicholson yn ardal Y Fenni a Hwlffordd ar 12-13eg o Fedi. Os oes
diddordeb gan aelodau eraill o’r gymdeithas i fynd i’r gynhadledd yna gellir
cael manylion gan Evelyn ar ei chyfeiriad e-bost: evelynicholson@:yahoo.co uk
wellhopper.wordpress.com
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
Y
DEG FFYNNON BWYSICAF YNG NGHYMRU
Yn ddiweddar gofynnwyd i’r gymdeithas nodi pa ddeg
ffynnon y credem oedd y rhai
pwysicaf a dyma nhw i chi yn ôl y drefn – y pwysicaf yn gyntaf:
FFYNNON GWENFFREWI, TREFFYNNON, SIR Y FFLINT :
(SJ185763)
FFYNNON GYBI, LLANGYBI, GWYNEDD (SH427413)
FFYNNON BEUNO, CLYNNOG FAWR, GWYNEDD (SH4144950
FFYNNON SEIRIOL, PENMON, MÔN. (SH931808)
FFYNNON NON, TYDDEWI, PENFRO (SN751243)
FFYNNON DRILLO, LLANDRILLO-YN-RHOS (SH842812)
FFYNNON FAIR, PENRHYS, RHONDDA (ST001945)
FFYNNON Y SANTES ANN, TRYLEG, MYNWY (SO503051)
FFYNNON FAIR, PYLLALAI, POWYS (SO256683)
FFYNNON ISIO, PATRISIO, POWYS
(SO278224)
Tybed a ydych wedi ymweld â phob un o’r ffynhonnau hyn?
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
MAE
ENW GWEFAN Y GYMDEITHAS WEDI NEWID
Bellach rydym yn cael ein hadnabod fel www.ffynhonnau.cymru ond gellir defnyddio Ffynhonnau.Cymru yn lle'r cyfeiriad
llawn yn y porwr i fynd i’r wefan. Diolch i Dennis Roberts am sicrhau’r
cyfeiriad newydd i ni.
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
Os ydych yn dyfalu beth yw ystyr
cffc mae'r symbolau yn sefyll am -cffc -
sef Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar font Wingdings 2.
cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcf
Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru
Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold,
Bwcle, Sir y Fflint
Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr
Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH
Ffôn 01352 754458. Cyfeiriad e-bost: gruffyddargel@talktalk.net
Gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru: www.ffynhonnau.cymru