LLYGAD Y FFYNNON
Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
Rhif 22 – Haf 2007
Eleni mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir y Fflint. Wrth i deithwyr gyrraedd Treffynnon gwelant ar yr arwydd fod cyfeiriad at y dref fel Lourdes Cymru. Yma mae ffynnon sydd wedi goroesi’r Diwygiad Protestannaidd ac sy’n dal i fod yn gyrchfan i bererinion. Mae llawer yn tystio i rinwedd ei dŵr hyd heddiw. Does ryfedd iddi gael ei henwi’n un o saith rhyfeddod Cymru, yn enwedig o gofio fod ei bwrlwm wedi troi melinau oedd yn rhoi pwer i’r ffatrïoedd yn nyffryn Maes Glas. Os cewch gyfle yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ymweld â Threffynnon fe welwch frenhines ffynhonnau Cymru. Cewch hefyd flas ar ddylanwad y ffynhonnau ar y werin mewn gwlad Babyddol ble’r oedd cwlt y seintiau yn rhan hanfodol o addoliad y bobl. Os hoffech wybod mwy am Ffynnon Gwenfrewi a ffynhonnau eraill y sir, dewch i Babell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod am dri o’r gloch brynhawn Mercher, Awst yr 8fed. Bydd sgwrs ar y testun yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru.
Yn ne Cymru mae cymdeithas Wellsprings wedi bod yn weithgar iawn yn ddiweddar. Rydym yn anfon ein cylchlythyron at ein gilydd ac mae gennym unigolion sy’n aelodau o’r ddwy gymdeithas. Maent wedi mynd ati gyda chaib a rhaw – yn llythrennol – i adfer ffynhonnau. Rydym ninnau’n ceisio cael pobl i weithredu yn eu cymunedau gan ein bod yn credu fod hon yn ffordd fwy effeithiol a pharhaol o warchod ein ffynhonnau – ac nid oes gennym lawer o aelodau ifanc, brwdfrydig sy’n barod i gloddio a glanhau ffynhonnau! Beth bynnag yw’r dull a ddefnyddir mae’r gwaith o godi ymwybyddiaeth a gwarchod yr agwedd hon o’n treftadaeth yn bwysig eithriadol.
Yng nghylchlythyr Wellsprings – The Eye in the Landscape – ceir gwybodaeth am nifer o ffynhonnau. Mae sawl cymdeithas wedi dod at ei gilydd i warchod a datblygu safle Ffynnon y Santes Anne, neu’r Ffynnon Rinweddol yn Nhrelech, Mynwy. Yno mae nifer o ffrydiau’n tarddu oddi mewn i furiau ar siâp pedol ac yn llifo i faddon y ffynnon. Mae’r ffynnon wedi bodoli ar ei ffurf bresennol er 1689. Yn ffodus mae’r gymuned leol wedi sylweddoli gwerth y ffynnon ac maent wedi creu llwybr o ganol y pentref gan godi pont dros nant i hwyluso’r ffordd ati. Gosodwyd peipiau er mwyn sychu’r safle ac i gario’r dŵr oedd yn goferu o’r ffynnon i greu dau lyn a fydd yn denu bywyd gwyllt.
Nodwyd gyda thristwch fod Ffynnon y Priordy, Aberhonddu wedi cael ei fandaleiddio. Rhoddai’r ffynnon hon ddŵr i’r priordy gerllaw am ganrifoedd. Hawdd oedd llenwi piser o dan y pistyll ers talwm. Gwelwyd fod cerrig wedi eu tynnu o dan y pistyll a hynny wedi peri i’r dŵr lifo i waelod y baddon.
Bu’r gymdeithas yn brysur yn glanhau Ffynnon Maen Du ar gyrion Aberhonddu ym mis Rhagfyr, a hynny ar ddiwrnod gwyntog a glawog. Cliriwyd sbwriel ohoni a glanhawyd y sianel a’r pwll ble mae dŵr y ffynnon yn cronni.
Da iawn yw clywed bod grŵp wedi dechrau gweithio yn ardal Llangeler, sir Gaerfyrddin, i chwilio am naw o ffynhonnau yn yr ardal. Eleni mae cymdeithas Wellsprings yn dathlu ei degfed pen-blwydd. Sefydlwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru rhyw flwyddyn ynghynt yn 1996. Fel ag a nodwyd eisoes, mae rhai o’n haelodau yn perthyn i’r ddwy gymdeithas ac mae un aelod, Christopher Naish, yn cyfieithu Llygad y Ffynnon ar gyfer aelodau Wellsprings. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn Ffynnon Capel Begewdin a Ffynnon Capel Herbach yn ardal Porth-y-rhyd, nid nepell o’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne. Da yw gweld fod gan y cyhoedd lawer mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y ffynhonnau erbyn hyn ac felly mae mwy o obaith i’w diogelu a’u hadfer.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Mae Edward Bayliss o sir Fynwy wedi ffurfio Ymddiriedolaeth y Pentref Byw i adfer hen adeiladau mewn pentrefi. Un enghraifft wych o’r gwaith yw’r modd yr adferwyd yr adeilad dros Ffynnon New Inn yn Cross Ash. Mae’r adeilad yn dyddio o’r ddeunawfed ganrif ac mae’n adeilad cofrestredig Gradd II.
Ar un adeg roedd ffermdy New Inn yn fan i deithwyr y goets fawr gael aros ar y briffordd rhwng Mynwy a’r Fenni. Mae’n debyg bod adeilad ar y safle ers pum can mlynedd. Yn 1954 prynwyd y fferm a thafarn y New Inn gan rieni’r perchennog presennol. O’r ffynnon y deuai dŵr ar gyfer y dafarn a’r fferm. Caeodd y dafarn yn 1955 a chanolbwyntiodd y teulu ar ffermio. Y ffynnon oedd eu hunig ffynhonnell ddŵr tan i ddŵr tap gyrraedd yn y saithdegau. Erbyn hynny roedd yr adeilad dros y ffynnon tua dau gant oed ac yn fregus. Roedd y dŵr croyw o’r ffynnon yn llifo allan drwy’r muriau a dŵr budur yn llifo i mewn o’r pridd o’i chwmpas. Tyfodd chwyn a drain dros yr adeilad a dechreuodd simsanu a syrthiodd y wal flaen. Wrth i hyn ddigwydd datguddiwyd adeiladwaith y ffynnon. Oddi mewn mesurai dri a hanner metr wrth dri pwynt dau fetr ac mae dros ddau fetr o’r waliau islaw lefel y tir yng nghefn yr adeilad. Roedd y dŵr yn un a hanner metr o ddyfnder a baddon y ffynnon yn dal 3,700 galwyn o ddŵr. Adeiladwyd y muriau o garreg dywodfaen goch leol ac fe ddefynddiwyd mortar calch i ddal y cerrig yn eu lle. Mae’r to, sydd ar ffurf triongl, wedi ei wneud o gerrig. Wrth adnewyddu’r adeilad daethpwyd o hyd i garreg a chroes wedi ei cherfio arni ac fe’i rhoddwyd yn ôl mewn agen yn y mur islaw crib y to. Mae traddodiad lleol fod dŵr y ffynnon yn rhinweddol ac mae’n bosib fod hon wedi bod yn ffynnon a gysegrwyd i sant yn y gorffennol ond nad yw’r traddodiad hwnnw wedi goroesi. Mae ei hadeiladwaith yn debyg i Ffynnon Maen Du, Aberhonddu (gweler uchod). Camp fawr oedd ei hadfer ac wrth wneud hynny dysgwyd llawer am ddulliau adeiladu’r gorffennol a fydd o gymorth wrth adnewyddu ffynhonnau yn y dyfodol.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Mae cyflenwad digonol o ddŵr yfed glân ym mhob cartref erbyn hyn. Nid felly’r oedd hi ers talwm. Mewn mwy nag un gyfrol o atgofion am y dyddiau a fu ceir cyfeiriad at y gwaith anodd o dyllu ffynnon er mwyn cael dŵr yfed. Dyma gofnod o sut y gwnaed hynny o gyfrol ddifyr T. J. Davies, Pencawna:
Bedyddiwyd hwn ag enw priodol, canys yma a thraw ar ei hyd roedd ffynhonnau’n tarddu ac yn driflo eu chwydiant ar hyd y cae. Ar adegau o sychder roedd y rhain yn fendithiol; pan chwipiai gwynt y dwyrain yn ystod Mawrth ac Ebrill, a phobman yn sych fel corcyn, gwelech y defaid yn mynd ribi-di-res i wlychu eu gweflau yn y llygaid hyn. Ond at ei gilydd, trafferth oeddynt. Suddai’r beindyr ynddynt wrth dorri llafur, âi’r ceffylau hyd at eu garrau, a cheisio eu hosgoi oedd ore.
Daeth yn adeg cael dŵr at y tŷ, a pha le gwell na Chae Ffynhonnau Bach. Ond yn rhyfedd, ’dyw presenoldeb llygaid gwlybion ddim yn warant for cyflenwad o ddŵr yno. Fe all fod yn ddŵr wyneb, a sychu cyn pen fawr o dro. Er mwyn dod o hyd i ddigon o ddŵr, gwahoddwyd Dai Morgan, Felin-fawr, Cwmrheidol, lan; medrai e ddweud ymhle y ceid digonedd ohono. Daeth rhyw ddiwrnod, a’r peth cynta’ a wnaeth oedd mynd i’r shetin a thorri fforch gollen. Naddodd y mân ganghennau oddi arni a doedd dim ond y fforch â phig iddi, pig fain naddedig, yn ei law. Dyma fe’n dechrau cerdded yn seremonïol, fel pe bai mewn perlewyg, ei gorff yn y fforch a’i phig yn pwyntio at y ddaear. Ymhen tipyn dyma’r fforch yn dechrau symud, yntau’n cydio’n y fforch â’i holl nerth, ond er cryfed oedd, ni fedrai atal y fforch rhag mynd o’i law a thynnu tua’r ddaear. Heb os ’roedd yno ddigon o ddŵr. Triodd amryw o fannau eraill, ond dod yn ôl i’r un fan a wnâi o hyd; câi ymateb cryfach yno. Dyna’r tro cynta’ i mi weld y chwiliwr dŵr wrth ei waith, y water diviner. Dywedir fod y ddawn o chwilio am ddŵr yn gynneddf yn rhai, mewn ’chydig mae’n wir. Wel ’roedd hi gan hwn. Oherwydd derbyniwyd e ar ei air. Pwy fyddai yn amau gair gŵr fel ’ny? A chloddiwyd y pydew yno, a chyn inni fynd i lawr wyth i ddeg troedfedd, saethai’r dŵr i’r twll, ac yr oedd hi’n gymaint ag a fedrai rhywun ei wneud i wagio’r pydew tra cloddiai’r lleill. Roedd sbel fach o ffordd i fynd â’r dŵr at y tŷ ond naddwyd cwter, gosodwyd pibau, cafwyd cafan yng Nghae Talcen tŷ, cafn helaeth ar y ffald, i ddyfrhau’r anifieliaid, a chwpwl o dapiau i’r tŷ. Hyd y dydd hwn, deil y dŵr a ddarganfuwyd gan ŵr y fforch gollen i borthi dyn ac anifail. Ni phaid mwy holl ddyddiau’r ddaear, greda’ i, oddieithr bod sychder anghyffredin.
Cawn hanes cyffelyb yn y darn canlynol o’r gyfrol Fa’ma a Fan’cw gan Ifan ’Refail:
Lle
sych iawn oedd Tirgwyn; roedd rhaid cario dŵr o bell o ffynnon a oedd ar
gwr y gors sydd cyd-rhwng Tu- hwnt-i’r-gors a Thirgwyn, ac roedd tir serth
iawn o’r ffynnon i fyny at y tŷ. Roedd Owen Evans yn ddewin dŵr.
Gallai ddod o hyd i ffynhonnell wrth ddefnyddio’r pren helyg. Roedd wedi
llwyddo i ddarganfod dŵr mewn amryw o leoedd, yn ôl y galw am ei
wasanaeth. Pan ddaeth Tomos Roberts, Rhos-y-foel yno rhyw brynhawn roedd Owen
a’r mab Evan wedi dechrau turio yn y cae o flaen y tŷ – wedi bod yno
efo’r pren a hwnnw’n dangos bod yno ddŵr. sôn am dyllu fu yno a Tomos
Roberts yn eu helpu bob cyfle gai o – tyllu mor ddwfn nes bod angen rhoi coed
a chylcha’r trolia i ddal yr ochr rhag cwympo. Andros o waith fu codi’r
pridd o’r twll efo bwcedi a gweithio am ddyddiau cyn gweld golwgo ddŵr.
Roedd Owen yn benderfynol fod ’na ddŵr yno , ac wedi tyllu i ddyfnder,
dyma ddod i leithder a fuo nhw ddim yn hir wedyn nes gweld dŵr yn dechrau
byrlymu. Roedd yn rhaid adeiladu y tu mewn i’r shafft ac fe brynwyd cerrig sgwâr
gyda thwll crwn yn eu canol, sef cerrig wedi tynnu rowlars ohonyn nhw, o chwarel
Trefor, a’r rheiny’n gerrig ag andros o bwysa ynddyn nhw. Caed lori a
cheffylau o Hendre Bach at Star, caseg Tirgwyn, a’u cario nhw felly adra o
Drefor. Roedd ’na hen geffyla’ cryf yn Hendre Bach, wedi arfer llusgo coed
mawr i lawr ac i fyny gelltydd.
