Home Up

LLYGAD  Y  FFYNNON 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                  Rhif 25 Nadolig 2008

 

DŴR, FFYNNON A PHENGLOG.

Ken Lloyd Gruffydd.

Gwenfrewi a’i ffynnon, Treffynnon, Sir y Fflint.

Mae’r syniad o addoli dŵr yn ymddangos yn rhyfedd i ni heddiw gan mai’r unig beth sydd angen arnom ei wneud er mwyn cael llymaid ohono neu beth ohono i ymolchi yw agor tap. Eto, yn yr unfed ganrif ar hugain, dyna’r union beth sy’n digwydd yn yr India a Bangladesh y dyddiau hyn. Gwelir miliynau o Hindwiaid yn teithio pellteroedd  maith i ymdrochi  yn yr  afon Ganga ( Ganges ),  gan obeithio  cael gwellhad  o  ryw afiechyd neu lanhad ysbrydol. I’r Hindŵ mae’r afon yn sanctaidd ac wedi bod felly ers miloedd o flynyddoedd.  Tybia ein harchaeolegwyr mai dyma’r drefn ym Mhrydain oddeutu 4,000 C.C. pan gychwynwyd yr arferiad o ffermio gyntaf.  Ond mae’n rhaid i ni aros tan yr Oes Efydd, tua 2,300 C.C., cyn y cawn dystiolaeth bendant o gysylltu dŵr a rhyw fath o grefydd.  Ar odre Carn Meini ym mynyddoedd y Presely  ~  lle cafwyd y meini gleision ( bluestones ) i Gôr y Cewri  ~  mae meini gosodedig gerllaw amryw o darddellau dŵr i ddynodi eu safle i deithwyr sychedig.  Ni chawn byth wybod pwy a’u cododd yno ond yn ddiweddar dengys archwiliadau yn ymwneud â DNA dynol fod canran sylweddol o boblogaeth Cymru heddiw yn cario’r un patrwm genetig a’r brodorion a drigai yma o leiaf 6,000 mlynedd yn ôl.  Felly, mae modd credu y gall peth o’r coelion o’r cyfnod cynhanesiol fod wedi goroesi i’n dyddiau ni.

Amcangyfrir i lwythi o Geltiaid, gyda’r ddawn ychwanegol o wneud offer gwaith ac arfau o haearn, ymsefydlu yn yr ynysoedd yma tua 600 C.C. Roeddynt hefyd yn adeiladu caerau i amddiffyn eu sefydliadau, ac roedd y Frythoneg yn iaith iddynt, ond ychydig iawn yw ein gwybodaeth am eu arferion defodol ac angladdol. Yn ôl haneswyr Rhufeinig byddai ein cyndadau yn ystyried afonydd, llynnoedd a ffynhonnau fel cyflwynwyr ac amddiffynwyr bywyd, ac fel gwerthfawrogiad o hyn, offryment anrhegion i’r dyfroedd hyn. Yr un mwyaf enwog yng Nghymru yn hyn o beth yw Llyn Cerrig Bach ym Môn lle daethpwyd ar draws llawer o arteffactau o’r Oes Haearn.  Mae’r weithred o daflu arian neu binnau i’n ffynhonnau heddiw yn barhad o’r arferiad hwn.  Gwêl rhai fod hyn yn ffordd i warchod eu hunain rhag trychineb tra bo eraill yn edrych arno fel modd i gael ‘lwc dda’!

 Mae ein diolch hefyd i’r Rhufeiniaid am fabwysiadu enwau Brythoneg ein hafonydd a rhai o’r caerau a godasant ar eu glannau.  Cymerwch yr un yng Nghaer er enghraifft.  Cofnodwyd y fan yn Deva gan mai dyna oedd sŵn ynganu’r gair i glustiau Gwŷr y Leng pan godasant eu pebyll yno gyntaf. Daw y gair o’r Frythoneg *Deua gyda’r ystyr ‘duwies, cysygredig’. Felly ‘dŵr y dduwies’ yw Dyfrdwy, ac fel mae’n digwydd, gwyddom mai Aerfen ‘ clodfawr mewn brwydr’ oedd rhinwedd ei amddiffynydd. Man hynod o bwysig i’r Celtiaid oedd tarddle afon, boed yn bistyll neu lyn.Yno y cyflwynid defodau paganaidd i’r duwiau a gredent iddynt drigo yn y dŵr, a bod hwythau yn eu tro yn dod o fyd tanddaearol a elwid Annwfn. Safle arall o bwys oedd y fan lle rhed ffrwd i afon, neu gymer dwy afon (aber), gan y cryfheid y llif yno. O’r herwydd, byddai derbyn i Lanystumdwy yng Ngwynedd fod yn fangre gysegredig yn y cyn-amser yn gredadwy, o gofio mai’r afonydd Dwyfor a Dwyfach sydd yn cwrdd yno. Peth digon hawdd wedyn fyddai i’r Cristnogion cynnar godi llan ‘eglwys’ ar y ddôl a grewyd gan ystum y ddau lifeiriant.  Hawdd hefyd fyddai mabwysiadu un o’r hen arferion yn ymwneud â dŵr wrth fedyddio. Diogelu teithwyr a’u hanifeliaid tra’n croesi afon mewn lle cul neu ddŵr bâs oedd swyddogaeth y dduwies *Ritona, a’i henw hi a gawn yn rhyd ‘man croesi’. Enghreifftiau eraill o afonydd yn dwyn enwau duwiau yn y dull yma yw Braint  ( *Brigantia ‘un bwysig’ ) ym Môn; amryw Lleu   ( *Leuco ‘golau’ ); Taran ( *Taranis ‘taran’ ); a’r fwyaf ohonynt oll, Hafren ( *Sabrina ).  Hawdd trosi’r Frythoneg Sabr- i’r Gymraeg Hafr- gyda’r ôl-ddodiad –ina yn troi’n –en, ond does wybod beth yw tarddiad yr elfen gyntaf.

 Crewyd y mwyafrif o’n ffynhonnau drwy i ddŵr ymwthio i’r wyneb mewn man arbennig, yn hytrach na llifo i lawr o’r ucheldir a chronni mewn twll neu bant, yn union yr  un fath a tharddell afon ond ar raddfa llai.  Nid annisgwyl felly yw darganfod i drigolion y cyfnod cyn-Gristnogol  ddirnad dŵr fel rhoddwr bywyd a phurwr enaid a bod llygad-y-ffynnon yn agorfa neu fynedfa i’r byd goruwchnaturiol.  Does ddim amheuaeth fod angen ymchwilio’n fwy trylwyr i’r maes hwn, yn enwedig ym myd archaeoleg, cyn y gallwn ddatgan yn hyderus pa ddefodau a gymerodd le yn y safleoedd pwysig hyn. Dichon byddai cloddio am ôl polion yn amgylchu ambell i ffynnon o werth, a pha arwyddocad sydd i’r cerrig gwyn neu bennau cerrig cerfiedig a godwyd allan o lawer ohonynt. Gallwn hefyd ofyn a oes cysylltiad rhwng yr arferiad presennol o orchuddio beddau â cherrig gwynion ( gyda’r pwrpas o gadw’r ysbrydion aflan draw) gyda rhai cyffelyb a geir mewn ffynhonnau?  A pha mor bell yn ôl y gellir olrhain swyddogaeth ceidwaid y ffynhonnau y down ar eu traws hyd y ddeunawfwd ganrif? Yr enwocaf ohonynt o bosib oedd John Evans fu’n ymwneud â ffynnon felltithio Sant Eilian yn Sir Ddinbych.  Dychwelwn at y pennau eto.

 Yn ôl pob tebyg parhaodd yr arferiad o fedyddio mewn afon drwy Oes y Seintiau (500-800 O.C.) gan, mi dybiwn, fabwysiadu amryw o’r defodau cyntefig o drochi.  Wedyn gwelwyd bedyddfeini yn ymddangos yn ein llannau, gyda dŵr o’r afon neu ffynnon (wedi ei hail-gysegru i’r sant lleol erbyn hyn) yn cael ei gario iddynt.  Heddiw dŵr o’r tap a ddefnyddir yn fynych a hwnnw wedi ei fendithio’n gyhoeddus gan ficer neu weinidog.  Hwyrach fod rhai o’n darllenwyr yn gwybod am enghreifftiau diweddar o’r ddefod o fedyddio drwy drochiad mewn ffynnon awyr agored.  Buaswn yn dra ddiolchgar am unrhyw wybodaeth neu sylwadau ar y pwnc.  Anghyson iawn fu’r arferiad ym mysg Bedyddwyr bro’r Wyddgrug ble trigaf.  Yn ystod yr hanner canrif diwethaf dim ond ar bedwar achlysur y cymerodd hyn le yn Ffynnon Tysilio gerllaw’r dref, dwywaith ym 1952 ac unwaith yn 1979 a 2006.  Credaf byddai arolwg o Gymru gyfan yn datgelu i lawer iawn o’r hen ddefodau ynghlwm â’n ffynhonnau (nid rhai ‘sanctaidd’ o angenrhaid) oroesi i’r cyfnod modern er gwaethaf sawl Deddf Gwlad a basiwyd rhwng 1536 a 1559 yn gwahardd unrhyw weithred anghristnogol yn ymwneud â hwy. Un o’r rhesymau pennaf i addoli ffynhonnau oroesi oedd oherwydd i grefydd eglwysig, hyd y cyfnod Protestanaidd, fod yn ffordd ddefodol o fyw yn hytrach na chasgliad o ddogmâu.  Mae’n rhaid ychwanegu fod ansawdd meddygol dŵr rhai ohonynt wedi gorfodi’r dyn cyffredin i’w defnyddio’n barhaol, ac o’r herwydd, eu diogelu. Ymfalchïa rhai plwyfolion yn yr ofergoeledd a’r hudolrwydd a gysylltid gyda’u ffynhonnell neilltuol hwy o ddŵr.

 Down ar draws parhad o’r hen ffydd yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg pan oedd hi’n arferiad gan ffermwyr Llŷn i hebrwng eu heffrod at Ffynnon Beuno yng Nghlynnog Fawr, Arfon, er mwyn cael dŵr wedi ei ysgeintio drostynt gyda’r gobaith y byddent yn esgor ar lo. Perfformiwyd seremoni gyffelyb yn Ffynnon Gemig, Llansansior, Sir Ddinbych, ond ceffylau a daenellwyd yn benodol gyda dŵr yno i’w gwarchod rhag afiechyd neu i’w gwella o ryw glefyd heintus. Yn y 1980au ceisiodd clerigwr lleol, y Parchg. Warwick Jaundrill, ail-gychwyn yr arferiad yma ond, oherwydd y tywydd dychrynllyd o wlyb a gafwyd y diwrnod hwnnw ni ail-berfformiwyd ( hyd y gwn ) y gweithgareddau.  Mae’n bwysig nodi fod y ffynnon arbennig hon wedi ei lleoli mewn darn o dir anferth a enwir Parc-y-meirch, a gerllaw yn Ninorben darganfyddwyd lliaws o offer ceffylau wedi eu llunio o efydd rhyw 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Gwna hyn i rhywun ystyried bod cysylltiad y fro yma â meirch yn goroesi o gyfnod Eponos ‘duw ceffylau’ y Brythoniad.

Ffynnon Gwenfrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, yw’r fan lle ymgynnull y nifer mwyaf o bererinion yng Nghymru pob blwyddyn.  Ar ddiwrnod arbennig ym Mehefin ceir dros 2,000 ohonynt yn cyrchu yno. Mae’n fan sanctaidd iawn heddiw ond rhaid cofio na fyddai yno o gwbwl oni bai bod dyn siomedig wedi torri pen merch i ffwrdd ac i ‘ffynnon godi lle syrthiodd ei phen’!

Yn ddiamau un o’r pethau mwyaf diddorol, ond ar yr un pryd anodd ei amgyffred, yw’r berthynas a geir o dro i dro rhwng ffynnon a phen wedi ei naddu o garreg.  Roedd y Celtiaid yn enwog am addoli’r benglog am amryw resymau. Gwelent ynddi symbol o dduwioldeb a phwerau arallfydol yn ogystal â’r gallu i amddiffyn eneidiau’r meirw.  Roedd cysylltiad rhwng y byw a’r ymadawedig yn hanfodol i’w crefydd, ac mwy na thebyg, gwelent yma hefyd gydadwaith ysbrydol rhwng y benglog â dŵr.  Byddai eu gweld fel gwarchodwyr ffynnon yn gwneud synnwyr hefyd. Pwysleisia haneswyr Rhufain a Gwlad Groeg yr arferiad oedd gan y Celtiaid o arddangos pennau eu gelynion tu allan i’w tai ar ôl brwydr fuddugoliaethus. Credid hefyd fod cysylltiad yma gyda chwlt ffrwythlondeb achos bod y pen yn symbol ffalig.

 Hoffwn aros am ennyd gyda’r llygaid a’r ffurfiau gwahanol o’u portreadu.  Yn Ffigwr 1 dengys yr un o Hendy, Môn, gyda’r ddwy lygad ar agor; arwyddocâd, o bosib, i’r pen gynrychioli rhywun effro neu gyflwr gwrthfelltithiol.  Gydag un lygaid ar agor a’r llall wedi cau tybed nad darlun sydd yn ein henghraifft o Lanallgo o berson na ellid ymddiried ynddo.

Pan  ddown i edrych ar y ddau a ddarganfyddwyd ym Mron-y-garth ger Y Waun, Ffigwr 2, sylwn fod i’r un ar y chwith ddwy lygad caeëdig ( cwsg neu marwolaeth hwyrach ), tra naddwyd y ddwy allan yn y llall, allai ddynodi dallineb.  Mae’n rhaid cyfaddef mai dyfalu yw llawer o hyn.

Cadarnhaodd cloddio archaeolegol bod yna gyd-destun Oes Efydd i’r pennau cerrig di-chwaeth yma ond gan nad yw’n bosib eu dyddio’n wyddonol bob tro gall rhai ohonynt fod llawer hŷn.  Mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd. Dichon i rai gael eu creu yn yr Oesoedd Canol. Ymddengys, yn ôl Bywydau’r Saint, i Gwlt y Benglog barhau hyd yr Oesoedd Canol.  Oherwydd bod y Mabinogi yn gymysgedd o elfennau paganaidd a Christnogol myn rhai mai Pendefig-frân oedd arwr yr ail gainc cyn iddo gael ei ddienyddio, ac mai copiwr yn un o’n mynachlogydd a’i newidiodd i Bendigaid-frân, sef, Bendigeidfran.  Gwir neu beidio, cawn lawer enghraifft o ben sant yn chwarae rhan amlwg yn ei vita.  Cyfeirwyd eisoes at Santes Gwenfrewi a gollodd ei phen drwy gael ei dienyddio. Dylwn ychwanegu i’w hewythr Beuno (wedi hynny ei gwarchodwr ) lwyddo, drwy wyrth, i osod ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau. Cawn stori gyffelyb am Santes Ddigwg a’i ffynnon ger Clynnog Fawr.  Diddorol sylwi mai Beuno a gyflawnodd y gorchwyl yma hefyd.  Ef oedd nawddsant y plwyf. Gellir rhestru amryw eraill o’r Cristnogion amlwg yma gyda ffynnon a phen yn gysylltiedig â hwy. Mae gogwydd gwahanol i Ffynnon Cynog Sant ym Mrycheiniog oherwydd sychodd honno i fyny pan ddisgynodd pen y gŵr da iddi! 

 Ni ellir dweud i sicrwydd pa bryd peidiodd yr ymarfer o ddefnyddio pen cerfiedig yn lle penglog dynol yng nghyd-destun ffynhonnau, ond mae un peth yn bendant, gwnaethpwyd defnydd o benglogau go iawn ymhell ar ôl yr Oesoedd Canol. Dywedir i benglog y bardd Gruffudd ab Adda ap Dafydd(m.1344), gael ei defnyddio fel cwpan i ddal dŵr rhinweddol i wella’r ‘pas a doluriau eraill’mewn eglwys ym mro Dolgellau hyd o leiaf 1590.  Mae enghreifftiau tebyg i’w cael mewn mannau eraill. Yn ddiamau y mwyaf adnabyddus ohonynt yw penglog Teilo Sant yn Llandeilo Llwydiarth, Sir Benfro.  Heddiw cedwir ef fel crair yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Tybed i ba gyfnod y perthyn y chwech pen sydd i’w gweld yn fferm Rhos Ddigre( < Buddugre ‘bryn y fuddugoliaeth’ ), Llandegla, Sir Ddinbych ? Maent yn wahanol i’r enghreifftiau a welwyd eisoes gan iddynt sefyll ar blinth fel dengys Ffigwr 3.

 

Amcangyfrif iddynt ddyddio rhwng 100 C.C. a 200 O.C., ac os yw hyn yn gywir, rhesymol fyddai eu priodoli i amser y Rhufeiniaid.  Y cwestiwn nesaf yw, ‘O ba le y daethant?’  Yn ôl P.Clark(gol.), Llandegla Then and Now ( 2002 ), 19., meddylir iddynt gael eu cludo o Ffynnon Degla ond nid oes tystiolaeth i hynny ddigwydd.  Mae ffotograff ohonynt ar gael c.1900, felly ni fyddai’r gwaith archaeoleg a gymerodd le yn y ffynnon (c.1938) wedi eu datgelu.  Heddiw gellir eu gweld wrth brif fynedfa’r fferm, wedi eu gorchuddio a phaent glos du!  Dylwn ychwanegu fod cerrig mawr gwyn hefyd wedi eu codi o’r ffynnon hon. Mae llawer o waith arbenigol i’w wneud eto cyn y gallwn ddatrus nifer o’r pwyntiau a godwyd yma.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Llongyfarchiadau i Esyllt a Cristian Lewis, Y Wladfa, ar enedigaeth Idris ym mis Tachwedd. Dyma frawd bach annwyl iawn i Mabon.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU MAIR, WHITEWELL

Howard Huws

 Ceir dwy ffynnon i’r de o’r eglwys hon ym Maelor Saesneg. Mae’r naill , â chaead metel arni, yn y cae main nesaf at y fynwent; a’r llall yn y cae nesaf, â ffens o’i chylch. Awgrymir eu  harwyddocâd hanesyddol gan enw’r pentref, ‘Whitewell’.

 Mae’n debyg mai’r Forwyn Fair fu nawddsantes yr eglwys ers cyn y Diwygiad Protestannaidd. Cyfeiria’r London Gazette (25.5.1880) at ‘gapel anwes (i blwyf Malpas) yn Whitewell, a gysegrwyd ym 1822 tan yr enw “Eglwys y Santes Fair, Whitewell” ’. Mam Duw, felly, oedd nawddsantes yr eglwys ddu a gwyn hynafol o bren a phlastr a ddymchwelwyd ym 1829 neu 1830. Dengys Cofrestrau Plwyf Malpas, yn ogystal â map Saxton o Sir Ddinbych a Sir y Fflint (1577), fod Capel Whitewell eisoes yn addolfa sefydledig ym 1570. Rhesymol yw tybio hefyd nad newyddbeth ym 1822 oedd y cysylltiad â’r Forwyn Fair. Nid oedd y cysegriad ond yn cydnabod arfer y gorffennol.

Mae’r cysylltiad hynafol rhwng ffynhonnau a’r Forwyn Fair yn ddiddorol o ran goleuo peth ar darddiad anhysbys eglwys Whitewell. Yn ystod y 12fed ganrif a’r 13eg cynyddodd poblogrwydd parchu’r Forwyn i raddau eithriadol. Mae’r ffynhonnau sanctaidd a gysegrwyd yn ei henw yn lluosocach o lawer na’r eiddo unrhyw sant neu santes arall yng Nghymru, a gellid priodoli hyn i gynnydd cysegru (neu ailgysegru) ffynhonnau yn ystod y cyfnod hwnnw. Dengys map dosbarthiad ffynhonnau Mair ledled Ynysoedd Prydain yn The Living Stream, James Rattue, (Boydell Press 1995, t.71) eu bod ar eu hamlaf yn hen Sir y Fflint, a chadarnheir hynny gan fap Francis Jones, The Holy Wells of Wales, (Gwasg Prifysgol Cymru 1954 t. 220).

Cyfrifodd Francis Jones 76 ‘Ffynnon Fair’ yng Nghymru, ond ni chynhwysodd y rhai uchod, namyn crybwyll ‘Whitewell’ (tt.46 a 179). Gallai’r enw Saesneg darddu o enw Eingl-Seisnig Whyte’, yn enw pa un (ar y ffurf ‘Candida’) y cysegrir Whitchurch Canonicorum yn Swydd Dorset (gw. Rattue tt. 70, 146-7, 175). Yn ôl Farmer (The Oxford Dictionary of Saints), y mae’r ‘Whyte hon yn santes Gymraeg o’r enw Gwen, y cyflwynodd y Brenin Athlestan ei chreiriau i’r eglwys yn Swydd Dorset. Eithr honnir hefyd ei bod hi’n ferthyres a laddwyd yng nghyflafan Dockum, ger Utrecht yn 755; mai hi yw’r Santes Blanche o Lydaw, tan enw arall; neu wraig leol (meudwyes efallai) a lofruddiwyd gan y Daniaid. Pan archwiliwyd ei harch blwm ym 1990, cafwyd arni’r arysgrif ‘Hic requiescunt reliquie Sancte Wite’ (Yma y gorffwys gweddillion / greiriau Wite Sanctaidd), ac ynddi esgyrn gwraig fechan tua 40 oed.

Ceir Ffynnon Whyte ym mhentref Morecombelake yn Dorset . Y mae’n gafn carreg petryal, tua throedfedd a hanner o led, a throedfedd o hyd: gwelir llun ohoni ar www.hensleighhotel.co.uk/Morecombelake.  Dywed llechen ddiweddar gerllaw ei bod ‘yn iachau llygaid ers yr unfed ganrif ar bymtheg, o leiaf ’. Bendithiwyd y ffynnon adferedig gan Esgob Caersallog ar 24.7.1985. Mae William Worcestre a John Gerard yn crybwyll y santes hon, a dywed Thomas More yr arferid offrymu cacennau neu gaws ar ei dydd gŵyl.

Dywedir y dylai ffynnon sanctaidd Gristnogol lifo tua’r dwyrain, cyfeiriad Caersalem. Mae eglwysi’n wynebu’r cyfeiriad hwnnw, ac â’u traed tua’r dwyrain y cleddir Cristnogion, fel y gallant godi â’u hwynebau tua gwawr yr Atgyfodiad. Mae ffynhonnau Whitewell ym Maelor Saesneg yn goferu i nant (Elk) sy’n llifo tua’r dwyrain, ac yn gyflin â’r eglwys: ac o gofio’r wawr gellid maddau tybio fod a wnelo’r enw ‘White’ yma hefyd â’r gair Eingl-Seisnig ‘hwit’, sef disglair. Rhaid dweud y ceir sawl ‘ Whitewell’ neu ‘Whitwell’ yn Lloegr o Swydd Efrog i Ynys Wyth. Yr enwocaf, ond odid, yw ffynhonnau iachusol ‘White Wells’ uwchlaw Ilkley.

Nodweddiadol hefyd fyddai ffordd orymdeithio rhwng capel a ffynnon, ac yn achos Whitewell efallai y goroesodd hon ar ffurf y llwybr troed sy’n mynd o’r eglwys, ar draws y cae main, heibio i’r ffynnon amgaeëdig ac ymlaen i’r cae tu hwnt. Mae’r grisiau sy’n arwain i lawr at ddŵr y ffynnon hon yn awgrymu y bu cryn ddefnyddio arni. Cofnodwyd un ffynnon sanctaidd hysbys arall ym Maelor Saesneg, sef  Ffynnon Chad yn Hanmer.

Codwyd rhannau helaeth o’r wybodaeth uchod o daflen Paul Winchester, St Mary’s Wells, Whitewell (1996)

Cyferinodau Arolwg Ordnans
Ffynhonnau Whitewell, Maelor Saesneg: SJ 49517 41370
Eglwys Whitchurch Canonicorum, Dorset: SY 39675 95442
Ffynnon Whyte, Morecombelake, Dorset: SY 39954 93756
White Wells, Ilkley, Gorllewin Swydd Efrog: SE 118 468

Gwefannau defnyddiol eraill:
www.dorsethistoricchurchestrust.co.uk/Whitchurchcanonicorum
www.thedorsetpages.com/locations/place/W210
www.people.bath.ac.uk/liskmj/living-spring/sourcearchive

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Helga  Martin, Ysbyty Ifan
Carolyn Williams, Bryste.
Arthur Taylor, Bryste.
Helen Romaine, Llangeitho
Sonia Hill, Ystrad Meurig
Phil L. Cope, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae rhai o’n haelodau newydd yn dysgu Cymraeg ac yn cael cymorth cyfeillion sy’n rhugl i fedru darllen a deall cynnwys Llygad y Ffynnon. Diolch iddynt am eu diddordeb yng ngwaith y gymdeithas.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ADOLYGIAD

HOLY WELLS: WALES ~ a photographic journey, gan Phil Cope  

Cyhoeddwyr: Seren, (Penybont-ar-Ogwr 2008). Clawr caled. Tud.222. Pris £20

Dwi’n hynod falch i mi brynu’r llyfr hwn yn anrheg i’m gwraig oherwydd rwyf wedi cael mwynhad eithriadol yn bodio trwyddo. Mae’r awdur, y dylunydd Ian Findlay a’r cyhoeddwr i’w llongyfarch ar gynhyrchiad diddorol a lliwgar.

Fel un sy’n hoffi darllen roeddwn yn siomedig nad oedd yna wybodaeth llawnach am rai o’r ffynhonnau yr ymdrinir â hwy, ond i fod yn deg â’r awdur, nid llyfr hanes mohono a gwneir hynny yn berffaith glir yn yr is-bennawd, ‘siwrnai ffotograffig’; ac mae Phil Cope yn bencampwr gyda chamera. Yn aml iawn mae’n dangos fod ganddo lygaid artist da i adnabod gwrthrychau diddorol ac anghyffredin. Yr hyn a roddodd y pleser mwyaf i mi oedd gweld sut yr oedd wedi llwyddo’n grefftus i gyflwyno arliwiau gwyrdd i gynlluniau â brown yn liw cynradd iddynt – ac hefyd- fel yr oedd ambell dro wedi ymyrryd â’r dŵr gyda ffon a cherrig man, (mi dybiaf), i gael effaith cynnwrf ar yr wyneb.

O bryd i’w gilydd ychwanegir darn o farddoniaeth i gydfynd â llun, gan gynnwys gwaith Dafydd ap Gwilym, Lewis Morris, Gerald Manley Hopkins, R.S.Thomas, Yr Archesgob Rowan Williams, Phil Cope ei hun ac eraill.

O’r  mil, cant a saithdeg naw o ffynhonnau sanctaidd a gofnodwyd gan y diweddar Francis Jones yn ei gyfrol werthfawr The Holy Wells of Wales (Caerdydd 1954), amcangyfrifa Phil Cope iddo ymweld ag oddeutu dau gant ohonynt ac ymddengys pedwardeg pedwar o’r rhai hynny yn y llyfr. Dywed y bu rhai o’i ymdrechion i ddarganfod safle arbennig yn fethiant llwyr ac fe’i cythruddwyd fwy nag unwaith pan ddeuai ar draws ffynnon wedi ei difrodi. Yr hyn a’i gwylltiodd fwyaf oedd y cawliach y bu dyn yn gyfrifiol amdano wrth geisio atgyweirio ambell ffynnon. Mae’n amlwg mai ffynhonnau wedi eu hesgeuluso yw’r rhai a welir yma sydd mewn cyflwr gwael neu fregus.

Hefyd, ar yr ochr negyddol, byddai rhywun yn meddwl fod canolbarth Cymru yn wag o ffynhonnau os defnyddir y llyfr hwn fel canllaw. Yn ychwanegol, dw i’n amau dilysrwydd llun a ddisgrifir fel ‘yr hyn sy’n weddill o Ffynnon Ddwynwen’ (t. 51). Mae’r ffynnon yn y llun yn un fawr gyda muriau o’i chwmpas a grisiau yn mynd i lawr iddi. Er nad oes amheuaeth mai safle hen ffynnon sydd yma, nid hon yw ffynnon y santes. Pan ymwelais ag Ynys Llanddwyn rhyw ddegawd yn ôl dangosodd Warden y Warchodfa Natur Ffynnon Santes y Cariadon i mi. Mae’n bwll naturiol yn y graig ychydig droedfeddi uwch llanw’r môr. Dywedodd wrthym mai Ffynnon Ddafaden oedd y llall. Eithriad yw llithriad fel hyn.

Gyda phob ffynnon mae map bach o Gymru yn dynodi ei safle ac os ydych eisiau gwybodaeth manylach er mwyn cael ymweld â hwy ceir Cyfeirnod Grid Cenedlaethol hefyd. Cyhoeddir Holy Wells Wales gan Seren, 57 Stryd Nolton, Penybont-ar Ogwr. CF31 3AE. Gellir prynu’r gyfrol drwy wenud siec i Seren Books. Mae’r gost o £20 yn cynnwys cludiant. Os am wneud ymholiadau ar y ffôn y rhif yw 01656 660318.  Gallwch hefyd archebu ar y we: www.seren-books.com

                                                                                    Amicus                                   

Mae Phil Cope wedi ymaelodi yng Nghymdeithas Ffynhonnau Cymru yn ddiweddar.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

ANNWYL OLYGYDD... ANNWYL OLYGYDD  

Annwyl Olygydd,

Yr oeddwn wrth fy modd eich bod wedi cynnwys fy llythyr yn Llygad y Ffynnon (Haf 2008) ac yn falch fy mod wedi eich ysgogi i gynnwys dyfyniadau o Coelion Cymru ac o Rhys Lewis. Diolch i chi.

Dyma fwy o wybodaeth am Ffynnon Oer, Llanddona, Ynys Môn.  Mae hen dŷ Ffynnon Oer wedi ei ail wneud yn hynod o gelfydd. Yn yr un modd y mae Tŷ Mawr Llan, Llanddona hefyd  wedi ei ail wneud. Fedra i ddim lleoli Ffynnon Oer ar y map ond y mae ar y llwybr troed rhwng Pentre Llwyni a Chwarel Carreg Onnen, Llanddona - rownd y trwyn o lan Môr Pic. Y mae ’na dŷ arall hynod o ddiddorol ger Ffynnon Oer sef Bod Olau.

Adroddwyd hanes rheibesau Llanddona (witches Dona) gan ein prifathro, R. Lloyd Huws yn yr ysgol yn ystod pedwardegau’r ganrif ddiwethaf. Dywedai mai o Sbaen yr oeddynt wedi dod. Bella Fawr oedd eu harweinydd ac y mae ’na ffermdy ar y ffordd i Biwmares o Landdona o’r enw Bryn Bella. Y mae ’na fwthyn ar y traeth o’r enw Belan Wen- wn i ddim a ydi Bella Fawr i’w chysylltu â’r ffermdy a’r bwthyn.

Y mae ’na ddwy ffynnon ar draeth Llanddona. Un yw Ffynnon Tŷ Mawr Llan, ar y ffordd at y tŷ, ac mae’n cael ei chadw mewn cyflwr arbennig o dda. Y llall yw Ffynnon Pentrans.

Dydw i ddim yn credu fod hon yn cael ei chadw mor dda. Tŷ arall ag enw diddorol yn Llanddona yw Ty’n y Pistyll. Dywedir i Bella Fawr gatrefu yn y Gorslwyd, Llanddona, a byddai yn aflonyddu ar ffermwr Rhosisaf. Dywedir y byddai’n troi yn ysgyfarnog!

Yn gywir,

Margaret Jean Jones, Henryd, Conwy.

(Credwn mai Cyfeirnod Grid Ffynnon Oer yw SH579816 . Gol.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Annwyl Olygydd,

Tybed a fyddai gan ddarllenwyr Llygad y Ffynnon ddiddordeb yn Ffynnon Aelgerth

Dyma wybodaeth a llun ohoni. Y Cyfeirnod map yw SH 575581.

Naddwyd y ffynnon i fewn i’r graig ar lethrau Cwm Bywynnog ac yng nghysgod Cefn Drum sydd yn arwain o gopa Foel Goch nepell hanner milltir o Lyn Cwm Daethhwch. Llecha’r ffynnon ger y brif lwybr sydd yn arwain o Lanberis trwy Bwlch Masgwrn, i Lyn Cwellyn ger Rhyd Ddu. Nid oes unrhyw hanes na thraddodiad i’r ffynnon ac mae’n eithaf amlwg ei bod yn sicrhau cyflenwad o ddŵr i’r tri bwthyn cyfagos, tyddynnod yr Aelgerth neu y Rali fel y’i gelwir yn lleol. Adfeilion bellach yw Rali Ganol a Rali Uchaf ond, drwy

ryfeddol wyrth, fe saif y brif Rali hyd heddiw er mai tŷ haf ydyw bellach. Symudodd rhan fwyaf y trigolion o’r cwm yn ystod yr Ail Rhyfel Byd pan feddianwyd y dyffryn gan y fyddin ar gyfer ymarferion o bob math. Dyma’r tro olaf i’r ffynnon gael ei defnyddio ar gyfer y bythynnod a pheipen blastig sy’n gwasanaethu yn y Rali heddiw. 

Gosodwyd targedau saethu ychydig lathenni islaw’r ffynnon ac awgrymodd y Prifardd R. Bryn Williams, a oedd yn weinidog ar Gapel Hebron y cwm, yn ei gerdd Cwm Bywynnog, fod rhai o’r tyddynwyr wedi mudo’n ffôl o’r cwm yn y cyfnod hwn. Mynegodd hefyd, yn ei delyneg i Fwlch Masgwrn, ei siom fod y bythynnod yn wag. Ymddangosodd y delyneg yn Y Cymro ym mis Medi 1943.

                                    BWLCH MASGWRN

                                    Gwag dy fythynnod,
                                    Di-fref dy braidd;
                                    Dryllio’r tawelwch
                                    Ni fyn, Ni faidd.

                                    Ni chân dy adar,
                                    Dim ond croesi’n chwim;
                                    A churiad adenydd
                                    Sy’n ddychryn im.

                                    Daw sibrwd y nentydd
                                    O’r creigiau cyd;
                                    Wyt lawn isleisiau
                                    A hiraeth mud.

                                     O na chawn chwerthin
                                    Neu wylo’n drwm;
                                    Ond ofnaf ddeffro
                                    Dy feirwon llwm. 

Cyfeiriad sydd yma at wacter y cwm oherwydd yr ymarfer saethu a oedd yn digwydd yno yn ddyddiol yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.

Ken Jones, Llanberis

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR

Dyma ddyfyniad hynod ddiddorol o gyfrol  hunangofiannol Dr. Aled Lloyd Davies:

Pwyso ar y Giât (gwasg y Bwthyn, Caernarfon 2008) tudalen 19:  

Pan fyddem yn ymweld â Phenbryn, Bethel, byddai Mam a f’ewythr Dafydd yn hel atgofion am y dyddiau gynt, pan oedd yr aelwyd yn llawn prysurdeb a bwrlwm, gyda saith o blant parablus yn byw yno.... Yn ystod un ymweliad, cofiaf fy mam a minnau’n mynd ar draws y caeau hyd at ffynnon bach y Cwm. Oddi yno y byddent yn mofyn eu dŵr yfed, ac fe honnai fy mam mai dyna’r dŵr gorau yn y byd. Erbyn heddiw, mae elfen o dristwch yn dod i mi wrth sôn am y ffynnon, oherwydd yn ystod gwaeledd olaf fy mam ym 1958, fe ofynnodd am gael llymed o ddŵr o ffynnon fach y Cwm, a bûm innau yno’n mofyn llond fflasg thermos ohono. ‘Bendigedig’ oedd ei hymateb wrth iddi ei yfed.

Dyma gyfieithiad o’r hyn welwyd yn y Flintshire Standard ar Ddydd Iau Ebrill 10fed, 2008:

DŴR O FANGRE CYSEGREDIG NODEDIG AR WERTH AR eBAY

Mae dŵr sanctaidd o un o fannau enwocaf a mwyaf cysegredig Sir Y Fflint ar werth ar eBay. Am ganrifoedd bu pererinion yn teithio i Ffynnon Santes Gwenfrewi yn Nhreffynnon i ymweld â chreirfa’r santes y dywedir iddi gael ei dienyddio yn y seithfed ganrif. Yn ôl yr hanes gwrthododd gael cyfathrach rywiol gyda Charadog, pendefig lleol, ac yn ei ddig torrodd ei phen i ffwrdd gyda’i gleddyf. Ond lle syrthiodd y pen tarddodd ffynnon gref o’r ddaear. Cafodd Gwenfrewi ei hadfer i lawn iechyd gan ei hewythr Beuno Sant a daeth y ffynnon yn enwog ac yn fagned i Gristnogion o bedwar ban byd. Dywedir mai’r fangre hon yw Lourdes Cymru oherwydd grym iachusol a bwrlwm y dyfroedd. Nawr mae technoleg fodern yn chwarae rhan yn yr hanes a pherson o’r Alban yn ceisio gwerthu potelaid o’r dŵr ar safle ocsiwn ar y we. Mae llawer o ymwelwyr yn defnyddio poteli i gario dŵr o’r ffynnon adre efo nhw. Mae’r dŵr ar  y we ar werth i’r un sy’n cynnig y pris uchaf.  Yr isafswm y gellid ei gynnig oedd 50 ceiniog a £3 am y cludiant neu gellid prynu’r botel ar unwaith am £4.99. Nid oes sicrwydd a gafodd y dŵr ei werthu ai peidio.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FAIR, DOLGELLAU

Yn Y Cymro ar Fedi 26ain  2008  cyhoeddwyd fod y gofal am Ffynnon Fair, Dolgellau wedi ei chyflwyno i Gyngor y Dref. Cafwyd cymorth ariannol gan Cyncoed, Cynllun y Comisiwn Coedwigaeth a llwyddodd Partneriaeth Dolgellau i brynu Coedlan Ffynnon Fair ar ochr ddeheuol y dref. Cafodd y ffynnon ei hatgyweirio ac mewn seremoni Ddydd Sul, Med 21ain rhoddwyd hi i ofal y cyngor.

Gwelwn yma enghraifft wych o gymdeithas hanes leol yn mynd ati i geisio nawdd i adfer ffynnon fendigedig a oedd mewn cyflwr truenus. Bellach, a’r ffynnon yng ngofal y Cyngor, dylai gael gofal a gwaith cynnal a chadw cyson. Llwyddwyd i ddenu nawdd ariannol am fod y ffynnon yn rhan o goedlan ddymunol iawn. Tybed a oes yma neges i bentrefi a threfi eraill? Os gellir cyplysu ffynnon gyda phrosiect llwybrau neu goedlan mae’n haws denu nawdd ar gyfer ei hadfer.

FFYNNON IOCWS, PWLLHELI

Ar gyrion tref Pwllheli, ar y ffordd i gyfeiriad Caernarfon, mae plasdy hardd Iocws. Mae dwy ffynnon i’w gweld yno. Mae’r un ger y tŷ yn ddofn iawn a hon fyddai wedi cyflenwi angen y perchnogion a’r gweision am ddŵr yn y gorffennol.  Ffynnon gron yw hi wedi ei hadeiladu o frics coch a’i mur allanol, sy’n bedair troedfedd o uchder, wedi ei addurno â cherrig crwn.Ei diamedr yw tair troedfedd chwe modfedd. Mae caead haearn solet drosti a da yw hynny. O ben y ffynnon i’r dŵr mae’n ddeg troedfedd at hugain ac mae pymtheg troedfedd o ddŵr yn ei gwaelod.

Rhwng y gerddi a buarth y fferm mae ffynnon arbennig iawn. Ffynnon sgwar yw hon, yn agored i’r nefoedd, wedi ei hamgylchynu â muriau wyth troedfedd o uchder gyda mynedfa chwe throedfedd o uchder ar y wal flaen. Mae’r waliau allanol yn mesur un droedfedd ar ddeg eu hyd a’u lled ac maent bron yn ddwy droedfedd o drwch. Ni chafodd y ffynnon ei glanhau ers chwedegau’r ugeinfed ganrif ac mae’n llawn llaid. Mae’n amlwg fod dŵr wedi ei godi o’r ffynnon ar un amser am fod nifer o risiau yn mynd i lawr o dan y llaid ger y drws. Credir fod dŵr yn codi o’r ddaear ar safle’r ffynnon ond o bosib mae’n llifo iddi o darddiad arall. Mae olion gwyngalchu ar furiau mewnol y ffynnon. Tybed ai yma roedd aelodau ifanc y teulu bonheddig a fu’n byw yn Iocws ers talwm yn ymdrochi ar dywydd poeth yn yr haf? Pe bai drws pren ar y fynedfa yna byddent yn gallu mwynhau eu hunain heb fod y gweision yn gallu eu gweld. Gwyddom am enghreifftiau eraill o faddonau tebyg yng ngerddi plasdai neu’n weddol agos atynt lle arferai bonheddwyr ddod i fwynhau ymdrochi yn y dŵr yn hafau’r gorffennol. Mae un nodwedd ddiddorol iawn ym mhensaernïaeth y ffynnon. Ar ben y muriau gosodwyd cerrig wedi eu naddu ar batrwm o garreg fawr ac un llai bob yn ail. Disgrifir y defnydd yma o gerrig fel ‘iar a chyw’ ar lafar gwlad yn Llŷn. Gellir gweld cerrig tebyg uwchben Ffynnon Aelhaearn ( SH38414462) yn Llanaelhaearn. (Gweler Llygad y Ffynnon 24, tudalen 6) Ar hyn o bryd mae tyfiant yn cuddio’r gwaith cerrig. Da fyddai gallu glanhau’r ffynnon a’i hadfer ond bydd angen amser, arian ac egni i wneud hynny. Diolch i Mrs Annwen Hughes am ein harwain at y ddwy ffynnon ar noson braf o haf ym mis Mehefin 2008. Nid pawb sy mor ffodus â bod yn berchennog ar nid un ond dwy ffynnon.

 

FFYNNON Y WRACH  / PISTYLL YR EURYCH, TREGARTH, ARFON.

Fis Mehefin diwethaf aeth Gwyn Edwards, Llanddeiniolen â ni i ddangos llecyn arbennig i ni ar dir Moelyci ger Tregarth lle mae dŵr yn tarddu o dan hen dderwen ganghennog fawr mewn coedwig a llwybr sy’n arwain trwyddi at waun agored gerllaw nifer o henebion o’r hen amser. Mae awyrgylch arallfydol yn y lle a hawdd gellir dychmygu fod derwyddon wedi bod yma ar un adeg yn addoli’r coed a’r dŵr. Er i ni dynnu lluniau nid oedd digon o olau o dan y coed iddynt ddod allan yn ddigon da i’w cynnwys yn Llygad y Ffynnon. Nid oedd sicrwydd am enw’r tarddiad. Yn Archifdy’r Brifysgol, Bangor gwelwyd mewn un o ddogfennau Stad Penrhyn a’r dyddiad 1768 mai Richard Pennant oedd perchennog Moelyci a Thomas Robert Owen yn denant. Mae’r enwau Cae’r Wrach a Cae Pistyll yr Eurych ar y tir o gwmpas y tarddiad ac anodd oedd bod yn sicr beth oedd enw’r ffynnon. Nid oedd yr awyrgylch wrth y ffynnon yn braf iawn a hawdd gellid fod wedi cysylltu’r lle gyda gwrachyddiaeth a melltith yn y gorffennol pan oedd y werin yn credu’n gryf yn y fath beth. Ond yn ddiweddar cafodd Gwyn gadarnhad mai Pistyll yr Eurych yw’r enw cywir ar y tarddiad.  Rhaid felly bod gof oedd yn gweithio mewn aur wedi defnyddio’r dŵr rhyw dro  yn y gorffennol. O flaen y goeden mae’r dŵr yn codi i ffynnon gyda cherrig mawr cyn goferu i ffynnon ddiweddarach o frics. Mae’r dŵr wedyn yn llifo i gafn llechu cyn goferu i ffos sy’n rhedeg gyfochrog â’r llwybr. Gobaith Gwyn yw glanhau’r ffynnon a thacluso’r amgylchedd o’i chwmpas. Cawn fwy o hanes y fenter yn Llygad y Ffynnon cyn hir, gobeithio.  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

COLLI CYFEILLION

Y ddaear lafar oedd ei lên – a dyn
              ’Stiniog, bob gwythïen,

hen law mor fwyn â phluen

ond darn cadarn o’r graig hen. 

 

Myrddin ap Dafydd.

 

Tristwch mawr i bawb oedd yn ei anabod oedd clywed am farwolaeth disymwyth Emrys Evans, Manod, Blaenau Ffestiniog. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac yn aelod o’r Cyngor o’r cychwyn. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn ffynhonnau bro Blaenau Ffestiniog megis Ffynnon Fihangel a Ffynnon Bach. Trefnodd i ni ymweld â Ffynnon Fihangel ac roedd yn cadw golwg dros y ffynnon ar ran y Gymdeithas. Yn rhifyn 24 o Llygad y Ffynnon argraffwyd ei luniau arbennig o Ffynnon Bach. Yng nghyfarfodydd y Cyngor roedd ei farn bob amser yn gytbwys a doeth a’i hiwmor a’i chwerthin afiaethus yn cynhesu pob trafodaeth.  Bydd yn gadael bwlch na ellir ei lanw ar ei ôl. Yn anffodus ar ddiwrnod ei arwyl roedd yn amhosibl i ni fod yno gan fod claddedigaeth perthynas yn digwydd bron ar yr un adeg dros y ffin yng Nghaer.

Roedd yn berson arbennig iawn ac yn ei farwolaeth ar Dachwedd 19eg collodd y genedl drysor. Wedi gadael yr ysgol uwchradd aeth i’r chwarel fel ei dad a’i daid o’i flaen ac yn y caban y dysgodd sut i siarad yn gyhoeddus a chynnal cyfarfodydd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu yn y llynges. Wedi dod adref a mynd yn ôl i’r chwarel gwelodd effaith y llwch ar ei gydweithwyr a phenderfynodd newid cyfeiriad. Aeth yn Was Sifil a bu’n gweithio ym maes cyflogaeth gan wasanaethu ei fro. Roedd wedi priodi â Menna Griffiths yn 1941 a ganwyd iddynt ddwy ferch, Marian a Gwenan. Collodd ei briod hoff yn 1962 ac wedi hynny Emrys fu’n fam a thad i’r merched drwy gyfnod anodd. Ymddeolodd yn gynnar oherwydd iechyd ond cafodd flynyddoedd lawer i fwynhau ei amrywiol ddiddordebau.

Roedd yn bysgotwr penigamp fel ei dad a’i daid o’i flaen ac yn arbenigwr ar greu plu a bu’n ysgrifennu colofn- Sgotwrs Stiniog yn Llafar Bro – y papur bro lleol- ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Bu’n olygydd ar gylchgrawn hanes lleol, Rhamant Bro am flynyddoedd lawer.  Roedd yn awdur llyfrau i blant hefyd. Roedd yn hoff o gymdeithasau o bob math- Cymdeithas Enweiriol y Cambrian; Cymdeithas Y Fainc Sglodion; Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, Fforwm Plas Tan y Bwlch, Cymdeithas Edward Llwyd a Chymdeithas Llafar Gwlad i enwi ond ychydig. Bu’n flaenor yng nghapel Bethesda , Blaenau Ffestiniog, yn ysgrifennydd yr eglwys ac yn athro Ysgol Sul i’r oedolion am flynyddoedd. Yn sicr mae ei fro enedigol a Chymru gyfan yn dlotach o’i golli. Estynnwn ein cydymeimlad llwyraf â Marion a Gwenan a’u teuluoedd yn eu hiraeth.

            ER COF AM EMRYS EVANS          

Y mae heno’n y Manod
          Rhyw herc yn nhroad y rhod,
         
Y graig sy’n teimlo’r hen graith
          Heno, nid ’r un yw’r heniaith.
          Pob llechen yn sôn amdano
          A rhyw gric yn nhrymder y gro,
          Oherwydd y mae hiraeth
         
Yn cau rhwng clogwyni caeth,
          Hiraeth am un o’n harwyr
          A llais fu’n gyfaredd llwyr.
          Un annwyl a roed heno
          I bridd cyfarwydd ein bro,
          Cywiraf, addfwynaf ŵr
          Heddwch i ti fonheddwr.
          Er yr herc yn nhroad y rhod.
          Heno, gorffwys ym Manod. 

Cynan Jones

eaceaceaceaceaceaceaceaceaceaceaceac  

Gyda thristwch y clywyd am farwolaeth yr awdur adnabyddus a thoreithiog, John Ellis Williams, Llanrug yn 84 oed. Bu’n aelod brwdfrydig o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru a’i ddiddordeb arbennig oedd Ffynnon Cegin Arthur, Deiniolen, ac ymddangosodd llun ohono yn sefyll yn y ffynnon ym Mai 1997 yn Llygad y Ffynnon  Rhif 4, Haf 1998. Roedd yn gymeriad lliwgar, wedi teithio’r byd am flynyddoedd yng nghwmni’r sipswn, yn gweithio yng nghaeau gwenith yn Ffrainc a chyda cheffylau gwyllt yn y Carmague. Treuliodd amser ym Mharis a bu’n byw yn Sussex cyn dod yn ôl i’w hen ardal i ymgartrefu. Derbyniwyd ef i’r orsedd yng Nghaerdydd yn 2008. Cydymdeimlwn a’i deulu yn eu colled a’u hiraeth.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 GWEITHGARWCH Y GYMDEITHAS

Buom yn cynnal nifer o ddarlithoedd yn ystod 2008 a chafwyd aelodau newydd fel canlyniad. Bu’r noson ym Mhontrhydfendigaid yn arbennig o lwyddiannus. Dyma lun o Pat a Meurig Jones, Swyddffynnon, ac Eirlys a Ken Gruffydd wedi’r ddarlith.

 

Dyma restr o’r darlithoedd ar gyfer 2009:
Chwefror 5ed - Ponciau ger Wrecsam
Mawrth 24ain- Corwen
Mawrth 26 ain- Shotton, Glannau Dyfrdwy
Mehefin 2il – Treuddyn, ger Yr Wyddgrug

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Y CYFARFOD CYFFREDINOL

Yn y Cyfarfod Cyffredinol ym mis Awst cadarnhawyd penderfyniad y Cyngor i godi tâl aelodaeth blynyddol i £5.00 i aelod unigol, £8.00 i deulu, £10.00 i gorfforaeth a £50.00 am oes. Bydd hyn yn dod i rym o fis Awst 2009 ymlaen. Nid yw tâl aelodaeth wedi codi ers ffurfio’r gymdeithas yn 1996 ac mae costau argraffu Llygad y Ffynnon a chludiant y post wedi cynydddu yn ddiweddar. 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Ffôn: 01352 754458    e-bost: gruffyddargel@talktalk.net

Is-Olygydd: Dafydd Griffiths, Pengwern, Ffordd Argoed, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GWEFAN CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU: www.FfynhonnauCymru.org.uk

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up