Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                Rhif 29 Nadolig 2010

YMWELD Â PHEDAIR FFYNNON

gan Howard Huws

 

Ffynnon Fair, Pyllalai.(SO 0486 7423)

Wrth deithio ym Mhowys a’r cyffiniau fis Awst eleni, achubais gyfle i ymweld â phedair ffynnon sanctaidd. Y cyntaf ohonynt oedd Ffynnon Fair Pyllalai (Pilleth) yn sir Faesyfed. Wedi cyrraedd Cross Gates ar yr A483 rhwng Llandrindod a Llanelwedd drowch i’r chwith ar yr A44. Dilynwch y ffordd am ddwy filltir i Ben-y-bont. Yno cymrwch yr A488 i Drefyclo. Wedi mynd drwy Lanfihangel Rhydieithon a Bleddfa rhaid troi i’r B4356 am Lanandras i ddod o hyd i Byllalai. Dilynwch yr arwyddion tua’r eglwys, hyd lôn go gyfyng i fyny allt. Mae lle i dri neu bedwar o geir barcio ger Eglwys Fair. Ceir Ffynnon Fair y tu cefn i’r eglwys, ar ochr ogleddol tŵr yr eglwys. Wedi’i thyllu i’r graig, ar ffurf betryal, y mae mewn cyflwr da, ac wedi ei hadnewyddu’n ddiweddar. Gosodwyd rheilen o’i chwmpas, ond o ddadfachu cadwyn, gellir disgyn y grisiau at hynny o ddŵr sydd ynddi. Noda Francis Jones yn ei gyfrol The Holy Wells of Wales fod y ffynnon wedi ei hesgeuluso yn y gorffennol ond wrth ei hadnewyddu yn 1910 daethpwyd o hyd i’r grisiau. Saif arwydd Holy Well gerllaw. Dyma lecyn tawel a phrydferth. Rhyfedd meddwl mai yn yr union fan hon y bu brwydro rhwng Owain Glyndŵr a’r Mortimeriaid yn 1402. Ceir digon o wybodaeth ynglŷn â’r achlysur hwnnw ar hysbysfyrddau esboniadol yn y maes parcio. Gellir gweld y man y claddwyd y meirw wedi’r drin ar lethr bryn cyfagos gan fod coed wedi eu plannu i ddynodi’r fan. Byddin Glyndŵr fu’n fuddugol. Dywedir bod dŵr y ffynnon wedi disychedu’r milwyr. Yn ôl traddodiad arall roedd clwyfau'r rhai a anafwyd yn y frwydr wedi eu golchi yn y ffynnon. Roedd cred gyffredinol bod dŵr y ffynnon hon yn arbennig o dda at gryfhau’r golwg a rhoi esmwythder i lygaid poenus. Erbyn heddiw mae ymweld â’r fan yn llesol i’r enaid.

cffcffcffc

Ffynnon Glydog, Merthyr Clydog (SO 3268 2738)

Hap a damwain oedd imi godi llyfr y Parch. F. G. Llewellin, The History of Saint Clodock: British King and Martyr (Manceinion: John Heywood Ltd., 1919) mewn siop yn y Gelli Gandryll. Dyma a ddywed ynglŷn â Ffynnon Glydog yno.

Just a little distance from the church, and reached by crossing Monnow Bridge, may be seen St. Clodock’s Well with its perennial flow of crystal water…While there must have been traditions attached to this…these are irrecoverably lost……in a drought such as the summer of the year 1919 brought us, the local point of view is simply this, “as many as a dozen come here in an evening to draw, but the spring never fails and the water is as good as any for miles around.”

Y mae mor garedig â chynnwys ffotograff o’r ffynnon, hefyd, a datgan y’i cheir ar lan chwith Mynwy, ger Rhyd Glydog, ychydig islaw’r bont. Allwn i ddim colli’r cyfle, na allwn? Felly i ffwrdd â fi i Ferthyr Clydog, sef y “Clodock” ansoniarus yn Swydd Henffordd. Diolch i’r ffotograff, llwyddais i ganfod y ffynnon heb fawr o drafferth: ond y mae lefel y llwybr wedi codi ers tynnu’r ffotograff ym 1919, ac nid oes i’w weld, ar hyn o bryd, ond rhan uchaf y gist garreg sy’n cynnwys y dŵr, a’r grawen betryal sy’n gaead arni. Mae dŵr i’w weld yno, ond y mae ymhell o fod yn grisialaidd, ac y mae’n amlwg nad yw’n llifo fel y bu. Hwyrach y gellid ei hadfer, i raddau helaeth, o’i charthu. Yn ôl Lives of the British Saints gan Baring-Gould a Fisher, dywedir mai brenin doeth ar Ewas yn y bumed ganrif oedd Clydog. (Mae’r ardal heddiw yn rhannol yn Swydd Henffordd ac yn rhannol yn Sir Fynwy.) Roedd merch i fonheddwr wedi syrthio mewn cariad ag ef ac am ei briodi. Ond roedd dyn ifanc arall o dras a’i fryd ar briodi’r ferch ac er mwyn sicrhau na fyddai Clydog yn ei chael ymosododd arno pan oedd allan yn hela a’i ladd. Cludwyd ei gorff ar gart oedd yn cael ei dynnu gan ychen at lan afon Mynwy lle'r oedd rhyd ond gwrthododd yr anifeiliaid groesi. Penderfynwyd felly i adeiladu eglwys a’i chysegru i Glydog ar yr union fan honno.

cffcffcffc

Ffynnon Isw, Patrisw (SO 2777 2238)

Wrth i chi yrru hyd y lôn i Batrisw, o gyfeiriad y Fenni, ceir tro sydyn i’r dde yn union cyn dringo’r rhiw i’r eglwys ei hun. Yng nghesail y tro hwnnw, ar ymyl coedlan gonwydd, ceir Fynnon Iws. Gellir gadael y car wrth y drofa, a chroesi’r lôn at y darddell.

Dywedir mai yma y safai cell wreiddiol Isw Sant, ac y mae’n amlwg fod gan rywrai meddwl mawr o’r ffynnon hon. Mae yna waith cerrig yn ei hamgáu a’i thoi, ac addurnir yr adeiladwaith hwn ag amryw drugareddau: croesau wedi’u llunio o frigau; darnau arian (rhwng y cerrig, mewn potyn bach, ac yn y dŵr ei hun); mwclis a phaderau, a braich doli blastig. Gellir esbonio’r mwyafrif ohonynt. Hen arfer, er enghraifft, yw gadael wrth ffynnon lun neu fodel o’r rhan hwnnw o’r corff y dymunir ei hiachau: ond allwn i ddim esbonio’r pen ci tegan meddal sy’n syllu allan o gilfach rhwng y cerrig, onid y gobeithir bod Isw’n barod i eiriol ar ran anifeiliaid anwes, hefyd.

 Atgyweiriwyd y ffynnon yn o ddiweddar gan gybiaid lleol, tan arweiniad oedolion goleuedig. Byddai’n well o’i glanhau drachefn, ond ni fyddai hynny’n waith mawr. Enw’r ffrwd sy’n llifo o’r ffynnon yw Nant Mair. Dywedir fod y sant wedi ei ladd gan deithiwr oedd wedi derbyn croeso a chynhaliaeth ganddo yn ei gell syml. Ymwelodd Richard Fenton â’r ffynnon yn 1804 gan ddisgrifio’r mannau arbennig yn y muriau lle gadewid gwrthrychau oedd wedi eu hoffrymu i’r sant. Diddorol yw sylwi bod yr arfer yn dal hyd heddiw.

Nododd Fenton hefyd bod yno gwpanau i godi’r dŵr o’r ffynnon er mwyn yfed ohoni. Roedd bri mawr ar y ffynnon yn y dyddiau a fu fel man lle gellid derbyn iachâd o amrywiol afiechydon. Mae hefyd Ffynnon Fair ym mhlwyf Patrisw ond nid yw ei lleoliad yn hysbys ar hyn o bryd.

cffcffcffc

Ffynnon Sant/Saint, Rhyd-y-sarnau (SO 0486 7423)

Dengys mapiau Ordnans safle’r ffynnon hon yn o eglur, ar y dde i’r llwybr o’r ffordd fawr i fferm Penbryn cenna. Yn anffodus, dyna’r cwbl y gallaf ei ddweud amdani, oherwydd y mae’r tir yno’n un trwch o redyn, dail poethion, mieri a llwyni, ac nid oes modd gweld dim. Dylai’r ymchwiliwr penderfynol sicrhau caniatâd y deiliad tir, ymarfogi â phladur, a gweddïo am nerth bôn braich.

Nid oes dim dirgelwch ynglŷn â bodolaeth ffynnon yno, ar un adeg, o leiaf. Gwelaf ar y rhyngrwyd fod yno drac rasio ceir o’r enw “Saints Well Racetrack”: ond ni ŵyr neb pa sant neu saint a goffeir yma. Saif ym mhlwyf Abaty Cwm Hir, sydd dan nawdd Mam Duw: ond cyn codi’r abaty, bu ym mhlwyf eang Llanbister. Cysegrwyd honno yn enw Cynllo Sant, ond cynhwysai gapeli Padarn, Anno, Mair a Mihangel hefyd, ar un adeg. Yr eglwys agosaf at y ffynnon yw Sant Harmon, tan nawdd Garmon Sant.

A dyna’r pedair. Darlun eithaf cynrychioladol o amryw gyflyrau ffynhonnau sanctaidd ein gwlad, mi gredwn.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

MWY O HANES FFYNNON Y GOYTRE, GER PONT-Y-PŴL

 Yn Llygad y Ffynnon 28 clywyd am yr hyn ddigwyddodd yn 1873 pan gaeodd Y Parchedig Thomas Evans, Rheithor y Goytre, Ffynnon y Cae Cul, ffynhonnell ddibynadwy a digonol o ddŵr pur a fu yn disychedu’r pentrefwyr am genedlaethau. Mae’n ymddangos ar ôl ymchwil pellach mai addysg i’r plant oedd asgwrn y gynnen a dyfodd yn gweryl sarrug rhwng y gŵr parchedig a’i blwyfolion. Roedd y Rheithor yn gefnogol iawn i’r National School - ysgol eglwys - ond roedd ymgais leol i sefydlu Board School - sef ysgol heb fod o dan reolaeth eglwysig. Anfonodd gwraig o’r enw Louisa Waite ei phlant i’r ysgol nad oedd y Rheithor yn ei ffafrio. Cyfarfu’r ddau pan oedd Mrs Waite yn mynd i’r ffynnon a derbyniodd gerydd gan y Rheithor a’i gorchymyn i symud ei phlant yn ôl i’r ysgol eglwys yn ddiymdroi. Gwrthododd Mrs Waite ac fel canlyniad aeth y Rheithor ati i gau’r ffynnon drwy ei llanw a charthion dynol, gwydr a thunelli o gerrig. Wedi ymchwil pellach yn nhudalennau’r Pontypool Free Press gwelwn fod y Rheithor wedi cynnig ffynnon arall iddynt- the Well in the Wood- ffynnon yn y goedwig nad oedd yn ddim mwy na phwll lleidiog o ddŵr a llysnafedd gwyrdd ar ei wyneb. Cytunodd y Rheithor i geisio dyfnhau’r ffynnon hon ond nid oedd tarddiad naturiol ynddi, dim ond lle i’r dŵr gronni. Roedd ffynnon arall ar gael iddynt - y Ffynnon Ddu - oedd ar dir dyn o’r enw Henry Mathews, ond roedd hwn yn gyfaill i’r Rheithor ac aeth ati i geisio cau pob llwybr a arweiniai at y ffynnon gyda drain a mieri. Roedd hon yn ffynnon ddibynadwy mewn tywydd sych. Aeth gwraig o’r enw Mrs Jenkins, Tydomen ati i glirio ffos ar ei thir lle'r oedd dŵr o Ffynnon Ddu yn goferu er mwyn i’r pentrefwyr gael mynediad at y dŵr.

Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Iechyd Pont-y-pŵl ar Fedi 29ain a rhoddwyd deiseb gan nifer sylweddol o’r ardalwyr yn cwyno nad oedd ganddynt ddŵr glân i’w yfed. Nodwyd for y ffynnon a ddefnyddiwyd ganddynt a chan eu hynafiaid am genedlaethau wedi ei difwyno gan y Rheithor a’i chladdu o dan dunelli i gerrig. Roedd llwybrau cyhoeddus a fu’n fan tramwyo at y ffynhonnau ers cyn cof wedi eu cau’n fwriadol. Gofynnwyd i’r pwyllgor edrych i mewn i’r mater. Penderfyniad y pwyllgor oedd y dylai’r mater gael ei dynnu i sylw’r awdurdodau yn Llundain oedd yn arolygu gwaith y byrddau iechyd lleol. Aeth y Rheithor oddi cartref am dair neu bedair wythnos ond gofynnodd i’r heddlu anfon cwnstabliaid i gadw’r heddwch yn y fro. Roedd yn amlwg fod gan y Rheithor bobl oedd o’i blaid gan fod hanes am ei haelioni ar ei gost ei hun i blant y National School yn cael sylw yn y papur at Hydref yr 11eg. Tra roedd y Rheithor oddi cartref aeth y pentrefwyr ati i geisio cloddio drwy’r cerrig at y ffynnon a hynny ym mhresenoldeb aelodau o’r Pwyllgor Iechyd. Wedi pum awr o waith caled gwelwyd fod y ffynnon yn llawn carthion a gwydr er bod y Rheithor wedi gwadu hynny. Pan ddychwelodd y Rheithor caewyd y ffynnon a gosod ychwaneg o gerrig drosti.

Yn Ionawr 1874 ymddangosodd adroddiad cryf o blaid y Rheithor yn y papur. Dywedwyd ei fod wedi gwasanaethu’r fro am ddeng mlynedd ar hugain a rhoddwyd anrheg o ddysgl arian iddo gan y plwyfolion. Llofnododd cant a hanner ohonynt ddeiseb oedd yn dweud fod bywyd y Rheithor wedi bod yn ddilychwyn a’u bod yn gobeithio y cai ef a’i briod flynyddoedd llawr eto yn eu plith.

Ym mis Ebrill llosgodd tŷ Mrs Louisa Waite i lawr. Erbyn hyn roedd hi’n adnabyddus fel yr arwres a heriodd y Rheithor a chychwyn yr holl helynt am Ffynnon y Cae Cul. Ond nid oedd unrhyw amheuaeth mai damweiniol hollol oedd y tân. Roedd ei mab wyth oed wedi bod yn chwarae â brigyn oedd yn fud losgi y tu allan i’r tŷ ac aeth y to gwellt yn wenfflam. Llwyddwyd i achub peth o’r dodrefn ac ni anafwyd neb ond doedd dim ond y muriau duon ar ôl wedi’r digwyddiad.

Roedd haf 1874 yn un sych a phoeth a’r ardalwyr yn dioddef. Roedd dwy o’r tair ffynnon oedd ar gael iddynt bellach yn sych a nodwyd mai dim ond Ffynnon y Cae Cul oedd yn ddibynadwy yn ystod cyfnodau o sychder. Daeth yr achos o flaen Brawdlys Mynwy ar Awst 4ydd. Roedd y plwyfolion wedi llwyddo i godi digon o arian i dalu £150 i dwrnai i’w cynrychioli. Cafwyd adroddiad yn y papur am Awst 15fed. Yn ôl y Barnwr Piggott dylai’r mater gael ei ddatrys ar fyrder. Addawodd y cyfreithiwr oedd yn cynrychioli’r Rheithor y byddai’r gŵr parchedig, ar ei gost ei hun, yn sicrhau cyflenwad o ddŵr pur a digonol i’r pentrefwyr mewn man cyfleus ger y ffordd fawr yn y pentref. Ni ddylai’r pentrefwyr edrych ar yr addewid fel buddugoliaeth ond fel ymgais gan y Rheithor i gael heddwch a chytgord yn y fro unwaith eto. Dwedodd y barnwr bod rhaid parchu hawl sylfaenol pobl i gael dŵr yfed ac y dylid gadael i’r dŵr lifo i’r pentref lle gallai’r bobl ei ddefnyddio. Awgrymodd y dylai’r Rheithor dalu am bwmp i godi’r dŵr pe bai angen hynny. Roedd y mater i fynd ymlaen i gael ei gynnwys mewn dogfen gyfreithiol yng Nghaerwrangon.

 Ymddangosodd adroddiad pellach ym mhapur Awst 29. Mewn cyfnod o sychder mae’r awdur yn cwyno fod dŵr glân a phur Ffynnon y Cae Cul yn llifo drwy bibellau i’r ddaear lle gall neb ei gael a phobl yn dihoeni oherwydd diffyg dŵr. Roedd y Barnwr yn disgwyl y byddai’r Rheithor wedi mynd ati ar unwaith i gael dŵr i’r pentrefwyr ond nid felly y bu. Dylai’r Rheithor fod wedi ail-agor Ffynnon y Cae Cul ac adfer y cyflenwad i’r pentrefwyr. Ddechrau Hydref ymddangosodd llythyr wedi ei arwyddo gan Un o’r Goytre. Roedd y Rheithor wedi gorchymyn i dwll gael ei gloddio ar ochr y ffordd fawr i gronni dŵr oedd yn llifo ar wyneb y tir. Tir Syr Joseph Bailey oedd yn ffinio ar Goedwig Bailey oedd hwn ac nid oedd yn eiddo i’r Rheithor. Sut felly yr oedd ganddo’r hawl i wneud y fath beth? Ai cyfrifoldeb Syr Joseph fyddai cynnal a chadw’r cyflenwad dŵr i’r dyfodol? Roedd y Rheithor wedi llwyddo i osgoi’r cyfrifoldeb mewn modd anghyfrifol. Nid oedd tarddiad naturiol lle cloddiwyd y pydew ac ni allai hyn wneud iawn am golli’r dŵr pur o’r ffynnon oedd wedi ei chau. Os nad oedd pethau’n newid byddai’n rhaid i’r pentrefwyr weithredu eto. Fyddai’r Barnwr yn cymeradwyo’r dull sarhaus yma o gyflawni ei orchymyn?

 Er chwilio yn nhudalennau’r papur am weddill y flwyddyn a thrwy 1875 ni welwyd cyfeiriad pellach at y ffynnon yn Goytre. Tybed a ddaw mwy o wybodaeth i’r golwg yn y dyfodol?

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYNHADLEDD I'W CHOFIO

Aeth Howard Huws a Ken ac Eirlys Gruffydd i’r gynhadledd ar ffynhonnau a gynhaliwyd ym mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan dros benwythnos 11-12 o Fedi. Ar y dydd Sadwrn cafwyd darlithoedd amrywiol a diddorol. Soniodd Jemma Bezant am bwysigrwydd ffynhonnau sanctaidd i urdd y Sistersiaid yn gyffredinol, ac yn abaty Ystrad Fflur, Ceredigion yn enwedig. Roedd hyn o ddiddordeb arbennig oherwydd y traddodiad sy’n bodoli yn yr ardal fod mynachod Ystrad Fflur yn arfer teithio heibio i Ffynnon Ffraid, Cynhawdref, Swydd Ffynnon,(SN674670) ar eu taith i’r lleiandy yn Llansanffraid ar lan y môr. Credir bod ffynnon y fynachlog yn Ystrad Fflur yn cael ei bwydo gan ddŵr o ffynhonnau sanctaidd Blaenglasffrwd. Mae’r ffynhonnau hyn wedi cael eu defnyddio’n lleol fel ffynhonnau rinweddol a iachusol am genedlaethau. Yn dilyn clywyd am ymweliad Well Springs yng nghwmni Dr Maddy Grey â Ffynnon y Forwyn Fair Fendigaid, Crugwyllt (SS803869), ffynnon â chysylltiad agos gydag Abaty Margam yn sir Forgannwg. Ceir cyfeiriad at y ffynnon mewn dogfen a ddyddiwyd 1470. Mae adeiladwaith y ffynnon yn awgrymu i’r gwaith cerrig gael ei greu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’n bosib mai to gwellt oedd dros y ffynnon yn wreiddiol ond yn ddiweddarach codwyd to o gerrig a’i doi a llechi mawr fel y ceir ar loriau tai. Baddon ar siâp llythyren L sydd gan y ffynnon ac mae nifer o risiau yn mynd i lawr at y dŵr. Gwyddom fod bedydd wedi ei gynnal yng nghapel y ffynnon yn 1891, y gwasanaeth yn y Gymraeg ac yn nhraddodiad yr eglwys Gatholig. Mae’n bosib mai ymgais i greu canolfan i bererindodau tebyg i’r hyn oedd yn digwydd wrth Ffynnon Fair, Pen-rhys, sydd yma. Wedyn cafwyd cyfle i wrando ar y Tad Brendan O’Malley yn sôn am ei brofiadau personol yn dilyn trywydd Francis Jones a ffynhonnau sanctaidd sir Benfro. Soniodd am bererindodau i ymweld â gwahanol ffynhonnau. Mae’n debyg bod llawer mwy o ffynhonnau sanctaidd yn y sir nag a gofnodwyd gan Francis Jones yn ei lyfr The Holy Wells of Wales. Wedi cinio daeth cyfle i glywed beth oedd gan Anwen Roberts i’w ddweud ar y pwnc Pensaernïaeth a Nawdd yn Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon (SJ 185763). Er bod traddodiad yn lleol mai Margaret Beaufort, mam Harri Tudur, oedd yn gyfrifol am adeiladu’r capel dros y ffynnon gwelodd Anwen debygrwydd rhwng arddull y gwaith cerrig a’r hyn a geir yng nghapel San Steffan, Westminster yn Llundain, gwaith Robert Virtue, prif saer maen y brenin. Yn sicr mae pensaernïaeth capel y ffynnon yn arwyddocaol yng nghyd-destun pensaernïaeth diwedd yr Oesoedd Canol yn Ewrop. Yn y sgwrs nesaf cafwyd disgrifiad diddorol o’r gwasanaethau a gynhelir gan yr Eglwys Uniongred Roegaidd ger Ffynnon Gybi yn Llangybi, Ceredigion,(SN 605528), rhyw bedair milltir o dref Llanbedr Pont Steffan, lle mae cymuned o gredinwyr Uniongred. Pwysleisiodd y Tad Timothy Pearce bwysigrwydd dŵr yn addoliad yr eglwys Uniongred a dywedodd iddynt fabwysiadu Ffynnon Gybi fel eu man arbennig hwy. Mae gan y ffynnon hon draddodiad o fod yn ffynnon rinweddol a sanctaidd gyda’r gallu i wella. Wrth ymadael â’r ardal galwyd heibio i’r ffynnon a chodi potelaid o ddŵr ohoni. Tymheredd yr awyr yn ôl thermomedr y car oedd pymtheg gradd. Roedd dŵr y ffynnon mor oer nes bod anwedd ar y tu allan i’r botel blastig - prawf o ba mor oer oedd y dŵr oedd yn dod o grombil y ddaear. Richard Suggest a roddodd y ddarlith olaf a oedd yn canolbwyntio ar hanes Ffynnon Elian, Llaneilian yn Rhos (SH 866774), ffynnon rheibio enwog, a’i cheidwad Jac Ffynnon Eilian, a garcharwyd am ei dwyll, ond a lwyddodd i gael anfarwoldeb drwy gyhoeddi hanes ei waith wrth y ffynnon.

Capel Erbach, Porthyrhyd. (SN 529147)

Roedd y Sul yn ddiwrnod bendigedig ym mhob ffordd. Teithiodd pawb i bentref Llanddarog, ychydig filltiroedd i’r de o Gaerfyrddin. Tra’n aros i bawb gyrraedd aeth nifer ohonom i weld safle Ffynnon Dwrog (SN 504167) gerllaw’r eglwys. Nid oedd posib gweld dim oherwydd tyfiant gwyllt ond o leiaf nawr mae mwy o bobl yn gwybod lle mae’r ffynnon arbennig hon. Yna i ffwrdd a ni i ymweld ag olion Capel Erbach a’r ffynnon sy’n codi ynddo. Mae’r adeilad sy’n dyddio o’r Oesoedd Canol, ar dir preifat ac mae gwir angen ei ddiogeli. Ar ôl cinio aethom i weld Capel Begewdin ger Porthyrhyd, lle mae ffynnon yn tarddu oddi fewn i’r adeilad. Oherwydd bod llawer o gerrig a choed wedi dymchwel i mewn i’r capel nid oedd modd darganfod lleoliad y ffynnon ei hun.

Capel Begewdin, Porthyrhyd. (SN 511147)

Yn ystod y diwrnod trafodwyd y posibilrwydd o greu ymddiriedolaeth fyddai’n dod a nifer o asiantaethau sy’n ymddiddori yng nghadwraeth ffynhonnau at ei gilydd. Byddai hyn yn codi statws cymdeithas fel Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac yn dod a’n gwaith i fwy o amlygrwydd. Yn 2011 bwriedir cynnal y gynhadledd flynyddol hon yn Nhreffynnon, sir y Fflint ar benwythnos Medi 10fed -11eg Bydd manylion ar gael yn rhifyn yr haf o Llygad y Ffynnon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed

Patricia D. Wright, Rhydychen

Margaret M. Phillips, Tyn’r Eithin, Tregaron

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GWEITHGAREDD WELLSPRINGS:  

Ymwelwyd â Ffynnon Farug, y Barri (ST 1336737) ar Hydref 3ydd 2010. Mae ar stad ddiwydiannol Atlantic heb fod ymhell o aber yr afon yn nwyrain y Barri. Mae’n bosib ei bod yn ffynnon Rufeinig, yn sicr mae’n ganoloesol. Erbyn hyn mae mewn cyflwr drwg ac yn llawn hen deiars. Mae’n bosib y caiff ei cholli am byth gan fod y stad ar werth. Cawn fwy o hanes yr ymweliad yng nghylchlythyr Wellsprings yn y dyfodol mae’n siŵr.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR

 Dyma’r hyn sy gan y Parchedig J. Daniel i’w ddweud am ddwy ffynnon, Ffynnon Arian (SH 304309) a Ffynnon Fyw (SH 23309308) Mynytho, ar dudalennau 117 ac 118 yn ei gyfrol Hynafiaethau Llyn ( Nixon a Jarvis, Bangor, 1892). Cadwyd y sillafu gwreiddiol.

Ffynhon Arian

Gwelir y Ffynhon hon islaw y ffordd, gerllaw Foel Gron. Ond cyn rhoddi desgrifiad o honi, efallai mai doeth fyddai i ni ddywedyd ychydig eiriau yng nghylch yr elfen a gynnwysa. Dywed Proffesor Rhys am “Deva” mai yr hên ffurf Gymreig yw “doiu,” neu “duiu” = “dwyw”= “dwywol”= “dwyfol”, oherwydd fod “dwfr” yn cael ei ystyried yn un o’r elfenau cyssegredig yn yr hên amseroedd. Yn unol â’r gred hon, rhai a farnant oddiwrth yr enw “arian” sydd yng nglyn â gwrthddrych ein pennawd, fod swynyddiaeth wedi cael ei harfer yma yn yr oesoedd ofergoelus a aethant heibio, ac y byddid yn taflu pinau, a darnau o arian i’r dwfr, gan feddwl y buasai hyny yn sicrhâu ei amcanion i’r sawl a fyddai yn ymwneyd â’r ddefod. Beth bynag am hyn, y mae y Ffynhon o wneuthuriad digon destlus, ac yn arddangos mwy o arwyddion gwasanaeth teuluaidd na dim arall yn y dyddiau diweddaf hyn. Adeiladwyd ei phedair ochr â phedair carreg, a gosodwyd carreg arall yn nenfwd iddi, er mwyn cadw ei dwfr yn lân.

Mor aml y gwelwyd plantos

Hen Ysgol dda Foel Gron

Yn rhedeg am y cyntaf

I yfed dyfroedd hon!

Ond llawer un fu’n chwareu

O’i deutu’n llon ei wêdd,

Sydd erbyn heddyw’n gorwedd,

Yn dawel yn ei fêdd.

fccfccfcc

Fynhon Fyw

I lawr ar fron y llechwedd, rhwng Ffynhon Arian ag Aberoch, ond ei bod ychydig yn fwy i’r aswy, ar dir Assheton Smith, y mae y ffynhon hon. Amlygir hi gan fur pedwar-onglog (square), tua llathen o drwch, a dwy lath o uchder, fel nas gellir myned i fewn iddi, ond trwy ddôr derw yn yr ystlys. Dosberthir ei baddon yn ddwy ran, gan ganolfur o feini wedi eu gweithio yn ofalus; ac y mae yr adran fwyaf ohono yn mesur pedair llathen o hyd a thair o led, a’r lleiaf tua llathen o led ac ychydig yn rhagor o hyd. Ffurfiwyd grisiau i fyned i lawr i’r dwfr, ac y mae seddau cerryg ar bwys y mur tu fewn yn yr ochr Orllewinol a’r ochr Ddwyreiniol. Fel y dengys trefniadau y Ffynhon, yr oedd rhan o honi i’r claf ymdrochi, a’r rhan arall iddo i yfed ei dwfr. Dywed Traddodiad mai yr achos cyntaf o’i sefydliad ydoedd ymweliad dyn dall, yr hwn, ar ol golchi ei lygaid yn ei dyfroedd oerion, a gafodd ei olwg. Hysbysir ni fod llawer yn ei mynychu yn y blynyddoedd a aethant heibio, ac wedi eu hiachâu. Gan ei bod yn tarddu mewn mangre mor dlawd, a llecyn mor ddiaddurn, a chan ein bod yn gweled yma ffrwyth llafur nid bychan, a chryn lawer o dreuliadau mewn arian yn yr holl gelfyddydwaith, tueddir ni i gredu fod rhyw sail i’r honiadau uchod, beth bynag sydd wir. Pa un ai yn gadarnhaol ynte yn nacäol y derbynir yr hyn a welwn â’n llygaid ac a glywwn â’n clustiau yng nghylch y Ffynhon Fyw, trueni mawr fod neb wedi caniatâu i blant chwarëus y lle i labyddio ei dyfroedd â meini, nes maent bron wedi ei llanw!

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

YMWELD Â FFYNHONNAU SWYDD DERBY

Grace a Dennis Roberts

Ym mis Awst 2010 roedd pentre’ Wormhill yn Swydd Derby wedi dewis Dewi Sant fel ei thema i addurno ffynnon. Roedd merch yno yn gwerthu cardiau a chawsom sgwrs efo hi. Roedd hi’n hoff iawn o Dyddewi a bob amser yn treulio’i gwyliau yn Sir Benfro. I ni roedd yn arbennig iawn gweld mai ein nawdd Sant ni ein hunain oedd wedi ei ddewis, er eu bod nhw ( a ninnau ar y pryd) heb fod yn agos i Gymru. Eglurodd mai hi oedd un o’r ddwy oedd wedi creu’r gwaith. Edmwnd Tudur, tad Harri Tudur yw’r marchog ar yr ochr dde. Oddi tano mae wyneb dyn gwyrdd o gerflun ar y nenfwd. Ar yr ochr chwith mae angel sydd ar yr organ yn y gadeirlan ac oddi tano mae pen llew, sy’n cynrychioli Sant Marc, o gapel y Forwyn Fair yn yr eglwys. Palas yr Esgob a welir yn y gofod ar ffurf hanner lleuad uwchben y prif ddarlun. Defnyddiwyd pethau naturiol fel dail, petalau blodau ac ati i wneud y cyfan o’r addurniadau. Mae’r gwaith yn eithriadol o gelfydd ac anodd credu sut y gall petalau wedi eu gwasgu ar fwrdd wedi ei orchuddio â chlai ddangos adeilad mor fawreddog â chadeirlan Tyddewi mewn modd mor gywrain.

Ffynnon Wormhill, Swydd Derby.

Pentre’ ag iddo hanes diddorol yw Eyam. Daeth y pla i’r lle o Lundain yn 1665 mewn parsel o ddefnyddiau a anfonwyd at y teiliwr, George Vicars. Roedd yn llawn chwain oedd wedi eu heintio can y pla. Gan fod y defnyddiau yn wlyb fe’u rhodiwyd y tu allan i sychu a lledodd y chwain y pla drwy’r pentre’ . Y teiliwr oedd y cyntaf i farw. Ar gyngor y Rheithor, William Mompesson, torrodd y pentre’ bob cysylltiad â phentrefi eraill yr ardal. Gadawyd bwyd iddynt ger ffynnon ar y tir uchel uwchlaw Eyam. Bu farw llawer o’r trigolion, yn eu plith gwraig ifanc y Rheithor. Mae’r Sul olaf yn Awst bob blwyddyn yn cael ei alw yn Plague Sunday pryd y cofir am aberth y pentrefwyr. Buom yn Eyam ddwywaith, Y tro cynta’ dyma gyrraedd cwr y pentre’ a gweld arwydd bod y ffordd ar gau oherwydd y carnifal! Mi wnaethom wastraffu dipyn o amser yn mynd rownd yn y car i edrych be welem ni, a mynd yn ôl yno wedyn, ond roedd y carnifal yma’n glamp o ddigwyddiad a’r parêd yn dal heb orffen! Dangosodd rhywun i ni le o barcio, heb fod dan draed, a chawsom weld mymryn ar y pentre’, ond aethom yn ôl yno drannoeth i weld y lle yn iawn. Roedd y tywydd wedi amharu ar rai o’r addurniadau ar y ffynhonnau. Cawsom fynd i’r amgueddfa a gweld hanes y pentre’n ei ynysu ei hun rhag i neb o’r tu allan ddal y pla.

Ffynhonnau Eyam, Swydd Derby.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU CERNYW – CYFROL ARALL GAN PHIL COPE

Yn 2008 cyhoeddodd Phil Cope- sy’n aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru y gyfrol fendigedig Holy Wells:Wales (220 o dudalennau) a gyhoeddwyd gan gwmni argraffu SEREN, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hon yn gyfrol fyddai’n harddu unrhyw silff lyfrau ac ynddi mae darluniau eithriadol o rhai o’n ffynhonnau amlycaf a chyfeirnod map i bob un. Pris y gyfrol yw £20. Yn wir mae’r lluniau yn syfrdanol ac mae Phil wedi llwyddo i ymweld â rhai ffynhonnau na chafodd neb arall y fraint o wneud hynny. Mae’r lluniau yn gofnod pwysig iawn o’r gorffennol y dylid eu trysori i’r dyfodol.

Bellach mae Phil wedi mynd ar daith trwy Gernyw ac mewn cyfrol Holy Wells: Cornwall (250 o dudalennau - pris £20) mae’n disgrifio lleoliad y ffynhonnau ac yn rhoi nifer o luniau o bob un. Mae’n ddiddorol cymharu adeiladwaith y ffynhonnau hyn a’r rhai sy gennym ni yma yng Nghymru. Ceir rhai sy a dim ond cerrig diaddurn o’u cwmpas ond yn fwy aml na pheidio ceir adeilad o gerrig nadd dros y tarddiad. Mae nifer o ffynhonnau wedi eu cysegru i seintiau sy’n adnabyddus i ni yma yng Nghymru megis Cybi, Dewi a Non, Cain, Cenwyn a Mihangel. Bydd ymwelwyr yn gadael clytiau, blodau neu hyd yn oed ddoliau wrth ambell ffynnon. Mae’n amlwg fod pobl Cernyw yn parchu ac yn gofalu am eu ffynhonnau sanctaidd yn llawer gwell na ni, ac yn manteisio arnynt i ddenu ymwelwyr a chodi statws y ffynhonnau. Mae ein cefndryd Gwyddelig yn Iwerddon yn gwneud yr un fath. Onid yw’n amser i ni yng Nghymru ddeffro i bwysigrwydd a chyfoeth ein treftadaeth cyn ei bod yn rhy hwyr? Mae cwmni cyhoeddi SEREN yn cynnig gostyngiad o £5 i bobl sy’n prynu’r ddwy gyfrol gyda’i gilydd. Mewn sgwrs ar y ffôn dywedodd Simon Hicks, cyfarwyddwr y cwmni wrthyf y byddai’n barod i roi nawdd ariannol i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru am bob cyfrol sy’n cael ei phrynu gan aelodau’r Gymdeithas. Peth am brynu’r ddwy gyfrol? Maent yn edrych yn hapus iawn ochr yn ochr â’i gilydd ar y silff lyfrau. Dyma gyfle i ddefnyddio’r tocynnau llyfrau a gawsoch fel anrhegion adeg y Nadolig. Os byddwch yn mynd i Gernyw yn ystod y flwyddyn bydd y gyfrol yn sicr o gyfoethogi eich ymweliad a’r rhan Geltaidd hon o Loegr.

Dyma fanylion cwmni SEREN: 57 Nolton St, Peny Bont ar-Ogwr, (Bridgend) CF31 3AE

Rhif ffôn : 01656 663018. Seren@SerenBooks.com www.SerenBooks.com

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DYMA GYFEIRIAD NEWYDD I'R WEFAN: www.FfynhonnauCymru.org.uk

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint

GOLYGYDD: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1TH

Ffôn: 01352 754458 e-bost: gruffyddargel@talktalk.net <mailto:gruffyddargel@talktalk.net>

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up