Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                                                                                          Rhif 27 Nadolig 2009

YMWELIAD AG IWERDDON

gan Howard Huws

Ffynnon Saraίn Sant

Fis Awst euthum ar bererindod i Gonnemara, ac wrth yrru rhwng Clonmacnois a Shannonbridge yn Swydd Offaly, digwyddais weld arwydd ffordd a’m cyfeiriodd at Ffynnon Saraín Sant. Mae’r Gwyddelod yn rhagori arnom ni’r Cymry yn hynny o beth, a dangosir safle pob ffynnon sanctaidd hysbys ar eu cyfres mapiau “Landranger”, hefyd. O na bai yma eu tebyg!

Canfûm y ffynnon heb fawr o drafferth, yng nghanol cae gwair ar lannau Brosna. Mae ffens a chroes haearn fawr yn amlygu’r man, a chlwyd yn caniatáu mynediad at y dyfroedd. Amddiffynnir y tarddle â gwaith cerrig a morter amdani ac yn gromen arni. Mae arwydd wrth fynedfa’r cae yn esbonio arwyddocâd y ffynnon, a deallaf ei bod yn gysylltiedig ag eglwys Tigh Saraín (Tŷ Sarain), tua milltir i ffwrdd. Dywed yr arwydd y bu cryn bererindota at y ffynnon yn ystod yr Oesoedd Canol, ac o weld yno botel blastig wag yn crogi gerfydd llinyn hir, at ddiben codi dŵr, mae’n amlwg na pheidiodd y cyrchu ati wedi hynny.

 

Bullán na Sύile

Y diwrnod canlynol glaniais ar ynys Árainn Mór, lle dangosodd dywysydd imi ddwy ffynnon arall. Neu ddwy ffynhonnell, ddylwn i ddweud, oherwydd “bullán” oedd y cyntaf ohonynt. “Bullán” yw carreg â phant neu bantiau ynddi; ôl pen-glin sant, medd rhai, ôl malu mwynau yn yr hen oesoedd, medd eraill. Boed a fo, mae dŵr yn tueddu i grynhoi yn ambell i bullán, a chredir fod i’r gwlybwr hwnnw ei rinweddau. Iachau llygaid dolurus yw rhinwedd Bullán na Súile (“Bullán y Llygaid”) Árainn Mór, ac fe’i ceir yng ngodre un o’r cloddiau cerrig hynny sy’n nodweddu’r ynys. Bu ond y dim i weithwyr anwybodus ei falu’n ddiweddar, ond llwyddodd y tywysydd i’w arbed.

Nepell oddi wrtho ceir ffynnon llawer fwy sylweddol, Tobar na Naomh (Ffynnon y Saint) yn ymyl adfail Teampall na Naomh, sef Eglwys y Saint (Y Pedwar (Sant) Teg, a bod yn fanwl). Fel yn achos llawer o ffynhonnau Iwerddon, mae defod neilltuol, “pattern”, i’w chyflawni os ydych am gymorth trwy gyfrwng y dyfroedd. Yn yr achos hwn, rhaid codi saith carreg gron o bentwr gerllaw’r tarddle, a cherdded saith gwaith o amgylch y ffynnon a’r eglwys, gan weddïo. Pob tro yr eir heibio i’r ffynnon, gollyngir un garreg yn ôl ar y pentwr. Wedi bwrw’r garreg olaf, gellir yfed o’r dŵr, a mynegi dymuniad: ond yn yr achos hwn, rhaid gwneud hynny er budd rhywun arall, nid er eich mwyn chi’ch hun. Roedd yn y ffynnon roddion (paderau, darnau arian ac ati), ac yn ôl y tywysydd tystiai hyn fod y ffynnon yn “weithredol”.

Tobar na Naomh

Aros yn Letterfrack yr oeddwn, a chefais wybod bod ffynnon sanctaidd yn ymyl adfeilion Eglwys y Saith Merch (Teampall na Seacht Iníon) yn Renville, ychydig filltiroedd i ffwrdd. Euthum yno’n blygeiniol, ac er nad anodd fu canfod yr eglwys, nid oedd ffynnon i’w gweld. Wedi cryn straffaglu o gwmpas caeau corslyd, a chrwydro i fuarth fferm, roeddwn ar fin rhoi’r gorau iddi pan benderfynais fwrw golwg arall ar y map. Ac o’i astudio’n drylwyr, mynd hyd lwybr mwdlyd iawn nad arweiniai i unman, i bob golwg. Dringais fryncyn, ac o godi uwchlaw’r cloddiau, gallwn weld y Ffynnon y Saith Merch yn swatio rhwng llwyni eithin.

Ffynnon y Saith Merch

Roedd carreg drom yn glawr arni, â chroes goch wedi’i phaentio arno: crogai arwydd “Holy Well” bach gerllaw. Roedd y maen yn rhy drwm imi fedru’i symud: ond wedi’r holl straffaglu, da oedd imi ganfod y man. Yr hanes yw y sylfaenwyd yr eglwys gan saith chwaer, merched brenin o Frython: rhagor na hynny, nis gwn.

Ynys Omey oedd cyrchfan nesaf ni bererinion. Mae yno sawl man diddorol, gan gynnwys hen eglwys Feichin Sant. Cloddiwyd yr adfail o afael twyni tywod ychydig flynyddoedd yn ôl, pan ddaeth pen y talcen i’r amlwg wrth i helwyr trysor ganlyn eu harferion. Yr ochr draw i’r gefnen ceir ffynnon sanctaidd, â wal gerrig isel ogylch y tarddle gwreiddiol. Doedd dim dŵr yno adeg f’ymweliad, er gwlyped y tywydd: ond codai drwy’r glaswellt gerllaw, fel petai’r ffynnon yn mynnu ei ffordd i’r amlwg, doed a ddelo. Dŵr ai peidio, roedd croes bren ar y

 

Ffynnon Sanctaidd Ynys Omey

tarddle gwreiddiol, a cherrig crynion, mwclis, rhubanau, poteli ac un esgid rwber ddu yn addurno’r fan. Roedd yn amlwg yn “weithredol”. Ar fy ffordd oddi yno, gwelais ddwy groes bren fechan wrth droed carreg fawr. Ychydig ymhellach ymlaen, dyna faen enfawr, a phentwr o gerrig llai ar ei ben. Beth yw eu diben? Ai dangos y ffordd at y ffynnon?

Ffynnon Brenin y Saboth

Y ffynnon olaf yr ymwelais â hi oedd Tobair Rí an Dhomhnaigh, “Ffynnon Brenin y Saboth” yn Kilgeever, i’r gorllewin o Westport yn Swydd Mayo. Eto, ffynnon ddigon amlwg, da ei chyflwr, â gwaith cerrig amdani. Gosodwyd cerflun bychan, lliwgar o Grist yn nillad brenin ar gromen y ffynnon, ond nid oedd yno ddim cerrig crynion na phaderau i’w gweld. Gwelais, serch hynny, fod y safle’n un “gweithredol”, oherwydd yn adfail eglwys gerllaw ceir carreg fedd, yn dyddio o ganol yr 1880au, yn wastad â’r llawr. ‘Does dim anarferol yn hynny: ond y mae croes a chylch wedi’u hysgythru’n ddwfn ar y maen hwn, ac nid gan y saer maen a’i lluniodd. Yn hytrach, mae cannoedd o bererinion hyd y blynyddoedd wedi crafu’r groes a’r cylch a thameidiau o lechfaen, gan weddïo. Tystiai darnau bach o lechfaen a adawyd ar y garreg nad yw’r arfer wedi peidio. Er gwaethaf difetha’r eglwys, parheir i ofalu am y man: ac fel ffynnon hesb Ynys Omey, nid yw ei chyflwr yn amharu ar ei sancteiddrwydd.

Croes y Pererinion Kilgeever

Gwelir yn Iwerddon nad yw ffynhonnau sanctaidd yn wrthrychau unigol, ond yn rhan o dirwedd ysbrydol sy’n cynnwys eglwysi, llwybrau, mannau nodedig, arferion a hanesion. Nid yw pob un cystal ei chyflwr, ac y mae anwybodaeth a difaterwch yn eu bygwth eto: ond gwyddys eu bod yno, parheir i’w parchu a’u defnyddio, ac ymdrechwyd i gofnodi’n gywir hynny o hanes a gwybodaeth amdanynt a oroesodd. Y wers yw na chyfyngwyd ein gwaith ni yng Nghymru i achub, adfer a chynnal tarddellau dŵr yn unig: mae angen inni ailddarganfod y dirwedd gysegrol y mae’r ffynhonnau’n rhan annatod ohoni, cyn y medrwn lwyr amgyffred eu harwyddocâd nhw.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Eirian Roberts, Ysbyty Ifan.

Y Parchedig Neil Fairlamb, Biwmares

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

COLLI AELOD:

Bu farw Eirlys Jones, Bryn Siriol, Gellifor, Rhuthun, yn dawel yn Ysbyty Glan Clwyd ar Hydref 26. Roedd yn 90 oed. Bu gynt yn byw yn Ffynnon Dudur, Llanelidan, ac ysgrifennodd erthygl i Llygad y Ffynnon am ei dyddiau yno ac am effeithiolrwydd y ffynnon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYFAFOD CYFFREDINOL I’W GOFIO

Y GYNULLEIDFA

Daeth nifer arbennig o dda i Babell y Gymdeithasau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau am hanner dydd ar Ddydd Mercher 5ed o Awst 2009 i Gyfarfod Cyffredinol y gymdeithas. Llywyddwyd gan Howard Huws ac ar derfyn y cyfarfod busnes byr eisteddodd pawb yn ôl i wrando ar yr Hybarch Abad Dad Deiniol yn traddodi darlith ar Seintiau a Ffynhonnau Cymry.

YR HYBARCH ABAD DAD DEINIOL

Mae’n ymddangos bod llawer o’n ffynhonnau sanctaidd yn bodoli yn y cyfnod Celtaidd, cyn-Gristnogol a bod y seintiau cynnar wedi newid eu defnydd, a’r arferion o’u cwpmas yn cael eu troi yn rhai Cristnogol. Roedd iddynt felly, arwyddocad newydd. Fel hyn trodd llawer o’r canolfannau paganaidd yn rhai Cristnogol wrth i sant sefydlu ei gartref a’i eglwys ger ffynnon. Roedd angen y dŵr ar gyfer dibennion bob dydd ond roedd hefyd ei angen i fedyddio. Credir bod tua dau gant o fffynhonnau yng Ngymru sy’n dwyn enw sant. Ar adegai byddai ffynnon yn tarddu o’r ddaear yn y man y bedyddiwyd sant fel yn achos Cadog a Dewi, neu wrth ei dienyddio fel yn hanes Gwenfrewi. Yn y Canol Oesoedd roedd crefydd yn rhan hanfodol o fywyd a ffynhonnau’r saint yn cynnig iachad. Daeth yr eglwysi yn fannau pererindod a chreiriau’r saint yn derbyn parch ac anrhydedd gan y bobl. Ambell dro, fel yn Llandeilo, Llywdiarth y sir Benfro rhaid oedd yfed y dŵr o’r ffynnon allan o benglog y sant. Wedi’r Canol Oesoedd daeth newid pwyslais a gwelwyd ei bod yn llai allweddol i Dduw weithio drwy bethau materol ond roedd pobl yn dal i gyrchu at y ffynhonnau a’r arferion o’u cwmpas yn parhau. Daeth yr arfer o daflu pinnau a darnau o arian i’r ffynhonnau yn fwy cyffredin a daeth y ffynnon a fu’n sanctaidd gynt yn agosach i fyd hud a lledrith a’r ffynhonnau sanctaidd yn cael eu troi yn ffynhonnau lle y gellid gofyn am i ddymuniadau gael eu gwireddu.

Diolchodd Howard yn gynnes iawn i’r Tad Deiniol am ei ddarlith ddiddorol ac i bawb a ddaeth yno i wrando arno.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYNHADLEDD FFYNHONNAU PRIFYSGOL BANGOR

 

HOWARD HUWS O FLAEN YR ARDDANGOSFA

Ar Fedi 13eg a 14eg cynhaliwyd cynhadledd ar Ffynhonnau Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Fe’i trefnwyd gan y Dr. Madeline Gray o Brifysgol Casnewydd. Cafwyd dwy ddarlith ddiddorol iawn am Ffynnon Fair ym Mhenrhys.(ST 0094) Soniodd Angela Graham, Caerdydd, am le’r ffynnon yn y gymuned a’r adfer a fu arni, y pereindota sydd ati heddiw a’r ŵyl a gynhelir yno. Canolbwyntiodd Dr. Madeline Grey ar lle’r ffynnon hon yn storiâu o’r Oesoedd Canol. Gwerthfawrogwyd cyfraniad Elias Owen, yn casglu a chadw gwybodaeth am ffynhonnau yn y bedwared ganrif ar bynmtheg gan Tristan Grey Hulse a chafwyd braslun o’r gwaith ymchwil sy ar droed ym Mhrifysgol Llanbedr-Pont-Steffan gan y Dr. Jonathan. M. Wooding. Cafwyd arddangosfa a sgwrs am waith Cymdeithas Ffynhonnau Cymru a’r cyfan yn cael dderbyniad da. Hefyd roedd cyfeillion Wellsprings yno gydag arddangosfa broffesiynol iawn. Mae’n ymddangos bod diddordeb yn y ffynhonnau ar gynnydd a’r pwnc bellach yn cael ei ystyried yn faes addas i haneswyr ac academyddion ymddiddori ynddo. Bydd nifer o fyfyrwyr o dan arweiniad Dr Jonathan Wooding yn gwneud arolwg o ffynhonnau Ceredigion yn y dyfodol. Ar y Sul Medi 14eg ymwelwyd â nifer o Ffynhonnau ym Môn. Bu Howard Huws gyda’r criw aeth o gwmpas y ffynhonnau ac edrychwn ymlaen at gael adroddiad ganddo yn y dyfodol. Mae’n bosib y bydd y gynhadledd hon yn dod yn un flynyddol. Gwych!

EIRLYS A KEN YN MWYNHAU’R GYNHADLEDD

CHRISTOPHER NAISH SY’N CYFIEITHU LLYGAD Y FFYNNON I AELODAU WELLSPRINGS

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR

Yn y gyfrol The County Coast Series – The South Wales Coast, gan Ernest Rhys a gyhoeddwyd yn 1911, ceir cyfeiriadau am nifer o ffynhonnau ardaloedd yr arfordir yn siroedd Mynyw, Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro. Mae ei sylwadau yn rhoi darlun i ni o gyflwr y ffynhonnau hyn ganrif yn ôl.

Ar dudalen 41 mae’n disgrifio’r dirwedd goediog lle y dywed fod Dafydd ap Gwilym wedi crwydro wrth aros yng nghartref Ifor Hael, Gwern -y-Cleppa ger Maesaleg neu Bassaleg fel ei gelwir heddiw. Wedi mynd heibio’r orsaf croesodd y bont dros yr afon Ebwy a cherdded ar hyd llwybr oedd yn arwain at fferm Ffynnon Oer. (ST 2785) Tybed a yfodd Dafydd o ddŵr y ffynnon ar ei daith i ymweld â llys Ifor Hael?

Cyfeiria at ddwy ffynnon lle y gadawyd carpiau ar goed gerllaw, un ger Pen-y-bont ar Ogwr (SS 9079) a’r llall ger Marcroes (SS 9268) yn agos i Nash Point. Roedd hon yn enwog am wella llygaid poenus a chryfhau’r golwg. Dywed yr awdur fod pererinion at y ffynnon yn arfer sefyll yn y dŵr gan olchi eu llygaid neu ran arall clwyfedig o’r corff gyda cherpyn wedi ei wlychu yn nŵr y ffynnon. Wedyn crogwyd y cerpyn ar ddraenen gerllaw a theflid darn o arian neu bin i’r dŵr fel offrwm i ysbryd y ffynnon. Roedd yr anhwylder wedi ei drosglwyddo i’r cerpyn ac wrth i hwnnw bydru byddai’r gwendid yn lleihau cyn diflannu’n gyfan gwbl. Roedd nifer fawr o garpiau ger y ffynnon yn 1911 a hyn yn tystio i gred yr ardalwyr yn effeithiolrwydd y dŵr.

Yn y Drenewydd yn Notais (Newton Nottage) mae Ffynnon Sant Ioan (SS 8377) lle mae’r dŵr yn felys. Mae traddodiad fod lefel y dŵr yn codi ac yn gostwng gyda’r llanw. Gerllaw iddi, i gyfeiriad y de-orllewin mae olion cylch cerrig hynafol. Tua 1820 roedd yn arferiad i fynd i’r cylch ar Alban Hefin- Mehefin 21- a chynnau coelcerth yn y cylch, taflu cosyn bychan o gaws dros y tân ac yna neidio dros y llwch wedi i’r tân ddiffodd.

Ar Benrhyn Gwyr, ar Gefn y Bryn mae ffynnon sanctaidd gerllaw cromlech o’r enw Coetan Arthur (SS 4990) hynny galwyd y garreg yn Faen Ceti ar ôl Ceti Sant. Mae’n bosib felly fod y ffynnon hefyd wedi ei chysegru iddo.

Wrth ymweld â Llanelli (SN 50000) noda bod enwogrwydd Elli Sant wedi cynyddu’n fawr ar ôl ei farwolaeth a bod Ffynhonnau Elli yn fwy enwog yn eu dydd na rhai Llandrindod a Llanfair-ym-muallt. Dwedodd un gŵr lleol wrth Richard Fenton, y teithiwr o’r ddeunawfed ganrif, iddo weld saith plwy yn cyfarfod yn Llanelli ar gyfer gŵyl Fabsant Elli ar Ionawr 17eg.

Yn Llansteffan, ar lan aber yr afon Tywi mae Ffynnon Antwn (SN 3410) . Gellir mynd ati, meddai, wrth ddilyn llwybr sy’n mynd islaw’r castell ond uwchlaw’r traeth. Synna fod y ffynnon wedi ei chadw mewn cyflwr da gyda’r gwaith cerrig yn gywrain a’r agen yn y mur lle y gosodid delw o’r sant yno o hyd. Roedd cred bendant yn effeithiolrwydd y dŵr i wella nifer o anhwylderau, ond yn enwedig rhai oedd yn effeithio’r golwg. Roedd dŵr y ffynnon yn cael ei ddefnyddio gan y bobl leol ddechrau’r ugeinfed ganrif ac roedd rhaid taflu pin i’r ffynnon ar ôl ymweld â hi. Meddai’r awdur. “Nid yw pin yn ddim i ni, ond yn y gorffennol roedd yn eiddo gwerthfawr i wragedd tlawd. Hawdd yw dychmygu’r pererinion yn penlinio mewn gweddi ger y ffynnon gan ddeisyf am wellhad.”

Yn sir Benfro mae’n nodi’r ffynnon yn Bosherton a Ffynnon Gofan.(SM 9692) Mae’r ffynnon mewn capel bychan hanner ffordd i fyny’r clogwyn ger y môr. Dim ond rhywun ar ben ei dennyn ac yn barod i wneud unrhyw beth i wella o’i anhwylder a fyddai’n barod i fentro’r llwybr i’r ffynnon gerllaw’r capel a phenlinio yno mewn gweddi i’r sant, meddai.

Yn Nhyddewi mae’n ymweld â Ffynnon Non (SM 7525) Mae tua hanner canllath i’r chwith o’r llwybr cyn cyrraedd Capel Non. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd mur o gwmpas y ffynnon a rhaid oedd i’r awdur ddringo drosto i gael mynediad i’r ffynnon. Yfodd o’r dŵr gan ddweud ei fod yn felys a chlir a theimlodd wedi ei adnewyddu ar ôl ei yfed. Roedd y ffynnon yn dal mewn bri a phinnau yn cael eu taflu iddi er mwyn sicrhau dymuniad- ffynnon gofuned. Bydd arian a adewir mewn agen ar yr ochr chwith yn adeiladwaith y ffynnon yn siŵr o ddiflannu!

Yng Ngheredigion mae’n nodi Ffynnon Ddewi (SN 3852)rhwng y bedwaredd ar ddeg a’r bymthegfed garreg filltir ar ochr y ffordd rhwng Aberteifi ac Aberaeron. Dywedir bod Dewi ar ei ffordd o Dŷ Ddewi I Henfynyw ger Aberaeron. Arhosodd i fwyta ei grystyn sych a daeth daeth syched arno. Wrth iddo fendithio’r bara cododd tarddiad i ddŵr pur o’r ddaear wrth ei draed er mwyn ei ddisychedu.

Wedi cyrraedd Aberaeron (SN 4562) (ymwelodd â’r ffynnon iachusol yno. Dywed fod hon yn un o’r ffynhonnau haearn (chalybeate) g orau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ffynhonnau hyn yn arferol yn cynnwys swllfed o galsiwm a magnesiwm ac nid yw’r rhain yn hwyluso mynediad yr haearn i’r corff. Mae dŵr ffynnon Aberaeron ar y llaw arall, yn cynnwys ‘carbonate of the proxide of iron’wedi ei doddi mewn dŵr eithriadol o bur. Fel canlyniad mae blas y dŵr yn fwy melys ac effaith yr haearn ar y corff yn fwy llesol ac yn gweithio yng nghynt na dŵr y ffynhonnau haearn arferol.

>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>

BEDD GELERT- ITS FACTS, FAIRIES & FOLK-LORE gan D.E. Jenkins 1899

Mae’r awdur yn sôn am Ffynnon y Priordy (SH 5948) ym Meddgelert ar dudalen105.Cysegrwyd y priordy i’r Santes Fair a nepell o’r pentref roedd ffynnon wedi ei neilltuo i ddefnydd y mynachod, a thrwy ei dŵr byddent yn gwneud gwyrthiau o iachau.

Wrth ddisgrifio Cwm Diffwys ar dudalen 133 mae’n disgrifio Ffynnon Owain Glyndŵr:

Nepell o’r fan lle mae dŵr yn tarddu o’r ddaear mae pwll bychan a elwir yn Ffynnon Owain Glyndŵr. Dywedir mai dyma’r fan lle cafodd Owain ddŵr i’w yfed yn ddyddiol yn ystod y chwe mis y bu’n cuddio yn yr ardal hon.

Ar dudalen 225 ceir hanes am drysor mewn ffynnon ar Ddinas Emrys.

Roedd gweision Hafod y Porth yn cywain gwair ar Ddinas Emrys un prynhawn heulog braf. Aeth un ohonynt at y ffynnon a gwthio coes ei gribyn i mewn i’w gwaelod. Wrth daro’r graig gallai glywed sŵn fel darnau o arian yn tincian. Ceisiodd gael gafael ar yr arian a dechreuodd godi cerrig o’r ffynnon. Yr eiliad honno daeth corwynt i lawr o’r tir uchel a chenlli o law i’w ddilyn. Rhedodd pawb i lawr ochr ogleddol y mynydd ond erbyn iddynt gyrraedd Maes yr Efail roedd yn haul braf ac nid oedd diferyn o law i’w weld ar y ddaear. Cymaint oedd dychryn y gweithwyr fel y gwrthododd pawb fynd yn ôl i’r cae gwair a bu rhaid i’r ffermwr droi ei anifeiliaid iddo er mwyn bwyta’r gwair.

>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>

YNG NGWLAD EBEN FARDD allan o CYMRU Cyfrol IV Ebrill 15fed 1833 tud. 215

Cychwynasom o bentref Llangybi (SH 4241) drwy’r fynwent at droed y Garn. Yno ar fin y coed sydd ar y llethr, y mae Ffynnon Gybi. Ffynnon loyw’n codi o’r ddaear ydyw, a mur crwn o’i hamgylch, a sedd garreg o gylch y ffynnon y tu mewn i’r mur. Yn ymyl y mae tŷ, - a’i do erbyn hyn wedi syrthio iddo – lle y preswyliai ceidwad y ffynnon. Y mae’r lle’n unig ac adfeiliedig, ac ni welir un pererin pryderus yn cyrchu ato mwyach i holi am iechyd neu swyn.

>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>

COFIANT Y PARCH. DANIEL ROWLAND gan Y Parch D. Worthington(1905) tud.51(Cadwyd y sillafu gwreiddiol) (SN 6259)

Byddai yn fynych yng nghynulliadau a chymmundebau Llangeitho bobl o wahanol barthau o Gymru ar yr un pryd. Adroddir am y cannoedd pererinion hyn, y byddent yn cyfarfod wrth Ffynnongeitho, rhyw filltir o Langeitho: hon oedd yr orsaf olaf cyn iddynt gyrhaedd pen y daith. Gelwid y ffynnon gynt yn Ffynnon y Pererinion, Ffynnon y Cymmundeb, a Ffynnon y Saint. Ac wrth y ffynnon hon y byddent yn gorphwys ennyd tra yn cymeryd ychydig luniaeth, ac yn talu diolch am dano i Dad y trugareddau. Ac wrth gychwyn i fyny i olwg Dyffryn Aeron, byddent yn canu emynau... a byddai eu sŵn nefolaidd yn disgyn ar glust Rowland pan yn rhodio yn araf ar lan afon Aeron oedd yn ymdroellu tua’r môr o flaen y rheithordy.“Wel dyma nhw yn d’od â’r nefoedd gyda hwy,” meddai.

>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>>

RHAG OFN YSBRYDION gan Y Parchedig J. Towyn Jones (2008) Tu.87

Ers ymhell yn ôl yn niwloedd amser, gwelwyd llaw lysnafeddog yn codi o Ffynnon Ddewi (SN 4461) ger Eglwys Henfynyw a llais gwrywaidd yn ceisio am help. Byddai’r sawl a geisiai ymateb trwy gydio yn y llaw, yn cael ei bod hi’n llithro’n ôl i ddŵr y ffynnon o’i afael bob tro gyda llais yn datgan, yn ôl un fersiwn Gymraeg, ei fod wedi ei ddal yno am fil i flynyddoedd, ac yn ôl fersiwn arall yn Saesneg, hanner can mlynedd .

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FACH (Blaenau Ffestiniog, Meirionydd)(SH 7045)

gan Ken Lloyd Gruffydd

Yn rhifynnau 21 a 24 cafwyd sylwadau (a lluniau) gan y diweddar Emrys Evans, Manod, am y ffynnon hon. Dyma bytiau ychwanegol wedi eu cymryd o arolwg yr archeolegydd David Hopewell yn Archeoleg yng Nghymru, rhif 48 (2008) tud. 57-58. Yno dywed i’r tarddiad dŵr, ar ochr yr A470 ym Mwlch y Gorddinan ( Y Crimea), fod wedi ei ddiogelu ar ôl lledu’r ffordd yn ddiweddar. Tybia i’r garreg a oedd unwaith wedi sefyll uwchlaw’r ffynnon i ddynodi’r fan, ond sydd bellach ar ei chefn, gael ei chodi oddeutu’r 1850au cynnar pan ffurfiwyd y ffordd dyrpeg, ond does dim tystiolaeth bendant am hyn. Credir hefyd bod pob un o’r llythrennau ar y garreg wedi eu naddu ar ôl i’r garreg ddod i orffwys yn wastad ar y ddaear, a hynny ychydig cyn 1887- y dyddiad cynharaf a geir arni. Prawf arall yw mai dim ond ar yr wyneb at i fyny o’r garreg y ceir ysgrifen. Yr unig ddyddiad pendant y gellir ei briodoli i’r ffynnon yw 1859 pan ddywedwyd i Fethodistiaid selog y diwygiad mawr y pryd hynny alw yno’n rheolaidd i dorri eu syched.Ni ddylid gadael i’r mater porffwys gan fod un pwynt yn parhau heb ei ddatrus, sef yt honiad fod Ffynnon Fihangel yn enw arall ar Ffynnon Fach. Hyd yma nid oes unrhyw dystiolaeth fod hyn yn gywir. Mae yna Ffynnon Fihangel, (SH747643) eisoes ym mhlwyf Ffestiniog. Gweler Llygad y Ffynnon rhif 5 (1998)

 

FFYNHONNAU PERERINDOD

Yn ystod yr haf 2009 aeth nifer o bobl o ardal Llanelli, Sir Gaerfyrddin, ar bererindod o Ffald y Brenin i Dŷ Ddewi. Cymerodd y daith dri diwrnod ac ar flaen gorymdaith y pererinion wrth iddynt gerdded, roedd croes fawr yn cael ei chario a hyn yn tynnu sylw llawer o bobl ar y daith. Buont yn cysgu ar lawr dwy neuadd a Chanolfan Ieuenctid. Ymarfer oedd y daith hon ond yn 2010 bydd y bererindod ei hun yn digwydd. Mae’n eciwmenaidd a gallwch gerdded rhan o’r daith yn unig os dymunwch.

 

FFYNNON GAPAN, LLANLLAWER

Mae’r ffynhonnau yr ymwelwyd â hwy yn Sir Benfro. Mae Ffynnon Gapan,(SM 9836) yn Llanllawer, Cwm Gwaun. Hawdd gweld sut y cafodd yr enw am fod yr adeiladwaith dros y ffynnon ar ffurf capan neu foned. Er ei bod yn ffynnon sanctaidd ac yn enwog am fedru gwella’r dwymyn a’r ffliw, mae hefyd yn ffynnon lle gellir defnyddio’r dŵr i felltithio. Diddorol iawn oedd sylwi fod nifer o ddiliau gwellt- corn dollies- wedi eu clymu wrth y giât haearn o flaen y ffynnon. Mae’r doliau hyn yn symbol o ffrwythlondeb ac wrth gwrs, heb ddŵr byddai’r tir yn ddiffrwyth. Mae’n amlwg fod diddordeb arbennig gan rhai pobl yn y ffynnon hon.

Ymwelwyd â’r eglwys yn Nanhyfer a gysegrwyd i Frynach Sant. Roedd mwy nag un ffynnon wedi ei chysegru i’r sant yma yn sir Benfro ond collwyd rhai ohonynt. Roedd un, fel y gellid disgwyl, yn Llanfrynach,(SO 0725) rhyw filltir a hanner i’r de o’r eglwys ac roedd hon yn ffynnon rinweddol. Mae wedi diflannu erbyn hyn. Ym mhlwyf Castellhenri (SN0427), ger Capel Brynach a rhyw dri chwarter milltir i’r gogledd ddwyrain o eglwys y plwyf roedd ffynnon arall a gysegrwyd i’r sant. Roedd y gwaith cerrig drosti yn debyg iawn i Ffynnon Gapan. Ym Mhlwyf Llanfair Nantgwyn (SN 1637)roedd ffynnon sanctaidd arall wedi ei chysegru i Brynach.

Ymwelwyd hefyd â Ffynnon Wnda ym mhlwyf Llanwnda (SM 9339) a Ffynnon Samson ac Maen Samson i’r de o Langolman (SN 1127). Y ffynnon olaf yr ymwelwyd â hi oedd Ffynnon Non yn Nhyddewi. ( SM 7525) Mae hon mewn cyflwr da ac yn cael ei defnyddio o hyd i gryfhau golwg gwan.

 

FFYNHONNAU BRYN-Y-BEDD

Dyma luniau o ddwy ffynnon ar Fryn-y-Bedd Dolwyddelan,(SH 7352) gan Bill Jones. Mae un yn hen a’r llall yn fwy newydd. Gellir dyddio’r ffynhonnau yn ôl y modd y llifiwyd y cerrig ynddynt. Mae’r cerrig yn yr hen ffynnon wedi ei llifio â hwrdd, llif dywod. Nid yw’n hawdd dyddio'r math yma o lif am fod hwrdd yn cael ei ddefnyddio yn oes y pyramidiau ac yn dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw.

YR HEN FFYNNON

Mae’r ffynnon newydd wedi ei hadeiladu ar ôl 1860 am fod y cerrig ynddi wedi eu llifio â Hunter, llif fawr a ddaeth i chwarel Tyn-y-Bryn tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y FFYNNON NEWYDD

 

FFYNNON GWENFAEN, RHOSCOLYN MÔN (SH 2675)

Mae’r ffynnon hon wedi ei chlirio a’i glanhau yn ddiweddar gan y bobl sy’n ffermio’r tir lle mae’r ffynnon. Mae’r tirfeddianwyr wedi prynu Plas Rhoscolyn. Mae hon yn ffynnon arbennig iawn a dylai tirfeddianwyr gael gwybodaeth am ffynhonnau hanesyddol gwerthfawr sy’n rhan bwysig o’n treftadaeth, a’r cyfrifoldeb i’w diogelu.

 

AIL-DDARGANFOD FFYNNON BYWYD

Yn y cylchlythyr Adnabod Ardudwy, (Haf 2009) a gyhoeddir gan Gyngor Gwynedd, cafwyd hanes diddorol am y broses o chwilio ac ail-ddarganfod Ffynnon Bywyd yng Nghwm Moch, Uwch Artro. (23 6337) Dyma beth o’r hanes ar dudalen 8:

‘Mi fyddai’r diweddar Ieuan Jones, Stabl Mali gynt, yn falch iawn bod rhai o selogion Adnabod Ardudwy wedi dod o hyd i’r ffynnon fach ar ymyl llwybr Oes Efydd, Uwch Artro yng Nghwm Moch. Gwyddai mor werthfawr oedd hon i fugeiliaid ei blentyndod, i’r hen borthmyn a chyn hynny i’r masnachwyr cynnar a gludai greiriau cywrain o’r Iwerddon drwy Ardudwy. Ni wyddai am ei henw ond cofiai’n iawn am ei dŵr melys. Er bod yr enw wedi mynd ar goll ar lafar gwlad, mae cofnod dros ysgwyd at y ffynnon mewn hen hanes a gofnodwyd gan Morris Davies (Moi Plas) Trawsfynydd yn ei henwi - Ffynnon Bywyd.

Rhed y llwybr o Nant Pascan, Llandecwyn, dros y nant mae Edward Llwyd yn ei disgrifio o Foel Dinas i’r Glyn. Mae nifer o feini sylweddol eu maint yn ffurfio pontydd bychain drosti ar hyd ei thaith, pontydd sy’n tynnu sylw ac edmygedd o waith cywrain hen grefftwyr gwlad. Wedi croesi hon a dilyn y llwybr i fyny Cwm Moch dewch, yn y man, at yr hen ffynnon ar y chwith o’r llwybr. Gwelwyd hi gan lygad barcud Bob Tibbett ac aethom ati i’w harchwilio’n ofalus er gwaetha’r mwsogl trwchus. Tua throedfedd sgwâr yw ei mainta’r dyfnder hyd at benelin. Yn raddol cafwyd hyd i’w hymyl gwastad o gerrig a’i gwely o gerrig mân. Rhannwyd y gwaith o’i glanhau gan fod y dŵr yn annioddefol o oer! Gadawsom i’r dŵr yn y ffynnon glirio. Dim rhyfedd nad oedd yn hawdd i’w gweld. Mae’n ddisylw iawn a hawdd mynd heibio iddi pan fo’r mwsogl trwchus wedi cael pen rhyddid ac ychydig iawn o deithwyr heddiw sy’n manteisio ar ei rhin adfywiol.’

Mae cynlluniau ar droed i lanhau’r ffynnon. Os oes rhai ohonoch chi, aelodau selog a heini Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, yn barod i gynorthwyo gyda’r gwaith, ewch ar wefan Adnabod Ardudwy- www.adnabodardudwy.org.uk i wirfoddoli neu cysylltwch â ni ac fe wnawn i'ch cyfarwyddo at y rhai sy’n trefnu’r gwaith. Diolch i gyfeillion Adnabod Ardudwy am ganiatâd i gynnwys y wybodaeth uchod am Ffynnon Bywyd.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

GOLYGYDD: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Ffôn: 01352 754458 e-bost: gruffyddargel@talktalk.net GWEFAN- www.ffynhonnau.Cymru.org.uk

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up