Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru Rhifyn
33 Nadolig 2012BENDITHIO AC AILGYSEGRU
FFYNNON DUDWEN, LANDUDWEN
Y GROES WRTH Y FFYNNON
BENDITHIO’R FFYNNONAr ddydd Llun, Gorffennaf 4ydd 2011,ymunodd Esgob Bangor, Y Gwir Barchedig Andy John, gyda phlwyfolion o blwyfi ardal Nefyn ac aelodau o gapel Dinas, yn ogystal â phobl leol ac ymwelwyr o du draw i Glawdd Offa i ddathlu adnewyddiad Eglwys Llandudwen a’r ffynnon sy wedi ei hail- agor. Roedd yn ddiwrnod cynnes a braf a’r gwenyn i’w clywed yn prysur gasglu neithdar o’r blodau gwylltion o gwmpas yr eglwys. Chwaraeai’r haul ar donnau’r môr ac roedd awyrgylch o gyffro a diolchgarwch yn ein hamgylchynu. Torrwyd y glaswellt yn y fynwent gan danlinelli fireinder y gwaith cerrig ar furiau’r eglwys oedd newydd gael ei ail-bwyntio’n gelfydd. Oddi fewn i’r eglwys roedd y gwaith coed yn sgleinio a’r ffenestri’n glir fel grisial. O’r trefniadau o flodau niferus yn yr eglwys daeth aroglau hyfryd oedd yn debyg i thus. Roedd merched y plwyf wedi bod y brysur iawn gyda’i holl baratoadau oddi fewn i’r adeilad, ac yn ogystal â’r lluniaeth oedd i ddilyn ar ôl y gwasanaeth. Roedd Joe Worthington, Darllenydd lleyg ac un o Wardeniaid yr eglwys, wedi creu dwy groes, un yn yr eglwys a’r llall wrth y ffynnon. Hefyd arweiniodd y gynulleidfa mewn cyfnod o weddi. Dechreuodd y gwasanaeth dwyieithog gyda chyfnod o fyfyrdod a gweddi a chanu tawel i gyfeiliant yr organ. (Nid oes trydan yn yr eglwys ond cafwyd digon o bŵer ar gyfer yr organ o fatri car). Yna arweiniodd y Ficer, Y Barchedig Susie Williams, y gynulleidfa allan o’r eglwys ac at y ffynnon. Roedd Cyngor Gwynedd wedi bod yn garedig iawn yn torri’r tyfiant ger y ffynnon a chodi ffens gref a giatiau cyfleus o’i chwmpas i gadw gwartheg a defaid rhag mynd iddi. Addawodd aelodau’r eglwys i gynnal a chadw’r safle i’r dyfodol. Wrth y ffynnon darllenodd Yr Hybarch Andrew Jones rhan o’r bedwaredd bennod o Efengyl Ioan, hanes Iesu yn cyfarfod â’r wraig wrth Ffynnon Jacob yn Samaria. Yn dilyn cafwyd anerchiad gan yr Esgob yn ein hatgoffa o ba mor angenrheidiol yw dŵr i’n bywyd bob dydd ond hefyd am ei symbolaeth oddi fewn i Gristnogaeth, y sacrament o Fedydd a'n bywyd ysbrydol drwy’r Ysbryd Glân. Credid fod y dŵr o’r ffynnon yn dda ar gyfer gwella llygaid poenus ac arthritis. Canwyd emyn byr i gyfeiliant recorder ac yna bendithiwyd y ffynnon gan yr Esgob. Roedd yr awyrgylch fel atgof o’r gorffennol wrth i ni gerdded yn ôl i’r eglwys. Roedd llawer o siarad a chwerthin yn gymysg â chanu’r adar a sŵn tractorau yn y pellter.
(Ymddangosodd yr erthygl wreiddiol gan Y Barchedig Susie Williams yn Nexus, Cylchgrawn Esgobaeth Bangor. Diolch i’r Parchedig Ddoctor Graham Loveluck, Marianglas, am anfon copi o’r cylchgrawn atom.)
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
FFYNNON FAGLAN, LLANFAGLAN
(SH 46016085)BEDYDDFAEN BAGLAN
Hwyrach y cofiwch i ni gofnodi yn Llygad y Ffynnon 32 fod
Ffynnon Faglan, Llanfaglan Gwynedd wedi ei difrodi’n llwyr a bod y safle wedi ei cholli i bob pwrpas ymarferol. Yn wir roedd hwn yn rhifyn lle cofnodwyd difodiant mwy nag un ffynnon. Na ddigalonnwn! Rhyfedd fel mae’r consyrn a deimlwn wrth weld dinistr mor derfynol yn gallu ysgogi ymgais i ddiogeli’r wybodaeth sy gennym yn barod. Mae llawer iawn o wybodaeth ar gael am Ffynnon Faglan gan iddi fod yn ffynnon o faint sylweddol ac yn un y bu cryn gyrchu ati yn ei dydd. Diolch am y wybodaeth ganlynol a dderbyniais drwy e-bost gan Robert Williams, Waunfawr:Wedi gweld yr erthygl ar
Ffynnon Faglan yn Llygad y Ffynnon, credaf mai ychydig iawn o bobl sy’n gwybod fod bedyddfaen yn gysylltiedig â’r ffynnon wedi ei leoli ychydig lathenni i ffwrdd yn y coed gerllaw. Fy nghartref tan 1959, pan yn saith oed, oedd Tŷ Eiddew, Llanfaglan - fferm sydd a’i chlawdd terfyn rhyw hanner can llath o safle’r ffynnon. Fy nhad, William Williams, fyddai’n sôn am y ffont uchod wedi ei naddu i mewn i’r graig yn agos at y ffynnon. Mae gennyf gof plentyn o fynd i lawr yna gyda ‘nhad ac yntau yn dangos y garreg i mi ond does gen i ddim cof o’r ffynnon ei hun yr adeg hynny. Dwi’n cofio fy nhad yn sôn fod pinnau ar waelod y ffynnon wedi eu taflu i mewn gan yr “hen bobl”. Ta waeth, aeth blynyddoedd heibio heb i mi ailymweld â’r safle tan ryw ddwy flynedd yn ôl pan dynnais y lluniau rwy’n eu hanfon i chi nawr.Mae’r darn canlynol o dudalennau 291-292 o’r llyfr Celtic Folklore, Welsh and Manx gan John Rhys a gyhoeddwyd yn 1901: On the subject of pin-wells I had in 1893, from Mr T.E.Morris of Portmadoc, barrister-at-law, some account of
Ffynnon Faglan in the parish of Llanfaglan, near Caernarvon. The well is situated in an open field to the right of the road leading towards the church and close to it. The church and churchyard form an enclosure in the middle of the same field, and the former has in its wall the old stone reading FILI LOVERNII ANATEMORI. My friend derived information from Mrs Roberts of Cefn y Coed, near Caernarvon as follows:The old people who would be likely to know anything about
Ffynnon Faglan have all died. The two oldest inhabitants, who have always lived in this parish of Llanfaglan, remember the well being used for healing purposes. One told me his mother used to take him to it when he was a child, for sore eyes, bathe them with the water, and then drop in a pin. The other man when he was young, bathed in it for rheumatism and until quite lately people used to fetch away the water for medicinal purposes. The latter, who lives near the well at Tan-y-Graig, said that he remembered it being cleaned out about fifty years ago, when two basinfuls of pins were taken out but no coin of any kind. The pins were all bent and I conclude the intention was to exorcise the evil spirit supposed to afflict the person who dropped them in, or as the Welsh say, dadwitsio. No doubt some ominous words were also used. The well is at present nearly dry, the field where it lies having been drained some years ago and the water, in consequence, withdrawn from it. It was much used for the cure of warts. The warts were washed, then pricked with a pin, which after being bent, was thrown into the well. There is a large and very well-known well of the kind at Clynnog, Ffynnon Beuno, which was considered to have miraculous healing powers; and even yet, I believe, some people have faith in it. Ffynnon Faglan is, in construction, an imitation, on a smaller scale of St. Beuno’s well at Clynnog.Mae’n debyg mai Mrs Gwen Bodvel Roberts, Plas Cefnycoed, Llanfaglan (gwraig y cyfreithiwr) yw’r Mrs Roberts y mae yn cyfeirio ati yn y llyfr.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
CROESO I AELODAU NEWYDD
June Taylor, Mynydd Isa, Yr Wyddgrug.
Barry Lewis, Aberystwyth
Gwenllian Awbery, Caerdydd
Holger Burkhardt, Talysarn
Dafydd ac Ann Tegwen Hughes, Llanelian
Robin John Evans, Caernarfon
****************************************************************************
PIGION DIFYR
Dyfyniad allan o GYDA’R HWYR gan E. Tegla Davies. (Gwasg y Brython, 1957; tudalen 43-44)
Y mae ffermdy yn unigedd y mynyddoedd ar y ffordd i Bistyll Rhaeadr, a thu hwnt i’r ffermdy, mewn cwm, yn un o lecynnau mwyaf rhamantus mynyddoedd y Berwyn, y mae
Ffynnon Sant Dogmael (ar lafar - Ffynnon Cwm Ffynnon). Y mae olion eglwys fach yn ei hymyl hefyd. Yn ei hymyl hi gwelais lygaeron (llygid eirin) yr unig dro imi eu gweld erioed. Tebyg i lus ydynt, ond yn gochion yn lle glas tywyll. Y traddodiad ynglŷn â’r ffynnon ydoedd bod ei dwr yn rhinweddol at wella crydcymalau, ac mor oer ag na ellid dal y troed ynddo ond am ychydig eiliadau hyd yn oed yn anterth haf gwresog. Aeth y fferyllydd, Williams Pandy Coed, Llanrhaeadr, yno a gwres -fesurydd ar ddiwrnod felly. Cymerodd wres y ffynnon, ac aeth ar ei union at y Pistyll, nad ystyrir bod ei ddŵr yn wahanol i ddŵr cyffredin, Cymerodd wres y Pistyll, ac yr oedd dwr y Pistyll raddau’n oerach na dŵr y ffynnon. Eithr ni chredai’r bobl ef, meddai, ond dal i fynd yno. Ni welais unrhyw arwydd fod y goel yn fyw yn fy nyddiau i yno.Rhannau allan o MERCH MORFYDD gan Hafina Clwyd (Gwasg Gwynedd1987)
ŷ’r Ysgol. (Tudalen 45)Adre oedd Cefnmaenllwyd ac yr oedd ar y ffin rhwng siroedd Dinbych a Meirion wrth giât y mynydd. Wrth feddwl am y caeau oedd ar y fferm byddaf yn cysylltu pob un â rhywbeth gwahanol neu nodweddiadol. Dyna’r Cae Bach lle'r oedd y ffynnon o ddŵr crisial a lle gofalem ei thenentu â llyffant i gadw’r dŵr yn bur bob amser. Yno hefyd y casglem y grifft a’r penbyliaid mewn jariau jam i fynd yn anrheg i’r athrawes. Edrychai Miss Roberts wrth ei bodd yn derby nein anrhegion: mae’n siŵr bod ganddi flys lluchio’r cwbl i ebargofiant a bod ganddi fynwent penbyliaid gyfrinachol rywle y tu ôl i D
Teflais Helen, fy chwaer, i’r ffynnon un tro, nid pherwyd fod arnaf eisiau cael gwared ohoni ond am fod y pram wedi fy meistroli a methais â dal y dindres ar y goriwaered ar y buarth a charlamodd wysg ei drwyn yn bendramwnwgl i’r ffynnon. Daliai hithau i gysgu ar bentwr o ddillad pan redodd Mam yn wyllt tua’r danchwa. (Tudalen 56)
Ym mis Mehefin 1953 daeth tro ar fyd. Prynodd ‘Nhad fferm Rhydonnen ar lawr toreithiog Dyffryn Clwyd, hen fynachdy gerllaw eglwys Llanychan. Y tu allan yn y buarth yr oedd ffynnon ddofn iawn a chlywsom bod un perchennog unwaith wedi colli cryn dipyn o foch a ruthrodd megis rhai Gadarenia gynt i lawr y ffynnon un ar ôl y llall! Un o’r pethau cyntaf a wnaeth ‘Nhad oedd lleinw’r ffynnon â sbwriel rhag ofn trychineb debyg. (Tudalen 108)
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
CYNHADLEDD CAERLEON
Bellach daeth yn arferiad i gael cynhadledd flynyddol sy’n tynnu pawb sy’n ymddiddori mewn ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru at ei gilydd. Ar ddydd Sadwrn Medi’r 15fed cafwyd diwrnod o ddarlithoedd hynod ddiddorol. Gan yr Athro Raymond Howell cafwyd gwybodaeth am ffynhonnau Tryleg, man a fu’n bwysig iawn fel lle i gynhyrchu haearn ar un adeg ond sy bellach yn bentref cysglyd yn Sir Fynwy. Un o’r ffynhonnau mwyaf amlwg yn Nhryleg yw
Ffynnon y Santes Ann (SO504052)Yn yr ail ddarlith bu Tristan Grey-Hulse yn trafod tarddiad yr enw Ann. Awgrymodd y gallai fod yn hen dduwies Geltaidd Annes neu Anno. Ychydig o ffynhonnau yng Nghymru sy wedi eu cysegru i Ann. Ni allai Tristan ddarganfod cyfeiriad at y santes yn h
