Home Up

 

LLYGAD  Y  FFYNNON

Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Rhif 23 Nadolig 2007

 

 

FFYNHONNAU IACHUSOL CAERGWRLE.

Eirlys  Gruffydd

Caergwrle (SJ3057)  

YR ADEILADAU DROS Y FFYNHONNAU

Buasai Caergwrle (SJ3057), pentref hanner ffordd rhwng yr Wyddgrug a Wrecsam, wedi gallu bod mor enwog fel spa â Llandrindod, Llanwrtyd a Llangamarch, oherwydd yma, ar un adeg, roedd ffynhonnau iachusol yn denu tyrfaoedd o gleifon gobeithiol. Hyd y gwyddom, y cyfeiriad cyntaf at ffynnon rinweddol yng Nghaergwrle yw hwnnw yn Parochalia Edward Lhuyd yn 1699 sy’n cyfeirio at y Ffynnon Deg fel lle islaw Caergwrle ar lannau Alun, ac yn dweud ei bod yn ffynnon halwynog.Yn 1740  roedd meddyg o’r enw Dr Short o Sheffield wedi cyhoeddi cyfrol yn rhoi gwybodaeth am y ffynhonnau mwyaf amlwg yng Nghaergwrle: Meddai

“Mae dwy ffynnon, un yn bellach na’r llall, a hon yw’r un halwynog  a’r dŵr ynddi yn fwy hallt na’r llall ac mae’n bum troedfedd a naw modfedd o ddyfnder. Y ffynnon a ddefnyddir fwyaf yw’r un sylffwr, ac mae ei dŵr yn cael ei godi ohoni a'i gludo. Mae hon bron yn ugain troedfedd o ddyfnder. Tua 1700 glanhawyd y ddwy ffynnon a’u gwagio i’r gwaelod. Mae’r dŵr yn glir fel grisial. Nid oes gwell i’w gael yn unman. Cafodd ei ddefnyddio yn ddiweddar  fel carthiad - i lanhau’r corff o bob amhuredd - ac mae llawer o’r dŵr yn cael ei gludo oddi yma i wahanol fannau yng Nghymru. Roedd gwraig o’r Wyddgrug o’r enw Elizabeth Jones yn dioddef o anhwylder hyll ar groen ei holl gorff nes ei bod yn ffiaidd i edrych arni a hithau mewn poen parhaus. Yfodd dri pheint y dydd o’r dŵr am beth amser ac mae ei chroen nawr yn hollol glir a hithau wedi cael gwellhad llwyr.”

Pan ymwelodd Thomas Pennant â'r ardal, croniclodd yr wybodaeth ganlynol yn ei gyfrol Tours of Wales a gyhoeddwyd yn 1773:

“Mae’r cleifion yn yfed chwart neu ddau y dydd ac roedd rhai yn berwi’r dŵr nes bod ei hanner wedi ei golli mewn anwedd cyn iddynt ei yfed. Roedd yr effaith yn un o garthu’r corff, poenau mawr  yn ei ymysgaroedd a salwch yn y stumog. Roedd hyn yn peidio ar ôl ychydig ddyddiau ac archwaeth iach at fwyd yn dychwelyd.”

 

 PLAS RHYDDAN

Erbyn y ddeunawfed ganrif cawn bod y ffynhonnau a’r tir o gwmpas iddynt yn rhan o

stad Plas Rhyddan gerllaw Alun, a Syr John Glynne o Benarlag yn berchen arni. Pendefynodd hwnnw bod angen ailwampio’i gartref, sef Plas Broadlane, felly symudodd ef a’i deulu i fyw i Blas Rhyddan am gyfnod. Wedi marwolaeth Syr John yn 1777 daeth y plas, drwy ei ewyllys, yn eiddo i’w ail wraig, Augusta . Nid aeth hi i fyw yno, fodd bynnag, ond symudodd i Gaerfaddon yn Lloegr gan fod bywyd cymdeithasol tipyn mwy bywiog yno nag yng Nghaergwrle. Am gyfnod gosodwyd y plas i whanol denantiaid, ac roedd rhai ohonynt yn gyndyn iawn o adael i’r cyhoedd fynd at y ffynhonnau am fod hyn yn amharu ar eu preifatrwydd.

Yn 1846 gwerthodd y teulu Glynne nifer o dai ac eiddo oedd ganddynt, gan gynnwys Plas Rhyddan. Tenantiaid oedd yn dal i fyw ynddo o dan y perchennog newydd, a newidiodd ddwylo eto yn 1875 ac yn 1880. Yna yn 1900 fe’i gwerthwyd drachefn i’r Lifftenant Roe Brown oedd yn byw yn Plas Gwastad, Cefn-y-bedd. Penderfynodd yntau  bod angen glanhau’r ffynhonnau a chael dadansoddiad o natur y dŵr. Dyma oedd canlyniad y dadansoddiad: “Cafwyd dŵr awyrog (aerated) arbennig o dda o’r ffynnon halwynog, cystal os nad gwell na’r dŵr o’r Almaen sy’n cael canmoliaeth uchel. Mae’r dŵr o’r ffynnon swlffwr yn werthfawr iawn ar gyfer gwella rhai anhwylderau.” Sylweddolodd  y perchennog newydd fod posibilrwydd gwneud elw o’r dŵr a gwerthodd Plas Rhyddan ag wyth deg erw o dir, gan gynnwys y ffynhonnau, i gwmni R.N. Woolett o Wrecsam. Yn 1902 ceir datganiad yn y Chester Courant sy’n dweud:“Mae darganfod y ffynhonnau yn gam pwysig tuag at wneud pentref Caergwrle yn gyrchfan wyliau poblogaidd...”: a dyna’n union a wnaeth y cwmni.

Roedd y rheilffordd yn holl bwysig i ddatblygiad y fenter.  Erbyn 1896 roedd posib teithio o Seacombe yng Nghilgwri i Gaergwrle ar dren y Great Central Railway Company. Enw’r orsaff yng Nghaergwrle oedd Bridge End ond fe’i newidiwyd  wedyn i Caergwrle Castle and Wells. Byddai’r ymwelwyr yn croesi Mersi ar y fferi i Seacombe ac yna’n mynd ar y tren i Gaergwrle. Cynigiai’r  cwmni rheilffordd docyn rhad am swllt y diwrnod, yno ac yn ôl, a manteisiodd lluoedd o ymwelwyr ar y cynnig a chael diwrnod o wyliau braf nad oedd yn costio’n ddrud iddynt. Ar ddyddiau Sadwrn a Suliau prysur yn yr haf byddai saith neu wyth o drenau’r dydd yn cario cannoedd o bobl i Gaergwrle. Mae’r wybodaeth am nifer yr ymwelwyr a gyhoeddwyd yn y papurau lleol yn ddiddorol. Un diwrnod ym Mehefin 1906- wyth cant; Gŵyl y banc ym mis Awst 1907 – mil. Gŵyl y Banc – Mai 1913 – mil pum cant. Un diwrnod  ym Mehefin 1914- dwy fil. Beth oedd yno i ddiddanu’r ymwelwyr wedi iddynt

gyrraedd? Tu allan i’r orsaf byddai tair neu bedair o wragedd o Lerpwl yn aros amdanynt. Gwisgent shawliau dros eu pennau ac wrth draed bob un byddai basged fawr o felysion o bob math, gan gynnwys roc. Byddent yn gweiddi yn Saseneg  acennog Glannau Mersi:Roc Caergwrle. Ceiniog am ddarn, dau ddarn am geiniog a dimau!”Wedi iddynt werthu’r melysion byddai’r gwragedd yn dringo Mynydd yr Hob neu fynd i fyny i gastell Caergwrle lle byddent yn casglu mwyar duon i’w gwerthu adref yn Lerpwl.

 

 

Y BRIF FYNEDFA

I gyrraedd y ffynhonnau byddai’r ymwelwyr yn cerdded heibio i Dafarn y Bont, yna croesi’r bont a throi i’r dde ar hyd glan Alun. O’u blaen gwelent adeilad urddasol sgwar wedi ei adeiladu ar ffurf castell gyda phorthcwlis a mynedfa fwaog anferth a thyrrau castellog ar bob cronel iddo. Ar y mur uwchben y porth roedd adysgrif yn cyhoeddi CAERGWRLE NATURAL WATERS. Wedi mynd i mewn drwy’r porthcwlis gwelent le i dalu am fynediad o bobtu iddo. Wedi mynd allan drwy’r porth i’r tir agored y tu ôl iddo gwelent, ar y chwith, dŵr uchel  ac iddo bedwar llawr. Dyma  Dŵr St Cuthbert, a chartref rheolwr y safle. Ymhellach draw, yn agos i’r ffynnon halwynog, roedd adeilad mawr o frics coch. Dyma’r man lle rhoddwyd y dŵr mewn poteli yn barod i’w werthu. Llenwyd pedair mil ar ddeg o boteli gyda’r dŵr awyrog yn ddyddiol. Pris dwsin o boteli bychan oedd hanner coron, ond gellid cael dwsin o boteli mawr am bedwar swllt

Wrth ddal i gerdded gwelai’r ymwelwyr bafiliwn grand ac ystafelloedd te o’u blaenau. Roedd gan y pafiliwn ddrysau Ffrengig- yn agor allan i derras oedd yn le delfrydol ar gyfer pob math o adloniant, gan fod yna lwyfan a dwy ystafell wisgo gyfleus. Y tu ôl i’r pafiliwn roedd llain fowlio. Yna, wrth gerdded i lawr y llethr deuent at adeilad y tŷ pwmpio oedd wedi ei godi dros y ffynnon swlffwr ddofn. Yma cai’r ymwelwyr gyfle i yfed  y dŵr a phrofi ei rin drostynt eu hunain. Dywedid bod rhai ymwelwyr yn prynu poteli o’r dŵr halwynog a’r dŵr swlffwr ac yna’n mynd i Alun ac yn ail lenwi’r poteli yno. Wedi mynd adref i Lerpwl byddent yn gwerthu’r poteli gan gymryd arnynt fod ynddynt ddyfroedd iachusol y ffynhonnau – a gwneud elw da!

Y PAFILIWN

Roedd adloniant ar gael i’r ymwelwyr. Byddai bandiau pres lleol yn chwarea threfnid dawnsio a chwaraeon, yn enwedig ar Ŵyl y Banc. Roedd  pistyll o ddŵr yfed ar gael yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd, ac roedd yno hefyd beiriannau lle gellid gweld rhyfeddodau am geiniog. Cerddai llawer ar hyd glannau Alun ar dir Plas Rhyddyn, a oedd yn ymestyn dros  chwech erw ar hugain. Ddechrau’r ugeined ganrif addaswyd adeilad y plas yn westy bychan. Fe’i gwerthwyd unwaith eto yn 1922, ac ar un adeg roedd cynlluniau i ehangu’r adeilad: ond nid felly y bu. Profodd yr holl ymwelwyr at y ffynnon yn gyfle da i’r trigolion lleol wneud tipyn o elw. Byddai’r gwragedd yn agor y parlwr yn eu tai i deuluoedd fynd yno i gael te a chacenau cartref. Cadwai eraill ymwelwyr dros nos gan gynnig gwely a brecwast ar benwythnos. Gwnaeth llawer elw da o’r ffynhonnau. Byddai’r teulu Tate, er enghraifft, yn gwerthu  hufen ia, pop a chardiau post yn eu siop. Byddent yn paratoi ginio poeth gyda chig a llysiau  i’r ymwelwyr am hanner dydd bob dydd tra am 5.00 o’r gloch cynnigient de braf iddynt.  Gan fod cymaint o alw am bop byddai’n rhaid gyrru un o’r gweithwyr i Fragdy Sharman yn y Stryd Isaf i gael ychwnaeg a hynny fwy nag unwaith yn y dydd. Cyflogai’r teulu naw o bobl i gyd.  Roedd gan Westy’r Frenhines gafe a neuadd ddawnsio a fedrai ddal cant a hanner tra roedd cyfle i’r llwyrymwrthodwyr gael lluniaeth yn y Temperance Tea Rooms gyferbyn â thafarn y Bont.

Nid oedd pawb yn croesawi’r ymwelwyr, fodd bynnag, Roedd nifer o’r trigolion yn cwyno am ymddygiad stwrllyd, iaith anweddus a medd-dod rhai ohonynt chan gofio mai ar y Sabath y deuai’r rhelyw i ymweld â’r pentref. Ar Hydref 23, 1905 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus o dan lywyddiaeth Rheithor yr Hob, Y Parchedig T.E.Jones, i drafod dylanwad drwg teithiau Sabathol yr ymwelwyr ar y gymuned. Yn ôl yr adroddiad yn y papur lleol, roedd yr ymddygiad annerbyniol yn golygu fod y math gorau o ymwelwyr yn cadw draw, ac yn gwneud drwg i enw da’r pentref fel man gwyliau. Gwelwyd hefyd bod safonau moesol ac ysbrydol y gymdogaeth o dan fygythiad. Ni fyddai pobl barchus yn breuddwydio symud yno i fyw nac i adeiladu tai newydd yn y lle, oherwydd ymddygiad yr ymwelwyr. O ganlyniad  i’r cyfarfod, gofynnwyd i’r cwmni rheilffordd beidio â rhedeg trenau i’r pentref ar y Sul. Gwrthodwyd y cais, a pharhaodd y torfeydd i ymweld â’r lle yn eu miloedd. Deuent nid yn unig o Lerpwl a dinasoedd poblog eraill, ond hefyd o drefi a phentrefi  mwy lleol, a ledled y gogledd. Daeth yn le poblgaidd gyda thripiau Ysgolion Sul a Chymdeithasau Dirwestol. Dringent i fyny i’r castell uwchben y pentref lle roedd ffair a stondinau. Deuai eraill am yr awyr iach, ac er mwyn gweld y golygfeydd o ben y castell. Parhaodd y bwrlwm yma tan dridegau’r ganrif ddiwethaf pan daeth poblogrwydd y ffynhonnau i ben. Nid oedd bellach mor hawdd i bobl o adaloedd dirwasgedig Lerpwl fforddio talu am docyn ar y rheilffordd, gan fod y pris wedi codi o swllt i hanner coron. Nid oedd angen y ffynhonnau fel modd cael gwellhad, gan fod hynny bellach ar gael mewn pilsen a photel, ac iechyd ac amodau byw y cyhoedd yn raddol newid er gwell. Ond heb amhaeaeth, bu’r ffynhonnau yn fodd gwella ansawdd bywyd pobl yng Nghaergwrle ac yn Lerpwl. Bu fy nhad yng nghyfraith yn aros gyda theulu yng Nghaergwrle rhyw dro cyn 1917, pan aeth i ymladd i’r Rhyfel Mawr. Cofiai’n dda am fwrlwm y ffynhonnau, a’r mwynhad a gai’r ymwelwr wrth ddod i Sir y Fflint am ddiwrnod neu fwy o seibiant rhag rhuthr bywyd yn y ddinas dros y ffin.

Erbyn heddiw mae Plas Rhyddyan a’r tir o’i gwmpas yn eiddo preifat. Nid yw’r teulu sy’n berchen y safle yn awyddus i neb fynd yn agos i’r lle, ac o ganlyniad mae’r  adeiladau wedi dadfeilio. Diflannodd y pafiliwn a’r adeilad dros y ffynnon swlffwr ddofn, ac nid oes dim yno bellach ond  tir corsiog y mae’r dŵr yn llifo ohoni. Mae’r adeilad a godwyd dros y ffynnon halwynog yn dal ar ei draed, ond mewn cyflwr difriol: felly hefyd yr adeilad lle potelwyd y dŵr. Mae’r fynedfa grand i’r spa – y tŵr castellog a’r porthcwlis- yno o hyd. Yn ystod yr ugeinfed ganrif gwerthwyd y safle ragor nag unwaith. Bwriadwyd adeiladu gwesty ar y safle ac ail agor y tir i’r cyhoedd, ond nid felly y bu.  Bu tenant ar ôl tenant yn byw yn y plas, a phan ddaeth i ddwylo y perchnogion presennol roeddynt hwythau wedi creu cynlluniau i  ddablygu’r safle: ond tynnwyd y cynlluniau yn ôl, am rhyw reswm. Erbyn heddiw mae’r teulu’n rhedeg busnes cludo nwyddau trwm o’r plasdy, ac mae lorïau mawr wedi eu parcio o flaen y tŷ hynafol. Hefyd mae cŵn sarrug yn rhydd ar y tir ac mae’n beryglus i ymwelwyr fentro allan o’i ceir cyn canu corn ar y perchnogion, iddynt ddod allan a gafael yn yr anifeiliaid. Na, does dim croeso i ymwelwyr i fynd at ffynhonnau rinweddol Caergwrle heddiw.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON FAIR DOLGELLAU: (SH727175) Mae’r cyfeillion wedi cael arian i ailadeiladu’r ffynnon, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

FFYNNON ELAN DOLWYDDELAN: (SH7352) Mae perchennog newydd yr Elen Castle yn awyddus iawn i weld adfer y ffynnon sydd ar ei dir, a bydd y gwaith yn dechrau yn y dyfodol agos.

FFYNNON FIHANGEL, CILCAIN: (SJ1765) Mae Cilcain yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Cafwyd trafodaeth gyda rheolwr y ganolfan yn Loggerheads sy’n arolygu’r ardal, ac mae ganddo ddiddordeb mewn adfer y ffynnon gyda chydweithrediad archaeolegydd proffesiynol sydd wedi cloddio yn Ffynnon Degla yn Llandegla (SJ1952). Gobeithio y gallwn adfer ffynhonnau ym mhlwyf Llanarmon yn Iâl hefyd gyda chymorth y tîm yma.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

EIN GWEFAN....EIN GWEFAN...EIN GWEFAN...

Ydych chi wedi edrych ar ein gwefan eto? Ewch at www.FfynhonnauCymru.org.uk
ac fe gewch wledd! Mae tipyn o waith i’w wneud eto. Diolch i Dennis Roberts, Y Felinheli, am ei ymdrechion diflino i ddwyn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i sylw’r cyhoedd.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 GWYRTHIAU GWENFREWI

Eirlys Gruffydd  

Y Santes Gwenfrewi fel y'i darlunnir mewn ffenestr liw yn eglwys Llandyrnog, Dyffryn Clwyd.

Mae pobl wedi bod yn cyrchu at Ffynnon Gwenfrewi yn Nhreffynnon (SJ185763) ers cannoedd o flynyddoedd, a llawer wedi derbyn gwellhad wrth gerdded drwy’r dyfroedd neu wrth yfed y dŵr.  Hyd yn oed heddiw, pan fo gennym eli at lawer clwyf, mae rhai achosion na all meddygaeth fodern eu gwella, ac mae pobl eto'n troi at ddyfroedd rinweddol y ffynnon hon. Dyma hanes rhai o wyrthiau Gwenfrewi.

Bu’r flwyddyn 1894 yn un eithriadol yn hanes y ffynnon. Rhwng dechrau Mai a diwedd Hydref - y tymor pan fyddai’r tyrfaoedd yn ymweld â’r ffynnon- cawn hanesion yn y papurau newydd am amryw yn cael iachad yno. Diddorol yw sylwi mai o Sir Gaerhirfryn y deuai’r ymwelwyr, a bod nifer o’r rhai a iachawyd yn Babyddion. Yn y County Herald am Fai 18ed cawn hanes adfer lleferydd Alice Woods, merch ifanc o Preston oedd yn fud ers dwy flynedd. Cafodd wellhad ar yr union adeg y cerddodd i ddyfroedd y ffynnon. Roedd wedi gwario llawer o arian ar feddygon, ond i ddim pwrpas. Bu yn yr ysbyty yn Preston am chwech wythnos, ac yn derbyn triniaeth dyddiol. Roedd y driniaeth yn un boenus gan y rhoddid sioc drydanol bwerus i’w thafod, taflod ei genau a phob un o’i dannedd. Yn ôl y papur roedd dyfroedd y ffynnon wedi bod yn fwy effeithiol na holl ddyfeisiadau’r meddygon.

Ar Fehefin 8fed arweiniwyd gwraig ddall at y ffynnon. Golchodd ei llygaid yn y dŵr a chusanodd grair y santes a roddwyd i gyffwrdd a’i gwefusau gan yr offeiriad. Toc rhyfeddodd pawb wrth ei chlywed yn dweud ei bod yn gallu gweld wyneb yr offeiriad a’r papur oedd ganddo yn ei law. Cyn mynd adref gallai ddarllen y print mân ar ei thocyn tren. Dywedwyd fod y wraig wedi bod yn ddall ers sawl blwyddyn oherwydd pilen ar ei llygad. Roedd wedi derbyn triniaeth lawfeddygol yn y Liverpool Eye Infirmary ar fwy nag un achlysur, ond heb lwyddiant.

Yn rhifyn Mehefin 29ain o’r papur cawn hanes dyn o Fanceinion a fu'n dioddef gan  tyfiant ar ei dafod, a’r meddygon wedi dweud wrtho y byddai’n rhaid torri ei dafod allan i gael gwared o’r cancr. Aeth i’r dŵr yn y ffynnon ar fore Sadwrn, a’r eiliad honno daeth llifeiriant o waed o’i geg. Ar ôl hynny gallai fwyta bwyd fel pawb arall a siarad yn glir- pethau nad oedd wedi gallu eu gwneud ers tro byd.Yn ystod mis Awst bu cymaint o gyrchu at y ffynnon nes nad oedd modd cael llety yn y dref. Yn rhifyn Awst 10fed o’r County Herald cawn hanes am Miss Taylor o Wigan oedd wedi bod yn dioddef o hernia- torlengid- ers rhai blynyddoedd. Aeth i ddyfroedd y ffynnon ar y Sul, a theimlo fel pe bai’r rhan boenus o’i chorff ar dân. Wedi dod allan o’r dŵr dywedodd ei bod yn teimlo’n gryf ac yn iach.

Roedd cannoedd o ymwelwyr wedi dod at y ffynnon ar y dydd Mawrth canlynol i weddio ac addoli. Yng nghanol y defosiwn digwyddodd gwyrth arall. Roedd Christopher Kilbridie o 23 Pit St , Rock Ferry wedi bod yn ddall yn ei lygaid dde am un mlynedd ar ddeg, ac wrthi'n golchi ei lygaid yn nŵr y ffynnon pan adferwyd ei olwg. Ar yr un diwrnod, bu James Allen o 57 Myrtle Buildings, Wood St, Penbedw yn golchi ei lygaid yn y ffynnon. Roedd wedi colli ei olwg ers y Nadolig, ac wedi cael triniaeth yn ofer gan dri meddyg. Bu’n rhoi dŵr y ffynnon ar ei lygaid yn fodd adfer ei olwg. Drannoeth roedd nifer fawr o ymwelwyr o Formby wedi dod am drip at y ffynnon, ac yn eu plith ferch a fu'n fyddar ers deng mlynedd o ganlyniad i’r dwymyn coch- y scarlet fever. Wedi iddi fynd i’r ffynnon gallai glywed unwaith eto.

Ar ddiwrnod olaf Awst daeth gwraig o Leeds i’r ffynnon. Roedd wedi colli defnydd ei braich chwith ac wedi cael triniaeth lawfeddygol arni, ond yn ofer. Wedi bod yn y ffynnon gallai symud ei braich a’i defnyddio fel cynt. Mewn achos arall, cawn hanes am un Rose Anne Duffy o Newcastle , oedd wedi  dioddef gan wendid yn ei chlun am bum mlynedd, ac wrth ei baglau ers teirmlwydd. Roedd meddygon yn yr ysbyty yn Newcastle wedi methu â’i gwella, ac wedi dweud wrthi nad oedd dim y gallent ei wneud i’w chynorthwyo. Cafodd wellhad y tro cyntaf yr aeth i’r dŵr, a gallai gerdded o’r ffynnon heb gymorth ei baglau.

Yn y papur am Fedi y 7fed cawn wybodaeth am Miss Sarah Murphy o Stubbles ger Rambsbottom. Roedd wedi dioddef gan y cancr ers y Nadolig cynt, ac wedi cael gwybod gan nifer o feddygon nad oedd modd iddynt ei gwella os nad oedd yn barod i wynebu triniaeth fawr yn yr ysbyty Brenhinol ym Manceinion. Nid oedd sicrwydd y byddai’r driniaeth yn llwyddiannus, fodd bynnag. Penderfynodd fynd i Dreffynnon i geisio gwellhad. Aeth i’r dŵr am y tro cyntaf ar Awst 21ain, a nifer o weithiau wedyn:  a phan adawodd  am adref, roedd yn temlo’n  gryf ac iach ac mewn hwyliau da.  Yn rhifyn Medi’r 14eg cawn hanes am griw o bobl yn dod i Dreffynnon o eglwys Gatholig yr Holl Eneidiau yn Collinswood Rd , Lerpwl. Yn eu plith roeddd dyn dall y dywedir iddo dderbyn ei olwg ar ôl golchi ei lygaid yn y ffynnon.

Yn y rhifyn nesaf o’r papur a ymddangosodd ar Fedi’r 21ain, croniclir hanes dyn o’r enw William Harris oedd wedi mynd i swyddfa’r County Herald i ddweud wrthynt ei fod wedi cael iachad yn y ffynnon. Roedd ei goes dde wedi ei pharlysu ers dwy flynedd. Wedi iddo fod yn y dŵr dair gwaith adferwyd iddo ddefnydd ei goes. Oherwydd hynny gallai nawr ennill ei fywoliaeth, lle nad oedd wedi gallu gweithio cynt.  Roedd yn llawen iawn wrth ddweud yr hanes wrthynt, gan ddiolch i Dduw am ei iachad. Yn rhifyn Medi 28ain cawn hanes am dyrfaoedd o Lerpwl, Manceinion a Wigan , wyth gant i gyd, yn cyrchu at y ffynnon. Roedd nifer ohonynt yn dod o’r Liverpool Catholic Blind Asylum ac yn ei plith roedd merch ifanc a gafodd ei golwg ar ôl bod yn y ffynnon.

Er bod y cyfnod ymweld â’r ffynnon yn dirwyn i ben am y flwyddyn, cafwyd adroddiad am un arall yn derbyn iachad yn y ffynnon, yn rhifyn Hydref 26 y papur. William Lewis oedd ei enw, ac roedd yn byw yn rhif deg, David St , yn Warrington . Roedd yn 41 oed ac yn ddyn cydnerth, ond bod ôl dioddefaint ar ei wyneb. Roedd wedi cael stroc ysgafn un mlynedd ar ddeg yng nghynt: roedd ei goes a’i fraich dde wedi eu heffeithio, ac ni fedrai wneud gwaith trwm ers hynny. Bu’n gwerthu llaeth am gyfnod, ond yna gwaethygodd ei gyflwr. Ni allai weithio, a phrin y gallai gerdded o gwbl. Effeithiwyd ar ei leferydd. Bu am gyfnod yn Ysbyty Brenhinol Manceinion ac yna mewn cartref nyrsio yn Cheadle, ac roedd rhywfaint yn well. Yna dwy flynedd yn ôl bu rhaid iddo fynd i’r tloty am na allai ofalu amdanoi’i hun. Penderfynodd ymweld â Threffynnon. Cafodd gryn drafferth i gerdded o’r tren i’r llety, a syrthiodd dair gwaith ar y ffordd.  Bu yn nŵr y ffynnon chwech o weithiau, ac wedi hynny roedd y nerth wedi dychwelyd i’w goes a’i fraich, a gallai siarad yn fwy eglur. Bellach gallai gerdded heb ffon.

O’r Liverpool Daily Post am Awst 17eg 1894 y daw’r hanes canlynol. Roedd Joseph Egan o 76 Claughton St, St Helens, ond yn wreiddiol o Athlone yn Iwerddon, wedi cael iachad yn Ffynnon Gwenfrewi yn ystod mis Gorffennaf 1894. Pan yn fachgen ifanc yn ei famwlad roedd wedi torri ei lengid wrth weithio ar y tir, ac wedi gorfod gwisgo truss neu gwasgrwym byth ers hynny. Daeth i Preston yn 1839 ac yna i St Helens , lle cafod gryn sylw gan y meddygon. Roeddynt wedi ei anfon i Fanceinion i gael truss gan arbenigwyr yn y fan honno, ond roedd y teclyn hwnnw yn boenus ac anifyr. Daeth i Dreffynnon i aros am gyfnod o ddeg diwrnod, a mynd i’r ffynnon bob dydd. Wrth fynd i’r dŵr byddai’n gweddio am wellhad. Teimlai’n gryfach bob dydd. Aeth adref ar Orffennaf yr 28ain, a dau ddiwrnod yn ddiweddarach tynnodd y truss ac nid oedd wedi ei wisgo ers hynny. Gallai godi pwysau a gweithio’n gorfforol galed heb unrhyw boen na thrafferth. Roedd wedi mynd i Dreffynnon ar ôl darllen am y ffynnon, gan nad oedd help arall i’w gael. Roedd yn Babydd a chanddo ffydd yn y gweddiau, a hoffai pe bai eraill yn cael gwybod am effeithiolrwydd y dyfroedd. Tystiodd meddyg oedd yn ei adnabod yn dda nad oedd wedi gweld dyn o oed Mr Egan yn gwella o dorlengid erioed o’r blaen.

Ar ddiwedd y tymor ymwelwyr mae’r County Herald ddechrau Tachwedd 1894 yn cynnwys hanes iachad anhygoel a welwyd gan nifer fawr o dystion. Enw’r claf oedd Miss Mary Ann Foley a’i chyfeiriad 101 Merton Road , Bootle . Roedd yn 46 oed ac arferai weithio yn shop ddillad cwmni Frisk Dyke yn Lerpwl. Am bum mlynedd roedd wedi bod yn analluog i symud ac yn treulio cyfnodau mewn ysbyty yn Lerpwl, lle dywedwyd wrthi bod asgwrn ei chefn wedi crymu o dan effaith arthritis ac nad oedd dim y galai’r meddygon ei wneud i liniaru ei phoen. Clywodd am Ffynnon Gwenfrewi a’r gwyrthiau iachaol oedd wedi digwydd yno, a phenderfynodd wneud y daith anodd i’r dref. Cyrhaeddodd westy’r King’s Head mewn cyflwr truenus ar nos Lun, a bu rhai ei chludo i’w hystafell. Aed â hi ym mws y gwesty at y ffynnon fore Mawrth, a’i chludo i’r baddon. Cafodd ei gollwng i’r baddon hirsgwar yn yr awyr agored i ddechrau, ac yna yn y baddon dan do lle mae’r dŵr yn byrlymu o’r ddaear. Dywedodd wedyn iddi deimlo fel pe bai ei holl esgyrn yn llosgi wrth iddi fynd i’r dŵr, gallai glywed rhywun gerllaw yn gweddio, ac roedd yn teimlo fel pe bai mewn byd arall. Pan  aeth pobl ati i’w chodi o’r ffynnon gwrthododd eu cymorth gan ddweud y allai gerdded ei hun. Dringodd heb gymorth i fyny’r grisiau o’r ffynnon i’r ystafell newid lle gallodd wisgo dillad sych heb gymorth, yna cerddodd bob cam i fyny’r allt serth o’r ffynnon yn ôl i’r gwesty er mawr syndod i bawb. Cytunodd pawb fod ei hadferiad yn un o’r ddigwyddiadau mwyaf rhyfeddol y buont yn dystion iddo.

Rhag ofn eich bod yn meddwl mai pethau a ddigwyddodd dros ganrif yn ôl yw gwyrthiau Gwenfrewi, clywch dystiolaeth dau sy’n fyw ar hyn o bryd, dau rwyf wedi eu gweld a siarad efo nhw. Yn y rhifyn o’r Chester Chronicle a gyhoeddwyd ar Orffennaf 21ain, 1995 mae llun o Tristan Grey Hulse. Mae’n arbenigwr ar Ffynnon Gwenfrewi ac mae ganddo diddordeb mawr mewn ffynhonnau yn gyffredinol. Byddaf yn ei weld yn achlysurol yn y cyfarfodydd i geisio adfer safle Fynnon Feuno yn Nhreffynnon. Pan y blentyn arferai ei nain fynd ag ef i weld Ffynnon San Steffan yn y goedwig yn Utkinton ger Tarporley. Mae’n Babydd, ac fel glaslanc ymunodd â’r dyrfa oedd yn ymweld â Threffynnon un haf i ddathlu dydd  gŵyl y santes. Wedi rhai blynyddoedd aeth i aros gyda mynachod urdd yr Ieseuwyr, ac un diwrnod wrth gywain gwair llithrodd a throi ei gefn yn ddrwg. Wedi cyfnod gadawodd y fynachlog a gwaethygodd ei gyflwr, gan bod arthritis wedi gafael yn asgwrn ei gefn. Aeth i Dreffynnon ar ddydd gŵyl y santes. Cafodd gryn drafferth i gerdded i fyny’r bryn i’r ffynnon o’r orsaf rheilffordd yn y Maesglas. Cerddodd i mewn i’r dŵr yna goleuodd gannwyll a gweddio. Ymhen chwech wythnos deffrodd un bore heb boen o gwbl ac felly mae wedi bod ers hynny. Dywedodd yr hanes yma wrthyf y tro cyntaf i ni sgwrsio ar y ffôn.

Yn  rhifyn Tachwedd y pumed, 1996 y Chester Chronicle cawn hanes rhyfeddol Lolita L’Aiguille oedd yn  Babydd 46 oed ac yn dod o Lundain.  Doedd hi erioed wedi clywed am Dreffynnon. Roedd ganddi lid yn ei chlun a byddai’n byw mewn poen beunydd fel pe bai rhywbeth yn llosgi’n barhaus yn ei hochr. Roedd yn ei chael hi’n anodd i wneud y pethau mwyaf syml, fel gwisgo ei sannau am ei thraed. Un noson cafodd freuddwyd ei bod yn teithio drwy dirwedd ddieithr, ond ni feddyliodd mwy am y peth. Ymhen ychydig amser aeth hi a’i chwaer am daith benwythnos i ogledd Cymru, ac wrth deithio sylweddolodd  Lolita mai dyma’r union ardal a welodd yn ei breuddwyd. Pan gyrhaeddodd Dreffynnon aeth yn syth at y ffynnon a cherdded i mewn i’r dŵr gan weddio am gymorth i leihau’r boen. Aeth i’r ffynnon y ddau ddiwrnod dilynol, ac yn raddol sylweddolodd fod y teimlad llosg yn ei hesgyrn yn lleihau. Pan gyrhaeddodd adref i Lundain ar ôl y penwythnos, roedd y boen wedi diflannu’n gyfangwbl. Aeth i weld y meddyg, ac ni allai hwnnw gredu’r hanes nes iddi ddangos iddo ei bod yn gallu symud yn ystwydd heb boen yn y byd. Dywedodd y meddyg wrthi nad oedd bosib i’w chyflwr fod wedi newid mewn modd mor ddramatig dros un penwythnos, ond ni allai wadu tysiolaeth ei lygaid ei hun. Ysgrifennodd ar ei nodiadau meddygol” Gwellwyd gan y Santes Gwenfrewi”. Os ewch at y ffynnon heddiw, cewch gwrdd â Lolita. Hi sy’n gofalu am y siop a’r swyddfa tocynnau gweld y ffynnon. Dywedwch beth a fynnoch – does yr un  ffynnon arall yn debyg i hon yng Nghymru- hon yw brenhines ein ffynhonnau, ein Lourdes ni.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

COLLI AELOD

Gyda thristwch nodwn i  Mr William Meurig Jones, Awelon, Muriau Cricieth farw ar Orffennaf 17eg yn 96 mlwydd oed.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

CROESO I AELOD NEWYDD

Bronwen Thomas, Llantrisant.

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

OEDDECH CHI’N ADNABOD Y FFYNHONNAU YN Y RHIFYN OLAF

DYMA NHW!

FFYNNON FAIR, NEFYN,  LLŶN    a      FFYNNON  BODELWYDDAN, SIR DDINBYCH

(SH 3040)                                                (SJ0075)

Cafwyd ateb cywir i Ffynnon Fair gan Robin ac Olwen Griffith, Caerdydd.

Meirick Ll. Davies, Cefn Meiriadog, Abergele oedd wedi adnabod Ffynnon Bodelwyddan.

DA IAWN CHI

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

NAWR BLE MAE’R  FFYNNON HON, TYBED?  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

GOLYGYDD: Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.CH7 1TH.  01352 754458  gruffyddargel@talktalk.net

Is-olygydd: Esyllt Nest Roberts de Lewis: esylltnest@yahoo.co.uk

Cyhoeddir LLYGAD Y FFYNNON  gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU

Argreffir gan EWS COLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.  

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff

 Home Up