Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                                                                                                           Rhif 28 Haf 2010

 

FFYNHONNAU SIR FYNWY

Ffynnon Angoeron, Mamheilad (SO298052)

Mae Sir Fynwy yn sir gyfoethog ei ffynhonnau fel pob sir arall yng Nghymru. Rhaid cyfaddef, fodd bynnag, bod yr ardal yn ddieithr i lawer ohonom. Ein colled ni yw hynny a hwyrach y bydd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r sir eleni yn gyfle i ni ddod i adnabod yr ardal yn well.

Plwyf diddorol yw Goytre Fawr sy’n cynnwys pentrefi bychain fel Mamheilad, Penperlleni, Felinfach, Nant-y-deri a Pencroesoped. Mae ardal Mamheilad yn gyfoethog ei ffynhonnau a hanes difyr iawn iddynt. Ger y pentref mae Ffynnon Angoeron. Credir mai ystyr yr enw anarferol hwn yw ffynnon sydd â dŵr yn anghyffredin o oer ynddi. Mae ei lleoliad yn anghysbell. Mae ar lethrau dwyreiniol Garn Clochdy ar ochr mynydd Llasgarn dau gan droedfedd islaw copa’r mynydd. Gellir ei gweld ar fin hen ffordd sy’n arwain o Lanofer i Drefethin. O gwmpas y ffynnon mae arwyddion o adeiladau fel pe bai yma unwaith bentref bychan. Ffynnon gilfachog yw hon wedi ei hadeiladu i mewn i ochr y llethr a cherrig sgwâr o boptu iddi a charreg fawr ar ei phen. Mae ochrau a’r to yn goleddu i mewn i’r llethr ac yn ddwy droedfedd o led. O wyneb y dŵr i do’r ffynnon mae’n ddwy droedfedd a hanner. Ger y ffynnon mae carreg enfawr sy’n gwneud sedd bron i bedair troedfedd o hyd a throedfedd a hanner o uchder. Ceir cyfeiriad at y ffynnon mor bell yn ôl a’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Cafodd ei galw’n Ffynnon Rhufeinig ac yn Ffynnon Ofuned neu wishing well yn Saesneg. Pan aed ati i’w glanhau yn 1890 daethpwyd o hyd i nifer fawr o binnau a phennau crynion iddynt, hoelen, pwt o bensil, ychydig o fotymau a broitch copr. Tybed beth sy ynddi erbyn hyn? Gyferbyn â thafarn y Bedol ym Mamheilad mae llwybr cyhoeddus ac yn wythdegau’r ganrif ddiwethaf roedd arwydd yno yn cyfeirio’r cerddwyr at y ffynnon.

Bu helynt mawr yn ymwneud â ffynnon digon cyffredin ym mhlwyf Goytre Fawr yn 1873. Y Rheithor, y Parchedig Thomas Evans a dynnodd y pentrefwyr i’w ben. Roeddynt wedi arfer cael dŵr bob dydd o ffynnon ar dir fferm arbennig ond yna prynodd y Rheithor y fferm. Un bore ym mis Mai aeth gwraig weddw o’r enw Mrs Waite, oedd yn byw mewn bwthyn gerllaw’r ffynnon, i nôl dŵr fel yr arferai wneud ond fe’i rhwystrwyd gan y Rheithor. Dwedodd wrthi na chai ddŵr o’r ffynnon nes iddi symud ei phlant o ysgol, oedd yn ei farn o, yn wrthwynebus i’r eglwys, ac anfon y plant i’r ysgol oedd o dan ei ofal ef. Gwrthododd Mrs Waite wneud hynny a rhwystrodd y Rheithor hi rhag cael dŵr o’r ffynnon a dyna fu dechrau’r helynt. Galwodd y Rheithor am ddynion i lanw’r ffynnon â cherrig y diwrnod hwnnw. Bore drannoeth daeth gweithwyr oedd yn torri coed yn y goedwig gyfagos at y ffynnon i dorri eu syched a chliriwyd y cerrig o’r ffynnon er mwyn iddynt gael mynd at y dŵr. Roedd y Rheithor yn flin iawn a llanwyd y ffynnon eilwaith â cherrig. Bore drannoeth, yn blygeiniol, casglodd y pentrefwyr at ei gilydd, mynd at y ffynnon, ei hail-agor a chario’r cerrig o’r safle.

Ar 26 Mehefin cyflogodd y Rheithor nifer fawr o weithwyr a llanw’r ffynnon a chymaint o gerrig fel nad oedd modd ei defnyddio eto ond ar 4 Gorffennaf daeth y pentrefwyr yno, a chydag ymdrech fawr llwyddwyd i glirio’r ffynnon. Cyn pen diwedd y dydd, fodd bynnag, roedd y Rheithor wedi gorchymyn i’w weithwyr gau’r ffynnon unwaith eto. Rhoddwyd mwy o gerrig drosti ar 8 Gorffennaf a’r 9fed. Ar Awst 16 daeth y pentrefwyr at y ffynnon a llwyddo i symud y cerrig a chael dŵr yfed ohoni. Roeddynt yn ddiolchgar o’i gael gan nad oedd ffynnon arall mor agos nac mor gyfleus i’w cartrefi. Pan welodd y Rheithor nad oedd y fath bentwr o gerrig yn ddigon i gau’r ffynnon gwnaeth rhywbeth ffiaidd. Roedd y ffynnon wedi ei hagor ar y Sadwrn. Am hanner nos y Sul canlynol gorchmynnodd y Rheithor i wastraff dynol o dŷ bach y rheithordy ac o dai bach bythynnod cyfagos i gael ei daflu i’r ffynnon. At hyn fe dorrwyd poteli a lluchiwyd y gwydr ar ben y gymysgfa ac ychwanegu tar ato yn ogystal. Erbyn bore Llun roedd y drewdod yn annioddefol ac aeth y plismon o’r pentre’ at safle’r ffynnon i weld beth oedd yn achosi’r fath beth. Gorchmynnodd y Rheithor i ddynion lwytho cerrig i’r ffynnon a bu o a’i wraig yn eu gwylio’n gweithio drwy’r dydd. Rhoddwyd diod feddwol i’r gweithwyr gan y Rheithor o’i dafarn yn Nant-y-deri. Cyflogwyd dynion i gau’r ffynnon a buont yn gweithio yno am bythefnos gan gario tua mil o dunelli o gerrig i safle’r ffynnon. Galwodd y plwyfolion y pentwr yn Garn y Rheithor.

Daeth yr achos i sylw’r pwyllgor oedd yn gofalu am iechyd y cyhoedd yn ardal Pont-y-pŵl ond ni wnaed dim i wrando ar gwynion y pentrefwyr ac adfer y ffynnon. Ar 2 Medi ysgrifennwyd at gadeirydd y pwyllgor ar ran y bobl yn gresynu nad oedd dim wedi ei wneud. Roedd y bobl yn barod i agor y ffynnon ac i swyddog o’r pwyllgor fod yn bresennol i weld beth oedd ynddi. Ni chafwyd ateb i’r llythyr a arwyddwyd gan 64 o’r plwyfolion. Serch hynny gwahoddwyd rhai ohonynt i ymddangos gerbron y bwrdd i adrodd hanes y difwyno a fu ar y ffynnon, Roedd y Rheithor yn gwadu popeth. Doedd yna ddim ffynnon, meddai, felly sut fedrai’r dŵr gael ei ddifwyno a doedd a wnelo fo na’i weithwyr ddim oll â’r peth. Er mwyn sicrhau fod pawb yn gwybod beth oedd wedi digwydd cyhoeddwyd yn y Pontypool Free Press fod y ffynnon i’w hailagor ar 26 Hydref a bod croeso i bawb ddod i weld drostynt eu hunain beth a wnaed iddi. Ar 27 Hydref ymddangosodd yr adroddiad canlynol yn y papur:

Ddoe gweithredodd plwyfolion Goytre Fawr eu bwriad i agor ffynnon ar y cae main a gaewyd gan y Rheithor, Y Parchedig Thomas Evans, ym mis Mai. Am bump o’r gloch

y bore casglodd rhyw bymtheg ar hugain o ffermwyr ac eraill yn Penperlleni a gorymdeithio oddi yno i’r ffynnon. Disgwylid y byddai gwrthwynebiad chwyrn i hyn gan ddynion a gyflogwyd gan y Rheithor, a daeth yr Arolygydd Macintosh a’r Arolygydd Freeman o’r Fenni yno er mwyn osgoi unrhyw gythrwfl. Roedd yr Heddwas Allen o Lanofer a’r Heddwas Lawrence eisoes wedi bod yn aros yn Nant-y-deri a hynny ar gost y Rheithor. Ychydig cyn y diwrnod a glustnodwyd i agor y ffynnon roedd y Rheithor wedi gorchymyn i’w weithwyr osod hyd yn oed mwy o gerrig drosti a chodi ffens gref o gwmpas y safle.

Llwyddodd y plwyfolion i fynd i’r cae main a thrwy’r ffens heb ei malu a dechreuwyd gweithio’n ddiwyd i symud y cerrig. Yr un i godi’r garreg gyntaf oedd Mrs Waite a fu’n faen tramgwydd i’r Rheithor yn y lle cyntaf, a’i safiad arwrol dros ei hawl i ddewis i ba ysgol i anfon ei phlant a fu’n achos yr holl helynt. Wrth i’r cerrig lithro’i lawr ochr y garn gellid clywed eu sŵn gryn bellter i ffwrdd. Wedi pum awr o waith daeth y dynion at y ffynnon a chafwyd prawf o’r modd y llygrwyd y dŵr. Wedi i’r cerrig a gwreiddiau’r coed a ddefnyddiwyd i’w llanw cael eu clirio daeth y dynion ar draws y carthion a’r gwydr toredig roedd y Rheithor wedi gwadu eu bodolaeth. Roedd y drewdod yn annioddefol.

Gan fod y Rheithor wedi gwrthod adfer y ffynnon i’r pentrefwyr gael ei defnyddio, casglwyd digon o arian gan y plwyfolion i fynd a’r mater i’r llys sirol a chytunwyd ar ddiwrnod i wrando’r achos. Ond cyn hynny llwyddodd y Rheithor i symud yr achos i Gwrt y Siacer (Court of Exchequer) gan y mynnai na chai gyfiawnder mewn llys lleol. Aeth y cyfreithwyr a gyflogwyd gan y plwyfolion ati i baratoi ymladd yr achos yn y Brawdlys ym Mynwy. Unwaith eto aeth y Rheithor â’r achos i lys yn Llundain, gan osgoi dod â’r achos i gyfraith. Gan fod ganddo arian roedd yn gallu gwneud hyn a doedd gan y plwyfolion ddim modd i’w rwystro. Ceisiodd y Rheithor liniaru rhywfaint ar y sefyllfa drwy roi ffynnon arall iddynt yn y goedwig ond dywedwyd mai pydew oedd yn dal dŵr yn unig oedd hwn ac nad oedd tarddiad yno a’i fod yn sychu yn yr haf pan oedd mwyaf o eisiau dŵr. Mae’r hanes yma’n dangos yn glir pa mor bwysig oedd ffynhonnau cyffredin i bobl ers talwm a’u bod yn barod i ymladd i’r eithaf i sicrhau cyflenwad o ddŵr pur i’w yfed.

Yng nghoedwig Wentwood, i’r gogledd o Lanfair Iscoed, yn y goedwig uwchlaw’r gronfa ddŵr, mae Naw Ffynnon. Nid oes traddodiadau amdanynt wedi goroesi. Mae’r llwybrau drwy’r coed a’r seddau o gwmpas y ffynhonnau yn dangos fod yma le da i ddenu ymwelwyr. Mae pensaernïaeth un ffynnon yn arbennig o ddiddorol gan fod y gwaith cerrig uwchben y tarddiad ar ffurf cwch gwenyn ond bod muriau’r ffynnon ei hun yn sgwar. Mae’r dŵr yn llifo i faddon crwn o gerrig o flaen y ffynnon.

Ffynnon Chwilgrug (SO 880401)

Mae Ffynnon Chwilgrug, rhwng Magwyr a Llanfarthin, gyferbyn â Church Farm ac mae’n un ddiddorol ei phensaernïaeth. Mae to’r ffynnon fel capan drosti ac mae tair o risiau yn arwain i lawr at y dŵr sy tua throedfedd o ddyfnder. Mae’r bwa dros y ffynnon wedi ei adeiladu o frics ond bod cerrig dros y brics yn ffurfio bwa ychwanegol drosti. Mae’r bwa yn ddwy droedfedd o uchder a thair troedfedd ar draws. O flaen y ffynnon mae cwrbyn carreg sy’n cadw’r dŵr rhag llifo allan. Mae’r gofer ar yr ochr dde a’r dŵr yn dod allan drwy beipen haearn. Hyd y gwyddom nid oes traddodiadau amdani wedi goroesi ond mae’n ddigon agos i’r eglwys i fod unwaith yn ffynnon gysegredig a’r dŵr ohoni, o bosib, wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer bedyddio plant. Cysegrwyd yr eglwys, sy’n dyddio o’r ddeuddegfed ganrif, i Fair Forwyn. Erbyn heddiw mae’n ffynnon ofuned.

Yn ardal Llanfaches a Llanfair Iscoed mae nifer o ffynhonnau diddorol. Un ohonynt yw Ffynnon Brideswell. Roedd yn arferiad i ferched fynd at y ffynnon yng nghoedwig Brideswell ar ddydd eu priodas a thaflu pin i’r dŵr. Byddai hyn yn sicrhau lwc dda. Ym mhlwyf Llanhiledd, heb fod ymhell o’r eglwys, roedd Ffynnon Illtud neu Ffynnon Wen ar dir fferm Argoed, islaw Bryn Ithel. Deuai pobl yma ers talwm i olchi clwyfau llidiog. Cymaint oedd nifer yr ymwelwyr a ddeuai at y ffynnon nes i’r ffermwr flino arnynt yn tresmasu ar ei dir a dinistriodd y ffynnon. Erbyn hyn mae’r tarddiad wedi sychu oherwydd dod cloddio am lo brig yn yr ardal. Mae hanes y ffynnon hon yn nodweddiadol o lawer o ffynhonnau. Cyfuniad sy yma o dirfeddiannwr sy heb unrhyw gydymdeimlad â’r traddodiad o ymweld â ffynhonnau rhinweddol a diwydiant sy’n dinistrio tirwedd ac yn newid lefel y dŵr o dan y ddaear. Dyma pam fod angen cymdeithas fel Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i dynnu sylw at eu pwysigrwydd a cheisio eu gwarchod.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EIN LLYWYDD NEWYDD

  Ken Lloyd Gruffydd,                    Eirlys Gruffydd                   a’r Dr Robin Gwyndaf

Trysorydd                                            Ysgrifennydd                                            LLywydd

Mewn cyfarfod o Gyngor Cymdeithas Ffynhonnau Cymru a gynhaliwyd ar ddiwedd mis Mawrth cytunwyd i wahodd y Dr Robin Gwyndaf , Caerdydd i fod yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Da gennym allu dweud iddo dderbyn. Mae Robin wedi mynychu pob un o’n Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol ac wedi annerch y Gymdeithas mewn darlithoedd ac wedi cyfrannu i drafodeithau ar lawer achlysur. Gwyddom y bydd yn lladmerydd da i’n Cymdeithas.

Diolchwn i’r Dr Eurwyn William am fod yn Llywydd y gymdeithas o’i chychwyn hyd nawr.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Harri Jones, Ysbyty Ifan

Glyn Hughes, Caerdydd

Medwen Roberts, Graigfechan

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON RINWEDDOL TŶ NANT, YSBYTY IFAN (SH849481)

Daeth i feddiant y Golygydd lythyr a ysgrifennwyd ( mewn Saesneg) gan H.S.Owen, Bryn Llan, Ysbyty Ifan yn 1994 at Derek Williams, Mynydd Isa. Gof oedd Mr Owen wrth ei alwedigaeth. Dyma gyfieithiad o’r llythyr.

Rwyf wedi gwneud ymholiadau am y ffynnon chalybeate yn Nhŷ Nant, Llan. Wedi siarad â’r mwyafrif o henoed y pentref mae’n ymddangos fod y cwt dros y ffynnon wedi ei gwneud o bren gyda, o bosib, do corrugated iron drosti pan ddirywiodd cyflwr y to pren. Roedd un o’r bobl y bûm yn siarad â nhw wedi cael ei eni yn 1902 ac roedd ganddo gof eithriadol o dda. Roedd wedi gweithio yn Nhŷ Nant pan yn fachgen ifanc. Cofiai yn dda fel y byddai’n rhoi ei draed yn y dŵr a hwnnw’n eithriadol o oer. Roedd gan y bobl leol fydd yng ngallu’r ffynnon i wella anhwylderau, ei bod yn ffynnon rinweddol a meddyginiaethol. Fel canlyniad yfodd yntau ohoni’n gyson. Gan ei fod erbyn hyn yn nawdeg dwy oed roedd yn amlwg nad oedd y dŵr wedi gwneud unrhyw niwed iddo!

Byddai plant oedd a defaid ar eu dwylo yn cael eu hanfon at y ffynnon a dal eu dwylo o dan y dŵr cyn hired ag y gallent ddioddef hynny ac wedyn i rwbio’r mwd o liw rhwd oedd i’w ganfod ar waelod y ffos (y gofer mae’n debyg) ar y defaid. Roedd hyn yn sicr o gael gwared ar y tyfiant hyll. Cofiaf fod cred debyg yn rhinwedd iachusol y dŵr yn y tanc haearn yn yr efail leol, pan oedd y gof yn gwthio’r haearn poeth iddo i oeri.

Roedd Mr Davies, (ganwyd yn 1902) Yn cofio fod y cwt oedd dros y ffynnon yn edrych fel pe bai wedi gweld dyddiau gwell a’r tywydd wedi gadael ei hôl arno, felly roedd wedi bod yno ers blynyddoedd lawer, o gwmpas 1816-17. Roedd drws i fynd i mewn iddo a phlanciau pren ar hyd yr ochrau o’i gwmpas o wneud seddau. Doedd y planciau ddim yn llydan iawn, tua chwech i saith modfedd o led, roedd yn barnu. Roedd yr adeilad i gyd tua un droedfedd ar bymtheg o hyd a deg troedfedd o led. Roedd ei chwaer, Mrs Wright, yn cytuno mai dyna oedd maint yr adeilad. Cofiai fynd yno pan oedd rhwng deuddeg a phedair ar ddeg. Mae tuag wythdeg pump erbyn hyn felly bu ger y ffynnon yn ail ddegawd y ganrif hon.

Euthum at y ffynnon fy hun pan oeddwn tua wyth neu naw a byddai hynny ym mlynyddoedd olaf ail ddegawd y ganrif ac yn bendant doedd dim adeilad dros y ffynnon yr adeg honno. Roedd yn arferiad i ni yfed y dŵr o’r tarddiad a chario peth adref mewn caniau tun, fel arfer can llefrith oedd yn dal chwart. Roedd caead arno a handlen lydan i’w gario. Ambell dro, yn anffodus, byddai’n rhaid cario’r dŵr adref mewn hen dun taffi Red Rose. Byddai hwn hefyd yn dal chwart ond roedd yr handlen weiren denau a gallaf gofio’r boen wrth i’r weiren dorri i mewn i gnawd meddal fy mysedd.

Tynnwyd y cwt i lawr gan denant Tŷ Nant oherwydd bod gormod o bobl yn tresmasu wrth gerdded ar draws ei dir at y ffynnon . Neu, o bosib, fod y ffynnon erbyn hynny wedi peidio â bod yn gyrchfan boblogaidd. Yn sicr ni fyddai wedi cael gwneud y fath beth pan oedd y ffynnon yn ei bri. Yn ôl yr hen frawd a’i chwaer y bum yn eu holi am y ffynnon, roedd y lle’n hynod boblogaidd fel man cyfarfod i bobl leol ar brynhawniau a nosweithiau Sul yn yr haf. Ni allent gofio llawer am y canu a gaed yno. Nid cymanfa wedi ei threfnu byddai hi ond ymateb naturiol i’r dyhead i uno mewn cân. Byddai’r un peth yn digwydd yn y pentref pan fyddai gweision y ffermydd yn casglu at ei gilydd wrth y siop neu’r efail. Yn aml byddai’r canu yn para am oriau, tan berfeddion, a ninnau’r plant i fod yn cysgu’n drwm. Ond roedd yn werth cadw’n effro i glywed tua ugain i bump ar hugain o ddynion ifanc gyda chyfoeth o leisiau tenor a bas yn canu emynau gan mwyaf. Tybed a oedd cysylltiad rhwng y canu wrth y ffynnon â diwygiad 1904-05 a Methodistiaid oedd y rhan fwyaf o bobl fyddai mynd yno i ganu.

Does neb yn gwybod pwy gododd y cwt yn y lle cyntaf. Roedd rhywun wedi teimlo bod angen rhyw fath o adeilad dros y ffynnon. Roedd llai o reolau cynllunio a phwyllgorau'r dyddiau hynny a byddai’r cwt wedi ei godi heb fawr o ffỳs na ffwdan. Mae’n bosib mai Stad y Penrhyn oedd y tirfeddianwyr yr adeg honno. Galli’r Cyngor Plwyf fod wedi ei godi neu unigolion oedd yn teimlo bod angen rhyw fath o adeilad dros y ffynnon. Daeth llawer tro ar fyd yn yr ardal hon, fel mewn mannau eraill ers hynny, ond da bod atgofion fel hyn yn cael eu cadw.

Diolch i Mr Derek Williams am ganiatâd i gofnodi cynnwys y llythyr yn Llygad Y Ffynnon. Tybed a oes gan un o’n haelodau wybodaeth ychwanegol am y ffynnon hon a ffynhonnau eraill yn y fro?

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR....PYTIAU DIFYR.... PYTIAU DIFYR...... PYTIAU DIFYR

Meddai Syr Ifor - gan Syr Ifor Williams, Tregarth. Llyfrfa’r M.C. Caernarfon 1968

“Pa ryfedd i’r Methodistiaid Calfinaidd mor gynnar â 1801 gyhoeddi yn eu Rheolau Disgyblaeth nad oedd yr un o’u deiliaid ‘er dim i arfer swynion na swyn-gyfaredd mewn un achos perthynol, i ddyn nac anifail; na myned ar ôl dewiniaid; nac ymofyn â brudwyr, nac offrymu i ffynhonnau; na dilyn un arferiad llygredig o’r fath; y rhai nid ydynt wello nag ymgynghori â Chythreuliaid’. Mewn nodyn ‘chwanegir, ‘Swyno (neu fel y dywaid rhai cyfrif) y ddafad wyllt, neu ryw afiechyd arall, beth ydyw ond ymofyn am y Diafol yn feddyg; Offrymu i Ffynnon Elian (neu ryw ffynnon arall) ar ein lles ein hunain neu ein hanifeiliaid, neu i geisio ymddîal ar ryw-un, beth ydyw ond offrymu i Ddiafol a galw am ei gymorth Dieflig ef? Y mae’r arferion hyn yn gyffredin iawn mewn rhai parthau o’n gwlad, er mawr waradwydd i’w thrigolion tywyll, anwybodus, ac annuwiol.’ ”

(Diolch i Howard Huws am dynnu ein sylw at yr uchod.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

YMWELYDD DIDDOROL SY’N RHYFEDDU AT EIN FFYNHONNAU

Ken, Eirlys, Tibor a Gwyn

Daeth Gwyn Edwards ag ymwelydd diddorol ac annisgwyl i’r Wyddgrug ar ddiwedd mis Ebrill.

Dyn o Hwngari yw Tibor. Bu unwaith yn beilot awyrennau ond erbyn hyn mae’n teithio o wlad i wlad i rannu profiad anghyffredin iawn a gafodd. O dan lawdriniaeth bu farw a pharhaodd yn farw am naw munud. Yn rhyfeddol cafodd adferiad ond y peth mwyaf oedd yr hyn a brofodd yn ystod yr amser y bu’n glinigol farw. Roedd ym mhresenoldeb Duw a chariad diamodol yn ei amgylchynu. Bellach mae’n rhannu ei brofiad gan ddweud wrth bawb mai caru ein gilydd sy’n bwysig. Nid oedd yn berson crefyddol cyn hyn. Er ei fod yn aelod o’r Eglwys Babyddol mae’n parchu pob traddodiad Cristnogol. Gwêl fod y ffynhonnau yn ein tynnu ni i gyd at ein gilydd. Cafodd agoriad llygad wrth weld amrywiaeth pensaernïol ein ffynhonnau a chyfoeth y traddodiadau amdanynt sy wedi goroesi. Roedd wrth ei fodd fod Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn ceisio adfer yr hen ffynhonnau. Roedd wedi ymweld â Threffynnon ac wedi rhyfeddu at y lle a rhoddwyd copi o Llygad y Ffynnon yn cynnwys llun o Ffynnon Wenffrewi iddo. Roedd yn edmygu gwaith y gymdeithas yn fawr iawn ac yn dymuno’n dda i ni yn y dyfodol.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y ffynhonnau rydym wedi ysgrifennu at Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth yn y Cynulliad i ofyn am ei gymorth i ddiogelu safleoedd y ffynhonnau. Da byddai cael grym statudol o’r Cynulliad i orfodi perchnogion preifat i ddiogelu’r ffynhonnau ar eu tir. Hefyd dylai Cynghorau, wrth ystyried ceisiadau am adeiladu a lledu ffyrdd, fod yn ymwybodol o bwysigrwydd ffynhonnau rhag iddynt gael eu dinistrio gan ddatblygiadau.

cffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffcffc

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

Ffynnon Dudwen, Llandudwen, Llŷn (SH27 473679)

Bu Bleddyn Prys Jones, sy’n gweithio i Gyngor Gwynedd, yn arwain tîm i adfer Ffynnon Dudwen, Llandudwen, Llŷn, yn ddiweddar. Gofiwn am y gwaith ardderchog sy eisoes wedi ei wneud ar Ffynnon Fyw, Mynytho ( SH30913087) a Ffynnon Aelhaearn, Llanaelhaearn (SH38414462) ganddo ef a’i weithwyr. Roedd Myrddin Fardd yn canmol y ffynnon hon. Yn yr adeg pan roedd yn ysgrifennu ei gyfrol werthfawr Llên Gwerin Sir Gaernarfon, a gyhoeddwyd yn 1908, roedd y ffynnon wedi mynd a’i phen iddi. Meddai, Erbyn hyn nid oes yn aros o’r hen ffynnon, ragor na llefod yn nghwr cae ger yr eglwys- amser wedi ei thorri i lawr a’i chladdu yn ei phwll ei hun. Cyrchai lluoedd ati o bob cyfeiriad; taflent arian a phinnau iddi mewn trefn i sicrhau bendith iddynt eu hunain oddiwrth y Santes. Roedd Tudwen yn byw yn y seithfed ganrif ac roedd i ddyfroedd ei ffynnon alluoedd arbennig i wella pob math o salwch. Cyfrifid ei dwfr yn effeithiol i wrthweithio anhwylderau y llygaid - y dwymyn ddyspeidol, y cryd cymmalai, gwendid yn y gewynnau, arteithiau y rhai a gystuddid gan y Digwydd sef rhyw fath o wasgfeuon neu lewygon. Ohoni y cymerid dŵr i fedyddio yn yr eglwys a gerllaw iddi y cynhaliwyd priodasau dirgel. Roedd yn gyrchfan anghysbell heb ffordd hwylus i fynd iddi, a dyna pam yn ôl Myrddin Fardd, y cafodd ei anghofio. Dyna hefyd, hwyrach pam ei bod wedi goroesi.

Cyn dechrau’r gwaith.

Pan aeth Bleddyn a’i weithwyr i’r safle i ddechrau roedd tyfiant gwyllt dros y ffynnon. Rhaid oedd tocio’r tyfiant a chlirio’r safle - gwaith caled ond hanfodol. Yn raddol daeth y ffynnon i’r golwg. Yn ôl y disgrifiad a geir ohoni yn The Ancient Monuments of Caernarvonshire roedd ar ffurf hanner cylch, ei diamedr tua chwe throedfedd ac roedd yn mesur tair troedfedd o’i chefn i’w blaen. Roedd muriau’n codi tua thair troedfedd y tu ôl iddi gan ostwng yn raddol tuag at flaen y ffynnon. Yno roedd cerrig llyfnion yn creu argae i ddal y dŵr.

Dyluniad o’r ffynnon.

Wrth glirio’r safle daeth cerrig y ffynnon i’r golwg a gwelwn fod y disgrifiad ohoni yn adroddiad y Comisiwn Hynafiaethau yn gywir. Gwelwn oddi wrth y lluniau bod angen sgiliau arbennig i adfer ffynnon. Hefyd mae’n cymryd amser ac egni heb son am y gost o gyflogi gweithwyr. Rydym yn ffodus iawn fod Cyngor Gwynedd yn barod i ariannu prosiect fel hwn.

Olion y ffynnon yn dod i’r amlwg.

Golwg agosach arni.

Y bwriad nawr yw clirio mwy o gwmpas y ffynnon a’i glanhau. Bydd hyn yn golygu ei hail-adeiladu i bob pwrpas. Yna gobeithir gosod plac a llechen arni, codi ffens gadarn o’i hamgylch i gadw’r gwartheg rhag mynd iddi, a chreu llwybr ati. Nid ydym eto wedi llawn sylweddoli potential y ffynhonnau i ddenu ymwelwyr na chwaith eu gwerth fel mannu tawel y gall pobl fynd atynt i fyfyrio.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gael mwy o hanes yr adfer ar y ffynnon arbennig hon sy’n golygu llawer i’r gymuned leol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYNHADLEDD FFYNHONNAU FLYNYDDOL

PRIFYSGOL LLANBEDR PONT STEFFAN –11 a 12 MEDI 2010

Eleni bydd sgyrsiau am ddyddio waliau cerrig hynafol, darganfyddiadau newydd yn Ffynnon Fair, Margam, a ffynhonnau Ystrad Fflur. Gobeithir mynd i ymweld â ffynhonnau yng Ngheredigion neu yn Sir Gaerfyrddin ar y Sul. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â Dr Madeleine Gray, Darllenydd mewn Hanes, Ysgol Addysg Prifysgol Cymru Casnewydd, Campws Caerllion, Casnewydd NP18 3QT. Rhif ffôn 01644 432675 e-bost- Madeleine. Gray@newport.ac.uk <mailto:Gray@newport.ac.uk>

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GÂN............YW’R GEINIOG

Mae blwyddyn aelodaeth o’r gymdeithas yn mynd o Orffennaf i Orffennaf a daeth yn adeg adnewyddu tâl aelodaeth unwaith eto. Os nad ydych yn aelod am oes neu’n talu drwy archeb banc byddai’r Trysorydd - Ken Lloyd Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1TH- yn falch iawn o dderbyn eich tâl aelodaeth yn y dyfodol agos. Diolch o galon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

PABELL Y CYMDEITHASAU 1

MAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL BLAENAU GWENT A BLAENAU’R CYMOEDD

DYDD MERCHER, 4 AWST am 1.00 o’r gloch

Wedi Cyfarfod Cyffredinol byr o dan gadeiryddiaeth Howard Huws ceir darlith gan

ANGELA GRAHAM, Caerdydd

cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilm a theledu ar

FFYNNON FAIR PEN-RHYS - PORTH Y NEFOEDD

CROESO CYNNES I AELODAU HEN A NEWYDD

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Ffôn: 01352 754458 e-bost: gruffyddargel@talktalk.net

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GWEFAN CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU: www.ffynhonnau.Cymru.org

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up