ŷn 1689 lle mae ei henw wedi ei gerfio ar ddeial haul yn yr eglwys. Mae amheuaeth a oedd hon yn ffynnon sanctaidd. Fe’i galwyd yn virtious well sef fynnon rinweddol ac mae nifer o ffynhonnau yn cario’r enw yna yn yr ardal Roedd hefyd yn ffynnon ofuned a gellid gwneud dymuniad wrth y ffynnon . Pe byddai swigod yn ymddangos yn y dŵr cai'r person ei ddymuniad. Mae’n bosib hefyd mai rhyw Ann oedd yn gofalu am y ffynnon ers talwm ac mai hi rhoddodd ei henw i’r ffynnon. Mae blas sylffwr i’r dŵr a dywedir ei fod yn dda am wella colig. Gwelwyd fod carpiau wedi eu clymu i’r coed ger y ffynnon felly mae cyrchu ati hyd heddiw. Hefyd roedd eicon bychan o’r Forwyn Fair wedi ei osod uwchben y dŵr. Anna oedd enw mam Mair.Archeolegydd yn gweithio i Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yw Mike Ings. Cafodd y dasg o wneud arolwg o holl ffynhonnau’r sir a hynny wedi ei arianni gan CADW. Nododd fod y mwyafrif o dirfeddianwyr yn ymateb yn gadarnhaol i’r ffaith fod ganddynt ffynnon sanctaidd ar eu tir. Wrth geisio penderfynu beth yw ffynnon sanctaidd defnyddiodd dri llinyn mesur. Yn gyntaf, fod enw sant neu santes yn gysylltiedig â’r ffynnon; yn ail fod y ffynnon yn agos i le o addoliad, ac yn drydydd bod traddodiadau llên gwerin wedi goroesi am y ffynnon. Fel canlyniad gallai ddweud fod mwy na hanner y ffynhonnau ac enw saint arnynt. Roedd chwedeg chwech ger capel neu eglwys a phedwardeg pump â thraddodiadau am rinwedd y dŵr wedi goroesi. Fel canlyniad i’w ymchwil roedd wedi darganfod nifer o ffynhonnau newydd. Gellir edrych ar adroddiad ar wefan yr Ymddiriedolaeth.
Yn dilyn cafwyd darlith gan David Standing am y modd y rheolwyd ffynhonnau a dŵr ar diroedd abaty Llantarnam. Yna cyflwynodd Graham Jones ganlyniad ei astudiaeth o ffynhonnau’r Santes Helen yng Nghymru. Dim ond saith sydd ohonynt - yng Nghaernarfon, (SH48028), Dolwyddelan (SH7352) a Chroesor (SH6344) yng Ngwynedd, yn Nhrefelen (Bletherston) (SN0621), Llanhuadain ( SN0617) ( Llawhaden) a Chydweli ( SN 4006) yn Nyfed a Llanelen(SO3010) yng Ngwent. Awgrymwyd hefyd fod yna ffynnon sanctaidd yn agos i gae chware Sant Helens yn Abertawe. Mae’r ffynhonnau a gysegrwyd i Helen yn fwy niferus o lawer yn Lloegr. Yn gyffredinol derbynnir mai i Helen, mam Cystennin y cysegrwyd y ffynhonnau hyn.
Y siaradwr olaf oedd Gary Branigan a roddodd gipolwg i ni ar ffynhonnau sanctaidd Dulyn . Mae 57% ohonynt wedi eu cysegru i saint a 13% i gymeriadau Beiblaidd. Collwyd y wybodaeth am enwau 5% o’r ffynhonnau. O’r gweddill ceir rhai sy’n enwog am wella llygaid poenus, byddardod a’r ddannoedd, y gwahanglwyf, y llwg (scurvy), anhwylder ar y croen a’r cancr. Cafwyd deddfwriaeth i ddiogelu’r ffynhonnau. Ceir dirwy o £3,000 neu chwe mis o garchar am ddifrodi ffynnon sanctaidd ond er hyn mae ffynhonnau’n diflannu o dan adeiladau newydd ac eraill yn cael eu llanw er mwyn datblygu’r safle. Hyd yma nid oes neb wedi ei gosbi o dan y ddeddf ddiogelu yma. Serch hynny mae ambell ddatblygwr wedi mynd i helynt. Mewn un achos caewyd hen ffynnon sanctaidd er mwyn adeiladu. Yn gam neu’n gymwys lledodd y goel fod anlwc yn dilyn y sawl a wnaeth hynny. Codwyd stad o dai newydd ond buan y sylweddolwyd fod dwr yn llanw’r gerddi. Aed a’r adeiladydd i’r llys am iddo fethu sicrhau fod y safle’n addas ar gyfer tai. Aeth yr holl helynt yn ormod iddo, cafod drawiad ar y galon a marw .Cryfhawyd cred y werin yn yr hen goel fod dial yn dilyn dinistr. Pity na allem ninnau yng Nghymru feithrin coel o’r fath!
Yna cafwyd trafodaeth ynglŷn â sefydlu cymdeithas / neu gorff i amddiffyn ein ffynhonnau. Dewiswyd yr enw FFYNNON iddo ond credir fod yr enw yn cael ei ddefnyddio eisoes gan gwmnïau eraill. Ei bwrpas fydd gwarchod, amddiffyn, a chynnal ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru a hybu dealltwriaeth o’u pwysigrwydd a’u gwerth. Dyma ein diffiniad o ffynnon sanctaidd –un â chysylltiad â sant neu santes, neu eglwys neu gapel, ffynnon sy a’i dŵr yn rhinweddol ac iachusol a lle mae traddodiad o wellhad a phererindota. Mae Jonathan Wooding , Llanbedr-pont- Steffan, ac o Brifysgol Dewi Sant/ Y Drindod yn gweithio ar ddatblygu’r gymdeithas hon. Gobeithir y bydd yn dod a phawb sy â diddordeb mewn gwarchod ein ffynhonnau sanctaidd at ei gilydd er mwyn i ni siarad ag un llais a hwnnw’n llais ag awdurdod ganddo.
Ar y Sul aethom i Dryleg a Chwmbrân i ymweld â ffynhonnau. Roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol . Eleni bydd y gynhadledd yn Llandudno ym mis Medi. Ceir manylion llawn yn rhifyn yr Haf o Llygad y Ffynnon.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOLCafwyd darlith arbennig iawn gan Angela Graham ar y testun
Ffynnon Fair, Pen-rhys-Porth y Nefoedd. Disgrifiodd beth sy i’w weld ym Mhen-rhys. Mae’r cerflun carreg o Fair o Ben-rhys yn amlwg i’w weld gerllaw’r ffynnon (ST4987) a’r adeilad carreg ddiaddurn sy drosti. Yn y Canol Oesoedd roedd y ffynnon yn fan pwysig iawn a llawer o gyrchu ati. Cofnodwyd ei hanes mewn corff o farddoniaeth sy wedi goroesi. Daeth y fan i enwogrwydd ar ôl i ddelw bren o Fair yn dal y plentyn Iesu ymddangos yn wyrthiol yng nghanghennau derwen ac nid oedd modd ei symud oddi yno. Adeiladwyd capel ar ei chyfer. Bu gwyrthiau’n digwydd ar ôl ymdrochi yn y ffynnon- y deillion, y mud a’r byddar, rhai wedi eu parlysu a’r rhai a chornwydon arnynt i gyd yn cael iachâd .Yna rhoddwyd y gorchymyn yn 1538, gan Harri’r Wythfed, i ddinistrio’r gysegrfa fel man lle'r oedd arferion ofergoelus yn cael eu harfer. Aed a’r ddelw i Lundain i’w llosgi ynghyd â delwau eraill o brif gysegrleoedd Mair ym meili tŷ Thomas Cromwell yn Chelsea. Bu’r safle mewn dinodedd tan 1953 pryd y codwyd y cerflun Ein Harglwyddes o Ben-rhys, sy’n ddwy ar bymtheg troedfedd o uchder. Daeth miloedd ar bererindod i weld y cerflun a daeth yn fan sanctaidd unwaith eto. Adferwyd tŷ’r ffynnon gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda ym 1977. Agorwyd eglwys rhyngenwadol Llanfair ym 1989. Gerllaw’r ffynnon a’r cerflun mae stad enfawr o dai cyngor. Bu yma broblemau cymdeithasol dyrys, ond bellach, wrth i Ben-rhys ddatblygu yn safle o bwys ysbrydol unwaith eto magwyd hyder a hunan barch yn y trigolion. Gall Pen-rhys fod yn borth i’r dwyfol ac i’r gwirioneddol ddynol ar yr un pryd. Daeth y pererinion yn dwristiaid . Ym mis Mai 2010 cyhoeddwyd adroddiad gan Bartneriaid Pen-rhys ac mae’n argymell gwella’r mynediad at adeilad y ffynnon. Bydd hyn yn adfer y safle i'w briod le megis man iachau, man heddwch a man gwerth pererindota ato, man i’w drysori gan bobl o bob ffydd a rhai di-gred. Daw’r ffynnon felly yn Borth y Nefoedd unwaith eto.Yn dilyn y ddarlith cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas o dan arweiniad y Cadeirydd, Howard Huws. Da oedd gweld Llywydd y Gymdeithas, Dr Robin Gwyndaf yn bresennol. Ail etholwyd y swyddogion fel a ganlyn: Is-gadeirydd- Dr Ann Williams, Ysgrifennydd- Eirlys Gruffydd, Trysorydd- Ken Lloyd Gruffydd. Isod mae mantolen y Trysorydd . Archwiliwyd y cyfrifon a’u cael yn gywir gan Dennis Roberts.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
O GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON ELAN, DOLWYDDELAN
(SH 73675252)Yn dilyn nawdd gan CAE Parc Cenedlaethol Eryri, rydym wedi medru gwaredu'r goeden onnen o safle Ffynnon Elan ger gwesty Castell Elen. Roedd gwreiddiau’r goeden yn araf ddinistrio’r ffynnon. Yn ogystal â’r gwreiddiau gallai’r goeden ei hun fod wedi bygwth y safle gan ei bod yn bwdr, a gallasai ddisgyn a difetha popeth. Bill Jones a’i dîm o wirfoddolwyr gliriodd y safle yn barod ar gyfer torri’r goeden. Mae Menter Shiabod wedi gwneud cais am nawdd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i hwyluso cam nesaf y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys cloddio a chyfnerthu’r safle a’i gwneud yn ddiogel i’r cyhoedd gael ymweld â’r lle a chael esboniad am y safle. Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd y cais yn llwyddiannus fel y medrwn achub y ffynnon fel y caiff pawb ei mwynhau. Yr unig fynediad i’r ffynnon fydd drwy dir Gwesty Castell Elen. Mae cwmni Coed Alfa, (cwmni lleol) wedi cwblhau’r gwaith o dorri a dymchwel y goeden.
Helen Macnibbler McAteer, Dolwyddelan Menter Shiabod
TORRI’R GOEDEN AR SAFLE FFYNNON ELAN, DOLWYDDELAN
FFYNNON BEUNO, CLYNNOG FAWR (SH41324945)
Bu cryn ofid am gyflwr
Ffynnon Beuno, yng Nghlynnog gan fod hon yn ffynnon gofrestredig gan CADW ac un nodedig. Diolch i ddwy o’n haelodau, Helga Martin a Marian Elias am gadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd. Dyma lun a dynnodd Helga o gyflwr truenus y ffynnon ddiwedd mis Gorffennaf 2012.Bu Helga’n cysylltu â’r Cyngor Cymuned fwy nag unwaith a chynnig cyfrannu o’i phoced ei hun tuag at y gwaith. Dyma’r ymateb a gafodd gan Ken Williams, Clerc y Cyngor:
“Mae’r Cyngor Cymuned wrthi’n cael prisiau gan wahanol gontractwyr am wneud y gwaith atgyweirio ar y ffynnon yn unol â dymuniadau a chynlluniau CADW. ...Rwyf yn cydweld â chwi ei bod yn drueni gweld y ffynnon yn y fath gyflwr, ond gallaf eich sicrhau fy mod innau, fel y Cyngor, yn awyddus i symud ymlaen gyda’r gwaith cyn gynted â phosibl.”
Fel y gwelwn wrth y lluniau isod, a dynnwyd gan Marian Elias, mae’r gwaith wedi dechrau a’r ffynnon yn edrych yn llawer iawn gwell erbyn hyn.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
CYFARFOD CYNGOR Y GYMDEITHAS
Bydd y Cyngor yn cyfarfod yn festri Capel y Porth, Porthmadog am 2.00 ar brynhawn Sadwrn Mawrth 2ail. Bydd cofnodion Cyngor 2012 yn cyrraedd yr aelodau yn fuan.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU
Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint
Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH
Ffôn: 01352 754458 cyfeiriad e-bost:
gruffyddargel@talktalk.netcffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcf
GWEFAN CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU: www.ffynhonnau.Cymru.org
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff