LLYGAD
Y FFYNNON
Cylchlythyr
Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
37 Nadolig 2014
(Traddodwyd
y sgwrs yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014)
Gofynnir
imi yn aml wrth roi sgyrsiau am Ffynhonnau Sanctaidd - Sut y trawsnewidiwyd
ffynnon gyffredin i ffynnon sanctaidd? I’r Paganiaid Celtaidd roedd y rhain yn
lleoedd dirgel ac yn fwy felly os oedd y dŵr yn cynnwys mwynau oedd yn rhoi
blas gwahanol i'r dŵr.
Os
oedd haearn yn y dŵr byddai’r cerrig o’i chwmpas a gwawr goch a’r dŵr
yn blasu yn fetelaidd. Ar y llaw arall os oedd y dŵr wedi rhedeg drwy
garreg galch ni fuasai yn rhewi yn y gaeaf. Gadawyd offrymau yn y mannau yma gan
fod yr hen Gymry yn credu mai porth i’r byd arall oeddent, yn ddrws i Annwn,
annedd ysbrydion a duwiau a mynedfeydd y bodau goruwchnaturiol i lynnoedd ac
afonydd.
Y
Pab Gregori Mawr sy’n cael y 'clod' o anfon a chynghori'r pererinion a
glaniodd ar arfordir de Lloegr yn 601 ond anfonwyd rhai yn llawer cynt na hyn.
Dywedir bod y Pab Eleutherius wedi anfon Dyfan, Fagan, Meudwy ac Elfan yn ail
hanner yr ail ganrif i efengylu yn Sir Gâr. Felly, pan gyrhaeddodd y cenhadon
Cristnogol cyntaf yr ynysoedd hyn, byddent yn bendithio'r ffynhonnau, ac yn
annog y paganiaid i gynnig gweddïau i'r un Duw yn hytrach na chynnig offrymau
i'r sawl un. Byddai offeiriad yn mynd o amgylch y pentrefi i fendithio'r
ffynhonnau ar Nos Galan. A chredaf fod geiriau'r pennill poblogaidd (a ganwyd
yng Nghwm Gwendraeth ar Ddydd Calan) yn cyfeirio at yr arfer hwn: “Codwch yn
fore a chynnwch y tân, cerwch i’r ffynnon i hol dŵr glân.”
Trawsnewidiwyd
y ffynhonnau yn rhai sanctaidd hefyd pan gynhaliwyd gwyrth yn y fan a'r lle.
Ceir hanes Caradog yn torri pen Gwenffrewi i ffwrdd am iddi ei wrthod, a’i
hewythr Beuno yn rhedeg allan o’r eglwys ac yn ei ail osod, a ffynnon yn
tarddu o'r ddaear lle'r oedd ei phen wedi disgyn. Yn ôl un chwedl ymwelodd y
Forwyn Fair a Chydweli mewn cwch, ond pan gafodd ei lladd gan ddyn wrth iddo ei
hebrwng yn ôl at y cei, tarddodd Ffynnon Fair yr Alefed (SN 412073) yn y fan
a'r lle. Byddai pobl yn ymweld â’r fan hyd at ddeunawfed ganrif ar y 25ain
Mawrth ar ŵyl Fair y Cyhydedd. Ni cheir unrhyw olion o’r ffynnon heddiw
ond yn ôl y diweddar Gadfridog Kemmis Buckley roedd cerrig sylfaen y ffynnon
i’w gweld tan y 1970
Ac
yn olaf, dry ffynnon yn sanctaidd pan ceir cysylltiad rhwng sant a’r safle.
Gallai ef neu hi wedi defnyddio'r dŵr i fedyddio - Dewi Sant ym Mhistyll
Dewi, Llanarthne (SN5396 719,302) , Teilo Sant yn Ffynnon Deilo, Llandeilo
(SN62962224) a dyweder bod y Santes Non yn tynnu dŵr o Ffynnon Non
(SN53710795) yn Llanon. Credai pobl (ac mae Catholigion yn dal i gredu) y byddai
grym neu fendith sant yn ymdreiddio i unrhyw beth a gyffyrddai. Rydym i gyd yn
gyfarwydd â hanes y fenyw sâl yn cyffwrdd ac ymyl dilledyn yr Iesu, dywedodd
ar unwaith “ Pwy gyffyrddodd â mi, oherwydd synhwyrais i fod y nerth wedi
mynd allan ohonof.” A cheir enghreifftiau eraill yn y Beibl megis cysgod Pedr
(Actau 5:15) a chadachau Paul (Actau19: 12).
FFYNNON
CAPEL ISAF
Erbyn
hyn mae llawer o ffynhonnau sanctaidd wedi diflannu neu yn adfeilion.
Dinistriwyd nifer fawr yn dilyn y ddeddf Gwahardd Pererindota a gyflwynwyd gan
Thomas Cromwell. Byddai pererinion yn aml yn ymweld â ffynhonnau ar ddiwrnod gŵyl
saint. Mae Capel Isaf (SN66012527 Maenordeilo) ar dir preifat a dywedodd y
perchennog y byddai pererinion o Gaergaint yn galw yno ar eu ffordd i Dyddewi.
Rydym yn cael ffeithiau diddorol am ffynhonnau gan berchnogion tir, gwybodaeth
sydd wedi cael ei basio i lawr ar lafar ac nid ar gael mewn llyfrau ar y pwnc.
Yn ôl perchennog Capel Isaf, roedd y ffynnon a’r tŷ yn gapel canoloesol
ac yn rhan o abaty Talyllychau. Roedd yn bleser ymweld â’r safle ac mae'r dŵr
yn cael ei bwmpio i mewn i'r tŷ a'i ddefnyddio heddiw.
FFYNNON
NON
Weithiau
nid yw’r tirfeddianwyr yn gwybod bod y ffynnon sydd ar eu tir yn Ffynnon
Sanctaidd, ac yn aml defnyddir y dŵr i ddyfrio’r gwartheg a pham lai? Mae
perchnogion eraill, yn anffodus yn hollol ymwybodol am hanes y ffynnon ond yn eu
dinistrio serch hynny.
Diolch byth bod Ffynnon Antwn (SN34600993) yn Llansteffan mewn cyflwr da. Soniais yn gynharach fod paganiaid yn cynnig offrwm i’r ffynhonnau ac mae'n ymddangos bod pobl dal a rhyw angen cynhenid i wneud hyn. Bob tro yr wyf Wedi ymweld a’r lle, gwelir cregyn, petalau, a darnau arian yn y dŵr a charpiau wedi eu pinio i’r wal o’i hamgylch, gan fod y dŵr yn gwella calon ddolurus yn y chwedl. Roedd Antwn yn feudwy oedd yn dilyn ffyrdd Tadau a Mamau yr Anialwch drwy fyw bywyd o weddi ac ympryd, gyda’r pwyslais ar fwydo'r enaid yn hytrach na’r corff.
Ar y wal ger y ffynnon mae plac yn dangos y meudwy gyda dyfrgi ar ei dde ac ysgyfarnog ar ei chwith. Dywedwyd wrthyf fod yr ysgyfarnog yn symbol Cristnogol sy’n gysylltiedig a'r Forwyn Fair.
Mae arddangosfa debyg o gadachau yn amgylchynu Ffynnon Deilo yn Llandeilo. Adeiladwyd hon yn hen wal yr abaty ac yn ôl yr hanes roedd y fedyddfa o fewn muriau'r abaty ac yma roedd Teilo yn bedyddio ei braidd.
Yn ôl Gomer Roberts (awdur Hanes Plwyf Llandybie) adeiladwyd y fedyddfa ger eglwys Llandyfân gan y Bedyddwyr ym 1785 ar safle Ffynnon Sanctaidd Gwyddfaen (SN6416717121). Ysgrifennodd ‘mewn rhai hen fapiau adwaenir y ffynnon fel y Baddon Cymreig yn Llandyfan. Oedd yfed y dŵr yma allan o benglog yn fantais i’r sal.
Ar ddechrau’r erthygl soniais am y cenhadon cynnar ddaeth i’r ynysoedd yma i droi'r paganiaid at Gristnogaeth. Dechreuais yr erthygl hon gyda'r Celtiaid ac maent yn ymddangos eto oherwydd cu bod yn credu bod yr enaid yn bodoli yn y benglog. Dyna pam y byddent yn torri pennau eu gelynion, heb y benglog ni fyddent yn gallu myned i fywyd tragwyddol. Felly byddai yfed dxivr sanctaidd o benglog rhywun sanctaidd yn cael ei ystyried fel bendith ddwbl ac yn gwella pob clwyf.
FFYNNON GWYDDFAN, LLANDYFAN
Rydym yn ddyledus i aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac eraill sy'n helpu i adfer a gofalu am y ffynhonnau yma yng Nghymru.
Yn bersonol rwyf yn ddiolchgar i berchnogion a groesawodd mi ar eu tir ac am rannu eu gwybodaeth am y Ffynhonnau Sanctaidd. Mae’n hanfodol bod ein ffynhonnau sanctaidd yn cael eu diogelu gan eu bod yn rhan o'n hanes, ein traddodiadau ac yn bwysicaf oll ein treftadaeth, boed eich bod yn Gristion neu beidio.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
CROESO I AELODAU NEWYDD
Bethan Wyn, Pwllheli
Graham Thomas, Caerdydd
David Owen, Dinbych
Joye Evans Parry, Caerdydd
Megan Lloyd Owen, Llanddoged
Ann Williams, Rhewl, Treffynnon
Cliff Rhys Matthews, Bae Penrhyn
Robert Owen, Treoes
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
PYTIAU DIFYR
Allan o Sul, Gŵyl a Gwaith gan Catrin Parri Huws (Tudalen 15) Yn ardal Clynnog mae Fferm Tŷ Isa, sydd a’i safiad ar ochr Allt Mur Sant ond mae hefyd yn ffinio â Bryscyni Uchaf. Ar un adeg bu Tŷ Isa yn rhan o fferm hynafol Maes Glas, a berthynai yn yr hen amser i’r hen fynachlog cyn i Beuno Sant ei throi’n eglwys yn y flwyddyn 616 O.C. Dyna’r pryd y cafodd yr hen ffynnon sydd ar ochr y ffordd fawr ar dir Maes Glas ei galw yn Ffynnon Beuno. Mor loyw a chlir oedd ei dŵr yn yr haf ar adeg ymwelwyr, a byddai arian yn frith ar ei gwaelod. Credid y byddai raid cerdded tair gwaith gyda’ch cefn at y dŵr a thaflu arian neu geiniogau dros ysgwydd i gael dymuniad.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
COFIO CYFRANIAD KEN
gan Eirlys Gruffydd .
Yn blygeiniol ar fore Dydd Calan collodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ei Thrysorydd ym marwolaeth sydyn Ken Lloyd Gruffydd. Roedd Ken yn ofalus iawn o eiddo’r Gymdeithas ac yn sicrhau fod popeth yn ei le hyd eithaf ei allu. Os nad oedd y llyfrau mewn trefn byddai mewn hwyl ddrwg! Diolch i’r cyfaill annwyl, Dennis Roberts, y Felinheli, sy wedi bod yn archwiliwr mygedol y Gymdeithas ers blynyddoedd ac sy’n gyfrifol am y wefan, byddai popeth yn gweithio allan i’r geiniog.
Ganwyd Ken ym Mhorthmadog ac wedi cael addysg yn ysgolion y dref dechreuodd brentisiaeth gyda chwmni penseiri lleol. Yma y datblygodd ei ddoniau o gofnodi adeiladau ar bapur. Roedd yn artist gwych yn enwedig gyda phen ag inc. Dyna pam fod nifer helaeth o ffurfiau ein ffynhonnau sanctaidd ar gof a chadw. Roedd astudio’r ffynhonnau yn cyfuno ei ddiddordeb o mewn pensaemiaeth a’m diddordeb innau mewn llên gwerin. Byddai’n cymryd amser maith i fesur ac i wneud darluniau bras o’r cerrig yn y ffynnon. Yna, ar ôl dod adre, byddai’n treulio amser maith yn creu’r darlun gorffenedig. Gellir gweld ffrwyth ei lafur mawr yn y ddwy gyfrol ar Ffynhonnau Cymru yng nghyfres Llyfrau Llafar Gwlad. .
Byddai’n dylunio pob carreg yn ofalus a hyn yn nodweddiadol o’i bwyslais ar fanylder a chywirdeb ym mhob peth a wnâi. Gallai weld ffynnon o safbwynt hollol wahanol i bawb arall. Erbyn hyn mae’r darluniau yma yn gofnodion hanesyddol o bwys. Wrth adnewyddu ffynnon gall y ffurf gael ei newid a’i golli, ond diolch i ddarluniau Ken, maent o hyd ar gof a chadw. Y flwyddyn nesaf bydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn cyrraedd yr ugain oed ac mae ei llwyddiant i’w phriodoli i waith cyson a gofalus Ken a’i ddawn arbennig i ddylunio’r ffynhonnau. Diolch amdano.
COFIO KEN LLOYD GRUFFYDD
Un hwyliog rannai’i olud – i’w ardal
ffrind ar fordaith bywyd,
deheuig ddyluniwr diwyd
yn falch o fapio ei fyd.
Ffynhonnell ein cymhelliant – a’i ynni
yn annog ein prifiant,
ei eiriau yn llifeiriant
a’i blwy yn hafan i’w blant.
Nia Wyn Jones
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Ymddiheuraf fod y rhifyn yma’n hwyr yn eich cyrraedd a hynny am resymau amlwg.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU
Argreffir gan EWS COLOURPRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.
Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgruh, Sir y Fflint. CH7 1TH
Ffôn: 01352 754458 cyfeiriad e-bost: gruffyddargel@talktalk.net
Gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru : www.ffynhonnau.cymru
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff