Home Up

LLYGAD Y FFYNNON

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                         Rhif 26   Haf 2009

   

FFYNHONNAU  THOMAS  PENNANT

  Eirlys Gruffydd

                             Darlun Moses Griffith o Ffynnon Wenfrewi yng nghyfrol gyntaf  y Tours of Wales

Ar ddechrau 1778 cyhoeddwyd y gyntaf o dair cyfrol Tours in Wales, gan Thomas Pennant (1726-1798) o Downing ym mhlwyf Chwitffordd, Sir y Fflint. Gan fod ei gartref yn y plwyf agosaf at Dreffynnon does dim syndod i Ffynnon Wenfrewi (SJ185763) yno gael gryn sylw ganddo. Meddai:

 ‘Mae’r ffynnon wrth droed gallt serth islaw Treffynnon a’r dŵr yn berwi allan o graig i ffynnon hardd ar ffurf amlochrog (polygon) gyda bwa o garreg hardd drosti sy’n cael ei chynnal gan bileri. Mae’r to wedi ei gerfio’n gywrain. Dros y ffynnon mae capel o bensaernïaeth othig.’

Yna mae’n olrhain hanes Gwenfrewi a’r modd y daeth y ffynnon i fodolaeth. Mae’n sôn hefyd am y llu o bobl a gafodd iachâd yn y ffynnon dros y canrifoedd, yn cynnwys Pabyddion a Phrotestaniaid fel ei gilydd. Bu’r lle yn fan i bererinion ymweld ag ef ond mae’n nodi bod y niferoedd wedi lleihau yn ddiweddar, serch hynny roedd pobl yn dal i gyrchu at y ffynnon.

‘Yn yr haf gellir gweld rhai yn y dŵr mewn defosiwn yn gweddïo’n ddi-baid ac yn cerdded nifer o weithiau o gwmpas y ffynnon. Heb amheuaeth mae rhinwedd arbennig yn y dŵr oer a llaweroedd wedi derbyn bendith ohono. Yn sicr dyma’r ffynnon orau yn y deyrnas gan fod un dunnell ar hugain o ddŵr yn llifo ohoni bob munud. Nid yw byth yn rhewi. Ger y ffynnon mae mwsogl ag arogl melys yn tyfu ac mae’r un peth i’w weld ger Ffynnon Llanddeiniolen yn Sir Gaernarfon.’

Mae’n bosib mai Ffynnon Ddeiniolen, Llanddeiniolen (SH 5469585), yw hon. Gallwn dystio bod llawer o bobl yn dal i ymweld â’r ffynnon o hyd. Yn ystod yr haf eleni buom yno a gweld nifer yn gweddïo o flaen delw Gwenfrewi yn y ffynnon a’r mwyafrif ohonynt yn Wyddelod Catholig ifanc ar eu ffordd i ag o Loegr.

Yn yr ail gyfrol o’i deithiau a gyhoeddwyd yn 1781 mae’n ymweld â nifer o ffynhonnau. Y cyntaf y sonia amdani yw Ffynnon Degla yn Llandegla, Sir Ddinbych (SH 194523). Meddai:

‘Tua dau gan llath o’r eglwys yng Ngwern Degla mae ffynnon fechan a’r llythrennau A.G. ac E.G.wedi eu cerfio ar y cerrig. Ffynnon sanctaidd yw hon a hyd heddiw mae’n hynod effeithiol i wella Clwyf Tecla neu’r salwch syrthio (falling sickness) Mae’r claf yn golchi ei gorff yn y ffynnon a thaflu pedair ceiniog iddi, yna’n cerdded o’i chwmpas dair gwaith gan adrodd Gweddi’r Arglwydd. Rhaid aros tan i’r haul fachlud cyn gwneud hyn er mwyn i’r sawl sy’n ceisio iachâd gael parchedig fraw. Os mai dyn ydyw bydd yn offrymu ceiliog ond iâr os mai gwraig yw’r claf. Bydd yr aderyn yn cael ei gario mewn basged o gwmpas y ffynnon dair gwaith cyn mynd at yr eglwys a cherdded o gwmpas yr adeilad dair gwaith gan gario’r aderyn ac adrodd Gweddi’r Arglwydd drachefn. Yna  rhaid mynd i mewn i’r eglwys, mynd o dan y bwrdd Cymun a gorwedd gyda’r Beibl o dan y pen a charped neu liain dros y person a gorffwys yno tan doriad gwawr. Wrth fynd allan rhaid talu chwe cheiniog a gadael yr aderyn yn yr eglwys. Os bydd yr aderyn farw yna daw gwellhad gan fod yr afiechyd wedi ei drosglwyddo iddo.’

Yn ddiweddar gwnaed llwybr newydd i fynd at y ffynnon hon ac mae cloddfa archeolegol wedi bod o’i chwmpas. Mae’r ffynnon nesaf y sonia amdani, Ffynnon Leinw (SJ 187677) yn Hendre ym mhlwyf Cilcain, Sir y Fflint. Meddai:

‘Yn y plwyf hwn, ar ochr y ffordd dyrpeg, heb fod ymhell o Neuadd Cilcain, mae’r enwog Ffynnon Leinw neu’r ffynnon sy’n llifo. Mae’n ffynnon fawr hirsgwar gyda dau fur o’i chwmpas. Mae’n nodedig am ei bod yn gwagio ac yn llanw bob yn ail.’

Mae bwriad gan Gyngor cymuned Rhyd-y-mwyn i adfer y ffynnon hon a glanhau o’i chwmpas ond nad oes arian ar gael i wneud hynny ar hyn o bryd.

At  ffynhonnau halwynog Caergwrle (SJ3057) mae’n cyfeirio nesaf. Meddai

‘ Ar dir Rhyddyn, ger glannau’r afon Alun, mae dwy ffynnon a llawer o halen yn eu dyfroedd. Mewn tywydd sych arferai colomennod ddod at y ffynhonnau i bigo’r halen. Yn y gorffennol roedd y ddwy ffynnon yn enwog am eu gallu i wella’r afiechydon scorobutic. Rhaid oedd i’r claf yfed chwart neu ddau bob dydd. Byddai rhai yn berwi’r dŵr nes bod ei hanner wedi ei wastraffu, cyn iddynt ei yfed. Yr effaith oedd carthu a phoenau mawr yn y stumog a thaflu fyny am rhai dyddiau. Yna byddai archwaeth at fwyd yn dychwelyd. Ceir hanes am wraig oedd yn dioddef yn ofnadwy o’r llwg neu’r clefri poeth (scurvy) a gafodd wellhad llwyr wrth ymweld â’r ffynhonnau hyn.’

Cafwyd hanes y ddwy ffynnon yn rhifyn 23 o Llygad y Ffynnon.

Y ffynnon nesaf y cyfeiria ati yw Ffynnon Asa (SJ 065775) ym mhlwyf Diserth. Meddai:

‘Rhyw filltir o eglwys Diserth mae llifeiriant cryf sy’n cymharu’n ffafriol â’r dyfroedd yn Nhreffynnon. Mewn coedlan yn Cwm mae dŵr yn llifo o Ffynnon Asa. Mae cerrig o gwmpas y ffynnon ac mae ar yr un ffurf sef polygon, a Ffynnon Wenfrewi. Byddai cleifion yn cyrchu at y ffynnon hon ers talwm.’

Erbyn heddiw mae’r ffynnon yn cyflenwi dŵr i Brestatyn a’r pentrefi cyfagos.

Y ffynnon nesaf y cyfeiria ati yw Ffynnon Fair, Wigfair, ger Llanelwy (SJ028711) Meddai:

‘Mae Ffynnon Fair yn ffrwd gref wedi ei amgylchynu gan waliau onglog. Roedd to drosti ers talwm. Gerllaw mae adfeilion capel ar ffurf croes ond bod yr adeilad yn adfail ag eiddew yn tyfu drosto. Yn nyddiau’r pererindota byddai llawer yn cyrchu ati.’

Nid yw’n sôn bod ei ffurf yr un a Ffynnon Wenfrewi yn Nhreffynnon na bod pobl yn priodi’n gyfrinachol yn yr eglwys gerllaw gan ddefnyddio’r gwasanaeth Pabyddol a hynny ymhell ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Wrth ymweld â Dyffryn Clwyd mae’n nodi bod Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr (SJ 082635) yn fan lle’r arferai pererinion ddod yn y gorffennol. Meddai:

‘Mae mur onglog o gwmpas y ffynnon ac mae delwau bychain ar ffurf pobl yn addurno’r mur ac o’i blaen mae’r ffynnon ei hun i’w defnyddio gan yr ymdrochwyr duwiol.’

Bellach  mai’r mur  a’r  delwau  wedi  diflannu  ond  mae’r  ‘Ffenest Jesse’ enwog  a godwyd drwy gyfraniadau’r pererinion yn tystio i’w nifer a natur eu duwioldeb.

Ffynnon arall yr ymwelodd Pennant â hi oedd Ffynnon Beris, Nant Peris, Gwynedd. (SH 60855836).

FFYNNON BERIS, Nant Peris

Nododd fod y tai yn yr ardal yn dlodaidd a bod ffynnon ger yr eglwys wedi ei chysegru i  Beris Sant.  Meddai:

‘Yma y gwelir ffynnon y sant wedi ei hamgylchynu â mur. Mae offeiriades y lle yn dweud eich ffortiwn drwy edrych ar y modd mae pysgodyn bach yn ymddangos, neu ddim yn ymddangos o’r tyllau bach yn y muriau o gwmpas y ffynnon.’

Mae Tyn Ffynnon, y tŷ mae’r ffynnon ar ei dir, wedi newid dwylo dair gwaith yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Roedd un perchennog wedi taflu pob math o sbwriel i’r ffynnon gan gynnwys bagiau o hen sment. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae wedi ei glanhau  a pherchnogion y tŷ yn sylweddoli fod ganddynt drysor yn ei gardd. Cynhaliwyd bedydd plentyn yn y ffynnon rhyw ddwy flynedd yn ôl. Yn yr wythdegau roedd cerrig gwynion mawr mewn cilfachau ym muriau’r ffynnon ond maent wedi diflannu erbyn hyn. Wrth roi darlith ar y ffynhonnau i Gymdeithas Hanes Edeirnion yng Nghynwyd yn ddiweddar dywedodd dynes wrthyf fod ei gŵr yn byw yn Nhyn Ffynnon, Nant Peris, pan yn fachgen. Byddai’n arfer codi’r pysgodyn o’r dŵr  - pysgodyn mawr sylweddol ydoedd.

Er iddo ymweld â Chlynnog Fawr nid yw’n disgrifio Ffynnon Beuno (SH 41324945) yno ond mae’n cyfeirio at yr arfer o gario cleifion i’r eglwys ar ôl eu trochi yn y ffynnon a’u gosod i orwedd ar fedd y sant i gael gwellhad. Meddai:

‘Yng nghanol yr eglwys mae bedd y sant, o garreg blaen ac ar ffurf allor. Byddai gan yr addolwyr ffydd gadarn yn y sant ac yn sicr bod cysgu’r noson ar ei fedd yn siŵr o wella pob anhwylder. Roedd yn arferiad i osod brwyn ar y bedd a gadael plant gwan eu hiechyd arno dros nos ar ôl iddynt gael eu trochi yn y ffynnon sanctaidd gyfagos. Gwelais wely plu ar y bedd ac arno gorweddodd un o Sir Feirionydd oedd wedi ei barlysu wedi iddo yn gyntaf gael ei olchi yn y ffynnon.’

Mae nodyn golygyddol ar waelod y dudalen gan Syr John Rhys yn dweud fod y bedd wedi ei ddinistrio mewn ymdrech aflwyddiannus i ddod o hyd i gorff y sant. Wedi gadael Clynnog teithiodd Pennant i Gaernarfon ac mae’n cyfeirio at Ffynnon Helen (SH 480628)yn Llanbeblig.  Wrth sôn am y gaer Rufeinig Segontium, meddai:

‘Roedd gan Helen gapel gerllaw a ffynnon sy’n dwyn enw’r dywysoges. Gellir gweld peth olion yno o hyd a dywedir i’r capel gael ei godi ar yr un safle a’r ffynnon.’

Mae’r ffynnon mewn gardd tŷ o’r enw Llys Helen lle mae’r dŵr yn cronni mewn baddon o lechfaen gyda grisiau yn arwain i lawr iddo. Ers talwm byddai pobl yn cario dŵr o’r ffynnon i wella amrywiol anhwylderau.

Yn y drydedd gyfrol mae’n ymweld â Llandrillo- yn- Rhos. Dyma sydd ganddo i’w ddweud am gapel Sant Trillo ar lan y môr:

 ‘Des i lawr o Glodddaeth am ddwy filltir i lan y môr. Yno, ger y lan, gwelais adeilad bach unigryw sy’n cael ei alw yn Gapel Trillo Sant. Mae’n hirsgwar gyda dwy ffenest ar bob ochr a drws ar y pen. Mae’r to yn gromennog (vaulted) gyda cherrig crynion yn hytrach na llechi arno. Oddi fewn mae ffynnon. O gwmpas yr adeilad mae mur o gerrig.’

Mae’n siŵr y byddai’n synnu fod y capel bach a’r ffynnon heddiw yn gyrchfan i dwristiaid sy’n gadael gweddïau ar bapur i’r sant ac yn taflu arian i Ffynnon Drillo. (SH 842813 )

Wedi teithio trwy Abergele mae Pennant yn cyrraedd Llan San Siôr ac yn nodi bod gan y lle ei ffynnon sanctaidd. Meddai:

‘Roedd gan San Siôr, yn y plwyf hwn, ei ffynnon sanctaidd lle y byddai ceffylau yn cael eu hoffrymu. Byddai’r cyfoethogion yn offrymu un er mwyn sicrhau bendith ar y gweddill. San Siôr oedd nawddsant yr anifeiliaid hyn. Byddai pob anifail afiach yn cael eu cymryd at y ffynnon a’u taenelli â dŵr ac yna’n cael eu bendithio gyda’r geiriau “Rhad Duw a Sant Siôr arnat”.’

Yr enw ar y ffynnon gref hon heddiw yw Ffynnon Gemig(SH977757) ar ôl yr afon a’r fferm gyfagos ac ar y tir o’i chwmpas mae ceffylau’n cael eu cadw o hyd. Yn union wedi ei ymweliad â Llan San Siôr mae’n disgrifio Ffynnon Elian yn Llaneilian-yn-rhos (SH 866774). Meddai:

‘Mae ffynnon Elian Sant wedi bod yn enwog  am wella afiechydon o bob math drwy gyfrwng y sant. Byddai’r bobl yn mynd i’r eglwys yn gyntaf ac yn gweddïo’n daer arno am waredigaeth. Ond roedd y sant hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarganfod lladron a dod o hyd i nwyddau a ladratawyd. Mae rhai yn mynd ato i ofyn iddo ddial ar eu cymdogion a gwneud iddynt farw yn sydyn neu i anffawd ddigwydd i’r sawl oedd wedi eu digio. Mae’r gred yn hyn o beth yn dal yn gryf. Does dim tair blynedd wedi mynd heibio ers i mi gael fy mygwth gan ryw ddyn, ( a gredai i mi wneud drwg iddo) gyda dial Elian Sant, ac y byddai’n mynd i’r ffynnon i’m rheibio yno.’

Tybed beth a feddyliai Pennant pe gwyddai fod y ffynnon wedi ei dinistrio’n llwyr ond bod perchennog Cefn Ffynnon, lle mae safle’r ffynnon, wedi gwneud ymchwil manwl i’w hanes ac yn bwriadu ei hadfer yn y dyfodol.

 

Mae’n sôn am un arferiad diddorol na welais gyfeiriad ato o’r blaen. Meddai:

‘Os oes Ffynnon Fair neu ffynnon wedi ei henwi ar ôl sant mewn ardal, bydd y dŵr ar gyfer bedydd yn cael ei gario oddi yno i’r eglwys ar gyfer yr achlysur yn ddi-ffael. Wedi’r sacrament byddai hen wragedd yn hoff iawn o olchi eu llygaid yn y dŵr o’r fedyddfan.’

Gwyddwn am yr arferiad o gario dŵr o ffynnon sanctaidd ar gyfer bedydd ond dyma’r tro cyntaf i mi glywed fod y dŵr yn llesol wedi hynny ar gyfer llygaid poenus. Diolch o Tomos Pennant am ei waith yn croniclo gwybodaeth eang a diddorol i ni ond pity na fyddai wedi manylu mwy am y ffynhonnau.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON HYWEL, Penamnen, Dolwyddelan. (SH 7364 5083)

Mae W.T. Jones wedi bod yn gwneud cloddfa archeolegol ym Mhenamnen ger Dolwyddelan am gryn amser. Darganfyddodd olion tai hynafol a dyma sydd ganddo i’w ddweud am y ffynnon oedd yn diwallu anghenion y trigolion am ddŵr:

 

 ‘Rhoddwyd yr enw Ffynnon Hywel gennym ni ar y ffynnon hon oherwydd mai’r prawf dogfennol cyntaf sydd gennym am y sawl oedd yn byw ar y safle oedd Hywel ap Ieuan ap Rhys Gethin. Oedd ef yn ŵyr i Rhys Gethin, un o gadfridogion Owain Glyndŵr. Credwn fod y ffynnon yn bodoli cyn adeiladu’r tai a gallwn ei dyddio i gyfnod cyn dechrau’r bymthegfed ganrif. Mae’r dŵr yn codi o dan gornel gogledd-orllewinol y beudy ond mae hefyd yn cael ei bwydo gan ddŵr glaw sy’n llifo mewn cylfat bychan o dan y mur gorllewinol. Yna mae’r dŵr yn llifo i gyfeiriad y dwyrain tuag at graig, yna’n troi i’r gogledd ddwyrain o dan fur deheuol y tŷ gwreiddiol, yn mynd i’r adeilad ac yna i’r ffynnon. Mae’r dŵr yn goferu i’r dwyrain allan o dan y ffordd sydd o flaen yr adeilad. Mae’r dŵr wedyn yn ymddangos i’r de o’r tŷ gyferbyn a adeiladwyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn ystod yr haf ychydig o ddŵr sy’n llifo oherwydd, mae’n debyg, am fod tirlithriad wedi newid amlinell y dirwedd i’r gorllewin o’r tŷ.’

FFYNNON WENFREWI, TREFFYNNON (SJ 185763)

Mae diddordeb yn cynyddu yn hanes y ffynnon arbennig hon. Rhoddwyd darlith ar y testun yn ddiweddar i Gymdeithas Hanes Sir y Fflint gan Yr Hybarch T.W. Pritchard, offeiriad yn yr Eglwys Wladol. Erbyn hyn mae wedi ymddeol ac wrthi’n ysgrifennu cyfrol ar y santes a’i ffynnon. Mae cofnod wedi ei wneud o bawb sydd wedi cael iachâd yn y ffynnon ers blynyddoedd maith. Un a fu’n cadw’r cofnodion oedd y Tad Ryan ac mae ei ddyddiaduron yn ddiddorol iawn. Rhwng 1896 a 1914 cofnodwyd manylion cryn hanner dwsin o bobl a dderbyniodd iachâd. Un ohonynt oedd cyn-filwr o’r enw Cowell oedd yn byw yn Blackburn. Cafodd wellhad drwy ddŵr y ffynnon er nad ymwelodd â’r fan o gwbl. Roedd wedi cael ei glwyfo yn Rhyfel y Böer ac fel canlyniad wedi colli ei allu i glywed a siarad. Ofer fu pob ymdrech gan feddygon ac ysbytai i wella ei gyflwr, yna death gwraig o’r enw Mrs McGill i Dreffynnon a chymryd potelaid o ddŵr o’r ffynnon adref efo hi i Fanceinion. Aeth i weld Cowell a thaenellu’r dŵr dros ei ben a’i ysgwyddau. Cafodd adferiad y foment honno gan fedru clywed a siarad ag aeth ar ei union i Cumberland i siarad efo’i fam.

Ar 5 Mawrth 1906  cymerwyd bachgen o’r enw Augustine Malone, 13 oed, o Crewe i’r hosbis  yn Nhreffynnon gan  ddyn o’r enw Mr Hobin, Mr Malone, (y tad) a nain y bachgen. Ymddangosai yn ddigalon a gorffwyll.  Ar ei ffordd i’r hosbis aeth Mr Hobin a’r bachgen i’r ffynnon a’i rhoi yn y dŵr.  Ar ddydd Mawrth roedd yn anodd ei drin a gofynnwyd i’w gyfeillion ei symud oddi yno. Ar fore dydd Mercher rhedodd i ffwrdd o’r hosbis a’r noson honno gadawodd ef a’i ffrindiau Dreffynnon. Ar fore dydd Iau gwelwyd ei fod yn holliach ac aed ag ef at Dr Lowe oedd wedi dweud cyn hyn nad oedd modd i’r bachgen wella. Cytunodd  y meddyg ei fod bellach yn gwbl normal. Ym mis Mehefin 1913 daeth Jane Smith, o 50 Irish Street, Dumfries i Dreffynnon. Roedd ganddi lwmp mwy na maint wy yn ei gwddw. Wedi bod yn y ffynnon ac edrych ar greiriau Gwenfrewi ar 20 Mehefin gwelwyd fod y tyfiant wedi diflannu.

Yn 1918  daeth lleian o’r enw Cecilia o St Vincent’s, Mill Hill, Llundain i Dreffynnon. Nid oedd gobaith iddi wella ac roedd wedi bod yn orweddiog ers dechrau 1914. Daeth i Dreffynnon a chael ei chario i’r ffynnon bob dydd o 15 hyd 24 Ionawr. Ar y pumed dydd gallai sefyll, yna llwyddodd i gerdded, ac erbyn iddi adael am adref gallai eistedd a phlygu heb unrhyw anhawster. Gobeithiai y gallai fyw bywyd llawn fel aelod o’r gymuned yn y cwfaint erbyn Sul y Pasg, 31 Mawrth.

Yn yr un flwyddyn ym mis Medi daeth Kathleen Coyne oedd yn 19 oed ac yn byw yn 62 Stryd Queensland, Lerpwl, i’r ffynnon. Roedd yn dioddef o’r dicáu, ac wedi bod mewn sanatoriwm am bump mis dywedwyd wrthi nad oedd gobaith iddi wella.  Fel aelod selog o Eglwys  St Anne, Edgehill, Lerpwl,  roedd ganddi ffydd  ddi-gwestiwn yn y Santes Gwenfrewi a’i ffynnon. Wedi mynd ac ymdrochi yn y dŵr am saith diwrnod yn olynol, cafodd wellhad llwyr. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn y Daily Dispatch o enau Miss Coyne ei hun, roedd wedi bod y wan ei hiechyd ers ei geni. Yna yn 1917 cafodd y pliwrisi ac effeithiwyd ei hysgyfaint yn ddrwg yn ôl ei meddyg. Bu’n wael am dair wythnos yn y Consumption Hospital yn Lerpwl ond wedi pump mis  roedd ei chyflwr wedi gwaethygu a chan na allai’r ysbyty gynnig triniaeth bellach iddi fe’i hanfonwyd adref. Roedd ganddi besychiad drwg ac roedd yn fyr iawn o wynt. Gan fod ganddi ffydd yn y santes a’r ffynnon teithiodd i Dreffynnon yn Awst 1918. Ni allai gerdded heb gymorth ond wedi bod yn y dŵr am ychydig funudau gallodd gerdded am y tro cyntaf ers misoedd. Aeth i’r ffynnon bob bore wedi hynny ac ar y seithfed dydd cafodd ei gollwng i’r dŵr hyd at ei gen. Wrth i’r dŵr godi dros ei hysgyfaint teimlodd rhyw losgi rhyfedd ynddynt (a stinging sensation)  ac ar ôl dod allan o’r dŵr llwyddodd i glirio’i brest. Ers hynny nid oedd wedi cael unrhyw anhwylder a gallodd fynd yn ôl at ei gwaith fel teipyddes mewn swyddfa. Cafodd  ei harchwilio gan ddau feddyg a dywedodd y naill fel y llall nad oedd arwydd o’r dicáu arni. Roedd ei gwellhad yn wyrthiol a chredai hithau’n siŵr fod gwyrth wedi digwydd iddi. Ymddangosodd yr hanes yma yn y papur newydd ar 18 Ionawr 1919.

Cafwyd hanes diddorol yn y papur newydd ym mis Gorffennaf 1919 hefyd. Roedd Joseph Culshaw o Burnley wedi bod yn ddall am bedair blynedd fel canlyniad i shell shock a chalch ac wedi bod yn byw mewn cartref arbennig o’r enw St Dunstan. Daeth i Dreffynnon ar Orffennaf y 6ed gyda’i gyfaill Joseph Ashworth oedd yn ei arwain o gwmpas. Aeth i’r ffynnon ar fore Llun  ac wrth ddod allan o’r dŵr  dywedodd y gallai weld blodau ar y llawr. Roedd yn sefyll o flaen yr allor ac roedd y blodau a roddwyd yno wedi syrthio o’i lle ac yn gorwedd ar y llawr. Aeth i’r ffynnon bob dydd yr wythnos honno ac erbyn dydd Gwener roedd ei olwg wedi cryfhau yn sylweddol Aeth i swyddfa’r papur newydd i ddweud wrthynt am ei iachâd a rhoddwyd profion iddo yno oedd yn cadarnhau  ei fod yn gallu gweld yn reit dda. Yn y dyddiau dilynol fe’i gwelwyd yn cerdded ar ben ei hun o gwmpas strydoedd y dref a’i gerddediad yn sicr a hynny yng nghanol tyrfa o bobl.

Ar ddiwedd ei ddarlith gwnaeth y Parchedig T.W. Pritchard ddatganiad a syfrdanodd y gynulleidfa. Roedd person wedi cael iachâd yn y ffynnon o fewn y mis diwethaf (Mawrth 2009). Roedd yn amlwg oddi wrth adwaith y gwrandawyr nad oedd yn hawdd ganddynt dderbyn bod y ffynnon yn dal i gynnig gwellhad i bobl heddiw ond mae gormod o dystiolaeth i’r gwrthwyneb. Beth yw’r esboniad am hyn? Mae’r dŵr yn eithriadol o bur ac yn dod o grombil y ddaear, nid o’r gronfa leol fel yr awgrymodd rhai pobl. Ai ffydd sy’n rhoi iachâd? Ond mae pobl di-gred a phobl nad ydynt yn credu yng ngalluoedd y santes hefyd wedi derbyn iechyd wrth fynd i’r ffynnon. Onid hon yw rhyfeddod mwyaf Cymru?

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

RHAGOR AM FFYNNON CEGIN ARTHUR (SH 55486488)

Dewi Ensyl Lewis

  Yn ddiweddar, mewn siop ail-law prynais bamffled yn dwyn y teitl mawreddog Ffynon Cegin Arthur sef Ffynon Ddurlyd yn Llanddeiniolen ger Caernarfon; yn gosod allan natur a Rhinwedd Iachaol ei dyfroedd yn nghyda chyfarwyddiadau pa fodd i’w defnyddio…a.y.y.b.. Pamffled yw, wedi ei gyhoeddi gan A. Wynn Williams MD, MRCS, LSA,.Ni cheir dyddiad arno ond cyhoeddwyd fersiwn Saesneg o’r gwaith yn 1858.Mae’n bamffled diddorol, yn wir bron y gellir dweud ei fod yn darllen fel hysbyseb ar gyfer denu ymwelwyr i’r ardal. Eisoes, yn Llygad y Ffynnon, cafwyd gwybodaeth am Ffynnon Cegin Arthur (gweler rhif 3 a 4).Teimlais mai da o beth fyddai rhannu rhywfaint o wybodaeth ehangach fel y mae’n cael ei adrodd gan A. Wynn Williams. Ar ddechrau’r pamffled ceir cyfarwyddiadau buddiol i’r rhai sydd am ymweld â’r safle:  

‘Cynghorwn bleidiau o Gaernarfon a ddymunent ymweld â’r Ffynon i yrru i fyny Pen’rallt, myned trwy Bethel,a dilyn yn mlaen hyd at hen Eglwys Llanddeiniolen; rhoddi eu ceffylau i fyny yn y Tafarndy a elwir Gors bach yna cerdded i Rhydfawr. Oddi yno gellir cymeryd naill ai y ffordd i’r de nei i’r aswy, gan fod y naill a’r llall yn arwain i dop Dinas Dinorwig ac o fewn llwybr byr i’r Ffynon.y mae i’r ffordd yma amryw fanteision-arbedwch yr holl elltydd serth; y mae hefyd yn llawer agosach ac hefyd arbedwch y tollbyrth - ystyriaeth bwysig yn y wlad yma, gan y gellwch gael cynifer a thair tollborth.’

Ac ymhellach

‘Dylai cwmnïon yn dyfod o Lanberis gymeryd cwch a myned hyd y llyn i Benllyn ac yna cerdded at y ffynnon yr hon sydd oddeutu milldir a hanner pellach ymlaen; gallant, os dewisant, farchogaeth yno ar ferlynnod neu mewn cerbyd, digonedd o ba rai a gedwir yn y gwestai.’

Caed peth anghytuno a oedd baddon neu beidio yma. (Gweler Llygad y Ffynnon 3 a 4).Dyma ddywed yr awdur am hyn:

‘…..nid oes gennyf amheuaeth nad oedd y ffynnon mewn bri gynt, a thra thebyg fel bath, oherwydd, cyn y gosodwyd y ddyfrgist-lech bresennol drosti, y mae olion amlwg o hen fath digon o faint i ddyn orwedd ynddo ar ei hyd. Ar hyd ochrau ac ymhob pen, gosodwyd dwy neu dair o feini gwastad, y naill ar y llall; nid yw y meini hyn wedi eu symud, ond nid ydynt i’w gweled yn awr. I’r bath yma y mae y dyfroedd yn tarddu i fyny trwy wely grafelog; y mae gwely y ffynnon yn rafel ei hun hefyd.’

Tua diwedd y pamffled fe gyfeirir at gyfnod mwy diweddar yn hanes y ffynnon :

‘Y mae y cyhoedd yn ddyledus iawn i’r diweddar Mr Asshton Smith am ei garedigrwydd yn taflu y Ffynon yn agored iddynt; ac am archu i ddau fwthyn prydferth gael eu hadeiladu yng nghyda dau fath.’

Dywed yr awdur ei fod wedi cynnal dadansoddiad o’r dŵr dwy flynedd cyn cyhoeddi y pamffled. Nodwyd eisoes bod dŵr y ffynnon yn tarddu trwy wely o raean a gwely o fwyn haearn ac nid syndod oedd gweld fod y dŵr yn cynnwys lefelau uchel o haearn. Tymheredd y dŵr yn y ffynnon oedd 56f (neu mewn pres newydd 13c) fe’i hystyrir felly yn ffynnon ‘oer’.Dadansoddwyd y dŵr yn ddiweddarach gan Dr Sheridan Muspratt o Lerpwl. Y mae’r awdur yn disgrifio gyda manylder y modd y casglodd y samplau ar gyfer y dadansoddi

‘Cefais ddwy gostrel wydr gyda stopper iddynt yn ffitio yn gywir, a llenwais hwynt yn y ffynnon fy hun, gan osod y costreli yn y ffynon,a gadael i’r dŵr redeg iddynt, ac, wedi eu llenwi, rhoddais y stoppers ynddynt pan yn y dwfr, a gorchuddiais y stoppers gyda chymysgedd o ystor, cwyr gwenyn ac olew.’  

Mae’n amlwg o’r disgrifiad nad oedd eisiau unrhyw lygredd ar y samplau. Yn ôl dadansoddiad

y samplau, ’roedd galwyn o ddŵr o’r ffynnon yn cynnwys yr elfennau canlynol:

                         Grains

Carbonate of Protoxide of Iron                                          3.621

Carbonate of Lime                                                           3.634

Carbonate of Magnesia                                                     0.167

Chloride of Sodium                                                           2.000

Sulphate of Lime                                                              1.153

Silica (soluble)                                                                  1.892

Soda combined with Silica                                                 0.963

Organic Mater                                                                  0.071

Total                              13.501

Yn ychwanegol at y dadansoddiad nodwyd mai yr ‘unig nwyon a ganfyddid yn y dwfr oeddynt carbonic acid a nitrogen’(“trengnwy”).Aeth yr awdur ati i gymharu Ffynnon Cegin Arthur â ffynhonnau eraill ar gyfandir Ewrop a Phrydain a daeth i’r casgliad:

‘Mewn perthynas i’r Ffynonau Meddygol Prydeinig, sydd yn cynnwys haearnaidd, nid oes un a ddeil gydmariaeth â Ffynon Cegin Arthur.’

Yn wir gystal yw safon y dŵr nes cynghorir pwyll wrth ei yfed.

‘Er nad yw yn cynnwys cymaint o carbonate of iron, cynnwys ddigon i ddal yr haiarn mewn toddiant ac i achosi ei lynciad buan i’r mân wythenau. Yr wyf yn gwybod  am amryw enghreifftiau o wahanol bartïon a ddarfu braidd feddwi, (neu fyned yn hurt) am ychydig amser, wedi yfed gwydriad neu ddau o’r dwfr ar gylla gwag. Y mae yn ffaith nad ellir ei gwadu fod tuedd mewn carbonic acid mewn uniant â haiarn  achosi meddwod.’

Mae’r awdur yn awgrymu bod yfed  dŵr Ffynnon Cegin Arthur yn llesol ar gyfer nifer o anhwylderau. Y prif anhwylder y cyfeirir ato yw’r manwyn neu glwy’r brenin. Trafodir yn helaeth effaith yfed y dŵr ar yr afiechyd ‘yn holl amrywiaeth ei ffurfiau a’i enwau’ h.y. ei effaith yn ystod gwahanol gyfnodau bywyd neu oedran y cleifion. Nodir y

‘Dylai plant a thuedd ynddynt at yr afiechyd hwn ac yn wir bob plant, fyned allan i’r awyr agored, ac i oleuni pur y nefoedd, gymaint ag sydd modd. Bydded i bob gorchudd, heblaw gyda babanod ieuainc iawn, bonet haul a pharasol, a phob rhyw ffoledd cyffelyb, gael eu taflu i’r tân.’

Rhybuddid cleifion i beidio a chymeryd dogn rheolaidd o foddion at afiechyd ond yn hytrach yfed dŵr haearnaidd yn enwedig   

‘.dwfr Ffynon Cegin Arthur, mewn cysylltiad â, neu i’w ddylyn gan, olew afu y penfras (cod liver oil).’

Fe awgrymir mwy nag unwaith bod cael digon o awyr iach yn llesol iawn i’r claf ac i helpu trin salwch. Nid yn unig yr oedd dŵr Ffynnon Cegin Arthur yn llesol ond awgrymir bod amgylchedd yr ardal yn gallu bod o gymorth.

‘Y mae newid golygfeydd ac awyr yn wasanaethgar iawn megys gwibdaith yn mysg y mynyddau Cymreig, a phreswylio yn achlysurol ar lan y môr. Yn y cyfnod hwn byddai cwrs o ddyfroedd Ffynon Cegin Arthur o werth anghydmarol i feibion a merched…..’

Awgrymir bod ymdrochi yn y dŵr yn iachus iawn at wahanol salwch yn enwedig ‘cryd y cymalau’ -

‘Yr wyf yn gwybod am ryw enghreifftiau o rai yn myned i’r Ffynon yn hollol ddiymadferth, ac ar ôl yfed y dwfr a throchi rhannau poenus (nid oedd bàths y pryd hynny wedi eu cwblhau),yn dychwelyd adref wedi cwbl iachau.’ 

Ceir rhestr hir o’r gwahanol salwch yr oedd dŵr y ffynnon yn ddefnyddiol ar eu cyfer sef,  

‘anhwylder benywol’, ‘hysteria yn nawns St Vitus’, ‘i luddias cenhedliad llyngyr’, ‘neuralgia’,  ‘y glunwst’, ‘y llesmeirglwst’, ‘y parlys’, ‘hen ddolur gwddf neu beswch’, ‘diffyg anadl’, ‘colli llawer o waed’, ‘mewn gollyngdod a rhyddhad o’r llws-bilen’ neu ‘hen ddolur rhydd’, ‘pan y mae tuedd i erthylu’, ‘mewn anhiledd neu ddiffrwythlondeb’, ‘hen ddoluriau yn y llygaid, yn enwedig mewn tywyllni oherwydd gwendid’, ‘diffyg treuliad  a chyfogi’, ‘diffyg tôn yn y cylla’ ac ychwanegir y rhybudd oesol ‘Bydded i mi wasgu hyn ar fy narllenwyr, na ddylai neb yfed y dyfroedd hyn heb gyngor meddygol.’  

Rhan olaf y pamffled yw cyngor ar y modd o gymryd y dŵr a sylwadau eraill. Pwysleisir na ddylid cymryd y dŵr am gyfnod ‘llai na thair wythnos’ yn ddyddiol. Cyfeirir yn aml at gymryd ‘Cwrs o ddyfroedd y Ffynon.’ Awgrymir y dylid yfed un neu ddau tumbler neu ‘hanner peint’ gyda  chyfnod o ddeng munud rhyngddynt i’w hyfed cyn brecwast. Y mae’n awgrymu hefyd na ddylid yfed te cyn nac ar ôl yfed y dŵr. Cynghorir gadael cyfnod o awr neu ddwy cyn yfed te gan fod y tannin yn  amharu ar ei effeithiolrwydd. Mae’r awdur  yn awgrymu y gellir yfed y dŵr ymhell o gyffiniau’r ffynnon a dal i gael effeithiau’r dŵr. Mewn sawl ardal y traddodiad yw, y dylid yfed y dŵr o lygad y ffynnon er mwyn cael y lleshad. Mae’r awdur yn cynnig cyngor i’r darllenwyr ynglŷn â photelu’r dŵr a’i yfed yn ddiweddarach. Ceir disgrifiad manwl o’r modd i storio’r dŵr. Brony gellir dweud ei fod yn disgrifio'r grefft o gadw potelaid o win da !

‘I rwystro ei ddadansoddi - gellir gwybod os bydd hyn yn cymeryd lle, trwy fod gwaelodiad coch yn cael ei ffurfio - y mae yn hollol angenrheidiol cadw allan oxygen yr awyr rhag cyffwrdd ag ef. Gellir sicrhau hyn oreu trwy roddi y dwfr mewn costrelau ag iddynt stoppers a fydd yn cau yn dynn. Dylid gorchuddio stoppers  y costrelau â rhyw ddefnydd ireidlyd megys menyn neu lard. Hon ydyw y ffordd oreu, a phan yn cael ei wneyd yn ofalus y mae y dwfr yn cadw am hir amser; ceidw y dwfr am ysbaid lled hir mewn costrel wedi ei chorcio yn dda, ond gofalu na fydd y dwfr yn cyffwrdd â’r corcyn er y rhaid iddo fod mor agos iddo ag sydd bosibl heb gyffwrdd. Dylai y corcyn gael ei dorri wedi hynny yn llyfn â phen y gostrel ,a’i selio drosto. Tueddir fi i feddwl y gwnâi plŷg gutta percha wedi ei orchuddio â tinfoil ateb y dyben yn dda.’

I gwblhau’r pamffled mae’r awdur yn awgrymu nad yw’r cyfleusterau o gwmpas y ffynnon yn ddigon da.

‘Ond cyn y daw y ffynnon feddygol hon yn gyrchfa gysurus i ddosbarth penodol o bobl, yr hyn yr wyf yn hyderus fydd, yn gynt neu hwyrach, rhaid adeiladu yno letŷ-dai, neu westdŷ. Pa le y ceid llannerch mwy iachus neu fwy swynol nag ar lethr Dinas Dinorddwig? Yma y cawn yr olygfa fwyaf hyfrydlon yn yr holl Dywysogaeth. Yma y gallwn anadlu awyr y mynydd neu y môr wrth ein pleser……’

Oes ’na wers i’w dysgu yma?

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR

Ofergoelion yr Hen Gymry gan y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Bae Colwyn, 1905.

(Detholiad o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

FFYNNON-DDEWINIATH

‘Dyma wedd ar ofergoeledd yr hen Gymry a fu mewn bri mawr am ganrifoedd... Dyddia y Ffynhonnau Sanctaidd i hynafiaeth dirfawr, ac ymhell cyn y cyfnod Cristionogol. Roedd rhai o honynt yn iachaol, y lleill yn broffwydol ond yr oll yn ddewinol. Gwaith llawer i Ffynnon Fair oedd gwella llygaid. Dyna hefyd briodolid i Ffynnon Goblyn. Hanfod hanes honno yw, fod rhyw Sant rhyw dro  wedi cael mendio ei lygaid ynddi; a phwy bynnag a fynnai gael ei rhinwedd, byddai raid iddo fyned yn y boreu cyn i’r haul godi i olchi ei lygaid yn nwfr y ffynnon.

Dweud ansawdd calon cariadau y merched oedd gwaith Ffynnon Cybi.( SH 42744126) Pan y byddai merched yn yr hen amser mewn pryder mawr yn nghylch cywirdeb eu cariadau, ac eisiau gwybod amdanynt pa un a wnaent ai priodi ai peidio, dywedai Ffynnon Cybi wrthynt yn lled fuan. Byddai raid i’r ferch fyned at y ffynnon, a thaenu ei chadach poced yn berffaith gywir dros wyneb y ffynnon; ac i ba gongl bynnag o’r ffynnon y gweithiai tarddiad y ffynnon y cadach, yn ôl hynny y byddai'r dynged i fod. Os i gongl y De y gweithiau y cadach, byddai pob peth yn dda; ond os i gongl y Gogledd y gweithiau hi, yn y gwrthwyneb y byddai pethau i fod. Beth bynnag a ddywedai y ffynnon ai y ferch adref ac ymddygai at ei chariad yn ôl y dystiolaeth a dderbyniasai. Peth naturiol, ar ôl i’r ferch dderbyn rhywbeth fel hyn i’w mynwes, oedd iddo ddyfod allan trwy ei hwyneb a’i thafod ac felly ddylanwadu ar feddwl y llanc.

Gwella defaid oddi ar ddwylaw oedd gwaith Ffynnon Asa.(SJ 065775) Rhinwedd Ffynnon Beuno ( SH 41324945)oedd gweinyddu bendith ar y gwartheg. Rhinwedd rhyfeddol Ffynnon Llan San Siôr ger Abergele(SH977757) am wella ceffylau, ac am y lliaws anifeiliaid ac afiach yno am wellhad. Gwellid rhai drwy yfed y dŵr, y lleill drwy eu golchi ag ef; bryd arall, taenellid dwfr yn unig arnynt, gan weddïo y mendith “Rhad Duw a Sant Siôr arnat”.

Yr oedd, ac y mae eto yn Nheirtref Meifod, Maldwyn, ffynnon a lecha oddeutu milltir i ogledd Dolobran Hall a elwir yn Ffynnon Darogan.(SJ 119135 Un arall y sydd yn Clawdd Llesg ar derfyn Meifod a Guilsfield, yn nhref Trefedryd. I fyny hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf, cyrchai tyrfaoedd i Ffynnon y Clawdd Llesg (SJ 159114) yn enwedig ar Sul Y Drindod, i yfed twr a siwgwr.

Prif ffynnon Cymru ag y mae mwyaf o swm ei hanes dewinol wedi dyfod i lawr i’n dyddiau ni ydyw Ffynnon Elian ger Croes-yn-eirias, Colwyn. Sir Ddinbych (SH 866774). Safai gynt yn nydd ei hynodrwydd yng nghwr cae o fewn ychydig lathenni i’r ffordd sydd yn arwain o Groes-yr-eirias i Lanelian. Ar lechwedd yr oedd a’i gofer a redai i’r De; a honnid hyd ddiwedd y ganrif ddiwethaf fod modd swyno gyda phob ffynnon y byddai “ei gofer yn arwain i’r De;” ac aneirif y cymwynasau er drwg a da a briodolid i’r ffynhonnau hynny. Y mae Ffynnon Elian wedi bod yn ddychryn i gannoedd na buasai dim arall bron yn cynhyrfu eu teimladau; ac  y mae yn anhawdd i ni, pobl yr oes hon, gredu y dylanwad oedd ganddi ar bobl o bob oed, gradd a sefyllfa. Y mae yn ymddangos fod rhywun arbennig yn sefyll yn Offeiriad i’r ffynnon ym mhob oes, trwy y rhai yn unig yr oedd modd cael gan y ffynnon weithredu. Rhoddir yr hanesion a ganlyn gan yr hwn a weinyddai y swydd o Offeiriad y Ffynnon:

“Daeth gwraig i siopwr o Abergele ataf yn y dybiaeth bod ei henw yn y ffynnon . Perswadiais hi nad oedd y fath beth yn bod a chefais ganddi fyned adref. Ymhen wythnos gwelwn hi yn dyfod wedyn ac erbyn hyn gwelwn na wnâi y tro ond y ffynnon. Gosodais ei henw yng nghwr fy llawes ac es gyda hi at y ffynnon. Rhoddais fy llaw dan y dorlan ac wedi slipio yr enw i fy llaw, codais ef i fyny yn ei gwydd. Credodd hithau a gwellaodd yn ebrwydd. Cafodd hi heddwch gan y selni a chefais innau heddwch ganddi hi.

Daeth amaethwr parchus ataf yn achos ei wraig yr hwn a ddywedai ei bod yn glaf, yn orweddiog ac heb fwyta un tamaid o fara ers wythnosau a chredai ei bod wedi cael ei rhoi yn y ffynnon. Holais ef mor fanwl ag y gallwn a deallais mai yn ei meddwl yr oedd yr afiechyd yn cartrefu yn bennaf a dywedais wrtho nas gallwn wneyd dim o honni heb iddi ddyfod yma am ychydig amser.  Felly y bu: anfonwyd hi yma yn ddi-oed a rhoddwyd hi yn y gwely yn fy nhŷ. Yna gwneuthum i fy hen wraig olchi ei phen a rhannau uchaf o’i chorff, â dwfr o’r ffynnon. Yn fuan ar ôl hyn, dywedai ei bod yn llawer gwell, a’i bod yn teimlo ei hun yn adfywio yn anghyffredin. Drannoeth cefais ganddi godi, a dyfod i olwg y ffynnon, a chymmeryd ychydig luniaeth. Y trydydd dydd, cerddodd gyda mi i lan y môr, oddeutu tair milltir o ffordd, yn ôl ac ym mlaen, a bwytaodd y hearty. Ym mhen naw diwrnod, anfonodd at ei gŵr am iddo ddyfod i’w nôl, onide y deuai gartref ar ei thread bob cam! Nid rhyfedd i feddygon pennaf ein gwlad, yn ngwyneb llawer math o afiechyd, wneud eu gore i godi meddwl y claf; oblegyd gwyddant fod hyn yn un o brif foddion i gryfhau y cyfansoddiad.”

Ymddengys i’r rhysedd yma gyda y Ffynnon hon, gyda rhywun arall, gynyddu i’r fath raddau, nes peri i’r awdurdodau gwladol ymyrryd. Ym Mrawdlys Fflint, 1818, cyhuddid twyllweithredwr o hawlio arian trwy dwyll. Yr oedd wedi llwyddo i gael pymtheg swllt oddiar ffermwr, trwy beri iddo gredu fod ei enw wedi “cael ei roi yn y ffynnon,” yr hyn a ystyrid yn fath o uffern o fewn y plwyf, ac nas gallai mewn un modd, tra byddai ei enw ynddo lwyddo. Ymgymerodd yr honwr â “thynnu enw y dyn allan o’r pydew diwaelod” am bymtheg swllt, yn nghyda gweddïau, ac erfyniadau, a Salmau i’r perwyl. Dedfrydwyd ef i flwyddyn o garchariad.’

  cffcffcffcffcffcffc  

Y GWAITH DWFR

Allan o Nodion O Gaergybi gan R.T. Williams (Trebor Môn) , Caergybi, a gyhoeddwyd yn 1877.

(Detholiad o dudalen 95 a 96. Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

‘Diwallir trigolion Caergybi â digonedd o’r “elfen denau ysplenydd” â phibellau haiarn tanddaearol,  yn a cherllaw eu handedd-dai o “ffynon y Wrach,” ger amaethdy’r Twr, ac o’r Gronfa Newydd helaeth a gwerthfawr a geir cydrhwng y Twr a Phen-y-bonc, am y swm isel o ddwy geiniog yn wythnosol. “Ffynon Cybi” (sugnedydd yn awr) yn Nghybi Place, a fu’n” ystên Duw i estyn dŵr” i bobl Cybi am lawer oes, ac yn hynod ar gyfrif ei theithi cyfareddol fel ereill o hen fynonau Cymru. Prysurai dyn ati i ddial ar ei gyd-ddyn, a chredai’r bobl pan roddid dernyn o bapyr ag enw y sawl a ddymunid ei felldithio arno o dan un o’i cheulennydd, y cai ei felldigeiddio yn y fan! Hyhi hefyd a wasanaethai gleifion cariad, a hi oedd Falentine ieuengctyd y gymdogaeth!!’

Dyma sydd gan Gwilym T. Roberts a Tomos Jones i’w ddweud am Ffynnon Gybi, Caergybi (SH2 47829) yn eu cyfrol  Enwau Lleoedd Môn (1996). Tudalen 72.  Lleoliad: rhyw chwarter milltir i’r gogledd o Eglwys Cybi Sant, Caergybi.    

‘Dengys map (1873) lecyn yn dwyn yr enw Cae Ffynnon Cybi wedi ei leoli y tu cefn i Swyddfa Bost y dref heddiw. Defnyddid ei dŵr yn yr hen ddyddiau gan gleifion yn dioddef o afiechydon megis ‘scrofula’ a chryd cymalau. Cartrefai llysywen ddwyfol yn nyfroedd y ffynnon a chanddi’r gallu yn ôl traddodiad i eiriol tros y claf gyda Sant Cybi ei hun. Myn traddodiad hefyd fod grym iachusol y dŵr yn gallu sicrhau gwellhad mor gyflym a disymwth i’r anabl fel y gwelid, ar adegau, gasgliad helaeth o eitemau megis berfâu a baglau wedi eu bwrw ymaith gerllaw y ffynnon. Yn ogystal, câi’r ffynnon ei hystyried yn un addas ar gyfer dial a melltith a hefyd  yn un a allai gynnig swcr a chymorth i gleifion cariad. Ymddengys ei bod hefyd yn ffynnon gref a dibynadwy, gyda chyflenwad helaeth a sicr o ddŵr croyw ynddi ar bob achlysur, bu’n gwasanaethu trigolion yr ardal am rai canrifoedd. Datblygodd rhwydwaith o strydoedd yng nghyffiniau’r ffynnon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Safai’r ffynnon ei hun ar gyffordd Stryd Cybi. Dynodwyd un stryd a arweiniai ati yn Stryd-y-Ffynnon (Well Street) ac ym 1908 gosodwyd pwmp trosti (‘Ystên Duw i estyn dŵr’ yn ôl un o drigolion y dref), a rhoddwyd yr enw ‘Pump Street’ ar un o’r ffyrdd eraill a arweinia at y ffynnon.’  

  cffcffcffcffcffcffc    

DYDDIAU’R  FFYNHONNAU

Allan o Cysgodau’r Palmwydd gan Y Canon W. Dewi Thomas - tudalen 10-11a 69. Cyhoeddwyd yn1988.

‘Ganed fi ar Brynhawn Ffair Crymych, sef Mai 30ain, 1917. Arferwn ddweud wrth fy mam mai dyna’r ffeiryn gorau a gafodd hi erioed. Digon cyntefig oedd bywyd ar lawer cyfrif yn ardal Llanfrynach (SN 2231) pan oeddwn yn blentyn. Rwy’n siŵr fy mod wedi hen gyrraedd fy arddegau pan dywyswyd y dŵr o ffynnon Cwm-glas drwy bibellau i bentref Llanfrynach , ac y gosodwyd gwrthrych mawr o haearn -bwrw, â chnapan mawr o’i droi i ollwng dŵr yn rhan o’i gyfansoddiad. Dal i gario’r dŵr oddi yno i’w ddefnyddio at bob diben mewn stenau a wnâi’r trigolion ar y cyntaf. O dipyn i beth, arweiniwyd y dŵr i’r cartrefi, er mai eithriadau am hir amser oedd y tai a allai ymffrostio mewn dŵr-twym pibellog a hynny mewn ystafell ymolchi... Cyn i’r dŵr o Gwm-glas gyrraedd y pentref, byddai pentrefwyr Llanfyrnach yn ei gario o ffynnon fach a darddai yn y graig ar lan afonig Llinos, yn ymyl Mispa. Byddai’n sychu weithiau, ac yna rhaid cario dŵr o Bistyll Brynach ar y llethr islaw Eglwys y Plwyf.

Y mae Eglwys Caeo yn eglwys fawr. Ei hynodrwydd pennaf yw ei chawg-dŵr-sanctaidd, a saif ryw dair troedfedd a hanner o’r llawr yn ei chyntedd. Honnid ei fod bob amser yn llawn o ddŵr ond nad oedd byth yn gorlifo, er na wyddid beth oedd cyfrinach ei gyflenwad. Er gwaetha’r honiad  a minnau wedi fy ngwahodd i bregethu yn yr Ŵyl Ddiolchgarwch am y Cynhaeaf yn Llansewyl ym 1993, wedi galw heibio i adnewyddu’r hen gysylltiad â Chaeo, cefais y cawg yn sych. Canlyniad sychder eithafol y flwyddyn honno oedd yr anghaffael hwnnw, ac o holi’r ficer- Y Parchedig Cyril Jones, yn ddiweddarach, dywedodd fod y dŵr wedi dychwelyd.’

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Gareth Richards, Ynystawe

Gaynor Jones, Llanarmon-yn-Iâl

Ken Jones, Llanberis

          Elena Williams, Betws Gwerfyl Goch .

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

DIWEDD Y GÂN...... YW’R GEINIOG....

Daeth yn gyfnod adnewyddu aelodaeth unwaith eto. Os ydych yn talu drwy archeb banc cofiwch fod y tâl i unigolyn wedi codi i £5 y flwyddyn erbyn hyn a’r tâl i deuluoedd yn £8 ac yn £10 i gorfforaethau. Bydd angen llanw’r ffurflen bwrpasol ar gyfer y banc. Mae aelodaeth oes nawr yn £50.  Bydd y Trysorydd, Ken Lloyd Gruffydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, yn falch o dderbyn eich tâl aelodaeth mor fuan â phosibl, os gwelwch yn dda.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

  CYNHADLEDD FFYNHONNAU YM MHRIFYSGOL BANGOR

Mae cynhadledd wedi ei threfnu yng nghanolfan WISCA ym mhrifysgol Bangor  ar benwythnos Medi 13eg-14eg, 2009.

Dyma’r arlwy:

Bore Sadwrn

9.30 – 1.00:

Dr Madeleine Gray, Prifysgol Cymru, Casnewydd: Casgliad o storiâu o’r Oesoedd Canol am wyrthiau yn Ffynnon Fair, Pen-rhys.

Eirlys Gruffydd: Archwilio a Diogelu Ffynhonnau Cymru.

Tristan Grey Hulse:Elias Owen a Ffynhonnau Sanctaidd Gogledd Cymru.

Angela Graham, Caerdydd: Y Forwyn Fair, Penrhos- adferiad, ac adfywiad, ac ail agor cysegrfa

1.00 -2.00  Cinio

Prynhawn Sadwrn:  Trafodaeth ar ymchwil ddiweddar a phrosiectau adferol gan gynnwys yr adolygiad arfaethedig o gyfrol Francis Jones, The Holy Wells of Wales.

Dydd Sul: Ymweliad â rhai o ffynhonnau sanctaidd Môn a’u heglwysi gan gynnwys Llaneilian a Phenmon.

Gellir trefnu cludiant.

Cost: £7.50 (yn cynnwys cinio dydd Sadwrn.)

Gellir cysylltu â’r Brifysgol os am le i aros- 01248 388 088

Os ydych yn dymuno mynd i’r gynhadledd gofynnir i chi gysyllu â:

Dr Madeline Grey, Yr Adran Addysg (School of Education) Prifysgol Cymru, Casnewydd, Campws Caerleon, Casnewydd. NP18 3QT.

Dylid ysgrifennu sieciau i Dr Madeleine Grey. Gellir ei e-bostio ar Madeleine.Grey@newport.ac.uk

Dylid anfon ceisiadau am le yn y gynhadledd erbyn dydd Gwener Medi’r 4ydd.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

  PABELL Y CYMDEITHASAU

MAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MEIRION A’R CYFFINIAU

  DYDD MERCHER AWST 5ed rhwng 12.00 ac 1.00

  Ceir darlith gan

YR HYBARCH ABAD DAD DEINIOL, BLAENAU FFESTINIOG

ar

SEINTIAU  A  FFYNHONNAU  CYMRU  

CROESO CYNNES I GYFEILLION HEN A NEWYDD

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

  Cyhoeddir  LLYGAD Y FFYNNON  gan  GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold,  Bwcle, Sir y Fflint.

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.CH7 1TH

Ffôn: 01353 754458       e-bost:  gruffyddargel@talktalk.net

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GWEFAN CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU : www.FfynhonnauCymru.org.uk

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up