Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                                                                              Rhif 30 Haf 2011

 

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

gan Howard Huws

DŴR YN BYRLYMU YN FFYNNON GWENFREWI, TREFFYNNON

Lluniodd yr Arglwydd Gymru’n wlad fryniog â’i hwyneb tuag awelon Iwerydd, gan ei bendithio â glaw a dyfroedd croywon lawer. Cynysgaeddwyd hi hefyd ag etifeddiaeth Gristnogol helaeth, felly ni ddylid synnu fod ffynhonnau sanctaidd mor amlwg yn y dirwedd ddaearol ac ysbrydol. Hyd yn oed o gyfyngu diffiniad “sanctaidd” i’r rhai y gwyddom y perchid ac y defnyddiwyd hwy yn enw Duw, Ei Fam a’i saint, mae yma sawl can ffynnon o’r fath, gydag ymchwil dyfal yn dwyn rhagor fyth i’r amlwg.1 Er eu dirmygu gynt yn wrthrychau ofergoeliaeth, maent bellach yn destunau diddordeb cynyddol. Rhaid wrth ddŵr croyw, ond y mae’n drwm ac yn anodd ei gludo. O’r herwydd, rhaid byw o fewn cyrraedd cyfleus i ffynhonnell ddigonol a dibynadwy, nad oes iddi flas neu aroglau annymunol, na thuedd i achosi salwch.

 Pa bryd y datblygodd y ddibyniaeth hon yn barchu neu’n addoli? Wyddom ni ddim. Diau y byddai presenoldeb dŵr yn ardaloedd cwbl sych, neu nodweddion anesboniadwy megis llif ysbeidiol; gwres; iachau anhwylderau; neu bresenoldeb hylifau tebyg i waed, olew neu lefrith, wedi peri i’n cyndeidiau ni ddwysystyried: ond mewn gwirionedd, bach iawn a wyddwn heddiw am goelion ein hynafiaid cyn-Gristnogol. 2, 3 Awgryma tystiolaeth archeolegol, fodd bynnag, y bu dirywiad hinsawdd tua chanol Oes y Pres, oddeutu 1,100 - 1,000 CC. Cyd-ddigwyddodd hynny â thuedd gynyddol pobl y cyfnod i adael gwrthrychau gwerthfawr mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd.4 Â grymoedd glaw a dŵr yn amlwg yn drech na’r eiddo’r haul a’r sêr, efallai y rhoddwyd y gorau i hen rwydwaith cysegrol y cylchoedd cerrig a’r cloddiau hirion, ac y tueddid, yn hytrach, i offrymu i dduwiau neu ysbrydion mannau gwlybion. Eithr yr un mor debygol yw y gosodid trysorau ym mannau neilltuol er mwyn cadarnhau ffiniau tiriogaethol, wrth i’r glawogydd foddi a chyfyngu’r tir amaeth da, a gwrthdaro a thrais fynd ar gynnydd oherwydd y prinder canlyniadol.

Yr oedd yr awydd taflu gwrthrychau i ddŵr yn gymaint ag i beri adeiladu llwyfannau pren hyd lannau llynnoedd ac afonydd yn unswydd er mwyn hwyluso’r arfer: ac o gofio’r posibilrwydd y bu ymladd mawr am dir ac adnoddau, y mae’n arwyddocaol mai arfau rhyfel, cleddyfau, bwyeill a phicellau, yw corff mawr yr hyn a daflwyd. Nid unrhyw hen sgrap, ychwaith, ond rhai mewn cyflwr da, ie newydd sbon, a hwythau wedi’u torri, eu plygu neu’u difetha rhywsut arall o flaen llaw.5 Pam hynny? Er mwyn eu cysegru, o bosibl: ac efallai er mwyn peri nad oedd cymaint o efydd ar gael ag i leihau ei werth. Byddai cadw pris efydd yn uchel hefyd yn cadarnhau neu’n dyrchafu statws cymdeithasol y rhai a allent fforddio cael gwared arno â rhwysg mawr: sef dosbarth o ryfelwyr grymus, debyg. Ni pheidiasom â rhoi bri mawr ar wastraff adnoddau, gwaetha’r modd.6

Parhawyd â hyn gydol Oes yr Haearn: ’does ond angen crybwyll celc nodedig Llyn Cerrig Bach7. Yr oedd y Rhufeiniaid hwythau wedi arfer cyflwyno offrymau i ffynhonnau ymhell cyn cyrraedd Ynys Prydain, ond ni chanfuwyd ond rhyw dri neu bedwar o safleoedd a dystiant iddynt gynnal yr arfer yma. Nid oeddent yn boddi pobl mewn corsydd yn null y Brythoniaid, nac yn taflu ymaith arfau gwerthfawr: ond offrymid darnau arian a gemwaith i nymffau’r dyfroedd, a chyflwynwyd ceisiadau a melltithion ysgrifenedig.8 Ac os am ddyrchafiad statws, yr oedd codi cysegrfa neu deml garreg yn amlwg yn fwy parhaol a thrawiadol nag unrhyw gymanfa luchio frodorol, wastraffus.

Ni wyddwn sut yn union yr ymagweddid at ffynhonnau offrymu o’r fath, na pha mor fywiog na pharhaus oedd unrhyw gwltau cysylltiedig â hwy, cyn i’r Cristnogion cyntaf gyrraedd yma tua diwedd yr Ail Ganrif OC (debyg). Honnwyd ers canrif a rhagor, serch hynny, nad yw’r holl ffynhonnau sanctaidd Cristnogol ond yn rhai paganaidd wedi’u hailenwi, ac nad yw’r saint eu hunain ond yn hen dduwiau paganaidd tan gochl crefydd newydd.9 Breuddwyd gwrach, ffrwyth dadrithiad â’r gymdeithas drefol Orllewinol gyfoes, yw’r fath honiadau, a go ansad yw'r dystiolaeth o'u plaid.

A bwrw heibio lol ynghylch “leylinellau” ac “ynni’r ddaear”, mae modd herio’r dadleuon mwy credadwy ynghylch goroesiad paganiaeth yng nghyswllt dyfroedd sanctaidd. Gellid dal fod chwedl taflu Caledfwlch i lyn yn “atgof” am arferion crefyddol: ond yr un mor debygol yw ei bod yn ymateb i ganfod arfau gwychion mewn dyfroedd, ganrifoedd lawer wedi’r anghofiwyd paham y rhoddwyd hwy yno. Y mae’r pinnau plygedig a fwriwyd yn eu cannoedd i rai ffynhonnau yn gyffelyb i’r hen gleddyfau hynny, yn wrthrychau metel, miniog, hir a ddifethwyd yn fwriadol: ond prin iawn oedd pinnau yma cyn y Chwyldro Diwydiannol, ac nid oes tystiolaeth y taflwyd hwy cyn y cyfnod hwnnw.

Ceir hefyd gelciau o gerrig gwynion, tebyg i’r rhai yn safleoedd cyn-Gristnogol, yn ffynhonnau sanctaidd Cymru. Maent yn drawiadol eu lliw, a chasglwyd a defnyddiwyd hwy at ddibenion addurniadol er pan drigem mewn ogofâu: ond eto, nid oes tystiolaeth y taflwyd hwy i ffynhonnau cyn y Canol Oesoedd, ac efallai’r unig reswm am hynny oedd y teimlid fod yr olwg arnynt yn ddymunol.10 Parhawn hyd heddiw i’w smentio ar gribau magwyrydd ac ar gilbyst giatiau, a’u taenu ar feddau, am yr union reswm hwnnw: nid am unrhyw reswm arall.11

Hyd yn oed pe bai’r pinnau a’r cerrig hyn yn weddillion hen draddodiadau paganaidd, nid yw parhad arfer yn golygu parhad cred. Gosodwch bwll dŵr yn unrhyw le cyhoeddus, ac ymhen pum munud bydd pobl yn dechrau taflu arian mân iddo: ond ni honnai neb fod hynny’n dystiolaeth eu bod yn addoli duw’r dyfroedd.12 Nid yw’r un o ffynhonnau sanctaidd Cymru’n tystio fod addoli wedi pontio’r agendor rhwng paganiaeth a Christnogaeth, ac ni chanfu archeolegwyr yr un dim i’r perwyl hwnnw.13 Nid na delw, nac arysgrif, nac offrymau, nac unrhyw dystiolaeth gadarn ynghylch cysylltiad “cwlt y pen” honedig â ffynhonnau.14 Gallai hyd yn oed taflu arian i ddŵr fod yn gymharol ddiweddar yma, yn arfer a ymledodd yma yn ystod y Canol Oesoedd.15 Hwyrach nad yw ond yn ffurf ar yr offrymau ariannol a gyflwynid i gysegrfeydd Cristnogol, gan gynnwys ffynhonnau, cyn i Brotestaniaeth ymsefydlu yma.16

 

FFYNNON SEIRIOL, PENMON EFO ARIAN YNDDI.

Ar wahân i’r hyn y credai neu ni chredai paganiaid, yr oedd gan y Cristnogion cynnar eu daliadau cryfion eu hunain ynghylch arwyddocâd ysbrydol dyfroedd a ffynhonnau, ymhell cyn iddynt sangu daear Ynys Prydain. Mae’r Ysgrythur, o Genesis i’r Datguddiad, yn byrlymu o ddyfroedd croywon, dyfroedd bywiol, a dyfroedd iachusol. Maent yn addurno Paradwys, yn cynrychioli grym a Gras a Gair Duw, yn rhagfynegi Crist, yn arwyddion iechydwriaeth, ac yn anhepgor ar gyfer bedyddio. Pa un ai y barnai’r saint a’r cenhadon Cristnogol a gyraeddasant yma fod paganiaeth frodorol un ai'n waith y Diafol ynteu’n ddatguddiad rhannol, nid oedd arnynt angen unrhyw gwlt blaenorol i gyfiawnhau bendithio tarddellau, a'u gweld yn gyfryngau Gras er lles ysbrydol a chorfforol.

Yn wir, buasai’r Cristnogion cynnar hynny a ddaethant yma o’r Dwyrain, neu tan ddylanwad mudiadau Dwyreiniol megis mynachaeth, eisoes yn gyfarwydd â ffynhonnau sanctaidd fel yr un yng nghysegrfa fawr Abw Mena yn yr Aifft.17 Pe canfuasent nad oedd unrhyw ffynhonnau sanctaidd yma, buasent wedi gorfod cysegru nifer helaeth at eu defnydd hwy’u hunain:18 ac wrth wneud hynny, buasent wedi dwyn i gof cynseiliau ysgrythurol. Fel y cerddodd Plant Israel yn droetsych trwy’r Môr Coch, felly y mae Tafwys yn ymrannu o flaen Alban Ferthyr.19 Fel y trawodd Moses ddŵr o’r graig, felly y ffrydia dŵr i’r amlwg pan drywano Cadog o Lancarfan y ddaear â’i fagl.2

Mae rhagor i hyn na thrawsleoli straeon o’r Dwyrain Canol i Ynys Prydain. Wrth fynd trwy’r dyfroedd, bedyddir y mil Brythoniaid sy’n canlyn Alban i fywyd newydd, a dyna Gristioneiddio’r genedl. Y mae bod ei dyfroedd yn awr yn ufuddhau i weision Duw yn arwydd fod y wlad ei hun yn amlwg yn eiddo Ef. Bellach, y mae’n wlad Gristnogol ac yn gartref pobl Gristnogol: a’u hymateb hwy i darddellau dŵr poeth, ffynhonnau iachusol a’r cyfryw wyrthiau yw rhyfeddu at ddoethineb, grym a thrugaredd Duw sy’n peri’r fath fendithion.

 Y mae’r ymdeimlad hwn o ryfeddod ac o ddiolchgarwch yn ddwfn ynom, ac ni’n gadawodd. Fe’i mynegir trwy weddi a deisyfiad, trwy ddefod a phererindod, ar gân ac ar lafar, ac yng nghysegru cyfoeth, amser a gwaith er gogoniant Duw a budd ein cyd-ddyn. Hyd yn oed pan fo’r dyfroedd yn mynegi grymoedd tywyll byd cwympedig, yn genllifau aruthrol ac yn llifogydd difäol, mae gweddi neu orchymyn sant yn eu dofi ar unwaith: adnebydd yr elfennau eu Creawdwr, ac ufuddhânt iddo Ef a’i weision.

Gellid ystyried ffynhonnau Cymru’n “sanctaidd” yn gymaint ag y cysegrwyd hwy i Dduw yn enw sant neu er cof amdano, neu Ŵyl neilltuol, neu’r hyn arall a ardystia i’r Ffydd (y Groes Sanctaidd, e.e.). Fel arfer, mae enw’r ffynnon yn amlygu’r sancteiddrwydd hwn, neu gysylltiad agos â chysegrle Cristnogol gerllaw. Mae mwyafrif ein ffynhonnau’n dwyn enwau saint Cymru, a chymharol ychydig yw’r rhai sy’n dwyn enw saint “allanol” megis Antwn, Siôr neu Bedr: ond hwyrach na ddylid priodoli’r holl gyfryw rai i awydd goresgynwyr Normanaidd neu Eingl-normanaidd i adael eu hôl ar y dirwedd ysbrydol.

Y cysegriad mwyaf niferus, fodd bynnag, yw i’r Forwyn Fair. Ceir ei ffynhonnau hi ledled y wlad, ac yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain a’r de-orllewin. Efallai’n wir y gallai hyn adlewyrchu cysegru neu ailgysegru tan ddylanwad Eingl-normanaidd, yn enwedig adeg y cynnydd mawr ym mhoblogrwydd Mam Duw yng ngorllewin Ewrop yn ystod y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ar ddeg. Ceir ei ffynhonnau, fodd bynnag, mewn ardaloedd tan reolaeth frodorol, fel yn achos yr enwocaf ohonynt, Pen-rhys yn y Rhondda. Mae Andrew Boorde, gan ysgrifennu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn crybwyll cariad mawr y Cymry at y Fair Wyryf.21

FFYNNON FAIR, PEN-RHYS

Delid fod rhai ffynhonnau’n dda anghyffredin at wella anhwylderau penodol. A chrybwyll rhai o Fôn yn unig, credid fod Ffynnon Faelog yn gwella’r crydcymalau; Ffynnon Wenfaen, y felan; Ffynnon Gybi (Caergybi), y crydcymalau, y llwg a chlefyd y brenin; a Ffynnon Badrig, y crydcymalau, golwg gwan, anhwylderau’r stumog, y gymalwst, pendduynnod a’r ddannodd.22 A barnu yn ôl amlder a dosbarthiad, ymddengys y bu rhai anhwylderau un ai’n neilltuol gyffredin neu rhwydd eu trin: y crydcymalau, llygaid dolurus a defaid, ag enw tri yn unig. Gan yr oedd triniaethau meddygol y gorffennol yn ddrud, yn aneffeithiol ac yn beryglus, buasai’r newid amgylchedd, yr ymarfer corfforol a chyd gyfeillach pererindota, neu o leiaf newid dŵr yfed, cystal ag unrhyw driniaeth arall oedd ar gael ar y pryd. Buasai ffydd yn ewyllys da Duw yn rhan ganolog o’r iachau, yn ogystal.

 Ceir ffynhonnau y credir fod eu dyfroedd yn llesol ar gyfer da byw, hefyd, gan gynnwys gwartheg, defaid a cheffylau. Mae Gras Duw ar gyfer y Cread cyfan, nid bodau dynol yn unig.23 Ystyrir eraill yn “lwcus” neu’n llesol: ond heb gysegriad Cristnogol penodol, nid ystyrir hwy’n “sanctaidd”, bellach. Hwyrach y’u cysegrwyd yn y gorffennol, ond bod y traddodiad ysbrydol wedi’i ddileu neu’i anghofio ym mwrlwm y Diwygiad Protestannaidd, a chanrifoedd maith yr anghymeradwyaeth a’r esgeuluso.24

FFYNNON NON, TYDDEWI

Ymwelid â ffynhonnau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond credid fod rhai’n neilltuol rinweddol ar wyliau, ddiwrnodau, neu adegau penodol o’r flwyddyn, neu ar adegau’r diwrnod. Digon oedd gweddïo ac yfed dŵr rhai, ond cyflawnid defodau wrth eraill. Rhai cyn symled â phigo dafad â phin, ei blygu, a’i daflu i’r dŵr: eraill yn gymhleth, ac yn cynnwys gweddïo, cerdded ogylch, offrymu arian, cysgu mewn man penodol, neu yfed o lestr arbennig.

Nid yw rhai ffynhonnau ond yn dyllau yn y ddaear, gydag efallai peth gwaith cerrig. Mae eraill yn llawer gwell eu sut, mewn cysegrfeydd neu gapeli amlwg. Yn gyffredinol, gellid disgwyl i’r rhai enwocaf, a ddenent bererinion offrymgar, fod yn wych tu hwnt ac wedi’u haddurno’n helaeth: ond rhaid cyfaddef fod llawer i un nad oes iddi na tho na magwyrydd, na dim ond waliau sychion a chrawen neu ddwy’n seddau, yn gweddu i’r dim i’w hamgylchedd naturiol. Er nad oedd ein teidiau’n ariannog, nid oeddent yn brin o awydd y crefftwr i wneud y gorau o’r deunyddiau lleol oedd ar gael iddynt.25

Efallai fod defodau iachau wedi peri i rai gredu y gallai ffynhonnau ragfynegi’r dyfodol. Yn Ffynnon Gybi, Eifionydd, er enghraifft, credid y dylai’r sawl a ddymunai adferiad iechyd sefyll yn goesnoeth yn y dŵr: ac os nofiai llysywen i’r amlwg, ac yr ymgordeddai am goesau’r claf, byddai adferiad iechyd yn canlyn. Yn ffynhonnau eraill, atebid ymholiadau gan ymddangosiad pysgod, neu symudiad briwsion neu blu a daenid ar wyneb y dŵr, gyda “gweledydd” neu “warcheidwad” yn dehongli’r arwyddion.26 Arferai cariadon gyrchu at Ffynnon Ddwynwen yn Llanddwyn, er enghraifft, er mwyn gwybod hynt y garwriaeth, gyda chyfeiriad symudiad hances a daenid ar y dyfroedd yn awgrymu llwyddiant neu aflwydd. Ceisid cymorth rhai ffynhonnau ar gyfer canfod lladron: a chyda dirywiad ysbrydolrwydd yn ofergoeliaeth, aethpwyd i dybio y gellid defnyddio ambell i ffynnon ar gyfer melltithio: arfer a barhaodd hyd y 1920au.27

 Prin yr adeiladwyd rhai o’r cysegrfeydd gwychaf nag y’u chwalwyd, oherwydd nid arbedodd y Diwygiad Protestannaidd ffynhonnau sanctaidd. Maluriwyd yr addurniadau, cymerwyd unrhyw beth y gellid ei werthu, a gwaharddwyd offrymu a phererindota.28 Anodd fu gorfodi hynny, fodd bynnag, yn enwedig lle'r oedd yr ynadon lleol yn glaear eu hawydd. Parhâi nifer fawr o bererinion i ymweld â Ffynnon Wyddfaen yn Sir Gaerfyrddin hyd o leiaf 1595, ac ym 1646 gofidiai John Lewis o Geredigion am y pererindota at ffynhonnau yno.29 Awgryma Rheolau Disgyblu’r Methodistiaid Calfinaidd ym 1801 fod ymweld â ffynhonnau’n digwydd yr adeg honno.30

FFYNNON WYDDFAEN, LLANDYFÂN

Amheuaf a ddinistriwyd llawer o’r ffynhonnau hyn. Sanctaidd ai peidio, yr oeddent yn ddefnyddiol ac yn gyfleus, os dim ond er mwyn cadw menyn rhag suro: ac ni allai na chyfraith gwlad na dirmyg swyddogion ddileu’r gred fod rhai ffynhonnau’n gysegredig, ac y gallant wella iechyd neu gyflwr y sawl sy’n yfed ohonynt neu ymolchi ynddynt â dyledus barch. Lle ni fynnai’r grymus ymwneud â ffynhonnau, neu yr ofnent ganlyniadau hynny, bu i’r tlodion, yma ac acw, gadw’r traddodiadau’n fyw hyd y dydd hwn.

Ers yr unfed ganrif ar bymtheg, collwyd rhagor o ffynhonnau trwy esgeulustod a diystyrwch nag a ddilëwyd gan ddelwddryllwyr. O golli eu harwyddocâd ysbrydol, gadawyd iddynt lenwi â llaid, sychwyd neu llanwyd hwy am ryw reswm neu’i gilydd, dinistriwyd hwy yn enw rhyw welliant honedig, neu fe'u hanghofiwyd hwy. Peidiodd Ffynnon Chad yn Hanmer â llifo wedi gwaith draenio lleol; mae Ffynnon Ddeiniol ym Mangor o dan domen rwbel; adeiladwyd pont am ben Ffynnon Gybi yng Nghlorach, ac nid yw Ffynnon Redifael ym Mhenmynydd ond yn bant budr. Mae’r rhestr yn rhy faith o lawer, ac yn sicr bu i ddylanwad Calfiniaeth greu awyrgylch lle gellid goddef, onid cyfiawnhau’r fath halogi: ond hyd yn oed wedi cilio o’r athrawiaeth honno, mae anwybodaeth a difaterwch yn parhau i fygwth gweddillion ein hetifeddiaeth sanctaidd. Rhaid bod ar wyliadwriaeth barhaus rhag y cynllun lledu ffordd nesaf, neu’r newydd-ddyfodiad a benderfyno mai da fyddai claddu’r hen darddell yn ei ardd â choncrit, er mwyn hwyluso parcio’i gar.

Diolch i Dduw, nid du mo’r darlun cyfan. Bu i dwf hynafiaethgarwch yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg hybu ymwybyddiaeth o bresenoldeb ac arwyddocâd ffynhonnau sanctaidd, os nad ond o safbwynt hanesyddol. Cyd-ddigwyddodd hyn â chynnydd diddordeb mewn sagrafeniaeth a’r etifeddiaeth ysbrydol gyffredinol, a’r ffaith nad ystyrid Catholigiaeth Rufeinig yn fygythiad gwleidyddol, rhagor. Yn yr ugeinfed ganrif adnewyddwyd diddordeb mewn ffynhonnau sanctaidd a’u hailddefnyddio at ddibenion crefyddol: ac o ganlyniad, cofnodwyd eu safleoedd yn ofalus, ac ymdrechwyd (gyda chryn lwyddiant, weithiau) i’w cadw rhag difancoll, eu hamddiffyn a’u hadfer at eu diben gwreiddiol. Mae’n waith anodd, ond y mae unigolion ysbrydoledig, grwpiau cymunedol, llywodraeth leol a chymdeithasau megis Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi cyflawni llawer. Gwelwyd hefyd fod ffynnon, o’i hadfer, unwaith eto’n denu’r rhai sydd arnynt angen cysur, gobaith, ac adnewyddiad ysbrydol.

Un achos amlwg o’r fath yw adnewyddiad Ffynnon Drillo yn Llandrillo-yn-rhos. Saif y capel bychan sy’n cynnwys y ffynnon ar y traeth yno, ac fel arfer mae ar agor i’r cyhoedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, aeth yn arfer gosod ceisiadau a gweddïau ysgrifenedig ar yr allor, gan ymbil am gymorth neu faddeuant.31 Nid ŵyr neb paham yw hyn, nac a ddechreuodd yr arfer ohono’i hun yno ynteu a ddaeth o rywle arall: ond dengys fod yr Ysbryd eto’n ymsymud ar wyneb y dyfroedd, gan ein synnu a’n hysbrydoli â rhywbeth y tu hwnt i fyfyrion deallusol, crinion ynghylch y pwnc hwn.

Ydynt, y mae ffynhonnau sanctaidd unwaith eto’n amlwg yn nhirwedd ysbrydol Cymru, a thrwy amlygiad grym Duw ynddynt, boed iddynt unwaith eto ddisychedu, iacháu ac addurno’r wlad hon, a chyfrannu at ei hailadeiladu’n wlad Gristnogol pobl Gristnogol.

1. Mae gwaith arloesol Francis Jones, “The Holy Wells of Wales” (Cardiff: University of Wales Press, 1954) yn rhestru mil a rhagor: ond llac oedd ei ddiffiniad ef o’r “sanctaidd”, a’r tebyg yw y bu iddo ddefnyddio adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol yn hytrach na chyflawni llawer o waith maes.

2. Bord, J. a C. Sacred Waters, t. 83. Granada, London 1985.

3. Mae gweithiau megis Pagan Celtic Britain Anne Ross yn haeru llawer, ond mae lle i amau eu seiliau ffeithiol.

4. Pearson, M. P. Bronze Age Britain. B. T. Batsford Ltd / English Heritage, London 1993.

5. Nid i ffynhonnau, serch hynny. Gw. Lovegrove, C., “Wishing Wells and Votive Offerings”,

yn http://people.bath.ac.uk/liskmj/living-spring/sourcearchive/fs8/fs8cl1.htm.

A dyfynnu: 

“...wells seem not to have attracted the ostentatious wealth that lakes and rivers have.It may be that wells, as the beginnings of rivers, need only to receive tokens, such as coins, whereas the treasures found in larger bodies of water represent the fulfilment of vows in thanksgiving for wishes coming true...”.

Hwyrach nad oedd modd cynnwys offrwm digon sylweddol yng ngofod cyfyng ffynhonnau, neu ni ddymunid llygru dyfroedd yfadwy waeth pa mor anrhydeddus y cymhelliad: neu, waeth a gredid ynghylch afonydd, na thybid fod ffynhonnau eu hunain yn “sanctaidd”.

6. Dadlennol yn hwn o beth yw The Theory of the Leisure Class Thorstein Veblen.

7. Fox, Cyril. A Find of the Early Iron Age from Llyn Cerrig Bach, Anglesey. Cardiff: National Museum of Wales, 1946.

Green, Dr Miranda. The Religious Symbolism of Llyn Cerrig Bach and Other Early Sacred Water Sites. Source, Cyfres Newydd 1, Hydref 1993.

8. Yng Nghaerfaddon (Aquae Sulis), er enghraifft. Prin iawn yw’r fath safleoedd yn Ynys Prydain,

serch hynny.

9. Cyhoeddwyd fod y Santes Ffraid o Cil Dara, a’r Santes Non, er enghraifft, yn “dduwiesau paganaidd”. Hynny yn wyneb nid yn unig diffyg tystiolaeth i’r perwyl hwnnw, ond tystiolaeth bendant i’r gwrthwyneb.

10. Os oes ar rywun awydd taflu pethau i ffynhonnau, digon cyfyngedig yw’r dewis, yn y pen draw: ac anaml y mae’r hyn a deflir yn amlygu cymhellion y taflwr. Arferid bwrw cerrig gwynion hyd y ddeunawfed ganrif, os nad wedyn. Yn Ffynnon Degla, ymddengys y newidiwyd o daflu cerrig i daflu darnau arian ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (gw. nodyn 14).

11. Gwelais harddu gerddi a chilbyst giatiau â thalpiau chweochrog o golofnau basalt du yn Antrim, a defnyddio tywodfaen brith i’r un perwyl ym Mhenrhyn Gŵyr, oherwydd dyna sydd ar gael yno at ddiben addurno.

 12. Teflir hwy i bwll pengwyniaid Sŵ Bryste, hyd yn oed. Diddorol fydd adroddiad archwiliad archeolegol i’r safle yn y dyfodol pell: “Pengwyn-addoliaeth yn Lloegr yr Unfed Ganrif ar Hugain: Ymateb i Gynhesu Byd-eang?”.

13. Ychydig ffynhonnau sanctaidd Cymru a archwiliwyd gan archeolegwyr, hyd yn hyn. O’r rhai hynny (Ffynnon Degla yn Llandegla; Ffynnon Seiriol ym Mhenmon, a Ffynnon Feuno yn Aberffraw), ni chanfuwyd dim ond haen o gerrig cwarts a chalsit gwynion yn Llandegla.

14. Cynhwyswyd penglog ddynol yn fwriadol yn leinin ffynnon Rufeinig yn Odell, Swydd Rydychen, a chyrff pedwar baban, dau ohonynt heb bennau, yn adeiladwaith cysegrfa ffynnon Frythonaidd-rufeinig yn Springhead, Caint. Gw. Rattue, James: Holy Wells and Headless Saints, yn http://people.bath.ac.uk/liskmj/living-spring/sourcearchive/ns5/ns5jr1.htm.

Rhan anhepgor o’r ddefod iacháu yn Ffynnon Deilo, Llandeilo Llwydiarth, oedd yfed dŵr y ffynnon o benglog ddynol, sef yr eiddo Teilo Sant, yn ôl y gred. Gweler, fodd bynnag, erthygl T. G. Hulse, “St Teilo and the Head Cult”, yn Source, Cyfres Newydd 2, Gaeaf 1994. Gan wfftio’r “cwlt y pen” paganaidd honedig a gysylltir â ffynhonnau, trafoda Hulse adroddiad llygad-dyst cwbl Gristnogol, o Gymru’r Canol Oesoedd, ynghylch iacháu trwy yfed dŵr a gynhwysai bridd o’r union un benglog. Wedi cryn deithio (gan gynnwys cyfnod yn Awstralia), mae’r benglog, bellach, ymhlith creiriau Eglwys Gadeiriol Llandaf. Ni chyfyngid yr arfer hon i benglogau’r saint: gweler gwaith Francis Jones uchod am gyfeiriad at geisio gwella’r pâs yn Nolgellau trwy yfed o benglog uchelwr canoloesol.

15. Am enghraifft arall o symudedd defodau, ystyried Ffynnon Drillo uchod, a nodyn 30 isod.

Mae cywydd o’r bymthegfed ganrif gan Hywel Rheinallt yn crybwyll offrymu darn arian plygedig wrth fedd Cawrdaf Sant yn Aber-erch: ond fel y dywedwyd eisoes, gallai offrymu arian mewn ffynhonnau fod yn arfer cymharol ddiweddar.

16. Fel yn Ffynnon Beris, Llanberis; Ffynnon Eilian, Llaneilian, ac ati.

17. Tystiolaeth y gwybu Cristnogion cynnar Ynys Prydain am Abw Mena fu canfod ampwla (costrelyn bychan llawn dŵr neu olew sanctaidd) nodweddiadol o’r man hwnnw, yn dyddio o’r 6ed neu’r 7fed ganrif, ym Meols yng Nghilgwri..

18. Yn “Description of the Western Isles of Scotland” Martin Martin (tua 1695) ceir disgrifiad o ddefod cysegru ffynnon o’r newydd ar ynys Eigg yn yr Alban.

19. Gw. Gildas, De Excidio (Dinistr Prydain). I ddweud y gwir, Ver, nid Tafwys, yw’r afon a lifa trwy St Albans: ond y mae’r olaf gerllaw, ac yn llawer pwysicach, felly yn y cyd-destun hwn y mae’n amlwg y bwriada Gildas iddi symboleiddio Prydain gyfan. Ni allai’r un afon arall ymgorffori’r wlad i’r un graddau, ac efallai y bu gan Gildas gynsail Clasurol (Scamander yn chwedl Caerdroea, yn benodol) mewn cof wrth iddo ysgrifennu’r hanesyn hwn.

20. Jones, Francis, op. cit

21. Boorde, Andrew. The Fyrst Boke of the Introduction of Knowledge, 1547

22. Gruffydd, Eirlys a Ken Lloyd. Ffynhonnau Cymru, Cyfrol 2. Llanrwst: Llyfrau Llafar Gwlad, 1999.

23. Jones, Francis, op.cit. Bendithid ceffylau, a oeddent cyn bwysiced yn y gorffennol ag yw cerbydau petrol heddiw, â dŵr ffynnon yn Llansansiôr. Dyma’r unig hen eglwys yng Nghymru a gysegrwyd yn enw San Siôr, ac y mae defodau’r ffynnon yn tanlinellu cysylltiad y sant hwn â cheffylau. Cysylltiad sy’n deillio o eiconograffeg Dwyreiniol, ond odid.

24. Efallai fod Ffynnon Sara yn Nerwen, Sir Ddinbych, er enghraifft, yn gysylltiedig â Saeran, nawddsant Llanynys gerllaw. Gw. Baring-Gould, S., a Fisher, J. Lives of the British Saints,

Cyf. IV, t.130. Enw cywir Ffynnon Elan yn Nolwyddelan, Gwynedd, yw Ffynnon Wyddelan. Gw. Gruffydd, Eirlys a Ken Lloyd, op. cit. Mae Rattue, ar y llaw arall, yn rhybuddio rhag tuedd i gam-briodoli sancteiddrwydd i ffynhonnau nas ystyriwyd yn sanctaidd yn y gorffennol. Gwelerei lyfr “The Living Stream: Holy Wells in Historical Context”. Woodbridge: The Boydell Press, 1995.

25. A bo ein gwybodaeth ni’n helaethach na’r eiddo ein cyndadau ni, nid ydym ddim craffach.

26. Jones, Francis, op.cit. Nid oedd y “gweledydd” neu’r “gwarcheidwad” fel arfer ond tlotyn oedrannus a geisiai ychwanegu mymryn at ei enillion prin yn y modd hwn.

27. Gw. Gruffydd, Eirlys a Ken Lloyd, uchod. Y ffynnon fwyaf ddrwg-enwog o’r fath oedd Ffynnon Eilian yn Llaneilian yn Rhos. Cofnodir presenoldeb y ffynnon gan Edward Llwyd ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac ni chrybwyllir dim am felltithio: ond erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif ar bymtheg, os nad ynghynt, fe’i hofnid ledled gogledd Cymru oblegid y niwed y gallai ei achosi, fel y credid. Daeth hyn i ben pan lanwyd y ffynnon ac y carcharwyd y gwarcheidwad”, ond yn sgil hynny, ymddengys fod yr arfer wedi symud i Ffynnon Elian ym Môn. Cafwyd delw gŵyr yno ym 1925, a gellir ei gweld yn Amgueddfa Bangor, Gwynedd.

28. Yng Nghapel Meugan yn Sir Benfro ym 1592, er enghraifft, gorchmynnodd comisiynwyr y Goron:

“…where somtyme offringes & superstitious pilgrimages have been used, and there to cause to be pulled down and utterlie defaced all reliques and monuments of that chappell, not leaving one stone thereof upon an other, & from tyme to tyme to cause to be apprehended all such persone and persones of what sexe kinde or sorte whatsoever that shall presume herafter contrarie to the tenor and p’rporte of the said honorable commission, to repair either by night or daie to the said chappell or well in superstitious maner & to bring or send before us or enie of us…”

29. Yn achos Ffynnon Wyddfaen, ni ddarfu i’r ynad lleol na’u holi na’u carcharu, gan esbonio’n ddiweddarach eu bod yn “bobl afiach, tlawd” nad oeddent ond yn dymuno ymolchi yn y ffynnon yng ngobaith adferiad iechyd trwy gymorth Duw.

30. Gw. Ifor Williams, Meddai Syr Ifor, Caernarfon 1968.

31. Arfer a welais ar allor ar Ynys Bŷr, Sir Benfro, ac ar fedd esgob yn Cracow yng Ngwlad Pŵyl.

cffcffcffcffcffcffcff

CYFEIRNODAU MAP Y FFYNHONNAU Y CYFEIRIWYD ATYNT YN YR ERTHYGL UCHOD

Ffynnon Gwenfrewi, Treffynnon SJ 185763 Ffynnon Seiriol, Penmon SH 449842

Ffynnon Fair, Pen-rhys ST 4987 Ffynnon Faelog, Rhosneigr SH 3172

Ffynnon Wenfaen, Rhoscolyn SH 2675 Ffynnon Gybi, Caergybi SH 2482

Ffynnon Badrig, Cemaes SH 3793 Ffynnon Non. Tyddewi SO 7525

Ffynnon Gybi, Eifionydd SH 42744126 Ffynnon Ddwynwen, Llanddwyn SH 8380

Ffynnon Wyddfaen, Llandyfân SN 6417 Ffynnon Chad, Hamner SJ 4539

Ffynnon Ddeiniol, Bangor SH 5872 Ffynnon Gybi, Clorach, Môn SH4184

Ffynnon Redifael, Penmynydd SH 5074 Ffynnon Drillo, Llandrillo-yn-Rhos SH842813

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Joyce Wiles, Coventry

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

COLLI AELOD

Trist oedd clywed am farwolaeth Hafina Clwyd ar Fawrth 14. Roedd wedi bod yn aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru ers blynyddoedd ac yn gefnogol iawn i waith y gymdeithas.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

YMWELD Â FFYNNON WEN, RHOSTRYFAN (SH493572)

Ar Chwefror17eg eleni aeth aelodau o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru i ardal Rhostryfan ger Caernarfon i ymweld â Ffynnon Wen ar gais ei pherchennog Michael Rees-Thomas. Mae hon yn ffynnon gref iawn a’i dŵr yn addas ar gyfer pobl sy angen cymryd llai o sodiwm i’r corff gan nad oes unrhyw sodiwm ynddo. Mae hefyd yn ffynnon hynafol iawn. Yn ystod yr Oes Haearn roedd nifer o gymunedau gerllaw iddi yn ddibynnol ar ei dŵr. Mae olion anheddau o’r cyfnod i’w gweld ar diroedd Coed y Brain, Hafoty Tŷ Newydd a Chae’r Odyn. Mae enwau fel Cae Tor y Dŵr , Wern Olau, Llety -y-Lleidor, Dryll - Cleddau a Llain-y-Llwynog yn agos i Ffynnon Wen heddiw.

 

Erbyn hyn mae caead haearn pwrpasol dros y dŵr ac mae eu burdeb wedi cael ei brofi bob pythefnos ers pum mlynedd. Daw o ddyfnder y graig ac mae 16,500 o litrau o ddŵr bob awr yn dod i’r wyneb. Tymheredd cyson y dŵr yw naw gradd selsiws. Mae Michael yn gobeithio codi adeilad i boteli’r dŵr a’i werthu’n fasnachol yn y dyfodol. Gwyddom hefyd fod teulu meddygon Tryfan Fawr wedi gweld gwerth meddyginiaethol yn y dŵr ers amser Dr Robert Williams yn 1655.

 

KEN YN PROFI PURDEB FFYNNON WEN A MICHAEL YN GWYLIO

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PIGION O GYFARFOD Y CYNGOR – 19 Mawrth 2011

Cawsom gwmni ein Llywydd newydd, y Dr Robin Gwyndaf, yn y cyfarfod. Da oedd cael croesawi dau aelod newydd atom hefyd sef Miri Bill Jones a Dafydd Jones. Derbyniwyd ymateb sydyn, byr a chefnogol gan Archesgob Cymru, y Gwir Anrhydeddus Ddoctor Barry Morgan i’n cais am gymorth i ddiogelu ffynhonnau cysegredig sydd ar diroedd eglwysig. Cafwyd adroddiad byr gan Dennis Roberts yn dweud fod y gwaith o drosglwyddo ôl rhifynnau o Llygad y Ffynnon ar y we yn parhau.

Gan fod sawl cwyn wedi ei dderbyn ynglŷn â chynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyn y ddarlith, penderfynwyd fel arbrawf eleni i’w gynnwys ar ôl yr anerchiad. Mae rhif yr aelodau yn aros o gwmpas y cant – cant a naw i fod yn fanwl. Yn ein Cyfrif Cyfredol mae £292.82 a £1866.43 yn y cyfrif Cadw.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM A’R FRO

CYFARFOD O GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

PABELL Y CYMDEITHASAU 2

DYDD MERCHER 3 AWST 2011 AM 1.00 o’r gloch

darlith gan JANE BECKERMAN M.A. ar

FFYNNON ELIAN: FFYNNON FELLTITHIO - FFAITH NEU FFUGLEN

Bydd Cyfarfod Cyffredinol byr yn dilyn. Dewch yn lli.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

AR Y MAES...

Bydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn ymddangos lluniau o ffynhonnau a llenyddiaeth ym mhabell Fforwm Hanes Cymru ar y maes. Dewch i’n cefnogi.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

YMWELIAD ARBENNIG Â FFYNNON GWENFREWI YN NHREFFYNNON

Gyda’r nos, wedi’n cyfarfod yn yr Eisteddfod - sef Awst 3ydd, bydd Cymdeithas Carnhuanawc yn ymweld â Ffynnon Gwenfrewi am 7.00 o’r gloch. Mae croeso i aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ymuno yn yr ymweliad. Cost mynediad i’r ffynnon yw 60 ceiniog. Cyfeirnod map y ffynnon yw SJ 185 763 a’r côd post yw CH8 7LS.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PEDWAREDD GYNHADLEDD FLYNYDDOL FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Eleni cynhelir y gynhadledd yn Nhreffynnon ar y penwythnos Medi 17eg -18fed yn Nhŷ Gorffwys y Santes Gwenfrewi uwchlaw’r ffynnon. Diwrnod o ddarlithoedd fydd dydd Sadwrn a Saesneg fydd iaith y traddodi. Ceir cyflwyniad gan y Tad Salvatore, offeiriad y plwyf. Yn dilyn ceir darlith gan y Parch. Bill Pritchard ar ei ymchwil i Ffynnon Gwenfrewi. Yna byddwn yn cerdded i lawr at y ffynnon lle bydd Bill yn ein tywys o gwmpas y ffynnon ac awn ar ymweliad i’r amgueddfa. Bydd

cyfle i’r rhai sy’n dymuno fod yn bresennol yn yr oedfa ddyddiol lle’r adroddir Litani’r Santes Gwenfrewi ac y mawrygir ei chrair. Wedi cinio bydd cyflwyniad gan Tistan Gray Hulse am y traddodiadau sy’n cysylltu pennau a ffynhonnau sanctaidd a gan Jeremy Harte ar bwnc bedydd a gwellâd. Wedi te gobeithir cael fforwm agored gyda’r pwrpas o sefydlu Ymddiriedolaeth Ffynhonnau Sanctaidd Cymru i warchod y ffynhonnau a dod a phob mudiad, cymdeithas ac unigolion sydd â diddordeb yn y pwnc at ei gilydd. O siarad ag un llais hwyrach y byddwn yn fwy dylanwadol a grymus. Pris y diwrnod, yn cynnwys te, coffi, bwyd canol dydd a the prynhawn yw £20.

BADDON FFYNNON DDYFNOG, LLANRHAEADR ( SJ 082635)

Ar y Sul, Medi 18fed byddwn yn ymweld â Ffynnon Beuno, Tremeirchion, Ffynnon Ddyfnog, Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd, Ffynnon Fair, Cefn, a Ffynnon Elian, Llanelian yn Rhos. Nid oes tâl am y diwrnod yma.

Os hoffech ddod i’r gynhadledd anfonwch siec am £20 – wedi ei gwneud allan i CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU gyda’ch manylion personol- enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost at Ken Lloyd Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH yn ddiymdroi.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GÂN...

Mae’n syndod pa mor fuan mae’r flwyddyn aelodaeth yn dod i ben. Os nad ydych yn aelod am oes neu yn talu trwy Archeb Banc byddai’r Trysorydd - Ken Lloyd Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1TH - yn falch iawn o dderbyn eich tâl blynyddol yn y dyfodol agos. Dylid gwneud sieciau allan i GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU. Diolch o galon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Fôn: 01352 754458 e-bost: gruffyddargel@talktalk.net

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GWEFAN Y GYMDEITHAS: www.ffynhonnaucymru.org.uk

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 

Home Up