Home Up

 

Llygad Y Ffynnon

 

Cylchlythyr Cymdeithas Ffynhonnau Cymru                                                                                Rhif 24. Haf 2008

 

ADFER FFYNNON FAIR DOLGELLAU

Ken Lloyd Gruffydd

 

 EDRYCH  I  LAWR  AR  Y  FFYNNON

Bu cyfeillion Ffynnon Fair yn nhref Dolgellau (SH727175) wrthi’n brysur yn adfer y ffynnon a bellach mae’r gwaith wedi ei gwblhau. Gallwch ddod o hyd i’r ffynnon drwy ddilyn Ffordd Cader Idris allan o Sgwâr Eldon. Cyn dod at gapel Salem gwelwch lôn gul a serth ar eich chwith o’r enw Tylai Mair.Wedi dringo am ychydig gwelwch arwyddbost ar eich llaw dde yn cyfeirio cerddwyr at y ffynnon.  Y peth cyntaf a welwch wrth gyrraedd y ffynnon yw fod y waliau wedi eu hailbwyntio’n gelfydd. O flaen y ffynnon ei hun mae railings haearn sy’n galluogi’r cyhoedd i weld adeiladwaith y ffynnon tra’n cadw pawb yn ddiogel rhag syrthio i’r dŵr. Mae wedi bod yn frwydr hir a chaled i sicrhau bod y ffynnnon yn cael ei hadfer a dymunwn longyfarch cyfeillion Dolgellau ar eu llwyddiant.

Yn 1907 disgrifiwyd Ffynnon Fair gan hanesydd lleol fel adfeilion, ac roedd yn annog  y dylid mynd ati i gymryd diddordeb ynddi a’i thacluso. ‘Mae yn sicr gyda ychydig  o ymdrech a gwelliantau y gallesid gwneud y lle hwn yn atyniadol iawn.’

Aeth canrif heibio cyn i’r freuddwyd gael ei gwireddu ac yn 2007 cymerodd Cymdeithas Treftadaeth Dolgellau y cyfrifoldeb o’i hatgyweirio a’i glanhau. Mae’n werth ei gweld unwaith eto. Credir bod hon yn ffynnon hen iawn oherwydd bod bathodynnau o gyfnod y Rhufeiniaid wedi cael eu darganfod ar y llwybr sy’n rhedeg heibio iddi. Perthyn un ohonynt i gyfnod yr Ymerawdwr Trajan (O.C. 98-117) a’r llall i gyfnod ei olynydd Hadrian (O.C.117-138). Yn ystod y cyfnod yma gwyddom i filwyr breswylio’n barhaol yn y caerau cyfagos megis Caer Gai, Brithdir, Tomen-y-mur ac o bosib Llanfor ger Y Bala.

 

  GERLLAW’R  FFYNNON

Daeth y ffynnon yn fan cysegredig yn y Canol Oesoedd. Defnyddid y dŵr ohoni i’w yfed, i fedyddio ac i wella amrywiol anhwylderau yn enwedig y crudcymalau.  Awgryma’r ffaith iddi gael ei chysegru i’r Forwyn Fair mai yn ystod cyfnod y Normaniaid y cafodd ei sefydlu ond mae’n bosib bod enw sant Celtaidd arni cyn hynny. Yn y cyfnod Modern Cynnar dywedir iddi gael ei hatgyweirio yn 1838 ac wedyn tua 1850 pan godwyd wal o’i chwmpas a tho drosti. Erbyn heddiw dim ond un wal uchel sydd iddi gyda gât haearn wedi ei chloi yn arwain at y grisiau sy’n mynd i lawr at y dŵr. Dywedir iddi fod mewn bri mawr oddeutu 1875 ond erbyn diwedd y bedwareddd ganrif ar bymtheg roedd wedi ei hesgeuluso’n arw. Aeth pethau o ddrwg i waeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn 1928 fei disgrifiwyd fel hyn:  

                                 ‘Mae’n awr  yn ddi-ddefnydd  ac wedi  ei hanner tagu  
                                           â sbwriel. Ei defnydd mwyaf pwrpasol yn ddiweddar  
                                            oedd  diwallu anghenion dŵr y dref.  Daeth hwnnw i  
                                            ben pan drefnwyd i gael cyflenwad o Lyn Cynwch.’

Os cewch gyfle ewch i ymweld â’r ffynnon . Mae’n werth yr ymdrech i gyrraedd ati. Mae’n bosib mynd mewn car hefyd gan bod amryw o dai gerllaw iddi.

Heb fod yn bell o Ffynnon Fair mae Ffynnon Llygaid y dywedir bod ei dŵr yn cryfhau’r golwg . Tybed nad oes modd ystyried a ellid gwella’r amgylchedd o gwmpas y ffynnon hon hefyd?  Mae nifer o ffynhonnau diddorol eraill yn ardal Dolgellau megis Ffynnon Llawr Dolserau (SH759199) a Ffynnon Y Capel, Llanfachraeth.(SH751225) Mae cynlluniau ar y gweill i’w hadfer hwythau hefyd. Ymhlith ffynhonnau eraill yr ardal nad yw eu lleoliad yn hollol wybyddus i ni ar hyn o bryd mae Ffynnon y Gaer, oedd yn iachusol i lygaid poenus. Dywedir bod hon rhwng Llwyn Cleini a Ffynnon Cnidw neu Ffynnon Gwenhudw. Mae’r  ffynnon olaf  hon ger Tŷ Blaenau rhwng Dolgellau a’r Garnedd Wen ac roedd yn enwog am wella’r crudcymalau. Ffynhonnau meddyginiaethol oedd Ffynnon Cleini a Ffynnon y Gro ger yr afon Wnion.

 DYLUNIAD  O  SAFLE  FFYNNON FAIR  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON OFFEIRIAD, DOLWYDDELAN (SH 733543)

Diolch i Steffan ab Owain am gynnwys gwybodaeth am y ffynnon hon yn ei erthygl ddiddorol Yr Hen Lwybrau Gynt yn rhifyn 99 o Llafar Gwlad. Dywed fod ar y bryniau rhwng Capel Curig a Dolwyddelan, gerllaw lle o’r enw Sarn yr Offeiriad, ffynnon  o’r enw Ffynnon yr Offeiriad. Yn ôl Owen Gethin yn ei gyfrol Hanes Plwyf Dolwyddelan a ysgrifennodd yn 1864: ‘Mae amryw o draddodiadau ar lafar gwlad am y ffynnon a’r sarn hon; dywed un dosbarth fod offeiriad a fu’n gweinidogaethu yn Nolwyddelan a Chapel Curig wedi boddi wrth groesi yr afon ar li mawr.’ Dywed Steffan, ‘Codwyd pont gerrig gywrain yno yn ddiweddarach, ond dinistriwyd hi rhywrdo yn yr 1960au gan y Comisiwn Coedwigaeth difeddwl, ac mae’r hen ffynnon wedi diflannu dan ddrysni a mangoed ers blynyddoedd lawer.’

FFYNNON BACH (SH 70324954)

Yn rhifyn 21 o Llygad y Ffynnon cafwyd sicrwydd gan archeolegwr nad oedd bygythiad i Ffynnon Bach wrth i waith lledu ar y ffordd dros Fwlch y Crimea fynd yn ei flaen. Nodwyd bod carreg a llawer o enwau a dyddiadau wedi eu cerfio ar garreg fawr ger y ffynnon a bod honno wedi syrthio i mewn iddi. Roedd yn arferiad gan fechgyn ifanc y fro gerfio eu henwau a’r dyddiad ar y garreg wrth adael cartref. Diolch i Emrys Evans, Blaenau Ffestiniog, am anfon y lluniau yma i ni.

SAFLE  FFYNNON BACH  GER  Y  BRIFFORDD.

           

FFYNNON BACH  A’R  MAEN CAPAN  WEDI  LLITHRO  IDDI.

RHAN  O’R  MAEN CAPAN  A’R  LLYTHRENNAU  A’R  DYDDIADAU  ARNO .

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNHONNAU LLŶN

Bu Bleddyn Prys Jones, sy’n gweithio i Gyfadran yr Amgylchedd yng Nghyngor Gwynedd, a’i dîm yn brysur yn adnewyddu nifer o ffynhonnau Llŷn sy’n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Eisoes gwelsom y gwaith rhagorol a wnaed ar Ffynnon Fyw, Mynytho (SH30913087) mewn ôl rifynnau o Llygad y Ffynnon. Bellach mae bwriad i osod plac llechen a chreu llwybr ger y ffynnon honno. Gosodwyd giat newydd ger y lôn sy’n arwain at Ffynnon Aelrhiw (SH23392848) yn Rhiw a bellach mae’n haws mynd at y ffynnon honno.

Y ffynnon nesaf i dderbyn sylw oedd Ffynnon Aelhaearn (SH38414462) yn Llanaelhaearn. Yn ôl yr hanes byddai dyfroedd y ffynnon yn byrlymu a phan ddigwyddau hynny byddai’r person cyntaf a fedrai fynd i’r dŵr yn cael iachâd. Mae’n ffynnon o faint sylweddol, o gwmpas ugain troedfedd wrth ddeunaw. Bu’r ffynnon yn dipyn o benbleth i’r trigolion lleol. Rhoddwyd adeilad drosti gan y Cyngor Plwyf ar ddechrau’r ugeinfed ganrif er mwyn diogeli’r cyflenwad dŵr i’r pentref a’i gadw’n lân. Yna, ar ddiwedd y ganrif, daeth y dŵr yn eiddo i Dŵr Cymru. Ar un adeg roedd seddau cerrig o gwmpas y ffynnon, fel llawer o ffynhonnau eraill y fro, ond cafodd rhain eu gorchuddio efo concrit a dinistriwyd un o nodweddion pensaerniol ac hanesyddol y ffynnon. Wrth i amser fynd heibio dirywiodd cyflwr yr adeilad oedd dros y ffynnon a cheisiwyd darganfod pwy oedd yn gyfrifol amdano. Hawliwyd y ffynnon gan berchennog i tir o’i chwmpas ac o’r diwedd cytunodd i ganiatau i do newydd gael ei osod ar yr adeilad. Roedd hyn yn golygu gwaith sylweddol ac mae’r adeilad wedi ei adnewyddu i gyd a’r ffynnon wedi ei glanhau. Gosodwyd drws newydd o dderw ar flaen yr adeilad ond mae hwnnw wedi chwyddo ac nid oes modd ei agor ar hyn o bryd a bydd rhaid edrych at hynny yn fuan. Mae angen trwsio’r wal wrth gefn yr adeilad hefyd.  Diolch o galon i Bleddyn. Mae o wedi llwyddo lle mae pawb arall wedi methu! Dyma luniau o’r gwaith a wnaed yng ngwanwyn 2007.

 

 

Bellach mae cynlluniau ar y gweill i adnewyddu Ffynnon Engan, Llanengan,(SH9322708) ac edrychwn ymlaen at gael clywed am y gwaith arni. Mae criw o bobl yn ardal Pwlllheli wedi dod at ei gilydd i chwilio am ffynhonnau yn y fro ac i nodi eu safleoedd a’u cyflwr. Un ffynnon sydd a’i chyflwr yn peri gofid i ni yw Ffynnon Dudwen,(SH27473679) Llandudwen, ger Dinas. Yn ôl Myrddin Fardd roedd hon yn gwella anhwylderau o bob math. Ar hyn o bryd mae’r ffynnon yn gorlifo a’r gofer wedi ei gau â baw.  Mae ar dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Gwynedd. Mawr obeithiwn y gellir adfer y ffynnon hon hefyd gyda chymorth Bleddyn Jones – dewin y dyfroedd!

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Yn dilyn llythyr Jean dyma ddau ddyfyniad diddorol.

EICH   LLYTHYRAU

Annwyl Olygydd,

Tybed a fyddai’n bosib i chwi drefnu taith neu weithgaredd i Gymdeithas Edward Llwyd? Ffynhonnau fyddai y prif bwnc wrth gwrs, ond beth am y planhigion sy’n tyfu o gwmpas neu yn y ffynhonnau a’r gwybed, y llyffaint, y cerrig ag ati sydd o’u cwmpas? Rydym yn astudio y rhain i gyd. Oes gennych syniadau am le addas? Does dim rhaid iddi fod yn daith hir o gwbl.

Eluned Mai Porter, Aberystwyth.  

(Os gwyddoch am nifer o ffynhonnau gweddol o agos at ei gilydd a’r bywyd gwyllt o’u cwmpas o ddiddordeb i naturiaethwyr, rhowch wybod i’r Golygydd am eu lleoliad er mwyn i ni fedru trefnu taith.)

 ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

FFYNNON  PLAS  GOGERDDAN

 ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Annwyl Olygydd,

Tra’n mynd efo Elen, y ferch , a’i chi am dro drwy goedwig yn ymyl Plas Gogerddan ger Aberystwyth, daethom ar draws ffynnon a oedd wedi ei llenwi  efo dail, brigau a phridd. Felly dyma fynd ati i’w glanhau a gweld bod cerrig wedi eu gosod i ddal tarddiad o ddŵr. Nid yw yn ddofn ac rwyf yn rhyw hanner credu mai ei phwrpas oedd di-sychedu yr helgwn wrth fynd allan i’w hymarfer. Roedd Gogerddan yn enwog iawn am eu cŵn llwynog a’r cŵn a ddefnyddient i fynd ar ôl ysgyfarnogod. Mi fyddai y cŵn ysgyfarnogod allan o waith pe baent ar gael heddiw gan fod rheini wedi mynd yn bethau prin iawn. Cyfeirnod y ffynnon yw NS 243527.

Erwyd Howells, Capel Madog, Aberystwyth

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Annwyl Olygydd,

Teimlaf y dylai’r wlad wneud gwell defnydd o ffynonellau o ddŵr naturiol sydd ar hyd a lled Cymru. Buaswn yn hoffi petai rhywun ag awdurdod ganddo yn cydio yn y syniad yma. Y mae’n sicr fod’na ffynhonnau ar ochr hen ffordd Rhufeinig ac hefyd ger hen dai – yn dyddynod, ffermydd a thai gweithwyr. Yr ydym yn or-ddibynnol ar y Bwrdd Dŵr. Y mae’r biliau yn fawr, ond credaf, o ailddefnyddio’r dŵr naturiol sydd o fewn cyrraedd i gartrefi rhai ohonom a’r hen bwmp dŵr a arferai fod yng nghanol yr hen bentrefi, gellid lleihau’r biliau hyn. Gellid defnyddio dŵr o grombil y ddaear a hefyd, mi dybiwn, gyfrannu rhag llifddyfroedd mewn rhai ardaloedd. Wrth gwrs y mae yna ffynhonnau a werthfawrogwyd fel mannau i wella afiechydon. Y mae hanes ffynhonnau Trefriw yn ddiddiorol dros ben ond mi ddyliwn fod eisiau gwario ar y lle i’w wneud yn fwy atyniadol a hefyd i werthfawrogi lles y dŵr at iechyd

Yn ardal fy mhlentyndod- rhwng Llangoed, Glan’rafon a Llanddona, Ynys Môn- y mae yna nifer o ffynhonnau. Buasai’n ddifyr inni chwilio amdanynt, eu rhestru fel ag y maent heddiw a profi eu dyfroedd i weld pa mor bur ydynt. Yn ystod y chwedegau bu i Mr Alwyn Williams, Llansannan, a oedd yn gweithio i Urdd Gobaith Cymru yr adeg honno, wneud pererindod ar hyd Cymru gan alw yn y ffynhonnau. Pasiodd fy nghartref yn Betws Gwerfyl Goch ar ei ffordd o Ffynnon Sara, Derwen.(SJ 066517)

Y mae rhaglen Y Tŷ Cymreig yn un ddiddorol iawn ac yn ein dwyn yn ôl i edrych a gwerthfawrogi ein hen gartrefi. Tybed a ellid cael rhaglen Ffynhonnau Cymru ? Tybed a ellwch chi- neu ni fel Cymdeithas Ffynhonnau - roi y gwaith yma ar y gweill a chysylltu efo’r bobl sydd mewn awdurdod i ystyried y syniadau yma. Diddorol fyddai cyfri faint o dai a ffermdai o’r enw Bryn Ffynnon, Ffynnon Oer, Ffynnon Wen ac yn y blaen sydd yna yng Nghymru.

Margaret Jean Jones, Henryd, Conwy.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

PYTIAU  DIFYR  

FFYNNON OER, LLANDDONA (Allan o Coelion Cymru, gan Evan Isaac)

‘Mae hanes diddorol am Rheibesau Llanddona ym Môn. Y traddodiad ydyw, ddarfod alltudio’r rheibesau a’u teuluoedd o’u gwlad- ni wyddys pa wlad- oherwydd y dinistr a achosent wrth reibio. Gyrrwyd hwy i’r môr mewn cychod heb na hwyl na rhwyf, Glaniasant ar draeth Môn. Cododd y brodorion i’w herbyn a cheisio eu gwthio o’r tir. A hwythau ar fin marw o newyn a syched, parasant i ffynnon o ddwfr croyw darddu o’r traeth. O weled gwneuthr y fath wyrth, caniatawyd iddynt dario yn y wlad. Bu eu cynnydd yn gyflym, ac ni fuont yn hir heb ddechrau ar eu gwaith o reibio. Ymwelai’r rheibesau hyn â thai ffermydd y plwyf, ac ni feiddiai neb wrthod eu ceisiadau. O’u gwrthod a’u tramgwyddo dialent yn greulon. Wele enghraifft o’u melltithion. Traddodwyd hi ger y Ffynnon Oer ar druan a’u digiodd.’

                                          Crwydro y byddo, am oesoedd lawer:  
                                           Ac ym mhob cam, camfa;  
                                           Ym mhob camfa, codwm;  
                                          Ym mhob codwm, torri asgwrn;  
                                          Nid yr asgwrn mwyaf na’r lleiaf,  
                                          Ond asgwrn chwil corn ei wddw bob tro.  

(Tybed a oes rhywun yn gwybod lle mae union leoliad Ffynnon Oer, Llanddona?)

FFYNHONNAU TREFRIW ( Allan o Rhys Lewis gan Daniel Owen.)

‘Yr oeddwn yn gwanychu. Euthum i Drefriw a derbyniais lawer o les yno, a chyn ymadael mwynhawn ychydig ar y difyrwch diniwed wrth y ffynhonnau, a thybiais fy mod ar droi i wella, ac nis gallaf fynegu fy llawenydd, a’r dedwyddwch dwys a dwfn a deimlwn yn fy mynwes. Pan ddeuthum yn ol adref yr oedd y cyfeillion yn synu at y cyfnewidiad ynof ac yr oeddynt yn llawen.’

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

FFYNNON CEGIN ARTHUR

 Dyfyniad o Y BRYTHON Gorffennaf 30ain, 1858.  (Cadwyd at y sillafu gwreiddiol)  

Newyddion Cymreig  - GWYNEDD

 LLANDDEINIOLEN – FFYNON CEGIN ARTHUR – gan deiniol bach

Yr ydoedd hyd yn nod enw y ffynnon hon dan gudd hyd yn ddiweddar, ond yn awr wele y “byd wedi myned ar ei hol” a holl Gymry a lluaws o Loegr yn cyrchu at ei dyfroedd a’i rhinweddau yn fwy amlwg, a’r cleifion yn cael eu hadferu wrth y degau. Ei dwfr harianaidd a maethol; yn cryfhau oddi mewn, ac yn ireiddio oddi allan; a lles yn deilliaw, pa un bynag a’i dychymyg, a’i gwirioneddol a fyddo’r dolur.

Y mae yn y dwfr hwn rinwedd mwnol cryfhaol, nid oes dal. Y mae amryw brofiadau fferyllaidd wedi ei wneud arno . Hyd yn nod i ddyn cyffredin heb fod yn fferyllydd, ymddengys gosodiad y ffynnon, lliw a blad y dwfr, y lava neu brasder ar ei wyneb, ei fod yn rhywbeth. Wrth ei yfed ceir blas cryf glynedig ar y genau, a theimlad syfrdanllyd yn y pen. Y mae rhai yn gysglyd ac ymrous ar ol ei yfed, ereill yn teimlo cynnesrwydd a bywioccad. Mae yn ymddangos mai ar ddioddefwyr o dan y gewynwst, ac mewn gwaeledd, a gwendid ar ol clefydau yr efeithia’r dwfr iachusaf, eithr y mae rhai o bob anhwylderau yn derbyn lles. Wrth ddyfod i fyny o’r gors lle mae’r ffynnon, wedi drachtio o’r dyfroedd, ac i hwn gyffwrdd ag un o dannau yr awen, dywedais,

                                                      Mae Ffynnon Cegin Arthur

                                                      Yn gosod i mi gysur,  
                                                      A’i dyfroedd pur dan bob rhyw boen  
                                                      Yn gwella poen a dolur;  
                                                      Ei dyfroedd tra iachusol  
                                                      A ennill glod yn hollol,  
                                                      Drwy iachau pob llesg a gwael  
                                                      Hwy haeddant gael eu canmol.  
                                                      Bydd Buxton, Chelt’nam hefyd  
                                                      A’r Bath a’i dyfroedd hyfryd,  
                                                       A Malvern Wells yn ddim i hon  
                                                      Er adfer llon ar iechyd.  
                                                       Am hon mae son yn rhyfedd  
                                                      Dros Gymru yn gyfannedd,  
                                                      Dos yno, yf ei dwr yn rhad  
                                                      Os gelli, gwad ei rhinwedd.  

(Diolch i  Geraint Jones, Trefor am sylwi ar y wybodaeth uchod a’i anfon at y Golygydd)

FFYNHONNAU  LLANFAIR-PWLL , YNYS MÔN.

LLYFFANT  YN  Y  FFYNNON

‘Roeddem yn deulu o bedwar o blant ar ddiwrnod mawr y symud o Harlech i Lanfair-pwll  yn croesi Pont Menai ar hwyrddydd oer o Ionawr, 1932 i dŷ deulawr ac iddo ardd gefn ac ynddi goed afalau, a chors chwe cyfer led ffordd o flaen y tŷ. Roedd dwy ffynnon ‘dŵr glân’ yn y gors , a safent ychydig is na’r llwybr. Roedd iddynt dair llechen fawr yn ffurfio muriau, ac un arall drwchus yn do, a llidiart bach i rwystro anifeiliaid rhag yfed ohonynt. Yn y gors fach ar bwys y capel roedd ffynnon arall debyg, a hon oedd y fwyaf cyfleus i ni. Ond os na fyddai llyffant neu ddau ynddi, rhaid oedd cyrchu’r dŵr yfed yn foreuol o un o’r ffynhonnau eraill. Dyna’r rheol – rhaid bod llyffant yn y ffynnon cyn y caem dynnu dŵr yfed oddi wrthi, a’i dywallt wedyn i’r potyn coch priodol yn y pantri.’

Allan o Traeth o Feini Llyfnion gan Cadwaladr J. Lewis

(Cofiaf weld llyffant yn y ffynnon lle caem ninnau ein dŵr yfed yn ardal Llanddarog, Sir Gaerfyrddin yn y pedwardegau. Nid oedd arnaf awydd yfed y dŵr wedi gweld y creadur ynddo ond dywedodd Nhad wrthyf mai arwydd fod y dŵr yn bur oedd fod y llyffant yn hapus i nofio ynddo. Tybed a oes gan eraill atgofion tebyg. Os oes, anfonwch air atom. Gol.)

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

FFYNNON IDLOES, LLANIDLOES (SN 9562 8470)

Ken Lloyd Gruffydd

Mae’r ffynnon sanctaidd hon wedi cael ei chyfeirio ati fel un golledig ers dros ganrif bellach. Hyd y gwyddom ni ysgrifennwyd dim amdani tan yr ymddangosodd ei henw gyntaf ar fap Ordnans 1890. Yn ôl adroddiad diweddar gan y grŵp Prosiectau Archaeoleg Cambrian nid yw’r ffynnon yn ymddangos ar fap degwn 1840. Mae’n debyg mai gwybodaeth leol a drosglwyddwyd ar lafar gwlad a gadwodd yn fyw leoliad y ffynnon. Mae’r hyn sydd gan S.Baring-Gould a J. Fisher yn Lives of the British Saints, Cyfrol III, tud. 291 o ddiddordeb mawr i ni oherwydd dywedant am y sant: ‘  Mae’n amlwg nad oedd wedi diflannu ers cyn cof ond yn ddigon pell yn ôl i’r awduron ddefnyddio’r amser gorffennol wrth gyfeirio at y ffynnon a’i safle yn 1911.

Roedd Idloes Sant yn byw yn y seithfed ganrif ac yn fab i un Gwyddnabi ap Llawfrodedd Farfog, a dywedir bod Santes Meddwyd, Clogcaenog, Sir Ddinbych, yn ferch iddo. Does fawr ddim o wybodaeth am un o’r ddau wedi goroesi ar wahan i’r ffaith mai Medi 6ed yw dydd gŵyl Idloes a bod dydd gŵyl Meddwyd ar Awst 27ain.

Cafwyd cloddfa archeolegol ar safle’r ffynnon yn ystod 2006  er mwyn darganfod beth oedd yno, cyn i’r safle gael ei ddatblygu ac i dai gael eu codi ar y fan. Agorwyd cwys yn mesur deg medr wrth bum medr lle y credid bod olion y ffynnon ond ni lwyddwyd i ddod o hyd i bridd llaith heb sôn am darddiad . Yn ôl arbenigwyr, os yw ffynnon yn cael ei chau am ysbaid go hir – dros ganrif yn y cyswllt hwn- na ddisgwylir i’r dŵr ddod i’r wyneb eilwaith gan ei fod wedi darganfod man arall i gronni ac ymddangos ynddo. Mae’n bosib mai dyna ddigwyddodd  i Ffynnon Idloes. Yr unig awgrym fod unrhyw beth wedi bodoli ar y safle oedd siâp hirgrwn o bridd golau ym mesur tua 6.5 medr o hyd ac o ddyfnder o 0.6 medr. Roedd haenen o gerrig gro yn y gwaelod. Nid oedd yna ddigon o dystiolaeth bendant mai dyma ‘r ffynnon. Roedd unrhyw gerrig a fu ar y safle yn y gorffennol wedi cael eu cario oddi yno. (Am fwy o fanylion gweler  adroddiad Chris E. Smith yn Archeoleg yng Nghymru, rhif 46 (2006) tud. 227-8.) Tybed oes yna ysgrif Gymraeg yn rhywle yn ymwneud â’r ffynnon nad yw’r archeolegwyr yn gwybod amdani?

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

TRYCHINEBAU YN FFYNHONNAU SIR BENFRO

YN Y DDEUNAWFED GANRIF

Ken Lloyd Gruffydd

Casglwyd y wybodaeth ganlynol o ddogfennau Cwrt y Sesiwn Fawr.

Rhywbryd ar fore 6 Ebrill 1751 crwydrodd bachgen bach pedair oed o’r enw John Beddow o dŷ ei rieni i ffynnon gyfagos er mwyn cael torri ei syched. Pan na ddaeth adref dechreuodd y teulu boeni ac aethant i chwilo amdano. Daethant o hyd iddo yn y ffynnon. Mae’n amlwg oddi wrth yr hyn a ddywedodd y rheithgor nad oedd neb wedi cadw llygad ar y plentyn oherwydd diflannodd “Sometime in the Forenoon of the said Day.” Digwyddodd hyn ym mhlwyf Johnston .

Baban blwydd a hanner oedd Thomas Griffith o blwyf Rudabuxton pan gollodd ei fywyd yn 1755. Roedd y teulu’n byw ar fferm ac ar y diwrnod tyngedfennol  gadawodd y fam ei phlentyn mewn cae a elwid Tangior ger man yn dwyn yr enw Veilhy bush tra’r aeth hi i yrru’r gwartheg i gae arall.  Pan ddaeth yn ôl roedd y bychan wedi crwydro at ffynnon a disgyn dos ei ben i’r dŵr. Hanesyn tebyg yw’r un am foddi John Webb o blwyf Llanisan yn Rhos, nid pell o Hwlffordd. Roedd ef tipyn yn hŷn ond ni ddatgelir ei oed. Cyfeirir ato fel infant, ond yn y llysoedd y pryd hynny, dyna sut y disgrifir pwb oedd o dan un ar hugain  oed! Rhwng tri a phedwar y prynhawn gadawodd John Webb ei ddau ffrind yn eistedd wrth ddrws tŷ yn Nunton ac aeth i ffynnon gyfagos. Rhywfodd neu gilydd syrthiodd i’r dŵr a oedd yn ddwy droedfedd o ddyfnder, a boddodd. Pan ddiflannodd baban David Charles ym Maenordeifi ar 25 Tachwedd 1784 doedd dim golwg ohono yn unlle ac aeth peth amser heibio cyn iddynt ddarganfod ei gorff mewn ffynnon a ddisgrifir fel winch well, sef un oedd yn ddigon dwfn  nes bod rhaid cael peiriant neu winch i godi’r dŵr mewn bwced o’r gwaelod.

O blwyf Cas-wis daw’r wybodaeth nesaf. Ar ddydd Mercher, 21  Ebrill 1784 , crwydrodd Thomas Hughes ddeuddeg llathen o ddrws ei dŷ at ffynnon y teulu. Anodd gwybod yn union beth ddigwyddodd ond barn y rheithgor oedd i’r bachgen bach weld powlen yn arnofio ar wyneb y dŵr. Yn ei ymdrech i gael gafael ar y bowlen estynnodd ei freichiau allan i’w cheisio. Aeth yn rhy bell dros y dŵr, collodd ei falans a disgynnodd i mewn. Yr unig ffynnon sy’n cael ei henwi yn benodol yw Ffynnon Rhys ym mhlwyf Cilgerran. (Nid oes cyfeiriad ati yn nghyfrol Francis Jones, The Holy Wells of Wales.) Yno, yn 1797, boddwyd baban o’r enw Thomas Morris. Ni chafwyd manylion pellach am y digwyddiad. Diddorol yw sylwi mai bechgyn oedd pob un o’r rhai a gollodd eu bywydau yn y ffynhonnau. Hwyrach eu bod yn fwy mentrus na merched!

Rhag ofn eich bod yn meddwl mai dim ond plant oedd yn boddi mewn ffynhonnau, dyma i chi ddau hanesyn am oedolion a gollwyd yn yr un ffordd. Rhaid cofio mai ychydig iawn o’r boblogaeth, gan gynnwys morwyr, oedd yn gallu nofio yr adeg honno.  Ym mhlwyf Slebets yn 1795 boddwyd David Webb pan aeth i lenwi jwg o grochenwaith mewn ffynnon ger ei gartref. Un arall a gollodd ei bywyd pan ddisgynnodd i ffynnon oedd Lavita Charles o Manordeifi. Digwyddodd hynny yn 1797.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

LLONGYFARCHIADAU i’n Harchwiliwr Mygedol a chrëwr ein gwefan, Dennis Roberts, Y Felinheli, ar gael ei anrhydeddu gan y Frenhines am ei gyfraniad i Lywodraeth Leol.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELODAU NEWYDD

Dafydd a Meri Griffith, Yr Wyddgrug. 

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

COLLI AELOD

Cyda thristwch nodwn farwolaeth Mona Williams, Conwy, gynt o Dyddyn Du, Gellilydan, ar Fawrth 29.  Roedd wrth ei bodd gyda phob agwedd o lên gwerin a hi oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Llafar Gwlad. Roedd yn frwdfrydig dros gadw amrywiaeth ein treftadaeth, ein hiaith a’n diwylliant a chanddi wybodaeth a diddordebau eang. Gwnaeth gyfraniad gwerthfawr dros gyfnod o flynyddoedd i nifer o gymdeithasau. Bu’n amlwg yng nghyfarfodydd cynhadleddau Cymdeithas Llafar Gwlad ym mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog a hi oedd Ysgrifennydd a Chadeirydd Cyfeillion y Plas am flynyddoedd lawer.Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn ffynhonnau a thirwedd Ynys Enlli. Diolch iddi am ei chyfraniadau gwerthfawr a chyson. Bydd colled a thristwch ar ei hol

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GWEITHGAREDD WELLSPRINGS

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y gymdeithas yn Aberhonddi ar Fawrth 9fed. Trefnwyd nifer o deithiau o gwmpas ffynhonnau’r fro a’r dref yn fisol drwy’r flwyddyn a gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i ymuno yn y daith a thalu £2 y pen am gael gwneud hynny. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i adfer Ffynnon y Priordy yn y dref. Maent hefyd yn casglu cerrig ar gyfer adfer Ffynnon Fair ym Mhenrhys ac yn gweithio ar ffynhonnau yn Sir Benfro.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Y GYSTADLEUAETH  

Y ffynnon oedd a’i llun ar dudalen olaf Llygad y Ffynnon oedd Ffynnon Daf (ST123835) Eglwysilan, ar gyrion Caerdydd.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 DIWEDD Y GÂN..... DIWEDD Y GÂN.

 Daeth yn amser talu tâl aelodaeth am 2008-2009. Bydd y Trysorydd, Ken Lloyd Gruffydd, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH yn falch o dderbyn eich tâl mor fuan â phosib  os nad ydych yn talu drwy archeb banc neu’n aelod am oes.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 

PAPBELL Y CYMDEITHASAU AR FAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU

CAERDYDD A’R CYLCH

 cynhelir

CYFARFOD CYFFREDINOL CYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

ar

 DDYDD GWENER, AWST 8 fed am 1.00 o’r gloch y prynhawn

ac i ddilyn

SGWRS GAN  

DR. ROBIN GWYNDAF :

FFYNHONNAU BRO’R EISTEDDFOD

 cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 Golygydd: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH

Cyhoeddir  LLYGAD Y FFYNNON  gan  GYMDEITHAS  FFYNHONNAU  CYMRU

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

Home Up