Fe ddaeth William Jones, Tŷ
Capel, Mynydd Nefyn i Dirgwyn a thorri dau dwll bach, cwta fodfedd o ddyfnder ar
ochr pob carreg yn union gyferbyn â’i gilydd, ac fe roed clampiau heyrn yn y
tyllau yma i ollwng y cerrig i lawr. Fe gafwyd peth anhawster i gael clampiau i
ollwng gafael ar ôl cael y garreg gyntaf i lawr gan fod y weiar rôp yn hir
iawn, ac nid oedd modd ysgwyd y clampiau i ffwrdd. Ond fe lwyddwyd, a wir i chi
pan oedd yr ail garreg yn cael ei chychwyn i lawr i’r hen dwll mawr hwnnw,
dyma Owen Evans yn neidio arni gan roi troed o bobtu’r twll oedd yn y garreg,
a mynd i lawr efo hi felly. Yna, dadfachu’r garreg yn y gwaelod, rhoi troed
ymhob un o’r clampiau a chael ei dynnu i fyny i’r wyneb gan y dynion oedd yn
helpu. Felly y gwnaed â phob carreg, a phan orffenwyd roedd y gwaith yn
berffaith blwm, a phetae chi’n edrych i lawr roedd yn union fel ’taech yn
edrych drwy faril gwn! A’r syndod mawr roedd yn un llath ar bymtheg o ddyfnder
o ben y garreg ucha i waelod y shaft! Rwy’n siwr pe tae ’na swyddog
diogelwch o gwmpas ’radag honno y basa’r tri dyn bach, Owen Evans, Tomos
Roberts a William Jones yn cael eu rhoi mewn seilam am fentro gwneud ffasiwn
beth! Bu’r hen shafft yn gaffaeliad mawr i deulu Tirgwyn. Galwodd Griffith
Jones, Cae Newydd, Llithfaen (Pencaenewydd bellach), y shiafft yn ‘masterpiece’
pan alwodd o yno ryw dro ymhen blynyddoedd, a wir dyna oedd hi. Ond bellach fe
ddaeth dŵr Cwmstrallyn – bendith fawr i bawb. Y cyfan sydd angen ei wneud
bellach yw troi tap a thalu treth y dŵr!
Dyma ddarn arall sy’n pwysleisio pwysigrwydd cyflenwad cyson o ddŵr i’n cyndadau, o’r gyfrol Ffa’r Corsydd gan W. J. Thomas:
Wrth fwrw golwg yn ôl, sylweddola dyn mor hynod o bwysig fu afonydd a ffrydiau dyfroedd yn hanes a helynt dynoliaeth drwy’r canrifoedd. Peth gwerthfawr ym mhob fferm a thyddyn oedd bod digonedd o ddyfroedd yn llifo trwyddynt. Cofiaf adeg pan elwid am wasanaeth dewin dŵr i geisio taro ar ffynnon mewn darn o dir sych a chaled, a byddai yntau’n dyfod i gerdded y meysydd gyda gwialen gollen neu fedwen yn ei law, ac yn ôl pob hanes, byddai’n debyg o lwyddo pan ddechreuai’r wialen grynu a siglo. Pwysig i bob bwthyn a phenty oedd bod ffynnon neu bistyll o ddwfr heb fod ymhell. Cofiaf, fel y byddem ni’r plant ar fore Sadwrn yn gorfod cyrchu dŵr i bedyll a chelyrnau. Dŵr yfed o’r ffynnon, neu’r pîn, ys dywedem ni, a dŵr ar gyfer golchi ben bore Llun o bistyll nad ystyrid bod ei ddyfroedd yn addas i’w yfed.
Yn Y
Genhinen, Rhif 3, Cyfrol XXXV ceir erthygl gan O. Jones Morris, Gwrach Ynys,
Talsarnau o dan y pennawd ‘O Foel Tecwyn i’r Foel Goediog’. Ar
dudalen 191 mae’n sôn am Ffynnon y Capel, Llanfihangel y Traethau,
Meirionnydd (SH612338):
Ar dir Tyddyn Siôn Wyn mae cae o’r enw Cae Capel ac yng Nghae Capel gwelir ffynnon – un o’r hen ‘Ffynnhonau Sanctaidd’. Rhyw bedair mlynedd yn ôl ymwelais â’r ffynnon a llanwesid hi â graean a phridd fel nas gallaswn ganfod ei dyfnder. Aethom i weld Arglwydd Harlech yn y Glyn a gofyn iddo a fyddai mor garedig â chaniatau i un o’i weision fynd yno a symud pob peth oedd ynddi a’i glanhau. Yn ôl y traddodiad yr oedd rhinwedd neillduol yn y dŵr i wella’r cryd cymalau. Danfonais ddarlun o’r ffynnon i’r Journal am Ebrill 1914 – cyhoeddiad yn perthyn i’r Cambrian Archaeological Association gyda’r manylion hyn: – Hyd y ffynnon – pump troedfedd a dwy fodfedd; ei lled oddi mewn yn agos i bum troedfedd a’i dyfnder yn ddwy droedfedd a thri chwarter. Ar yr ochr ddwyreiniol iddi mae y mur wedi ei gulhau fel y mae yno eisteddle o tua deng modfedd i droedfedd o led. Sicr yw fod yma gapel cyn y Diwygiad – yn amser Harri yr Wythfed; ni welais yr un gair amdano yn unman. Fe allai fod cysylltiad agos rhwng Cae Capel a Ffynnon y Capel.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Cafwyd ymateb i’r erthygl am ffynhonnau sir Ddinbych yn y rhifyn diwethaf o Llygad y Ffynnon. Mae’n bosib y bydd yr wybodaeth yn ymddangos yn Y Bedol, papur bro Rhuthun a’r cylch, gan fod pob un o’r ffynhonnau yn nhalgylch y papur. Byddai hynny’n fodd i greu mwy o ddiddordeb yn ffynhonnau’r fro a hwyrach y cawn fwy o aelodau i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru.
Diolch i Keith T. O’Brien, Swyddog Cynaladwyedd a’r Gymuned ym Mharc Cenedlaethol Eryri, am yr wybodaeth ganlynol am FFYNNON ERWDDWR (SH612338) neu FFYNNON WYDDOR. (Mae’n debyg mai llygriad o ‘Erwddwr’ yw ‘Wyddor’). Dyma sydd gan gyfrol am hanes y fro i’w ddweud amdani:
Ar dir fferm Erwddwfr, Trawsfynydd, mae hen ffynnon, a chredir iddi hynafiaeth a rhin, ond mae’n anhysbys pwy a pha bryd y cafwyd allan ei rhin. Adeiladwyd hi flynyddoedd lawer yn ôl, ac atgyweiriwyd a helaethwyd hi yn ddiweddar. Dywed hen draddodiadau bod rhin yn y ffynnon i wella afiechydon amrywiol, a phriodolid iddi rin cyfriniol. Mae wedi ei hadeiladu ar raddeg fechan er yn foreuol. Adgyweiriwyd a helaethwyd hi gan y diweddar Barchedig Edward Davies, Derfel Gadarn, yr hwn a fu’n trigiannu am gyfnod maith yn Erwddefr ac yn gweinidogaethu i’r Annibynwyr yn yr ardal.
Mae yna Ffynnon Crwclis hefyd ar y ffordd o bentref Trawsfynydd i Frynysguboriau. Yn ôl awdur y gyfrol a ddyfynnir uchod, Ffynnon Crogllys oedd ei henw gwreiddiol gan mai yma yr arferid crogi pobl ers talwm! (A oes rhywun yn gwybod beth yw cyfeirnod map y ffynnon hon?Gol.)
Derbyniwyd
llythyr oddi wrth Gareth Richards, perchennog Ffynnon Cwmwdig ger Berea, tua
phedair milltir i’r gogledd o Dyddewi yn sir Benfro. Yn y gyfrol The Holy
Wells of Wales mae Francis Jones yn dweud fod capel dros y ffynnon a bod
cyfeiriad mewn dogfennau o’r Oesoedd Canol at Eglwys Cwmwdig. Tan yr ail
ganrif ar bymtheg roedd to bwaog dros y ffynnon. Dywedir bod dyn tua naw deg oed
a oedd yn fyw yn 1715 yn cofio gweld drws yn ochr orllewinol y capel; bod gwraig
dduwiol yn mynd at y ffynnon bob dydd Iau i gymryd y dŵr; a bod bwa hardd o
gerrig yn cysgodi’r tarddiad.
Mae’n amlwg felly fod hon yn ffynnon sanctaidd ac mae cyfeiriad ati yng nghyfrol y Comisiwn Brenhinol ar henebion Penfro. Yn ôl Gareth, ‘Mae’r ffynnon mewn cyflwr truenus, fel y gwelwch o’r llun, ac fe hoffwn, yn y dyfodol, ei hailadeiladu. Mae gennyf ychydig wybodaeth ysgrifenedig amdani ond, yn anffodus, dim hen lun o unrhyw fath sy’n dangos ei ffurf gwreiddiol.’ Yr unig gymorth ychwanegol y gallem ei gynnig i Gareth oedd anfon lluniau o ddwy ffynnon arall o sir Benfro iddo – Ffynnon Non, Tyddewi (SM751243) a Ffynnon Gapan, Llanllawer, Cwm Gwaun, (SM987360), gan fod bwa o gerrig dros y ddwy ffynnon yma.
Ddiwedd Mawrth aethom i draddodi darlith am ffynhonnau sir Ddinbych i Gymdeithas Hanes Wrecsam. Soniwyd am Ffynnon Bedr a oedd, yn ôl Francis Jones yn The Holy Wells of Wales, rhyw bedwar cant a hanner llath i’r gogledd-orllewin o Gapel Sant Pedr ger eglwys Trefalun. Ar ddiwedd y ddarlith daeth gwraig o’r enw June Jones i siarad â ni gan ddweud ei bod yn byw yn yr Orsedd (Rossett). Roedd ganddi ddiddordeb mewn chwilio am y ffynnon ac yn fuan wedyn derbyniwyd e-bost ganddi. Roedd wedi darganfod cyfeiriad at Gapel Sant Pedr mewn arolwg tir a wnaed yn 1620. Ym mhlwyf Gresffordd yr oedd y capel a rhyw chwarter milltir o’r adeilad, ger Llindir, roedd Ffynnon Bedr a oedd yn nodedig am ei dŵr bywiol. Nid oes dim ar y map O.S. i ddangos bod ffynnon gerllaw Neuadd Llindir, sydd erbyn hyn yn westy. Aeth June yno a chael nad oedd neb, gan gynnwys y rheolwr, yn gwybod dim am fodolaeth ffynnon ar y tir helaeth sydd o gwmpas y gwesty. Rhoddodd gyfeiriad y cwmni sy’n berchen y gwesty i ni fel y gallwn gysylltu â nhw rhag ofn bod y ffynnon wedi ei nodi ar ddogfennau sydd yn eu meddiant. Gallai edrych ar hen fapiau degwm yr ardal fod o gymorth hefyd. Cawn weld beth a ddaw.
Derbyniwyd llythyr gan Dorothy Ryder Jones o Gemaes ger Machynlleth yn sôn fod aelodau o’r eglwys yn gobeithio creu llwybr o’r fynwent tuag at Ffynnon Tydecho (SM839063) islaw. Buom yn ymweld â’r ffynnon yn y flwyddyn 2000 a chyhoeddwyd yr hanes yn Llygad y Ffynnon. Yn ystod mis Ebrill buom yng Nghemaes ac yn trafod y posibilrwydd o gynnwys y ffynnon fel rhan o lwybr treftadaeth yn yr ardal. Mawr obeithiwn y bydd cyfeillion Cemaes yn llwyddo i ddenu grantiau ar gyfer y prosiect diddorol hwn.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
(Codwyd
yr wybodaeth ganlynol o erthygl gan Tristan Grey Hulse yn y cylchgrawn Living
Springs, Tachwedd 2002)
Nid mannau i gael dŵr yn unig oedd ffynhonnau; byddai cymunedau yn ymweld â nhw wrth gerdded ffiniau’r plwyf yn flynyddol. Wrth i’r arfer hwnnw beidio collwyd lleoliad mwy nag un ffynnon, mae’n siwr. Ambell dro unig arwyddocâd ffynnon oedd ei bod yn nodi’r ffin rhwng un plwyf a’r plwyf nesaf a’i bod yn werthfawr fel tarddiad dŵr glân. Enghraifft o’r math yma o ffynnon yw Ffynnon Fedw, rhyw ddwy filltir i’r gogledd-orllewin o Gaerwys (SJ1272)yn sir y Fflint. Dyma sydd gan Edward Lhuyd i ddweud amdani yn Parochalia:
Ffynnon vedw y Tervyn ar bl[wyf] Dim herchion lhe bydhis ar darlhen yn amser Prosessiwn.
(Ffynnon
Fedw ar derfyn plwyf Tremeirchion lle byddid yn darllen yn amser prosesiwn.)
Ffynnon arall sydd ar y ffin rhwng plwyfi Caerwys a Bodfari yw Ffynnon Mihangel.(SJ124729) Hon yw ffynnon sanctaidd plwyf Caerwys gan fod yr eglwys wedi ei chysegru i Fihangel Sant. Llifa afon Mihangel o’r ffynnon ac yn ôl Lhuyd arferid offrymu pinnau yn y ffynnon fel modd o gael gwared â defaid ar ddwylo. Roedd ei dyfroedd hefyd yn effeithiol ar gyfer cryfhau’r golwg. Roedd pobl yn dal i gyrchu ati yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Arferid mynd at y ffynnon adeg y Pasg ac roedd unwaith gapel bach yn sefyll nid nepell oddi wrthi.
Mae cofnod wedi goroesi sy’n disgrifo llwybr y daith o gwmpas ffiniau bwrdeistref Dinbych. Dechreuwyd cerdded ger ffynnon a elwid yn Ffynnon Ddu ym mhlwyf Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch,(SJ0863) i afon Clwyd, ar hyd nant Aberham (SJ090658) sy’n croesi’r ffordd dyrpeg o Ddinbych i Ruthun. Yna aed ar hyd afon Clwyd tua’r gogledd i’r man ble llifa nant o Ffynnon y Cneifiwr(SJ149685) i’r afon cyn dilyn y nant i’w tharddiad yn y ffynnon. Oddi yno aed i Blas Heaton a fferm o’r enw Hen Blas Heaton, heibio i Garn House i gae oedd gynt yn dir comin yn union y tu ôl i ficerdy Henllan. O’r fan honno aed i felin Henllan (SJ0268)ac oddi yno ar hyd glan afonig Abermeirchion i’w tharddiad yn Ffynnon Meirchion . Yna aed i dŷ o’r enw Leger, ymlaen at dŷ a elwid Fach, i Bandy Ucha a Phandy Isa,( SJ035682) i dŷ o’r enw Pen-y-bryn, oddi yno i hen garreg ffin ar y ffordd o Ddinbych i Nantglyn yn Waen Twm Pi, ac oddi yno i Ffynnon Ddu o’r lle y cychwynnwyd y daith. Gwelwn mai dŵr oedd yn diffinio tua hanner ffiniau’r fwrdeistref.
Hyd y gwyddom nid oes traddodiadau wedi goroesi am Ffynnon Ddu. Mae Ffynnon Meirchion yng Nglan Meirchion a dyma darddiad afon Meirchion sy’n llifo i’r gogledd o bentref Henllan, heibio i Lys Meirchion ar ei ffordd i ymuno ag afon Elwy. Yn ôl rhai gwybodusion, Meirchion oedd hen hen daid Gwenfrewi. Nid oes unrhyw draddodiadau wedi goroesi am Ffynnon y Cneifiwr ond roedd yn fan o bwys i nodi ffin y fwrdeistref. Yn aml bydd ffynhonnau fel hon yn colli eu statws wrth i’r arferiad o gerdded y ffiniau beidio. Hawdd iawn colli lleoliad ac enw ambell ffynnon wrth i gymdeithas anghofio’r hen draddodiadau a oedd mor bwysig i’n tadau gynt.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Fel y gwelsom yn y Pytiau Difyr uchod, roedd gan ein cyndadau eu dulliau eu hunain o ddarganfod dŵr ac ychydig sy’n fyw heddiw a all gofio agor ffynnon ar dir fferm a thyddyn gyda chaib a rhaw. Heb amheuaeth mae’r hinsawdd yn newid a phrinder dŵr yn fygythiad gwirioneddol i’n ffordd wastraffus ni o fyw. Gwyddom fod anifeiliaid, yn enwedig gwartheg, angen llawer o ddŵr i’w yfed bob dydd, ac yn dilyn cyfnodau o sychder mae’r ffermwyr yn gofyn am gymorth dewiniaid dŵr i ddarganfod ffynhonnau ar eu tiroedd. Gall y dŵr yn y graig fod yn gannoedd o droedfeddi o ddyfnder a gall miloedd o alwyni ddod i’r wyneb bob dydd. Nid hawdd yw cael hyd i ddŵr yng nghreigiau Cymru yn ôl yr arbenigwyr, gan fod daeareg ein gwlad yn gymhleth a’r graig yn aml yn anhydraidd. Bydd ambell gwmni sy’n gwneud dim ond gwaith cloddio yn cyflogi dewin dŵr er mwyn eu cynorthwyo i ddod o hyd i gyflenwad digonol mewn man cyfleus. Da gweld nad yw dulliau’r tadau wedi eu llwyr anghofio a bod angen yr elfen ddynol arbenigol arnom hyd yn oed mewn cyfnod technolegol ble mae peiriannau’n rheoli ein bywydau. Mae’n costio rhwng pum mil a deg mil o bunnau i gloddio ffynnon. Tua blwyddyn yn ôl ffurfiwyd cymdeithas dewiniaid dŵr ym Môn er mwyn ateb y galw cynyddol am y math hwn o wasanaeth. Ar ddechrau mis Awst eleni bydd y Gymdeithas Ddewino Dŵr Brydeinig yn ymweld â Pharc Gwledig Loggerheads ger yr Wyddgrug i gerdded ar hyd y tir a darganfod dŵr. Gobeithio’n wir mai o dan y pridd y bydd y dŵr ac nid arno a’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal rhyw ddwy filltir i ffwrdd ar ehangder ac irder Ystrad Alun!
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Mae Ffynnon Gelynnin yn union y tu ôl i fur mynwent yr eglwys ar y chwith wrth fynd i mewn drwy’r giât o’r ffordd. Mae mewn man diarffordd ond arferai mamau gario’u plant gwan i fyny’r ffordd hir a serth at y ffynnon gan obeithio y byddai eu trochi yn y dŵr yn adfer eu hiechyd.
Oddeutu 1898 roedd gŵr o ardal Llangelynnin yn mynd adref yn hwyr un noson a hithau’n ddu fel y fagddu. Wrth basio’r eglwys clywai sŵn o’r ochr arall i wal y fynwent yn y gornel ble mae’r ffynnon. Dychrynodd am ei fywyd a chuddio gan ofni fod bwgan yno. Yna aeth yn ddistaw bach ac edrych dros y mur. Yno gwelodd wraig ifanc yn magu ei baban yn ei breichiau gan sefyll yn y ffynnon a gweddïo’n uchel iddo wella. Aeth y dyn adref ar ei union gan gymaint ei fraw o weld y wraig druan yno yn y tywyllwch. Mae’r hanes hwn yn dangos yn glir cymaint y dibynnai’r werin ar y ffynhonnau a chymaint eu ffydd yn eu dyfroedd.
Arferiad cyffredin arall gan famau oedd dod â dilledyn plentyn gwan a’i osod i arnofio ar wyneb y dŵr er mwyn darogan ei ffawd. Pe suddai nid oedd fawr o obaith am wellhad. Yn ystod yr ugeinfed ganrif aeth prifathro ysgol leol â chriw o blant i weld y ffynnon gan sôn wrthynt am yr hen draddodiadau. Cymerodd arno ei fod yn dad i blentyn gwael yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cariodd y bachgen lleiaf yn yr ysgol at y ffynnon a chymerodd gerpyn i gynrychioli dilledyn y baban gwan. Rhoddodd y cerpyn ar wyneb y dŵr ond suddodd hwnnw bron ar unwaith. Dechreuodd y bachgen feichio crio gan y credai’n siŵr ei fod am farw!
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
I Emrys Evans, Blaenau Ffestiniog ar ddathlu ei benblwydd yn 90 oed yn ddiweddar.
I Esyllt Nest a Christian Lewis, Y Wladfa, ar enedigaeth ei mab Mabon Llywelyn.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
I Howard Huws am deipio allan holl ôl rhifynnau o Llygad y Ffynnon ar gyfer y wefan.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
Daeth yn amser talu tâl aelodaeth unwaith eto. Bydd y Trysorydd Mygedol, Ken Lloyd Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 1TH yn falch iawn o dderbyn taliadau gan yr aelodau nad ydynt yn aelodau am oes nac yn talu drwy archeb banc mor fuan â phosibl, os gwelwch yn dda.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
COFIWCH AM
YM MHABELL Y CYMDEITHASAU
AR FAES YR EISTEDDFOD
PRYNHAWN DYDD MERCHER, AWST 8fed
AM 3
O’R GLOCH
a
sgwrs am FFYNHONNAU SIR Y FFLINT gan Eirlys Gruffydd
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff
GOLYGYDD:
Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH. 01352
754458.gruffydd@argel.wanadoo.co.uk
Is-Olygydd:
Esyllt Nest Roberts de Lewis – esylltnest@yahoo.co.uk
Cyhoeddir
LLYGAD Y FFYNNON gan GYMDEITHAS FFYNHONNAU CYMRU
Argreffir gan EWSCOLOUR PRINT, Stad Ddiwydiannol Pinfold, Bwcle, Sir y Fflint.
cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcff