Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                                                                                   Rhif 31 Nadolig 2011

 

FFYNNON Y SANTES FAIR, LLANRHOS

(SH795805)

Cyfieithiwyd o fersiwn Saesneg Ken Davies (1994) gan Ifor Pugh Williams (Rhagfyr 2011)

Diolch i Gareth Pritchard, Llanrhos, Deganwy am anfon y wybodaeth ar lluniau i Llygad y Ffynnon.

Ffynnon Y Santes Fair Llanrhos

Hanes byr yw hwn o ailddarganfod Ffynnon y Santes Fair yn Llanrhos yn Ionawr 1994 ar gwaith a wnaed i glirior safle a datgelur ffynnon. Ym mis Medi 1970, symudodd fy ngwraig a minnau i 67 Hill View Road, Llanrhos, Deganwy, Conwy, Gogledd Cymru. Roedd fy nhad, a aned yn 1901, yn hanu o Ddeganwy ac roedd yn sn droeon am hen ffynnon or enw Ffynnon Fair oedd wedi ei lleoli yn agos at y llwybr troed syn arwain at Eglwys Llanrhos. Pan adeiladwyd y tai ar ystad Hill View cafodd y llwybr hwn ei wyro i fynd rhwng rhifau 61 a 63 Hill View Road. Y canlyniad oedd ir darn o dir ir chwith a thu cefn i rif 61 gael ei adael i dyfun wyllt. Yn y cyfnod y bm yn byw yno teimlais y byddain werth chwilio am y ffynnon, os mai dim ond i fodloni fy chwilfrydedd fy hun! Ond ni thrafferthais, ac eithrio darganfod y llythyren W ar fap OS yr ardal.

Fe gofnodwyd llawer o hanes am y llifogydd yn Llandudno ym Mehefin 1993 ond fe effeithiwyd ar Lanrhos hefyd. Cafwyd llifeiriant eithafol o ddŵr yn pistyllio i lawr or Faerdre gan drawsnewid y geuffos fechan i fod yn afon yn cludo pob math o geriach. Maer nant hon yn mynd y tu cefn i Rif 61 a thrwy gylfat o dan ardd Rhif 63. Roedd y llanastr a achoswyd mor ddrwg fel y bun rhaid i mi gysylltu Bwrdd Dŵr Cymru ac ar Awdurdod Afonydd Cenedlaethol. I fod yn hollol deg, cliriwyd y rhan helaeth or sbwriel ganddynt neu eu contractwyr yn ogystal thorri canghennaur coed uwchben. Dymar adeg y penderfynais edrych o ddifri am Ffynnon Fair. Roedd gordyfiant y ddraenen wen, tagwydd a mieri o gwmpas y nant heb sn am y gwastraff gerddi a daflwyd ir nant dros y blynyddoedd. Daeth yn amlwg yn fuan iawn mair cwbl oeddwn wedi ei ddarganfod oedd cors soeglyd o sbwriel! Fel ym mhob math o lafur, araf iawn oedd y gwaith o glirio hyd yn oed ychydig or gordyfiant am ei fod wedi cydblethu ai gilydd. Wrth dorrir rhain i lawr, a chlirio peth or gordyfiant, wele, adeiledd yn cynnwys hanner cylch o gerrig yn cynnal maen capan mawr iawn yn dod ir golwg. Dyma wrth gwrs oedd Ffynnon Santes Fair, yn gweld golau dydd am y to cyntaf ers llawer o flynyddoedd.

Fel y gellid disgwyl, datblygodd diddordeb newydd a brwdfrydig yn y prosiect mewn nifer o bobl wrth iddynt gerdded heibio. Roedd eraill yn cynnig cyngor defnyddiol, a rhai, fel fy mrawd-yng-nghyfraith, Bryn Thomos, yn gweithion galed iawn i glirior safle. Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Chwefror 1994. Y cam cyntaf oedd ceisio clirior ffynnon a chreu ffos fel bod y dŵr yn gallu llifo tuag at y cylfat. Roedd hyn yn golygu cloddio a chlirio tua phum deg llond berfa o sbwriel adeiladwyr oedd wedi ei daflu ir ffynnon pan adeiladwyd tai Ystad Hill View gan orchuddior cylfat. Torrwyd grisiau i mewn ir banc clai ar hyd y ffos fel y gallem ddringo allan or ffos wrth i ddyfnder y cloddio gynyddu. Wrth ir gwaith fynd yn ei flaen darganfuwyd darnau bach o wydr. Yna daeth potel Cod ir golwg a honno mewn cyflwr oedd bron yn berffaith. Yr enw ar y botel oedd William Hill, Llandudno ar dyddiad oedd 1876. Yn ddiweddarach darganfuwyd mwy o boteli dŵr, un ohonynt efor enw Kays, Llandudno arni, llawer o jariau jam, poteli meddygaeth raddedig, caeadau gwydr a phot inc gwydredd halen. Fen hysgogwyd trwyr darganfyddiadau hyn i ymdrechun galetach.

Wrth ir gwaith o gloddior ffynnon ar geuffos fynd yn ddyfnach daeth yn fater o frys i ddiogelur safle i atal unrhyw berson anwyliadwrus rhag llithro i mewn iddynt. Fe wnaed hyn yn y lle cyntaf trwy ddefnyddio canghennaur coed a dorrwyd. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, daeth cynnig o byst ffens gan Mr Ernie Jones o Benarth, Conwy, a derbyniwyd gwifrau ffens gan Glwb Beiciau Modur Conwy a'r Cylch. Trwy greur ffens fe wnaed y safle yn hollol ddiogel. Fe wnes git fechan efo pren a roddwyd gan Mr John French o Hill View Road a hyn yn rhoi mynediad hwylus at y ffynnon. Achoswyd nifer o broblemau i ni gan y gwaith clirio. Y mwyaf oedd gwybod beth iw wneud r pridd a godwyd or safle. Fe benderfynwyd ei ddefnyddio i godi clawdd ir ffos. Defnyddiwyd yr holl friciau tŷ a cherrig i sadio a draenior tir i greu llwybr ar waelod y clawdd. Problem arall iw datrys oedd sut i atal y clawdd clai rhag llithron l ir nant. Fe wnaed hyn drwy docior clawdd yn l a gosod darnau o ddur a pholion iw dal yn ei lle. Nid oedd yn atyniadol iawn ond roedd yn effeithiol. Wrth i lefel y llaid ar sbwriel yn y ffynnon fynd yn is roedd y dŵr yn dod yn fwy clir. Yna daeth rhywbeth annisgwyl ir golwg, sef darn o feic plentyn. Roedd y prif ddarnau yn dal i fod mewn cyflwr da ar werthyd echel ar pedalau rwber yn troin hwylus.

Er mwyn creu gwell mynediad at y ffynnon or git, bu rhaid torri cyfres o risiau allan or clawdd clai. Roedd hyn yn golygu symud mwy o lwythi llond berfa iw osod ar ben y gwastraff oedd yna eisoes. Fe wnaed y grisiau trwy osod slabiau pafin ar ben y cerrig a gloddiwyd or safle. Gosodwyd mwy o slabiau pafin i ddal y clawdd clai i fyny ar hyd ochraur grisiau gan ddatrys yn foddhaol y broblem o osod grisiau ar ochr clawdd oedd yn codin eithaf serth dros bellter mor fyr. O bromend Rhyl y daeth y slabiau pafin hyn. Wrth ir gwaith o glirior llaid or ffynnon fynd ymlaen daeth carreg fawr ir golwg, yn croesi o un ochr or ffynnon ir llall, tua 300mm islaw lefel y dŵr. Er mwyn atal y dŵr or nant rhag llifon l ir ffynnon, fe osodwyd slab pafin ar draws y ffynnon fel rhwystr dros dro. Ar ochr dde or ffynnon cafwyd hyd i garreg arall a marc saeth wedii naddu arni a hwn syn dangos lefel y dŵr. Maer lefel yn parhau i fod yn gyson hyd yn oed pan for tywydd yn sych - teyrnged ir un a naddodd y marc ar y garreg.

Erbyn Awst 1994 roedd mwy o waith cosmetig wedi ei wneud ir safle, yn cynnwys gosod rheiliau pren ar ben pyst y ffens felly gallai unrhyw un oedd eisiau gweld beth oedd yn digwydd pwyso arnynt. O wneud hyn nid oeddynt yn pwyso ar y ffens wifr au thynnu i lawr! Tuar adeg yma canfuwyd fod pobl yn taflu arian o werth isel ir ffynnon ac efallai yn creur traddodiad oi defnyddio fel ffynnon ofuned. Dangoswyd llawer iawn o ddiddordeb yn y ffynnon gan ddefnyddwyr y llwybr cyhoeddus syn mynd heibior safle. Cafwyd tri grŵp sylfaenol o gerddwyr. Y grŵp cyntaf oedd y rhai a ddefnyddiair llwybr yn rheolaidd ar eu ffordd ir eglwys neu i Landudno neu at y siglenni neu i ymarfer eu cŵn yn y cae. Byddent yn dangos diddordeb cwrtais a hamddenol yn y gwaith oedd yn mynd ymlaen. Yr ail grŵp oedd y cerddwyr ar deithiau cerdded, yn dilyn eu teithlyfrau lleol, ac wrth weld y ffynnon eisiau gwybodaeth fanwl am yr hyn oedd yn digwydd! Y trydydd grŵp oedd y rhai oedd yn dod yn benodol i weld y safle - Mr Alan Jones, Cynrychiolydd o Barc gwledig Aberconwy, Mr David Haines, ysgrifennydd y gymdeithas hanes lleol a Mr David Atkinson oedd y frwdfrydig iawn am hanes lleol.

Yn ystod mis Awst fe wnaed mwy o waith clirio i welyr nant. Roedd hyn yn waith araf oherwydd yr angen i symud cymaint o laid a cherrig. Gwireddwyd awgrym bryn y dylid creu ynys yng nghanol y nant. Roedd hyn yn ein galluog i ddefnyddior cerrig fel sylfaen ar mwd i fewnlenwi ac ar gyfer tyfiant planhigion. Arbedodd hyn lawer o arian i ni tra ar yr un pryd fe grwyd nodwedd ddeniadol yn y nant. Mewn ymdrech i atal gwelyr nant rhag cael ei erydu gan rym y dŵr oedd yn llifo or bibell ir nant, fe luniwyd basged allan o hen wifrau. Yna fei llanwyd cherrig mawr ai gosod ar welyr nant gyda phen uchaf y fasged ychydig yn is na lefel y dŵr wrth geg y bibell yn unol llif yr afon. Bydd hyn, gobeithio, yn torri grym y dŵr ar adegau o law trwm a rhwystro unrhyw ddifrod i welyr afon. Plannwyd nifer o fylbiau a phlanhigion o gwmpas y safle a dylai hyn greu golygfa liwgar yn y gwanwyn ar haf.

Dyma enghraifft wych o frwdfrydedd nifer fechan o bobl yn adfer ffynnon - a hyn cyn i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru ddod i fodolaeth yn 1996. Maen dangos nad ar chwarae bach y gellir ailagor ffynnon ai bod yn hollbwysig gwneud gwaith cynnal a chadw cyson arnynt fel ar bob adeilad arall.(Gol.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYNHADLEDD TREFFYNNON

Aelodau o'r Gymdeithas ger y ffynnon,2011

Cafwyd dau ddiwrnod cofiadwy a phleserus yn Nhreffynnon dros benwythnos Medi 17eg a 18fed 2011. Hon oedd y bedwaredd gynhadledd ffynhonnau flynyddol iw chynnal ac maen mynd o nerth i nerth. Ar y bore Sadwrn cafwyd darlith a chyflwyniad Power Point gan y Parchedig Bill Pritchard, cyn Archddiacon Sir Drefaldwyn, syn awdur cyfrol nodedig a chynhwysfawr ar Wenffrewi ai ffynnon yn Nhreffynnon. (SJ185763)Dangosodd hanes y ffynnon gan ddechrau gyda Gwenffrewi ar traddodiad am ei dienyddio ai chroniclo hanesion am wellhad yn nyfroedd y ffynnon a datblygiad y safle dros y blynyddoedd. Yn dilyn y ddarlith aeth pawb i lawr at y ffynnon ar gyfer y gwasanaeth dyddiol syn cael ei gynnal am hanner dydd or Pasg hyd ddiwedd Medi. Daethpwyd a chrair Gwenfrewi ai osod ar yr allor a dilynwyd litwrgir santes. Diddorol oedd gweld pobl o amrywiol draddodiadau Cristnogol yn ymuno yn y gwasanaeth. Yn ystod y prynhawn cafwyd darlith gan Tristan Gray Hulse ar barhad a goroesiad ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru ac yn dilyn hynny darlith gan Jeremy Harte ar y berthynas symbolaidd rhwng bedydd a gwellhad. Yn dilyn cafwyd trafodaeth agored gydar bwriad o sefydlu ymddiriedolaeth genedlaethol i warchod ein ffynhonnau sanctaidd. Fel canlyniad dewiswyd cynrychiolwyr o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru a Wellsprings, y Prifysgolion ac arbenigwyr yn y maes i ddod i gyfarfod yn Llangurig ar Hydref 15fed. (Gweler adroddiad or cyfarfod hwnnw isod.)

Cynhadleddwyr wrth Ffynnon Gwenfrewi  17 Medi 2011

Howard Huws  Sue Copp  Yr Hybarch Bill Pritchard  Dr Jonathan Wooding  Ann Owen

Dydd Sul cychwynnwyd o Dreffynnon gan ymweld yn gyntaf Ffynnon Beuno,Tremeirchion. (SJ083724) gan edmygur baddon helaeth ar cerflun carreg o ben dynol lle maer dŵr yn llifo allan.

 

Yna ymlaen at Ffynnon Fair, Wigfair ger Llanelwy (SJ028711). Roedd pawb wrth eu bodd gyda ffurf chwe ochr y ffynnon. Roedd Tristan wedi paratoi sylwadau cynhwysfawr ar bwysigrwydd y ffynnon a darllenwyd y rheini i bawb fedru gwerthfawrogi arwyddocd y safle.

Ymlaen a ni wedyn i Lanrhaeadr yng Nghinmeirch i weld y ffenest Jesse enwog yn yr eglwys, ffynnon a dalwyd amdani drwyr arian a offrymwyd gan y pererinion at Ffynnon Ddyfnog.(SJ082635) Yno yn yr eglwys yn aros amdanom roedd Helen Jenkins Jones , aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, syn warden yn yr eglwys ac yn arbenigo ar hanes ac arwyddocd y ffenest.

Wedi cinio yn y dafarn gerllawr eglwys aethom i ymweld Ffynnon Ddyfnog. Clywsom fod cynlluniau ar y gweill i hwyluso mynediad at y ffynnon ond mae hyn yn golygu gwaith mawr ar y dirwedd o gwmpas y ffynnon. (Gweler isod) Maer baddon o flaen y ffynnon mewn cyflwr da ond bod y pontydd dros y nant syn llifo or ffynnon mewn cyflwr mwy bregus. Wedi gadael Llanrhaeadr teithiodd y cwmni i Gefn Ffynnon, Llanelian yn Rhos, cartref Jane Beckerman, i ymweld safle Ffynnon Elian (SH866774) ar eglwys hynafol yno. Barnodd pawb ein bod wedi cael diwrnod iw gofio.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYFARFOD LLANGURIG

Ar Hydref 15 daeth cynrychiolwyr o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru, Wellsprings a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant at ei gilydd i geisio gweld ffordd ymlaen a sefydlu ymddiriedolaeth genedlaethol i warchod ein ffynhonnau. Wrth geisio diffinio rl yr ymddiriedolaeth penderfynwyd mai ffynhonnau sanctaidd yn unig ac nid ffynhonnau yn gyffredinol ddylai fod yn gyfrifoldeb ir ymddiriedolaeth. Dylai rl yr ymddiriedolaeth fod yn gwbl glir ac ni ddylai ddyblygu gwaith cymdeithasau syn bodoli eisoes. Trafodwyd os mai ymddiriedolaeth oedd yr enw cywir ar yr hyn roeddem yn ceisio ei greu. Bydd angen mwy o wybodaeth cyn dod i benderfyniad terfynol. Teimlwyd mai gwaith yr ymddiriedolaeth fyddai codi ymwybyddiaeth or hyn oedd yn digwydd yn barod a hybu ymarfer dda mewn adnewyddu a gwarchod y ffynhonnau yn hytrach na gwneud y gwaith ei hun. Dylai hefyd hybu cydweithio rhwng y cymdeithasau syn bodoli eisoes. Byddai gan yr ymddiriedolaeth waith arbennig iw wneud mewn addysgur cyhoedd am bwysigrwydd ffynhonnau gan gynhyrchu taflenni gwybodaeth printiedig ac ar y we ar gyfer cyrff cyhoeddus megis cynghorau , cyrff ymgynghorol, a thirfeddianwyr preifat. Gellid cynhyrchu gwybodaeth fyddain ateb cwestiynau fel Beth yw ffynnon sanctaidd? neu Pwy all gynnig cyngor i mi? Rhagwelid y byddid yn cynnal gweithdai yn dilyn creu taflenni ar bynciau unigol. Gwelid hefyd y byddair ymddiriedolaeth yn trefnu cynhadledd flynyddol a hynny yn esgor ar gynadleddau mwy uchelgeisiol fyddain hybu astudiaethau academaidd. Dylid datblygu a hybu safonau wrth gasglu a chofnodi gwybodaeth drwy gydweithrediad grwpiau syn bodoli eisoes ac awdurdodau syn gwarchod ein hetifeddiaeth. Teimlwyd mai doeth fyddai cael cyfreithiwr i gynghorir ymddiriedolaeth, yn ddelfrydol oddi fewn i aelodaeth y cymdeithasau syn ymddiddori yn y maes. Ar ddiwedd y cyfarfod gwelwyd bod angen tri pheth ar fyrder- diffiniad pendant o beth yw ffynnon sanctaidd; enw a logo ir mudiad/ymddiriedolaeth/ sefydliad newydd a ffynhonnell o arian i gefnogir fenter. Penderfynwyd mynd ar tri pheth yma yn l ir ddwy gymdeithas iw trafod yn ein cyfarfodydd. Mae croeso i chi fel aelodau rhoi eich barn ar y pethau yma drwy gysylltu ni drwy lythyr, ffn neu ebost. (Gweler y manylion ar ddiwedd y cylchlythyr.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Yn ein cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau ar ddydd Mercher Awst 6ed cafwyd darlith ddiddorol iawn gan Jane Beckerman ar y testun Ffynnon Elian- Ffynnon Felltithio: Ffaith Neu Ffuglen. Daeth nifer dda ir cyfarfod a phawb wedi mwynhaur ddarlith gafodd ei chyflwyno mewn arddull fywiog a hwyliog. Dyma lun o Jane yn traethu.

 

 

Eleni bur Gymdeithas yn rhan o stondin Fforwm Hanes Cymru ar y maes a daeth llawer i edrych a thrafod a rhannu ein diddordeb yn y ffynhonnau.

****************************************************************************

 

FFYNNON TŶ NANT, YSBYTY IFAN

(SH849481)

Helga Martin

(Addaswyd or ODYN rhif 401, Medi 2011 Tudalen32)

 

Fel aelod o Bwyllgor Gwaith Fforwm Hanes Cymru caf amser difyr wrth ofalu am ymwelwyr yn stondin y gymdeithas hon ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Bob blwyddyn bydd wyth i ddeuddeg o gymdeithasau syn ymwneud hanes yn arddangos yn stondin y Fforwm. Caiff ymwelwyr o bob ryw wybodaeth am wahanol agweddau ar hanes ein gwlad. Rhai ffyddlon i'r stondin yw Eirlys a Ken Gruffydd o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru. Fem hanogwyd gan eu brwdfrydedd i ddod yn aelod ou cymdeithas. O ganlyniad dechreuais fagu diddordeb mewn ffynhonnau. Deallais yn fuan bod miloedd ohonynt yn dal i lifo fan hyn a fan draw, drwy Gymru benbaladr Yna sylweddolais chywilydd fy mod i wedi byw yma yn Ysbyty Ifan ers 27 mlynedd a heb erioed ymweld Ffynnon Tŷ Nant, a oedd ers talwm yn bwysig iawn i drigolion y gymuned ac syn cuddio ar y gweundir heb fod ymhell oddi wrth fy nghartref. Ym mis Gorffennaf, gyda chyfarwyddiadau gan Ellis Wyn Roberts syn ffermio Tŷ Nant, dyma ddringor allt heibio Capel Seion tuag at Dyn Ffridd. Or fan honno ir chwith, croesi cae, trwy git fferm, ac ir dde ar hyd ffos syn amlwg yn arwain y dŵr lliw oren i waered or ffynnon llawn haearn.

 

Yn fuan camu dros y ffos at y ffens sy oi hamgylch i gadw gwartheg Ellis Wyn draw. Dyma hi - wedi llechu o dan dyfiant anniben ers amser maith am nad oedd neb bron yn gweld ei heisiau bellach. Dringor ffens i nesu ati a dyma weld pedair llechen las fawr o gwmpas twll hirsgwar, dwfn, sylweddol. Mae dŵr clir, oer iawn yn rhedeg yn rhydd o beipen dwy fodfedd, a osodwyd ir mawn, ac maen ymgasglu yn yr ymdrochle, cyn mynd ar ei daith ar hyd y ffos drwyr caeau. Dim ond ar l cyfarfod ag ocsigen maer dŵr tryloyw yn troi yn lliw oren syn dynodi bod canran uchel o haearn ynddo. Oi yfed clywir rhyw flas rhyfedd, braidd yn annifyr arno. Ffosfforws syn achosi hyn. Cefais ar ddeall bod yr un nifer ond un o wahanol fathau o fwynau yn nŵr ein ffynnon ni Ffynnon Trefriw. Erbyn hyn mae clod a golud Ffynnon Trefriw wedi ymledu dros y byd i gyd, am eu bod yn gwerthu'r dŵr i feddygfeydd o dan yr enw Spatone ers blynyddoedd bellach, herwydd bod yr haearn ynddo yn haws ir corff ymdopi fo nar un mewn tabledi.

Maer cwt pren a fu dros ein ffynnon ni wedi hen ddiflannu, wedi pydru tybiaf fi. Ni welais y stepen a oedd yno rywdro chwaith. Petai aelod or teulu yn wael cyn dyfodiad y Gwasanaeth iechyd, a phan ystyrid galw meddyg yn rhy ddrud, byddai ambell i blentyn yn cael ei anfon gyda photel neu din i nl peth o ddŵr y ffynnon i wellar claf. Byddai cariadon yn arfer ymlwybro hyd at y ffynnon ar l gwasanaeth yn y capel ar nos Sul - i gael llonydd, gredaf i. Lle bendigedig i brofi heddwch yw unigeddaur gweundir ar ffynnon yn eu canol. Credir heddiw bod y dŵr yn lles ir rhai syn dioddef efo llid y cymalau ac mae Gruff Ellis, naturiaethwr Ysbyty Ifan, yn dal i ymddiried yn ei rinwedd. Yn fy nhyb i, oerni eithriadol y dŵr syn gallu lleddfu poen crydcymalau. Clywais am lawer o ffynhonnau yng nghyffiniaur plwyf sy wedi mynd yn angof ers i ddŵr tap gyrraedd ond mae eu henwaun dal efo ni. Dyna Ffynnon Pen Lladdfa Fain, y tu draw i dŷr gweinidog, er enghraifft, ller arferai Huw Selwyn gael ei ddŵr ers talwm. Dyma hanesyn difyr i orffen: cafodd tair merch Eifion (mab ieuengaf Ellis Wyn) a Wenda, syn byw gyferbyn r eglwys, eu bedyddio dŵr ffynnon Tŷ Nant. Bendith arnynt!

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD:

Patricia D. Wright, Rhydychen           Mary Trinder, Cyffordd Llandudno

Sydney Davies, Glyn Ceiriog             Mona E. Jones, Weston Rhyn.

Jane Beckerman, Llanelian-yn-rhos   Olwen B. Jones, Coedpoeth

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIOLCH A FFARWELIO:

Gyda thristwch nodwn i ni golli aelod gweithgar ym marwolaeth Cledwyn Williams, cyn brifathro ysgolion Llanrug a Chwm y Glo, ar Dachwedd 24ain. Roedd yn 95 oed. Bun byw yn Nhŷr Ysgol Llanrug ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn Ffynnon Fair, Llanfair-is gaer, (SH5166)) rhwng y Felinheli a Chaernarfon, ac yn gofidion fawr fod gwaith i ledur ffordd wedi dinistrior ffynnon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON DUDWEN, LLANDUDWEN, Llaniestyn, Llŷn.(SH27474679)

Bu Bleddyn Prys Jones, Swyddog a gofal dros Ardal o Harddwch Naturiol, Eithriadol Llŷn, ai dm o weithwyr yn cloddio a glanhau Ffynnon Dudwen, Llandudwen am gyfnod o ddwy flynedd. (Gweler Llygad y Ffynnon 29). Erbyn hyn maer gwaith o adfer y ffynnon wedi ei orffen ac ar ddydd Llun, Mehefin 4ydd am 10.30 yn y bore, ailgysegrwyd y ffynnon gan Esgob Bangor mewn gwasanaeth yn yr eglwys. Yn l Myrddin Fardd yn ei gyfrol werthfawr Ln Gwerin Sir Gaernarfon roedd Ffynnon Dudwen yn gwella amrywiaeth eang o afiechydon. Roedd hefyd yn nodedig am gryfhau golwg gwan a rhoi esmwythd i lygaid poenus. Roedd hon yn un o ffynhonnaur pererinion wrth iddynt deithio drwy Ben Llŷn i Ynys Enlli. Credai Myrddin Fardd bod hanes y ffynnon wedi dod i ben, yn wir roedd wedi diflannu i ganol cors. Nid oedd fawr ddim ond tir gwlyb i ddangos ei lleoliad pan ymwelwyd hi gyntaf roedd y ffermwr oedd yn amaethur tir yn gwybod am ei lleoliad gan fod ei wartheg yn mynd at y tarddiad i gael dŵr iw yfed. Yn wir roedd wedi ceisio cael grantiau i ddatblygur ffynnon fel man cyfleus i ddyfrhaur anifeiliaid ond bod rheolau'r Senedd Ewropeaidd yn rhwystro hynny. Diolch i Bleddyn ai weithwyr diwyd, bellach maer gwaith cerrig wedi ei dwtio ai ail godi mewn sawl lle a gosodwyd ffens i gadwr anifeiliaid allan, git i hwyluso mynediad ir safle a sedd i eistedd arni i fwynhaur olygfa.

FFYNNON DDYFNOG, LLANRHAEADR YNG NGHINMEIRCH (SJ0826350)

Yn ystod ein hymweliad r ffynnon ar Sul y Gynhadledd yn Nhreffynnon ym mis Medi daeth aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i gysylltiad ag Adrian Evans syn bwriadu gwneud rhywbeth i wellar fynedfa at y ffynnon a thwtior tir oi chwmpas. Maer llwybr at y ffynnon yn cychwyn wrth gornel orllewinol yr eglwys ac yn croesir nant dros fwy nag un bont cyn cyrraedd y ffynnon ei hun. Maer llwybr at y ffynnon yn troelli rhwng coed ac maen gallu bod yn llithrig os ywr tywydd wedi bod yn wlyb. Does dim gwybodaeth fanwl am y cynllun hyd yma. Yn wir mae mwy nag un ymgais wedi ei gwneud i wella'r safle. Mae yma flas y cynfyd a rhyw deimlad o gamu ir gorffennol wrth gerdded i fyny at y ffynnon. Yn sicr nid oes eisiau collir naws arbennig yma er mwyn iechyd a diogelwch ond ar yr un pryd rhaid amddiffyn y bensaernaeth arbennig sydd ir lle.

FFYNNON GEINIOG Sir Faesyfed.(Anscir oi lleoliad ar hyn o bryd)

Yn ddiweddar daeth Erwyd Howels o hyd ir ffynnon hon ar weindir wrth fugeilio defaid. Nid oes gofnod ohoni yng nghyfrol Francis Jones, The Holy Wells of Wales. Clywodd Erwyd hanes diddorol am hen ŵr oedd yn byw yn lleol a ofynnodd am ddŵr or ffynnon iw yfed pan oedd ar ei wely angau. Bwriada Erwyd lanhaur ffynnon ac edrychwn ymlan at gael clywed mwy or hanes ganddo yn y dyfodol. Yn naturiol roedd gwybod am leoliad ffynhonnau yn holl bwysig ir bugeiliaid ers talwm fel heddiw. Gwelodd Erwyd gyfeiriad at yr arferiad oedd gan fugeiliaid o daflu blodau i ddŵr ffynhonnau yn The Graphic and Historical Illustrator am y flwyddyn 1834. Yno dywedir am yr arferiad o fynd ar bererindodau i ffynhonnau ac am adeiladu capeli drostynt.

FFYNHONNAU TRISANT, PONTARFYNACH, Ceredigion (SN744744)

(Diolch i John Williams,Bwlchbach, Aberystwyth, am anfon y wybodaeth ganlynol i ni am y ffynhonnau uchod. Maer wybodaeth yn dod or Welsh Gazzette, Chwefror y cyntaf, 1923. )

Maer ffynhonnau iw gweld gyferbyn Dolcoion ond yr ochr arall ir afon Cell yn agos i lan y dŵr. Ychydig yn is nar ffynhonnau maer nant o Dolgors yn llifo ir afon Cell. Tan ryw ganrif yn l roedd bri mawr ar y ffynhonnau oherwydd eu galluoedd meddyginiaethol. Deuai cleifion gorweddiog yma o bell ac agos. Byddair hen bobl yn cofio gweld ffyn baglau yn Nolcoion a adawyd yno gan bobl a iachawyd yn y ffynhonnau. Tua deugain mlynedd yn l bwriadodd y Parchedig J. Williams, ficer Tal-y-llyn, un a fagwyd yn Nolcoion, a Mr William Evans, New Row, marchnatwr lleol llwyddiannus, fanteisio ar y ffynhonnau au datblygu drwy godi adeilad i bwmpior dŵr . Yn ogystal roedd ganddynt gynlluniau i adeiladu gwesty gyda gerddi hardd oi gwmpas a hysbysebur lle fel man delfrydol i gael gwellhad ac esmwythd. Ond yn anffodus ni ddaeth dim or cynlluniau. Nid ywr dŵr yn y ffynhonnau yn wahanol mewn lliw a blas i ddŵr ffynhonnau eraill. Maen bosib bod eu rhinwedd yn deillio ou cysylltiad gydar tri sant. Pwy oeddynt nid oes neb heddiw a ŵyr ond gallwn fod yn sicr mair un rhai ydynt ar tri y cysegrwyd eglwys Llantrisant iddynt. Roedd y ffynhonnau ger yr hen ffordd o Ysbyty Cynfyn, heibio Llaneithyr a Bodcoll a Nantarthur i Ysbyty Ystwyth ac Ystrad Meurig.

Maer ffynhonnau yn saith mewn nifer. Mae tair ohonynt yn llifo allan o dan dorlan uchel o bridd rhyw lathen neu ddwy or afon. Maer tair ffynnon gref yma ond rhyw droedfedd oddi wrth ei gilydd. Ers talwm roedd tair peipen wedi eu gosod i greu tri phistyll hwylus. Maer pedair ffynnon arall yn tarddu ar dir gwastad ychydig yn uwch i fynyr afon. Roedd pob ffynnon yn gwella afiechyd neu gyflwr gwahanol. Ffynnon y Llygaid oedd un a Ffynnon y Crydcymalau oedd y llall. Roedd un yn gwellar scyrfi. Yr enw ar un arall oedd Ffynnon y Wrach. Am flynyddoedd bellach maer ffynhonnau hyn wedi eu hanghofio ai hesgeuluso ac wedi llanw a thyfiant lle mae lliw gwyrdd tywyll y planhigion yn dangos safle a maint y ffynhonnau. Ar adegau mae rhai cleifion yn dal i ddod atynt i geisio gwellhad i anhwylderaur croen ar cryd cymalau.

Meddai John,Yn ychwanegol at hyn cofiaf fod yn agos iddynt yn blentyn yng nghwmni hynafgwyr oedd yn cyfeirio atynt - y saith-, ond ni wnes erioed ofyn ir un ohonynt ddangos y ffynhonnau unigol i mi ond yr wyf yn meddwl fy mod wedi eu chwilio erbyn hyn.

FFYNNON LLEUDDAD, Tudweiliog, Gwynedd (SH21973272)

Maer Parchedig Graham Murphy o Lerpwl yn un syn diddorin fawr yn ffynhonnau Cymru. Yn ddiweddar ceisiodd ymweld Ffynnon Lleuddad ger Tudweiliog ond cafodd fod y llwybr cyhoeddus ati wedi ei gau. Ysgrifennodd at Dewi Wyn Owen, Prif Swyddog Hawliau Mynediad Cyhoeddus Dwyfor ond cafodd ar ddeall fod y llwybr arbennig yma yn un nad oedd yn hawlio sylw yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Awgrymodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i Bleddyn Prys Jones mai hon fyddair ffynnon nesaf y dylid ei hadnewyddu ac y gallai hyn arwain at ail agor y llwybr.

FFYNNON AELRHIW, RHIW(SH23392848)

Derbyniwyd cais am gymorth gan Bleddyn Prys Jones, Swyddog a gofal am Ardal o Brydferthwch Eithriadol Penrhyn Llŷn, Cyngor Gwynedd, parthed Ffynnon Aelrhiw, Rhiw. Gwnaed gwaith adnewyddu ar y ffynnon ychydig flynyddoedd yn l. Maer tirfeddiannwyr yn barod i adael ir cyhoedd gael mynediadir ffynnon ond bod un cwmni yswiriant cyhoeddus yn bryderus ynglŷn hyn ac yn gofyn am gael rhoi grille metel dros y dŵr. Yn naturiol ni fyddai hyn yn dderbynniol oherydd fod y ffynnon yn gofrestredig. Awgrymwyd hefyd y dylid rhoi arwydd ger y ffynnon ond heb ddweud beth yn union oedd natur na lleoliad yr arwydd hwnnw. Awgrymwyd i Bleddyn y dylid gosod giat bren, tebyg ir un sy ar Ffynnon Fyw, Mynytho(SH2330913087) wrth fynediad Ffynnon Aelrhiw. Nid yw hon yn ffynnon arbennig o ddofn, rhyw droedfedd o ddŵr sy ynddi. Yn sicr gellid gosod arwydd yn rhybuddior cyhoedd mai eu cyfrifoldeb nhw yw eu diogelwcg tran ymweld r ffynnon. Edrychwn ymlaen at weld bedd fydd yn digwydd yn y dyfodol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIFRODI FFYNHONNAU SANCTAIDD WHITEWELLS, Sir Wrecsam

gan Howard Huws (Cadeirydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru)

Dymunaf roi gwybod i holl aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru bod ffynhonnau Whitewell yn Sir Wrecsam wedi eu difrodin fwriadol. Mae dwy ffynnon yng nghyfeirnod grid SJ 49506 41376 (ar lan yr afon gerllawr eglwys) ar llall yn SJ 49482 41337 (mewn cae gyferbyn r eglwys, yr ochr draw ir nant). Maer gyntaf wedii chladdu rhywbryd n y gorffennol gweddol ddiweddar, efallai gan y ffermwr syn dal y tir wrth iddo geisio codi lefel y cae. Maer ail wedii chladdu yn ystod y misoedd diwethaf gan ffarmwr gwahanol, oherwydd bod y ffynnon yn y ffordd wrth iddo geisio lladd gwair. Credaf na allwn fforddio collir henebion hyn, syn dyddio o gyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Credaf hefyd eu bod yn henebion rhestredig, nad rhyddid neb eu difrodi yn l eu dymuniad, a dymunaf ir Ymddiriedolaeth ymyrryd er mwyn eu hadfer. Gallaf ddarparu lluniau o leiaf un ffynnon os oes angen. Rwyf wedi cysylltu CADW ar y mater yma.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON ELAN, DOLWYDDELAN (SH737525)

Mae Bill Jones wedi llwyddo i gael grant i dorri i lawr y goeden syn tyfu ger y ffynnon. Mae hyn yn rhan o gynllun Menter Siabod i ddenu twristiaeth ir fro. Da yw dweud bod perchennog y gwesty Elens Castle yn cefnogir fenter i adfer y ffynnon sydd ar dir y gwesty. Mae Bill wedi gweithion galed iawn i gael yr arian a bydd mwy o waith yn ei aros ar criw o gloddwyr brwd fydd yn ei helpu gydar gwaith archeolegol o glirio ac ailadeiladur ffynnon. Edrychwn ymlaen at gael yr hanes i gyd yn rhifyn nesaf Llygad y Ffynnon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NEWYDDION DA O LAWENYDD MAWR!

Derbyniwyd y neges e-bost isod gan Duncan Brown, Rheolwr Prosiect Lln Natur ar ran Cymdeithas Edward Llwyd:

Efallai eich bod wedi clywed am Lln Natur an hymdrechion i gofnodi ac i ddarparu pob math o wybodaeth i Gymry Cymraeg (yn bennaf) am gefn gwlad Cymru a thu hwnt. Wel mae un neu ddau on cyfranwyr wedi dechrau mewnbynnu lluniau o ffynhonnau yn ein horiel luniau <http://llennatur.com/cy/node/2> ( term-chwiliad FFYNNON yn y blwch yn l allweddair) a de innau wedyn wedi eu copo ir adran MAPIAU (>>creigiau*) lle ceir Cyfeirnod Grid er mwyn eu gweld ar ffurf map http://llennatur.com/node/90 (term chwiliad FFYNNON eto). Gellir chwyddor map yn hawdd a dewis satellite i gael lleoliad pob ffynnon ar Google Earth. Gellir hefyd ticior rhifyn bach glas (ar l clicior symbol coch i ddynodi un ffynnon) i weld Llun or ffynnon. Does dim llawer o ffynhonnau yno ar hyn o bryd (tua 5!!) ond maer potensial yn amlwg dwin meddwl (ni welaf ddim byd tebyg ar eich gwefan chai ond efallai fy mod in camsynied). Oes lle tybed i ni gydweithredu trwy ddolenni ddwy ffordd efallai er mwyn ychwanegu gwerth at ein gwahanol ymdrechion? Mi fasen biti gweithredu ar wahn trwy anwybodaeth on gilydd. Dwin ymwybodol nad ydir adran CREIGIAU (sef daeareg) yn ddelfrydol fel lleoliad i gofnodi ffynhonnau ond dynar man mwyaf addas ar ein gwefan ar hyn o bryd. Gwerthfawrogwn unrhyw ymateb neu sylw oddi wrthych.

Dymar ateb ir e-bost:

Rydym yn hapus i gydweithio gyda phawb syn dangos diddordeb yn y ffynhonnau. Byddwn yn gosod cyfeirnod map pob ffynnon yn ymyl enwr ffynnon yn ein cylchlythyr Llygad y Ffynnon. Rydym wedi cychwyn ein cymdeithas ers 1996 cyn bod Google Earth yn bodoli maen siŵr. Maer hyn rydych yn ei ddisgrifio yn wych! Rhaid nodi bod cannoedd o ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru felly gallair nifer o luniau fod yn fawr. Hefyd mae ffynhonnau yn diflannu oherwydd esgeulustod neu ddifrod bwriadol, ac ambell dro nid yw llun yn gallu dangos beth sy yna mewn gwirionedd. Mae croeso i chi ddefnyddior lluniau ar ein gwefan ni - ond cofnodi mai oddi yno y cafwyd y llun- er mwyn i bobl wybod am fodolaeth ein cymdeithas. Mae rhannu gwybodaeth bob amser yn beth da.

Edrychwn ymlaen at weld datblygiadau diddorol yn y maes hwn yn y dyfodol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ADRODDIAD Y TRYSORYDD AWST 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DYDDIADAU IW COFIO

Cyfarfod y Cyngor yn festri Capel y Porth, Porthmadog, am 2.00 or gloch prynhawn Sadwrn Mawrth 24ain Darlith flynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg dydd Mawrth, Awst 7fed am 1.00 0r gloch.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint

GOLYGYDD: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1TH

Ffn: 01352 754458 e-bost: gruffyddargel@talktalk.net

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GWEFAN Y GYMDEITHAS: www.ffynhonnaucymru.org.uk

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up