Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

CYLCHLYTHYR CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU                                                                                                 Rhif 36 Haf 2014

 

FFYNNON FAIR A LÔN CROGFRYN

gan Kevin Slatterly

 

Câi ffynhonnau eu hystyried yn lleoedd arbennig, a hynny, gellid tybied, gan eu bod yn darparu cyflenwad o ddŵr glân. Yn y cyfnod cyn-Gristnogol, yn oes y Celtiaid a’r Rhufeiniaid, credid eu bod yn gartref i’r duwiau. Yn yr un modd, credid bod y duwiau’n byw mewn ffrydiau, afonydd a llynnoedd. Darganfuwyd gwrthrychau megis tlysau a chleddyfau a daflwyd i mewn iddynt yn rhodd neu’n aberth i’r duwiau.

Yn 601, gorchmynnodd y Pab Gregori ei genhadon i ddinistrio unrhyw gerfluniau a mythau a oedd yn gysylltiedig â’r ffynhonnau (roedd rhai ffynhonnau, yn sgil mythau o’r fath, yn gysegrfeydd poblogaidd y priodolid iddynt rym iachaol – ac mae’n bosibl bod sail wyddonol neu fiolegol i hyn oherwydd presenoldeb mwsoglau arbennig ac ati), gan sicrhau yr un pryd eu bod yn dod yn fannau Cristnogol hylan.1 Mae dros 400 o ffynhonnau Cymru heddiw yn dwyn enwau’r saint.2

 Mae’r ffynnon a adwaenwn ni heddiw fel Ffynnon Fair ( SH795805) wedi’i lleoli rai cannoedd o fetrau i’r gorllewin o Eglwys Sant Ilar, Llan-rhos. Pam, tybed, fod y ffynnon wedi’i chysegru i Fair yn hytrach nag i Sant Ilar?

Codwyd yr eglwys wreiddiol gan y brenin Maelgwn Gwynedd. Mae’n debyg iddi gael ei hadeiladu ar y safle arbennig hwn gan fod yna ffynnon gerllaw a fyddai’n darparu cyflenwad o ddŵr glân. Roedd hefyd yn cael ei hystyried yn ffynnon sanctaidd. Maelgwn oedd brenin cyntaf gogledd Cymru, ac roedd ei dad, Cadwallon, wedi gyrru’r Gaeliaid (Gwyddelod) o ogledd Cymru ac Ynys Môn.  Cododd nifer fawr o eglwysi o fewn ac oddi allan i’w deyrnas. Dywedir ei fod yn hoff o wrando ar farddoniaeth ac epigau. Roedd ei gadarnle, y Faerdre, rai cannoedd o fetrau i’r gorllewin o’r eglwys a’r ffynnon.

Mae’n debyg i’r eglwys gael ei henwi ar ôl Sant Eleri (Saesneg: Hilary), o Wytherin neu Sant Ilar (Hilaire) o Poitiers yn Ffrainc.3 Roedd Sant Eleri (a fu farw yn 670) yn fab i’r brenin Dingat o dde’r Alban, a gafodd ei ddisodli gan Edwin o Northumberland. Ffodd y teulu i Went, ond aeth Eleri i astudio dan Sant Asaff yn Llanelwy. Yn ddiweddarach, sefydlodd fynachlog a chwfaint gyda Gwenfrewi, a oedd yn ferch i’w gefnder.

Roedd Sant Ilar (a fu farw yn 368) yn coleddu’r gred fod Iesu yn gyfartal â Duw, yn hytrach na’i fod yn israddol iddo. Cafodd y gredo hon ei mabwysiadu gan y cyngor eciwmenaidd a gynhaliwyd yn Nicea yn Nhwrci yn 325, ac fe’i hadwaenir fel Credo Nicea.  Credir hefyd mai Sant Ilar oedd awdur Lladin mwyaf blaenllaw’r 4edd ganrif, ac enwyd pentrefi ar ei ôl yng Nghernyw a Chymru.

Cafodd Sant Eleri ei eni wedi marwolaeth Maelgwn Gwynedd, ac y mae’n fwy na thebyg felly i’r eglwys gael ei henwi ar ôl Sant Ilar o Ffrainc yn hytrach na Sant Eleri o’r Alban a Chymru, sy’n perthyn i gyfnod mwy diweddar.

Ymddangosodd yr enw ‘Mair’ rai canrifoedd yn ddiweddarach. Ym 1350, yn dilyn cytundeb rhwng mynachod Abaty Maenan a’r brenin Edward III, daeth yr eglwys dan ofal y mynachod, ac fe’i hailgysegrwyd i’w nawddsant, y Forwyn Fair, sy’n esbonio’r enw Ffynnon Fair.4  Ond pam y mae’r eglwys yn cael ei galw’n Eglwys Sant Ilar tra bo’r ffynnon yn cael ei galw’n Ffynnon Fair?

 Ym 1534, penderfynodd Harri’r Wythfed ddiddymu grym Eglwys Rufain.  Dinistriwyd y mynachlogydd a thorrwyd cysylltiadau eraill â’r Eglwys Gatholig. Roedd hyn yn cynnwys ailgysegru eglwysi, dinistrio cysegrfeydd mewn ffynhonnau, ac erlyn pobl am barhau i addoli wrth y ffynhonnau.5 Ymddengys felly i’r eglwys ail-fabwysiadu enw Sant Ilar, ond anghofiwyd am y ffynnon, a pharhaodd yr enw Ffynnon Fair ar lafar gwlad.Yn wir, nid yw’r ffynnon yn ymddangos ar fap ordnans 1889, ond fe’i gwelir o 1900 ymlaen. Daeth i’r golwg unwaith eto, yn llythrennol, yn dilyn y llifogydd a gaed ar y 10fed o Fehefin 1993.

Ni wnaeth yr ardal ei hun, yn wahanol i diroedd isel Llandudno gerllaw, ddioddef o lifogydd, ond cafwyd cymaint o ddŵr ffo o gaeau’r Faerdre a Bryniau yn ymyl fel y bu’n rhaid clirio’r llanastr o gylch y llwybr troed sy’n arwain at y ffynnon. Yn ystod y gwaith hwn yr ailddarganfuwyd y ffynnon. Cafwyd gwared â thua hanner can llond berfa o wastraff adeiladu o’r stad dai yn ymyl, ac aed ati i gloddio ffos gan ddatgelu’r ffynnon fel ag y mae heddiw.6

 

  Rhed llwybr troed ger y ffynnon, ac fe’i cofnodwyd ar fap ordnans 1889.   Mae’n debyg bod y llwybr ei hun yn llawer hŷn, a’i fod yn cysylltu’r Faerdre ag eglwys Sant Ilar.  Mae’r ffaith bod y goedwig gerllaw, hon eto i’w gweld ar y mapiau cynnar, yn cael ei galw’n Goed Crogfryn, yn awgrymu bod hwn yn safle strategol i deithwyr a phererinion dros y canrifoedd ac nid yn ffynhonnell dŵr glân yn unig. 

Cafodd y ffordd gerllaw, a elwir yn Lôn Crogfryn, ei hadeiladu fel ffordd gyswllt rhwng y B5115 a’r A470, a adeiladwyd ym 1985. Cafodd y ffordd ei henwi ar ôl Coed Crogfryn, y mae’n torri trwyddo.  Yn ôl un ddamcaniaeth, mae’r enw’n golygu ‘Coed y Grocbren’, ac mae hyn yn plethu â’r chwedl leol am ‘Dderwen y Diafol’ gerllaw, lle y ceir mynwent yn ogystal. Ond nid oes unrhyw gofnod bod crocbren wedi bod yma, nac unrhyw hanesion am bobl yn cael eu crogi. Sut bynnag, mae ‘crog’ hefyd yn golygu ‘croes’ a ‘chroeshoeliad’, fel yn yr enw ‘Gŵyl y Grog’, a ddethlir ar y 6ed o Fawrth, y 12fed o Hydref, y 13eg o Fedi neu’r 14eg o Fedi, gan ddibynnu ar y digwyddiad penodol sy’n cael ei ddathlu.

Yn Saesneg, defnyddir y term ‘Holy Rood Day’.  Gair arall am groes yw ‘rood’ (Sacsoneg: ‘roda’, Hen Saesneg: ‘rod’). Efallai ein bod ni’n fwy cyfarwydd â’r term ‘rood screen’, sef croglen neu sgrin y grog, sgrin wedi’i cherfio’n gywrain y gellir gweld trwyddi bron oherwydd y treswaith hynod gain, ac y gosodwyd ‘y grog’ (‘rood’), sef delw o Grist ar y Groes, arni.  Byddai’r groglen yn gwahanu’r gynulleidfa oddi wrth y clerigwyr a oedd yn dathlu’r offeren, fel na allent weld yr hyn a oedd yn digwydd ond yn rhannol, yn enwedig pan fyddent ar eu gliniau, ond byddai’r groes i’w gweld yn glir. Yn sgil gwrth-ddiwygiad yr 16eg ganrif, cafwyd gwared â’r croglenni hyn, gan ganiatáu i’r gynulleidfa weld y cyfan a ddigwyddai.

  Y tu allan i’r eglwys, ceid croes garreg, yn dyddio o’r oesoedd canol fel rheol, a adwaenid fel y Groes Uchel neu Groes Eglwysig, ac yr oedd iddi bedair prif swyddogaeth, sef fel:

·                   symbol o statws yr eglwys

·                   symbol o statws noddwr yr eglwys

·                    cymorth gweladwy i fyfyrio

·                   arwyddbost neu fan gorffwys i bererinion a theithwyr yn gyffredinol. Câi’r croesau hyn eu codi’n aml ar safleoedd cerrig hynafol neu gynhanesiol.

 

Mae’n debyg, felly, i Lôn Crogfryn a Choed Crogfryn gael eu henwi ar ôl ‘y grog’ ar y ‘bryn’. Tybed a oedd y grog hon yn sefyll yn y man lle y mae arwyddbost segur y groesffordd, ar yr hen lôn a welir 50 metr i’r gogledd a 200 metr i’r de o’r eglwys?  Neu, efallai bod gwaelod y groes yn dal i orwedd gerllaw, yn aros i rywun ei ddarganfod ...?

 I grynhoi, mae’r ffaith bod Eglwys Sant Ilar, Ffynnon Fair, Coed Crogfryn a Lôn Crogfryn, ynghyd â’r Faerdre, a oedd yn ganolfan grym yn y Gymru gynnar, mor agos at ei gilydd yn awgrymu bod hon yn ardal bwysig iawn yn y gorffennol pell.  

1.    John Weston, Data Wales, 2003.

2.    Francis Jones, The Holy Wells of Wales, 1954.

3.    Betty Mills, A Churchyard Diary, 2009.

4.    Fiona Richards,The Creuddyn Grange, 2013.

5.    John Weston,Data Wales, 2003.

6.    Ken Davies, Ffynnon Santes Fair, 1994.

7.    Diolch i’r Dr Anne Williams, Clynnog Fawr, am gyfieithu’r erthygl hon o’r Saesneg gwreiddiol.

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 CROESO I AELODAU NEWYDD:

Kevin Slatterly, Llandudno

Roberta Inman Roberts, Bodelwyddan

Isoline Greenhalgh, Rowen.

 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON BYSEIRI

 

  Mae Ffynnon Byseiri ychydig lathenni i’r gogledd o Aberangell (SH8410) ar y ffordd gefn i Aberangell. Ar y garreg uwchlaw’r ffynnon ceir y geiriau

 FFYNNON BYSEIRI (PWLL SEIRI)

YN DDIBETRUS RHODDODD DDIOD

Diolch i Joe Arwel Hughes, Yr Wyddgrug, am y llun a lleoliad y ffynnon. Tybed a oes gan un ohonoch fwy o wybodaeth amdani?  Byddai’n dda cael mwy o’i hanes.

FFYNNON MEREDITH, LLANBADARN FAWR (SN5364)

 

Gellir gweld y ffynnon hon ar ochr dde'r ffordd sy’n arwain o Aberystwyth i bentref Llanbadarn gyferbyn â Swyddfa’r Sir. O edrych ar y llun gwelwn fod y dŵr o’r tir uwchben wedi llifo i mewn iddi lle mae’r beipen heddiw. Eto nid yw’r beipen yn gweddu gydag adeiladwaith y ffynnon ac o bosib mai rhywbeth mwy diweddar yw hi. Roedd y dŵr yn cronni mewn cafn hirsgwar o lechen ac arno mae’r geiriau RURAL SANIATARY AUTHORITY 1883. Heddiw dim ond pridd a sbwriel sydd yno Nid oes sicrwydd beth yw oed y ffynnon ond mae'n debyg iddi gael ei defnyddio fel ffynhonnell o ddŵr i’r trigolion am ganrifoedd lawer. Heddiw mae’n ffynnon agored ond pan oedd yn cael ei defnyddio’n gyson roedd drws arni fel ar lawer ffynnon arall. Tybed a oes rhywun yn gwybod pwy oedd y Meredith a roddodd ei enw iddi? Yn rhifyn o’r Cambrian News am Ragfyr yr ail, 1881, cafwyd yr hanes canlynol yn ymwneud â’r ffynnon:

 Roedd bachgen o’r pentref wedi gwneud niwed i ddrws Ffynnon Meredith ac fe’i galwyd i gyfri o flaen yr Ynadon. Cyfeiriwyd ato fel D. Evans. Daeth y mater i sylw D.P. Jones, Arolygwr Trafferthion (Inspector of Nuisances) ar Dachwedd 14eg am fod ei wraig wedi gweld y bachgen yn cicio’r clo ar ddrws y ffynnon. Dwedodd wrtho am beidio ond gwrthododd wrando arni. Aeth yr Arolygwr yno a gweld fod olion diweddar ar y clo fel pe bai wedi cael ei gicio. Eiddo’r Awdurdod Glanweithdra (Sanitary Authority) oedd y ffynnon ac roeddynt wedi ei hatgyweirio a gosod drws. Roedd y cyhoedd wedi arfer mynd at y ffynnon gyda’i bwcedi i nôl dŵr ers cyn cof ac oherwydd hynny roedd dŵr y ffynnon yn cael ei ddifwyno. Dyna pam fod drws â chlo wedi ei gosod arni. Cafodd mam y bachgen rhybudd i’w gadw dan reolaeth. Ni wyddai’r Arolygwr bod ei ferch ef ei hun a’r bachgen wedi cael ffrae yn yr ysgol y diwrnod hwnnw ac mai dyna pam roedd o wedi mynd i’r ffynnon a cheisio malu’r clo a’r drws. Joseph Evans o Aberystwyth oedd yn amddiffyn y bachgen a dywedodd fod y gost o atgyweirio’r difrod yn llai na hanner coron. Meddai hefyd y gallai gael llu o dystion oedd yn credu y dylai’r cyhoedd gael rhwydd hynt i ddefnyddio dŵr y ffynnon fel y mynnent. Gan fod y bachgen wedi niweidio eiddo’r bwrdd rhoddwyd dirwy o swllt arno gyda’r rhybudd i ymddwyn yn fwy gwaraidd yn y dyfodol neu byddai’r gosb yn llymach.  

Tybed beth fu hanes y bachgen ar ôl hynny? Rhaid bod mwy o waith wedi ei wneud ar y ffynnon yn 1883 pryd y gosodwyd y cafn lechen a’r arysgrif arni. Byddai’n dda cael gwybod mwy o’i hanes.

FFYNNON YR YSBRYD (SJ224647]

 

Ar y ffordd allan o’r Wyddgrug tuag at Y Waun a Chilcain gellir gweld pwll sylweddol o ddŵr mewn coedlan wrth ochr y ffordd. Dyma safle Ffynnon yr Ysbryd. Dinistriwyd adeiladwaith y ffynnon pan ledwyd ffordd ym mhumdegau’r ganrif ddiwethaf. Ond mae’r tarddiad yno o hyd. Pan fydd y tyfiant yn uchel yn yr haf ac yn gorchuddio’r safle, does dim posib gweld y dŵr. Ond yn y gaeaf gallwn weld yn glir fod yma gryn dipyn o ddyfroedd yn cronni ac mae hyn yn awgrymu tarddiad grymus. Ceir hanesyn diddorol am y ffynnon.  

Roedd bachgen o’r Waun yn canlyn merch i dafarnwr yn Yr Wyddgrug. Arferai gerdded o’r pentref i’r dref ac yn ôl yn rheolaidd i ymweld â’i gariad. Credai llawer fod ysbryd neu fwbach yn llechu yn y coed wrth i’r ffordd ddechrau dringo wedi mynd heibio i’r drofa i fferm Maes Gannon. Byddai’n gwneud sŵn rhyfedd ac yn dychryn y teithwyr ond er cerdded yno yn gyson ni welodd y bachgen ddim anarferol. Un noson, ar ei ffordd adref gwelodd wraig mewn dillad llwyd, hir, yn sefyll ar y ffordd o’i flaen. Sylwodd bod cwcwll dros ei phen ac na allai weld ei hwyneb yn glir yn y gwyll. Gofynnodd iddo a wnâi e gyd-gerdded â hi heibio i’r darn coediog lle’r oedd yr ysbryd. Cytunodd y llanc gan ddweud wrthi nad oedd angen iddi ofni gan iddo gerdded llawer ar y ffordd heb brofi dim byd arallfydol. Wrth iddynt ddod yn nes at y coed meddai’r wraig, “ Mae yna ffynnon ger y ffordd. Bore ‘fory, os ei di yno a chodi’r garreg fawr sy ynddi, fe weli di gadwyn aur.” Pan holodd y bachgen sut y gwyddai hi hynny, yr ateb oedd, “Roeddwn i’n gwisgo’r gadwyn am fy ngwddf y bore'r torrwyd fy mhen i ffwrdd.” Sylweddolodd y bachgen mewn braw na allai weld ei hwyneb o dan y cwcwll ond fod ganddi lwmp go rhyfedd o dan ei chesail. Roedd y Ladi Lwyd yn cario ei phen ei hun. Dychrynodd y bachgen am ei fywyd a rhedeg bob cam adref i fyny’r ffordd   hir a serth nes cyrraedd diogelwch ei dŷ a’i deulu Yn ôl yr hanes bu yn ei wely am bythefnos yn ceisio dod dros y sioc o gyfarfod i’r ysbryd. Dyna sut y cafodd Ffynnon yr Ysbryd – neu Ffynnon yr Ellyll (Goblin‘s Well) ei henw. Bellach mae llwybr troed pwrpasol yn mynd dros y fan lle goferai dŵr y ffynnon. Diflannodd y cerrig a’r gadwyn aur ond mae’r dŵr a’r chwedl yn aros o hyd.

FFYNNON FIHANGEL, - FFYNNON SANCTAIDD

Llanfihangel Gennau’r Glyn. (SN6286)

 

Mae dod o hyd i ffynnon sanctaidd mewn mynwent yn brofiad digon cyffredin ac yn ei gwneud yn hawdd dod o hyd iddi. Serch hynny collwyd ambell ffynnon sanctaidd ar waetha’r ffaith ei bod mor agos i’r eglwys. Cymysg fu hanes Ffynnon Mihangel yn Llandre, Llanfihangel Genau’r Glyn ger Aberystwyth. Mae’r ffynnon i’w gweld islaw ochr ddeheuol wal y fynwent mewn man a oedd unwaith yn fuarth Fferm yr Eglwys. Pan ddaeth y rheilffordd gwelwyd fod y ffynnon yn fodd o ddenu twristiaid i’r ardal. Ymddangosodd hysbyseb yn yr Aberystwyth Observer yn 1867 yn dweud y dylai pawb oedd yn dioddef o’r crud cymalau ddod i’r ffynnon yn Llanfihangel. Roedd yn enwog am iddi wella nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o’r anhwylder poenus yma. Dywedir fod  y ffynnon ger gorsaf Llanfihangel Genau’r Glyn ar Reilffordd y Cambrian, rhyw bum milltir o Aberystwyth a 3 o Borth. Roedd hefyd boster ar orsaf Paddington yn Llundain yn hysbysebu rhinweddau meddyginiaethol y ffynnon. Yn ôl cyfrol J. Ceredig Davies, Folklore of West and Mid Wales (1911), ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif roedd adeilad bychan o gwmpas y ffynnon gyda seddau i bobl i eistedd arnynt wrth yfed y dŵr neu olchi eu traed yn y ffynnon.  Roedd basin y ffynnon ei hun yn chwe throedfedd tair modfedd o hyd a phedair troedfedd tair modfedd o led ac wedi ei orchuddio â llechi. Roedd grisiau yn arwain i lawr at y dŵr. Yn 1904 ymchwelwyd adeiladau’r ffarm a gwnaed llwybr mwy cyfleus i fynd i’r fynwent. Rhoddwyd y tir gerllaw’r ffynnon i’r eglwys a’r gymuned gan Miss Lewis; un oedd yn byw yn Borth ac yn wraig gyfoethog a datblygwr tiroedd. Crëwyd parc yno a’i alw yn Parc Bach. Plannwyd coed blodeuog a phlanhigion hyfryd yno a chysegrwyd y fan a’r fynwent newydd, gan Esgob Tyddewi yn 1905. Trist yw nodi fod yr adeilad dros y ffynnon wedi ei ddymchwel cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac oherwydd diffyg gofal aeth yr ardd a safle’r ffynnon yn anialwch. Erbyn diwedd y tridegau roedd y safle yn dir gwag a diffaith ond roedd y ffynnon yno o hyd ac yn beryglus gan y gallai plentyn syrthio iddi a boddi. Wedi sylweddoli’r perygl llanwyd y ffynnon gyda cherrig o hen bwlpid yr eglwys gan fod un pren newydd wedi ei osod yno. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd torrwyd i lawr y mwyafrif o’r coed ac ni agorwyd y ffynnon eto tan 1975. Yn y nawdegau fe’i hadnewyddwyd gydag arian i Gronfa Tywysog Cymru a chymorth y gangen leol o Sefydliad y Merched a’r Cyngor Cymuned. Ail drefnwyd y tir o’i chwmpas a gwnaed maes parcio yn y fan lle bu’r Parc Bach fel rhan o Brosiect y Millenium. Mae dŵr yn y ffynnon o hyd oddi fewn i beipen concrit mawr.

FFYNNON CEGIN ARTHUR (SH 55486485)

gan Gareth Roberts

 Mae’n syndod fod cyn lleied o wybodaeth ar gael am Ffynnion Cegin Arthur sy’n sefyll tua hanner milltir i’r gogledd o bentref Penisa’r-waun. Yn ystod y l850au byddai’n denu cymaint â 200 o ymwelwyr i ‘gymryd y dyfroedd’ bob dydd, y rhan fwyaf ohonynt o Loegr. Potelwyd y dŵr a’i werthu’n fasnachol. Lleolir adfeilion sba Ffynnon Cegin Arthur ymysg Coed Blaen y Cae ac er ei holl bwysigrwydd ganrif a hanner yn ôl, mae gweddillion rhai o adfeilion yr Oes Haearn yn y fro mewn gwell cyflwr. Adeiladwyd y sba ger y ffynnon gan Y Faenol ar ddechrau’r l850au i gymryd mantais ar y diwydiant twristiaeth newydd a’r diddordeb mewn materion iechyd. Dim ond un ffynnon yn Ewrop, a honno yn yr Almaen, oedd a chymaint o haearn yn y dŵr. Dros y canrifoedd cydnabuwyd rhinweddau iachusol y dwr gan fod y ffynnon ei hun wedi ei defnyddio i wella anifeiliaid oedd yn wael. Erbyn 1860 daeth cyfnod euraidd y ffynnon i ben pan agorwyd sba ger Llanrwst. Roedd yn haws mynd yno a daeth Ffynnon Cegin Arthur fel busnes i ben er i’r adeilad gael ei ddefnyddio fel tŷ am sawl blwyddyn wedi hynny. Diddorol yw nodi i ddŵr y ffynnon gael ei boteli a’i werthu mewn siop yng Nghwm y Glo tan tua 1914. Cymaint oedd dylanwad Ffynnon Cegin Arthur yn ei hanterth nes i feddyg lleol oedd yn gweithio yn Llundain, Arthur Wynn Williams, ysgrifennu cyfrol amdani. Serch hynny ni wyddai neb rhyw lawer am yr adeilad oedd yno’n wreiddiol. Mae’r ffynnon a’r sba yn ymddangos yn fach iawn mewn hen lithograff o’r cyfnod, a hyd y gwyddom, mae un darlun ohoni ar gerdyn post lle mae prif ffocws y llun ar y crawiau neu’r darnau o lechi o flaen y tŷ yn hytrach nag ar y sba ei hun.

Blwyddyn yn ôl aeth Cynllun Cerdded a Darganfod Menter Fachwen yno i lanhau ychydig o gwmpas y lle a chlirio’r tyfiant gwyllt. Credir iddynt ddarganfod lleoliad y drws. Roedd digon o wrthrychau yn y pridd o gwmpas y fynedfa nes eu galluogi i ail-greu ymddangosiad y drws ei hun. Yn ddiweddarach aeth y grŵp i archwilio ychydig yn fwy o’r ffynnon ei hun. Brics yw ei hadeiladwaith nawr ond yn amlwg roedd y ffynnon wedi ei hamgylchynu â cherrig yn wreiddiol. O bosib fod yna le i bobl eistedd o’i chwmpas. Darganfuwyd ffos fechan o’r ffynnon i fynd a dŵr i adeilad arall sef plunge pool neu bwll trochi a lle i nifer o bobl fynd iddo. Yn anffodus, oherwydd bod coedwig fasnachol wedi tyfu o amgylch y ffynnon, mae hyn wedi newid cwrs y dyfroedd ac mae’r ffynnon nawr yn sych. Dymchwelwyd y rhan fwyaf o’r sba pan blannwyd y goedwig ond mae yno ddigon ar ôl i’w weld o hyd o gwmpas Ffynnon Cegin Arthur ac mae ganddi stori anhygoel i’w hadrodd.

FFYNNON ELAN, DOLWYDDELAN (SH 7352)

O’r diwedd cafwyd dealltwriaeth a chytundeb i alluogi’r llwybr cyhoeddus at y ffynnon i gael ei ddefnyddio fel mynediad ati. Mae Bill Jones a chriw o wirfoddolwyr wedi bod wrthi dros y misoedd diwethaf yn clirio’r safle ac ail- adeiladu’r ffynnon. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gael adroddiad llawn a lluniau yn y rhifyn nesaf o Llygad y Ffynnon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR

Allan o Mi Glywais i. gan Acres Evans tud. 32-36 - Ffynhonnau Shir Gar (Sir Gaerfyrddin) 

 Priodolwyd i'r ffynhonnau rinwedd bendithiol i wella pob math o glefydau. Medrai rhai symud anhwylderau megis gwendid yn y llygaid, dafadennau ar y dwylo, cryd cymalau, cryfhau'r corff a’r meddwl yn ogystal â rhoi iachâd o holl ddoluriau bywyd, boddio a helpu cariadon a gwneud y tlawd yn gyfoethog a’r trist yn llawen. Does ryfedd, felly, fod cymaint o bererindota tua'r ffynhonnau er iachâd. Ar ôl dyfodiad Cristnogaeth i'n gwlad, cysylltwyd y mwyafrif o'n ffynhonnau ag enw sant neu santes arbennig a rhoddwyd iddynt barch crefyddol. Gwaith anodd fyddai nodi holl ffynhonnau Shir Gar. Digon yw rhestru rhai o'r mwyaf adnabyddus ohonynt - Ffynnon Ddewi, Fynnon Deilo, Ffynnon Elian, Ffynnon Dybie, Fynnon Leian, Ffynnon Weniais, Fynnon Ddyfan, Ffynnon Saint, Ffynnon Ddrain, Ffynnon Gollen, Ffynnon Goch, Ffynnon Grech, Ffynnon Lwyd, Ffynnon Las Fynnon Wen, Ffynnon Seiri, Ffynnon Obaith, a Ffynnon Carreg Cennen. Bron na ellid dweud bod i bob pentref yn y sir ryw ffynnon o ddyledus barch. Ac yn hyn o beth does ‘run pentref sy'n fwy nodedig am ei ffynhonnau na Llansteffan yn rhan moryd Tywi. Mae yno hyd heddiw bedair ffynnon, sef Ffynnon Rhosynnau, Ffynnon Sych, Ffynnon Dafolog, ac yn bennaf ohonynt Ffynnon Antwn (SN3410)yng nghysgod y castell hynafol. Ffynnon yn gweithredu er daioni yw Ffynnon Sant Antwn, a hynny, mae'n debyg, am mai ef oedd y mynach Cristnogol cyntaf a dreuliodd ei holl fywyd yn ymarfer duwioldeb ac yn ymladd yn erbyn holl alluoedd y fall. Ac onid difyrrwch i lawer ohonom ni’r rhai hyn heddiw oedd cael mynd yn blant ar drip Ysgol Sul i Lansteffan - yna plygu ein gloyw bin a'i daflu dros yr ysgwydd chwith i ddŵr y ffynnon? Ac wrth wneud, ddymuno, gan erfyn ar i Sant Antwn, roddi i ni yr hyn oll a ewyllysiem ei gael. Cymaint fu bri Ffynnon Sant Antwn yn y gorffennol fel y lluniwyd un gerdd hynod o ddigri iddi. Cadwyd hi mewn cof gan Dafydd Jones, Cwmtwrch, Nantgaredig, sef yr enwocaf o ofaint Felingwm. Ynddi clodforir rhin a bendith Trochle Llansteffan, sef, yn ein meddwl ni, Ffynnon Antwn.

Lle gorwych yw Llansteffan i wella dynion aflan;

Fe ylch y ffynnon hwy yn wyn, does le fel hyn yn unman.

Roedd Deio bach, Llandeilo a defed ar ei ddwylo,

Wrth fethu'n lân a'i gael yn iach roedd Deio bach yn wylo.

Cychwynnodd yn llawn lludded mewn gobaith am ymwared,

Ac yn y ffynnon ger y bae fe gollodd Dai y defed.

Roedd Bili bach o Brechfa â dolur yn ei gylla;

Roedd pob meddygon fawr a mân yn methu’n lân â'i wella.

 

A'i bwynt ar Lansteffan fe redodd y gŵr a neidio fel broga o gwmpas y dŵr;

Ac wedi dymuno, O, rhyfedd yw'r nod, roedd cylla rhen Bili mor iach ag eriôd.

 Daeth merch o Drefforest mewn cyflwr tra blin a gyn oedd ei chlefyd sef methu cael dyn;

Hi ddaeth i Lansteffan a'i golchi â’r dŵr ac wrth syllu i’r ffynnon hi welodd ‘i gwr.

Os bydd diffyg synnwyr yn perthyn i rai, mae'r ffynnon yn gweithio yn glyfar a chlau,

Mae’n gwella y ddannodd, y bendro a'r gowt, mae'n drochle rhyfeddol, am hyn does ‘run dowt.

 

Daeth Sioni y Cardi o Lundain or daith, a hyn oedd ei glefyd, sef colli ei iaith.

Pan ddaeth i'r gymdogaeth fe dd'wedai'r hen bais "Cymrag fi ddim stando, wath fi dim ond Sais"

Fe gredwyd fod twymyn ar Sioni'n ddiau, anfonwyd yn union am feddyg neu ddau;

Dywedai'r meddygon, ”Gwnewch frys, fynd a'r gŵr i lawr at y ffynnon a'i olchi â'r dŵr.

I lawr i Lansteffan fe awd gyda brys. Cadd Sioni ei stripio i gyd ond ei grys;

Fe'i rhoed ger y ffynnon mewn hen ffetan frag. o'i olchi daeth Sioni i goflo'i Gymrag!

Ac felly dowch chithau am dro yn yr haf i ffynnon Sant Antwn as ydych yn glaf;

Cewch wared o'ch clefyd, a bendith yn stôr yn y ffynnon ddymuno yn ymyl y môr.

Rhywbeth yn debyg i Ffynnon Antwn yw Ffynnon Carreg Cennen hithau. Ffynnon ddymuno ydyw. Yn ystod yr haf daw ymwelwyr o lawer rhan o'r byd yno i ollwng eu gloyw binnau i'r dŵr gan obeithio cael yr hyn oll a ddymunant. Am barhad y ffynnon, ni raid pryderu am hynny, herwydd yn ôl y goel cymysgwyd y morter a defnyddiwyd i adeiladu'r castell gan waed pobl y fro. Hyn felly'n sicrhau na ddiddymir fyth mohono.

Dywedir mai merched Brychan Brycheiniog oedd y tair santes Tybie, Lleian a Gwenlais. Mewn lleiandy o'r enw Gelliforynion y treuliai’r tair chwaer eu bywyd mewn myfyrdod sanctaidd. Yn ôl y goel, lladdwyd hwy gan haid baganaidd o Saeson neu Wyddelod, ac yn y mannau lle tywalltwyd eu gwaed tarddodd tair ffynnon â'u dwr yn meddu galluoedd meddyginiaethol.

Ffynnon feddyginiaethol ei dŵr hefyd oedd Ffynnon Ddyfan (SN6417) yn Llandyfân ger Llandeilo - sydd a'i dŵr yn dal i ffrydio o hyd. Slawer dydd roedd hon yn un o ffynhonnau enwocaf Cymru a hynny oherwydd ei rhin fendithiol. A'r hyn sy'n ddiddorol ynglŷn â’r ffynnon yw fod rhaid yfed ei dŵr allan o benglog yn lle cwpan. Rhin arbennig Ffynnon Llandyfân oedd gwella'r parlys a chlefydau tebyg. Ond dywed hen goel fod nifer o gyrff i'w gweld ar un adeg o'i chwmpas, hynny'n tystio nad anffaeledig Ffynnon Ddyfan mwy na ninnau hefyd.

O HANES PLWYFI LLANGELER A PHENBOYR

gan Daniel E Jones (1899) Tud. 1 1-13

Ffynnon Geler ar ddarn o dir oedd un amser yn perchyn i eglwys Llangeler. Yr oedd y ffynnon hon yn gysegredig i Celer Ferthyr; a dywed traddodiad fod cleifion ac anafusion o bellderau yn talu ymweliad â hi, ac yn ymolchi yn ei dyfroedd, a chael iachad; a llawer o weithredoedd nerthol a wnaed drwy rinwedd ei ffrydiau yn yr amser gynt.

Ffynnon Llawddog, mewn gallt gerllaw eglwys Penboyr a elwir yn Bron Llawddog. Ffynnon gysegredig ydoedd i Lawddog, nawdd sant eglwys Penboyr. Y mae amryw ffynhonnau yma a thraw yng Nghymru yn dwyn ei enw, a diamheu fod eu dyfioedd yn cael eu hystyried unwaith yn feddyginiaethol.

Ffynnon Fair, at dir Llwynffynnon. Mae Capel Mair yn sefyll heb fod ymhell o’r ffynnon hon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

DIWEDD Y GAN YW’R CEINIOG

DAETH YN AMSER TALU TAL AELODAETH AM 2014-2015.

Os nad ydych yn talu drwy drefniant gyda’ch banc bydd y Trysorydd, Mr Ken Lloyd Gruffydd, yn falch iawn o glywed gennych. Bydd ffurflen ail-ymaelodi yn eich rhifyn o Llygad y Ffynnon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLANELLI, SIR GAR

DYDD MERCHER, AWST Y 6ed am 11.30 ym Mhabell y Cymdeithasau 2

FFYNHONNAU SANCTAIDD

Darlith gan SAUNDRA STORCH, Pontyberem

Cyfarfod Cyffredinol byr i ddilyn. Croeso cynnes i bawb.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FF YNHONNAU CYMRU

Argrefiir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Ff6n: 01352 754458 cyfeiriad e-bost: g;mFFyddavgel@talklalkneg

Gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru: www.ffynhonnau.Cymnu.org

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up